Arwain Abertawe - Mawrth 2016

Page 1

Arwain Abertawe Papur newydd Dinas a Sir Abertawe

Rhifyn 102

Mawrth 2016

tu mewn

Sut mae'ch Treth y Cyngor yn ein helpu i gyflwyno gwasanaethau hanfodol - gweler y tudalennau canol

eich dinas: eich papur

Canol y ddinas Cynlluniau adfywio trawiadol yn mynd rhagddynt

hefyd

tudalen 5

Sioe awyr • ARLOESI: Mae cwrs a chymhwyster gwarchod babanod cyntaf erioed Cymru wedi cychwyn yn Abertawe ac mae'n helpu pobl ifanc i baratoi at yrfa yn un o'r proffesiynau gofal. Gweler tudalen 4 am fwy o fanylion.

Mae Cyngor Abertawe'n bwriadu gwario miliynau o bunnoedd yr wythnos i gefnogi cymunedau lleol, addysg, y gwasanaethau cymdeithasol, gwella ffyrdd a chadw strydoedd yn lân. Bydd y cyngor yn gwario oddeutu £1.5m y diwrnod, gan weithio hyd yn oed yn agosach gyda phreswylwyr i sicrhau bod yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr hyn sy'n flaenoriaeth i bobl. Dros y flwyddyn i ddod, bydd £1m ar gael ar gyfer atgyweiriadau hanfodol i ysgolion i ychwanegu at y buddsoddiad mewn adeiladu ysgolion, bydd £2m ar gyfer rhaglen adeiladu tai cyngor newydd ac £1m er mwyn atgyweirio ffyrdd. Mae £3.2m ychwanegol hefyd mewn arian uniongyrchol ar gyfer cyllidebau ysgolion. Dylai'r arian hwn, o'i ychwanegu at y Grant Amddifadedd Disgyblion, gynorthwyo ysgolion i ddarparu i raddau helaeth ar

Holi'ch Barn

Rydym yn targedu miliynau i’ch blaenoriaethau rheng flaen DROS y flwyddyn i ddod, mae angen i'r cyngor arbed £21m i ychwanegu at y £50m a arbedwyd eisoes dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Disgwylir y bydd angen arbed £55m arall yn y blynyddoedd i ddod. Mae'r cyngor eisoes wedi lleihau costau rheoli o filiynau o bunnoedd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae hefyd yn symleiddio gwasanaethau gweinyddol, gan gyflwyno ffyrdd callach o weithio a lleihau costau cyffredinol drwy fuddsoddi mewn mwy o dechnoleg ddigidol. Mae hyn wedi golygu bod mwy o wasanaethau i'w cael arlein, a bydd mwy ar gael yn y blynyddoedd i ddod. Er enghraifft, gall preswylwyr dalu eu treth y cyngor ac adnewyddu trwyddedau parcio i breswylwyr ar-lein 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos.

gyfer y rhan fwyaf o'r pwysau o ran costau sy'n eu hwynebu. Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, fod y cyngor yn gwneud ei orau glas i fod yn gallach, yn fwy effeithiol ac yn fwy effeithlon. Dywedodd fod cymaint â phosib o'r gyllideb flynyddol yn cael ei gwario ar flaenoriaethau rheng flaen a nodwyd gan bobl Abertawe. Meddai, "Rydym yn wynebu'r her drwy barhau â'n rhaglen i adolygu'n holl feysydd gwariant - gan gynnwys meysydd fel gwasanaethau diwylliannol, rheoli gwastraff a

phriffyrdd - i weld sut byddwn yn parhau i sicrhau bod pob ceiniog a gaiff ei gwario'n cael ei defnyddio'n ddoeth ac yn y ffordd orau i bobl Abertawe." Meddai'r Cyng. Stewart, "Mae ein menter Abertawe Gynaliadwy-Yn Addas i'r Dyfodol wedi cael croeso cyffredinol oherwydd bydd yn ein helpu i barhau i gefnogi gwasanaethau hanfodol drwy fod yn gallach ac yn fwy effeithlon. "Er gwaethaf y toriadau cyllidebol y mae pob cyngor yng Nghymru yn eu hwynebu, mae Abertawe mewn

sefyllfa dda i barhau i gefnogi plant a phobl hŷn, i fynd i'r afael â thlodi a buddsoddi mewn gwasanaethau ymyrryd ac atal a fydd yn helpu i arbed arian yn y tymor hir." Yn dilyn ymgynghoriad â'r cyhoedd, mae'r cyngor hefyd yn bwriadu agor Ffordd Liniaru'r Morfa flwyddyn yn gynnar, parhau i gadw'i doiledau cyhoeddus ar agor, cynnal y nifer presennol o lyfrgelloedd a chreu cyllidebau cymunedol i ariannu prosiectau lleol bach ond mawr eu hangen. Parheir i fuddsoddi hefyd mewn cludiant cymunedol a mynd i'r afael â thaflu sbwriel a baw cŵn. Ychwanegodd y Cyng. Stewart, "Yn sgîl yr ymgynghoriad a gynhaliwyd â phobl leol, mae ein cynlluniau cyllidebol wedi'u cryfhau. Mae'r cyngor yn gwrando ar ein cymunedau lleol, a thrwy barhau i weithio'n agos gyda hwy, byddwn yn canolbwyntio'n fwy ar gyflawni eu blaenoriaethau bob dydd."

Awyrennau'n dychwelyd i'r ddinas yn yr haf tudalen 3

Ailgylchu Gall pob un ohonom wneud ein rhan i gyrraedd y targedau tudalen 7

Gwaith adeiladu mewn ysgolion yn brif flaenoriaeth tudalen 9


gwybodaeth

2

Arwain

Abertawe Rhifau ffôn defnyddiol Canolfannau Hamdden Abertawe Actif Penlan 01792 588079 Treforys 01792 797082 Penyrheol 01792 897039 Cefn Hengoed 01792 798484 Pentrehafod 01792 641935 Canolfan Chwaraeon Llandeilo Ferwallt 01792 235040

am holl wybodaeth y cyngor, ewch i www.abertawe.gov.uk

Mawrth 2016

Rydym yn helpu i gadw’n dinas i symud bob dydd

Priffyrdd Carthffosydd - 24 awr 0800 0855937 Draenio - dydd Llun i ddydd Gwener 01792 636121 Difrod i ffyrdd etc. 0800 132081 Materion eraill y priffyrdd 01792 843330 Tai Y prif rif 01792 636000 Atgyweiriadau (tenantiaid y tu allan i oriau arferol) 01792 521500 Y Gwasanaethau Cymdeithasol Ymholiadau Cyffredinol 01792 636110 Tîm Ymchwilio Mynediad Plant a Theuluoedd 01792 635700 Tîm Derbyn yr Henoed a’r Anabl 01792 636519 Anableddau Plant, Cefnogi Teuluoedd 01792 635700 Addysg Y prif rif 01792 636560 Yr Amgylchedd 01792 635600 Prif Switsfwrdd y Cyngor 01792 636000

I gysylltu â’r tîm newyddion ffoniwch 01792 636092 Arwain Abertawe yw papur newydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe

I gael y papur newydd hwn mewn fformat gwahanol ffoniwch 636226, ffôn testun 636733

Mawrth Symudiad Cr Creadigol eadigol a Gwneud Mar Marciau ciau 19 Mawrth Glynn V Vivian ivian Oddi ar y Safle yn y YMCA 01792 01792 516900 Milltir Sport Relief Sainsbury’ s Sainsbury’s 20 Mawrth Bae Abertawe www .sportrelief.com www.sportrelief.com Hwyl Crefftau’r Crefffftau’r Pasg i Blant 26 Mawrth Castel stell Ystumllwynarth Castell www .aberta bertawe.gov.uk/ www.abertawe.gov.uk/ castellystumllwyn mllwynarth castellystumllwynarth

Eb Ebrill brillll Ta T a aiith Dywys Taith Ab bertawe we Dylan Abertawe 27 Mawrth Ca anolfan Dylan Thomas Canolfan 0 01792 463980 01792 Gw weithdy T eulu e ‘Her e Gweithdy Teulu ‘Here in this t spring’ 28 Mawrth Ca anolfan Dylan Thomas Canolfan 0 01792 01792 463980 Ne ewydd: Profiadau Profiadau Newydd: An nifeiliaid Anifeiliaid 29 - 31 Mawrth Pla antasia Plantasia 0 01792 01792 474555

Am fwy o ddigwyddiadau gwych, gwych, ewch ewc wch i: joiobaeabertawe.com

Diw wrno nod Dr eigiau a Diwrnod Dreigiau Daearg ea gelloedd Daeargelloedd b 2 Ebrill h Castell Ystumllwynarth www.abertawe.gov.uk uk/ www.abertawe.gov.uk/ castelly ystumllwynart arth castellystumllwynarth

y Celf am Ddim: Gweithdy iw Gwydr Lli Lliw 10 Ebrill Amgueddffa Abertawe Amgueddfa 01792 653763 6 01792

d: Cennau Antics Anifeiliaid Anifeiliaid: Chyn nffffonnau a Chynffonnau brill 5 - 7 Eb Ebrill Plantas sia Plantasia 0179 92 474555 01792

Cerddorfa a Genedlaethol Cerddorfa Gymreig y BBC: Rhapsody Gymreig in Blue 14 Ebrill n Brangwyn www.bran ngwynhall.co.uk www.brangwynhall.co.uk

Gweith hdy’r Pasg: Gweithdy’r Animeiiddio Seicedelig Animeiddio 6 Ebrill ivian vian Oddi ar y Glynn V Vivian n y YMCA Safle yn 0179 92 516900 51 01792

