Arwain Abertawe Tachwedd 2014

Page 1

Arwain Abertawe tu mewn

Papur newydd Dinas a Sir Abertawe

Rhifyn 94

Tachwedd 2014

Amser Panto

Canol y Ddinas

Ar eu gorau

Stori glasurol Antur Eira Wen

Buddsoddi mewn syniadau gwych ar y gorwel

Sut mae disgyblion yn gwneud yn fawr o fywyd ysgol

tudalen 3

tudalen 6

tudalen 7

BYDD gan breswylwyr y cyfle i ddweud eu dweud ar ddyfodol gwasanaethau eu cyngor dros yr wythnosau nesaf. Mae sesiynau galw heibio, gweithgareddau ar-lein a chyfarfodydd gyda grwpiau a sefydliadau lleol i gyd ar yr agenda wrth i'r cyngor barhau â'r sgwrs am wasanaethau cynaliadwy sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Ac mae miloedd o lyfrynnau hefyd yn cael eu dosbarthu i ganolfannau cymunedol, llyfrgelloedd, swyddfeydd tai rhanbarthol ac adeiladau cyhoeddus eraill er mwyn i bobl leol ddarganfod mwy am Abertawe Gynaliadwy – Yn Addas i’r Dyfodol, rhaglen y cyngor ar gyfer rheoli dros £70 miliwn o ostyngiadau yn y gyllideb a newidiadau sylweddol i wasanaethau dros y blynyddoedd sydd i ddod. Bydd pobl yn gallu derbyn cipolwg ar yr heriau sy'n wynebu'r cyngor yn ogystal â chael y cyfle i gynnig adborth a syniadau ar yr hyn y gallant ei wneud er mwyn helpu. Meddai Dean Taylor,

gwybodaeth

Ymunwch yn y drafodaeth am ddyfodol ein dinas SUT gallwch chi ymuno yn y drafodaeth: • Casglwch lyfryn o'ch llyfrgell, canolfan hamdden neu ganolfan gymunedol leol • Ewch ar-lein i www.abertawe.gov.uk/sustainableswansea • Dilynwch ni ar Twitter @cyngorabertawe #dinasgynaliadwy neu @swanseacouncil #sustainablecity • Dilynwch ni ar Facebook

Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, "Fel pob cyngor yng Nghymru, mae Abertawe yn wynebu gostyngiadau cyllidebol sylweddol gan Lywodraeth Cymru. "Ond mae'n fwy na gostyngiadau yn y gyllideb. Hyd yn oed pe na bai rhaid i'r cyngor wynebu'r realiti ariannol hwn, byddai'n rhaid i ni edrych ar yr hyn y byddwn ni'n ei wneud yn y dyfodol o ganlyniad i'r galw cynyddol mewn meysydd megis gofal i bobl hŷn, yn ogystal â'r angen i newid y ffordd y mae rhai gwasanaethau yn cael eu cyflwyno." Dywedodd fod annog pobl leol i barhau â'r sgwrs am Abertawe Gynaliadwy yn hanfodol gan fod angen cynnal trafodaethau am sut y gall preswylwyr a chymunedau helpu eu hunain yn y

blynyddoedd i ddod yn lle ar y cyd â'r cyngor. Meddai, "Yr hyn sydd angen i ni fel preswylwyr, cymunedau a chyngor lleol ei wneud yw adeiladu ar y math hwn o lwyddiant. Mae angen i ni leihau'r galw am wasanaethau, gwneud pethau'n wahanol a phan fydd achos dros wneud hynny - gael gwared ar wasanaethau nad oes eu hangen mwyach. "Dros yr wythnosau sydd i ddod, dyma'r math o drafodaethau sydd angen eu cynnal er mwyn i'r cyngor allu gwrando ar breswylwyr, cymunedau a grwpiau er mwyn gweld yr hyn y byddant yn ei wneud drostynt eu hunain. Byddwn yn ystyried yr adborth ac yn gwneud penderfyniadau ond ddim nes bod y preswylwyr wedi dweud eu dweud."

• SWNIO'N WYCH: Tom Leckie yn derbyn sylw o ganlyniad i Rho 5 Llun gan Jason Rogers

Cyfle mawr Tom MAE’R DJ addawol a'r enillydd Gwobr Rho 5, Tom Leckie, ar ben ei ddigon ar ôl derbyn lle mewn clwb nos yn y ddinas. Roedd Tom yn un o'r enillwyr Gwobrau Rho5 a gefnogir gan y cyngor, a'i wobr oedd cyfle i fod yn DJ yn y Monkey Bar. Meddai, "Mae'r Gwobrau Rho 5 yn ardderchog. Ni allaf gredu fy mod wedi

ennill, ond y peth gorau oedd y wobr wych, sef cyfle i fod yn DJ yn y Monkey Bar. Roedd yn syndod mawr. Mae'n anodd iawn cael eich cyfle cyntaf ac mae Rho 5 wedi agor y drws i mi. Rwyf mor gyffrous! Mae mwy o wybodaeth am y bobl ifanc a dderbyniodd gydnabyddiaeth am eu hymrwymiad i'w cymunedau ar dudalen 5.

HEFYD: Eich arweiniad hwylus i ailgylchu'r Nadolig hwn - gweler y tudalennau canol


Arwain

2

Abertawe

Rhifau ffôn defnyddiol Canolfannau Hamdden Abertawe Actif Penlan 01792 588079 Treforys 01792 797082 Penyrheol 01792 897039 Cefn Hengoed 01792 798484 Pentrehafod 01792 641935 Canolfan Chwaraeon Llandeilo Ferwallt 01792 235040 Canolfan Tenis Abertawe 01792 650484 Priffyrdd Carthffosydd - 24 awr 0800 0855937 Draenio - dydd Llun i ddydd Gwener 01792 636121 Difrod i ffyrdd etc 0800 132081 Materion eraill yn ymwneud â phriffyrdd 01792 843330

am holl wybodaeth y cyngor, ewch i www.abertawe.gov.uk

Cysylltwch â’ch cynghorydd LLANDEILO FERWALLT Keith MARSH: (Ann) Cllr.Keith.Marsh@swansea.gov.uk 01792 233735

BONYMAEN Mandy EVANS: (Llaf) Cllr.Mandy.Evans@swansea.gov.uk 01792 642387 or 07852 280252 Paul LLOYD: (Llaf) Cllr.Paul.Lloyd@swansea.gov.uk 01792 774482 or 07789167128

Atgyweiriadau (tenantiaid y tu allan i oriau arferol) 01792 521500 Y Gwasanaethau Cymdeithasol Ymholiadau Cyffredinol 01792 636110 Tîm Archwillo Mynediad Plant a Theuluoedd 01792 635700 Tîm Derbyn yr Henoed a’r Anabl 01792 636519 Anableddau Plant, Cefnogi Teuluoedd 01792 635700 Addysg Y prif rif 01792 636560 Yr Amgylchedd 01792 635600 Prif Switsfwrdd y Cyngor 01792 636000

Cysylltwch ag Arwain Abertawe I gysylltu â’r tîm newyddion ffoniwch 01792 636092

Mae nifer o'r cyfeiriadau e-bost presennol yn parhau i gael eu defnyddio. Fodd bynnag, os byddwch yn anfon e-bost at hen gyfeiriad e-bost

PENYRHEOL Jan Curtice: (Llaf) Cllr.Jan.Curtice@swansea.gov.uk 01792 417563 or 07841 580604

PONTARDDULAIS Philip Downing: (Llaf) Cllr.Philip.Downing@swansea.gov.uk

01792 884351 or 07929 377157 Jane Harris: (Llaf) Cllr.Jane.Harris@swansea.gov.uk 01792 884339 or 07775 561909

TREFORYS

SGETI

Sybil CROUCH: (Llaf) Cllr.Sybil.Crouch@swansea.gov.uk 01792 646004 or 07929 053858

Richard LEWIS: (Dem Rhydd) Cllr.Richard.Lewis@swansea.gov.uk 01792 390368

John DAVIES: (Llaf) Cllr.John.Davies@swansea.gov.uk 01792 773362

Mike Day: (Dem Rhydd) Cllr.Mike.Day@swansea.gov.uk 01792 297792

Robert FRANCIS-DAVIES: (Llaf) Cllr.Robert.Davies@swansea.gov.uk 01792 427189 or 07812 635401

Prof Paul MEARA: (Dem Rhydd)

Andrea LEWIS: (Llaf) Cllr.Andrea.Lewis@swansea.gov.uk 07584 670061

Cheryl Philpott: (Dem Rhydd) Cllr.Cheryl.Philpott@swansea.gov.uk 01792 296481

CILA DEHEUOL

Yvonne JARDINE: (Llaf) Cllr.Yvonne.Jardine@swansea.gov.uk 01792 814894

T Huw REES: (Dem Rhydd) Cllr.Huw.Rees@swansea.gov.uk 01792 201726

Jeff JONES: (Dem Rhydd) Cllr.Jeff.Jones@swansea.gov.uk 01792 204136 or 07812 349524

Rob STEWART: (Llaf) Cllr.Rob.Stewart@swansea.gov.uk 01792 549417 or 07717 840837

June STANTON: (Dem Rhydd) Cllr.June.Stanton@swansea.gov.uk 01792 207935

PONTYBRENIN

MYNYDDBACH

ST THOMAS

William EVANS: (Llaf) Cllr.William.Evans@swansea.gov.uk 01792 895058

Byron OWEN: (Llaf) Cllr.Byron.Owen@swansea.gov.uk 01792 774370

Joe HALE: (Llaf) Cllr.Joe.Hale@swansea.gov.uk 01792 428866

Gloria TANNER: (Llaf) Cllr.Gloria.Tanner@swansea.gov.uk 01792 421119 or 07986 515038

Clive LLOYD: (Llaf) Cllr.Clive.Lloyd@swansea.gov.uk 01792 468317 or 07862 702755

Ceinwen THOMAS: (Llaf)

TOWNHILL

Cllr.Ceinwen.Thomas@swansea.gov.uk

NEWTON

Nick BRADLEY: (Llaf) Cllr.Nick.Bradley@swansea.gov.uk 01792 474715

Miles THOMAS: (Ceid) Cllr.Miles.Thomas@swansea.gov.uk 01792 367241 or 07778 596973

David HOPKINS: (Llaf) Cllr.David.Hopkins@swansea.gov.uk 01792 655956

Fiona GORDON: (Llaf) Cllr.Fiona.Gordon@swansea.gov.uk 07859 090707 Erika KIRCHNER: (Llaf) Cllr.Erika.Kirchner@swansea.gov.uk 01792 428071 or 07974 145304 David PHILLIPS: (Llaf) Cllr.David.Phillips@swansea.gov.uk 01792 646004

CLYDACH Paulette SMITH: (Llaf) Cllr.Paulette.Smith@swansea.gov.uk 01792 843423 or 07977 412780 Gordon WALKER: (Llaf) Cllr.Gordon.Walker@swansea.gov.uk 01792 842255 or 07794 534563

COCED Ann COOK: (Llaf) Cllr.Ann.Cook@swansea.gov.uk 01792 539791 Andrew JONES: (Llaf) Cllr.Andrew.Jones@swansea.gov.uk 07549 609627 Geraint OWENS: (Llaf) Cllr.Geraint.Owens@swansea.gov.uk 07784 918823 Mitchell THEAKER: (Llaf) Cllr.Mitch.Theaker@swansea.gov.uk 07805203417

CWMBWRLA Peter BLACK: (Dem Rhydd) Cllr.Peter.Black@swansea.gov.uk 01792 473743

TREGWYR Susan JONES: (Ann@Abertawe) Cllr.Susan.Jones@swansea.gov.uk 01792 872561

CILA GOGLEDDOL Mary JONES: (Dem Rhydd) Cllr.Mary.Jones@swansea.gov.uk 01792 204136 or 07814698469

GLANDWR Beverley HOPKINS: (Llaf) Cllr.Bev.Hopkins@swansea.gov.uk 01792 655956 Mike WHITE: (Llaf) Cllr.Mike.White@swansea.gov.uk 01792 643354

LLANGYFELACH Gareth SULLIVAN:(Ann@Abertawe) Cllr.Gareth.Sullivan@swansea.gov.uk

01792 773441

LLANSAMLET Bob CLAY: (Llaf) Cllr.Bob.Clay@swansea.gov.uk 01792 813997 Uta CLAY: (Llaf) Cllr.Uta.Clay@swansea.gov.uk 01792 813997 or 07970 052389

Chris HOLLEY: (Dem Rhydd) Cllr.Chris.Holley@swansea.gov.uk 01792 809668

Ryland DOYLE: (Llaf) Cllr.Ryland.Doyle@swansea.gov.uk 01792 794500

Graham THOMAS: (Dem Rhydd)

