Breathe Swansea brochure

Page 1

breathe swansea Your guide to Swansea’s great outdoors

anadlu abertawe Eich arweiniad i Abertawe yn yr awyr agored

Culture and Tourism Diwylliant a Thwristiaeth

city and counTY of swansea dinas a sir Abertawe


your guide to swansea’s great outdoors

Breathe Swansea

Anadlu Abertawe

Fun. Fresh air. Exercise. Just some of the experiences you’ll get from visiting the great outdoors of Swansea. From fabulous parks to leisure fun on the sweep of Swansea Bay, this stunning corner of Wales is blessed with unique outdoor attractions. So whatever the weather – just get out and breathe Swansea!

Hwyl. Awyr iach. Ymarfer. I enwi ond rhai o’r profiadau a gewch o ymweld ag Abertawe yn yr awyr agored. O barciau gwych i hwyl hamdden ym Mae Abertawe, mae’r ardal drawiadol hon o Gymru wedi’i breintio ag atyniadau awyr agored unigryw. Felly, boed law neu hindda - dewch allan i anadlu Abertawe!

Zj]Yl`]ÛkoYfk]Y YfY\dmÛYZ]jlYo]Û


eich arweiniad i abertawe yn yr awyr agored

Park lifegrass Green

ofShopping, home culture and the city buzz or peaceful walking, tranquillity and picturesque surroundings? What would be your ideal day out? How about both? In Swansea, city really does meet country with nearly a quarter of the country’s award winning parks, a choice of 52 green spaces (some big and beautiful, some small and….!), and unique flowers and wildlife – best of all there are no country roads to damage the car! We’ve got some great parks spread across the whole city, with fantastic and unexpected facilities. There truly is something for everyone!

Bywyd parciau Siopa, diwylliant a phrysurdeb y ddinas neu gerdded yn hamddenol mewn lleoliad tawel a phrydferth? Beth fyddai eich diwrnod delfrydol? Beth am y ddau? Yn Abertawe, mae’r ddinas yn cwrdd â chefn gwlad gyda bron chwarter o barciau arobryn y wlad, dewis o 52 man gwyrdd (rhai mawr a hardd, ac eraill yn fychan ac yn....!), a blodau a bywyd gwyllt unigryw - a gorau oll, dim heolydd cefn gwlad i ddifrodi’ch car! Mae gennym rai parciau arbennig ar draws y ddinas gyfan, gyda chyfleusterau gwych ac annisgwyl sy’n darparu rhywbeth at ddant pawb!

Zj]Yl`]ÛkoYfk]Y YfY\dmÛYZ]jlYo]Û


your guide to swansea’s great outdoors

Flying the flag

Chwifio’r faner

Quality is assured in three of Swansea’s parks as they have been awarded the prestigious Green Flag award which recognises the UK’s best parks and green spaces.

Sicrheir ansawdd tri o barciau Abertawe gan fod ganddynt ddyfarniadau arobryn y Faner Werdd sy’n cydnabod y parciau a’r mannau gwyrdd gorau yn y DU.

Clyne Gardens Japanese and Italian bridges, historic castle, romantic tower, 2,000 varieties of plants – yes you’re still in Swansea! In fact you can stumble across these fascinating features all in one place – the fabulous Clyne Gardens. The gardens are truly spectacular all year round with its busy birdlife and oak woodland, a remnant of a medieval forest. During the month of May, their world renowned Rhododendrons and Azaleas are in full bloom and celebrated with a month of great family activities!

Gerddi Clun Pontydd Japaneaidd ac Eidalaidd, castell hanesyddol, tw ˆ r rhamantaidd, 2,000 o blanhigion gwahanol - ydych, rydych yn Abertawe o hyd! Yn wir, gallwch ddod ar draws y nodweddion diddorol hyn oll mewn un man - yng Ngerddi gwych Clun. Mae’r gerddi yn ysblennydd drwy gydol y flwyddyn gyda bywyd adar prysur a choetir derw, sy’n atgof o goedwig ganoloesol. Yn ystod mis Mai, mae eu rhododendronau a’u hasaleâu yn eu blodau ac yn cael eu dathlu gyda mis o weithgareddau gwych i’r teulu!


eich arweiniad i abertawe yn yr awyr agored

Singleton Botanical Gardens Exotic plant collections, spectacular herbaceous borders and large glasshouses where you experience a variety of the world’s climates under one roof from desert to tropics to Mediterranean! Based in the old walled garden of Singleton Park, the gardens are a fantastic sight from late March until mid October, even during the harsh winter months the garden has lots to offer with 200 plants in flower during the Christmas season. Come in August and see the gardens in their full beauty and be treated to some fabulous events. Sugar cane, coconuts, olives and coffee they’re all on display at the botanics!