Diwrnod Hanes H Han Diwrnod Byw Canoloes sol Canoloesol 30 Ebrill stumllwynarth Castell Ys Ystumllwynarth www.aberrtawe.gov.uk/ www.abertawe.gov.uk/ castellystu umllwynarth castellystumllwynarth

joiobaeab joiobaeabertawe.com bertawe.com

Cysylltwch ag Arwain Abertawe

• AR Y FFORDD: Cyflawnwyd bron 10,000 o atgyweiriadau ffyrdd y llynedd gan ein timau trefnu atgyweiriadau yn ôl eu Bydd tîm atgyweirio ffyrdd Pam mae priffyrdd yn bwysig blaenoriaeth i drwsio'r difrod. dwys yn dychwelyd i MEDDAI David Hopkins, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros yr "Bydd cynllun PATCH yn gymunedau ar draws Amgylchedd a Chludiant, "Rydym yn sylweddoli mor bwysig yw dychwelyd i roi hwb i'r gwaith Abertawe o'r mis nesaf. cyflwr ein ffyrdd i'n preswylwyr a'n hymwelwyr â'r ddinas, a dyma'r parhaus o gynnal a chadw ffyrdd y Bydd tîm PATCH yn ymweld â'r rheswm pam ein bod yn parhau i fuddsoddi'n sylweddol yn ein ddinas, ond rydym yn dal i annog 32 o wardiau rhwng mis Ebrill a rhwydwaith ffyrdd." pobl i gysylltu â ni os ydynt yn gweld diwedd y flwyddyn i lenwi'r tyllau yn Ewch i www.abertawe.gov.uk/problemaupriffyrdd i adrodd am difrod y mae angen ei drwsio. Mae y ffordd a thrwsio diffygion ffordd ddifrod neu ffoniwch 0800 132081. hyn yn gwneud synnwyr perffaith eraill. oherwydd ni allwn fod ym mhobman Mae eu gwaith yn ogystal â'r rhwydwaith ffyrdd yn Abertawe ddinas. ar unwaith a bydd modurwyr yn gwaith a wneir gan dimau atgyweirio oherwydd ein bod yn gwybod mor Mae Cyngor Abertawe'n trwsio gweld difrod cyn ni. Os oes angen ffyrdd arbenigol eraill, sydd hwnt ac bwysig yw cyflwr ein ffyrdd i oddeutu 500 o ddiffygion ffyrdd bob gwaith brys i ddifrod, yna caiff ei yma bob dydd yn archwilio ffyrdd, breswylwyr. mis. Meddai'r Cyng. David Hopkins, wneud cyn gynted â phosib. yn cofnodi diffygion ac yn trwsio "Mae swm y traffig heddiw, ar y Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd "Dylem ganmol ein staff cynnal a difrod yn ôl blaenoriaeth. a Chludiant, "Er gwaethaf yr amserau cyd â'r tywydd gwlyb iawn a gawsom chadw ffyrdd am eu gwaith yn ystod Mae cymunedau sy'n derbyn dros y gaeaf, yn golygu bod treulio ar y gaeaf gwlyb wrth iddynt ddadflocio heriol iawn y mae cynghorau yng ymweliad gan dîm PATCH ym mis y ffyrdd yn anochel, ond dylai pobl Nghymru a Lloegr yn eu hwynebu draeniau a cheuffosydd, gan helpu i Ebrill yn cynnwys wardiau St wybod ein bod yn parhau i oherwydd cyni, rydym yn parhau i ddiogelu cymunedau ar draws Thomas, Bonymaen a'r Castell sy'n archwilio'n ffyrdd ac y byddwn yn fuddsoddi'n helaeth yn ein Abertawe rhag llifogydd." cynnwys Sandfields a chanol y


Arwain

i gael y newyddion dyddiol am ddim, ewch i www.swansea.gov.uk/subscribe

Abertawe eich arweiniad i gyfarfodydd y cyngor

Mawrth 2016

• HEDFAN FRY: Y Red Arrows oedd sêr y sioe ar y ddau ddiwrnod y cynhaliwyd Sioe Awyr Genedlaethol Cymru y llynedd.

Bydd arddangosiadau erobateg gwych a hen awyrennau a rhai cyfoes yn creu cyffro i gannoedd ar filoedd o ymwelwyr yn yr awyr uwchben Abertawe unwaith eto dros yr haf. Cadarnhawyd y bydd Sioe Awyr Genedlaethol Cymru, sy'n ddigwyddiad am ddim, yn dychwelyd i'r ddinas ddydd Sadwrn a dydd Sul, 2 a 3 Gorffennaf. Hwn fydd y tro cyntaf i'r sioe awyr gael ei chynnal ddau haf yn olynol wrth i'r cyngor ymdrechu i'w gynnal yn flynyddol. Meddai'r Cyng. Robert FrancisDavies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fenter, Datblygu ac

gwybodaeth

Sioe rad ac am ddim fwyaf Cymru’n dychwelyd! MAE ffigurau'n dangos y bu Sioe Awyr Genedlaethol Cymru 2015 yn werth mwy na £7.6 miliwn i'r economi leol. Amcangyfrifwyd i 170,000 o bobl dyrru i lan y môr fis Gorffennaf y llynedd i fwynhau arddangosiadau a oedd yn cynnwys y Red Arrows, Eurofighter Typhoon, hofrenyddion Chinook ac awyrennau o Hediad Coffa Brwydr Prydain.

Adfywio, "Ein bwriad yw gwneud y sioe awyr flynyddol yn un o ddigwyddiadau allweddol ein rhaglen Joio Bae Abertawe, sy'n llawn amrywiaeth ac yn addas i deuluoedd. “Wrth ei gynnal yn flynyddol, rydym yn credu bod hyn yn gwella'r cyfleoedd i'w ddatblygu ymhellach. Bydd yn gwneud y sioe'n fwy ymarferol o safbwynt masnachol – yn

enwedig o ran noddwyr a masnachwyr. Yn bwysig, fel dyddiad sefydlog yn y calendr digwyddiadau blynyddol, bydd yn rhoi rheswm i bobl drefnu eu gwyliau ymlaen llaw, yn unswydd er mwyn dod i'r digwyddiad. “Bydd miloedd o bobl leol yn awyddus i beidio â cholli'r cyfle chwaith. "Yn ogystal â helpu i wella proffil

Abertawe a rhoi adloniant o'r radd flaenaf i bobl leol ar garreg eu drws, mae'r sioe awyr hefyd yn denu miloedd lawer o ymwelwyr i'r ddinas sy'n gwario eu harian mewn siopau, tafarndai, bwytai, gwestai a busnesau lleol eraill. "Addawon ni ar ôl sioe awyr hynod lwyddiannus yr haf diwethaf i wneud popeth yn ein gallu i'w gynnal yn flynyddol yn Abertawe. "Mae'r newyddion yma'n dangos ein bod yn cyflawni'r addewid hwnnw ac yn gwella proffil Abertawe hyd yn oed yn fwy fel dinas sydd â'r gallu i gynnal digwyddiadau o'r radd flaenaf. Cadwch lygad ar www.sioeawyrcymru.com am y newyddion diweddaraf.

3

Marcwyr dyddiadur y cyngor Croeso i’ch arweiniad i gyfarfodydd y cyngor. Cynhelir y rhan fwyaf o’r cyfarfodydd yn y Ganolfan Ddinesig, ond sylwer efallai na fyddwch yn gallu dod i gyfarfod cyfan neu ran ohono. Mae’r rhestr hon yn gywir wrth fynd i’r wasg ond os ydych chi’n ystyried mynd i gyfarfod, ffoniwch 01792 636000 ymlaen llaw i wybod y lleoliad a’r amser. Gallwch hefyd gasglu manylion yr agenda ar wefan y cyngor yn http://bit.ly/councildiary

8 Mawrth Pwyllgor Cynllunio, 2pm 9 Mawrth Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Wasanaethau Corfforaethol, 4pm 10 Mawrth Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Gymunedau, 2pm Y Cyngor, 4pm 10 Mawrth Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol, 10.30am 14 Mawrth Pwyllgor y Rhaglen Graffu, 4.30pm 15 Mawrth Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, 5pm 16 Mawrth Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygu, 3pm 17 Mawrth Y Cabinet, 4pm 21 Mawrth Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ataliaeth a Diwygio Gofal Cymdeithasol, 2pm 6 Ebrill Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Addysg a Phobl Ifanc, 4pm 8 Ebrill Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol, 10.30am 11 Ebrill Pwyllgor y Rhaglen Graffu, 4.30pm 12 Ebrill Pwyllgor Cynllunio, 2pm 13 Ebrill Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Wasanaethau Corfforaethol, 4pm 14 Ebrill Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Gymunedau, 2pm 19 Ebrill Pwyllgor Archwilio, 2pm 20 Ebrill Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygu, 3pm 21 Ebrill Y Cabinet, 4pm 25 Ebrill Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ataliaeth a Gofal Cymdeithasol, 2pm 28 Ebrill Y Cyngor, 5pm

Eich Arwain Abertawe Y Post Brenhinol sy’n dosbarthu’ch Arwain Abertawe i chi. Fodd bynnag, nid yw unrhyw bost a ddosberthir ynghyd ag Arwain Abertawe’n cael ei gefnogi gan Ddinas a Sir Abertawe.


Arwain

Abertawe Ymuno â’r gofrestr a bwrw pleidlais Rydyn ni'n hwyluso pethau cymaint ag y bo modd i sicrhau bod preswylwyr wedi'u cofrestru i fwrw pleidlais yn etholiadau Cynulliad Cymru a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu sydd ar ddod. Y dyddiad cau i gofrestru i fwrw pleidlais yn yr etholiadau hyn yw dydd Llun 18 Ebrill 2016. Er bod amser o hyd, mae'n diflannu'n gyflym. Y newyddion da yw ei bod hi'n cymryd ychydig funudau'n unig i gofrestru ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-ibleidleisio Meddai Alison O'Hara, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Etholiadol Cyngor Abertawe, “Dylai unrhyw un sydd heb gofrestru i fwrw pleidlais eto wneud hynny cyn gynted ag y bo modd er mwyn dweud ei ddweud ar faterion sy'n effeithio ar ei fywyd o ddydd i ddydd.” Mae cofrestru'n gyflym, yn syml ac yn ddiogel. Ewch i https://www.gov.uk/cofre stru-i-bleidleisio i weld.

Sylw ar Ffordd Fabian Mae’r cyngor yn ystyried adborth ar ymgynghoriad dau fis ar ddyfodol Ffordd Fabian. Pennodd Prif Gynllun Ffordd Fabian weledigaeth ar y cyd Cynghorau Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, i adeiladu ar nifer o ddatblygiadau proffil uchel a chefnogi datblygu 'clwstwr economi wybodaeth' ar hyd Ffordd Fabian. Bydd sylwadau a diwygiadau a awgrymir yn cael eu hadrodd i fwrdd Cabinet ar y cyd sy'n cynnwys cynghorwyr o'r ddau awdurdod lleol. I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch 01792 635081 neu e-bostiwch: CDLl@abertawe.gov.uk

