Swansea’s Landmark Venue Lleoliad Adnabyddus Abertawe
Conferences / Cynadleddau
Weddings / Priodasau
Events / Digwyddiadau
Welcome
The Brangwyn Hall is located just minutes away from the beautiful sweep of Swansea Bay. We are able to host events from small meetings to major conferences and weddings from the intimate to the grand. The hall has excellent acoustics and regularly hosts internationally acclaimed orchestras and some of the biggest names in contemporary music. With professional event planning expertise on hand combined with the striking architecture of the building, the Brangwyn Hall is the ideal venue for events, conferences, weddings and functions.
Croeso
Mae Neuadd Brangwyn ychydig funudau i ffwrdd o brydferthwch Bae Abertawe. Gallwn gynnal digwyddiadau o gyfarfodydd bach i gynadleddau mawr a phriodasau, boed yn bersonol neu’n fawreddog. Mae gan y neuadd acwsteg ardderchog, ac mae’n croesawu cerddorfeydd rhyngwladol adnabyddus yn gyson, yn ogystal â rhai o enwogion cerddoriaeth gyfoes. Gydag arbenigedd cynllunio digwyddiadau wrth law ynghyd â phensaernïaeth hynod yr adeilad, mae Neuadd Brangwyn yn lleoliad delfrydol ar gyfer digwyddiadau, cynadleddau, priodasau ac achlysuron.
The Venue
The Grade II listed Brangwyn Hall is striking in its architecture and dÊcor. With its high panelled ceiling and walls adorned with the historic Brangwyn Hall panels by renowned artist Sir Frank Brangwyn, it certainly is a landmark venue. Sir Frank Brangwyn is celebrated as one of Britain’s most prolific and versatile artists. His work is internationally acclaimed and the huge British Empire Panels in the Brangwyn Hall are
amongst the most important examples of his decorative work on a large scale. The panels serve as a testament to the creative vision of the artist and can be enjoyed by the public on appointment.
Y Lleoliad
Mae pensaernïaeth ac addurn Neuadd Brangwyn, sy’n adeilad rhestredig Gradd II, yn hynod. Gyda nenfwd a waliau paneli uchel wedi’u haddurno gyda phaneli hanesyddol yr artist enwog Frank Brangwyn, mae’n sicr yn lleoliad nodedig. Ystyrir Syr Frank Brangwyn yn un o artistiaid mwyaf cynhyrchiol ac amryddawn Prydain. Mae ei waith wedi derbyn canmoliaeth ryngwladol, ac mae paneli enfawr yr
Ymerodraeth Brydeinig yn Neuadd Brangwyn ymysg rhai o enghreifftiau pwysicaf ei waith addurno ar raddfa fawr. Mae’r paneli’n dyst i weledigaeth greadigol yr artist a gall y cyhoedd eu mwynhau ar gais.
Weddings
Priodasau
The Brangwyn Hall is the perfect place to hold your wedding. We have a choice of rooms offering intimacy or grandeur with space for 20 to 500 guests.
Mae Neuadd Brangwyn yn lle perffaith i gynnal eich priodas. Mae gennym ddewis o ystafelloedd yn cynnig awyrgylch clyd neu fawredd, gyda lle ar gyfer 20 i 500 o westeion.
We have a delicious choice of menus to suit all tastes and budgets. As we are licensed for civil ceremonies, you can spend your special day at our venue with our helpful and attentive staff on hand to make sure everything goes to plan. You are welcome to visit us at the Brangwyn Hall to have a look around. Feel free to contact us to discuss your plans and find out how we can ensure you have your dream wedding.
Mae gennym ddewis blasus o fwydlenni at ddant pawb ac i bob cyllideb. Oherwydd bod gennym drwydded ar gyfer seremonïau sifil, gallwch dreulio eich diwrnod arbennig yn ein lleoliad gyda’n staff parod eu cymwynas a chyfeillgar a fydd yn sicrhau bod yr holl drefniadau’n gywir. Mae croeso i chi ddod i’n gweld yn Neuadd Brangwyn i fwrw golwg ar y lle. Gallwch gysylltu â ni i drafod eich cynlluniau a gweld sut y gallwn helpu i sicrhau eich bod yn cael priodas i’w chofio.