Gerddi Botaneg Singleton Casgliadau planhigion egsotig, borderi llysieuol trawiadol a thai gwydr mawr lle gallwch brofi amrywiaeth o hinsoddau’r byd o dan yr unto - o’r anialwch i’r trofannau ac i’r canoldir! Wedi’u lleoli yn hen ardd â wal Parc Singleton, mae’r gerddi yn hyfryd i’w gweld o ddiwedd mis Mawrth tan ganol mis Hydref. Mae gan y gerddi lawer i’w gynnig hyd yn oed yn ystod misoedd caled y gaeaf, gyda 200 o blanhigion yn blodeuo yn ystod tymor y Nadolig. Dewch ym mis Awst i weld y gerddi yn eu llawn prydferthwch ac i gymryd rhan yn rhai o’r digwyddiadau gwych. Cansenni siwgr, cnau coco, olifau a choffi - maent oll i’w gweld yn y gerddi botaneg!

Zj]Yl`]ÛkoYfk]Y YfY\dmÛYZ]jlYo]Û


your guide to swansea’s great outdoors

Victoria Park Small but beautiful! Renowned for its striking displays of bedding throughout the year, Victoria Park is a compact urban park crammed with fantastic family facilities including a children’s playground, kick-about area, tennis courts, bowling green and skate park. For the less active, just sit and relax in the formal gardens and beautiful planted herbaceous areas. Look out for skate jams and a bowls festival in the Summer! For details of all parks visit www.breatheswansea.com

Zj]Yl`]ÛkoYfk]Y YfY\dmÛYZ]jlYo]Û

Parc Victoria Bychan ond hardd! Yn enwog am ei arddangosiadau blodau trawiadol trwy gydol y flwyddyn, mae Parc Victoria yn barc dinesig twt yn llawn cyfleusterau gwych i’r teulu gan gynnwys maes chwarae i blant, ardal cicio pêl, cyrtiau tenis, lawnt fowlio a pharc sglefrio. Ar gyfer y llai actif, eisteddwch a mwynhewch yn y gerddi ffurfiol a’r ardaloedd a blannwyd yn hardd. Gwyliwch am jamiau sglefrio a gwyliau bowlio yn ystod yr haf! Am fanylion yr holl barciau, ewch i www.anadluabertawe.com


your guide to swansea’s great outdoors

Learn and play

Dysgu a chwarae

It’s not all fun & games, as two of our parks benefit from state of the art purpose built centres, which will enhance the overall experience of your visit.

Nid yw’r cyfan yn hwyl a sbri, gan fod dau o’n parciau wedi cael canolfannau newydd sbon modern, a fydd yn gwella profiad cyffredinol eich ymweliad.

Tyˆ’r Blodau Based in Singleton Park’s Botanical Gardens, Tyˆ’r Blodau is both an Education and Visitor Centre available to a diverse group of users. Brynmill Discovery Centre The centre provides the park with a focus for exploring its history and wildlife. See the birds in their natural habitat through the large one way glass window and take a look at our permanent exhibition.

Ty ˆ’r Blodau Wedi’i leoli yng Ngerddi Botaneg Parc Singleton, mae Ty ˆ’r Blodau yn ganolfan addysg ac ymwelwyr sydd ar gael i grw ˆ p amrywiol o ddefnyddwyr. Canolfan Ddarganfod Brynmill Mae’r ganolfan yn rhoi canolbwynt i’r parc ar gyfer archwilio ei hanes a’i fywyd gwyllt. Dewch i weld yr adar yn eu cynefin naturiol drwy’r ffenestr wydr fawr un ffordd ac edrych ar ein harddangosfa barhaol.

Zj]Yl`]ÛkoYfk]Y YfY\dmÛYZ]jlYo]Û


your guide to swansea’s great outdoors

It’s a date! .