Lleisiwch eich barn Mae preswylwyr sydd am ddweud eu dweud am wasanaethau'r cyngor a materion lleol yn gallu ymuno â'n panel dinasyddion, Lleisiau Abertawe. Mae'r cyngor wedi bod yn gweithredu'r panel yn llwyddiannus ers 1999. Adnewyddir ei aelodaeth yn gyson i sicrhau bod y panel yn dal i gynrychioli poblogaeth y sir a rhoi'r cyfle i gynifer o bobl ag y bo modd gymryd rhan. Gwnewch gais yn: http://www.abertawe.g ov.uk/article/7003/Lleis iau-Abertawe

am holl wybodaeth y cyngor, ewch i www.abertawe.gov.uk

Mawrth 2016

Preswylwyr taclus yn rhoi help llaw i gadw’r ddinas yn lân Mae preswylwyr sydd am weld dinas lân yn rhoi help llaw i gadw eu cymunedau fel pin mewn papur. Nid yw Cyngor Abertawe wedi cuddio'r ffaith ei fod bob blwyddyn yn gwario mwy na £2 filiwn yn mynd i'r afael â phroblemau sbwriel yn y ddinas, gan gynnwys tipio anghyfreithlon. Mae heriau cyllideb y dyfodol y bydd y cyngor yn eu hwynebu'n debygol o arwain at adnoddau cyfyngedig i barhau i fynd i'r afael â phroblemau sbwriel diarffordd. Felly mae grwpiau cymunedol yn torchi llewys ac yn ymuno â'r cyngor, yn trefnu mentrau codi sbwriel ac yn ymfalchïo'n gyffredinol yn y gymuned lle maen nhw'n byw. Mae'r dyddiau pan oedd sain ysgubau cryfion i'w clywed yn y stryd pan oedd preswylwyr yn falch o frwsio'r darn bach o balmant y tu mas i'w cartref wedi mynd. Ond mae'r syniad bod pobl leol yn cymryd rhan mewn safiad unedig yn erbyn taflwyr sbwriel yn rhywbeth sy'n dechrau ailafael gyda chynnydd mewn grwpiau cymunedol â dyfeisiau codi sbwriel a sach wag. Un o'r fath grwpiau yw Cyfeillion Coetir Tregŵyr sydd wedi mynd ati i ddatrys problemau sbwriel yn y gymuned leol. Wedi'i arwain gan Steve Bolchover, preswylydd Tregŵyr a chadeirydd y grŵp, mae'r grŵp wedi mynd ati i dacluso darn o dir, torri llystyfiant yn ôl, clirio sbwriel a mieri o lwybrau cerdded a sicrhau bod preswylwyr yn gwerthfawrogi'r safle'n llawer mwy. Meddai Steve, “I ddechrau, canolbwyntion ni ar Goedwig Shaw coedwig a oedd wedi bod yn feithrinfa goed gynt ac sy'n cynnwys llawer o rywogaethau coed estron. “Mae tai o gwmpas y coed ac mae cerddwyr lleol yn ei ddefnyddio fel llwybr tarw. “Fodd bynnag, roedd mieri a llawryfoedd yn tresmasu ar y llwybrau cerdded, yr oedd rhai ohonyn nhw'n wlyb ac yn fwdlyd. Torron ni'r llystyfiant yn ôl, lledaenu sglodion coed ar y llwybrau, clirio sbwriel a phlannu bylbiau blodeuo'r gwanwyn.

• TACLUS: Steve Bolchover a Chyfeillion Coetir Tregŵyr Yn ôl y grŵp, nid dyna ddiwedd ei ymdrechion chwaith. Ychwanegodd Steve, “Rydyn ni hefyd wedi codi sbwriel a gweithio ar gae chwaraeon Elba ac yn y coetir sydd gyferbyn a cheisio gwneud gwaith tebyg mewn rhannau eraill o'r pentref. “Rydyn ni wedi gweithredu i helpu i wneud ein pentref yn lle gwell rydyn ni a holl bobl Tregŵyr yn gallu ei fwynhau.

Yn fy marn i

Gwnaethon ni

Dywedoch chi

Gofynnom ni

4

Mae David Hopkins, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Chludiant, wedi croesawu ymdrechion grwpiau preswylwyr fel Cyfeillion Coetir Tregŵyr. Meddai, “Dyma enghraifft ryfeddol o'r gymuned yn cefnogi'r cyngor gyda'r un nod, sef cadw'r ddinas yn lân. “Rydyn ni eisiau i breswylwyr ymfalchïo yn eu dinas a dyma ffordd wych o ddangos yr hyn mae pobl yn barod i'w wneud drostyn nhw eu hunain.”

Cynllun buddsoddi mewn adeiladu tai Gallai gwaith i adeiladu'r tai cyngor newydd cyntaf yn Abertawe ers cenhedlaeth ddechrau tua diwedd 2016. Bydd cynlluniau peilot yn Ffordd Milford ym Mhenderi a Pharc yr Helyg yn Llansamlet yn helpu i gyfeirio strategaeth tymor hwy Cyngor Abertawe ar gyfer darparu tai cyngor ychwanegol yn y ddinas. Caiff nifer bach o gartrefi eu hadeiladu i safonau ynni uchel er mwyn sicrhau bod biliau ynni mor isel ag y bo modd. Mae'r cyngor hefyd yn ystyried posibilrwydd adeiladu cartrefi ‘ynni-gadarnhaol’ a fydd yn darparu trydan at ddefnydd y deiliaid. Caiff y gwaith ei ariannu gan refeniw o renti'r

cyngor ac nid o dreth y cyngor. Meddai'r Cyng. Andrea Lewis, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Wasanaethau'r Genhedlaeth Nesaf, “Dydyn ni ddim wedi gallu adeiladu tai cyngor newydd yn Abertawe ers y 1980au oherwydd cyfyngiadau gan Lywodraeth y DU, ond gallwn ni wneud hynny ar ôl newidiadau diweddar. “Dyma gam pwysig ymlaen oherwydd bod galw sylweddol am gartrefi fforddiadwy o safon i'w rhentu ac rydyn ni'n benderfynol o ddiwallu anghenion preswylwyr a chymunedau'n gyffredinol. “Byddai adeiladu tai cyngor newydd, ynni isel yn ein helpu i ddiwallu dyheadau pobl leol, trechu tlodi a chreu cymunedau cynaliadwy.

“Fel rhan o'r cynllun peilot arloesol hwn, nifer bach o gartrefi newydd yn unig a gaiff eu hadeiladu i ddechrau, ond bydd hynny'n helpu i lywio ein strategaeth tymor hwy ar gyfer darparu tai cyngor ychwanegol trwy ein galluogi i ystyried materion megis opsiynau manyleb, dichonoldeb ariannol a fforddadwyedd i denantiaid. “Mae cryn dipyn o waith eisoes wedi cael ei wneud i nodi lleoliadau addas, ond os bydd mwy o gynnydd dros y misoedd nesaf, gallai'r gwaith adeiladu ddechrau tua diwedd 2016.” Caiff rhagor o waith archwilio ecolegol a thir ei wneud nawr ar y ddau safle cyn dechrau gwaith dylunio a chyflwyno ceisiadau cynllunio i'r cyngor.


Mawrth 2016

I gael newyddion dyddiol am ddim, ewch i www.swansea.gov.uk/subscribe

Arwain

Abertawe

5

Crynodeb o’r

newyddion Syniad gwych yn arbed arian hefyd Mae goleuadau stryd ar brif lwybrau trwy Abertawe'n cael eu newid fel rhan o gynllun newid parhaus yn y ddinas. Mae Cyngor Abertawe wedi gwneud 80 y cant o gynllun i newid llawer o'r 27,000 o oleuadau stryd yn y ddinas sy'n cynnwys gosod lampau LED sy'n arbed ynni mewn ardaloedd preswyl. Mae'r gwaith diweddaraf wedi cynnwys newid lampau ar hyd rhannau o Heol Caerfyrddin a Heol Abertawe, Pontlliw. Gobeithir y bydd y goleuadau LED gwyrddach yn arbed tua £400,000 y flwyddyn i'r cyngor mewn costau ynni ac yn lleihau ôl troed carbon y cyngor. Mae mwy na £6 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru wedi'i ddefnyddio i gwblhau'r rhaglen dros dair blynedd a disgwylir y bydd ar waith yn llwyr erbyn y gwanwyn.

• Y DYFODOL: Bydd ein dinas a Dinas-ranbarth Bae Abertawe'n cael eu trawsnewid gan brosiectau adfywio yn safleoedd y Ganolfan Ddinesig a Dewi Sant.

Dyfodol disglair yn galw canol y ddinas Mae arbenigwyr adfywio Gwneud yn fawr o'n hasedau'n brif flaenoriaeth yng Nghyngor Abertawe bellach wedi dechrau CANOL dinas Abertawe yw peiriant economi Dinas-ranbarth Bae Abertawe. gweithio'n agos gyda Gallai miloedd o swyddi adeiladu a pharhaol gael eu creu gan y datblygwyr eiddo cynigion cyfunedig. arbenigol i helpu i I gael mwy o wybodaeth am y prosiect adfywio ac i weld fideos o drawsnewid canol y sut gallai'r cynlluniau edrych, ewch i ddinas yn gyrchfan www.abertawe.gov.uk/trawsnewidcanoldinasabertawe hamdden a siopa o safon. Mae'r cyngor wedi penodi dau Cyngor Abertawe, “Mae penodi'r newydd, adeilad uchel a allai gwmni – Rivington Land, a fydd yn ddau gwmni arbenigol hyn i reoli gystadlu â Thŵr Meridian, ardal rheoli safle Dewi Sant, a Trebor adfywio'r ddau safle datblygu bwytai a chaffis brysur, sinema o'r Developments, a fydd yn rheoli allweddol yn gam hynod galonogol radd flaenaf a stryd fanwerthu adfywio safle'r Ganolfan Ddinesig. ymlaen ar gyfer ein cynlluniau i newydd sy'n estyn o Whitewalls i Mae safle Dewi Sant yn cynnwys drawsnewid canol dinas Abertawe'n Heol Ystumllwynarth. hen ganolfan siopa Dewi Sant, maes gyrchfan ymwelwyr modern a Mae'r syniadau buddugol a'r parcio aml-lawr Dewi Sant a maes bywiog. cyfleoedd cyllid bellach yn cael eu parcio'r LC. Mae syniadau buddugol “Mae cyflwyno bellach o'r pwys harchwilio ymhellach cyn gwaith Rivington Land ar gyfer y safle'n mwyaf wrth i ni geisio datblygu'r ymchwilio'r safle a chamau i ddenu cynnwys arena dan do â 3,500 o math o ganol dinas sy'n ffynnu y mae tenantiaid yn y dyfodol. seddi ar ben maes parcio dan do pobl Abertawe wedi aros yn rhy hir Meddai Rob Stewart, Arweinydd

amdano. Dyma pam ein bod ni eisoes wedi dechrau gweithio wrth ochr y cwmnïau datblygu a gosod amserlenni tyn i wireddu'n hamcanion. Mae'r cyngor hefyd bellach wedi dechrau datblygu prif gynllun safle'r Ganolfan Ddinesig ar y cyd â Trebor Developments. Mae eu syniadau buddugol ar gyfer y safle'n cynnwys rhandai, tai tref, gwestai, caffis, bwytai a lle cyhoeddus newydd sy'n arwain i lannau'r ddinas. Hefyd, cynigir bod y cwmni'n gweithio'n agos gyda Phrifysgol Abertawe i archwilio ymhellach i botensial creu 'canolfan hydro' ar y safle a allai gynnwys acwariwm cyhoeddus a chanolfan ymchwil gwyddorau dŵr o'r radd flaenaf.

