Budd daliadau lles i bobl dros oed pensiwn sy'n byw yn Abertawe

Page 1

Budd-daliadau Lles i Bobl dros Oed Pensiwn sy'n Byw yn Abertawe

Wedi'i lunio gan yr Uned Cynhwysiad Cymdeithasol, Dinas a Sir Abertawe 2014


CYNNWYS: I bwy mae'r daflen hon? Y Cefndir i Fudd-daliadau Lles Y Pensiwn Ymddeol Gwladol

1 2 3

Credyd Pensiwn........................................................ 6 Budd-daliadau Tai 8 Gostyngiadau Treth y Cyngor 9 Taliadau Tanwydd y Gaeaf 11 Taliadau Tywydd Oer 11 Budd-daliadau Iechyd ….............................................11 Lwfans Gweini 12 Lwfans Byw i'r Anabl 15 Taliadau Annibyniaeth Personol............16 Lwfans Gofalwr 18 Y Gronfa Gymdeithasol 19 Y Gronfa Cymorth Dewisol 19 Herio Penderfyniadau 20 Manylion Cyswllt y DWP....................... …………………..24 Help arall: Asiantaethau Defnyddiol 21 • Budd-daliadau ………………………………………………..21 • Cludiant 24 • Materion y cartref 26 • Ariannol 27

I BWY y mae'r daflen hon a BETH ydyw? Mae'r daflen hon wedi'i bwriadu ar gyfer dynion a menywod sydd dros oedran pensiwn. Mae'r system budd-daliadau gwladol yn gymhleth a gall fod yn ddigon i beri i bobl i beidio â phoeni hawlio. Nid yw'r wasg yn sôn yn aml, os o gwbl, am y ffaith fod swm enfawr o fudd-daliadau gwladol nad ydynt yn cael eu hawlio bob blwyddyn. Yn ôl amcangyfrif yr Adran Gwaith a Phensiynau, mae'r swm dros £17.7 biliwn bob blwyddyn. Mae'n ffaith hysbys hefyd bod y mwyafrif o'r rhai nad ydynt yn hawlio ymhlith pobl dros 60 oed ac yn 2009/10 amcangyfrifodd y DWP fod gwerth £2.8 biliwn o bunnoedd o Gredyd Pensiwn heb ei hawlio. Amcan y daflen hon yw eich helpu i hawlio'r holl fudd-daliadau y mae'n bosib bod gennych hawl iddynt. Bydd yn dweud sut i fynd ati i hawlio ac yn rhoi arweiniad ar beth i'w wneud os ydych yn cael problemau gyda'r broses hawlio. Os ydych yn teimlo bod mwy o wybodaeth yn y daflen hon nag yr ydych am ei gwybod, gallwch ddarllen yr adran o dan bob budd-dal sydd â'r teitl 'Sut rwyf yn cyflwyno cais?' a chyflwyno cais am unrhyw fudd-dal rydych chi'n credu bod hawl gennych iddo. Os rydych am hawlio Lwfans Gweini, Taliad Annibyniaeth Personol neu roeddech yn 65 oed neu'n hŷn ar 8 Ebrill 2013 ac wedi derbyn ffurflen i adnewyddu'ch cais am Lwfans Byw i'r Anabl, byddai'n ddoeth cael cynghorwr i'ch helpu i gwblhau'r ffurflen. [Gweler y rhestr o Asiantaethau Defnyddiol ar gefn y daflen hon] 1


BRASLUN O'R CEFNDIR I FUDD-DALIADAU LLES Mae'r adran hon i bobl â diddordeb cyffredinol yn y System Fudd-daliadau ac a fyddai'n dymuno cael ychydig o wybodaeth gefndir. Gweinyddir y system fudd-daliadau gan bedair asiantaeth wahanol: • Canolfan Byd Gwaith • Y Gwasanaeth Pensiwn, Anabledd a Gofalwyr • Refeniw a Thollau ei Mawrhydi • Awdurdodau Lleol Mae'r ddau gyntaf yn asiantau i'r Adran Gwaith a Phensiynau. Os ydych dros oed pensiwn menywod, byddwch fwy na thebyg yn ymwneud â'r canlynol: • • •

Y Gwasanaeth Pensiwn, Anabledd a Gofalwyr (yn Abertawe) i hawlio eich Pensiwn Gwladol a/neu Gredyd Pensiwn Eich Awdurdod Lleol os rydych am hawlio Budd-dal Tai a/neu Ostyngiad Treth y Cyngor Gwasanaeth Pensiwn, Anabledd a Gofalwyr (yng Nghaerdydd, Blackpool a Preston) os rydych am hawlio budd-daliadau oherwydd eich bod yn anabl neu'n gofalu am rywun sy'n anabl.

