Arwain Abertawe Rhifyn 105
Tachwedd 2016 tu mewn
Papur newydd Dinas a Sir Abertawe
eich dinas: eich papur
Panto! Mae paratoi at y Nadolig yn dechrau yma hefyd
tudalen 3
• O'R RADD FLAENAF: Bu pobl ifanc o Gomisiynwyr Ifanc 4C ymhlith y sêr ym mhumed seremoni flynyddol Gwobrau Rho 5 ein dinas sy'n dathlu eu straeon o gyflawni er gwaethaf pob disgwyl. Mwy o wybodaeth ar dudalen 7. Llun gan Jason Rogers
Mae ein ffocws ar eich blaenoriaethau’n gwneud gwahaniaeth bob dydd
Canol y Ddinas Sut rydym yn paratoi at y dyfodol
gwybodaeth
tudalen 5 MAE gwasanaethau allweddol sy'n bwysig i bobl Abertawe'n ddyddiol yn parhau i wella. Addysg, diogelu pobl ddiamddiffyn, gwella ffyrdd ein dinas, trechu tlodi, creu canol dinas bywiog a chymunedau cefnogol yw'r blaenoriaethau pwysicaf sy'n cael eu cyflwyno'n llwyddiannus gan y cyngor. Mae 91% o ymrwymiadau polisi'r cyngor eisoes wedi cael eu cyflwyno, neu maent ar y trywydd iawn i gael eu cyflwyno. Mae'r cyngor hefyd wedi ennill nifer o wobrwyon, gan gynnwys cael ei enwi fel Dinas Dysg Ryngwladol ac ennill cydnabyddiaeth gan Ymddiriedolaeth y Tywysog a Gwobrau Cynaladwyedd Sector Cyhoeddus y DU, ymysg eraill. Mae tri o arolygwyr annibynnol mwyaf Cymru Swyddfa Archwilio Cymru, Estyn ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru -
YN ôl yr arolygwr addysg, Estyn, cafwyd gwelliant cyflym a chryf yn y Cyfnod Sylfaen hollbwysig, yn ogystal â lefelau Cyfnod Allweddol 3 a TGAU. Mae'r AGGCC yn dweud ei bod yn cydnabod bod y cyngor yn 'adeiladu model gofal cymdeithasol cynaliadwy o safon'. Meddai hefyd bod gan y cyngor weledigaeth glir a'i fod mewn sefyllfa gref i barhau i wella dros y blynyddoedd nesaf.
hefyd yn gytûn bod gallu'r cyngor i barhau i wella yn argoeli'n dda. Mae Swyddfa Archwilio Cymru'n edrych yn fanwl ar holl awdurdodau lleol Cymru'n gyson, a'i barn ddiweddaraf am Abertawe yw ei bod yn cyflawni disgwyliadau a'i bod mewn cyflwr da i gynnal hyn.
Meddai'r Cyng. Clive Lloyd, Aelod y Cabinet dros Berfformiad a Thrawsnewid, "Yn Abertawe, rydym wedi ymateb i ostyngiadau go iawn yn y gyllideb ac nid trwy gyfyngu ar wasanaethau ond trwy eu trawsnewid. "Y targedau rydym yn eu gosod ar gyfer ein hunain, a'r rheiny rydym yn cael ein beirniadu arnynt gan y tri arolygydd annibynnol cenedlaethol, yw'r mesurau go iawn rydym yn eu defnyddio er mwyn gwella'n gwasanaethau i bawb." Meddai'r Cyng. Lloyd, "Er gwaethaf toriadau cyllidebol a gwerth £54 miliwn o arbedion a wnaed yn y blynyddoedd diwethaf, mae preswylwyr yn dal i ddisgwyl gwasanaethau o safon y maent yn gallu eu gweld yn gwneud gwahaniaeth bob dydd. "Mae llawer i'w wneud o hyd mewn meysydd lle mae angen mwy o welliant, ond, fel y dywed Swyddfa Archwilio Cymru, rydym mewn sefyllfa dda i barhau i ddilyn y trywydd cywir."
Addysg Pam mae disgyblion yn perfformio'n dda tudalen 6
Defnyddiwch gewynnau go iawn a chael £100 Gall newid i gewynnau go iawn haneru gwastraff eich teulu ac arbed cannoedd o bunnoedd i chi! Ac os ydych yn byw yn Abertawe, gallwch gael £100 tuag at y gost trwy ein cynllun ad-dalu. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.abertawe.gov.uk/cewynnau
gwybodaeth
2
Arwain
Abertawe Rhifau ffôn defnyddiol Canolfannau Hamdden Abertawe Actif Penlan 01792 588079 Treforys 01792 797082 Penyrheol 01792 897039 Cefn Hengoed 01792 798484 Pentrehafod 01792 641935 Canolfan Chwaraeon Llandeilo Ferwallt 01792 235040
am holl wybodaeth y cyngor, ewch i www.abertawe.gov.uk
Tachwedd 2016
‘Tŷ Bonymaen yw fy nghartref oddi cartref ’
Priffyrdd Carthffosydd - 24 awr 0800 0855937 Draenio - dydd Llun i ddydd Gwener 01792 636121 Difrod i ffyrdd etc. 0800 132081 Materion eraill y priffyrdd 01792 843330 Tai Y prif rif 01792 636000 Atgyweiriadau (tenantiaid y tu allan i oriau arferol) 01792 521500 Y Gwasanaethau Cymdeithasol Ymholiadau Cyffredinol 01792 636110 Tîm Ymchwilio Mynediad Plant a Theuluoedd 01792 635700 Tîm Derbyn yr Henoed a’r Anabl 01792 636519 Anableddau Plant, Cefnogi Teuluoedd 01792 635700 Addysg Y prif rif 01792 636560 Yr Amgylchedd 01792 635600 Prif Switsfwrdd y Cyngor 01792 636000
• GARTREF: Mae gwasanaethau ailalluogi yn Nhŷ Bonymaen yn helpu pobl fel Janet Williams i fynnu eu hannibyniaeth MAE’N dipyn o beth i newid bywydau bob dydd. Ond dyna pam mae Claire Warren a'i thîm yn Nhŷ Bonymaen yn codi bob bore. Nhw yw'r rhai sy'n gwireddu dymuniadau pobl hŷn sydd am barhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain - hyd yn oed yn dilyn cyfnod yn yr ysbyty neu frwydr yn erbyn salwch. Mae Tŷ Bonymaen yn gartref gwasanaeth wedi ei ddylunio'n arbennig sy'n cefnogi pobl hŷn sydd wedi bod yn yr ysbyty neu sydd angen cefnogaeth tymor byr ond nid ydynt am gael gofal preswyl tymor hir. Enw'r gwasanaeth ailalluogi blaengar hwn a gynigir gan Gyngor Abertawe yw 'Camu lan a Chamu i lawr'.
Sut gall ailalluogi wneud gwahaniaeth MAE gan Dŷ Bonymaen 23 o welyau ailalluogi ac mae'n cynnig hyd at chwe wythnos o ofal i bobl sy'n gallu cael eu derbyn o'r ysbyty neu drwy weithiwr cymdeithasol os maent yn cael anhawster i fyw gartref a bod angen cyfnod o asesiad arnynt o ganlyniad i anawsterau symudedd, cwympiadau neu heintiadau. Gall cleientiaid dreulio noson neu ddwy mewn tŷ bychan ar y safle sy'n ailgreu eu cartref nhw eu hunain gyda staff sy'n cefnogi drwy becyn gofal cartref. Mae'n rhoi'r cyfle iddynt fagu hyder mewn lleoliad cartref sy'n eu paratoi i gael eu hanfon adref o Dŷ Bonymaen.
Meddai Claire, "Weithiau, mae pobl hŷn sydd wedi treulio amser yn yr ysbyty yn dilyn rhywbeth fel salwch neu gwymp yn cwestiynu a fyddant yn gallu ymdopi gartref ac efallai'n penderfynu yn yr ysbyty, er enghraifft, i gymryd gofal preswyl y byddant o bosib yn edifar yn nes ymlaen.
Tachwedd dd - Rhagfyr Rh 201 2 2017 017
I gysylltu â’r tîm newyddion ffoniwch 01792 636092
Hilary Bryanston: Fragments Made Visible Tan ddydd Gwener 23 Rhagfyr Amgueddfa Abertawe 01792 653765 01792
Arwain Abertawe yw papur newydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe
I gael y papur newydd hwn mewn fformat gwahanol ffoniwch 636226, ffôn testun 636733
Cynnau Goleuadau’r Nadolig g 10 Tachwedd nadoligabertawe.com Gwledd y Gaeaf ar y Glannau 18 Tachwedd - 8 Ionawr Parc yr Amgueddfa nadoliga oligabertawe.com nadoligabertawe.com
Mar rchnad y Na Nadolig a Marchnad Gro oto Canol anol y Ddinas Ddi Groto 24 Tachwedd T - 21 Rhagfyr Can nol y Ddinas Canol nad doligabertawe.com nadoligabertawe.com Kat therine JenkinsKatherine Com ming Home for Coming Chr ristmas Christmas 1 Rhagfyr Rh hagfyr Bra ngwyn Brangwyn 0 01792 637300 01792 ‘A Child’s C Christmas in Wales’ W 8 Rh hagfyr Rhagfyr Can nolfan Dylan Thomas Canolfan 0 01792 463980 6 01792
Sleepin eping Beauty Sleeping Rhagf ha fyr - 8 Ionawr 9 Rhagfyr at y Grand Abertawe Theatr 01792 2 475715 01792
D Whitt tington Dick Whittington agfyr 19 - 24 Rha Rhagfyr yrheol Theatr Pen Penyrheol 01792 89 97039 01792 897039
Meseia Rhag gfyr 18 Rhagfyr Brangwyyn Brangwyn 01792 2 637300 0 01792
yn ng Nadolig yng Ngolau Ca annwyll Cannwyll 23 Rhagfyrr g y Brangwyn 01792 63 37300 01792 637300
Cerddo orfa Genedlaethol hol a Cerddorfa s Cymreig y BBC Chorws Dathliad dau’r Nadolig Dathliadau’r Rhag gfyr 16 Rhagfyr Brangwyyn Brangwyn 01792 2 475715 01792
Am m fwyy o ddigwyddiadau gwych, ew wch i: i nadoligabertawe.com ewch
Nosweithia No au Iach Nosweithiau Abertaw tawe Actif Abertawe 9 Ionawr Hamdde H dden Canolfan Hamdden Penyrheol 16 Ionawr H Canolfan Hamdden Penlan abertaweac ctif.com abertaweactif.com
nadoligab nadoligabertawe.com bertawe.com
Cysylltwch ag Arwain Abertawe
"Mae'r gwasanaeth Camu lan a Chamu i lawr rydym ni'n ei gynnig yn caniatáu i bobl fynd adref, efallai i ddechrau am ddiwrnod, gyda chefnogaeth staff Tŷ Bonymaen, nes eu bod yn barod i symud yn ôl yn barhaol os mai dyna'r llwybr gorau iddyn nhw." Daeth Janet Williams, sy'n 77 oed, i
Dŷ Bonymaen ar ôl iddi gael strôc. Roedd hi am fynd adref amser llawn ond roedd angen asesiad a chymorth arni i fagu hyder. Mae Janet bellach yn gofalu amdani hi ei hun a hyd yn oed yn coginio drosti ei hun ac felly mae hi, ei theulu a staff Tŷ Bonymaen oll yn hyderus ei bod yn amser iddi ddychwelyd adref, gyda'r pecyn o gefnogaeth gywir yn barod ar ei chyfer. Meddai Janet, "Mae'r staff yn Nhŷ Bonymaen wedi bod yn wych. Dw i wedi bod yn awyddus iawn i dychwelyd adref ond dw i ddim yn siŵr y gallwn fod wedi gwneud hynny heb eu help nhw. Maent wedi gwneud byd o wahaniaeth. Byddwn i'n ei argymell i unrhyw un."
Arwain
i gael y newyddion dyddiol am ddim, ewch i www.swansea.gov.uk/subscribe
Abertawe eich arweiniad i gyfarfodydd y cyngor
Tachwedd 2016
• SLEEPING BEAUTY: Mae Kevin Johns a’r criw yn arwain y ffordd i Theatr y Grand y Nadolig hwn.