Penny MATTHEWS: (Llaf)

Cllr.Graham.Thomas@swansea.gov.uk

Cllr.Penny.Matthews@swansea.gov.uk

01792 416467

01792 795666

DYFNANT

CASWLLCHWR

John NEWBURY: (Dem Rhydd) Cllr.John.Newbury@swansea.gov.uk 01792 201220

Christine RICHARDS: (Llaf)

Jennifer RAYNOR: (Llaf) 01792 207807

I gael y papur newydd hwn mewn fformat gwahanol ffoniwch 636226, ffôn testun 636733

Cllr.EnwCyntaf.Cyfenw@abertawe.gov.uk

cynghorydd sydd wedi cael ei ddileu, byddwch yn derbyn ymateb yn eich cynghori i e-bostio'r cyfeiriad e-bost newydd. Mae cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn pob cynghorydd ar y dudalen hon. Gallwch gael mwy o wybodaeth am eich cynghorydd lleol, y gwaith mae'n yn ei wneud a'r rolau sydd ganddo yn y cyngor trwy fynd i www.abertawe.gov.uk/councillors

GWYR

Cllr.Jennifer.Raynor@swansea.gov.uk

Arwain Abertawe yw papur newydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe

RYDYM wedi creu cyfeiriadau e-bost newydd i gynghorwyr y ddinas er mwyn helpu i'w gwneud yn fwy cyson i breswylwyr eu dilyn. Y fformat yw:

CASTELL

Tai Y prif rif 01792 636000

Tachwedd 2014

FAIRWOOD Paxton HOOD-WILLIAMS: (Ceid) Cllr.Paxton.HoodWilliams@swansea.gov.uk 01792 872038 or 07939 467566

GORSEINON David LEWIS: (Llaf) Cllr.David.Lewis@swansea.gov.uk 01792 894929

Cllr.Christine.Richards@swansea.gov.uk

01792 896069

TREUCHAF Robert SMITH: (Llaf) Cllr.Robert.Smith@swansea.gov.uk 01792 898323

MAWR Ioan RICHARD: (People’s Rep) Cllr.Ioan.Richard@swansea.gov.uk 01792 843861

01792 702451 or 07828 640422

YSTUMLLWYNARTH Tony COLBURN: (Ceid) Cllr.Tony.Colburn@swansea.gov.uk 01792 362457

PENCLAWDD Mark THOMAS: (Llaf) Cllr.Mark.Thomas@swansea.gov.uk 01792 851397 or 07794 017704

PENDERI June BURTONSHAW: (Llaf) Cllr.June.Burtonshaw@swansea.gov.uk

01792 581407 Terry HENNEGAN: (Llaf)

UPLANDS John BAYLISS: (Llaf) Cllr.John.Bayliss@swansea.gov.uk 07936 349314 Nick DAVIES: (Llaf) Cllr.Nick.Davies@swansea.gov.uk 07951 342740 Neil WOOLLARD: (Llaf) Cllr.Neil.Woollard@swansea.gov.uk 07515 353198

01792 546554

UN SEDD WAG adeg cyhoeddi

Hazel MORRIS: (Llaf) Cllr.Hazel.Morris@swansea.gov.uk 01792 416520

WEST CROSS

PENLLERGAER Wendy FITZGERALD:(Ann@Abertawe) Cllr.Wendy.Fitzgerald@swansea.gov.uk

01792 895330

PENNARD Lynda JAMES: (Ann) Cllr.Lynda.James@swansea.gov.uk 01792 234316 or 07789 816374

PENYRHEOL

Linda TYLER-LLOYD: (Ceid)

David COLE: (Llaf)

01792 204662

Lesley WALTON: (Llaf) Cllr.Lesley.Walton@swansea.gov.uk 07503 702327

Cllr.Terry.Hennegan@swansea.gov.uk

Y MAYALS Cllr.Linda.Tyler-Lloyd@swansea.gov.uk

Cllr.Paul.Meara@swansea.gov.uk 01792 202578

Cllr.David.Cole@swansea.gov.uk 01792 895602

Mark CHILD: (Llaf) Cllr.Mark.Child@swansea.gov.uk 01792 518473 Des THOMAS: (Llaf) Cllr.Des.Thomas@swansea.gov.uk 01792 404288

ALLWEDD Llaf - Llafur Dem Rhydd - Democratiaid Rhyddfrydol Ceid - Ceidwadol Ann - Annibynnol Ann@Abertawe Annibynnol@Abertawe Cyn y Bobl - Cynrychiolaeth y Bobl


i gael y newyddion dyddiol am ddim, ewch i www.abertawe.gov.uk/subscribe

Arwain

Abertawe eich arweiniad i gyfarfodydd y cyngor

Tachwedd 2014

3

Dyddiadau pwysig y cyngor CROESO i’ch arweiniad i gyfarfodydd y cyngor. Cynhelir mwyafrif y cyfarfodydd yn y Ganolfan Ddinesig, ond noder y gallech gael eich atal rhag mynd i gyfarfod neu ran ohono. Roedd y rhestr hon yn gywir pan gafodd ei hargraffu, ond os ydych yn ystyried mynd, ffoniwch 01792 636000 cyn gadael i gadarnhau’r lleoliad a’r amser. Gallwch gasglu manylion yr agenda drwy fynd i wefan y cyngor yn http://bit.ly/councildiary 11 Tachwedd

Pwyllgor Rheoli Datblygiad Ardal 1, 2pm 14 Tachwedd Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol, 10.30am

• APÊL AFALAU: Bydd Eira Wen a'r Saith Corrach yn brwydro yn erbyn y Frenhines anfad bob nos yn Theatr y Grand

EFALLAI bod peth amser cyn i chi dynnu'ch addurniadau allan a rhoi'ch twrci yn y ffwrn, ond mae dathliadau'r Nadolig ar fin dechrau ar draws Abertawe. Mae Gwledd y Gaeaf ar y Glannau, Gorymdaith y Nadolig a dychweliad y pantomeim blynyddol yn Theatr y Grand ymysg y digwyddiadau Nadoligaidd y gall pobl edrych ymlaen atyn nhw. Cynhelir Gwledd y Gaeaf ar y Glannau ym Mharc yr Amgueddfa rhwng 14 Tachwedd a 4 Ionawr. Bydd yn cynnwys Groto Siôn Corn a dau lyn iâ - prif lyn iâ Admiral a llyn iâ llai i blant. Bydd ffair hefyd, gyda reid newydd ar gyfer 2014. Cynhelir Gorymdaith flynyddol y

panto

Y ddinas yw’r lle gorau i gyfrif y dyddiau tan y Nadolig - o, ie yn wir! MAE John Partridge, a chwaraeodd Christian Clarke yn EastEnders, yn un o'r sêr yn y panto rhyfeddol eleni yn Theatr y Grand - trît parhaol y Nadolig, Eira Wen a'r Saith Corrach. Noson agoriadol yr antur

Nadolig ddydd Sul 16 Tachwedd pan fydd Siôn Corn yn ymweld â chanol y ddinas i gynnau goleuadau'r Nadolig. Mae'n dechrau am 5pm y tu allan i Ganolfan Dylan Thomas cyn mynd trwy ganol y ddinas ar y ffordd i Neuadd y Ddinas. Mae trîts eraill y Nadolig yn cynnwys Marchnad y Nadolig ar Stryd Rhydychen o 28 Tachwedd tan 21 Rhagfyr, a detholiad o

ENILLWCH

glasurol hon gyda newid modern, caneuon, gwisgoedd a Kevin Johns fel Nyrs yw 12 Rhagfyr. Mae tocynnau ar gael ar-lein yn www.abertawe.gov.uk/theatry grandabertawe neu drwy ffonio 01792-475715

ddigwyddiadau a gweithgareddau Nadoligaidd ym Marchnad Abertawe. Bydd y farchnad hefyd yn agor ar ddydd Sul ym mis Rhagfyr yn y cyfnod cyn y Nadolig. Meddai Tracey McNulty, Pennaeth Gwasanaethau Diwylliannol Cyngor Abertawe, "Mae'r Nadolig bob amser yn gyfnod arbennig yn Abertawe a fydd hi ddim yn wahanol eleni. "Mae'r cyfuniad o ddigwyddiadau

...ymweliad i’r teulu â

Gwledd y Gaeaf ar y Glannau Enw: Cyfeiriad: Côd Postt : Cyfeiriad e-bost: Y dyddiad 1 Rhagfyr yddiad cau yw 5.00pm, 5 Rhagfyr 2014 Amodau a thelerau yn www www.nadoligabertawe.com .nadoligabertawe.com m

sy'n dychwelyd fel Gwledd y Gaeaf ar y Glannau a Gorymdaith y Nadolig gyda'r pantomeim blynyddol yn Theatr y Grand, cyngherddau, gweithdai gwneud cardiau, troeon ar gefn asyn a gweithgareddau eraill yn helpu i sicrhau rhywbeth i bawb. "Rydyn ni wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y Nadolig hwn mor fythgofiadwy ag erioed i breswylwyr ac ymwelwyr â'r ddinas." Mae digwyddiadau eraill y Nadolig yn cynnwys Groto Siôn Corn yn Plantasia ar 7 a 14 Rhagfyr a bydd arddangosfa yn Amgueddfa Abertawe rhwng 14 Tachwedd ac 11 Ionawr yn edrych ar draddodiadau, teganau ac addurniadau'r Nadolig. Mae mwy o wybodaeth yn www.nadoligabertawe.com

18 Tachwedd Pwyllgor Rheoli Datblygiad Ardal 2, 2pm Y Cabinet, 5pm 19 Tachwedd Pwyllgor Cydraddoldeb, 5pm 24 Tachwedd Pwyllgor y Rhaglen Graffu, 4.30pm 27 Tachwedd Pwyllgor Archwilio, 3pm 2 Rhagfyr Y Cyngor, 5pm 4 Rhagfyr Pwyllgor Rheoli a Rheolaeth Datblygu, 5pm 9 Rhagfyr Pwyllgor Rheoli Datblygiad Ardal 1, 2pm 12 Rhagfyr Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol, 10.30am

Parc yr Amgueddfa 14 Tachwedd 20144 Ionawr 2015 I ennill ymweliad i’r teulu â Gwledd y Gaeaf ar y Glannau gan gynnwys sglefrio iâ, reidiau yn y ffair ac ymweliad â Groto Siôn Corn, cwblhewch y ffurflen isod a’i chyflwyno i’r tŷ sglefrio yng Ngwledd y Gaeaf ar y Glannau neu gwnewch gais yn www.nadoligabertawe.com

16 Rhagfyr Pwyllgor Rheoli Datblygiad Ardal 2, 2pm Y Cabinet, 5pm 17 Rhagfyr Pwyllgor Cydraddoldeb, 5pm 22 Rhagfyr Pwyllgor y Rhaglen Graffu, 4.30pm

Eich Arwain Abertawe DAW Arwain Abertawe atoch chi drwy'r Post Brenhinol. Fodd bynnag, ni chefnogir unrhyw bost a allai gyrraedd ar yr un pryd ag Arwain Abertawe gan Ddinas a Sir Abertawe mewn unrhyw ffordd.


4

Arwain

Abertawe

Tachwedd 2014

Mae holl wybodaeth y cyngor ar gael yn www.abertawe.gov.uk

Abertawe Gynaliadwy - Parhau â'r Sgwrs.................... Crynodeb o egwyddorion y gyllideb

Cwestiynau

RYDYM yn gofyn i breswylwyr feddwl am rai cwestiynau allweddol, megis beth maent yn ei feddwl yw'r blaenoriaethau tymor hir ar gyfer Abertawe, pa wasanaethau maent yn eu gwerthfawrogi fwyaf a pha wasanaethau y gallai'r cyngor roi terfyn arnynt er mwyn amddiffyn y gwasanaethau pwysicaf? Rydym hefyd yn eu holi am syniadau ar ba gamau gweithredu y maent yn barod i'w cymryd i ddarparu gwasanaethau cymunedol drostynt eu hunain neu i eraill, naill ai yn lle'r cyngor neu ar y cyd.

• DYFODOL CYNALIADWY: Plant a phobl ifanc wrth wraidd dyfodol y ddinas.