Mae'r Gwasanaeth Pensiwn, Anabledd a Gofalwyr bellach yn gyfrifol am y budd-daliadau hynny sy'n benodol ar gyfer pobl dros oed pensiwn ac yn gweithredu fel un man cyswllt. Mae hyn yn golygu y gallwch gael ffurflenni cais am fudd-daliadau yn ogystal â'r Pensiwn Ymddeol a Chredyd Pensiwn gan eich Gwasanaeth Pensiwn lleol. Mae'r rhain yn cynnwys ffurflenni Budd-dal tai, Gostyngiad Treth y Cyngor a Lwfans Gweini. Mae cyfeiriad a rhif ffôn Gwasanaeth Pensiwn Abertawe ar gefn y daflen hon.

Mae budd-daliadau lles yn perthyn i dri phrif gategori: 1. ‘Budd-daliadau prawf modd’. Diben y budd-daliadau hyn yw gweithredu fel diogelwch rhag tlodi. Ni fyddwch yn gallu hawlio'r rhain os nad yw'ch incwm o ffynonellau eraill a'ch cynilion yn is na lefel benodol. Mae'r Credyd Pensiwn, Gostyngiadau Tai a Threth y Cyngor yn fudd-daliadau â phrawf modd. 2. 'Budd-daliadau ar sail eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol'. Mae'r budddaliadau hyn yn dibynnu ar y ffaith eich bod chi neu'ch gŵr neu'ch gwraig neu bartner sifil wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol. Nid oes prawf modd iddynt er gall enillion neu incwm o bensiynau galwedigaethol effeithio ar rai ohonynt. Mae'n bosib bod gennych hawl i'r budd-daliadau hyn os nad ydych bellach yn gweithio am un o nifer o resymau gan gynnwys ymddeoliad, diweithdra neu salwch. Mae'r Pensiwn Gwladol yn fudd-dal ar sail cyfraniadau ond heb brawf modd. 3. 'Budd-daliadau nad ydynt yn dibynnu ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac nad ydynt yn destun prawf modd.' Nid yw hawlio'r budd-daliadau hyn yn dibynnu ar y ffaith eich bod wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac nid ydynt yn destun prawf modd. Eu diben yw talu am y costau ychwanegol fydd gan bobl mewn rhai amgylchiadau. Er enghraifft, cost ychwanegol bod yn anabl neu ofalu am berson anabl. Mae Lwfans Gweini, Lwfans Byw i'r Anabl a'r Taliad Annibyniaeth Personol yn fudd-daliadau nad ydynt yn seiliedig ar gyfraniadau ac nad ydynt yn destun prawf modd.

2


Y PRIF FANTEISION I BOBL DROS OED PENSIWN YW: • • • • • •

Y Pensiwn Gwladol Credyd Pensiwn Budd-dal Tai Gostyngiad Treth y Cyngor Taliadau Tanwydd y Gaeaf Budd-daliadau iechyd

Ac os ydych yn anabl: • Lwfans Gweini • Lwfans Byw i'r Anabl • Taliad Annibyniaeth Personol Neu os rydych yn gofalu am rywun anabl: • Lwfans Gofalwr Mae'n bosib y gallwch gael cymorth arall, gan gynnwys: • Pensiynau Rhyfel • Taliadau'r Gronfa Gymdeithasol • Taliadau Cymorth Dewisol • Grantiau Gwresogi ac Inswleiddio • Cymorth gyda thrwyddedau teledu.

MWY O FANYLION AM Y PRIF FUDD-DALIADAU A SUT I HAWLIO PENSIWN YMDDEOL GWLADOL Nid oes prawf modd i'r Pensiwn Ymddeol Gwladol ac felly nid yw'r hawl iddo'n dibynnu ar y ffaith fod eich incwm neu gynilion o dan derfynau penodol. Mae'n dibynnu ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol neu gyfraniadau eich gŵr, eich gwraig neu bartner sifil. Mae'n fudd-dal trethadwy. Mae gwahanol gategorïau o Bensiwn Ymddeol Gwladol: Categori A - mae'r pensiynau wedi'u seilio ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol chi. Os nad ydych yn bodloni'r amodau cyfraniadau, gallech fod yn gymwys ar sail cyfraniadau eich diweddar neu gyn-ŵr, wraig neu bartner sifil. Categori B- mae pensiynau wedi'u seilio ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol eich gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil ac fe'u telir yn unig i bartneriaid sifil, gwŷr/gwragedd, gweddwon, rhai gwŷr gweddw a gwŷr/gwragedd wedi'u hysgaru. Categori D - telir pensiynau i bobl dros wyth deg oed os nad oes ganddynt ddigon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol i fod yn gymwys i gael pensiwn. Sut rwyf yn cyflwyno cais am fy Mhensiwn Ymddeol Gwladol? Nid yw'r Pensiwn Ymddeol Gwladol yn cael ei dalu'n awtomatig pan fyddwch yn cyrraedd oedran ymddeol, ac mae'n rhaid i chi: •

Gyflwyno cais ar ffurflen o'r enw BR1. Dylech dderbyn y ffurflen hon bedwar mis cyn i chi gyrraedd oedran pensiwn. 3