MAE Gwledd y Gaeaf ar y Glannau, y seremoni i gynnau goleuadau'r Nadolig, marchnad a groto yng nghanol y ddinas a nifer o gyngherddau thema ymysg digwyddiadau'r ŵyl a ddaw i'r ddinas cyn y Nadolig. Mae cynnau goleuadau'r Nadolig bob amser yn helpu i hybu masnach i fusnesau canol y ddinas ar adeg hollbwysig iddyn nhw. Bydd Gwledd y Gaeaf ar y Glannau'n dychwelyd i Barc yr Amgueddfa o nos Wener 18 Tachwedd i ddydd Sul 8 Ionawr. Bydd yr atyniad eto'n cynnwys olwyn fawr, groto Siôn Corn, ffair bleser a dau lyn
gwybodaeth
Sawl noson o gwsg sydd ar ôl nes bydd ein hoff banto’n dychwelyd? PEIDWCH â cholli panto gwych Theatr y Grand eleni. Mae tymor y panto yn Theatr y Grand yn para o 9 Rhagfyr i 8 Ionawr. Mae enillwr Britain’s Got Talent Richard Jones a Niki Evans o The X Factor ymhlith y sêr a fydd yn perfformio yn Sleeping Beauty. Ewch i www.nadoligabertawe.com am fwy o fanylion am ein digwyddiadau Nadolig a mwy.
iâ – prif lyn iâ Admiral a llyn iâ llai ar gyfer plant. Bydd digwyddiadau Nadolig eraill yn cynnwys sawl cyngerdd yn Neuadd Brangwyn gan gynnwys y Meseia gan Handel ar 18 Rhagfyr ac Y Nadolig yng Ngolau Cannwyll ar 23 Rhagfyr a pherfformiad gan Katherine Jenkins ar 1 Rhagfyr. Meddai'r Cyng. Robert Francis-
Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, “Mae ein staff wedi bod wrthi'n cynllunio cyfres o ddigwyddiadau ers cryn amser er mwyn sicrhau y bydd tymor yr ŵyl yr un mor hudol â'r arfer yn Abertawe. “Yn ogystal â dychweliad Gwledd y Gaeaf ar y Glannau a'r seremoni i
gynnau goleuadau'r Nadolig, mae digon o hwyl Nadoligaidd wedi cael ei threfnu i ddifyrru pobl o bob oedran. Mae digwyddiadau yng Nghanolfan Dylan Thomas yn cynnwys darlleniadau’r Nadolig gan y beirdd adnabyddus Carol Ann Duffy a Gillian Clark ar 9 Rhagfyr am 5pm a 7.30pm. Yng nghanol y ddinas, bydd Marchnad y Nadolig a Groto Siôn Corn ar Stryd Portland ar waith rhwng 24 Tachwedd a 21 Rhagfyr. Bydd Marchnad Abertawe ar agor ar ddydd Sul o 13 Tachwedd a gallwch siopa gyda’r hwyr o ddydd Iau 10 Tachwedd pan fydd y siopau ar agor tan 8pm.
3
Marcwyr dyddiadur y cyngor Croeso i’ch arweiniad i gyfarfodydd y cyngor. Cynhelir y rhan fwyaf o’r cyfarfodydd yn y Ganolfan Ddinesig, ond sylwer efallai na fyddwch yn gallu dod i gyfarfod cyfan neu ran ohono. Mae’r rhestr hon yn gywir wrth fynd i’r wasg ond os ydych chi’n ystyried mynd i gyfarfod, ffoniwch 01792 636000 ymlaen llaw i wybod y lleoliad a’r amser. Gallwch hefyd gasglu manylion yr agenda ar wefan y cyngor yn http://bit.ly/councildiary
10 Tachwedd Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Gymunedau, 2pm 11 Tachwedd Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol, 10.30am 14 Tachwedd Pwyllgor y Rhaglen Graffu, 4.30pm 16 Tachwedd Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygu, 3pm 17 Tachwedd Y Cabinet, 10am 21 Tachwedd Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ataliaeth a Diwygio Gofal Cymdeithasol, 2pm 24 Tachwedd Y Cyngor, 5pm 30 Tachwedd Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Wasanaethau Corfforaethol, 4pm 6 Rhagfyr Pwyllgor Cynllunio, 2pm 8 Rhagfyr Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Gymunedau, 2pm 9 Rhagfyr Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol, 10am 12 Rhagfyr Pwyllgor y Rhaglen Graffu, 4.30pm 13 Rhagfyr Cyfarfod Arbennig, Pwyllgor Archwilio, 2pm 14 Rhagfyr Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Addysg a Phobl Ifanc, 4pm 15 Rhagfyr Y Cyngor, 5pm 20 Rhagfyr Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, 5pm 21 Rhagfyr Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygu, 3pm Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Wasanaethau Corfforaethol, 4pm
Eich Arwain Abertawe Y Post Brenhinol sy’n dosbarthu’ch Arwain Abertawe i chi. Fodd bynnag, nid yw unrhyw bost a ddosberthir ynghyd ag Arwain Abertawe’n cael ei gefnogi gan Ddinas a Sir Abertawe.
Gwnaethon ni
Dywedoch chi
Gofynnom ni
4
Arwain
Abertawe Ymwelwyr yn mynegi barn am draethau MAE cannoedd o breswylwyr ac ymwelwyr wedi mynegi barn ar gynigion i newid y gwaharddiad ar gŵn ar draethau dros yr haf ym Mae Abertawe. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 31 Hydref a bellach mae'r adborth yn cael ei ystyried cyn cyflwyno adroddiad i'r cabinet. Dros 20 mlynedd yn ôl, crëwyd nifer o draethau sy'n gyfeillgar i gŵn gan Gyngor Abertawe ar hyd Bae Abertawe sy'n cael eu rheoli gan is-ddeddf a ddaw i rym ar 1 Mai ac yn gorffen ar 30 Medi. Bu'r cyngor yn ymgynghori ar y cynigion i newid y ffiniau presennol fel y gallai ardal newydd fod ar gael ger Pier y Gorllewin i berchnogion fynd â'u hanifeiliaid anwes am dro. Ni wnaed unrhyw benderfyniadau eto ac ni wneir hynny nes i'r ymatebion gan breswylwyr ac ymwelwyr gael eu hystyried fel rhan o broses yr adroddiad.
Canlyniad arolwg gwych MAE dros 1,500 o bobl ifanc yn Abertawe wedi cymryd rhan mewn arolwg mawr ac yn helpu i lywio gwasanaethau ar draws y ddinas am genedlaethau i ddod. Mae Cyngor Abertawe wedi gwahodd pobl ifanc 11 i 19 oed ar draws y ddinas i fynegi eu barn yn ei Arolwg Mawr i Blant a Phobl Ifanc. Mae'n rhan o'r hyn y mae'r cyngor yn ei alw'n Y Sgwrs Fawr amrywiaeth o weithgareddau, o arolygon i fforymau a chyfarfodydd eraill, sy'n rhoi'r cyfle a'r gefnogaeth i filoedd o bobl ifanc ddweud ei dweud ar ddyfodol y ddinas a'r gwasanaethau.
Lleisiwch eich barn Mae preswylwyr sydd am ddweud eu dweud am wasanaethau'r cyngor a materion lleol yn gallu ymuno â'n panel dinasyddion, Lleisiau Abertawe. Mae'r cyngor wedi bod yn gweithredu'r panel yn llwyddiannus ers 1999. Adnewyddir ei aelodaeth yn gyson i sicrhau bod y panel yn dal i gynrychioli poblogaeth y sir a rhoi'r cyfle i gynifer o bobl ag y bo modd gymryd rhan. Gwnewch gais yn www.abertawe.gov.uk/ article/7003/LleisiauAbertawe
am holl wybodaeth y cyngor, ewch i www.abertawe.gov.uk
Tachwedd 2016
Cymunedau i ofalu am drysorau lleol MAE cymunedau'n ymuno â'r cyngor i ddiogelu a hyrwyddo rhai o'u cyfleusterau gorau. Mae canolfannau cymunedol a pharciau yn aml wrth wraidd eu hardaloedd lleol ac mae'r cyngor yn ceisio gweithio mwy gyda grwpiau lleol i'w cynnal er gwaethaf y cyfnod ariannol anodd hwn. Hyd yn hyn mae dros 30 o sefydliadau wedi cymryd cyfrifoldeb am reoli canolfannau lleol o ddydd i ddydd ac mae mwy o barciau nag erioed yn denu cyfeillion i helpu i gefnogi eu gweithgareddau hefyd. Mae'r cyngor wedi sefydlu Cronfa Trawsnewid Gweithredu yn y Gymuned sy'n werth £300,000 i gefnogi grwpiau sydd am reoli cyfleusterau cymunedol a gynhaliwyd gan yr awdurdod lleol yn y gorffennol ac mae angen ychydig o gymorth arnynt er enghraifft i ennill y sgiliau neu gael y cyfarpar angenrheidiol. Meddai Mark Child, Aelod y Cabinet dros Les a Dinas Iach, "Un o'r pethau amlycaf am yr ymagwedd hon yw ei bod yn rhyddhau holl syniadau preswylwyr lleol i lywio eu canolfan gymunedol neu barc. Mae'r cyngor yn croesawu grwpiau cymunedol y mae ganddynt dystiolaeth gref o ymagwedd gynaliadwy ar gyfer rheoli cyfleusterau a gwasanaethau, a byddwn yn eu helpu i greu hyn. Ychwanegodd, "Mae dylanwad cymunedol yn golygu bod cyfleusterau'n diwallu anghenion pobl leol ac mae hyn yn gwneud y lleoedd yn fwy bywiog sy'n gallu gwneud gwahaniaeth bob dydd." Enghraifft dda o hyn yw Cyfeillion Canolfan Fotanegol Abertawe sydd wedi gweithio gyda'r cyngor am 22 o flynyddoedd yng Ngherddi Botaneg Singleton, gan godi arian a rhoi miloedd o oriau ar gyfer gwirfoddoli er mwyn gwella profiadau ymwelwyr yno. Maent newydd lansio ymgyrch i godi mwy na £30,000 i greu gardd blodau gwyllt a lles yn y Gerddi Botaneg. Meddai ysgrifennydd y grŵp, Jane Terrett y byddai'r ardd newydd yn ddeniadol i breswylwyr a phlant lleol, "Mae mannau naturiol a'r amrywiaeth cyfoethog y maent yn ei gefnogi'n cyfrannu at amgylchedd byw iach ac yn darparu amrywiaeth o fanteision iechyd corfforol a meddyliol. Mae cyfuno mannau gwyrdd naturiol a chyfleoedd lleol ar gyfer teithiau cerdded cymdeithasol a gweithgareddau eraill yn
• BYWYD PARCIAU: Cyfeillion Canolfan Fotanegol Dinas Abertawe ar waith golygu bod ymarfer gwyrdd yn rhad ac yn ffordd gynaliadwy o atal problemau iechyd cyhoeddus. Ac ychwanegodd, "Mae plannu blodau gwyllt yn denu gwenyn a bywyd gwyllt. Mae gerddi blodau gwyllt yn cynnig cynefinoedd pwysig iawn ar gyfer amrywiaeth gwych o bryfed a chnofilod bach ynghyd ag adar." • Gellir rhoi arian i'r ymgyrch codi arian yn www.localgiving.org/appeal/wildflowers
Pam mae'r cynllun trawsnewid yn bwysig? MAE’R Gronfa Trawsnewid Gweithredu yn y Gymuned yn un o'r cyfleoedd am grantiau a benthyciadau sydd ar gynnig gan y cyngor. Mae'r gronfa ar agor i breswylwyr neu sefydliadau sy'n cynnig cynnal gwasanaethau'r cyngor yn lleol a/neu hwyluso trosglwyddo asedau cymunedol. Y dyddiad cau nesaf ar gyfer derbyn ceisiadau yw mis Mawrth 2017. Mae grantiau cymunedol a grantiau benthyciadau hefyd ar gael. Ceir gwybodaeth yn • www.swansea.gov.uk/communityaction • www.abertawe.gov.uk/gweithreduynygymuned
Gadewch i ni guro gweithredwyr twyllodrus gyda’n gilydd GALL preswylwyr sy'n gofidio y byddant yn cael eu twyllo gan weithredwyr twyllodrus droi am gymorth ar wedudalennau newydd a luniwyd gan y cyngor. Dengys ystadegau fod y Tîm Gweithredoedd Twyllodrus Safonau Masnach Cenedlaethol wedi atal oddeutu 750,000 o weithredoedd twyllodrus rhag cyrraedd blychau post y DU dros y tri mis diwethaf, ond mae post twyllodrus yn dal i gwympo drwy'r rhwyd. Mae cystadlaethau ffug ymysg y gweithredoedd twyllodrus a anfonir drwy'r post ynghyd â thwyllwyr yn dynwared cynrychiolwyr Sky a Talk Talk sy'n gofyn am fanylion banc pobl a rhifau PIN.