Helpwch i lywio dyfodol gwasanaethau’r ddinas MAE gan gymunedau a phreswylwyr yn Abertawe gyfle i chwarae rhan sylweddol i lywio dyfodol eu dinas ar y cyd â'u cyngor. Mae Abertawe Gynaliadwy - Yn Addas i'r Dyfodol, rhaglen drawsnewid y cyngor, yn ymwneud â rheoli dyfodol lle bydd llai o arian i ddarparu gwasanaethau i bobl leol. Ond ar ben hynny, mae'n edrych ar sut gall cymunedau wneud mwy o bethau drostynt eu hunain yn ogystal â helpu'r cyngor i wneud pethau'n wahanol i ateb galw cynyddol a disgwyliadau newidiol preswylwyr. Dywedodd Dean Taylor, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, y bydd y ddadl am ddyfodol y ddinas a gwasanaethau'r cyngor yn seiliedig ar egwyddorion y gyllideb y cytunodd y cyngor arnynt ar

Wel, am syniad da

MAE ffynnon ganoloesol a oedd yn arfer cyflenwi Castell hanesyddol Abertawe yn cael ei chofio am byth. Mae gorchudd ffynnon addurnedig sy'n nodi ei lleoliad wedi'i osod fel rhan o brosiect i

weddnewid beili'r atyniad hynafol. Roedd gwaith arall i'r beili'n cynnwys gosod glaswellt a cherrig pennant er mwyn gallu ei ddefnyddio i gynnal gweithgareddau ac i'w wneud yn fan cyfarfod.

y Ddadl

MAE egwyddorion ein cyllideb a'n strategaeth gynilo wedi cynnwys adolygiad o wariant ar draws yr holl wasanaethau. Maent yn cynnwys ymrwymiad i adolygu pob maes gwariant, cefnogi'r rhai sydd mewn perygl neu mewn tlodi, darparu gwasanaethau mewn ffordd wahanol, lleihau tâp coch, cynyddu incwm drwy godi tâl llawn am wasanaethau ac annog preswylwyr a chymunedau i helpu eu hunain fel rhan o wasanaethau cynaliadwy. Egwyddorion y gyllideb: • Mae popeth wedi'i gynnwys. Byddwn yn adolygu pob maes gwariant. • Cefnogi'r rhai sydd mewn perygl gan ganolbwyntio ar gefnogi'r rhai diamddiffyn. • Bydd dewisiadau'n seiliedig ar dystiolaeth o angen. • Bydd llai o arian i'w wario. • Bydd y cyngor yn parhau i fod mor effeithlon â phosib drwy leihau costau a thâp coch. • Cynyddu incwm drwy godi tâl llawn am wasanaethau a lleihau cymorthdaliadau. • Ystyried darparu gwasanaethau mewn ffyrdd gwahanol. • Atal ac ymyrryd yn gynnar a rheoli galw. • Annog mwy o breswylwyr i helpu eu hunain.

Y PEDWAR prif faes ar gyfer y ddadl a chamau gweithredu yw: • Effeithlonrwydd - Sut gall y cyngor barhau i leihau ein gorbenion i fod yn gallach, mwy effeithiol ac effeithlon? • Ffyrdd newydd o wneud pethau - Sut gall technoleg newydd, darparu gwasanaethau gyda neu gan sefydliadau eraill neu wneud pethau'n wahanol leihau costau a/neu wella gwasanaethau?

ôl ymgynghori â phreswylwyr y llynedd. Meddai, "Ers i ni lansio Abertawe Gynaliadwy - Yn Addas i'r Dyfodol y llynedd, rydym eisoes wedi gwneud nifer o newidiadau. "Y llynedd, gwnaethom holi pobl am egwyddorion ein cyllideb a chafwyd cytundeb eang arnynt. Gwnaethom hefyd gynnal nifer o sesiynau galw heibio ar y gyllideb,

• Atal - Sut gallwn atal yr angen am wasanaethau drutach yn y dyfodol drwy weithredu yn gynt neu drwy gefnogi pobl i wneud pethau drostynt eu hunain? • Rhoi terfyn ar wasanaethau Sut gallwn ni amddiffyn y gwasanaethau mwyaf hanfodol drwy roi terfyn ar rai eraill nad oes eu hangen ar bobl mwyach neu nad ydynt yn cyflawni canlyniadau buddiol i breswylwyr?

derbyn adborth ar-lein a dosbarthu miloedd o lyfrynnau gwybodaeth am y gyllideb. "Ar ôl ystyried adborth preswylwyr, gwnaethom ddiwygio ein cynigion ac ers hynny rydym wedi arbed miloedd o bunnoedd drwy fod yn fwy effeithlon gan arbed costau rheoli, cyflawni effeithlonrwydd gwasanaethau a lleihau staff y swyddfa gefn. "Yn ogystal â hyn rydym yn gwneud

pethau'n wahanol ac yn annog mwy o bobl i wneud eu busnes gyda'r cyngor ar-lein gan ei fod yn fwy hwylus i breswylwyr ac yn rhatach i'r cyngor hefyd." Meddai, "Mae'r cyngor yn gwneud ei orau glas i chwarae rhan yn y trawsnewidiad y mae ei angen i leihau costau'r hyn rydym yn ei wneud ac i fodloni'r disgwyliadau am ein gwasanaethau. Ond mae angen cefnogaeth pobl leol arnom i ymuno â'r ddadl hefyd gan na allwn barhau i wneud yr hyn rydym yn ei wneud ar hyn o bryd. "Felly mae dadl Abertawe Gynaliadwy - Yn Addas i'r Dyfodol yn ymwneud yn rhannol â lleihau'r galw am wasanaethau a rhoi terfyn ar y rhai nad oes eu hangen mwyach neu nad ydynt yn darparu gwerth da am arian, yn ogystal ag edrych ar sut gall y cyngor fod yn fwy effeithlon mewn meysydd eraill."

Codwch eich cerdyn Cerdded yn ôl mewn amser MAE dros 500 o siopwyr eisoes wedi codi eu cardiau ffyddlondeb canol dinas Abertawe ar eu newydd wedd. Mae'r cerdyn ar ei newydd wedd yn rhoi mynediad i ugeiniau o ostyngiadau mewn siopau annibynnol a manwerthwyr

cenedlaethol i siopwyr. Mae'r cardiau ffyddlondeb canol dinas presennol yn ddilys o hyd a gellir eu defnyddio ym mhob busnes sy'n cymryd rhan. Ewch i www.bigheartofswansea.co.uk

MAE teithlyfr llwybrau cerdded newydd ar gyfer canol dinas Abertawe'n cynnwys tirnodau hanesyddol. Lluniwyd y teithlyfr gan Ganolfan Croeso Abertawe mewn ymateb i'r deg ymholiad mwyaf cyffredin a ofynnir i'r

staff yno. Mae'r llwybr cerdded yn dechrau yn y Ganolfan Croeso yn Stryd Plymouth ac mae copïau o'r teithlyfr llwybrau cerdded ar gael trwy alw yno neu lawrlwytho copi o www.dewchifaeabertawe.com


Tachwedd 2014

I gael newyddion dyddiol am ddim, ewch i www.abertawe.gov.uk/subscribe

‘Ennill Rho 5 oedd dechrau fy anturiaeth’ Gwobr y Llysgennad Leon Britton John Andrew Hayes Gwobr Menter ac Entrepreneuriaeth avarto

Rhys Cozens Gwobr Gydnabod Bay Leisure Shaun ‘Munch’ Phillips

Scott Havard Morris

Deanndra EmmaLeigh Wheatland Gwobr Arbennig y Beirniaid

Tom Leckie

Gwobr Cyflawniad Chiquito

Nicholas Rees Gwobr Menter Grŵp Cyngor Ysgol Arbennig Ysgol Pen-yBryn

Abertawe

5

Crynodeb o’r

newyddion Plac glas i goffáu Edgar Evans BYDD fforiwr yr Antarctig, Edgar Evans, yn cael ei anrhydeddu'n fuan pan gaiff plac glas ei ddadorchuddio er cof amdano yn ei bentref brodorol ym mhenrhyn Gŵyr ym mis Tachwedd. Evans, a oedd y cyntaf i farw ar alldaith aflwyddiannus Scott i Antarctica, yw'r diweddaraf mewn rhestr hir o bobl leol i gael eu hanrhydeddu gyda phlac glas. Roedd Evans yn un o bump yn unig a lwyddodd i gyrraedd Pegwn y De ar 17 Ionawr, 1912, cyn marw wrth droed Rhewlif Beardmore fis yn ddiweddarach. Caiff y plac ei ddadorchuddio ym mhentref Middleton ar 28 Tachwedd ac mae'n dilyn anrhydeddau tebyg ar gyfer y cyfansoddwr caneuon Pete Ham, y bardd ac aelod o 'Griw'r Kardomah' Vernon Watkins a'r cenhadwr Griffith John. Mae cynlluniau yn yr arfaeth hefyd i anrhydeddu'r arloeswr technoleg celloedd tanwydd William Grove ger ei gartref yn Grove Place y flwyddyn nesaf.

Cerdded a chicio mewn canolfan chwaraeon

Gwobr Amgylchedd Gwasanaethau Amgylcheddol Stenor

Gwobr Gymunedol Cymdeithas Adeiladu Abertawe 14-19 Oed

Arwain

• AYSHA RAHMAN: Gwobr Gymunedol Cymdeithas Adeiladu Abertawe hyd at 13 oed MAE dyn ifanc yn ei arddegau sydd wedi rhoi dechrau caled mewn bywyd a digartrefedd y tu ôl iddo trwy weithio fel DJ yn dathlu Gwobr Rho 5 sydd wedi rhoi hwb mawr i'w gyfle o ddilyn gyrfa lwyddiannus. Enillodd Tom Leckie, 18 oed, Wobr Arbennig y Beirniaid yng Ngwobrau Rho 5 ar gyfer plant sy'n ysbrydoli am ddefnyddio cerddoriaeth i drawsnewid ei fywyd a helpu pobl eraill i fanteisio ar eu sgiliau cerddorol hefyd. Clywodd y beirniaid sut roedd Tom wedi rhagori wrth ddatblygu ei sgiliau dec ar ôl cael ei gyflwyno i waith DJ am y tro cyntaf trwy brosiect ieuenctid lleol. Gwobr Grŵp Arglwydd Faer y Ddinas a'r Sir Hyd at 13 Oed Grŵp Tadau Gwych Seaview

A lluniodd brosiect hefyd i helpu pobl eraill i elwa trwy gynnal sesiynau DJ wythnosol yn wirfoddol i bobl ifanc yn Abertawe wrth iddo gwblhau Lefel 3 OCN mewn addysgu a darlithio. Nawr mae ei wobr Rho 5 wedi galluogi Tom i fynd â'i waith DJ gam pwysig ymhellach. Fe'i gwobrwywyd gan y trefnwyr gyda slot DJ yn y Monkey Bar yn y ddinas - yr hwb perffaith i'r yrfa DJ y mae yntau'n ei datblygu. Meddai, “Mae Gwobrau Rho 5 yn wych. Ni allwn gredu mod i wedi ennill ond gorau oll oedd y wobr annisgwyl anhygoel o fod yn DJ yn y Monkey Bar. “Mae'n hynod anodd cael eich cyfle cyntaf ac mae Rho 5 wedi agor y drws hwnnw i mi. Mae mor gyffrous.”

Roedd Tom yn un o wyth enillydd unigol a phedwar grŵp a enillodd Wobr Rho 5 yn 2014 am wneud gwahaniaeth go iawn yn eu cymunedau neu am lwyddo yn erbyn rhwystrau. Enillodd pob un fag o wobrau gan gynnwys profiad rhodd a ddyluniwyd yn benodol i bob un i'w helpu i ddatblygu eu llwyddiant ymhellach. Meddai Leon Britton, Llysgennad y Gwobrau a seren yr Elyrch, “Cawson ni fwy na 160 o enwebiadau ar gyfer Gwobrau Rho 5 eleni, sy'n record, ac roedd safon yr ymgeiswyr yn uwch nag erioed o'r blaen, sy'n dangos faint o bobl ryfeddol sydd yn Abertawe. “Dechrau'r stori'n unig yw ennill – gobeithio y bydd eu hanesion yn ysbrydoliaeth i bobl eraill o bob oedran ar draws Abertawe.”