Prosiect Oceana’n trawsnewid Ffordd y Brenin Mae adfywio canol y ddinas hefyd yn rhan allweddol o'r newidiadau sy'n cael eu cynnig ar gyfer Abertawe. Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar ddymchwel hen adeilad clwb nos Oceana. Bydd gwaith stripio mewnol yn cael ei gwblhau'n fuan, gyda gwaith dymchwel allanol wedi'i glustnodi i ddechrau tua diwedd mis Mawrth. Erbyn yr haf, bydd yr adeilad wedi diflannu o dirwedd canol y ddinas. Yna, yn amodol ar arian,

bydd Cyngor Abertawe'n adeiladu datblygiad swyddfa newydd ar y safle yn y dyfodol. Mae'r cyfan yn rhan o gynllun y cyngor i ddatblygu rhanbarth busnes ar Ffordd y Brenin a fydd yn cyflogi miloedd o bobl ac yn denu mwy o ymwelwyr a gwariant i ganol y ddinas. Meddai Rob Stweart, Arweinydd y Cyngor, “Mae angen mwy o bobl yn gweithio ac yn byw yng nghanol y ddinas i helpu i gefnogi busnesau presennol a denu buddsoddiad.

“Mae'n cynlluniau ar gyfer Ffordd y Brenin yn allweddol i wireddu'r nod hwnnw. Byddwn ni'n cyhoeddi cynlluniau ar gyfer ardaloedd eraill yn y misoedd nesaf. “Erbyn 2021, rydyn ni eisiau i bobl gyrraedd Abertawe ar drên trydanol a cherdded i lawr Stryd Fawr ar ei newydd wedd i ganol dinas o safon, cyn gwylio cyngerdd o'r radd flaenaf yn yr arena dan do a mwynhau pryd o fwyd gyda'r hwyr ar y glannau gyda golygfeydd trawiadol dros Fae Abertawe.”

Mae'n amser rhoi sglodyn i'ch ci Mae perchnogion cŵn yn Abertawe'n cael eu hannog i roi microsglodion yn eu hanifeiliaid anwes cyn i'r ddeddfwriaeth newydd gael ei chyflwyno yng Nghymru ym mis Ebrill. Daw Rheoliadau Microsglodynnu Cŵn (Cymru) 2015 i rym ar 6 Ebrill ac mae'n dilyn ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru. Yn unol â'r rheoliadau newydd, mae'n ofynnol bod pob perchennog yn microsglodynnu ei gi er mwyn gallu cadw gwybodaeth benodol am y ci a'i berchennog mewn cronfa ddata. Mae'n golygu ei bod hi'n fwy tebygol y gallwn ddychwelyd cŵn sydd ar grwydr i'w perchnogion yn gyflym.

Peidiwch â chynhyrfu, mae help gyda dyledion wrth law Mae gan breswylwyr sy'n poeni am ddyledion y cyfle i gael gafael ar y broblem. Mae llawer o gyngor da yn swanseasocialcare.typepad.co m/botwm_panig_dyled sydd ar gael am ddim yn llyfrgelloedd y ddinas. Anogir preswylwyr hefyd i sicrhau eu bod nhw'n hawlio pob budd-dal y mae ganddyn nhw hawl iddo. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn http://www.abertawe.gov.uk/b udd-daliadau ac www.adviceguide.org.uk

Arafwch yn ddiogel Mae ysgolion yn Abertawe'n elwa ar gyflwyno terfynau cyflymder 20mya. Mae'r ysgolion sy'n elwa'n cynnwys YGG Pontybrenin, Ysgol Gynradd Waunarlwydd, Ysgol Gynradd Pontlliw, YGG Gellionnen ac Ysgol Gynradd Gorseinon fel rhan o fuddsoddiad £100,000 mewn diogelwch ffyrdd.


6

Arwain

Abertawe

Meithrin gobaith mewn plentyn Mae dau o'r gofalwyr maeth hwyaf eu gwasanaeth yn Abertawe'n annog teuluoedd ar draws y ddinas i ystyried agor eu cartrefi i blant a phobl ifanc sydd mewn angen. Cyflwynwyd MBE i Steve a Wendy Taylor, o Fonymaen, yn ddiweddar am eu gwasanaeth i Faethu Abertawe, gwasanaeth maethu'r cyngor, ar ôl i swyddogion y cyngor eu henwebu o ganlyniad i'w gwasanaeth rhagorol. Nawr mae'r pâr, sydd wedi bod yn maethu am 31 o flynyddoedd ac sydd wedi gofalu am dros 1,000 o bobl ifanc, arddegwyr yn bennaf, yn gobeithio ysbrydoli pobl eraill i faethu hefyd. Meddai Wendy, "Nid oeddem yn disgwyl maethu cynifer ohonynt. Mae pob un ohonynt wedi bod yn wahanol, ond mae pawb wedi bod yn bwysig, gan gyffwrdd â'n bywydau mewn rhyw ffordd.” Meddai Christine Richards, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Wasanaethau Plant a Phobl Ifanc, "Rwy'n gobeithio y bydd eu stori'n ysbrydoli pobl eraill i ymchwilio a yw maethu'n addas iddynt a chanfod sut gall Maethu Abertawe, sefydliad maethu Cyngor Abertawe, eu cefnogi hwy hefyd i ddarparu gwasanaeth rhagorol i bobl ifanc ar draws y ddinas." Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn maethu fynd i www.maethuabertawe.org neu ffoniwch y tîm am sgwrs ar 0300 555 0111.

Rhybudd twyll trwydded MAE cyngor Abertawe'n cydweithio ag elusen lleol i rybuddio pensiynwyr am dwyll trwyddedau teledu. Mae Safonau Masnach ac Age Cymru Bae Abertawe'n ymwybodol o'r twyll ar ôl i breswyliwr lleol oedrannus, a oedd wedi cael ei hysbysu y gwnaed newidiadau i'r drwydded deledu sydd am ddim i bensiynwyr, gan ofyn iddynt dalu ffi o £3 i'r llywodraeth, gysylltu â nhw. Aeth y galwr twyllodrus yn ei flaen i ofyn i'r pensiynwr sut y dymunai dalu'r ffi, ond, sylweddolodd y fenyw mai galwad ffug oedd hon, a rhoddodd y ffôn i lawr. Gallwch ffonio tîm Safonau Masnach Cyngor Abertawe ar 01792 635600.

am holl wybodaeth y cyngor, ewch i www.abertawe.gov.uk

Mawrth 2016

Gwelliannau cartrefi ar y trywydd cywir Erbyn diwedd mis Mawrth, bydd ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd wedi cael eu gosod mewn mwy na 1,650 o dai cyngor yn Abertawe. Mae'r gwaith, a ariennir gan arian y Cyfrif Refeniw Tai gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru, yn ffurfio rhan o'r ymgyrch i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2020. Mae ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd eisoes wedi cael eu gosod yn nifer o dai'r cyngor yn Waunarlwydd. Mae cyfnod o waith yn ardal Penlan bron wedi'i gwblhau hefyd. Bydd gweithiau tebyg hefyd yn dilyn yn Gendros, Bonymaen, St Thomas a Phort Tennant ar ddechrau'r haf. Meddai'r Cyng. Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Genhedlaeth Nesaf, "Mae gan

bawb yn Abertawe'r hawl i fyw mewn amgylchiadau cyfforddus, felly mae cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2020 yn hanfodol os rydym yn bwriadu cymryd camau tuag at drechu tlodi sydd, fel cyngor, yn un o'n blaenoriaethau allweddol. "Mae nifer ohonom sydd eisoes â cheginau ac ystafelloedd ymolchi newydd efallai'n cymryd y cyfleusterau hyn yn ganiataol, ond mae'n rhaid cofio pa mor bwysig y maent fel ffactorau cyfrannol at gefnogi ein hiechyd a'n lles. "Bydd y gwaith yr ydym eisoes wedi'i wneud o fudd i filoedd o bobl yn rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig y ddinas, ond nid ydym wedi gorffen o bell ffordd. Ar ôl yr haf, bydd mwy o bobl, o bob oedran yn dechrau elwa o waith tebyg, ac mae yna

nifer o gynlluniau ymhellach naill ai'n parhau, neu ar y gorwel i hybu safonau byw ar draws Abertawe." Mae gwaith atgyweirio a gwella allanol mawr yn cael ei wneud ar safleoedd yn Mayhill, Treforys, Penlan a Chaemawr er mwyn atgyweirio toeau, byrddau tywydd a nwyddau dŵr glaw, lleihau colli gwres a hybu diogelwch. Gwneir gwaith tebyg, gan gynnwys atgyweiriadau adeileddol, ar adeiladau anhraddodiadol yn Gendros a Phenllergaer. Mae gwaith hefyd yn cael ei wneud i ailwampio blociau o fflatiau uchel y mae'r cyngor yn berchen arnynt. Mae gwelliannau mewnol yn cynnwys ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd a gwaith ailweirio.

• DYSGU DEFNYDDIOL: Yn ôl Faye Evans, gwarchodwr babanod cymwys, mae cwrs y cyngor yn gyfle gwerthfawr i unrhyw un sy’n ystyried dechrau gyrfa mewn gofal plant.

Arddegwyr yn cymryd y trywydd diogel i gadw babanod yn hapus Mae cymhwyster arbenigol gwarchod babanod cyntaf Cymru'n helpu pobl ifanc yn eu harddegau yn Abertawe i roi gofal gwell i blant ifanc. Cafodd y cyngor gais gan bobl ifanc a oedd yn awyddus i wella'u gwybodaeth a'u hyder er mwyn eu helpu i warchod babanod yn well ar y penwythnos neu gyda'r nos. Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd y cyngor, y Gwasanaeth Cefnogi Ieuenctid a'r Gwasanaeth Achredu a Chyflawni wedi cyfuno'u sgiliau er mwyn datblygu cwrs i ddiwallu eu hanghenion. Mae'r cwrs bellach wedi'i gymeradwyo gan Agored Cymru, corff dyfarnu Cymru a ddewiswyd ar gyfer darparwyr addysg a hyfforddiant yng

Pam rwy'n cefnogi hyfforddiant ar gyfer gwarchodwyr babanod MEDDAI Christine Richards, Aelod y Cabinet dros Ddiogelu: "Mae'r cwrs yn un gwych sy'n darparu hyfforddiant a datblygiad i bobl ifanc, a chysur i'r rhieni sy'n dewis y bobl sydd wedi cyflawni'r cwrs i ofalu am eu plant. "Mae'r bobl ifanc gyntaf ar y cwrs wedi ei mwynhau'n fawr, ac rydym yn edrych ymlaen at ei gynnig i fwy o bobl ifanc hefyd. Maent wedi dangos awydd i fod y gofalwyr plant gorau y gallant fod, a dealltwriaeth o'r anghenion y dylent eu diwallu. "Rwy'n gobeithio y bydd yn ysbrydoli'r bobl ifanc sy'n cymryd rhan i ddilyn gyrfaoedd llwyddiannus, gan helpu i ddiwallu anghenion ehangach rhieni sy'n gweithio ar draws y ddinas."