Meddai'r Cyng. Mark Child, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddinas Iach a Lles, "Byddem yn annog pobl i fod yn wyliadwrus ac i feddwl yn ofalus iawn cyn penderfynu rhoi eu harian i rywun. "Mae sawl ffurf ar weithredoedd twyllodrus ac maent yn ceisio cymryd mantais o bobl dda, sy'n ymddiried mewn pobl neu y rhai diamddiffyn yn y gymuned. "Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i wneud popeth y gallwn i helpu preswylwyr i fod yn fwy ymwybodol o weithredoedd twyllodrus. "Bydd hyn yn atgyfnerthu'r sgyrsiau y mae ein swyddogion safonau masnach wedi'u rhoi i sefydliadau gan
gynnwys y Gwasanaeth Tân, Age Concern, y Groes Goch, darparwyr gofal a grwpiau cymdeithasau tai i geisio atal cynifer o bobl â phosib rhag dioddef gweithredoedd twyllodrus yn y lle cyntaf. "Mae gwefan ddynodedig hefyd wedi'i lansio'n ddiweddar i roi cyngor i breswylwyr am weithredoedd twyllodrus a sut i'w hadnabod." Mae'r wefan www.abertawe.gov.uk/gweithredoeddtwyllodrus yn cynnwys manylion y gweithredoedd twyllodrus diweddaraf sy'n targedu preswylwyr y ddinas fel y gall pobl gael yr wybodaeth ddiweddaraf.
Tachwedd 2016
I gael newyddion dyddiol am ddim, ewch i www.swansea.gov.uk/subscribe
Arwain
Abertawe
5
Crynodeb o’r
newyddion Digwyddiad llawn hwyl yw'r amser i serennu Cynhelir pumed Digwyddiad Sparkle Trawsrywiol ein dinas yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau'n ddiweddarach y mis hwn. Mae'r digwyddiad dwy sesiwn ar 26 Tachwedd yn gyfle perffaith arall i'r cyhoedd a'r gymuned drawsrywiol rannu diwrnod â'i gilydd, gan fwynhau cwmni ei gilydd mewn amgylchedd diogel a hapus. Cynhelir y digwyddiad rhwng 10am a 4pm a chynhelir yr ail sesiwn rhwng 7pm ac 1am. Bydd stondinau gwybodaeth a masnachu. Bydd adloniant gyda'r nos o 7pm, gan gynnwys perfformwyr lleol a DJ preswyl. Mae mynediad am ddim yn ystod y dydd a phris digwyddiad y nos yw £10 y tocyn. Mae tocynnau cynnar ar gael yn y Ganolfan Unity LGBT, 71 y Stryd Fawr am £8 – Ffôn: 01792 346299 Am ragor o wybodaeth ewch i www.tawebutterflies.co.uk
• MAE SAFLE datblygu Dewi Sant yn cynnwys hen ganolfan siopa Dewi Sant, maes parcio aml-lawr Dewi Sant a maes parcio'r LC.
Gwaith i drawsnewid y ddinas yn dechrau datblygu Gallai cais cynllunio amlinellol ar gyfer cynllun a fydd yn trawsnewid canol dinas Abertawe gael ei gyflwyno yn y gwanwyn. Mae Rivington Land, cwmni a benodwyd gan Gyngor Abertawe i reoli adfywio safle datblygu Dewi Sant, yn gobeithio cyflwyno'r cais erbyn diwedd mis Mawrth 2017. Cyflwynir y cais yn dilyn ymgynghoriad a fydd yn dechrau cyn y Nadolig lle gofynnir i breswylwyr a busnesau am eu barn. Mae safle datblygu Dewi Sant yn cynnwys hen ganolfan siopa Dewi Sant, maes parcio aml-lawr Dewi Sant a maes parcio'r LC. Mae syniadau'n cynnwys stryd fanwerthu newydd, caffi ac ardal fwytai, sinema ac arena awyr agored. Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe,
Mae gwneud yn fawr o'n hasedau'n brif flaenoriaeth Mae barn pobl am ddyfodol Sgwâr Castell Abertawe bellach yn cael ei hystyried wrth i'r cyngor archwilio syniadau i drawsnewid yr ardal yn gyrchfan fwy bywiog ac addas i'r teulu. Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Nid yw Sgwâr y Castell ar werth. Ni fydd perchnogaeth gyhoeddus a mynediad cyhoeddus yn cael eu peryglu, pa gynllun bynnag sy'n cael ei ddewis yn y dyfodol. "Mae llawer o bobl wedi dweud wrthym fod y sgwâr yn edrych yn ddi-raen ac mae angen ei newid, felly yr hyn rydym yn mynd i'w wneud yw archwilio opsiynau a allai ei drawsnewid yn gyrchfan bywiog, sy'n addas i deuluoedd."
"Rydym yn ymrwymedig i gyflwyno canol dinas bywiog a chyffrous y mae preswylwyr Abertawe'n ei haeddu, felly mae'r cynnydd a wneir y tu ôl i'r llenni'n arbennig o dda wrth i ni geisio cyflwyno cais cynllunio amlinellol. "Yn ogystal â chynigion ar gyfer 200,000 troedfedd sgwâr o siopau
newydd, bwytai a chaffis, byddai'r arena dan do newydd arfaethedig yn cynnig lleoliad a allai ddenu sioeau teithiol megis Strictly Come Dancing a The X Factor. "Byddai'r syniadau hyn yn denu mwy o bobl i ganol y ddinas, yn annog mwy o wariant, yn hybu busnesau presennol, yn creu
buddsoddiad newydd ac yn atgyfnerthu canol y ddinas fel ysgogydd allweddol economi Dinasranbarth Bae Abertawe." Mae cynlluniau i adfywio'r Ganolfan Ddinesig ar Heol Ystumllwynarth hefyd yn datblygu'n dda. Mae Trebor Developments, y cwmni y mae'r cyngor wedi'i benodi i reoli adfywio'r safle, yn gweithio ar brif gynllun a fydd yn cyfeirio amserlen y datblygiad yno. Mae'r syniadau buddugol yn cynnwys 480 o unedau preswyl, gwesty a swyddfa ac arwynebedd 20,000 i 30,000 troedfedd sgwâr ar gyfer busnesau bwyd a diod. Hefyd, cynigir bod y cwmni'n gweithio'n agos gyda Phrifysgol Abertawe i archwilio ymhellach i botensial creu 'canolfan hydro' ar y safle a allai gynnwys acwariwm cyhoeddus a chanolfan ymchwil gwyddorau dŵr o'r radd flaenaf.
Gadewch i ni eich helpu i syrffio’r we Mae cannoedd o breswylwyr y ddinas wedi rhoi cynnig ar syrffio'r we fyd-eang am y tro cyntaf diolch i ychydig o anogaeth gan y cyngor. Mae preswylwyr sydd wedi bod ag ofn teclynnau fel tabledi Android, iPads a chyfrifiaduron wedi bod yn rhoi cynnig arnynt fel rhan o'r her am ddim Dewch Ar-lein Abertawe. Er bod y rhan fwyaf o bobl yn gweld y rhyngrwyd fel rhan annatod o'u bywydau pob dydd, mae miloedd o breswylwyr yn dal heb fynd ar-lein ac yn colli cyfle i fanteisio ar bethau fel gwyliau
rhad a chadw mewn cysylltiad â ffrindiau. Meddai Clive Lloyd, Aelod y Cabinet dros Berfformiad a Thrawsnewid yn y cyngor, fod Dewch Ar-lein Abertawe eisoes wedi helpu cannoedd o bobl ac mae mwy o gyrsiau ar y gweill. Meddai, "Mae'n ffaith, os nad ydych ar-lein byddwch yn colli cynifer o gyfleoedd. Mae Dewch Ar-lein Abertawe'n arbennig ar gyfer y bobl hynny nad oes ganddynt syniad ble i ddechrau neu sy’n pryderu am roi cynnig arni. Mae'r bobl sydd wedi bod ar y cyrsiau'n dweud bod yr hyfforddwyr yn
hynod gyfeillgar, yn amyneddgar ac yn wych wrth feithrin eu hyder wrth syrffio'r we." Mae dros 50 o gyrsiau i ddechreuwyr ar gael dros y misoedd nesaf mewn 14 lleoliad ar draws y ddinas. Mae pob cwrs am ddim ac yn para pum sesiwn. • I gael mwy o wybodaeth, ewch i'ch llyfrgell leol neu gallwch gadw lle drwy ffonio Dysgu Gydol Oes ar 01792 470171. Mae gwybodaeth hefyd ar gael ar-lein yn www.abertawe.gov.uk/dewcharleinabertawe
Tirnodau yn parhau i ddenu ymwelwyr Cafodd Castell Ystumllwynarth yn Abertawe haf gwych, gan groesawu 25,000 drwy'r gatiau. Cynhaliwyd raglen lawn o ddigwyddiadau ac atyniadau amrywiol dros yr haf yn y castell, a oedd ar agor rhwng mis Ebrill a mis Medi, gan gynnwys theatr awyr agored a sinema, cerddoriaeth fyw a hwyl a gemau o'r Canol Oesoedd. Cyngor Abertawe sy'n rheoli'r atyniad mewn partneriaeth â Chyfeillion Castell Ystumllwynarth. Mae mwy o wybodaeth am y tirnod yn www.abertawe.gov.uk/castellys tumllwynarth
Bywyd newydd ar lan yr afon Gallai adfywio safle datblygu allweddol yn Abertawe roi bywyd newydd i goridor hanesyddol afon Tawe yn y ddinas. Mae Cyngor Abertawe bellach yn gwahodd cynigion ar gyfer canolfan Glanfa Pipehouse sydd ar ochr yr afon ger Heol y Morfa. Ar hyn o bryd, mae’r safle 4.33 erw yn ganolfan i staff Cyngor Abertawe sy'n gweithio mewn adrannau, gan gynnwys gwastraff a thrafnidiaeth, a fydd yn cael eu hadleoli yn y pen draw i adeiladau eraill y cyngor.
Blodau hyfryd Bu dros 41,000 troedfedd sgwâr o flodau gwyllt yn swyno preswylwyr, cymudwyr ac ymwelwyr â'n dinas dros yr haf. Gwnaeth mwy na 180 o ymylon ffyrdd, cylchfannau a pharciau elwa o'r cynllun arobryn a ariennir gan Gyngor Abertawe, cynghorau cymuned ac Aelodau Ward Lleol drwy eu lwfansau amgylcheddol a bydd yn dychwelyd y flwyddyn nesaf.
6
Arwain
Abertawe
am holl wybodaeth y cyngor, ewch i www.abertawe.gov.uk
BT ar fin Allech newid ei gân Mae preswylwyr yn cael cyfle i fynegi eu barn ar gynigion gan BT i gael gwared ar 60 o wasanaethau ffôn talu mewn lleoliadau ar draws Abertawe. Mae BT wedi llunio rhestr o wasanaethau ffôn talu yng nghymunedau'r ddinas y mae am eu gwaredu ac mae Cyngor Abertawe yn rhoi cyfle i breswylwyr gyflwyno sylwadau ar y cynllun cyn i'r cwmni ffôn wneud penderfyniadau terfynol. Y ffôn talu prysuraf ar restr BT o 60 yw'r un yn Sgwâr Brynhyfryd, Brynhyfryd, lle gwnaed bron 600 o alwadau dros y 12 mis diwethaf. Ond defnyddiwyd hanner y gwasanaethau y cynigir eu cau lai na 10 gwaith yr un dros y flwyddyn ddiwethaf. Ni chafodd nifer ohonynt - gan gynnwys un yn y llyfrgell ym Mhentref Myfyrwyr Hendrefoelan, dau ar Heol Peniel Green ac un yn yr adran radiograffeg yn Ysbyty Treforys - eu defnyddio o gwbl yn ystod y 12 mis diwethaf. Nid oes gan y cyngor unrhyw rôl o ran llunio'r rhestr o wasanaethau ffôn talu sy'n rhan o'r ymgynghoriad, er bod y cyngor yn casglu adborth gan y cyhoedd a roddir i BT ar gyfer ei benderfyniad terfynol. Cynhelir yr ymgynghoriad tan ganol mis Tachwedd a gallwch gymryd rhan drwy fynd i www.abertawe.gov.uk/ymgyng horiBT
Cynllunio prosiect diwylliant Mae Abertawe'n un o 11 o ddinasoedd o bob rhan o Ewrop sydd wedi cael eu dewis i gymryd rhan mewn rhaglen cyfnewid diwylliannol arloesol. Y ddinas yw'r unig un yn y DU a fydd yn cymryd rhan mewn prosiect peilot i archwilio rôl diwylliant mewn dinasoedd cynaliadwy. Bydd y prosiect, sydd wedi'i ddatblygu ar y cyd gan Culture Action Europe a Phwyllgor Diwylliant Dinasoedd a Llywodraethau Lleol Unedig, yn gwella dealltwriaeth leol ac Ewropeaidd o'r cysylltiad rhwng diwylliant a datblygu cynaliadwy yn y dinasoedd sy'n cymryd rhan drwy gydweithredu rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat. Cyflwynir mesurau peilot ym mhob dinas sy'n cymryd rhan, sydd hefyd yn cynnwys Galway yn Iwerddon.
