Map o gwrs cyfeiriannu Parc Brynmill a Cwmdonkin

Page 1


Cyfeiriannu ym Mharc Brynmill AMCAN. Yr amcan wrth gyfeiriannu yw mynd o gwmpas cwrs sy'n cynnwys cyfres o reolfannau, trwy ddefnyddio map i benderfynu ar lwybr rhyngddynt, ac yna dilyn y map ar hyd y llwybr a dod o hyd i'r rheolfannau. Y MAP. Map cyfeiriannu safonol yw hwn; mae'r symbolau a'r lliwiau'n cael eu hesbonio yn yr allwedd. Y raddfa yw 1:5,000, sy'n golygu bod 1cm ar y map yn cynrychioli 50m ar y ddaear, fel y dangosir gan linell y raddfa. RHEOLFANNAU A MARCWYR. Dangosir lleoliadau'r rheolfannau ar y map gan gylchoedd wedi'u rhifo'n goch, a cheir disgrifiad o bob un isod. Nodir y rheolfannau ar y ddaear gan bostyn ac ar ei ben mae plac â symbol cyfeiriannu coch a gwyn. Mae rhif yno, sy'n cyfateb i'r un rheolfan ar y map, a llythyren rydych chi'n ei gofnodi yn y blwch priodol ar y cerdyn rheolfan i gadarnhau eich ymweliad. PELLTEROEDD. Gellir cyfrifo'r pellter o un pwynt i'r llall trwy ddefnyddio llinell y raddfa ar y map. Wrth fesur ar y ddaear, mae metr yn gymesur yn fras â brasgam dyn. CYFEIRIADAU. I ba gyfeiriad bynnag y byddwch yn mynd neu'n ei wynebu, cadwch y map yn yr un cyfeiriad â'r ddaear, h.y. wedi'i gyfeiriadu. Wrth fynd yn eich blaen, bydd y nodweddion ar un ochr o'r map ar yr un ochr ar y ddaear. Os oes gennych gwmpawd, gallwch ei ddefnyddio i gyfeiriadu'r map. Mae'r nodwydd yn pwyntio i'r gogledd magnetig. Defnyddiwch hwn i gadw saethau'r gogledd ar y map yn pwyntio i'r gogledd hefyd. DISGRIFIADAU O'R RHEOLFANNAU: Dechrau 1. 2. 3. 4. 5. 6. 7. 8. 9.

CYFLEOEDD CYFEIRIANNU ERAILL. Os hoffech wneud mwy o gyfeiriannu, gallwch ymweld â chyrsiau parhaol eraill, a gellir lawrlwytho mapiau o wefan y cyngor www.abertawe.gov.uk/orienteering Mae'r clwb lleol, CLWB CYFEIRIANNU BAE ABERTAWE, yn trefnu digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn, ac mae rhestr o'r digwyddiadau ar gael ar wefan y clwb yn www.sboc.org.uk

Ffin llystyfiant Troad llwybr Cornel ffens Adeilad, cornel orllewinol Cornel ffens Bryncyn Diwedd y wal Cornel ffens Clawdd pridd, pen dwyreiniol Cornel ffens

CYDNABYDDIAETH. Sefydlwyd y cwrs cyfeiriannu parhaol hwn gyda chymorth grantiau a sianelwyd trwy Ddinas a Sir Abertawe gan Gyngor Chwaraeon Cymru. Lluniwyd y map a chynlluniwyd y cyrsiau gan Glwb Cyfeiriannu Bae Abertawe.

1.

2.

3.

4.

5.

6.

7.

8.

9.

Cyfeiriannu ym Mharc Cwmdonkin AMCAN. Yr amcan wrth gyfeiriannu yw mynd o gwmpas cwrs sy'n cynnwys cyfres o reolfannau, trwy ddefnyddio map i benderfynu ar lwybr rhyngddynt, ac yna dilyn y map ar hyd y llwybr a dod o hyd i'r rheolfannau. Y MAP. Map cyfeiriannu safonol yw hwn; mae'r symbolau a'r lliwiau'n cael eu hesbonio yn yr allwedd. Y raddfa yw 1:2,500, sy'n golygu bod 1cm ar y map yn cynrychioli 25m ar y ddaear, fel y dangosir gan linell y raddfa. RHEOLFANNAU A MARCWYR. Dangosir lleoliadau'r rheolfannau ar y map gan gylchoedd wedi'u rhifo'n goch, a cheir disgrifiad o bob un isod. Nodir y rheolfannau ar y ddaear gan bostyn ac ar ei ben mae plac â symbol cyfeiriannu coch a gwyn. Mae rhif yno, sy'n cyfateb i'r un rheolfan ar y map, a llythyren rydych chi'n ei gofnodi yn y blwch priodol ar y cerdyn rheolfan i gadarnhau eich ymweliad. PELLTEROEDD. Gellir cyfrifo'r pellter o un pwynt i'r llall trwy ddefnyddio llinell y raddfa ar y map. Wrth fesur ar y ddaear, mae metr yn gymesur yn fras â brasgam dyn. CYFEIRIADAU. I ba gyfeiriad bynnag y byddwch yn mynd neu'n ei wynebu, cadwch y map yn yr un cyfeiriad â'r ddaear, h.y. wedi'i gyfeiriadu. Wrth fynd yn eich blaen, bydd y nodweddion ar un ochr o'r map ar yr un ochr ar y ddaear. Os oes gennych gwmpawd, gallwch ei ddefnyddio i gyfeiriadu'r map. Mae'r nodwydd yn pwyntio i'r gogledd magnetig. Defnyddiwch hwn i gadw saethau'r gogledd ar y map yn pwyntio i'r gogledd hefyd. DISGRIFIADAU O'R RHEOLFANNAU: Dechrau Cyffordd llwybr 1. Adeilad, cornel dde-ddwyreiniol

2. 3. 4. 5. 6. 7. 8. 9. 10. 11. 12.

Ffens/Cyffordd wal Cyffordd trywydd Cornel wal Cyffordd llwybr Clogfaen Coeden amlwg, ochr dde-ddwyreiniol Llwyni, pen gogleddol Ffens/Cyffordd wal Diwedd ffens Ffens/Cyffordd wal Troad ffens 1.

CYFLEOEDD CYFEIRIANNU ERAILL. Os hoffech wneud mwy o gyfeiriannu, gallwch ymweld â chyrsiau parhaol eraill, a gellir lawrlwytho mapiau o wefan y cyngor www.abertawe.gov.uk/orienteering Mae'r clwb lleol, CLWB CYFEIRIANNU BAE ABERTAWE, yn trefnu digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn, ac mae rhestr o'r digwyddiadau ar gael ar wefan y clwb yn www.sboc.org.uk CYDNABYDDIAETH. Sefydlwyd y cwrs cyfeiriannu parhaol hwn gyda chymorth grantiau a sianelwyd trwy Ddinas a Sir Abertawe gan Gyngor Chwaraeon Cymru. Lluniwyd y map a chynlluniwyd y cyrsiau gan Glwb Cyfeiriannu Bae Abertawe.

2.

3.

4.

5.

6.

7.

8.

9.

10.

11

12.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.