Look out for our great park events throughout the year: Clyne in Bloom, Clyne Gardens, 1st – 31st May Botanics in Bloom, Singleton Botanical Gardens, 1st – 31st Aug Celebrate the bloom of our award winning flowers with brass band concerts, wildlife trails, children’s storytelling and rare plant sales. Skate & BMX Jams, various Swansea Parks, school summer holidays A fusion of skateboarding, DJ workshops and street art events! Bowls Festival, Victoria Park, every July Fantastic competition for all levels of ability Junior Park Rangers Club Events, various Swansea Parks, 2nd Saturday every month Fun and educational activities for 4-11 year olds.


eich arweiniad i abertawe yn yr awyr agored

Nodyn i’ch dyddiadur! Gwyliwch am ein digwyddiadau gwych yn y parciau drwy gydol y flwyddyn: Gerddi Clun yn eu Blodau, Gerddi Clun, 1 - 31 Mai Gerddi Botaneg yn eu Blodau, Gerddi Botaneg Singleton, 1 - 31 Awst Dewch i ddathlu ein blodau arobryn gyda chyngherddau bandiau pres, trywyddion bywyd gwyllt, hanesion i blant a gwerthiannau planhigion prin. Jamiau Sglefrio a BMX parciau amrywiol yn Abertawe, yn ystod gwyliau’r haf Cymysgedd o sglefyrddio, gweithdai DJ a digwyddiadau celf stryd! Gw ˆ yl Bowls, Parc Victoria, bob mis Gorffennaf Cystadleuaeth wych ar gyfer pob gallu Digwyddiadau Clwb y Ceidwaid Parciau Iau, parciau amrywiol yn Abertawe, 2il ddydd Sadwrn bob mis Gweithgareddau addysgiadol a difyr i blant 4 i 11 oed.


your guide to swansea’s great outdoors

A selection of parks Detholiad o barciau across the city ledled y ddinas Swansea North

Gogledd Abertawe

Coedbach, Pontarddulais More than just your average Park! With newly installed walking trails through mature woodlands, newly renovated play area, fitness trail equipment, tennis courts, picnic benches and even an orienteering course.

Coedbach, Pontarddulais Mwy na Pharc arferol! Gyda thrywyddion cerdded newydd drwy goetiroedd aeddfed, ardal chwarae newydd ei hadnewyddu, cyfarpar trywydd ffitrwydd, cyrtiau tenis, meinciau picnic a hyd yn oed cwrs cyfeiriadu!

Coed Gwilym, Clydach Fantastic facilities to get the heart racing. Tennis courts, multi use games area, walking trail around park and woodland area, and children’s play area. You can also break a sweat on our newly installed fitness trail.

Zj]Yl`]ÛkoYfk]Y YfY\dmÛYZ]jlYo]Û

Coed Gwilym, Clydach Cyfleusterau gwych i wneud i’r galon rasio. Cyrtiau tenis, ardal gemau aml-ddefnydd, trywydd cerdded o amgylch y parc ac ardal goetir, ac ardal chwarae i’r plant. Gallwch hefyd dorri chwys ar ein trywydd ffitrwydd newydd.


eich arweiniad i abertawe yn yr awyr agored

Zj]Yl`]ÛkoYfk]Y YfY\dmÛYZ]jlYo]Û


your guide to swansea’s great outdoors


eich arweiniad i abertawe yn yr awyr agored

Swansea East Morriston Park Large family park with plenty of space to let the children run around. Just relax and feed the ducks and take a stroll on one of the walking trails or get active on the fitness equipment and BMX jumps. Parc Llewelyn, Brynhyfryd Picturesque park which is part of the John Dillwym Llewellyn estate - Swansea’s famous photographer. With superb views of both the city and bay, beautiful flower beds, tennis courts, play area and orienteering course. For details of all of Swansea’s major parks visit www.breatheswansea.com

Dwyrain Abertawe Parc Treforys Parc mawr i’r teulu gyda digonedd o le i’r plant redeg. Ymlaciwch drwy fwydo’r hwyaid, a cherdded ar hyd un o’r trywyddion cerdded neu byddwch yn actif a defnyddio’r cyfarpar ffitrwydd a’r rampiau BMX. Parc Llewellyn, Brynhyfryd Parc hardd yn rhan o ystâd John Dillwyn Llewellyn - ffotograffydd enwog Abertawe. Gyda golygfeydd gwych o’r ddinas a’r bae, gwelyau blodau hardd, cyrtiau tenis, ardal chwarae a chwrs cyfeiriadu. Am fanylion holl brif barciau Abertawe ewch i www.anadluabertawe.com