Tachwedd 2016
chi newid bywydau?
Mae swyddi a all wella bywydau pobl bob diwrnod ar gael mewn cymunedau ar draws Abertawe. Mae'r cyngor yn cymryd camau i helpu i gyflwyno preswylwyr y mae angen cefnogaeth arnynt i fod yn annibynnol bob dydd i'r bobl hynny sy'n meddwl y gallant helpu i wireddu hynny. Mae'n rhan o ymgyrch i recriwtio llu o gynorthwywyr cefnogi byw'n annibynnol gyda'r nod o drawsnewid bywydau oedolion a phobl ifanc y mae angen gofal personol arnynt. Telir y cynorthwywyr am eu gwaith ac fe'u cyflogir yn uniongyrchol gan y person y maent yn rhoi cymorth personol iddo. Ariennir y swyddi drwy daliadau uniongyrchol gan y cyngor i'r person sy'n cyflogi'r cynorthwy-ydd.
Heblaw am ddarparu taliadau uniongyrchol i'r cyflogwr, mae'r cyngor hefyd yn cynnig hyfforddiant, cyngor ac arbenigedd i'r cyflogwr a'r cynorthwy-ydd, yn ogystal â chefnogaeth arall. Mae lefel yr hyfforddiant a'r profiad y bydd eu hangen ar y cynorthwy-ydd yn dibynnu ar y swydd ac mewn rhai achosion ni fydd angen hyfforddiant i ddechrau. Ceir mwy o wybodaeth yn www.abertawe.gov.uk/taliaduniongyrchol Dywedodd Jane Harris, Aelod y Cabinet dros Oedolion a Phobl Ifanc, fod gan y fenter y potensial i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau'r rhai y mae angen gofal personol arnynt yn ogystal â'r cynorthwywyr.
Mae'r gwasanaeth hefyd ar gael i gefnogi gofalwyr y mae angen seibiant arnynt yn ogystal â phlant anabl a'u rheini a'u teuluoedd. Meddai'r Cyng. Harris, "Mewn gofal personol, nid yw un ateb yn addas i bob achos. Gwaith y cynorthwy-ydd yw cefnogi person anabl neu hŷn y mae angen help arno i fyw ei fywyd i'r eithaf er mwyn iddo allu gwneud y dewisiadau y mae pawb arall yn eu cymryd yn ganiataol. "Bydd cynorthwywyr yn derbyn cyfraddau tâl da a bydd ganddynt y cyfle i wneud gwahaniaeth i fywyd person bob diwrnod mewn modd proffesiynol, personol ac uniongyrchol. Prin yw'r swyddi'r dyddiau hyn sy'n cynnig cymaint o foddhad ar lefel bersonol. "Mae llawer o hyblygrwydd i'r cynorthwy-ydd weithio o gwmpas ei fywyd hefyd."
• GEIRIAU AR WAITH: Mae disgyblion o Ysgol Gynradd Gorseinon yn dwlu ar ddarllen
Ysgolion y ddinas ar eu hennill mewn profion darllen cenedlaethol Mae plant ysgol Abertawe yn gwella eu sgiliau darllen a rhifedd yn gyflymach nag unrhyw le arall yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd gan Lywodraeth Cymru. Mae canlyniadau newydd Profion Cenedlaethol Cymru a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod cynnydd mewn darllen a rhifedd yn gyflymach yn Abertawe nag unrhyw awdurdod lleol arall yng Nghymru ers 2013. Mae'r newyddion yn dilyn cyfnod arholiadau'r haf lle perfformiodd myfyrwyr Abertawe'n well na'u cyfoedion yng Nghymru o ran canlyniadau Safon Uwch a TGAU. Meddai Jen Raynor, Aelod y
Pam mae buddsoddi mewn darllen yn bwysig Meddai Glenda Gibbon, pennaeth Ysgol Gynradd Gorseinon, "Credwn yn fawr fod angen i bob person ifanc fod yn llythrennog ac yn rhifog. "Mae athrawon yn cynllunio gweithgareddau'n ofalus iawn, gan sicrhau bod cyfleoedd i ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd yn berthnasol i bob pwnc, ac nid i wersi Mathemateg a Saesneg yn unig. "Nid yw rhifedd, er enghraifft, yn gyfyng i'r gallu i ddefnyddio rhifau, i adio, i dynnu, i luosi ac i rannu. "Mae'n cynnwys y gallu i ddefnyddio dealltwriaeth a sgiliau mathemategol i ddatrys problemau a diwallu anghenion bywyd pob dydd."
Cabinet dros Addysg, "Dywedodd pobl Abertawe wrthym eu bod am weld buddsoddiad yn nyfodol eu plant. Mae addysg yn un o'n prif flaenoriaethau ac mae'r cyngor wedi trawsnewid ei ymagwedd at sicrhau bod pob ysgol, athro a disgybl yn parhau i wella. Mae ysgolion ac
athrawon sy'n perfformio orau yn rhannu arfer gorau ag athrawon ar draws yr awdurdod. "Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth ag ysgolion yn rhanbarth de-orllewin Cymru i ddatblygu arbenigedd i gefnogi gwelliant.
Rydym hefyd wedi annog y defnydd o athrawon arbenigol, o'r enw Ymgynghorwyr Herio, sy'n gweithio'n agos gydag ysgolion i gynyddu cyrhaeddiad disgyblion." Ychwanegodd, "Mae'r cynnydd rydym yn ei wneud yn holl ganlyniadau profion ac arholiadau Cymru yn dyst i ymrwymiad y cyngor i gefnogi addysg a phenderfyniad ein hysgolion i ddarparu'r addysg orau i'n plant." Cynhaliwyd y profion darllen a rhifedd cenedlaethol ym mhob ysgol ar gyfer disgyblion blynyddoedd 2 i 9 ledled Cymru. Roedd canlyniadau 20,000 o ddisgyblion mewn ysgolion yn Abertawe'n well o lawer na chyfartaledd Cymru o'u cymharu â'r 21 awdurdod lleol arall.
Tachwedd 2016
I gael newyddion dyddiol am ddim, ewch i www.swansea.gov.uk/subscribe
Antur ar fin dechrau i enillwyr Rho 5 Gwobr y Llysgennad, Leon Britton Adam Ahearn Gwobr Arbennig y Beirniaid 14-19 oed Rachael Beckett Gwobr Arbennig y Beirniaid hyd at 13 oed
Cydnabyddiaeth hyd at 13 oed
Cydnabyddiaet h 14-19 oed
Tia Aldron Cydnabyddiaeth 20-25 oed
Lucy FethanyWilks Cyflawniad hyd at 13 oed
Chiara Robinson
Cyflawniad 14 i 19 oed
John Nelson
Abertawe
7
Crynodeb o’r
newyddion Strategaeth ynni'n arbed arian Gallai cynlluniau tymor hir gan Gyngor Abertawe arwain at y cyngor yn cyflenwi ei ynni ei hun. Mae uwch-gynghorwyr wedi cymeradwyo'r Strategaeth Ynni Gorfforaethol sy'n bwriadu gostwng defnydd ynni, buddsoddi mewn technoleg ynni adnewyddadwy a gwella effeithlonrwydd ynni yn adeiladau'r cyngor, gan gynnwys ei stoc tai ei hun. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i bob awdurdod lleol yng Nghymru leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr 80% erbyn 2050. Meddai Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Genhedlaeth Nesaf, “Fel cyngor, mae rhwymedigaeth arnom i gyrraedd y targed hwn ac mae’n strategaeth yn nodi rhaglen o fesurau i'n helpu i gyflawni hyn. Mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar leihau ein costau ynni a bodloni targedau."
Gwasanaeth archifau'n creu ei hanes ei hun
Teigan Miles
Sydney Norman
Arwain
• SÊR I GYD: Mae Comisiynwyr Ifanc 4C yn gwneud gwahaniaeth drwy nodi sut gall cynghorau wella gwasanaethau i bobl ifanc megis gofal maeth.
MAE pobl ifanc sydd wedi llwyddo i wneud pethau'n well i'r rheiny o'u cwmpas yn erbyn pob disgwyl yn edrych ymlaen at dderbyn eu gwobrau Rho 5. Dathlwyd eu llwyddiannau ysbrydoledig gan Leon Britton, seren yr Elyrch a Llysgennad Rho 5, yn ystod y seremoni wobrwyo flynyddol yn Stadiwm Liberty. Nawr, mae'r enillwyr yn edrych ymlaen at ddetholiad o wobrau wedi eu teilwra ar gyfer pob un ohonynt er mwyn eu hannog i barhau a gwireddu eu huchelgeisiau. Ymhlith yr enillwyr y mae merch sy'n cefnogi ei mam gyda'i brwydr yn erbyn canser, garddwr ifanc sy’n gwneud i'w ysgol a'i gymuned Cyflawniad 20 i 25 oed
Ashley Rix
flodeuo, rhieni ifanc ysbrydoledig sy'n llwyddo er gwaethaf pob disgwyl a grŵp o bobl ifanc sy'n llysgenhadon dros amrywiaeth yng nghymunedau'r ddinas. Meddai Leon, "Mae Gwobrau Rho 5 yn dangos pa mor wych yw pobl ifanc yn Abertawe a'u pwysigrwydd i'n cymunedau. Dyma'r pumed Rho 5 a bob blwyddyn rwy'n cael fy ysbrydoli gan straeon pobl ifanc yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. "Er i ni ddewis yr enillwyr hyn, rwyf am i bob person ifanc a enwebwyd wybod ein bod ni'n cydnabod eu llwyddiannau nhw hefyd. Maent oll yn bobl ryfeddol ac rwy'n ddiolchgar i'r enwebwyr am rannu eu straeon â ni." Cafodd dros 350 o bobl ifanc eu Cymuned hyd at 13 oed
Corey Michael
henwebu naill ai fel unigolion neu fel rhan o grŵp. Meddai Phil Roberts, Prif Weithredwr Cyngor Abertawe, "Mae'r gwobrau Rho 5 erbyn hyn yn ddyddiad pwysig yng nghalendr Abertawe gan fod eu straeon yn sôn am ddyfalbarhad, uchelgais a gwerthoedd y gallem ni i gyd anelu atynt." Caiff y gwobrau eu noddi gan Goleg Gŵyr Abertawe, a'u cefnogi gan Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe, The Wave, Clwb Rotari Abertawe, Trade Tyres Swansea, Cymdeithas Adeiladu Abertawe, Day’s Rental, Gwasanaethau Amgylcheddol Stenor, Tîm Ailgylchu Cyngor Abertawe, Swyddfa'r Arglwydd Faer, Dragon Events a Gwesty'r Dragon.
Gwobr Grŵp Cymunedol
Chips, Curry and Cappuccino
Dyfodol disglair yn dilyn llwyddiant arholiadau Mae ymdrechion i gefnogi rhai o blant mwyaf diamddiffyn ein cymuned i fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael iddynt yn yr ysgol yn dechrau dwyn ffrwyth. Yn ôl ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru, mae plant sy’n derbyn gofal gan Gyngor Abertawe yn fwy tebygol o gael canlyniadau TGAU da na phlant mewn ardaloedd eraill yng Nghymru. Meddai Christine Richards, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Plant a Phobl Ifanc, "Diogelu plant diamddiffyn yw blaenoriaeth bwysicaf y cyngor. "Athrawon, llywodraethwyr a gwasanaethau iechyd, rydym ni oll am wneud cymaint â phosib i gefnogi plant
sy’n derbyn gofal gan y cyngor i fod y gorau y gallant fod yn yr ysgol drwy gynnig sefydlogrwydd a diogelwch. "Er bod y dangosydd hwn yn dibynnu'n llwyr ar allu'r garfan, mae gwaith caled i gynnal safle a chyd-destun addysgol sefydlog gan yr holl weithwyr a rheolwyr heb os wedi cyfrannu at gasgliad o ganlyniadau ardderchog." Cyhoeddwyd y ffigurau yn rownd ddiweddaraf cyhoeddi data gan Lywodraeth Cymru. Maent yn dangos mai dim ond mewn dau gyngor arall yng Nghymru y mae mwy o blant sy’n derbyn gofal yn llwyddo i gael pump TGAU neu'n fwy.
Mae’r ffigurau’n dilyn adroddiadau cadarnhaol gan yr AGGCC o ran sut mae’r cyngor yn cefnogi plant diamddiffyn drwy fod yn ymrwymedig i’w cadw’n ddiogel gan ganolbwyntio ar eu cryfderau, adnoddau a rhwydweithiau drwy ei ymagwedd ‘Signs of Safety’ arloesol. Dywedodd y Cyng. Richards fod yr ymagwedd Signs of Safety a’r holl waith caled sy'n cael ei wneud gan wasanaeth Maethu Abertawe a thimau addysg arbenigol y cyngor ar y cyd ag ysgolion a gwasanaethau iechyd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau plant diamddiffyn. Ychwanegodd, “Dengys ffigurau data llywodraeth leol hefyd fod yna feysydd gwaith lle gallem ni wella."
