Arwain
Abertawe
Rhifyn 111
Haf tu mewn
Papur newydd Cyngor Abertawe
-Yr Haf 2018
eich dinas: eich papur
Helô i fyny fanna! Mae Sioe Awyr Cymru'n dychwelyd yma hefyd
tudalen 3
• YSGOL PUM SEREN Mae disgyblion Cwymrhydyceirw yn dathlu am mai eu hysgol nhw yw'r ysgol gynradd Saesneg gyntaf i sgorio 'Ardderchog' drwyddi draw yn ei harolygiad diweddaraf gan Estyn. Mwy o wybodaeth ar dudalen 9
YR HAF hwn, bydd gwaith yn dechrau i drawsnewid Abertawe'n un o'r dinasoedd digidol mwyaf clyfar ym Mhrydain a fydd yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif. Mae buddsoddiad yn nyfodol y ddinas a'r rhanbarth, a fydd yn werth mwy nag £1.3 biliwn yn y blynyddoedd i ddod, yn dechrau gyda chamau bach iawn. Mae gwaith wedi dechrau i drawsnewid Ffordd y Brenin yng nghanol y ddinas yn barc dinesig ac yn Bentref Digidol a fydd yn denu mentrau cychwynnol uwch-dechnoleg, gan droi syniadau o'r radd flaenaf sy'n deillio o brifysgolion y ddinas yn fusnesau blaengar a fydd yn denu diddordeb o'r DU a'r byd. Bydd gwaith galluogi ar gyfer yr arena a'r bont ddigidol nodedig a fydd yn croesi Heol Ystumllwynarth yn dechrau ym mis Awst.
dau gam mawr
Gwaith i drawsnewid y ddinas ym mynd rhagddo’r haf hwn • MAE ATG (Ambassador Theatre Group), cwmni adloniant arweiniol yn fyd-eang, â phortffolio o leoliadau o Lundain i Manhattan, wedi'i benodi i gynnal arena ddigidol dan do arfaethedig Abertawe. • FIS nesaf bydd Skyline, y cwmni o Seland Newydd sydd wrth wraidd menter car cebl Mynydd Cilfái sy'n werth miliynau o bunnoedd, yn ôl yn y ddinas i lofnodi prif delerau'r fargen.
Meddai Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Yr haf hwn y cymerir y camau go iawn cyntaf i drawsnewid ein dinas a'n rhanbarth. Bydd gwaith galluogi ar gyfer yr arena ddigidol, y gwesty drws nesaf iddi a'r bont dros Heol Ystumllwynarth, a fydd yn cysylltu canol y ddinas â'r arena, yn dechrau yn yr ardal y tu ôl i Tesco yng nghanol
y ddinas. Bydd y prif waith adeiladu'n cychwyn ddechrau'r flwyddyn nesaf." Meddai, "Gweledigaeth y Fargen Ddinesig ar gyfer Abertawe yw creu dinas ddigidol gyda chymunedau wedi'u cysylltu â'i gilydd a chyda'r byd cyfan, gan wneud yn fawr o'n doniau, ein syniadau a'n huchelgais. "Bydd technoleg a chysylltedd band eang cyflym iawn yn fodd i'r sector cyhoeddus, busnesau'r sector preifat, cymunedau, entrepreneuriaid, addysgwyr a'r byd academaidd gydweithio, sy'n hanfodol i lwyddiant. "Rydym eisoes yn cymryd ein camau cyntaf ar hyd llwybr a fydd yn trawsnewid ein heconomi leol a'r economi ranbarthol ac yn creu miloedd o swyddi. Mae lleoedd fel Bryste a Chaergrawnt eisoes yn gwneud cynnydd mawr ar y daith ar hyd y llwybr hwnnw. Bydd Abertawe a de-orllewin Cymru, diolch i'r Fargen Ddinesig a'n huchelgais ein hunain, yn mynd yno hefyd."
Ailgylchu Syniadau da Busta'n troi bwyd yn danwydd tudalen 6
Rho 5 Leon yn arwain y chwiliad am arwyr lleol tudalen 7