Nghymru, ac mae'n trafod arferion amser gwely, teganau addas, gweithgareddau creadigol a hawliau a diogelwch plant. Meddai Emma Sims, 20 oed sydd

dan hyfforddiant, "Roeddwn am ddysgu am ofal plant ond nid oeddwn yn barod am gwrs amser llawn. Mae'r cymhwyster hwn wedi bod yn berffaith oherwydd roedd yn parhau

dros ddeg wythnos. Rwyf wir wedi mwynhau dysgu am egwyddorion gofal plant, a sicrhau fy mod i'n ymwybodol o'r risgiau a'r cyfrifoldebau hefyd." Dywedodd Abbey Emm, 15 oed, "Roedd y "rhestr gwirio diogelwch" yn ddefnyddiol iawn, ac mae wedi fy ngwneud yn ymwybodol o bwysigrwydd gwybod am gynllun dianc rhag tân y teulu, a beth i'w wneud os oes damwain neu anaf." Mae'r cwrs newydd yn rhoi gwybodaeth sylfaenol i bobl ifanc am sut i ofalu am blant pobl eraill am gyfnod byr. Gellir hefyd defnyddio'r sgiliau fel cymorth i fagu eu plant eu hunain yn y dyfodol, neu fel y cam cyntaf at yrfa broffesiynol yng ngofal plant.


Mawrth 2016

I gael newyddion dyddiol am ddim, ewch i www.swansea.gov.uk/subscribe

‘Rhaid i ni ailgylchu mwy’ BYDD faint rydym yn ei ailgylchu'n cael sylw o'r mis nesaf pan fydd angen i gynghorau yng Nghymru fodloni targedau ailgylchu Llywodraeth Cymru. Y rhif i anelu ato yn 2016 yw 58% - sy'n golygu bod yn rhaid ailgylchu 58% o'r gwastraff a gesglir yn Abertawe, naill ai wrth ymyl y ffordd neu mewn canolfannau ailgylchu gwastraff cartref yn lle ei gladdu mewn safleoedd tirlenwi erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf. Mae cyflwyno'r terfyn sachau du yn y ddinas ym mis Ebrill 2014 wedi cael effaith gadarnhaol ar ailgylchu. Meddai David Hopkins, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Chludiant, "Pan gyflwynwyd y terfynau, cawsant effaith ddramatig ar unwaith o ran swm yr ailgylchu roeddem yn ei gasglu. Gwnaeth teuluoedd stopio i feddwl am yr hyn roeddent yn ei roi allan i'w gasglu gan annog mwy o bobl i ddefnyddio'r opsiwn ailgylchu." Ychwanegodd y Cyng. Hopkins, "Mae angen mwy o breswylwyr arnom i ddechrau ailgylchu eu gwastraff cartref neu i'r rhai sydd eisoes yn ailgylchu i weld beth arall y gallant osgoi ei roi mewn sachau du. "Dyna pam mae swyddogion ailgylchu wedi bod yn curo ar ddrysau ar draws y ddinas yn cynnig cyngor ac argymhellion i breswylwyr mewn ardaloedd lle gellir gwella cyfraddau ailgylchu. "Mae'r fenter wedi arwain at staff y cyngor yn ymweld â nifer o strydoedd mewn cymunedau lle mae preswylwyr wedi bod yn rhoi mwy na thair sach ddu allan a chanfod pam mae hyn yn digwydd. "Mae'r canlyniadau wedi bod yn syfrdanol gyda thystiolaeth glir nad yw rhai aelwydydd yn ailgylchu o gwbl a dyma rywbeth rydym yn ceisio'i newid. Mae'n ymddangos y byddwn yn bodloni'r terfyn 58%, ond y bydd y ffigur yn codi i 62% erbyn 2020." Ychwanegodd y Cyng. Hopkins, "Mae miloedd o aelwydydd yn gwneud y peth cywir ac yn ymddwyn yn gyfrifol drwy ailgylchu eu

Arwain

Abertawe

7

Crynodeb o’r

newyddion Manteision Cyfnewid MAE preswylwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio gwefan cyfnewid ar-lein i gyfnewid anrheg ddieisiau am rywbeth maen nhw am ei gael. Cyngor Abertawe sy'n gweithredu gwefan y Siop Gyfnewid lle mae 10,000 o eitemau eisoes wedi'u cyfnewid rhwng preswylwyr yn Abertawe ers i'r wefan gael ei datblygu. Mae amrywiaeth eang o eitemau wedi newid dwylo, gan gynnwys setiau teledu, sychdaflwyr, trampolinau, gwelyau bync a phlanhigion mewn potiau. Yn y gorffennol, mae preswylwyr hefyd wedi mewngofnodi i gyfnewid eitemau mwy prin gan gynnwys cwch cyflym, carafán a hen wisgoedd Rheilffordd y Mwmbwls a fyddai fel arall wedi mynd i safle tirlenwi. Ewch i'r siop gyfnewid yn www.abertawe.gov.uk/siopgyfne wid

Hwb i hawliau plant MAE cynghorwyr wedi amlinellu cynllun pum pwynt i gryfhau ymrwymiad cynyddol Abertawe i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Abertawe oedd yr awdurdod cyntaf yn y DU i sicrhau ymrwymiad i ystyried anghenion a disgwyliadau plant ym mhob agwedd ar ei weithgareddau penderfynu. A bellach mae cynghorwyr craffu wedi awgrymu pum cynnig arall i helpu i roi hwb i gefnogaeth y CCUHP ac ysgolion sy'n parchu hawliau. Ceir mwy o wybodaeth amdano yn www.swansea.gov.uk/scrutiny publications

Hel atgofion ar y rhyngrwyd • NA, NID FAN HYN: Mae llawer o bethau ailgylchadwy'n ymddangos mewn sachau gwastraff du.

gwastraff. Mae ein gwaith diweddaraf wedi dangos nad yw rhai aelwydydd yn trafferthu i ailgylchu ac yn y cartrefi hyn y mae angen gwneud mwy o waith." "Mae'r cyngor yn gwario oddeutu £4 miliwn bob blwyddyn yn gwaredu

gwastraff mewn safleoedd tirlenwi. Mae preswylwyr yn allweddol i leihau'r ffigur hwn. "Gyda'u hymrwymiad hwy yn unig y gallwn osgoi dirwyon drud am fynd y tu hwnt i'n lwfans. Gallai'r arian hwn o bosib gael ei ddefnyddio

gan wasanaethau eraill, yn enwedig pan rydym yn ceisio arbed symiau enfawr o arian dros y blynyddoedd nesaf." Ceir mwy o wybodaeth am ailgylchu yn www.abertawe.gov.uk/ailgylchu

Gadewch i ni siarad am iechyd meddwl MAE Abertawe wedi ymuno â Bwrdd Iechyd PABM a chynghorau Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr mewn addewid ar y cyd i fynd i'r afael â gwahaniaethu oherwydd iechyd meddwl. Gydag un o bob pedwar person yn profi problem iechyd meddwl ar ryw adeg yn ei fywyd, mae'r angen i gynyddu ymwybyddiaeth ac annog ymagweddau cefnogol at iechyd meddwl a dealltwriaeth ohono yn flaenoriaeth allweddol i ddarparwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae'r addewid Amser i Newid yn ddatganiad cyhoeddus gan sefydliadau sydd am fynd i'r afael â'r stigma a gwahaniaethu oherwydd iechyd meddwl. Mae llofnodi'r addewid yn golygu bod pob un o'r sefydliadau'n cydnabod pwysigrwydd cefnogi gweithwyr ac aelodau o'r gymuned sy'n brwydro yn erbyn problemau iechyd meddwl. Daw'r addewid ar y cyd â chynllun gweithredu manwl sy'n amlinellu'r camau ymarferol y mae pob sefydliad yn eu cymryd i hyrwyddo iechyd meddwl a lles. Meddai Rob Stewart, Arweinydd Cyngor

Abertawe, "Rydym yn falch iawn o ymuno â'r ymgyrch sy'n anfon neges glir o gefnogaeth i'r rhai sy'n dioddef problemau iechyd meddwl o bob math. "Dyma rywbeth sy'n berthnasol i fywydau miloedd o bobl ar draws y rhanbarth ac mae'n bwysig ein bod yn annog pobl i siarad am ragfarn a gwahaniaethu a'u herio." Mae cyfres o ganllawiau hunangymorth ar gael yn www.selfhelpguides.ntw.nhs.uk/abmu ac fe'u lluniwyd fel rhan o brosiect Ataliaeth a Lles Rhaglen Bae'r Gorllewin.

MAE clipiau fideo hiraethus o ganol dinas Abertawe yn boblogaidd iawn. Ffilmiwyd y clipiau hanesyddol, a lanlwythwyd i'r cyfryngau cymdeithasol gan staff Cyngor Abertawe yng Ngwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg, yn y blynyddoedd ar ôl blitz yr Ail Ryfel Byd pan oedd rhaid ailddatblygu rhannau mawr o ganol y ddinas. Gwyliwyd y fideos fwy na 30,000 o weithiau a gallwch eu gweld yn www.abertawe.gov.uk/archifau gorllewinmorgannwg

Tacsis dilys MAE’R rhai sy'n dwlu ar bartis yn cael eu hannog i ofalu wrth ddefnyddio tacsis i sicrhau eu bod nhw'n defnyddio cerbyd trwyddedig. Mae awgrymiadau'n cynnwys sicrhau bod y cyhoedd naill ai'n defnyddio safleoedd tacsi swyddogol yng nghanol y ddinas neu swyddfeydd hurio preifat i drefnu teithiau. Gallwch gael mwy o wybodaeth am wasanaethau tacsis yn Abertawe yn www.abertawe.gov.uk/tacsis


8

Arwain

Abertawe

Anelu at ladd cyflymder Mae terfynau cyflymder is yn cael eu cyflwyno ar hyd rhannau o brif lwybr i ganol dinas Abertawe mewn ymdrech i leihau nifer y damweiniau. Mae Cyngor Abertawe wrthi'n gostwng y terfyn cyflymder i 30mya ar hyd rhannau byr o Heol Caerfyrddin (yr A483). Y llwybr hwn yw'r brif ffordd i'r ddinas o gyffordd 47 yr M4 ac yn ystod cyfnod o dair blynedd cafwyd 100 o wrthdrawiadau rhwng cerbydau a cherddwyr, gan gynnwys sawl damwain angheuol a difrifol. Derbyniodd y cyngor arian grant diogelwch ffyrdd gwerth £377,000 fel rhan o setliad grant diogelwch ffyrdd trafnidiaeth 2015/16 Llywodraeth Cymru. Mae'r arian yn cael ei ddefnyddio i wneud nifer o welliannau diogelwch, gan gynnwys gosod camerâu ar gyffyrdd allweddol. Bydd y camerâu yn monitro unrhyw gerbydau sy'n gyrru trwy oleuadau coch yn ogystal â gorfodi'r terfyn cyflymder. Meddai David Hopkins, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Chludiant, “Mae'n bwysig ein bod yn gwneud popeth y gallwn i'w wneud mor ddiogel â phosib i fodurwyr ac i gerddwyr hefyd. “Bydd y gwaith diweddaraf yn sicrhau bod y llwybr yn fwy diogel a'r gobaith yw y bydd yn lleihau nifer a difrifoldeb y gwrthdrawiadau sy'n parhau i ddigwydd wrth rai cyffyrdd."