Gwobr Grŵp Arglwydd Faer y Ddinas a'r Sir 14-19 Oed The Scripts

Gwobr Grŵp Cymysg Grŵp Cynllunio Swansea’s Got Talent 2014

Llawer o ddiddordeb mewn eiddo hynod

MAE eiddo hynod sy'n cael eu rhoi ar werth neu ar brydles i'w troi'n gartrefi neu'n fusnesau yn ennyn llawer o diddordeb ymhlith darpar brynwyr. Mae 16 o fynegiannau o ddiddordeb wedi cael eu derbyn ers rhoi Bwthyn Swistirol eiconig Parc Singleton ar y farchnad ddechrau mis Awst. Ac mae 25 o fynegiannau eraill o ddiddordeb wedi cael eu derbyn naill ai am brydlesu neu am brynu'r hen orsaf bad achub gofiadwy yn lleoliad prydferth Bae Bracelet. A'r flwyddyn nesaf bydd hyd yn oed mwy o adeiladau, gan gynnwys swyddfeydd y cyngor ym Mhenllergaer, a

gallai safle hen ysgol radd II yn Nhreforys hefyd gael ei roi ar werth. Sbardunwyd yr ymgyrch werthu hon gan ymdrech y cyngor i werthu neu brydlesu eiddo diangen er mwyn creu incwm mawr ei angen. Rhoddwyd y Bwthyn Swistirol gradd II ym Mharc Singleton ar y farchnad yn gynharach eleni wedi'i adnewyddu'n sylweddol ar ôl iddo gael ei ddifrodi gan dân yn 2010. Mae wedi cael ei adfer i'w hen ogoniant a rhagwelir y bydd ei ddefnydd yn newid i ystafell de neu gaffi. Ond

dylai'r rhai sydd â diddordeb fod yn ymwybodol bod angen adnewyddu'r tu mewn yn llawn yn unol â gofynion CADW, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru. Mae lleoedd eraill sydd ar werth neu ar brydles yn cynnwys y ciosg yng Nghei Abernathy ym Marina Abertawe y mae wyth mynegiant o ddiddordeb eisoes wedi cael eu derbyn ar ei gyfer. Mynegwyd diddordeb hefyd yn hen swyddfeydd Rheoli Canol y Ddinas ar Stryd Plymouth ac adeilad Canolfan Adnoddau Forge Fach ar y Stryd Fawr yng Nghlydach.

BYDD cyfle'n fuan gan bobl hŷn sy'n dwlu ar chwaraeon i ymuno â chlwb pêl-droed cerdded yng Nghanolfan Chwaraeon Llandeilo Ferwallt o fis Tachwedd. Gweithgaredd digyffwrdd yw pêl-droed cerdded lle bydd unrhyw un sy'n sbrintio, yn rhedeg neu'n loncian pan fo'r bêl yn cael ei chwarae’n cael ei gosbi trwy ddyfarnu cic rydd i'r tîm arall. Fe'i cynhelir bob bore dydd Sul a dydd Mercher ar gyfer aelodau Abertawe Actif a bydd yn costio £2 i bobl eraill. Ewch i www.abertaweactif.com am fwy o wybodaeth neu ffoniwch Ganolfan Chwaraeon Llandeilo Ferwallt.

Gwybodaeth am waith ffordd yn y ddinas GALL modurwyr gael gwybodaeth am waith ffordd pwysig sy'n cael ei wneud yn y ddinas gan gwmnïau cyfleustod trwy droi eu ffonau clyfar neu eu cyfrifiaduron ymlaen. Mae Cyngor Abertawe wedi ymrwymo i wasanaeth gwylio ffyrdd newydd sy'n seiliedig ar fapiau ac sy'n cael ei ddiweddaru bob hanner awr gyda'r nod o helpu modurwyr i gynllunio eu teithiau. Darperir y gwasanaeth newydd yn ogystal â'r bwletin gwaith ffordd wythnosol ar www.abertawe.gov.uk/roadwatc h

Ein calon werdd CAIFF Parc Coed Bach ym Mhontarddulais ei gadw fel man gwyrdd yng nghanol ei gymuned am byth ar ôl ennill statws Cae'r Frenhines Elizabeth II. Enwebwyd y parc ar gyfer y statws gan Gyngor Abertawe ar ôl cydweithio'n agos â Chyfeillion Parc Coed Bach ers sawl blwyddyn er mwyn hyrwyddo'r ardal.


6

Arwain

Abertawe

Tachwedd 2014

Mae holl wybodaeth y cyngor ar gael yn www.abertawe.gov.uk

Lleisiwch eich barn nawr ar ganol ein dinas GOFYNNIR i filoedd o weithwyr, ymwelwyr, siopwyr a thrigolion leisio'u barn ar sut gellir gwella canol dinas Abertawe. Mae gan bobl tan ddiwedd mis Tachwedd i fynd i hen swyddfeydd rheolaeth canol y ddinas ar Stryd Plymouth i roi eu hadborth ar ganol y ddinas, sut y gellir mynd i'r afael â materion a sut dylai gael ei ddatblygu yn y dyfodol. Enw'r prosiect ymgynghori yw

'Rydych Chi Yma' a gynhelir gan Gyngor Abertawe mewn partneriaeth â Thîm Owen Griffiths o'r ddinas. Bydd llyfrgell deithiol hefyd yn hen swyddfeydd rheolaeth canol y ddinas yn ogystal ag arddangosfa yn rhoi cyfle i'r ymwelwyr rannu eu rhestr ddymuniadau ar gyfer canol y ddinas ac unrhyw beth nad ydynt yn rhy hoff ohono. Cyhoeddir lleoliadau, dyddiadau ac amserau digwyddiadau ymgynghori eraill ymhen amser. Meddai Phil Holmes, Pennaeth

Adfywio Economaidd a Chynllunio Cyngor Abertawe, "Mae cystadleuaeth gan barciau manwerthu y tu allan i'r dref a siopa dros y rhyngrwyd yn golygu ei bod hi'n adeg anodd i ganol dinas Abertawe, fel llawer o drefi eraill a chanol dinasoedd eraill yn y DU. "Rydym yn cydnabod pwysigrwydd canol y ddinas, nid yn unig i Abertawe ond i Ddinasranbarth Bae Abertawe'n gyffredinol, a dyna pam y cynhelir adolygiad

sylweddol a fydd yn arwain at weithredu. "Rydym eisoes wedi gofyn i fusnesau Abertawe ac arbenigwyr rhyngwladol am eu barn ar y ffordd orau o ddatblygu canol y ddinas yn y dyfodol, ond mae barn y cyhoedd yn hollbwysig hefyd os ydym yn mynd i gyflwyno'r math o ganol dinas bywiog, hygyrch y mae pawb am ei weld. "Felly byddwn yn annog cynifer o bobl â phosib i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad i lywio cyfeiriad

canol ein dinas yn y dyfodol." Yn amodol ar ganiatâd cynllunio, bydd nifer o nodweddion celf gyhoeddus hefyd yn cael eu cyflwyno'n fuan ar hyd Heol Ystumllwynarth. Bydd wal ddringo ar gornel yr LC a nodwedd ddŵr ym Marina Abertawe ymysg y cynlluniau. Mae giât addurnedig ar Lawnt yr Amgueddfa a darn arall o gelf gyhoeddus hefyd wedi'u clustnodi ar gyfer yr ardal o flaen Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

To marchnad enwog i gael gwaith gweddnewid yn y Flwyddyn Newydd

MAE’N fusnes fel arfer ym Marchnad Abertawe o fis Ionawr pan fydd gwaith yn dechrau i ailwampio to'r adeilad eiconig. Mae deiliaid stondinau wedi croesawu'r buddsoddiad gwerth £1.9 miliwn, ond yn annog siopwyr i barhau i'w cefnogi yn ystod y gwaith. Ariennir y prosiect, y disgwylir iddo bara tua chwe mis, gan Gyngor Abertawe a'r Rhaglen Gwella Adeiladau, a gefnogir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Bydd yn cynnwys ailwampio'r to fowt faril presennol ac adnewyddu'r to a'r talcen. Bydd gwaith atgyweirio hanfodol i lusernau'r to a'r to gwastad hefyd. Caiff y cynllun ei rannu'n bedwar cam. Bydd angen gosod sgaffaldiau ar gyfer pob cam er y bydd mynediad i'r farchnad ar bob adeg ac ni fydd y gwaith yn effeithio ar ddosbarthu nwyddau. Mewn arolwg a gynhaliwyd yn gynharach eleni, ailwampio to'r farchnad oedd prif flaenoriaeth masnachwyr Marchnad Abertawe gan nad yw'n addas at y diben mwyach. Gallai gwaith gwella arall ddilyn yn y dyfodol i wella gwedd ac awyrgylch y farchnad ymhellach, yn amodol ar gyllid. Contractiwr y prosiect ar ran Cyngor Abertawe yw R & M Williams. Maen nhw bellach wedi symud i ganolfan ar Stryd yr Undeb wrth baratoi ar gyfer dechrau'r gwaith. Meddai Leigh Vaughan, Cadeirydd Ffederasiwn Masnachwyr Marchnad Abertawe, "Mae'r farchnad yn union yng nghanol y ddinas ac yn ffocws lle mae pobl yn trefnu cwrdd yn ogystal â siopa. “Mae hyn yn newyddion

• BUSNES FEL ARFER: Ni fydd gwaith gwella'r farchnad yn effeithio ar fasnach ac oriau agor. cadarnhaol iawn, oherwydd y bydd yn arwain at brofiad siopa mwy pleserus a fydd yn ategu'r croeso cynnes y mae ymwelwyr bob amser yn ei gael gan fasnachwyr y farchnad. “Mae hwn yn brosiect cyffrous oherwydd y bydd yn helpu i wneud y farchnad yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif wrth gadw ei chymeriad

traddodiadol. Bydd yn fusnes fel arfer trwy gydol y gwaith, dwi'n annog pobl i barhau i gefnogi'r farchnad trwy gydol y prosiect." Meddai Tony Paulton, masnachwr sy'n gwerthu paentiadau dyfrlliw yn y farchnad, "Mae'n newyddion gwych bod y to'n mynd i gael ei adnewyddu ac mae'n gyffrous clywed am y

deunyddiau modern a gaiff eu defnyddio. Mis Ionawr yw adeg orau'r flwyddyn i ddechrau ar y gwaith oherwydd na therfir ar gyfnod masnachu hollbwysig y Nadolig." Gyda thros 100 o stondinau, gan gynnwys detholiad eang o gynnyrch lleol ffres, bwydydd Cymreig traddodiadol a chigyddion a

gwerthwyr pysgod arbenigol, mae Marchnad Abertawe wedi bod yn gwasanaethu pobl Abertawe ers cenedlaethau. Mae tua 20,000 o bobl yn ymweld bob dydd. Ewch i www.swanseaindoormarket.co.uk i gael mwy o wybodaeth am y farchnad.

Cymorth treth y cyngor Cyfle i fachu bargen Syniad da iawn

GALL miloedd o bensiynwyr dderbyn cymorth treth y cyngor o hyd at £105. Bydd dros 3,000 o aelwydydd yn cael hwb ariannol i dalu Treth y Cyngor dan gynlluniau Cyngor Abertawe.

Bydd mwy o gymorth yn cael ei roi i bensiynwyr sydd eisoes yn gymwys ar gyfer gostyngiad treth y cyngor ar ôl i Gabinet y Cyngor gefnogi cynigion i ddefnyddio Grant Aneddiad Rhanbarthol Llywodraeth Cymru i wneud taliadau.

MAE miloedd o eitemau trydanol yn Abertawe yn derbyn bywyd newydd yn Siop Gornel y Safle Byrnu. Mae nwyddau trydanol a allai, fel arall fynd i'r safle tirlenwi, yn cael eu hadnewyddu a'u gwerthu'n

rhad yn y Siop Gornel. Mae popeth o sychwyr gwallt, haearnau, tegellau a thostwyr i liniaduron, tabledi a chwaraewyr DVD ar werth am brisiau rhad. Ceir mwy o wybodaeth yn www.abertawe.gov.uk/ailgylchu

MAE dros 8,000 o ddyddlyfrau arbenigol ar bynciau sy'n amrywio o athroniaeth a gwleidyddiaeth i beirianneg a hanes bellach ar gael am ddim drwy glicio botwm. Mae Cyngor Abertawe wedi trefnu cynllun o'r enw

'Mynediad i Ymchwil' a fydd ar gael ym mhob llyfrgell yn y ddinas. Ewch i www.abertawe.gov.uk/librairies am fwy o wybodaeth neu ffoniwch Linell Llyfrgelloedd y Cyngor ar 01792 636464.


Tachwedd 2014

Arwain

I gael newyddion dyddiol am ddim, ewch i www.abertawe.gov.uk/subscribe

Abertawe

7

Crynodeb o’r

newyddion Cadwch le i'ch plentyn ar-lein ANOGIR rhieni yn Abertawe i fynd ar-lein i wneud cais am leoedd ysgol uwchradd i'w plant. Mae'n rhaid i rieni disgyblion sydd yn eu blwyddyn olaf (Blwyddyn 6) yn yr ysgol gynradd neu'r ysgol iau wneud cais am le mewn ysgol uwchradd i'w plant. Yn dilyn llwyddiant ceisiadau ar-lein y llynedd, mae'r cyngor yn galluogi rhieni i wneud yr un peth eto. Gall rhieni wneud cais am leoedd a chael mwy o wybodaeth am y broses ymgeisio ac ysgolion trwy fynd i www.abertawe.gov.uk/derbynia dau Mae mwy o wybodaeth ar gael yn www.abertawe.gov.uk/derbynia dau

Ysgol newydd i agor yn 2016 • CYFLAWNIADAU DISGYBLION: Disgyblion Cefn Hengoed yn elwa o gyfleusterau addysgu gwell.