Mae Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg wedi'i gydnabod am ragoriaeth. Mae'r gwasanaeth, yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe, wedi cyflawni Safon Achredu Archifau fawreddog y DU oherwydd ansawdd ei waith. Mae'r statws, a ddyfarnwyd gan Bwyllgor Achredu Gwasanaeth Archifau'r DU, yn cydnabod arfer da a safonau cytunedig sy'n annog ac yn cefnogi datblygiad. Mae'r safon, a ddyfernir i 50 gwasanaeth archifau'n unig ar draws y DU, ar gyfer sefydliadau'r sector cyhoeddus a phreifat.
Ar eich beic gyda map MAE map llwybr beicio NEWYDD yn cael ei ddefnyddio i annog cymudwyr yn Abertawe i adael y car gartref a defnyddio beic i deithio i'r gwaith, i'r ysgol neu i'r siopau. Mae gan Abertawe nifer o lwybrau beicio o safon sy'n addas i bawb, o ddechreuwyr pur i feicwyr mwy profiadol. Mae'r mapiau'n canolbwyntio ar lwybrau sy'n cymryd y daith fwyaf uniongyrchol a gwastad. Gellir lawrlwytho'r mapiau yn www.abertawe.gov.uk/beicio
Arwr Criced Hwn oedd y maes lle trawodd y cricedwr enwog o India'r Gorllewin, Syr Garfield Sobers, chwe chwech mewn pelawd ym 1968. Nawr, mae cyfraniad San Helen i griced wedi ei anrhydeddu â phlac glas a osodwyd ar y wal ger ochr y gatiau mynediad ar gornel Lôn Eithin a Heol Bryn.
8
Arwain
Abertawe
Ffigurau presenoldeb yn codi eto Disgwylir i bresenoldeb mewn ysgolion yn Abertawe gyrraedd ffigur uchel eto eleni yn ôl y ffigurau diweddaraf gan ysgolion. Mae ysgolion yn adrodd bod dros 95% o ddisgyblion ysgolion cynradd wedi mynychu'r ysgol yn rheolaidd o 2015 i 2016 – y ffigur gorau ar gyfer presenoldeb mewn ysgolion cynradd yn Abertawe ers dechrau casglu data. Mae presenoldeb mewn ysgolion uwchradd hefyd wedi cyrraedd y ffigur uchaf erioed, gyda mwy na 94% o ddisgyblion yn mynychu'n rheolaidd yn y flwyddyn ysgol ddiwethaf. Mae hyn o ganlyniad i bartneriaeth rhwng disgyblion, rhieni, ysgolion a'r awdurdod lleol i hybu a galluogi presenoldeb da. Yn y fenter ddiweddaraf, mae'r awdurdod lleol wedi ymuno ag ysgolion a busnesau lleol i ddarparu cynlluniau gwobrwyo i gydnabod disgyblion y mae eu presenoldeb yn eithriadol a'r rhai sy'n gwella'u presenoldeb yn sylweddol hefyd. Meddai'r Cyng. Jen Raynor, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg, "Rydym yn dathlu presenoldeb da oherwydd bydd pob gwers y mae plentyn yn mynd iddi'n cynyddu ei gyfle i gyflawni ei botensial a chael gyrfa dda. Da iawn wir i'r holl ddisgyblion â phresenoldeb llawn, a'r disgyblion a'r teuluoedd sydd wedi gweithio'n galed eleni i wella presenoldeb."
Baneri gwyrdd yn chwifio Mae 14 man hardd yn Abertawe yn dathlu statws nodedig y Faner Werdd neu Ddyfarniad Cymunedol y Faner Werdd. Mae enillwyr 2016 yn cynnwys Gerddi Botaneg Singleton, Parc Brynmill, Gerddi Clun, Parc Victoria a Pharc Cwmdoncyn. Marc rhyngwladol sy'n nodi parc neu fan gwyrdd o safon yw Dyfarniad y Faner Werdd. Fe'i cyflwynir yng Nghymru gan Gadwch Gymru'n Daclus, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Arbenigwyr mannau gwyrdd sy'n beirniadu ac maent yn rhoi o'u hamser i ymweld â safleoedd ymgeisiol a'u hasesu yn erbyn meini prawf gan gynnwys safonau garddwriaethol, glendid, cynaladwyedd a chyfranogaeth y gymuned.
am holl wybodaeth y cyngor, ewch i www.abertawe.gov.uk
Tachwedd 2016
Helpwch ddiogelu yn ein dinas MAE preswylwyr yn cael eu hannog i ymuno â'r cyngor i helpu i ddiogelu oedolion a phlant diamddiffyn. Yn ddiweddarach y mis hwn bydd cymunedau ar draws Cymru'n cymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Diogelu ac mae'r cyngor yn gofyn i bobl leol gymryd rhan. Mae miloedd o staff y cyngor yn Abertawe wedi derbyn hyfforddiant er mwyn iddynt wybod beth i'w wneud os ydynt yn pryderu am ddiogelwch plentyn neu oedolyn diamddiffyn. Meddai Christine Richards, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac arweinydd corfforaethol y cyngor dros ddiogelu, "Gŵyr nifer o bobl yn barod fod diogelu'n brif flaenoriaeth i Gyngor Abertawe. Beth mae'n ei olygu? Credwn y dylech ddweud rhywbeth os byddwch yn gweld neu'n clywed rhywbeth sydd i'w weld allan o'i le gyda
eich cysylltiadau diogelu GALL preswywyr sydd a phryderon bod plentyn yn caeil ei niweido neu ei esgeuluso ffonio’r Tim Cyngor, Cyferirio ac Asesu Canolog ar 01792 635700. Ar gyfer ymholiadau nad ydynt yn rhai brys, gallwch hefyd gysylltu a’r tim drwy e-bostio access.information@swansea.gov.uk Os ydych yn neddwl bod oedolyn yn agored i gamdriniaeth, esgeulustod neu gamfantesisio, ffoniwch 01792 636854 yn ystod oriau swyddfa. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.
phlentyn neu oedolyn y mae’n ymddangos ei fod yn ddiamddiffyn. Dros y blynyddoedd diwethaf mae staff y cyngor wedi derbyn hyfforddiant, felly pan fyddant yn cyflawni eu swyddi dyddiol mae ganddynt ddealltwriaeth o'r
hyn y dylid sylwi arno a’r hyn y dylent ei wneud. "Os gwelant blentyn y mae angen cymorth arno neu berson hŷn y mae twyllwyr yn ei dargedu, byddant yn gwybod i bwy y gallant roi gwybod. Ni ddylem dybio fod diogelu yn rhywbeth y mae rhywun arall wedi'i wneud neu y bydd rhywun arall yn gwneud rhywbeth. Gall pob un ohonom ei wneud. Pan fydd rhywun yn mynegi pryder wrthym, bydd ein tîm o staff hyfforddedig yn ymchwilio i'r mater ac yn gwneud penderfyniad am yr hyn i'w wneud.” Mae Cyngor Abertawe wedi creu gwe-dudalennau i gynnig gwybodaeth i’r cyhoedd a thaflenni y gellir eu lawrlwytho am ddiogelu oedolion a phlant. Mae'r rhain ar gael yn www.abertawe.gov.uk/diogeluoedolion neu yn www.abertawe.gov.uk/diogeluplant
AR AMSER: Mae'r addewid i lenwi tyllau yn y ffordd o fewn 48 awr yn gwneud gwahaniaeth i gymunedau ar draws y ddinas.
Ein haddewid tyllau yn y ffordd yn ceisio cadw traffig i symud yn y ddinas Mae preswylwyr yn canmol addewid y cyngor i lenwi tyllau yn y ffordd o fewn 48 awr o dderbyn adroddiad amdanynt. O Bontarddulais i Sgeti, Townhill a Bonymaen, mae tîm priffyrdd y cyngor wedi llenwi bron 1,000 o dyllau yn y ffordd a bron pob un o fewn y terfyn amser. Gwnaed yr addewid ynglŷn â thyllau yn y ffordd dros yr haf er mwyn mynd i'r afael â'r broblem ar gais preswylwyr, ac ar ôl amheuaeth ar y dechrau, mae'r cyhoedd wedi canmol y cynllun. Ar Facebook mae rhai preswylwyr wedi ei ddisgrifio fel syniad gwych ac mae eraill wedi cynnig y dylai awdurdodau lleol eraill wneud yr un peth. Meddai David Hopkins, Aelod y
Pam mae'n bwysig buddsoddi mewn trwsio tyllau yn y ffordd Mae gyrwyr bysus FIRST wedi cytuno i gefnogi'r addewid drwy roi gwybod i ni am unrhyw dyllau yn y ffordd y maent yn eu gweld wrth iddynt yrru o gwmpas y sir wrth eu gwaith. Mae'r syniad arloesol hwn yn cael ei gefnogi gan y cwmni bysus lleol ac meddai Simon Cursio, Rheolwr Cyffredinol First "Rydym yn falch iawn o weld y gwaith gwych y mae Cyngor Abertawe'n ei wneud i atgyweirio tyllau yn y ffordd yn gyflym yn y ddinas. Mae'r fenter hon yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn cynifer o ffyrdd. Mae ffyrdd sy'n cael eu cynnal a'u cadw'n dda'n ganolog i allu bysus i symud yn llyfn, yn effeithlon ac yn ddiogel ar gyfer ein holl staff a’n cwsmeriaid.” I roi gwybod am dyllau yn y ffordd ewch i www.abertawe.gov.uk/tyllauynyffordd
Cabinet dros yr Amgylchedd a Chludiant, "Rydym wedi buddsoddi arian ychwanegol i lenwi'r tyllau yn y ffordd gan ein bod yn ymwybodol o'i bwysigrwydd i breswylwyr ac mae ein timau wedi ymateb i'r her. “Mae'r timau wedi mynd gam
ymhellach yn llythrennol i gwblhau'r gwaith, gan weithio yn hwyr ar adegau i gyflawni'r addewid a llenwi'r tyllau yn y ffordd. Mae'n rhywbeth y mae aelodau'r cyhoedd wedi'i weld drostynt eu hunain ac maent wedi ymateb yn gadarnhaol iawn iddo."
Mae Cyngor Abertawe wedi buddsoddi £5 miliwn eleni i gynnal a chadw priffyrdd - £1m ychwanegol o'i gymharu â'r blynyddoedd blaenorol a defnyddiwyd peth o'r arian ychwanegol i greu'r Timau Trwsio Tyllau yn y Ffordd dynodedig. Meddai'r Cyng. Hopkins, "Wrth i'r gaeaf agosáu, mae'r her yn anoddach i'n timau ffyrdd oherwydd bod tywydd gwlyb a rhewllyd yn ymdreiddio i graciau yn y ffyrdd a all arwain at fwy o dyllau yn y ffordd. “Mae tywydd gwael hefyd yn creu trafferthion o ran trwsio tyllau yn y ffordd yn effeithiol a chael yr effaith y dymunwn. Serch hynny rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i'r addewid 48 awr, ac os oes rheswm pam na allwn eu llenwi o fewn yr amserau targed, byddwn yn rhoi gwybod i bobl."
Tachwedd 2016
I gael newyddion dyddiol am ddim, ewch i www.swansea.gov.uk/subscribe
Arwain
Abertawe
9
Crynodeb o’r
newyddion Canlyniad heulog i ganol y ddinas Roedd gwerthiannau a nifer yr ymwelwyr â chanol dinas Abertawe ym mis Gorffennaf wedi curo cyfartaledd y DU. Dengys ystadegau fod gwerthiannau wedi cynyddu 1.2% o'u cymharu â'r un mis y llynedd, gan guro'r cyfartaledd cenedlaethol 0.1%. Roedd nifer yr ymwelwyr hefyd 8.7% yn uwch na'r un mis y llynedd, gan guro'n sylweddol y ffigwr cyfartalog cenedlaethol nad yw wedi newid ers Gorffennaf 2015. Casglwyd y ffigurau'n annibynnol ar gyfer Cyngor Abertawe gan gwmni dadansoddi manwerthu o'r enw Springboard. Roedd y digwyddiadau ym mis Gorffennaf yn cynnwys Sioe Awyr Genedlaethol Cymru, a ddenodd dros 200,000 o ymwelwyr yn ogystal â darlledu pêl-droed a thenis ar y sgrîn fawr. Meddai Russell Greenslade, Prif Weithredwr BID Abertawe, "Mae'r ystadegau annibynnol hyn yn newyddion da i ganol y ddinas a'i busnesau.”