Rhybudd parcio priodol Caiff modurwyr sy'n ymweld â Stadiwm Liberty yn Abertawe ar ddiwrnod gêm eu hannog i barcio eu ceir yn gyfreithlon neu wynebu'r posibilrwydd y bydd eu ceir yn cael eu halio ymaith. Mae'r cyngor gan Gyngor Abertawe'n dilyn achos lle symudwyd car yn ystod gêm gartref ddiwethaf yr Elyrch pan fo gyrrwr wedi rhwystro mynediad i stryd gerllaw. Meddai David Hopkins, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Chludiant, "Rydym wedi cydweithio â’r stadiwm i ddarparu cyfleusterau parcio digonol ar ddiwrnodau gêm. Rydym am i gefnogwyr fwynhau eu hunain wrth ymweld â Stadiwm Liberty ond nid ydym am i breswylwyr gerllaw gael eu cyfyngu yn eu strydoedd eu hunain gan fodurwyr nad ydynt yn dangos unrhyw ystyriaeth.”

am holl wybodaeth y cyngor, ewch i www.abertawe.gov.uk

Mawrth 2016

Plymio i’r dŵr ar gyfer y Swimathon Nid yw Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe'n anghyfarwydd â thorwyr recordiau ar ôl yr holl nofwyr adnabyddus sydd wedi hyfforddi yno dros y blynyddoedd. Ond nawr mae'n gobeithio torri record neu ddwy ei hun pan fydd yn cynnal Swimathon 2016, digwyddiad codi arian elusennol mwyaf y flwyddyn nofio. Yn nes ymlaen yn y mis, bydd y pwll yn ymuno â Sport Relief fel rhan o Gemau Sport Relief Sainsbury's. Dywedodd Jeremy Cole, Rheolwr Cyffredinol Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe (PCCA) fod gan y lleoliad draddodiad balch o gefnogi'r Swimathon dros y blynyddoedd ac mae'n gobeithio y llwyddir i godi mwy o arian nag erioed dros benwythnos y digwyddiad.

Meddai, "Mae 2016 yn flwyddyn Olympaidd ac ni fydd neb wedi anghofio'r hwb gwych yr oedd llwyddiant nofwyr fel Ellie Simmonds wedi'i roi i broffil y pwll. "Rydym yn gobeithio y bydd y nofwyr gorau a chystadleuwyr lleol sydd wedi datblygu gyrfaoedd llwyddiannus yma ac sydd bellach wedi symud ymlaen yn gwneud eu gorau glas dros eu gwlad yn yr haf," ychwanegodd. "Ond mae Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe yn lleoliad cymunedol hefyd ac rydym yn meddwl bod Swimathon Sport Relief Sainsbury's yn ffordd wych o ddod â'n cymuned ynghyd, wrth roi digon o gyfle i bobl ddatblygu eu ffitrwydd a gwella'u hiechyd yn y pwll." Disgwylir y bydd oddeutu 600 o leoliadau nofio ledled

Prydain yn cymryd rhan yn y Swimathon a gynhelir rhwng 18 Mawrth ac 20 Mawrth. Gall nofwyr ddewis o bellterau unigol 1.5k, 2.5k neu 5k. Gall y rhai y mae'n well ganddynt her tîm ffurfio carfan gyfnewid hefyd ar gyfer y pellterau 1.5k a 5k. Dros y 30 o flynyddoedd ers sefydlu'r Swimathon, mae nofwyr brwdfrydig wedi codi dros £40m ar gyfer achosion da. Mae'r elusennau sydd wedi elwa'n cynnwys Gofal Canser Marie Curie a'r NSPCC. Mae cyfle i gofrestru o hyd ar gyfer y Swimathon ac mae manylion ar gael yn www.swimathon.org I gael mwy o wybodaeth am PCCA, ewch i www.walesnationalpoolswansea.co.uk

• CYDLYNU: Mae bod yn gydlynydd ardal leol swydd neilltuol, meddai Jon Franklin

Croeso i fyd o ofal mewn cymunedau Mae cymunedau ar draws Abertawe'n cael eu cefnogi yn eu hymdrechion i fod yn llefydd mwy croesawgar a chynhwysol lle mae unigolion yn teimlo'n gryf, yn ddiogel ac yn gysylltiedig. Ychydig dros chwech mis sydd wedi mynd heibio ers i Abertawe lansio menter Cydlynu Ardaloedd Lleol gyntaf Cymru i helpu pobl i deimlo’n llai ynysig ag unig ac yn ei le yn fwy cysylltiedig â’u cymdogion a’u cymunedau a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi ganddynt. Meddai'r Cyng. Mark Child, Aelod y Cabinet dros Les a Dinas Iach, "Rwy'n falch iawn o’r gwaith y mae ein Cydlynwyr Ardaloedd Lleol yn ei wneud."

Pam mae Cydlynu Ardaloedd Lleol o bwys. Wedi’i datblygu yn wreiddiol yn Awstralia, mae Cydlynu Ardaloedd Lleol yn digwydd yma trwy waith Jon Franklin yn Sgeti, Dan Morris yn St Thomas a Bonymaen, a Ronan Ruddy yng Ngorseinon ac yng Nghasllwchwr. Mae cydlynwyr yn cymryd amser i ddod i adnabod unigolion, teuluoedd a chymunedau'n dda, gan feithrin perthynas gadarnhaol ac ymddiriedus. Gallant wedyn fod yn adnodd i unrhyw un yn y gymuned ar gyfer gwybodaeth 'fras', cyngor neu gysylltiadau ag adnoddau lleol, gallant hefyd ddarparu cymorth ychwanegol lle mae'n angenrheidiol i atal problemau pob dydd rhag troi’n argyfwng.

"Mae yna epidemig o unigrwydd ac arwahanrwydd. Os nad yw'n cael ei drin, gall hyn arwain at bobl yn dibynnu’n fwy ar wasanaethau neu'n methu byw yn annibynnol yn eu cartrefi. “Mae Cydlynu Ardaloedd Lleol yn broses wedi’i hen brofi o helpu pobl i deimlo'n llai unig ac ynysig, yn fwy mewn

rheolaeth, yn fwy diogel ac yn fwy hyderus yn y dyfodol. Ar y cyfan mae hyn yn arwain at well iechyd a lles yn y tymor hir. Meddai Jon Franklin, Cydlynydd Ardal Leol Sgeti, "Rwyf wedi treulio mwy nag 20 mlynedd yn gweithio gyda chymunedau ar draws y DU ond gallaf ddweud yn gwbl onest nad oes unrhyw beth wedi bod yn

debyg i’r rôl yma" "Nid gwneud popeth i bawb yw diben Cydlynu Ardaloedd Lleol ond bod yn gatalydd iddynt wneud cysylltiadau yn eu cymunedau, i ddarganfod ffyrdd o helpu eu hunain ac i gael hwb i’w hunanhyder trwy helpu eraill. “Yn y gorffennol pan oeddech eisiau cymorth gyda rhywbeth neu pan oeddech yn teimlo'n unig, byddech yn gofyn i gymydog. Rydym yn gwybod trwy ein gwaith fod pobl yn wir werthfawrogi'r teimlad o gymuned ac yn mwynhau cyfrannu ato." Gweler mwy o wybodaeth yn http://www.abertawe.gov.uk/article/21264/ Cydlynu-Ardaloedd-Lleol---CwestiynauCyffredin


Mawrth 2016

Arwain

I gael newyddion dyddiol am ddim, ewch i www.swansea.gov.uk/subscribe

Abertawe

Buddsoddiad yn talu ar ei ganfed i ddisgyblion MAE buddsoddiad mewn prosiectau mawr ysgolion sy'n galluogi ac yn ysbrydoli staff a disgyblion i wella canlyniadau wedi mynd dros £50 miliwn gyda mwy i ddod. O'r gwaith adnewyddu gwerth miliynau o bunnoedd i Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed i Ysgol Gynradd Tregŵyr newydd ei hagor mae'r buddsoddiad, sydd wedi’i ategu gyda grantiau gan Lywodraeth Cymru a Rhaglen AoS 2020 y cyngor, yn trawsnewid y dirwedd addysg gan wella ansawdd adeiladau ysgolion. Mae datblygiadau eleni yn cynnwys dymchwel hen Ysgol Gynradd Gymraeg Lôn-las er mwyn paratoi i ddatblygu ysgol newydd ar y safle hwnnw ac ailfodelu pellach yn Ysgol Gynradd Pentre’r Graig, Treforys. Hefyd mae contractwyr yn cael eu penodi ar gyfer cam dylunio'r gwelliannau yn Ysgol Gyfun Pentrehafod. Mae'r cyngor yn rhoi £1

miliwn ychwanegol eleni er mwyn cynnal a chadw adeiladau ysgolion i helpu llawer mwy o blant i gael eu haddysgu mewn cyfleusterau sy'n addas i'r diben. Meddai'r Cyng. Jen Raynor, Aelod y Cabinet dros Addysg, "Does dim amheuaeth fod arweinyddiaeth gref ac addysgu o safon yn hanfodol i wella addysg ond mae gallu staff i ddarparu'r addysg orau bosib yn cael ei rwystro’n ddifrifol pan na fydd y cyfleusterau sydd ganddynt yn addas i'r 21ain ganrif. "Gallwch weld yr effaith y gall y fath fuddsoddiad mewn ysgolion ei chael, megis Cefn Hengoed a gafodd ei hadnewyddu am gost o £10 miliwn yn 2012 ac eleni cafodd yr ysgol glod rhagorol gan Estyn ym mhob un o'r 15 categori, sy'n anrhydedd anghyffredin. "Mae'r llwyddiant yn adlewyrchiad o waith caled pawb yng Nghefn Hengoed ond hefyd yn llawn gyfiawnhau buddsoddiad y cyngor yn uwchraddio cyfleusterau'r • BUDDSODDIAD: Gwneud gwahaniaeth yn Ysgol Gynradd ysgol." Tregŵyr

9

Newid er gwell yn yr ysgol Fel rhan o’r rhaglen AoS, mae adeiladau yn Ysgol Gyfun Treforys wedi cael eu disodli a’u gwella ac mae ystafelloedd dosbarth newydd wedi cael eu hadeiladu yn Newton ac yng Nglyncollen. Symudwyd Ysgol Gynradd Burlais allan o adeiladau Fictoraidd i ysgol newydd ym mis Medi 2015, symudodd disgyblion Ysgol Gynradd Tregŵyr i’w hysgol newydd ym mis Ionawr eleni ac, yn ddiweddar, symudodd disgyblion Ysgol Gynradd Pentre’r Graig i ystafelloedd dosbarth newydd yng ngham cyntaf adlunio'r ysgol yn ystod hanner tymor mis Chwefror. Mae disgyblion a staff Ysgol Gynradd Gymraeg Lôn-las wedi ymgartrefu yn eu cyfleusterau dros dro ym Monymaen a bydd gwaith dymchwel yn clirio'r ffordd i adeiladu’r ysgol newydd yn y gwanwyn. Bydd mwy o ysgolion a chymunedau yn elwa o'r rhaglen hon i wella lleoliadau addysg ochr yn ochr â heriau a chefnogaeth i hybu cyrhaeddiad disgyblion ar draws y ddinas, gyda'r cyfan wedi'i ariannu a’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru.