MAE mwy o ddisgyblion o ardaloedd difreintiedig y ddinas yn ennill y cymwysterau y mae eu hangen arnynt er mwyn agor drysau i ddyfodol disglair. Mae hyn yn rhannol o ganlyniad i fuddsoddiad Cyngor Abertawe ac ysgolion i annog presenoldeb gwell ymhlith disgyblion yn ogystal ag adnewyddu adeiladau. Eleni, cafodd pum ysgol uwchradd yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Abertawe y canran gorau erioed o ddisgyblion Blwyddyn 11 yn ennill y graddau gwerthfawr A* i C y mae eu hangen i gael mynediad i addysg uwch ac i wneud argraff dda ar gyflogwyr yn y dyfodol.

Swansea this winter

ELENI, cafodd y canran uchaf erioed o ddisgyblion ar draws Abertawe raddau A* i C yn y pynciau craidd sef Mathemateg, Gwyddoniaeth, Saesneg neu Gymraeg iaith gyntaf. Enillodd y canran uchaf erioed o ddisgyblion Blwyddyn 11 radd A* i C mewn Mathemateg a chafodd y nifer uchaf erioed radd lwyddo yn y pwnc

Perfformiodd nifer o ddisgyblion yn well na'r disgwyliadau a oedd yn seiliedig ar eu lefelau cyrhaeddiad pan wnaethant ddechrau'r ysgol uwchradd sy'n dangos yr effaith gadarnhaol y mae Cyngor Abertawe ac ysgolion yn ei chael ar wella perfformiad.

hanfodol. Roedd y canran o ddisgyblion Blwyddyn 11 a enillodd raddau A* i C mewn Saesneg ar ei uchaf ers pedair blynedd a gwnaeth 97.5% o ddisgyblion lwyddo yn y pwnc gan ennill gradd A i G. Gwnaeth 100% o ddisgyblion Cymraeg iaith gyntaf lwyddo yn y pwnc.

Ymhlith y disgyblion llwyddiannus hyn oedd myfyrwyr o Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed lle gwnaethant elwa o waith i fynd i'r afael â phresenoldeb tynnwyd sylw ato fel arfer gorau gan yr arolygwyr addysg, Estyn. Dywedodd Arwyn Thomas, Prif

November

Swyddog Addysg Cyngor Abertawe, "Mae'r canlyniadau hyn yn dilyn gwelliannau ym mhresenoldeb ysgolion uwchradd, cefnogaeth i ysgolion i wella llythrennedd a rhifedd ac, wrth gwrs, y buddsoddiadau gwerth miliynau o bunnoedd a wneir mewn ysgolion uwchradd i wella dysgu. "Ar y diwrnod canlyniadau, mae llawer o'r ffocws ar ddisgyblion A*, ond mae'n bwysig cydnabod fod A* i C oll yn raddau da hefyd a fydd yn galluogi disgyblon i gael mwy o ddewis o ran beth i'w wneud pan fyddant yn gadael yr ysgol. Rydym bellach yn adeiladu ar y llwyddiant hwn sydd mor bwysig ar gyfer cyfleoedd bywyd pobl ifanc yn ein dinas."

December

Guided Tour - Dylan’s Swansea Dylan Thomas Centre 9 November 01792 463980

Christmas Parade and Lights Switch on Swansea City Centre 16 November 01792 637300

Santa’s Grotto and Donkey Rides Plantasia 7 & 14 December 01792 474555

BBC NOW Christmas Celebrations Brangwyn Hall 19 December 01792 475715

Silence In the Square Castle Square, City Centre 11 November 01792 637300

Russell Kane Brangwyn Hall 18 November 01792 635432

Aladdin Penyrheol Theatre 11 - 23 December 01792 897039

Handel’s Messiah Brangwyn Hall 20 December 01792 637300

Swansea Christmas Market Oxford Street, City Centre 28 November 21 December 01792 637300

Carol Ann Duffy and Gillian Clarke Dylan Thomas Centre 12 December 01792 463980

Christmas by Candlelight Brangwyn Hall 23 December 01792 637300

Waterfront Winterland Museum Park 14 November 4 January 01792 637300

For more great events visit www.swanseabayfestival.co.uk

Snow White Grand Theatre 12 December - 11 January 01792 475715

www.swanseabayfestival.co.uk

Enjoy

Ystadegau

Disgyblion yn manteisio ar fuddsoddiad ysgolion

MAE gwaith yn dechrau ar ail Ysgol Gynradd newydd Tregŵyr gwerth miliynau o bunnoedd. Bydd y prosiect gwerth £6.8m yn yr Elba yn cael ei gwblhau erbyn gwanwyn 2016 ac yno y bydd holl adeiladau'r ysgol, sydd ar dri safle gwahanol ar hyn o bryd. Mae'r prosiect, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Abertawe, hefyd yn cynnwys darpariaeth i wella cyfleusterau chwaraeon yn yr Elba, gan gynnwys cyrtiau tenis, cyfleusterau hyfforddi a man chwarae i blant wedi'i ailgyflunio â chyfarpar newydd. Bydd yr wybodaeth ddiweddaraf ar gael yn www.abertawe.gov.uk/index.cfm?a rticleid=55015

Ysgol Gynradd Burlais yn datblygu MAE Ysgol Gynradd newydd Burlais wedi bod yn datblygu'n gyflym dros y misoedd diwethaf. Dros yr haf, cododd strwythur dur yr adeilad newydd, gwerth £8.25m o ran isaf Parc Cwmbwrla ac mae cyfleusterau chwaraeon gwell ar gyfer y parc hefyd wedi bod yn datblygu. Meddai Alison Bastian, Pennaeth Ysgol Burlais, "Mae llawer o gyffro. Mae manteision bod ar un safle mewn adeilad newydd a adeiladwyd yn addas at y diben yn ormod i'w rhestru."

Cyfuno? MAE cynigion a allai olygu y bydd dwy ysgol gymunedol yn Abertawe'n cyfuno wedi dod gam yn agosach. Brynhyfryd yw'r unig ardal sydd ar ôl yn Abertawe ag ysgolion iau a babanod ar wahân. Nawr, bydd y cyngor yn asesu ymatebion i hysbysiad statudol a oedd yn ceisio barn am greu un ysgol gynradd gyflawn i ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed ar y safleoedd yn Heol Llangyfelach, Brynhyfryd cyn cytuno ar y cam nesaf yn y broses.


8

Arwain

Tachwedd 2014

Mae holl wybodaeth y cyngor ar gael yn www.abertawe.gov.uk

Abertawe Gwasanaeth Rhowch gynnig ar ein gwasanaethau 24 awr yn cychwyn MAE preswylwyr sydd am wneud busnes gyda newydd Cyngor Abertawe. Ond rydym am ehangu'r amrywiaeth o wasanaethau ffôn a digidol y tu allan i oriau hefyd." Meddai Lee Wenham, Pennaeth Cyfathrebu a Chyngor Abertawe ar adegau sy'n addas iddyn nhw, ar ei daith ynnewydd Bydd y gwasanaethau ffôn awtomatig newydd yn Chynnwys, "Mae angen i'r cyngor allu gweithredu o derbyn hwb o ganlyniad i lansio amrywiaeth cynnig y cyfle i gwsmeriaid wneud pethau megis amgylch bywydau prysur ein preswylwyr a o wasanaethau ffôn awtomatig a gwefan

MAE gwasanaethau cludiant cymunedol yn cael eu hestyn i rannau eraill o'r ddinas yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus ym Mhenrhyn Gŵyr. Ymunodd Cyngor Abertawe â'r gweithredwr cludiant cymunedol, DANSA, ar ddechrau’r flwyddyn i roi gwasanaeth peilot ar waith rhwng gogledd Gŵyr a Thregŵyr. Mae'r gwasanaeth yn un o sawl llwybr bws â chymhorthdal a ariennir gan y cyngor mewn ymdrech i ddiwallu anghenion preswylwyr mewn ardaloedd lle nad oes gwasanaethau bws masnachol ar waith, a lle mae gwasanaethau bws cymunedol yn fwy priodol a chost effeithiol. Mae'r cyngor nawr yn bwriadu rhoi gwasanaethau ychwanegol ar waith mewn partneriaeth â DANSA dros y misoedd nesaf. Bydd un o’r gwasanaethau newydd yn darparu cyswllt hanfodol rhwng Garnswllt, Felindre, Rhydypandy ac Ysbyty Treforys, lle bydd yn cysylltu â gwasanaethau rheolaidd i ganol y ddinas. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.TravelineCymru.info neu ffoniwch y llinell wybodaeth ar 0871 200 22 33.

cyngor wedi'i hadnewyddu. Bydd y gwasanaethau newydd yn cynnig cyfle i breswylwyr ddefnyddio llinellau ffôn 24 awr i fynd i'r afael â materion megis budd-daliadau a threth y cyngor. Maent yn ychwanegol i amrywiaeth eang o wasanaethau cwsmeriaid ar-lein sy'n cynnig cyfle i bobl leol adrodd am faterion, talu am wasanaethau a gwneud cais am wasanaethau, sydd wedi cael eu gwneud yn haws i'w gweld o ganlyniad i wefan

chwsmeriaid cymaint ag y gallwn. "Mae pobl yn dweud wrthym eu bod am wneud busnes gyda ni ar-lein ac ar adeg o'r dydd neu'r nos sy'n gyfleus iddynt hwy. Dyna pam rydym bob amser yn edrych am ffyrdd newydd o wneud pethau mor gyflym a chyfleus â phosib i'r bobl rydym yn eu gwasanaethu. "Mae gennym wasanaethau wyneb yn wyneb o hyd, er enghraifft, ein swyddfeydd tai rhanbarthol a'n canolfan gyswllt boblogaidd yn y Ganolfan Ddinesig.

adrodd am newid incwm, neu wirio pryd mae'r taliad nesaf yn ddyledus os ydynt yn gwsmer budd-daliadau neu gall cwsmeriaid treth y cyngor adrodd am newid cyfeiriad neu wneud taliadau 24 awr y dydd heb orfod siarad ag aelod o staff. Gall y bobl hynny sy'n defnyddio'r gwasanaeth ac sydd â materion mwy cymhleth siarad o hyd ag aelod o staff dros y ffôn yn ystod oriau swyddfa. • Y rhifau ffôn yw: Budd-daliadau - 01792 635353 Treth y Cyngor - 01792 635382

Llwybr sy’n tywynnu yn y tywyllwch

Eneidiau hoff cytûn yn uno cymunedau’r ddinas MAGU cyfeillgarwch newydd, cysylltu ag eneidiau hoff cytûn a phobl yn gwneud eu cyfraniad hwy yw prif ddiben clybiau cymdeithasol. Mae clybiau megis y ‘Clwb 10 o'r Gloch’ yn Nhreforys wedi bod yn ymddangos ym mhob man yn Abertawe dros y ddwy flynedd ddiwethaf a rhan helaeth o'r hyn sydd wedi'u gwneud yn llwyddiant yw prosiect blaengar y cyngor, Cysylltwyr Cymunedol. Mae mwy nag 16 o grwpiau wedi cael eu sefydlu gyda pheth cymorth gan griw bach o Gysylltwyr Cymunedol megis Corliss Horton ac mae'r gwasanaeth ar fin dathlu ei ail ben-blwydd.

gwybodaeth

GOSODWYD llwybr sêr sy'n tywynnu yn y tywyllwch mewn parc yn Abertawe sy'n edrych dros oleuadau llachar canol y ddinas. Mae'r dechnoleg arloesol yn golygu bod y llwybr sy'n mynd drwy Barc Bryn-y-don yn North Hill bellach yn goleuo gyda'r nos. Cyngor Abertawe sy'n gyfrifol am y prosiect UV oherwydd cafwyd arian gan fenter Trefi Taclus Llywodraeth Cymru. Y llwybr sêr yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru. Mae'r dechnoleg chwistrellu'n creu ei hynni ei hun yn ystod y dydd ac yna mae'r cemegau trin yn rhyngweithio i greu goleuni gyda'r nos. Mae gwelliannau diweddar eraill ym Mharc Bryn-y-don yn cynnwys ardal chwarae newydd i blant. Mae adrannau parciau a phriffyrdd Cyngor Abertawe hefyd wedi torri llystyfiant, clirio sbwriel a gwneud mynedfeydd yn fwy hwylus yn ogystal â phlannu blodau gwyllt. Bydd llwyni newydd yn cael eu plannu’n fuan hefyd.