Zj]Yl`]ÛkoYfk]Y YfY\dmÛYZ]jlYo]Û


your guide to swansea’s great outdoors

Swansea Central

Canol Abertawe

Cwmdonkin Park An important landmark in the childhood of Swansea’s famous son – Dylan Thomas. Born and bred a stone’s throw away, it was his inspiration behind ‘The Hunchback in the Park’. A beautiful urban park with a perfect blend of both natural character and excellent facilities. From rose and herbaceous beds, bog garden, stream and ponds to a bowling green, tennis courts, play area and woodland walks.

Parc Cwmdonkin Tirnod pwysig yn hanes plentyndod mab enwog Abertawe - Dylan Thomas. Wedi’i eni a’i fagu dafliad carreg i ffwrdd, dyma a’i ysbrydolodd i greu ‘The Hunchback in the Park’. Parc dinesig prydferth yn cyfuno cymeriad naturiol a chyfleusterau rhagorol yn berffaith. O rosod a gwelyau llysieuol, gardd gorsiog, nant a phyllau i lawnt fowlio, cyrtiau tenis, ardal chwarae a llwybrau cerdded coetir.

Brynmill Park Also steeped in local history, it has the honour of being Swansea’s first informal then formal park. Benefiting from a Heritage Lottery Grant, the park has recently been restored and features an array of facilities including play area, bowling green and futuristic discovery centre. See the birds and wildlife in their natural habitats through the ‘one way’ glass window.

Parc Brynmill Wedi’i drwytho hefyd mewn hanes lleol, mae ganddo’r anrhydedd o fod yn barc ffurfiol ac anffurfiol cyntaf Abertawe. Gan elwa ar Grant Treftadaeth y Loteri, adnewyddwyd y parc yn ddiweddar ac mae amrywiaeth o gyfleusterau i’w gweld yno gan gynnwys ardal chwarae, lawnt fowlio a chanolfan ddarganfod ddyfodolaidd. Dewch i weld yr adar a’r bywyd gwyllt yn eu cynefinoedd naturiol drwy ffenestr ‘un ffordd’.

Zj]Yl`]ÛkoYfk]Y YfY\dmÛYZ]jlYo]Û


eich arweiniad i abertawe yn yr awyr agored

Zj]Yl`]ÛkoYfk]Y YfY\dmÛYZ]jlYo]Û


your guide to swansea’s great outdoors

Great fun on the foreshore Fabulous walks, cycle paths and breathtaking scenery. The fabulous fivemile sweep of Swansea Bay is a must see and takes you from one delight to another - the city centre to fashionable Mumbles! There’s even plenty to do in between…

At your leisure Land train, red dragons and outdoor waterpark! You’ll be amazed by the weird and wonderful different outdoor leisure facilities available along our foreshore. Whether you’re young or just young at heart there’s plenty going on to give you a fantastic day out. Blackpill Lido Paddling pool, interactive play features, and children’s play area. There’s plenty of ‘splashing’ fun to be had during the summer months at our very own shallow waterpark! It’s right by the beach, so there’s plenty of space to run around and make sandcastles too. Remember though it’s only 50cm deep – so no diving please.

Zj]Yl`]ÛkoYfk]Y YfY\dmÛYZ]jlYo]Û

Ashleigh Road Pitch & Putt If golf is more your cup of ‘tee’ then just up the road you’ll find a great 10 hole family course. Don’t worry, no handicap is required so it’s ideal for beginners as well as experts. There’s no need to bring your clubs either as all equipment can be hired. Singleton Boating Lake Fancy riding a dragon or a swan? The choice is yours if you head over to the boating lake at Singleton Park. If not, try your hand at crazy golf or simply relax and enjoy the scenery and the fantastic play area. Southend Gardens Extremely popular gardens with superb playing facilities, crazy golf, and boules area. When the children are playing hard, just kick back, relax and gaze across the beautiful views of Swansea Bay!


eich arweiniad i abertawe yn yr awyr agored

Hwyl a sbri ar y blaendraeth Teithiau cerdded a llwybrau beicio gwych a golygfeydd anhygoel. Mae’n rhaid i chi weld ehangder pum milltir bae Abertawe sy’n llawn hyfrydwch - o ganol y ddinas i bentref ffasiynol y Mwmbwls, gyda llawer i’w wneud rhyngddynt...