HYSBYSIADAU CYHOEDDUS CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG ARFAETHEDIG 2015 STRYD Y PANT, ST THOMAS, ABERTAWE HYSBYSIAD: Mae'r cyngor yn bwriadu gwneud gorchymyn o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y'i diwygiwyd) y disgrifir ei effaith yn yr atodlenni isod. Mae copi o'r gorchymyn, y Datganiad o Resymau a'r cynllun yn ystod oriau swyddfa yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe. Dylid cyflwyno gwrthwynebiadau i'r gorchymyn yn ysgrifenedig, ynghyd â'r rhesymau drostynt, i gyrraedd y sawl sydd wedi llofnodi isod yn y cyfeiriad uchod erbyn 30/3/16 gan ddyfynnu'r cyfeirnod: DVT214619 ATODLENNI ATODLEN 1 DIDDYMIADAU Diddymir y gorchmynion presennol i'r graddau y maent yn anghyson â'r cynigion a nodir yn yr atodlenni isod ac i'r graddau y maent yn berthnasol i hyd neu hydoedd yr heol neu'r heolydd y cyfeirir ati/atynt yn yr atodlenni hynny. ATODLEN 2 GWAHARDD AROS AR UNRHYW ADEG Heol Dan-y-graig Ochr y de O bwynt 8 metr i'r gorllewin o'i chyffordd â Stryd y Pant i bwynt 8 metr i'r dwyrain o'r gyffordd honno. HEOL WERN FAWR Ochr y gogledd O bwynt 5 metr i'r gorllewin o'i chyffordd â Stryd y Pant i bwynt 8 metr i'r dwyrain o'r gyffordd honno.

STRYD Y PANT Y ddwy ochr 1) O'i chyffordd â Heol Dan-y-graig i bwynt 8 metr i'r de o'r gyffordd honno. 2) O'i chyffordd â Heol Wern Fawr i bwynt 5 metr i'r gogledd o'r gyffordd honno. ATODLEN 2 AROS CYFYNGEDIG AM UN AWR (DIM DYCHWELYD O FEWN DWY AWR) O DDYDD LLUN I DDYDD SADWRN 8AM I 6PM AC EITHRIO DEILIAID TRWYDDEDAU STRYD Y PANT Ochr y gorllewin O bwynt 39 metr i'r de o'i chyffordd ag ymyl balmant ddeheuol Heol Dan-y-graig i bwynt 99 metr i'r de o'r pwynt hwnnw. Ochr y dwyrain O bwynt 99 metr i'r de o'i chyffordd ag ymyl balmant ddeheuol Heol Dan-y-graig i bwynt 1559 metr i'r de o'r pwynt hwnnw. Dyddiedig: 01/03/2016 Patrick Arran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael Canolfan Ddinesig Abertawe CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG ARFAETHEDIG 2015 PARÊD PHILLIPS, HEOL PARC RHYDDINGS, WARD UPLANDS, ABERTAWE HYSBYSIAD: Mae'r cyngor yn bwriadu gwneud gorchymyn o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y'i diwygiwyd) y disgrifir ei effaith yn yr

Mae cydraddoldeb yn bwysig i ni gan fod angen pobl o’r gymuned gyfan i ddarparu gwasanaethau o safon

atodlenni isod. Mae copi o'r gorchymyn, y Datganiad o Resymau a'r cynllun yn ystod oriau swyddfa yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe. Dylid cyflwyno gwrthwynebiadau i'r gorchymyn yn ysgrifenedig, ynghyd â'r rhesymau drostynt, i gyrraedd y sawl sydd wedi llofnodi isod yn y cyfeiriad uchod erbyn 30/3/16 gan ddyfynnu'r cyfeirnod: DVT214620 ATODLENNI

O bwynt 90 metr i'r de o'i chyffordd ag ymyl balmant ddeheuol Cilgant Gwydr i bwynt 115 metr i'r de o'r gyffordd honno. ATODLEN 3 AROS YN GYFYNGEDIG I AWR (DIM DYCHWELYD O FEWN DWY AWR) O DDYDD LLUN I DDYDD SADWRN, 8AM I 6PM PARÊD PHILLIPS

ATODLEN 1

Ochr y gorllewin

DIDDYMIADAU

O bwynt 9 metr i'r de o'i chyffordd ag ymyl balmant ddeheuol lôn gefn Heol Bryn-y-môr i bwynt 15 metr i'r de o'r pwynt hwnnw.

Diddymir y gorchmynion presennol i'r graddau y maent yn anghyson â'r cynigion a nodir yn yr atodlenni isod ac i'r graddau y maent yn berthnasol i hyd neu hydoedd yr heol neu'r heolydd y cyfeirir ati/atynt yn yr atodlenni hynny.

Ochr y dwyrain O bwynt 2 metr i'r de o'i chyffordd ag ymyl balmant ddeheuol lôn gefn Heol Bryn-y-môr i bwynt 20 metr i'r de o'r pwynt hwnnw.

ATODLEN 2

ATODLEN 4

AROS CYFYNGEDIG AM UN AWR (DIM DYCHWELYD O FEWN DWY AWR) O DDYDD LLUN I DDYDD SADWRN 8AM I 6PM AC EITHRIO DEILIAID TRWYDDEDAU

GWAHARDD AROS AR UNRHYW ADEG

PARÊD PHILLIPS Ochr y gorllewin O bwynt 5 metr i'r gogledd o'i chyffordd ag ymyl balmant ogleddol lôn gefn Heol Bryny-môr i bwynt 35 metr i'r gogledd o'r pwynt hwnnw. HEOL PARC RHYDDINGS Ochr y dwyrain O bwynt 12 metr i'r de o'i chyffordd ag ymyl balmant ddeheuol Cilgant Gwydr i bwynt 30 metr i'r de o'r gyffordd honno. O bwynt 42 metr i'r de o'i chyffordd ag ymyl balmant ddeheuol Cilgant Gwydr i bwynt 60 metr i'r de o'r gyffordd honno.

HEOL PARC RHYDDINGS Ochr y dwyrain O bwynt 60 metr i'r de o'i chyffordd ag ymyl balmant ddeheuol Cilgant Gwydr i bwynt 90 metr i'r de o'r pwynt hwnnw. Dyddiedig: 01/03/2016 Patrick Arran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael Canolfan Ddinesig Abertawe


HYSBYSIADAU CYHOEDDUS CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG 2015 GWAHARDD AROS AR UNRHYW ADEG CILGANT SANT ILLTUD A CHILGANT LONGFORD, ST THOMAS, ABERTAWE HYSBYSIAD: Mae'r cyngor wedi gwneud y gorchymyn uchod o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y'i diwygiwyd) a'r holl bwerau galluogi eraill. Bydd y gorchymyn ar waith o 14 Mawrth 2016, fel y nodir yn yr atodlenni isod. Gallwch archwilio copi o'r gorchymyn a'r cynllun yn ystod oriau swyddfa yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe. Gall unrhyw berson sy'n dymuno herio dilysrwydd y gorchymyn neu'r gweithdrefnau a ddefnyddiwyd wrth wneud y gorchymyn hwn wneud cais i'r Uchel Lys o fewn 6 wythnos i ddyddiad yr hysbysiad hwn. ATODLENNI ATODLEN 1 DIDDYMIADAU Diddymir y gorchmynion presennol i'r graddau y maent yn anghyson â'r gofynion a nodwyd yn yr atodlenni isod sy'n ymwneud â hyd neu hydoedd y ffordd neu'r ffyrdd y cyfeirir atynt yn yr atodlenni hynny. ATODLEN 2 GWAHARDD AROS AR UNRHYW ADEG CILGANT SANT ILLTYD Ochr y gorllewin O'i chyffordd ag ymyl palmant deheuol Cilgant Longford i bwynt 9 metr i'r de o'r man hwnnw. CILGANT LONGFORD Yr ochr ddeheuol O'i chyffordd ag ymyl palmant gorllewinol Cilgant Illtud Sant i bwynt 14 metr i'r gorllewin o'r man hwnnw. Dyddiedig: 01/03/2016 Patrick Arran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael Canolfan Ddinesig Abertawe CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG ARFAETHEDIG 2016 'GWAHARDD AROS AR UNRHYW ADEG', HEOL STEPNEY/HEOL ABERTAWE, WAUNARLWYDD HYSBYSIR trwy hyn fod Cyngor Dinas a Sir Abertawe'n bwriadu gwneud gorchymyn yn unol â'i bwerau a gynhwysir yn Neddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y'i diwygiwyd) ("y Ddeddf") y disgrifir ei effaith yn yr atodlen(ni) isod. Gellir gweld copi o'r gorchymyn arfaethedig, y datganiad o resymau a'r cynllun yn ystod oriau swyddfa yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN. Dylech gyflwyno unrhyw wrthwynebiadau i'r cynigion yn ysgrifenedig gan nodi'r rhesymau drostynt i gyrraedd y sawl sydd wedi llofnodi isod yn y cyfeiriad uchod erbyn 31 Mawrth 2016 gan ddyfynnu cyfeirnod DVT-00214549/RDC. ATODLENNI ATODLEN 1 DIDDYMIADAU Diddymir y gorchmynion presennol i'r graddau y maent yn anghyson â'r cynigion a nodir yn yr atodlenni isod ac i'r graddau y maent yn berthnasol i hyd neu hydoedd y ffordd neu'r ffordd y cyfeirir ati/atynt yn yr atodlenni hynny.