• GWNEWCH Y PETH CYWIR: mae ailgylchu'n helpu i leihau costau ac yn amddiffyn yr amgylchedd
Pawb i ddilyn rheolau gwastraff sachau du Mae’r cyhoeddiad diweddar bod Abertawe'n ailgylchu 60% o'i wastraff cartref yn dangos yr ymdrech y mae preswylwyr a'r cyngor yn ei gwneud i fodloni targedau ailgylchu'r llywodraeth. Y targed nesaf i gynghorau ei gyflawni yw 64% erbyn 2020. Nid yw'n swnio fel naid enfawr ond bydd yn golygu cannoedd ar filoedd o dunelli bob blwyddyn sy'n dipyn o her. Mae'r newidiadau diweddaraf yn Abertawe wedi canolbwyntio ar ganolfannau ailgylchu gwastraff cartref a'u newid yn safleoedd 'ailgylchu'n unig' - gan olygu y cafwyd gwared ar sgipiau a oedd yn derbyn gwastraff sachau du dros ben. Mae rhai wedi cwestiynu ai dyma'r peth iawn i'w wneud ac wedi dweud
Pam mae ailgylchu'n bwysig? Mae gwaredu sachau du mewn safleoedd tirlenwi yn Abertawe'n costio £11,000 y diwrnod i'r cyngor ac mae gwybod y gallai llawer o'r gwastraff hwnnw gael ei ailgylchu'n rhywbeth na all y cyngor ei anwybyddu. Mae'r cyngor yn gobeithio y bydd gwaredu'r sgipiau sachau du yn rhai o safleoedd ailgylchu gwastraff y ddinas yn annog mwy o breswylwyr i ystyried gwahanu eu gwastraff cartref a lleihau nifer y sachau du y maent yn cael gwared arnynt. Er nad yw gwastraff sachau du'n cael ei ganiatáu yn Nhir John, Garngoch a Phenlan, bydd y safleoedd eraill yn y Clun a Llansamlet yn parhau i ddarparu gwasanaeth.
y gallai hyn arwain at dipio'n anghyfreithlon os na ellir gwaredu sachau du. Gwnaed yr un honiadau pan gyflwynwyd y terfyn tair sach ddu rai blynyddoedd yn ôl. Y flwyddyn ganlynol, cynyddodd cyfradd ailgylchu'r ddinas bron 6% heb unrhyw gynnydd amlwg mewn tipio anghyfreithlon. Meddai David Hopkins, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Chludiant, "Mae'r broblem o wastraff
sachau du yn rhywbeth rydym yn canolbwyntio arni gyda'r nod o wella cyfraddau ailgylchu. "Cyhyd â nad oes terfynau neu gyfyngiadau ar waredu gwastraff sachau du, yna bydd rhai preswylwyr bob amser yn cymryd y dewis rhwydd a thaflu popeth i mewn i un sach heb bryderu am yr effeithiau ar yr amgylchedd na'r gost ariannol i'r cyngor. "Yn yr amserau hyn o bwysau ariannol cynyddol, nid yw'n
gynaliadwy i ddisgwyl i'r cyngor ddidoli a thrin sachau nifer bychan o breswylwyr nad ydynt yn ailgylchu ar hyn o bryd." "Bydd ein cynlluniau'n gwneud defnyddio sachau du yn llai cyfleus a gobeithio'n annog preswylwyr i ailgylchu." Ychwanegodd y Cyng. Hopkins, "Os yw aelwydydd yn gwneud yn fawr o'r gwasanaethau ailgylchu ymyl y ffordd presennol, dylai'r rhan fwyaf o deuluoedd allu cadw at y terfyn tair sach heb orfod ystyried mynd â sachau du i safle ailgylchu gwastraff. "Gall preswylwyr barhau i fynd â sachau du i nifer cyfyngedig o safleoedd ond bydd disgwyl iddynt fod wedi gwaredu gwastraff y gellir ei ailgylchu cyn iddynt gael eu derbyn." • I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.abertawe.gov.uk/ailgylchu
Tawelu meddyliau preswylwyr dros ddyfodol yr amgueddfa MAE Cyngor Abertawe am dawelu meddyliau preswylwyr nad oes unrhyw gynlluniau i gau amgueddfa'r ddinas. Fel rhan o adolygiad o'i wasanaethau diwylliannol cyfan, mae'r cyngor yn ceisio cadw a sicrhau buddsoddiad allanol yn adeilad hanesyddol yr amgueddfa ar Heol Victoria. Oherwydd heriau cyllidebol digynsail, mae'r cyngor yn archwilio ffyrdd o sicrhau'r arbedion tymor byr y mae eu hangen ar wasanaeth yr amgueddfa drwy adolygu gweithrediad adeilad sied
dramiau'r amgueddfa a'r llongau hanesyddol y mae'r amgueddfa'n berchen arnynt. Mae'r cyngor hefyd yn adolygu trefniad siop gasgliadau'r amgueddfa yng Nglandŵr. Gallai hyn arwain at fuddsoddiad a sicrhau arbenigedd ar gyfer cadwraeth a storfa o safon fel rhan o adfywio parhaus safle hanesyddol Gwaith Copr yr HafodMorfa. Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, "Mae cryn wybodaeth gamarweiniol am
Amgueddfa Abertawe ar hyn o bryd, felly rydym am ddweud y gwir. “Er gwaethaf yr heriau ariannol sylweddol rydym yn eu hwynebu, nid ydym yn ystyried cau adeilad yr amgueddfa ar Heol Victoria. Mae'r adeilad hwn yn rhan o dreftadaeth Abertawe ac rydym am gadw gwasanaeth amgueddfa ffyniannus yno am flynyddoedd lawer i ddod.” • Gallwch gael mwy o wybodaeth am yr amgueddfa yn www.abertawe.gov.uk/amgueddfaabertawe
Gallwn helpu gyda phroblem y canclwm Mae perchnogion tir preifat yn cael y cyfle i gael rhywfaint o help gan y cyngor i ddatrys eu problem gyda chanclwm Japan. Mae'r cyngor yn bwriadu defnyddio'i flynyddoedd o brofiad o fynd i'r afael â'r broblem ar dir cyhoeddus i helpu perchnogion tir preifat i ddatrys y broblem yn eu gerddi eu hunain. Mae canclwm Japan ar dir cyhoeddus yn cael ei drin gan y cyngor ond mae'n rhaid i berchnogion tir preifat wneud eu trefniadau eu hunain a nawr maent yn gallu manteisio ar arbenigedd y cyngor am bris rhesymol. Ewch i'r wefan yn www.abertawe.gov.uk/trincancl wm i gael mwy o wybodaeth am y gwasanaeth trin canclwm Japan.
Cofio Lewis Bydd gweithredydd gwleidyddol, ysgrifennwr a beirniad llenyddol enwog yn cael ei gofio am byth yn ei ddinas enedigol. Mae Cyngor Abertawe wedi datgelu plac glas i Saunders Lewis yn agos at ardal Stryd Hanover yn yr Uplands lle bu’n byw gyda'i dad ar ddechrau'r 20fed ganrif. Ganed Lewis ym 1893, ac roedd yn genedlaetholwr Cymraeg blaenllaw ac yn aelod sefydlu Plaid Cymru. Cafodd hefyd ei enwebu am Wobr Llenyddiaeth Nobel ym 1970.
Arafwch! MAE 'parth diogel' cyflymder cyfartalog wedi'i osod ar hyd darn o ffordd yn Abertawe lle cafwyd nifer o ddamweiniau angheuol. Mae cyfres o gamerâu wedi'u gosod ar hyd dwy ran o'r B4295 rhwng Tregŵyr a Phenclawdd a Llanmorlais a Llanrhidian. Mae naw o bobl wedi marw ar hyd y rhannau hyn o’r ffordd ers 2000 ac nid yw'r mesurau arafu traffig blaenorol wedi gweithio.
10
Arwain
Abertawe
Y diweddaraf am daliadau parcio Cyflwynwyd taliadau un-pris drwy'r flwyddyn ym meysydd parcio blaendraeth a reolir gan Gyngor Abertawe. Hysbysebwyd y newid yn gynharach yn yr haf ac fe'i cyflwynwyd yr wythnos hon fel rhan o gynllun Cyngor Abertawe i sicrhau bod y meysydd parcio yn gynaliadwy. Meddai llefarydd ar ran y cyngor, "Mae'r cyngor yn gweithio'n galed i gadw taliadau parcio i lawr ar draws y ddinas ac nid yw taliadau meysydd parcio blaendraeth wedi codi ers blynyddoedd. "Serch hynny, yn ystod cyfnod lle mae angen i'r cyngor arbed oddeutu £80m yn y blynyddoedd i ddod a blaenoriaethu gwasanaethau fel addysg a gofal cymdeithasol, mae'n bwysig bod ein meysydd parcio'n talu am eu gweithrediad eu hunain ac yn gynaliadwy. "Dros y blynyddoedd rydym wedi cymorthdalu cost parcio yn ystod misoedd y gaeaf ac nid yw'r taliadau wedi codi yn ystod yr haf yn y blynyddoedd diwethaf. Mantais cyflwyno taliadau drwy'r flwyddyn yw ein bod ni wedi gallu cadw taliadau'r haf ar eu cyfraddau presennol." Mae'r cyngor yn rheoli meysydd parcio o gwmpas y ddinas, gan gynnwys meysydd parcio arhosiad byr ac arhosiad hir yng nghanol y ddinas a meysydd parcio maestrefol. Gellir gweld mwy o fanylion, gan gynnwys amseroedd agor, yn www.abertawe.gov.uk/meysyddp arcio
Dylan yn ein rhoi ar y map Mae cysylltiadau Abertawe â Dylan Thomas yn golygu bod y ddinas bellach yn cael ei chynnwys ar fap rhyngweithiol o'r byd sy'n nodi lleoliadau sydd wedi ysbrydoli llenyddiaeth eiconig. Mae Parc Cwmdoncyn, traeth Abertawe a hen dafarn The Three Lamps ar Sgwâr y Castell ymysg y lleoliadau i gael eu cynnwys. Syniad y cwmni Americanaidd, Placing Literature, yw'r map ar-lein. Ers ei lansio yn 2013, mae darllenwyr, addysgwyr, llyfrgellwyr ac awduron wedi mapio dros 3,000 o leoedd ar draws y byd o nofelau, straeon byrion, cerddi a dramâu. Ewch i www.placingliterature.com i weld y map ar-lein.
am holl wybodaeth y cyngor, ewch i www.abertawe.gov.uk
Tachwedd 2016
Oes newydd yn gwawrio wrth i waith ddechrau ar gartrefi cyngor Mae gwaith clirio safle'n parhau i baratoi ar gyfer y tai cyngor newydd cyntaf yn Abertawe ers cenhedlaeth. Bydd gwaith ar dir ger Ffordd Milford ym Mhenderi'n arwain yn fuan at osod sylfeini ar gyfer 10 tŷ dwy ystafell wely ac 8 fflat un ystafell wely. Bydd y cartrefi, a fydd ar osod am rent fforddiadwy, ymysg y rhai mwyaf ynni-effeithlon yn y ddinas. Wedi'u hadeiladu i safonau arloesol Passivhaus, bydd y cartrefi'n cynnwys mesurau inswleiddio gosodedig sy'n lleihau'r angen am wresogi'n sylweddol. Cânt eu dylunio i safonau Cartrefi Gydol Oes er mwyn diwallu anghenion preswylwyr ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Meddai'r Cyng. Andrea Lewis, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Wasanaethau'r Genhedlaeth Nesaf, “Mae'r prosiect hwn yn arloesol, nid yn unig oherwydd bydd yn adeiladu'r tai cyngor newydd cyntaf yn Abertawe ers y 1980au, ond hefyd oherwydd manylebau ynni-effeithlon y cartrefi. “Byddant yn mynd i'r afael ag angen Abertawe am dai fforddiadwy, yn helpu pobl i leihau eu biliau tanwydd ac yn lleihau ôl troed carbon y ddinas. Bydd y cartrefi newydd hefyd yn helpu i gyfeirio manylebau cynlluniau adeiladu tai cyngor eraill yn y dyfodol gan mai ond y dechrau yw'r prosiect hwn. “Yn ogystal â'r tenantiaid a fydd yn elwa, rydym yn awyddus i sicrhau y bydd gweithwyr a busnesau lleol yn elwa hefyd. Dyma pam bydd ein Tîm Gwasanaethau Adeiladau ac Eiddo Corfforaethol yn adeiladu'r cartrefi newydd eu hunain, gan helpu i hybu sgiliau, creu cyflogaeth leol a chynyddu mwy o fasnach i gyflenwyr lleol.” Mae cais cynllunio hefyd wedi cael ei gyflwyno am 12 fflat un ystafell wely a 4 fflat dwy ystafell wely ar dir oddi ar Ffordd-y-Bryn yng Ngellifedw, a fydd eto'n cael eu hadeiladu i safonau Passivhaus a Chartrefi Gydol Oes. Caiff y gwaith ar gyfer y ddau gynllun ei ariannu gan refeniw o renti'r cyngor ac nid o dreth y cyngor. Maent ymysg sawl prosiect i gynyddu cartrefi cyngor ar draws y ddinas wrth i'r cyngor weithio tuag at fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru.