Cofiwch hamddena Trên bach, dreigiau coch a pharc dw ˆr awyr agored! Cewch eich synnu gan y cyfleusterau hamdden awyr agored sydd ar gael ar hyd ein blaendraeth. Boed ifanc neu ifanc eich ysbryd, mae digonedd yma i gael diwrnod gwych. Blackpill Lido Pwll padlo, nodweddion chwarae rhyngweithiol, ac ardal chwarae i’r plant. Mae digon o hwyl i’w gael yn sblasio yn ystod misoedd yr haf yn ein parc dw ˆ r bas ein hunain! Mae nesaf at y traeth, felly mae digon o le i redeg o gwmpas a chyfle i godi cestyll tywod hefyd. Cofiwch mai dyfnder 50cm sydd i’r pwll - felly dim plymio os gwelwch yn dda!

Cwrs Golff Pitsio a Phytio Heol Ashleigh Os gwell gennych golff yna ychydig ymhellach ar hyd yr heol mae cwrs gwych 10 twll i’r teulu. Peidiwch â phoeni, nid oes angen handicap arnoch, felly mae’n ddelfrydol ar gyfer dechreuwyr a golffwyr profiadol. Nid oes angen i chi ddod â’ch clybiau ychwaith gan y gellir hurio’r holl gyfarpar. Llyn Cychod Singleton Chwant teithio ar gefn draig neu alarch arnoch? Cewch ddewis eich hun yn llyn cychod parc Singleton. Os nad oes chwant arnoch, beth am roi cynnig ar golff gwallgof, neu ymlacio a mwynhau’r olygfa a’r ardal chwarae wych. Gerddi Southend Gerddi hynod boblogaidd gyda chyfleusterau chwarae rhagorol, golff gwallgof ac ardal boules. Pan fo’r plant yn chwarae’n galed, cymerwch hoe a syllu ar olygfeydd prydferth Bae Abertawe.


your guide to swansea’s great outdoors

Ticket to Ride

Tocyn i deithio

All aboard our unique land train. From Blackpill to Mumbles (part of the route taken by the famous Mumbles train the first passenger railway in the world!) the train stops at all of our outdoor leisure venues, so you can save your energy for fabulous outdoor fun.

Dewch am dro ar ein trên bach unigryw. O Blackpill i’r Mwmbwls (rhan o lwybr trên enwog y Mwmbwls gynt - rheilffordd deithwyr gyntaf y byd!), mae’r trên yn galw ym mhob un o’n lleoliadau hamdden awyr agored, felly gallwch arbed eich egni i fwynhau’r awyr agored i’r eithaf! Ewch i’n gwefan i weld yr amserau diweddaraf.

From May to September the train runs along the sweep of Swansea Bay making regular stops along the way! Jump off at Blackpill for fun at the Lido and Clyne Gardens is only short walk away. Or stop at Oystermouth where you can step back in time with a visit to the castle or stay very much in the present day with a visit to the boutiques and cafes of Mumbles. That’s not all – there’s a stop at the fabulous Southend Gardens with a ‘beachside’ play area and a final stop at Mumbles head where you can take a stroll along Mumbles Pier.

Zj]Yl`]ÛkoYfk]Y YfY\dmÛYZ]jlYo]Û

O fis Mai i fis Medi mae’r trên yn teithio ar hyd cwmpas Bae Abertawe gan aros yn rheolaidd ar hyd y ffordd! Neidiwch oddi arno yn Blackpill i gael hwyl yn y Lido ac mae Gerddi Clun ond taith gerdded fer i ffwrdd. Neu galwch yn Ystumllwynarth gan gamu yn ôl mewn hanes wrth ymweld â’r castell neu aros yn y presennol wrth bori yn siopau’r Mwmbwls a galw yn un o’r caffis. Nid dyna’r cyfan – mae’r trên yn galw yng Ngerddi gwych Southend sydd ag ardal chwarae ger y traeth, ac mae’n gorffen ei daith ym mhen y Mwmbwls lle gallwch gerdded ar hyd Pier y Mwmbwls.