ATODLEN 2 GWAHARDD AROS AR UNRHYW ADEG HEOL STEPNEY Ochr y Gorllewin O'i chyffordd ag ymyl llinell balmant ddeheuol Heol Abertawe am 45 metr i gyfeiriad y de. Ochr y Dwyrain O'i chyffordd ag ymyl llinell balmant ddeheuol Heol Abertawe am 30 metr i gyfeiriad y de. HEOL ABERTAWE Ochr y De O'i chyffordd ag ymyl llinell balmant orllewinol Heol Stepney am 10 metr i gyfeiriad y gorllewin. O'i chyffordd ag ymyl llinell balmant ddwyreiniol Heol Stepney am 10 metr i gyfeiriad y dwyrain. Dyddiedig: 7 Mawrth 2016 Patrick Arran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael Canolfan Ddinesig Abertawe CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG 2016 MAN LLWYTHO FFORDD Y BRENIN ABERTAWE HYSBYSIAD Mae'r cyngor wedi gwneud y gorchymyn uchod o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y'i diwygiwyd) a'r holl bwerau galluogi eraill. Bydd y gorchymyn ar waith o 14 Mawrth 2016, fel y nodir yn yr atodlenni isod. Gallwch archwilio copi o'r gorchymyn a'r cynllun yn ystod oriau swyddfa yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe. Gall unrhyw berson sy'n dymuno herio dilysrwydd y gorchymyn neu'r gweithdrefnau a ddefnyddiwyd wrth wneud y gorchymyn hwn wneud cais i'r Uchel Lys o fewn 6 wythnos i ddyddiad yr hysbysiad hwn. ATODLEN 1 DIDDYMIADAU Diddymir y Gorchmynion Traffig presennol i'r graddau y maent yn anghyson â'r gofynion a nodir yn yr atodlen isod ac i'r graddau y maent yn ymwneud â hyd neu hydoedd y ffordd/ffyrdd y cyfeirir ati/atynt yn yr atodlen isod. ATODLEN 2 LLWYTHO YN UNIG 8AM I 6PM O bwynt 29 metr i'r ogledd-ddwyrain o'i chyffordd ag ymyl palmant gogleddddwyreiniol Plas Dinefwr i bwynt 43 metr i'r gogledd o'r man hwnnw. Dyddiedig: 1 Mawrth 2016 Patrick Arran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael Canolfan Ddinesig Abertawe CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG 2015 GWAHARDD AROS AR UNRHYW ADEG HEOL Y CWMDU, Y COCYD, ABERTAWE HYSBYSIAD: Mae'r cyngor wedi gwneud y gorchymyn uchod o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y'i diwygiwyd) a'r holl bwerau galluogi eraill. Bydd y gorchymyn ar waith o 14 Mawrth

Mae cydraddoldeb yn bwysig i ni gan fod angen pobl o’r gymuned gyfan i ddarparu gwasanaethau o safon

2016, fel y nodir yn yr atodlenni isod. Gallwch archwilio copi o'r gorchymyn a'r cynllun yn ystod oriau swyddfa yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe. Gall unrhyw berson sy'n dymuno herio dilysrwydd y gorchymyn neu'r gweithdrefnau a ddefnyddiwyd wrth wneud y gorchymyn hwn wneud cais i'r Uchel Lys o fewn 6 wythnos i ddyddiad yr hysbysiad hwn. ATODLENNI ATODLEN 1: DIDDYMIADAU Diddymir y gorchmynion presennol i'r graddau y maent yn anghyson â'r cynigion a nodir yn yr atodlenni isod ac i'r graddau y maent yn berthnasol i hyd neu hydoedd yr heol neu'r heolydd y cyfeirir ati/atynt yn yr atodlenni hynny. ATODLEN 2: GWAHARDD AROS AR UNRHYW ADEG HEOL Y CWMDU Ochr y gogledd-orllewin O'i chyffordd ag ymyl palmant de-orllewinol Heol Caerfyrddin am 210 metr i gyfeiriad cyffredinol y de-orllewin. Ochr y de-ddwyrain O'i chyffordd ag ymyl palmant de-orllewinol Heol Caerfyrddin am 215 metr i gyfeiriad cyffredinol y de-orllewin. FFORDD FYNEDIAD SIOP ALDI Y Ddwy Ochr O'i chyffordd ag ymyl palmant deddwyreiniol Heol y Cwmdu i bwynt 15 metr i'r de-ddwyrain o'r man hwnnw. HEOL FYNEDIAD I MCDONALDS A SIOP MATALAN Y ddwy ochr O'i chyffordd ag ymyl palmant gogleddorllewinol Heol y Cwmdu i bwynt 18 metr i'r gogledd o'r man hwnnw. Er eglurder mae'r gorchmynion a nodwyd uchod yn cynnwys hyd at y briffordd bresennol a fabwysiadwyd. Dyddiedig: 01/03/2016 Patrick Arran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael Canolfan Ddinesig Abertawe CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG 2016 ‘GWAHARDD AROS AR UNRHYW ADEG’ CRICKHOWELL PLACE/HEOL MANSEL, BONYMAEN, ABERTAWE HYSBYSIR trwy hyn fod Cyngor Dinas a Sir Abertawe wedi gwneud y gorchymyn uchod o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig 1984 (fel y'i diwygiwyd) a'r holl bwerau galluogi eraill. Bydd y gorchymyn ar waith o 14 Mawrth 2016, fel y nodir yn yr atodlenni isod. Gellir gweld copi o'r gorchymyn a'r cynllun yn ystod oriau swyddfa yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe. Caiff unrhyw un sy'n dymuno herio dilysrwydd y gorchymyn neu'r gweithdrefnau a ddefnyddiwyd wrth wneud y gorchymyn hwn wneud cais i'r Uchel Lys o fewn 6 wythnos i ddyddiad yr hysbysiad hwn. ATODLENNI ATODLEN 1 DIDDYMIADAU Diddymir y gorchmynion presennol i'r graddau y maent yn anghyson â'r cynigion a nodir yn yr atodlenni isod sy'n ymwneud â hyd neu hydoedd y ffordd neu'r ffyrdd y cyfeirir ati/atynt yn yr atodlenni hynny.

ATODLEN 2 GWAHARDD AROS AR UNRHYW ADEG CRICKHOWELL PLACE Ochr y Gogledd-ddwyrain O'i chyffordd ag ymyl palmant gogleddorllewinol Heol Mansel am 65 metr i gyfeiriad y gogledd-orllewin yn gyffredinol. Ochr y De-orllewin O'i chyffordd ag ymyl palmant gogleddorllewinol Heol Mansel am 50 metr i gyfeiriad y gogledd-orllewin ac yna i gyfeiriad y de-orllewin. HEOL MANSEL Ochr y Gogledd-orllewin O bwynt 5 metr i'r de o ymyl palmant deorllewinol Crickhowell Place i bwynt 13 metr i'r gogledd o ymyl palmant gogleddddwyreiniol Crickhowell Place. Dyddiedig: 07/03/2016 Patrick Arran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael Canolfan Ddinesig Abertawe CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG 2016 ‘GWAHARDD AROS AR UNRHYW ADEG’ HEOL VICTORIA, PONTYBRENIN, ABERTAWE HYSBYSIR trwy hyn fod Cyngor Dinas a Sir Abertawe wedi gwneud y gorchymyn uchod o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig 1984 (fel y'i diwygiwyd) a'r holl bwerau galluogi eraill. Bydd y gorchymyn ar waith o 14 Mawrth 2016, fel y nodir yn yr atodlenni isod. Gellir gweld copi o'r gorchymyn a'r cynllun yn ystod oriau swyddfa yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe. Caiff unrhyw un sy'n dymuno herio dilysrwydd y gorchymyn neu'r gweithdrefnau a ddefnyddiwyd wrth wneud y gorchymyn hwn wneud cais i'r Uchel Lys o fewn 6 wythnos i ddyddiad yr hysbysiad hwn. ATODLENNI ATODLEN 1 DIDDYMIADAU Diddymir y gorchmynion presennol i'r graddau y maent yn anghyson â'r cynigion a nodir yn yr atodlenni isod sy'n ymwneud â hyd neu hydoedd y ffordd neu'r ffyrdd y cyfeirir ati/atynt yn yr atodlenni hynny. ATODLEN 2 GWAHARDD AROS AR UNRHYW ADEG HEOL VICTORIA (Y B4296) Ochr y Gorllewin O'i chyffordd ag ymyl palmant deheuol Heol Casllwchwr i bwynt 68 metr i'r de o hynny. O bwynt 80 metr i'r de o ymyl palmant deheuol Heol Casllwchwr i'w chyffordd ag ymyl palmant gogleddol yr A484. Ochr y Dwyrain O'i chyffordd ag ymyl palmant deheuol Heol Abertawe i bwynt 112 metr i'r de o hynny. O bwynt 124 metr i'r de o ymyl palmant deheuol Heol Abertawe i'w chyffordd ag ymyl palmant gogleddol yr A484. Dyddiedig: 07/03/2016 Patrick Arran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael Canolfan Ddinesig Abertawe

Parhad ar y dudalen nesaf


or ein helpu i wneud hyn i gyd a mwy... DIGWYDDIADAU yn Abertawe 2016 EBRILL

I 2 Ebrill Diwrnod Dreigiau a Daeargelloedd Castell Ystumllwynarth I 14 Ebrill Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC: Rhapsody in Blue Brangwyn I 23 Ebrill Ras Enfys Tˆy Hafan Bae Abertawe I 26 Ebrill Black Kettle Collective Glynn Vivian Oddi ar y Safle yn y YMCA I 30 Ebrill Diwrnod Hanes Byw Canoloesol Castell Ystumllwynarth

I 16 Mehefin Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC: Mahler 1 Brangwyn ˆ I 17-19 Mehefin Gwyl Jazz Ryngwladol Abertawe Lleoliadau amrywiol ˆ I 19 Mehefin Gwyl Gludiant Abertawe Canol Dinas Abertawe

I 19 Mehefin Taith Feicio SPG Abertawe I 26 Mehefin Hanner Marathon JCP Abertawe Canol Dinas Abertawe

GORFFENNAF MAI

I 1-31 Mai Gerddi Clun yn eu Blodau Gerddi Clun I 7 Mai Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC: Straeon Symffonig Brangwyn I 29 Mai Taith Dywys: Abertawe Dylan Canolfan Dylan Thomas

MEHEFIN

I 12 Mehefin Sioe Beiciau Modur Clasurol Sgwâr Dylan Thomas

I 2 a 3 Gorffennaf Sioe Awyr Genedlaethol Cymru Bae Abertawe I 9 a 10 Gorffennaf Diwrnodau Dawns Lleoliadau amrywiol I 23 Gorffennaf Diwrnod Hwyl Archaeoleg Castell Ystumllwynarth I 23 Gorffennaf Ras 5k Fwdlyd Iawn Parc Singleton I 24 Gorffennaf Ras am Fywyd Parc Singleton I 31 Gorffennaf Ras Rafftiau RNLI y Mwmbwls y Mwmbwls

AWST I 1-31 Awst Gerddi Botaneg yn eu Blodau Gerddi Botaneg Singleton I 13 a 20 Awst Gweithdy Celf gyda’r artist lleol Sara Holden Castell Ystumllwynarth I 14 Awst Drama: The Sad Dragon Castell Ystumllwynarth ˆ I 25-27 Awst Gwyl Bae Seidr a Cwrw Abertawe Brangwyn I 28 Awst Taith Dywys: Abertawe Dylan Canolfan Dylan Thomas I 29 Awst Diwrnod Tywysogion a Thywysogesau Castell Ystumllwynarth

MEDI

I 10 Medi Drysau Agored Castell Ystumllwynarth I 18 Medi Rasys 10k ac Iau Bae Abertawe Admiral Bae Abertawe

HYDREF

ˆ I 21 a 22 Hydref Gwyl Gwrw Almaenaidd Brangwyn I 29 Hydref Parti Fampirod Calan Gaeaf Castell Ystumllwynarth


Y llynedd, gwnaeth eich treth y cyngo


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.