• YR ADEILADU MAWR: Mae'r Cynghorydd Andrea Lewis yn gweld sut rydym yn paratoi i adeiladu cartrefi cyngor newydd
Mae'r rhain yn cynnwys cynllun gwella pwysig gwerth £11.7m ar gyfer dau dŵr o fflatiau yn Stryd Matthew yn Nyfaty sy'n cynnwys adnewyddu'r tu allan i'r adeiladau'n gyfan, yn ogystal â gosod ystafelloedd ymolchi a cheginau newydd mewn 120 o fflatiau. Mae gwaith tirlunio a draenio'n cael ei wneud y tu allan i'r adeiladau hefyd, ynghyd ag ailwynebu ffyrdd mynediad
a chreu mannau parcio newydd. Buddsoddwyd mwy nag £8m mewn eiddo cyngor ym Mhenlan a Gendros dros y flwyddyn ddiwethaf i osod ceginau, boeleri ac ystafelloedd ymolchi newydd a gwneud gwaith ailweirio. At ei gilydd, mae'r cyngor yn disgwyl gwario oddeutu £260m ar wella'i stoc tai erbyn 2020.
Meddai'r Cyng. Lewis, “Mae'r gwaith hwn yn rhan o'n hymdrechion parhaus i drechu tlodi trwy wella safonau byw pobl ar draws Abertawe. Mae ein buddsoddiad mewn cyfleusterau megis ystafelloedd ymolchi a cheginau newydd yn dangos sut rydym yn ystyried yr ymrwymiad hwnnw o ddifrif.”
Dim cuddfan i chwyn Mae timau strydlun Cyngor Abertawe wedi bod wrthi'n ceisio cael gwared ar chwyn wrth ymyl y ffordd am yr ail dro yn eu brwydr yn erbyn y pla parhaol. Mae'r cyngor eisoes wedi trin 1,500km o ymylon ffordd ar draws y ddinas dros yr haf â chwynladdwr i gadw planhigion digroeso dan reolaeth. Ac yn yr hydref bu'r cyngor yn trin y rhwydwaith cyfan eto mewn ymdrech i'w hatal rhag dychwelyd yn y gwanwyn. Meddai David Hopkins, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Chludiant, “Mae chwyn yn hyll ac yn wydn.
“Er nad oes modd cael gwared arnynt yn gyfan gwbl, rydym wedi gwneud ein gorau glas i'w cadw draw cymaint â phosib. “Rydym wedi derbyn cwynion gan breswylwyr a chynghorwyr a, lle bo angen, rydym hefyd wedi anfon ein tîm NEAT ac aelodau eraill o staff i dynnu chwyn a'u trin mewn mannau lle maent wedi bod yn broblem benodol, megis ardal y marina. “Cafodd y gwaith a wnaed ganddynt effaith fawr a chysylltodd rhai preswylwyr â ni i ddweud bod golwg llawer gwell ar bethau nawr. Yn ogystal â lladd llawer o'r chwyn cyn y gaeaf, dylai'r gwaith diweddaraf eu hatal
rhag tyfu'n ôl y gwanwyn nesaf.” Daeth y tymor tyfu arferol i chwyn i ben y mis diwethaf ond mae timau'r cyngor hefyd yn parhau â'r gwaith i geisio atal chwyn rhag aildyfu'r flwyddyn nesaf. Mae gweithredwyr twristiaeth yn Abertawe wedi croesawu ymgyrch y cyngor yn erbyn y chwyn. Meddai Tony McGettrick, o sefydliad gweithredwyr twristiaeth Twristiaeth Bae Abertawe, “Lleiaf yn y byd o chwyn hyll sydd i'w gweld, mwyaf yn y byd bydd pobl yn mwynhau Bae Abertawe, ein hatyniadau gwych a'r fenter blodau gwyllt lewyrchus sydd wedi cael cymaint o adborth cadarnhaol gan ymwelwyr.”
HYSBYSIADAU CYHOEDDUS CYNGOR SIR A DINAS ABERTAWE GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG 2016 ‘GWAHARDD AROS’ WARD UPLANDS HYSBYSIR trwy hyn fod Cyngor Dinas a Sir Abertawe wedi gwneud y gorchymyn uchod ar 7 Tachwedd 2016 o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y’i diwygiwyd) a’r holl bwerau galluogi eraill. Bydd y gorchymyn ar waith o 14 Tachwedd 2016, fel a nodir yn yr atodlenni isod. Gellir gweld copi o’r gorchymyn a’r cynllun yn ystod oriau swyddfa yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN. Caiff unrhyw berson sy’n dymuno herio dilysrwydd y gorchymyn neu’r gweithdrefnau a ddefnyddiwyd wrth wneud y gorchymyn hwn wneud cais i’r Uchel Lys o fewn 6 wythnos i ddyddiad yr hysbysiad hwn. ATODLENNI ATODLEN 1 DIDDYMIADAU Diddymir y gorchmynion presennol i’r graddau y maent yn anghyson â’r gofynion a nodwyd yn yr atodlenni isod ac i’r graddau y maent yn perthyn i hyd neu hydoedd y ffordd neu’r ffyrdd y cyfeirir atynt yn yr atodlenni hynny. ATODLEN 2 GWAHARDD AROS AR UNRHYW ADEG HAWTHORN AVENUE Y Ddwy Ochr O’i chyffordd ag ymyl palmant gogleddol Sketty Road am bellter o 10 metr i gyfeiriad y gogledd. EDGEWARE ROAD Ochr y De-ddwyrain O’i chyffordd ag ymyl palmant deorllewinol Glanmor Road am bellter o 5 metr i gyfeiriad y de-orllewin. GLANMOR ROAD Ochr y De-orllewin O’i chyffordd ag ymyl palmant deddwyreiniol Edgeware Road am bellter o 21 metr i gyfeiriad y de-ddwyrain. TOWNHILL ROAD Ochr y De-ddwyrain O’i chyffordd ag ymyl palmant gogleddddwyreiniol Lôn Gwynfryn am bellter o 11 metr i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain. O’i chyffordd ag ymyl palmant deorllewinol Lôn Cwmgwyn am bellter o 15 metr i gyfeiriad y de-orllewin O’i chyffordd ag ymyl palmant gogleddddwyreiniol Lôn Cwmgwyn am bellter o 15 metr i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain. O’i chyffordd ag ymyl palmant deorllewinol Lôn Bryngwyn am bellter o 15 metr i gyfeiriad y de-orllewin O’i chyffordd ag ymyl palmant gogleddddwyreiniol Lôn Bryngwyn am bellter o 15 metr i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain.
LÔN GWYNFRYN Ochr y Gogledd O’i chyffordd ag ymyl palmant deddwyreiniol Townhill Road am bellter o 15 metr i gyfeiriad y de, wedyn i gyfeiriad y dwyrain. LÔN CWMGWYN Ô Ochr y De O’i chyffordd ag ymyl palmant deddwyreiniol Townhill Road am bellter o 15 metr i gyfeiriad y de, wedyn i gyfeiriad y dwyrain. Ochr y Gogledd O’i chyffordd ag ymyl palmant deddwyreiniol Townhill Road am bellter o 15 metr i gyfeiriad y de, wedyn i gyfeiriad y dwyrain. LÔN BRYNGWYN Ochr y De O’i chyffordd ag ymyl palmant deddwyreiniol Townhill Road am bellter o 15 metr i gyfeiriad y de, wedyn i gyfeiriad y dwyrain. Ochr y Gogledd O’i chyffordd ag ymyl palmant deddwyreiniol Townhill Road am bellter o 15 metr i gyfeiriad y de, wedyn i gyfeiriad y dwyrain. LÔN CADOG Ochr y Gogledd O bwynt 7 metr i’r dwyrain o ymyl palmant dwyreiniol Cokett Road am bellter o 15 metr i gyfeiriad y gogledd, wedyn y dwyrain, wedyn y de. Er eglurder: bydd hyn yn cynnwys y man troi cyfan GLANMÔR PARK ROAD Y Ddwy Ochr O’i chyffordd ag ymyl palmant gogleddol Sketty Road am bellter o 15 metr i gyfeiriad y gogledd. SKETTY ROAD Ochr y Gogledd O’i chyffordd ag ymyl palmant dwyreiniol Glanmor Park Road am bellter o 15 metr i gyfeiriad y dwyrain. O’i chyffordd ag ymyl palmant gorllewinol Glanmor Park Road am bellter o 15 metr i gyfeiriad y gorllewin. CANTERBURY ROAD Ochr y De-ddwyrain O’i chyffordd ag ymyl palmant gorllewinol C/S – U0037 am bellter o 10 metr i gyfeiriad y gorllewin. O’i chyffordd ag ymyl palmant dwyreiniol C/S – U0037 am bellter o 10 metr i gyfeiriad y dwyrain. C/S – U0037 Y Ddwy Ochr O’i gyffordd ag ymyl palmant deddwyreiniol Canterbury Road am bellter o 10 metr i gyfeiriad y de-ddwyrain. O’i gyffordd ag ymyl palmant gogleddorllewinol C/S – U0032 am bellter o 10 metr i gyfeiriad y gogledd-orllewin. C/S – U0032 Yr Ochr Ogledd-orllewinol O’i gyffordd ag ymyl palmant gorllewinol C/S – U0037 am bellter o 10 metr i gyfeiriad y gorllewin.