MAE Cysylltwyr Cymunedol yn gweithio trwy helpu pobl a allai fod mewn perygl o gael eu hynysu'n gymdeithasol i ddod o hyd i grŵp neu weithgaredd yn eu hardal sy'n addas ar gyfer eu hanghenion a'u diddordebau. Mae clybiau a gefnogir gan Gysylltwyr Cymunedol hefyd yn cysylltu â sefydliadau lleol megis Canolfan Gofalwyr Abertawe, Age Cymru a'r Caffi Coch fel y gall pobl gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau sy'n gwella'u hymdeimlad o les.

Mae'r prosiect yn rhan o raglen y cyngor, Trawsnewid Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion (TGCO), ond y brif gamp yw'r ffordd mae wedi bod yn annog cannoedd o bobl i gysylltu ag eraill yn eu cymunedau i gymdeithasu dros baned o de, mwynhau diwrnodau mas neu ddysgu sgil newydd. Meddai Corliss, “I mi, y peth gorau am fod yn Gysylltwr Cymunedol yw

gweld pobl sydd efallai'n teimlo'n ynysig neu'n unig yn cael cyfle i adfer eu bywydau yn eu cymunedau eu hunain. “Dydyn ni ddim yn rhedeg y clybiau. Rydym yn helpu i'w sefydlu trwy ddod o hyd i fannau cyfarfod da fel canolfannau cymunedol neu dafarnau, yna rydym yn helpu i'w hysbysebu ac yn cefnogi preswylwyr i'w sefydlu a'u rhedeg drostynt eu

hunain. Ychwanegodd, “Mae cannoedd o bobl o bob cefndir ac sy'n meddu ar wahanol alluoedd eisoes wedi elwa. “Mae llawer wedi ymaelodi â grwpiau neu glybiau newydd neu sydd eisoes yn bodoli oherwydd eu bod yn cynnig gweithgareddau cymdeithasol a chyfle da i newid golygfa; ond yn fwy na hynny, maent wedi helpu pobl i fagu hyder ac yn rhoi'r cyfle iddynt roi rhywbeth yn ôl.” Er enghraifft, yn ogystal â bod yn gymdeithasol, mae'r Clwb 10 o'r Gloch yn The Deer's Leap yn Nhreforys hefyd wedi helpu i godi cannoedd ar gyfer Elusen yr Arglwydd Faer ac mae wedi rhoi rhodd i MacMillan Cancer Support.


Tachwedd 2014

I gael newyddion dyddiol am ddim, ewch i www.abertawe.gov.uk/subscribe

Arwain

Abertawe

9

Crynodeb o’r

newyddion Eich pasbort i hwyl rhad MAE gostyngiadau ar gael i alluogi trigolion Abertawe i ddefnyddio cyfleusterau difyrrwch a hamdden ar draws y ddinas. Mae cynllun Pasbort i Hamdden Cyngor Abertawe'n cynnig arbedion enfawr i'w aelodau, gyda lleoliadau megis yr LC, canolfannau hamdden cymunedol a Theatr y Grand yn cynnig y rhan fwyaf o weithgareddau am hanner y pris arferol. Mae rhai o'r preswylwyr sy'n gymwys yn cynnwys pobl sy'n derbyn budd-dal tai, cymhorthdal incwm, lwfans ceiswyr gwaith sy'n seiliedig ar incwm a chredydau treth. Ymhlith y rhai eraill sy'n gymwys y mae pobl rhwng 17 a 19 oed sydd mewn addysg amser llawn neu sydd wedi'u cofrestru ar gynllun hyfforddiant cymeradwy ac wedi'u cynnwys yn hawliad am fudd-dal eu rhieni neu eu gwarcheidwaid. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.abertawe.gov.uk/article/236 2/Pasbort-i-Hamdden neu ffoniwch 01792 635473.

Cais am £3m o arian ar gyfer cymunedau • YR AP YW'R FFORDD: Ni allai fod yn haws i fyfyrwyr, megis Luke (uchod), Gadw at 3, diolch i ap Connect Swansea

MAE preswylwyr y ddinas, a anogwyd i leihau eu gwastraff sachau du, wedi ymateb yn dda i'r her dros y chwe mis diwethaf. Ym mis Ebrill, gofynnwyd iddynt wneud newidiadau mawr i'r hyn roeddent yn ei wneud gyda'r gwastraff a oeddent fel arfer yn ei roi mewn sachau du fel rhan o ymgyrch 'Cadwch at 3' y cyngor. Ac ers hynny, mae'r canlyniadau wedi bod yn anhygoel, gyda gostyngiadau mawr yn swm y gwastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi. Mae ffigurau a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dangos bod 4,000 yn llai o dunelli o wastraff sachau du wedi mynd i safleoedd tirlenwi wrth gymharu'r un cyfnod chwe mis - mis Ebrill i fis Medi - yn 2013.

da iawn

Preswylwyr yn ymateb yn dda i’r her ymgyrch gwastraff Dyma beth rydych wedi'i ailgylchu ers mis Ebrill diwethaf: • 5,117 tunnell o fwyd • 4,950 tunnell o wastraff (gardd) gwyrdd • 10,359 tunnell o blastig, gwydr, caniau, papur a chardbord • Rhagor o wybodaeth: www.abertawe.gov.uk/recycling • Ap: www.abertawe.gov.uk/recyclingapp

Dywedodd Chris Howell, Pennaeth Gwastraff y Cyngor, "Preswylwyr sy'n cael y clod am ostwng nifer y sachau du a'r ffordd y maent yn rheoli eu gwastraff cartref eu hunain. "Roedd cyflwyno'r terfyn ar sachau du yn angenrheidiol er mwyn lleihau'r swm o wastraff rydym yn anfon i safleoedd tirlenwi. Mae'n newyddion gwych fod preswylwyr wedi ymateb mor wych ac rydym wedi llwyddo i gyflawni gostyngiad eleni o'i gymharu â

Dymchwel maes parcio MAE’N bosib y bydd darn o dir ar gyrion canol y ddinas ar gael i'w ddatblygu yn fuan. Mae Cyngor Abertawe wedi cyflwyno cais cynllunio i ddymchwel yr hen faes parcio ar Stryd Clarence yn Sandfields. Os cânt ganiatâd, bwriedir dechrau ar y prosiect dymchwel yn gynnar ym mis Ionawr.

Mae'r cynllun yn cael ei ariannu gan raglen Dinas y Glannau drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru. Mae preswylwyr sy'n byw gerllaw, ar Stryd Clarence a Stryd William, wedi cael gwybod, a byddant yn parhau i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ac mae opsiynau defnydd tymor byr ar gyfer datblygu’r ardal yn cael eu hystyried.

llynedd. "Yr allwedd i leihau swm y gwastraff y mae preswylwyr yn ei roi mewn sachau du yw ailgylchu. "Mae ein tîm ailgylchu wedi gwneud gwaith gwych yn cyhoeddi'r amrywiaeth o wasanaethau ailgylchu ymyl y ffordd rydym yn eu cynnig. Rydym wedi curo ar ddrysau miloedd o gartrefi er mwyn sicrhau bod gan breswylwyr bopeth sydd ei angen arnynt." Ymagwedd flaengar arall at

ailgylchu yn y ddinas yw datblygiad yr ap ffôn clyfar - Connect Swansea, sy'n darparu gwybodaeth am ailgylchu yn Abertawe ac sy'n atgoffa preswylwyr o ba ddiwrnod y mae eu casgliadau. Hyd yma, mae dros 2,000 o bobl wedi lawrlwytho'r ap, ac un ohonynt yw'r myfyriwr David Morgan sy'n byw ar Heol Aylesbury, Brynmill. Meddai, "Rwy'n credu y bydd yn helpu llawer o bobl i gofio rhoi eu hailgylchu allan ar amser. Bu ambell dro pan wnaethom anghofio rhoi ein gwastraff allan ac roedd yn dechrau pentyrru. Mae'r ap yn ffordd wych i atgoffa pobl a dweud wrthynt pa wastraff y gallant ei ailgylchu." Mae bellach dros 100 o leoedd yn y ddinas lle gallwch gasglu sachau ailgylchu a dechrau lleihau eich gwastraff sachau du.

Defnyddwyr gwasanaeth dydd yn lleisio’u barn MAE pobl sy'n defnyddio gwasanaethau dydd y cyngor i bobl ag anableddau dysgu a'u teuluoedd wedi cael lleisio'u barn ar sut y gallai'r gwasanaethau hynny edrych yn y dyfodol. Derbyniwyd nifer o sylwadau gwahanol gan amrywiaeth o bobl yn ystod ymgynghoriad tri mis ac mae'r adborth yn cael ei ystyried ar hyn o bryd. Bu'r ymgynghoriad, a gynhaliwyd yn

ystod yr haf ac a oedd yn cynnwys nifer o ddigwyddiadau, yn gweithio gyda phobl i helpu i ddylunio darpariaeth sy'n gynaliadwy ac yn addas i'r dyfodol. Mae'r cyngor bellach yn edrych ar ffyrdd newydd o wneud pethau, megis cynnig taliadau uniongyrchol neu gyfuno gwasanaethau i wneud y defnydd gorau o adnoddau.

MAE’R cyngor wedi cyflwyno cais i Lywodraeth Cymru am arian i gyflwyno Rhaglen Cymunedau'n Gyntaf ar draws pum ardal glwstwr y ddinas ar gyfer y flwyddyn ariannol 2015/2016. Os bydd y cais am arian yn llwyddiannus, gallai fod yn werth dros £3miliwn i breswylwyr mewn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig y ddinas. Mae Cymunedau'n Gyntaf yn fenter â'r nod o wella dysgu, iechyd a ffyniant mewn cymunedau. I gael mwy o wybodaeth am y rhaglen, ewch i www.abertawe.gov.uk/cymuneda ungyntaf neu ffoniwch 01792 635238.

Blodau gwyllt yn blodeuo’n brydferth MAE hydref cynnes wedi sicrhau y bu menter blodau gwyllt y cyngor yn llwyddiant ysgubol. Roedd rhai o'r lleoedd a wnaeth elwa o'r fenter yn cynnwys cylchfan Parc Sgeti a thir ger goleuadau Dyfaty. Roedd rhai eraill yn cynnwys parciau'r ddinas, megis Parc Llewelyn Treforys a thir lle'r oedd Cae'r Vetch yn arfer bod. Roedd blodau'r haf megis Golden Girl a Blue Wave ymysg y cymysgeddau o hadau a ddefnyddiwyd.

Gyrrwch yn ddiogel MAE camerâu cyflymder symudol yn cael eu defnyddio ger ysgolion Abertawe er mwyn mynd i'r afael â modurwyr sy'n goryrru. Mae'r fenter diogelwch ffyrdd yn cael ei harwain gan Gan Bwyll ac mae'n rhan o ymgyrch genedlaethol i annog gyrwyr i gadw at 20mya ger ysgolion. I gael mwy o wybodaeth am y fenter, ewch i www.ganbwyll.org neu www.roadsafetywales.co.uk/cym raeg


10

Arwain

Mae holl wybodaeth y cyngor ar gael yn www.abertawe.gov.uk

Abertawe

Tachwedd 2014

MAE plant, eu teuluoedd, pobl hŷn a chymunedau yn parhau i elwa o ymdrechion Cyngor Abertawe i gyffwrdd â'u bywydau bob dydd drwy wella gwasanaethau. Mae'r cyngor yn bodloni'r blaenoriaethau sy'n gwneud gwahaniaeth drwy hyrwyddo ffyrdd iachach o fyw, helpu i gadw cymunedau'n ddiogel a chefnogi pobl ifanc a theuluoedd i wneud yn fawr o'u bywydau. O gynyddu'r nifer sy'n gallu manteisio ar wasanaethau Dechrau'n Deg i wella

uchafbwyntiau

Blaenoriaethau’r cyngor yn gwella ein bywyd bob dydd • Mae 80% o blant a theuluoedd cymwys yn manteisio ar wasanaethau Dechrau'n Deg • Cafodd 55.3% o fyfyrwyr TGAU raddau A*-C mewn Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg. • 200 o dai cyngor yn unig a oedd yn wag yn 2013/14 o gymharu â 278 y flwyddyn flaenorol

canlyniadau arholiadau a chreu mwy o gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant, mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos fod y cyngor yn cefnogi pobl ifanc ar bob

• Mae 28 o safleoedd yn Abertawe yn cael eu defnyddio gan gymunedau i dyfu eu bwyd eu hunain - bron ddwywaith yn fwy na'r nifer yn 2012/13 • Mae swm y gwastraff a gaiff ei ailgylchu wedi cynyddu bron 5.5% o'i gymharu â 2012/13 ac mae swm y gwastraff a gaiff ei anfon i safleoedd tirlenwi wedi gostwng bron 5%.

cam o'u plentyndod i'w bywydau fel oedolion. Gellir gweld y ffigurau sy'n dangos fod y cyngor yn bodloni ei flaenoriaethau

mewn nifer o'i feysydd gwaith yn yr Adolygiad Perfformiad Blynyddol ar gyfer 2013/14. Mae'n nodi naw blaenoriaeth, sy'n amrywio o gefnogi gwella presenoldeb mewn ysgolion i annog pobl i fabwysiadu ffyrdd iachach o fyw, ac yna'n eu harchwilio i weld a yw'r gwelliannau disgwyliedig wedi cael eu cyflawni. Meddai Dean Taylor, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, "Nod y cyngor yw datblygu Abertawe mwy diogel, gwyrddach, callach, tecach, iachach a chyfoethocach. Mae ein naw

blaenoriaeth yn troi'r weledigaeth honno'n ymdrech ymarferol a mesuradwy i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl fel eu bod yn gallu elwa o'r manteision. "Fel cyngor, rydym yn cynnal nifer enfawr o wasanaethau sy'n ymdrin â bywydau miloedd o bobl bob dydd. "Mae'r adroddiad hwn yn dangos ein bod ar y llwybr iawn i fodloni ein hamcanion. Mae heriau o hyd wrth i ni ymdrechu i ateb y galw am ein gwasanaethau, ond byddwn yn parhau i weithio'n galed i gyflwyno ein blaenoriaethau yn y dyfodol."