Conferences, Meetings & Exhibitions Whether you are looking to host a large conference, training day, team-building activities, exhibition or corporate entertainment, we can offer a range of room sizes to accommodate your needs.
There are nine rooms available in total, from small committee rooms which hold up to
16 delegates boardroom style, to the Brangwyn Hall itself which can seat up to 1070 people theatre style. The promenade of Swansea Bay is just minutes from the Brangwyn Hall offering your delegates a welcome break from a busy conference schedule, the ideal setting for an out-of-office working environment.
Cynadleddau, Cyfarfodydd ac Arddangosfeydd P’un ai ydych yn chwilio am le i gynnal cynhadledd fawr, diwrnod hyfforddi, gweithgareddau adeiladu tîm, arddangosfa neu adloniant corfforaethol, gallwn gynnig ystafelloedd amrywiol eu maint i ddiwallu eich anghenion. Mae naw ystafell ar gael, o’r ystafelloedd pwyllgor bychain ar gyfer hyd at 16
cynrychiolydd yn null ystafell bwrdd, i Neuadd Brangwyn ei hun gyda lle i 1070 o bobl yn null theatr. Mae promenâd Bae Abertawe funudau o Neuadd Brangwyn, yn cynnig seibiant i’ch gwesteion o gynhadledd brysur, y lleoliad delfrydol am amgylchedd gweithio tu allan i’r swyddfa.
Functions
Are you planning a birthday, retirement, special occasion or Christmas party? Then we have a great range of ideas to suit your occasion or event. A large choice of rooms, menus and refreshments are available to suit all tastes and budgets, and you’re more than welcome to hire your own entertainment to ensure your function is a memorable one.
Achlysuron
Ydych chi’n cynllunio parti pen-blwydd, ymddeol, achlysur arbennig neu barti Nadolig? Yna mae gennym amrywiaeth gwych o syniadau ar gyfer eich achlysur neu ddigwyddiad. Mae dewis eang o ystafelloedd, bwydlenni a lluniaeth ar gael at ddant a chyllideb pawb, ac mae croeso mawr i chi logi adloniant eich hun i sicrhau bod yr achlysur yn un cofiadwy.
Concerts & Performances The hall is noted for its excellent acoustics so there is nowhere better to hold your concert, performance or rehearsals. You will be in good company as the BBC National Orchestra of Wales, Manic Street Preachers, The Storys, Newton Faulkner, Bryn Terfel, Kiri Te
Kanawa and Katherine Jenkins have all performed here. We are versatile in terms of capacity as the audience can be seated or standing.
Cyngherddau a Pherfformiadau Mae’r neuadd yn adnabyddus am ei hacwsteg ardderchog, felly does dim lle gwell i gynnal eich cyngerdd, perfformiad neu ymarfer. Byddwch yn dilyn yn ôl traed Cerddorfa Genedlaethol y BBC, Manic Street Preachers,
The Storys, Newton Faulkner, Bryn Terfel, Kiri Te Kanawa a Katherine Jenkins, y mae pob un ohonynt wedi perfformio yma. Rydym yn hyblyg o ran y lle sydd yma, oherwydd gall y gynulleidfa eistedd neu sefyll.
Information
Gwybodaeth
• • • •
• • • •
Full disabled access Parking Fully licensed bar Catering service
Mynediad cyflawn i’r anabl Parcio ar gael Bar gyda thrwydded lawn Gwasanaeth arlwyo
All information correct at time of going to print.
Yr holl wybodaeth yn gywir adeg argraffu.
If you require this brochure in a different format please contact Marketing Services on 01792 635478.
Os hoffech gael y daflen hon mewn fformat arall, ffoniwch y Gwasanaethau Marchnata ar 01792 635478.
Location
Lleoliad
Brangwyn Hall
Neuadd Brangwyn
Guildhall Swansea SA1 4PE
Neuadd y Ddinas Abertawe SA1 4PE
Phone:
Ff么n:
Fax:
Ffacs:
E-mail:
E-bost:
Web:
Gwefan:
01792 635432 01792 635434 brangwyn.hall@swansea.gov.uk www.swansea.gov.uk/brangwynhall
01792 635432 01792 635434 brangwyn.hall@swansea.gov.uk www.abertawe.gov.uk/brangwynhall