Mae cydraddoldeb yn bwysig i ni gan fod angen pobl o’r gymuned gyfan i ddarparu gwasanaethau o safon
O’i gyffordd ag ymyl palmant dwyreiniol C/S – U0037 am bellter o 10 metr i gyfeiriad y dwyrain. ATODLEN 3 GWAHARDD AROS DYDD LLUN I DDYDD GWENER 8AM – 6PM GLANMOR ROAD Ochr y De-orllewin O bwynt 21 metr i’r de-ddwyrain i bwynt 48 metr i’r de-ddwyrain o ymyl palmant de-ddwyreiniol Edgeware Road, sef pellter o 27 metr. O’i chyffordd ag ymyl palmant gogleddorllewinol Edgeware Road i’w chyffordd ag ymyl palmant de-ddwyreiniol Maple Crescent. ATODLEN 4 AROS CYFYNGEDIG DYDD LLUN I DDYDD GWENER 8AM – 6PM, 30 MUNUD DIM DYCHWELYD O FEWN 30 MUNUD, AC EITHRIO DEILIAID HAWLENNI. BRYN ROAD Yr Ochr Ogledd-orllewinol O bwynt 49 metr i’r gogledd-ddwyrain o bwynt 71 metr i’r gogledd-ddwyrain o ymyl palmant de-ddwyreiniol Osborne Terrace, sef pellter o 22 metr. ATODLEN 5 AROS CYFYNGEDIG DYDD LLUN I DDYDD GWENER 8AM – 4PM, 10 MUNUD DIM DYCHWELYD O FEWN 30 MUNUD ST ALBAN’S ROAD Ochr y De-ddwyrain O bwynt 8 metr i’r gogledd-ddwyrain i bwynt 20 metr i’r gogledd-ddwyrain o ymyl palmant dwyreiniol Brynmill Avenue, sef pellter o 12 metr. ATODLEN 6 GWAHARDD AROS DYDD LLUN I DDYDD GWENER 8AM-4PM ST ALBAN’S ROAD Ochr y De-ddwyrain O bwynt 20 metr i’r gogledd-ddwyrain i bwynt 31 metr i’r gogledd-ddwyrain o ymyl palmant dwyreiniol Brynmill Avenue, sef pellter o 11 metr. ATODLEN 7 DIM AROS AC EITHRIO BYSUS DYDD LLUN I DDYDD GWENER 8AM – 4PM ST ALBAN’S ROAD Ochr y De-ddwyrain O bwynt 31 metr i’r gogledd-ddwyrain i bwynt 67 metr i’r gogledd-ddwyrain o ymyl palmant dwyreiniol Brynmill Avenue, sef pellter o 36 metr. 07/11/2016 Tracey Meredith Dirprwy Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd Deputy Head of Legal & Democratic Services
CYNGOR SIR A DINAS ABERTAWE ‘GWAHARDD AROS AR UNRHYW ADEG’ STEPNEY ROAD/SWANSEA ROAD, WAUNARLWYDD HYSBYSIR trwy hyn fod Cyngor Dinas a Sir Abertawe wedi gwneud y gorchymyn uchod ar 7 Tachwedd 2016 o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y’i diwygiwyd) a’r holl bwerau galluogi eraill. Bydd y gorchymyn ar waith o 14 Tachwedd 2016, fel a nodir yn yr atodlenni isod. Gellir gweld copi o’r gorchymyn a’r cynllun yn ystod oriau swyddfa yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN. Caiff unrhyw berson sy’n dymuno herio dilysrwydd y gorchymyn neu’r gweithdrefnau a ddefnyddiwyd wrth wneud y gorchymyn hwn wneud cais i’r Uchel Lys o fewn 6 wythnos i ddyddiad yr hysbysiad hwn. ATODLENNI ATODLEN 1 DIDDYMIADAU Diddymir y Gorchmynion presennol i’r graddau y maent yn anghyson â’r cynigion a nodir yn yr atodlenni isod ac i’r graddau y maent yn berthnasol i hyd neu hydoedd y ffordd neu’r ffyrdd y cyfeirir ati/atynt yn yr atodlenni hynny. ATODLEN 2 GWAHARDD AROS AR UNRHYW ADEG STEPNEY ROAD Ochr y Gorllewin O’i chyffordd ag ymyl palmant deheuol Swansea Road am bellter o 15 metr i gyfeiriad y de. Ochr y Dwyrain O’i chyffordd ag ymyl palmant deheuol Swansea Road am bellter o 30 metr i gyfeiriad y de. SWANSEA ROAD Ochr y De O’i chyffordd ag ymyl palmant gorllewinol Stepney Road am bellter o 10 metr i gyfeiriad y gorllewin. O’i chyffordd ag ymyl palmant dwyreiniol Stepney Road am bellter o 10 metr i gyfeiriad y dwyrain. 07/11/2016 Tracey Meredith Dirprwy Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd Deputy Head of Legal & Democratic Services
Parhad ar y dudalen nesaf
HYSBYSIADAU CYHOEDDUS CYNGOR SIR A DINAS ABERTAWE GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG 2016 ‘GWAHARDD AROS AR UNRHYW ADEG’ GORS ROAD, PENLLERGAER, ABERTAWE HYSBYSIR trwy hyn fod Cyngor Dinas a Sir Abertawe wedi gwneud y gorchymyn uchod ar 7 Tachwedd 2016 o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y’i diwygiwyd) a’r holl bwerau galluogi eraill. Bydd y gorchymyn ar waith o 14 Tachwedd 2016, fel a nodir yn yr atodlenni isod. Gellir gweld copi o’r gorchymyn a’r cynllun yn ystod oriau swyddfa yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN. Caiff unrhyw berson sy’n dymuno herio dilysrwydd y gorchymyn neu’r gweithdrefnau a ddefnyddiwyd wrth wneud y gorchymyn hwn wneud cais i’r Uchel Lys o fewn 6 wythnos i ddyddiad yr hysbysiad hwn. ATODLENNI ATODLEN 1 DIDDYMIADAU Diddymir y Gorchmynion presennol i’r graddau y maent yn anghyson â’r cynigion a nodir yn yr atodlenni isod ac i’r graddau y maent yn berthnasol i hyd neu hydoedd y ffordd neu’r ffyrdd y cyfeirir ati/atynt yn yr atodlenni hynny. ATODLEN 2 GWAHARDD AROS AR UNRHYW ADEG GORS ROAD Ochr y Gogledd-orllewin O’i chyffordd ag ymyl palmant gorllewinol y ffordd fynediad ddi-enw i Fferm Coedwig-hywel i bwynt 5 metr i’r de-orllewin o’r man hwnnw. O’i chyffordd ag ymyl palmant dwyreiniol y ffordd fynediad ddi-enw i Fferm Coedwig-hywel i bwynt 5 metr i’r dwyrain o’r man hwnnw. O’i chyffordd ag ymyl palmant gogleddol Llewellyn Road i bwynt 10 metr i’r gogledd-ddwyrain o’r man hwnnw. Ochr y De-ddwyrain O’i chyffordd ag ymyl palmant gogleddol Llewellyn Road i bwynt 325 metr i’r gogledd-ddwyrain o’r man hwnnw, yna 6 metr i’r de-ddwyrain, yna 6 metr i’r gogledd-orllewin ac yna 9 metr i’r gogledd-orllewin - cyfanswm o 346 metr. Er eglurder, mae hyn yn cynnwys rhan ogledd-ddwyreiniol ffordd bengaead Gors Road. FFORDD FYNEDIAD DDI-ENW I FFERM COEDWIG-HYWEL Y Ddwy Ochr O’i chyffordd ag ymyl palmant gogleddorllewinol Gors Road i bwynt 4 metr i’r gogledd o’r man hwnnw. Er eglurder, mae hyn yn cynnwys hyd at y briffordd fabwysiedig. LLEWELLYN ROAD Ochr y Gogledd O’i chyffordd ag ymyl palmant gogleddorllewinol Gors Road i bwynt 12 metr i’r gorllewin o’r man hwnnw. O’i chyffordd ag ymyl palmant
de-ddwyreiniol Gors Road i bwynt 11 metr i’r de-ddwyrain o’r man hwnnw. FFORDD FYNEDIAD DDI-ENW I FAES CHWARAE PENLLERGAER Y Ddwy Ochr O’i chyffordd ag ymyl palmant de-orllewinol Gors Road i bwynt 9 metr i’r de o’r man hwnnw. Er eglurder, mae hyn yn cynnwys hyd at y briffordd fabwysiedig. 07/11/2016 Tracey Meredith Dirprwy Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd Deputy Head of Legal & Democratic Services CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG 2016 SOUTHLANDS DRIVE, WARD WEST CROSS HYSBYSIR trwy hyn fod Cyngor Dinas a Sir Abertawe wedi gwneud y gorchymyn uchod o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y’i diwygiwyd) a’r holl bwerau galluogi eraill. Bydd y gorchymyn ar waith o 14/11/2016, fel a nodir yn yr atodlenni isod. Gellir gweld copi o’r gorchymyn a’r cynllun yn ystod oriau swyddfa yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe. Caiff unrhyw berson sy’n dymuno herio dilysrwydd y gorchymyn neu’r gweithdrefnau a ddefnyddiwyd wrth wneud y gorchymyn hwn wneud cais i’r Uchel Lys o fewn 6 wythnos i ddyddiad yr hysbysiad hwn. ATODLENNI ATODLEN 1 DIDDYMIADAU Diddymir y gorchmynion presennol i’r graddau y maent yn anghyson â’r gofynion a nodwyd yn yr atodlenni isod ac i’r graddau y maent yn perthyn i hyd neu hydoedd y ffordd neu’r ffyrdd y cyfeirir atynt yn yr atodlenni hynny. ATODLEN 2 CLUSTOGAU CYFLYMDER SOUTHLANDS DRIVE, WEST CROSS WARD Ar bwynt 162 metr i’r de o ymyl palmant deheuol West Cross Lane. Ar bwynt 247 metr i’r de o ymyl palmant deheuol West Cross Lane. Bydd y cynigion hyn yn disodli’r mesurau arafu traffig presennol. 07/11/2016 Tracey Meredith Dirprwy Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd Deputy Head of Legal & Democratic Services CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG 2016 RHAN O SYSTEM UNFFORDD, BOX ROAD, PENGELLI, WARD PENYRHEOL, ABERTAWE HYSBYSIR trwy hyn fod Cyngor Dinas a Sir Abertawe wedi gwneud y gorchymyn uchod o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y’i diwygiwyd) a’r holl bwerau galluogi eraill.
Bydd y gorchymyn ar waith o 14/11/2016, fel a nodir yn yr atodlenni isod. Gellir gweld copi o’r gorchymyn a’r cynllun yn ystod oriau swyddfa yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe. Caiff unrhyw berson sy’n dymuno herio dilysrwydd y gorchymyn neu’r gweithdrefnau a ddefnyddiwyd wrth wneud y gorchymyn hwn wneud cais i’r Uchel Lys o fewn 6 wythnos i ddyddiad yr hysbysiad hwn. ATODLEN 1 DIDDYMU System Unfordd (Rhan) Box Road, Pengelli, Ward Penyrheol, Abertawe O gyffordd Box Road a Pentre Road/High Street a phwynt 55m i’r gorllewin o’r man hwnnw. (Er eglurder: y rhan hon yn unig fydd yn dychwelyd i draffig dwyffordd.) 07/11/2016 Tracey Meredith Dirprwy Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd Deputy Head of Legal & Democratic Services CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG ARFAETHEDIG 2016 ‘GWAHARDD AROS AR UNRHYW ADEG’ LÔN CEDWYN A GLANMOR ROAD, UPLANDS, ABERTAWE HYSBYSIR trwy hyn fod Cyngor Dinas a Sir Abertawe’n bwriadu gwneud gorchymyn yn unol â’i bwerau a gynhwysir yn Neddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y’i diwygiwyd) ("y Ddeddf") y disgrifir ei effaith yn yr atodlen(ni) isod. Gellir gweld copi o’r gorchymyn, y datganiad o resymau a’r cynllun yn ystod oriau swyddfa yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN. Dylid cyflwyno unrhyw wrthwynebiadau i’r cynigion yn ysgrifenedig gan nodi’r rhesymau drostynt i gyrraedd y sawl sydd wedi llofnodi isod yn y cyfeiriad uchod erbyn 31 Tachwedd 2016 gan ddyfynnu’r cyfeirnod DVT00213920/LJR. ATODLENNI ATODLEN 1 DIDDYMIADAU Diddymir y Gorchmynion presennol i’r graddau y maent yn anghyson â’r cynigion a nodir yn yr atodlenni isod ac i’r graddau y maent yn berthnasol i hyd neu hydoedd yr heol neu’r heolydd y cyfeirir ati/atynt yn yr atodlenni hynny. ATODLEN 2 GWAHARDD AROS AR UNRHYW ADEG LÔN CEDWYN Ochr y Gogledd-orllewin O’i chyffordd ag ymyl palmant gogleddol Glanmor Road i bwynt 14 metr i’r gogledd-ddwyrain o’r man hwnnw. Ochr y De-ddwyrain O’i chyffordd ag ymyl palmant gogleddol Glanmor Road i bwynt 10 metr i’r gogledd-ddwyrain o’r man hwnnw.
GLANMOR ROAD Ochr y Gogledd O bwynt 12 metr i’r gorllewin o ymyl palmant Lôn Cedwyn i bwynt 11 metr i’r dwyrain o ymyl palmant dwyreiniol Lôn Cedwyn. 07/11/2016 Tracey Meredith Dirprwy Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd Deputy Head of Legal & Democratic Services CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE PROPOSED TRAFFIC REGULATION ORDER 2016 GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG ARFAETHEDIG 2016 ‘GWAHARDD AROS R UNRHYW ADEG’ BONYMAEN ROAD A PHEN-Y-GARN, BONYMAEN, ABERTAWE HYSBYSIR trwy hyn fod Cyngor Dinas a Sir Abertawe’n bwriadu gwneud gorchymyn yn unol â’i bwerau a gynhwysir yn Neddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y’i diwygiwyd) ("y Ddeddf") y disgrifir ei effaith yn yr atodlen(ni) isod. Gellir gweld copi o’r gorchymyn, y datganiad o resymau a’r cynllun yn ystod oriau swyddfa yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN. Dylid cyflwyno unrhyw wrthwynebiadau i’r cynigion yn ysgrifenedig gan nodi’r rhesymau drostynt i gyrraedd y sawl sydd wedi llofnodi isod yn y cyfeiriad uchod erbyn 31 Tachwedd 2016 gan ddyfynnu’r cyfeirnod DVT00220780/RDC. ATODLENNI ATODLEN 1 DIDDYMIADAU Diddymir y Gorchmynion presennol i’r graddau y maent yn anghyson â’r cynigion a nodir yn yr atodlenni isod ac i’r graddau y maent yn berthnasol i hyd neu hydoedd y ffordd neu’r ffyrdd y cyfeirir ati/atynt yn yr atodlenni hynny. ATODLEN 2 GWAHARDD AROS AR UNRHYW ADEG BONYMAEN ROAD Ochr y Gogledd O’i chyffordd ag ymyl palmant dwyreiniol Pen-y-Garn i bwynt 108 metr i’r dwyrain o’r man hwnnw. O’i chyffordd ag ymyl palmant gorllewinol Pen-y-Garn i bwynt 13 metr i’r gorllewin o’r man hwnnw. PEN-Y-GARN Ochr y Dwyrain a’r Gorllewin O’i chyffordd ag ymyl palmant gogleddol Bonymaen Road i bwynt 11 metr i’r gogledd o’r man hwnnw. 07/11/2016 Tracey Meredith Dirprwy Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd Deputy Head of Legal & Democratic Services