Neidiwch i’r pwll nofio dros y Nadolig MAE Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe wedi trawsnewid ei sesiynau cyhoeddus yn ystod yr wythnos er mwyn i hyd yn oed mwy o bobl allu ymuno'n yr hwyl ac ymarfer eu sgiliau nofio. Mae'n golygu y bydd y pwll yn gallu cynnig mwy o wersi i bobl anabl a phobl awtistig yn ogystal ag agor mwy o lonydd ar gyfer y cyhoedd. Meddai Jeremy Cole, Rheolwr Cyffredinol PCCA, "Rydym yn gartref i nofwyr profiadol, megis Jazz Carlin a fu'n llwyddiannus iawn yng Ngemau'r Gymanwlad eleni. "Ond rydym yn bwll nofio cyhoeddus hefyd a dyna pam ein bod wedi newid y modd rydym yn gweithredu er mwyn cynnig mwy o wersi a sesiynau nofio i'r cyhoedd. "Yn ogystal â hyn, byddwn hefyd yn cynnig gostyngiad arbennig sef aelodaeth am bythefnos am £12 yn unig, a fydd ar gael rhwng 1 Rhagfyr a 31 Ionawr, i annog pobl i ddefnyddio'r pwll am brisiau cystadleuol iawn. Mae nofio'n ffordd wych i losgi calorïau Nadolig!"

Fel rhan o'r trefniadau newydd, bydd y pwll 50m yn cael ei rannu'n ddau i gael mwy o hyblygrwydd ar ddydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener er mwyn i bobl gael mwy o gyfle i gymryd rhan mewn gwersi nofio a mathau eraill o weithgareddau nofio. Ond bydd nofio 50m ar gael o hyd ar y rhan fwyaf o ddyddiau'r wythnos i'r cyhoedd, gan gynnwys dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener yn ogystal ag ar benwythnosau. Dywedodd Mr Cole fod y cyfleoedd newydd i bobl ddysgu sut i nofio neu i wella eu hyder neu eu gallu yn y dŵr yn rhan o'r ymgyrch i gefnogi pobl i wella eu hiechyd. Ond ychwanegodd, "Un o'n rolau yw helpu i chwilio am y genhedlaeth nesaf o nofwyr o safon ryngwladol a dyna un o'r rhesymau ein bod am annog mwy o bobl leol i roi cynnig ar y pwll nofio." • I gael mwy o wybodaeth am Bwll Cenedlaethol Cymru, ewch i www.walesnationalpoolswansea.co.u k

• SBLASH: Enillydd medal aur Gemau'r Gymanwlad, Jazz Carlin, yn PCCA.

Gofalwyr maeth yn cael cymorth Plant bach yn cael Dechrau Da

MAE pobl sy'n gofalu am blant nad ydynt yn berthnasau agos yn cael eu hannog i gysylltu â'r cyngor i weld a ydynt yn gymwys i dderbyn cymorth ychwanegol fel gofalwyr maeth preifat. Mae maethu preifat yn drefniant pan fo plentyn neu berson ifanc yn byw gyda rhywun nad yw'n berthynas agos am fwy na 28 niwrnod. Mae cefnogaeth ar gael gan y cyngor i deuluoedd sydd mewn sefyllfa o'r fath. Gall enghreifftiau o drefniadau maethu preifat gynnwys plentyn sy'n derbyn gofal gan

ffrindiau gan fod ei rieni ei hun wedi symud o'r ardal i weithio neu oherwydd ysgariad neu faterion eraill gartref. Ceir mwy o wybodaeth am faethu preifat ar ein gwefan yn www.abertawe.gov.uk/article/6004/MaethuPreifat Mae'r wefan yn cynnwys manylion am ystyr perthynas agos a mwy o wybodaeth am yr hyn fydd yn digwydd pan fydd y gwasanaethau cymdeithasol yn ymwneud â'r achos.

MAE tri darllenydd ifanc wedi derbyn tystysgrif Aur yr Helfa Lyfrau. Mae'r plant wedi benthyg dros 400 o lyfrau rhyngddynt a byddant yn mynd i amseroedd rhigwm a stori llyfrgelloedd y cyngor yn rheolaidd. Mae Stanley Allan o Lyfrgell Brynhyfryd, Dylan Manley o Lyfrgell Townhill ac Isabella Westall o Lyfrgell Treforys wedi derbyn y dystysgrif arbennig hon sy'n dathlu eu

mwynhad o rannu a darllen llyfrau. Meddai Steve Hardman, Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell Cyngor Abertawe, "Mae annog rhieni i rannu straeon â'u plant pan fyddant yn ifanc yn hanfodol i helpu plant i ddatblygu trwy gydol eu blynyddoedd cynnar." I gael mwy o wybodaeth am gynllun Helfa Lyfrau Dechrau Da, holwch unrhyw aelod o staff yn eich llyfrgell leol neu ewch i wefan Dechrau Da yn www.booktrust.org.uk/cymru


HYSBYSIADAU CYHOEDDUS CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG HENDREFOILAN DRIVE, CILÂ GORCHYMYN 2014 HYSBYSIR trwy hyn bod Cyngor Dinas a Sir Abertawe, ddydd Llun, 3 Tachwedd 2014, wedi gwneud gorchymyn yn unol â’i bwerau o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y’i diwygiwyd) ("y Ddeddf") a Deddf Rheoli Traffig 2004, y nodir ei effaith yn yr atodlenni isod. Bydd y gorchymyn yn dod i rym ddydd Llun 17 Tachwedd 2014. Gellir gweld copi o’r gorchymyn a’r cynllun priodol yn ystod oriau swyddfa arferol yn yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe (trwy gais i’r brif dderbynfa gan ddyfynnu cyfeirnod DVT- 00195197/MAW). Caiff unrhyw un sy’n dymuno herio’r gorchymyn ar y sail nad yw o fewn pwerau’r Ddeddf neu na chydymffurfiwyd ag unrhyw un o’i gofynion, neu ofynion unrhyw offeryn a wnaed o dan y Ddeddf, wneud cais at y diben hwnnw i’r Uchel Lys yng Nghofrestrfa Ddosbarth Caerdydd, 2 Stryd y Parc, Caerdydd CF1 1ET o fewn chwe wythnos i wneud y gorchymyn at y diben hwnnw. ATODLENNI ATODLEN 1 DIDDYMIADAU Mae’r gorchymyn hwn yn diddymu pob gorchymyn blaenorol o ran hyd neu hydoedd y strydoedd y cyfeirir atynt yn hyn. ATODLEN 2 GWAHARDD AROS AR UNRHYW ADEG HENDREFOILAN AVENUE Y Ddwy Ochr O’i chyffordd ag ymyl palmant dwyreiniol Hendrefoilan Drive at bwynt 8 metr i’r dwyrain o’r gyffordd honno.. HENDREFOILAN DRIVE Ochr y Dwyrain O bwynt 6 metr i’r gogledd o’i chyffordd ag ymyl palmant gogleddol Hendrefoilan Drive i bwynt 10 metr i’r de o’i chyffordd ag ymyl palmant deheuol Hendrefoilan Avenue. ATODLEN 3 GWAHARDD AROS AR DDYDD LLUN I DDYDD GWENER RHWNG 8AM A 6PM HENDREFOILAN DRIVE Ochr y Dwyrain O bwynt 10 metr i’r de o’i chyffordd ac ymyl palmant deheuol Hendrefoilan Avenue i bwynt 17 metr i’r de o’r pwynt hwnnw. Dyddiedig dydd Llun 3 Tachwedd 2014. Patrick Arran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael, Canolfan Ddinesig, Abertawe. CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG ARFAETHEDIG TERAS CILFÁU, STRYD MAESTEG, RHODFA LYDFORD, STRYD BALACLAVA, ST THOMAS HYSBYSIAD 2014 HYSBYSIR trwy hyn bod Cyngor Dinas a Sir Abertawe’n bwriadu gwneud gorchymyn yn unol â’i bwerau a gynhwysir yn Neddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y’i diwygiwyd) ("y Ddeddf") y disgrifir ei effaith yn yr atodlen(ni) isod. Gellir gweld copi o’r Gorchymyn arfaethedig, y Datganiad o Resymau a’r cynllun priodol yn ystod oriau swyddfa arferol yn yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth,

Abertawe SA1 3SN trwy gais i’r brif dderbynfa gan ddyfynnu cyfeirnod DVT-00201717/MAW. Dylid cyflwyno unrhyw wrthwynebiadau i’r cynigion a’r rhesymau drostynt yn ysgrifenedig at Bennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael, Canolfan Ddinesig, Abertawe SA1 3SN erbyn dydd Llun 1 Rhagfyr 2014. ATODLEN 1 DIDDYMIADAU Diddymir y Gorchmynion Traffig presennol i’r graddau y maent yn anghyson â’r gofynion a nodir yn yr Atodlen isod ac i’r graddau y maent yn ymwneud â hyd neu hydoedd y ffordd neu’r ffyrdd y cyfeirir atynt yn yr Atodlen isod. ATODLEN 2 GWAHARDD AROS AR UNRHYW ADEG TERAS CILFÁU Y Ddwy Ochr O’i chyffordd ag ymyl palmant dwyreiniol Heol Pentreguinea am bellter o 15 metr i’r de-ddwyrain o’r gyffordd honno. STRYD MAESTEG Y Ddwy Ochr O’i chyffordd â Heol Foxhole at bwynt 15 metr i’r dwyrain o’r gyffordd honno. O’i chyffordd â Rhodfa Lydford at bwynt 5 metr i’r gorllewin o’r gyffordd honno. RHODFA LYDFORD Ochr y Gorllewin O bwynt 10 metr i’r de o’i chyffordd â Stryd Maesteg at bwynt 10 metr i’r gogledd o’r gyffordd honno. STRYD BALACLAVA Y Ddwy Ochr O ymyl palmant y pen caeedig i’r de o Stryd Balaclava at bwynt 20 metr i’r gogledd gan gynnwys ar draws y pen caeedig a’r pen morthwyl ar yr ymyl palmant dwyreiniol. Dyddiedig dydd Llun 3 Tachwedd 2014. Patrick Arran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael, Canolfan Ddinesig, Abertawe. CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG STRYD OSTERLEY, ST THOMAS HYSBYSIAD 2013 HYSBYSIR trwy hyn bod Cyngor Dinas a Sir Abertawe, ddydd Llun, 3 Tachwedd 2014, wedi gwneud gorchymyn yn unol â’i bwerau o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y’i diwygiwyd) ("y Ddeddf") a Deddf Rheoli Traffig 2004, y nodir ei effaith yn yr atodlenni isod. Bydd y gorchymyn yn dod i rym ddydd Llun 17 Tachwedd 2014. Gellir gweld copi o’r gorchymyn a’r cynllun priodol yn ystod oriau swyddfa arferol yn yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe (trwy gais i’r brif dderbynfa gan ddyfynnu cyfeirnod DVT-00197983/MAW). Gall unrhyw un sy’n dymuno herio’r gorchymyn ar y sail nad yw o fewn pwerau’r Ddeddf, neu oherwydd na chydymffurfiwyd ag unrhyw un o ofynion y Ddeddf neu unrhyw offeryn a wnaed yn unol â hi wneud cais i’r Uchel Lys yng Nghofrestrfa Ddosbarthol Caerdydd, 2 Stryd y Parc, Caerdydd CF1 1ET o fewn chwe wythnos i greu’r gorchymyn at y diben hwnnw. ATODLEN 1 DIDDYMIADAU Diddymir y Gorchmynion Traffig presennol i’r graddau y maent yn anghyson â’r gofynion a nodir yn yr Atodlen isod ac i’r graddau y maent yn ymwneud â hyd neu hydoedd y