eich arweiniad i abertawe yn yr awyr agored

Zj]Yl`]ÛkoYfk]Y YfY\dmÛYZ]jlYo]Û


your guide to swansea’s great outdoors

Great Outdoors – Indoors From reptiles, monkeys, fish and insects to banana plants, pineapple plants, prickly cacti and giant bamboo – all can be found at Plantasia, our very own unique tropical haven in the heart of the city. Both our tropical and arid climate rooms house a fabulous range of unusual plants from around the world. As well as exotic fruits discover how other luxurious food is grown, with amongst others cocoa, vanilla and coffee all on display. It’s not just food - learn where perfume, rubber, panama hats and soap get their roots from – literally! You can also get up close to some amazing animals. Our endangered cotton-top tamarin monkeys are a real sight, each with their own unique ‘hair-do’.

Zj]Yl`]ÛkoYfk]Y YfY\dmÛYZ]jlYo]Û

If you’re brave enough you can also get up close to a Burmese python, iguana, chameleon, bearded dragons and tarantula. We also have plenty of creepy crawly insects and an aquaria containing various species of fish including the feared piranha (although these are in a tank on their own!). Browse our gift shop or sample one of the 37 flavours of hot chocolate in the coffee shop. Also, look out for fabulous special events including animal handling shows – are you brave enough to cuddle a cockroach or tickle a tarantula? We also provide unique children’s birthday parties and spectacular backdrops for those perfect wedding photos.

www.plantasia.org


eich arweiniad i abertawe yn yr awyr agored

Yr awyr agored - Dan do O ymlusgiaid, mwncïod, pysgod a phryfed i blanhigion banana, planhigion pinafal, cacti pigog a bamb anferth - gallwch weld y cyfan yn Plantasia, ein lloches drofannol unigryw yng nghanol y ddinas. Mae gan ein hystafelloedd trofannol a hinsawdd sych amrywiaeth gwych o blanhigion anghyfarwydd o bob cwr o’r byd. Yn ogystal â ffrwythau egsotig, dewch i weld sut mae bwydydd moethus eraill yn cael eu tyfu, gyda choco, fanila a choffi’n cael eu harddangos. Yn ogystal â bwyd - dewch i weld ble mae persawr, rwber, hetiau panama a sebon yn bwrw eu gwreiddiau - yn llythrennol! Hefyd, gallwch ddod yn agos at rai anifeiliaid anhygoel. Mae ein mwncïod tamarin pennau cotwm prin yn werth eu gweld, ac mae gan

bob un ohonynt eu ‘trwsiad gwallt’ unigryw eu hunain. Os ydych yn ddigon dewr, gallwch ddod yn agos at beithon o Fwrma, igwana, camelion, dreigiau farfog a tharantwla hefyd. Hefyd mae gennym lawer o bryfed annifyr ynghyd ag acwaria sy’n cynnwys amrywiaeth o rywogaethau pysgod, gan gynnwys y pirana dychrynllyd (er bod y rhain mewn tanc ar eu pennau eu hunain!). Cymrwch ennyd i gael cip yn ein siop anrhegion neu i brofi un o’n diodydd siocled poeth yn ein siop goffi - mae 37 blas ar gael! Hefyd, gwyliwch am ddigwyddiadau arbennig gan gynnwys sioeau trin anifeiliaid - ydych chi’n ddigon dewr i roi cwts i chwilen ddu neu i gosi tarantwla? Rydym hefyd yn darparu partïon pen-blwydd unigryw i blant a chefnlun trawiadol i greu’r lluniau priodas perffaith.