We value equality because quality services need people from the whole community

ffordd neu’r ffyrdd y cyfeirir atynt yn yr Atodlen isod. ATODLEN 2 GWAHARDD AROS AR UNRHYW ADEG TERAS UPTON Yr ochr ddeheuol O bwynt 5 metr i’r gorllewin o’i chyffordd â llinell ymyl gorllewinol Stryd Osterley i bwynt 5 metr i’r dwyrain o’i chyffordd â llinell ymyl ddwyreiniol Stryd Osterley. STRYD OSTERLEY Y Ddwy Ochr O’i chyffordd ag ymyl ddeheuol Teras Upton am bellter o 5 metr i’r de o’r gyffordd honno. ATODLEN 3 DEILIAID TRWYDDEDAU YN UNIG AR UNRHYW ADEG STRYD OSTERLEY Ochr y Gorllewin O bwynt 5 metr i’r de o’i chyffordd â llinell ymyl ddeheuol Teras Upton i bwynt 53 metr i’r de o’r pwynt hwnnw. Ochr y Dwyrain O bwynt 59 metr i’r de o’i chyffordd â llinell ymyl ddeheuol Teras Upton i bwynt 52 metr i’r de o’r pwynt hwnnw. HEOL DAN-Y-GRAIG Yr ochr ogleddol O bwynt 151 metr i’r dwyrain o’i chyffordd ag ymyl palmant dwyreiniol y ffordd fynediad i fynwent St Thomas i bwynt 5 metr i’r dwyrain o’r pwynt hwnnw. Dyddiedig dydd Llun 3 Tachwedd 2014. Patrick Arran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael, Canolfan Ddinesig, Abertawe. CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG ARFAETHEDIG CYFFORDD HEOL FRAMPTON Â RHODFA RUFUS LEWIS, PENYRHEOL, ABERTAWE HYSBYSIAD 2014 HYSBYSIR trwy hyn bod Cyngor Dinas a Sir Abertawe’n bwriadu gwneud gorchymyn yn unol â’i bwerau a gynhwysir yn Neddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y’i diwygiwyd) ("y Ddeddf") y disgrifir ei effaith yn yr atodlen(ni) isod. Gellir gweld copi o’r Gorchymyn arfaethedig, y Datganiad o Resymau a’r cynllun priodol yn ystod oriau swyddfa arferol yn yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN trwy gais i’r brif dderbynfa gan ddyfynnu cyfeirnod DVT-00201718/MAW. Dylid cyflwyno unrhyw wrthwynebiadau i’r cynigion a’r rhesymau drostynt yn ysgrifenedig at Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, Canolfan Ddinesig, Abertawe SA1 3SN erbyn dydd Llun 1 Rhagfyr 2014. ATODLEN 1 DIDDYMIADAU Diddymir y gorchmynion presennol i’r graddau y maent yn anghyson â’r cynigion a nodir yn yr atodlenni isod ac sy’n berthnasol i hyd neu hydoedd y ffordd/ffyrdd y cyfeirir ati/atynt yn yr atodlenni hynny. ATODLEN 2 GWAHARDD AROS AR UNRHYW ADEG HEOL FRAMPTON Ochr y de-orllewin O bwynt 10 metr i’r de-orllewin o ymyl palmant de-orllewinol Rhodfa Rufus Lewis at bwynt 10 metr i’r gogledd-ddwyrain o ymyl palmant gogledd-ddwyreiniol Rhodfa Rufus Lewis.

RHODFA RUFUS LEWIS Ochr y Gogledd-orllewin O’i chyffordd ag ymyl de-orllewinol Heol Frampton at bwynt 40 metr i’r de-orllewin o’r man hwnnw. Ochr y de-ddwyrain O’i chyffordd ag ymyl de-orllewinol Heol Frampton at bwynt 22 metr i’r de-orllewin o’r man hwnnw. Dyddiedig dydd Llun 3 Tachwedd 2014. Patrick Arran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael, Canolfan Ddinesig, Abertawe. DEDDF BYWYD GWYLLT A CHEFN GWLAD 1981 HYSBYSIR DRWY HYN Y BYDD AROLYGYDD A BENODIR GAN Weinidogion Cymru YN BRESENNOL YNG Nghanolfan Gymuned Pen-clawdd, Banc Bach, Pen-clawdd, SA4 3FJ AR Ddydd Mercher 17 Rhagfyr 2014 AM 10.00 am ER MWYN CYNNAL YMCHWILIAD LLEOL CYHOEDDUS AC I BENDERFYNU WEDI HYNNY: MAP DIFFINIOL A GORCHYMYN ADDASU DATGANIAD RHIF 417, 2014 DINAS A SIR ABERTAWE – LLWYBR TROED RHIF 64 YM MHENYRHEOL, CYMUNED LLANRHIDIAN UCHAF Effaith y Gorchymyn, os caiff ei gadarnhau fel y’i gwnaed, fydd addasu’r Datganiad Diffiniol ar gyfer yr ardal drwy amrywio’r manylion yn ymwneud â llwybr troed rhif 64 sy’n dechrau ar Blue Anchor Road Poundffald (Cyf Grid SS 556946) ac yn mynd ymlaen tua’r de yn bennaf i basio ar hyd y trac i’r gorllewin o Fferm Pen yr Heol am bellter o 172 metr cyn parhau i gyfeiriad y de-ddwyrain yn gyffredinol am 70 metr (Cyfeirnod Grid SS 556994); a pharhau i’r de-ddwyrain ar draws Mynydd Bach y Cocs i derfynu ar y Ffordd Wledig gyferbyn â Whitewalls (Cyfeirnod Grid SS 559936) am bellter o 850 metr. Yn ogystal, mae llwybr cangen sy’n dechrau ar bwynt 320 metr i’r gogledd-gogledd-ddwyrain o Whitewalls ac yn mynd ymlaen tua’r de am bellter o 470 metr ar draws y comin i gyffordd Llwybr Troed Rhif 66 i’r dwyrain o Fferm Hendy (Cyfeirnod Grid SS 557935). Diben yr Ymchwiliad hwn yw galluogi’r Arolygydd i glywed sylwadau gan y personau hynny sydd wedi gwrthwynebu’r Gorchmynion. Mae personau â buddiant eraill yn gallu bod yn bresennol hefyd a gallent gael caniatâd i siarad yn ôl disgresiwn yr Arolygydd. Mae unrhyw berson sy’n dymuno gweld datganiadau’r achos a dogfennau eraill yn ymwneud â’r Gorchymyn hwn yn gallu gwneud hynny drwy apwyntiad yng Nghyngor Dinas a Sir Abertawe, Y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe. Cysylltwch â: Michael Workman E-bost: Michael.Workman@swansea.gov.uk Ffôn: 01792 636008 Helen May Awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru


RECYCLING & REFUSE

AILGYLCHU A GWASTRAFF

collection arrangements over the festive period

Trefniadau casglu dros y Nadolig

Normal Collection Day

Thursday Dydd Iau

Friday Dydd Gwener

Monday Dydd Llun

Diwrnod Casglu Arferol

25.12.14

26.12.14

29.12.14

Actual Collection Day

Sunday Dydd Sul

Monday Dydd Llun

Diwrnod Casglu Newydd

28.12.14

29.12.14

Tuesday Wednesday Dydd Mawrth Dydd Mercher 30.12.14

31.12.14

Thursday Dydd Iau

Friday Dydd Gwener

01.01.15

02.01.15

Tuesday Wednesday Friday Saturday Dydd Mawrth Dydd Mercher Dydd Gwener Dydd Sadwrn 30.12.14

31.12.14

02.01.15

03.01.15

Sunday Dydd Sul 04.01.15

NORMAL COLLECTIONS RESUME ON MONDAY 5TH JANUARY 2015

BYDD CASGLIADAU ARFEROL YN AILDDECHRAU DDYDD LLUN 5 IONAWR 2015

COLLECTIONS CALENDAR 2015

CALENDR CASGLIADAU 2015

Refer to the number at the top of last year’s calendar to ensure that you cut out and use the correct one opposite

Cyfeiriwch at y rhif ar frig calendr y llynedd i sicrhau’ch bod yn torri allan ac yn defnyddio’r un cywir gyferbyn

Alternatively, you can download our free app ‘Connect Swansea’ to get collection updates.

Fel arall, gallwch lawrlwytho ein ap am ddim ‘Connect Swansea’ i gael y diweddaraf am gasgliadau.

For more information or to find out which collection week you are:

Am fwy o wybodaeth neu i gael gwybod beth yw’ch wythnos gasglu:

(01792) 635600

(01792) 635600

recycling@swansea.gov.uk

Ailgylchu.UCC@abertawe.gov.uk

www.swansea.gov.uk/recycling

www.abertawe.gov.uk/recycling


1

WEEK 1 WYTHNOS 1

2

WEEK 2 WYTHNOS 2

Refuse & Recycling Collections 2015 Casgliadau Gwastraff ac Ailgylchu 2015

Refuse & Recycling Collections 2015 Casgliadau Gwastraff ac Ailgylchu 2015

January Ionawr M T W Th Fr Sa Su Ll M M I G S S 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31

February Chwefror M T W Th Fr Sa Su Ll M M I G S S 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28

January Ionawr M T W Th Fr Sa Su Ll M M I G S S 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31

February Chwefror M T W Th Fr Sa Su Ll M M I G S S 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28

March Mawrth T W Th Fr Sa M M I G S 3 4 5 6 7 10 11 12 13 14 17 18 19 20 21 24 25 26 27 28 31

6 13 20 27

April Ebrill T W Th Fr Sa M M I G S 1 2 3 4 7 8 9 10 11 14 15 16 17 18 21 22 23 24 25 28 29 30

March Mawrth T W Th Fr Sa M M I G S 3 4 5 6 7 10 11 12 13 14 17 18 19 20 21 24 25 26 27 28 31

6 13 20 27

April Ebrill T W Th Fr Sa M M I G S 1 2 3 4 7 8 9 10 11 14 15 16 17 18 21 22 23 24 25 28 29 30

Su S 5 12 19 26

M Ll 1 8 15 22 29

June T W M M 2 3 9 10 16 17 23 24 30

M Ll 1 8 15 22 29

June T W M M 2 3 9 10 16 17 23 24 30

Mehefin Th Fr Sa I G S 4 5 6 11 12 13 18 19 20 25 26 27

Su S 7 14 21 28

August Awst T W Th Fr Sa M M I G S 4 5 6 7 8 11 12 13 14 15 18 19 20 21 22 25 26 27 28 29

Su S 9 16 23 30

M Ll 2 9 16 23 30

M T Ll M

4 11 18 25

5 12 19 26

May Mai W Th Fr M I G 1 6 7 8 13 14 15 20 21 22 27 28 29

Sa S 2 9 16 23 30

Su S 8 15 22 29

Su S 3 10 17 24 31

M Ll

July Gorffennaf M T W Th Fr Sa Su Ll M M I G S S 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31

M Ll 3 10 17 24 31

Mehefin Th Fr Sa I G S 4 5 6 11 12 13 18 19 20 25 26 27

August Awst T W Th Fr Sa M M I G S 4 5 6 7 8 11 12 13 14 15 18 19 20 21 22 25 26 27 28 29

Su S 5 12 19 26

Su S 7 14 21 28

M Ll 2 9 16 23 30

M T Ll M

4 11 18 25

5 12 19 26

May Mai W Th Fr M I G 1 6 7 8 13 14 15 20 21 22 27 28 29

Sa S 2 9 16 23 30

Su S 8 15 22 29

Su S 3 10 17 24 31

M Ll

Su S 9 16 23 30

July Gorffennaf M T W Th Fr Sa Su Ll M M I G S S 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31

M Ll 3 10 17 24 31

September Medi M T W Th Fr Sa Su Ll M M I G S S 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30

October Hydref M T W Th Fr Sa Su Ll M M I G S S 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31

September Medi M T W Th Fr Sa Su Ll M M I G S S 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30

October Hydref M T W Th Fr Sa Su Ll M M I G S S 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31

November Tachwedd M T W Th Fr Sa Su Ll M M I G S S 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30

December Rhagfyr M T W Th Fr Sa Su Ll M M I G S S 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31

November Tachwedd M T W Th Fr Sa Su Ll M M I G S S 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30

December Rhagfyr M T W Th Fr Sa Su Ll M M I G S S 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.