Zj]Yl`]ÛkoYfk]Y YfY\dmÛYZ]jlYo]Û


your guide to swansea’s great outdoors

How to find us... Clyne Gardens Blackpill, Swansea SA3 5BA 01792 205327 Singleton Botanical Gardens Singleton Park, Off Gower Road, Swansea SA2 9DU 01792 205327 Victoria Park Francis Street, Swansea SA1 4NP 01792 205327 Tyˆ’r Blodau Singleton Botanical Gardens, Singleton Park, Off Gower Road, Swansea SA2 9DU 01792 205327 Brynmill Discovery Centre Brynmill Park, Off Brynmill Lane, Swansea SA2 0JQ 01792 206662 Coedbach Gwynfryn Road, Ponarddulais, Swansea SA4 8LG 01792 635485

Zj]Yl`]ÛkoYfk]Y YfY\dmÛYZ]jlYo]Û

Coed Gwilym Pontardawe Road, Clydach, Swansea SA6 5NR 01792 635485 Morriston Park Park Close, Morriston, Swansea SA6 7DZ 01792 635485 Parc Llewellyn Trewyddfa Terrace, Morriston, Swansea SA6 8PB 01792 635485 Cwmdonkin Park Cwmdonkin Drive, Uplands, Swansea SA2 0RA Brynmill Park Off Brynmill Lane Swansea, SA2 0JQ 01792 205327 Swansea Foreshore Swansea SA3 5AS 01792 635436 Blackpill Lido Blackpill, Swansea SA3 5AS 01792 635436 Ashleigh Road Golf Course Blackpill, Mumbles Road, Swansea SA3 5AU 01792 207544

Singleton Boating Lake Singleton Park, Swansea SA2 8PY 01792 635142 Southend Gardens Mumbles Road, Swansea SA3 5TN 01792 635436 Bay Rider Swansea Foreshore, Swansea SA3 5AS 01792 635411 Plantasia Parc Tawe, Swansea SA1 2AL 01792 474555 www.plantasia.org

Events Clyne in Bloom 01792 205327 Botanics in Bloom 01792 205327 Skate & BMX Jams 01792 635485 Bowls Festival 01792 635142 Junior Park Rangers 01792 635485 For further information and directions visit: www.breatheswansea.com


eich arweiniad i abertawe yn yr awyr agored

Sut i ddod o hyd i ni... Gerddi Clun Blackpill, Abertawe SA3 5BA 01792 205327

Parc Treforys Park Close, Treforys, Abertawe SA6 7DZ 01792 635485

Gerddi Southend Heol Y Mwmbwls Abertawe SA3 5TN 01792 635436

Gerddi Botaneg Singleton Parc Singleton, Oddi ar Heol Gw ˆ yr, Abertawe SA2 9DU 01792 205327

Parc Llewellyn Trewyddfa Terrace, Treforys, Abertawe SA6 8PB 01792 635485

Trên Bach Bae Abertawe

Parc Victoria Stryd Francis, Abertawe SA1 4NP 01792 205327 Tyˆ’r Blodau Gerddi Botaneg Singleton, Parc Singleton, Ger Heol Gw ˆ yr, Abertawe SA2 9DU 01792 205327 Canolfan Ddarganfod Brynmill Parc Brynmill, Oddi ar Lôn Brynmill, Abertawe SA2 0JQ 01792 206662

Parc Cwmdonkin Cwmdonkin Drive, Uplands, Abertawe SA2 0RA 01792 635485 Parc Brynmill Oddi ar Lôn Brynmill, Abertawe SA2 0JQ 01792 206662 Blaendraeth Abertawe Abertawe, SA3 5AS 01792 635436 Lido Blackpill Blackpill Abertawe SA3 5AS 01792 635436

Coedbach, Heol Gwynfryn, Ponarddulais, Abertawe SA4 8LG 01792 635436

Cwrs Golff Pitsio a Phytio Heol Ashleigh Blackpill, Heol y Mwmbwls, Abertawe SA3 5AU 01792 207544

Coed Gwilym Heol Pontardawe, Clydach, SA6 5NR 01792 635485

Llyn Cychod Singleton Parc Singleton, Abertawe, SA2 8PY 01792 635142

Blaendraeth Abertawe, Abertawe SA3 5AS 01792 635411 Plantasia Parc Tawe, Abertawe SA1 2AL 01792 474555

Digwyddiadau Gerddi Clun yn eu Blodau 01792 205327 Gerddi Botaneg yn eu Blodau 01792 205327 Jamiau Sglefrio a BMX 01792 635485 Gw ˆ yl Bowls 01792 635142 Ceidwaid Parciau Iau 01792 635485 Am fwy o wybodaeth a chyfarwyddiadau ewch i www.anadluabertawe.com

Zj]Yl`]ÛkoYfk]Y YfY\dmÛYZ]jlYo]Û



Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.