Os nad yw'n cyrraedd ac rydych dri mis yn unig i ffwrdd o oedran ymddeol, dylech gysylltu â'r Gwasanaeth Pensiwn lleol a gofyn iddynt i anfon ffurflen atoch, neu ffonio llinell hawlio'r Pensiwn Gwladol Ffôn: 0800 731 7898 (Dydd Llun – dydd Gwener 8am – 6pm), neu Ffon Testun: 0800 731 7339. • Erbyn hyn, mae'n bosib hawlio'ch pensiwn dros y ffôn ar y rhif ffôn uchod os rydych o fewn pedwar mis i'ch oedran pensiwn; neu gellir lawrlwytho ffurflen gais neu ei chwblhau ar-lein yn www.gov.uk/claim-state-pension-online • Gellir ôl-dalu cais am Bensiwn Ymddeol Gwladol am 12 mis. Ni allwch ôl-ddyddio'ch hawl i unrhyw gyfnod cyn y dyddiad y byddech yn gymwys i dderbyn eich pensiwn gyntaf. Nid oes rhaid i chi roi rhesymau pam mae'ch cais yn hwyr. Mae cwestiwn 'O ba ddyddiad rydych am gyflwyno'ch cais am Bensiwn Ymddeol Gwladol?' ar y ffurflen gais. Gofynnir i chi dicio'r blwch perthnasol. • Ticiwch y blwch sy'n dweud eich bod am hawlio o'r dyddiad cyntaf posib, ac fe ddylai hynny sicrhau eich bod yn cael cymaint â phosib o ôl-ddyddio.

Os ydych yn derbyn budd-daliadau eraill efallai na fydd angen i chi gyflwyno cais am Bensiwn y Wladwriaeth oherwydd caiff ei roi'n awtomatig. Am help i gwblhau'r ffurflen gais, dylech gysylltu ag un o'r asiantaethau a restrir ar gefn y daflen hon. Pryd gallaf hawlio? Mae'r Pensiwn Ymddeol Gwladol ar gael i bobl dros oedran ymddeol (pensiwn Categori A) Os nad ydych wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol, mae'n bosib eich bod yn gymwys i gael pensiwn Categori B ar sail cyfraniadau eich priod neu bartner sifil. Ni allwch hawlio'r pensiwn hwn nes i'ch priod neu bartner sifil gyrraedd oedran pensiwn a bod hawl ganddo/ganddi i bensiwn categori A ei hunan. Os nad ydych wedi talu digon o gyfraniadau YG i fod yn gymwys am bensiwn llawn, mae'n bosib i chi gynyddu swm eich pensiwn naill ai drwy dalu am unrhyw flynyddoedd cymhwyso YG coll neu drwy gynyddu'r swm y byddwch yn ei ennill drwy ohirio dechrau'ch pensiwn. Sylwer nad yw bob amser yn werth prynu blynyddoedd ychwanegol o gyfraniadau YG. Os ydych yn ystyried y dewisiadau hyn, dylech geisio cyngor annibynnol neu gysylltu â'r Gwasanaeth Pensiwn am wybodaeth. Os ydych yn credu bod gennych fylchau yn eich cofnod YG ac heb dderbyn llythyr sy'n dweud hynny wrthych, cysylltwch â CThEM: Ffôn: 0845 915 5996 Am flynyddoedd lawer, oed pensiwn i ddynion a menywod oedd 60, ond roedd oedran ymddeol yn 60 i fenywod a 65 i ddynion. Mae rheolau newydd y Llywodraeth yn golygu y daw oed pensiwn ac oedran ymddeol yn gyfartal ac erbyn mis Rhagfyr 2018 bydd yn 65 oed. I alluogi hyn i ddigwydd, mae oedran ymddeol menywod yn y broses o gynyddu'n raddol i 65 oed erbyn 2018. Mae'r cynnydd yn yr oedran ymddeol yn effeithio ar fenywod a aned ar neu ar ôl 6 Ebrill 1950. O fis Rhagfyr 2018, bydd oedran ymddeol i ddynion a menywod yn dechrau cynyddu i 66 oed erbyn mis Hydref 2020, 67 oed erbyn 2036 ac yna'n cynyddu'n raddol i 68 oed erbyn 2036. I weld mwy am y newidiadau i ddyddiad oedran ymddeol i fenywod, gweler yr adran Credyd Pensiwn. Faint byddaf yn ei gael? Mae faint y byddwch yn ei gael yn dibynnu ar eich cyfraniadau YG chi a/neu gyfraniadau eich priod neu bartner sifil. Bydd swm y pensiwn byddwch yn ei dderbyn yn dibynnu ar sawl ffactor: 4


• • • •

a oes gennych gofnod o gyfraniadau llawn; a oes bylchau yn eich cofnod o gyfraniadau; pa gategori pensiwn y mae gennych hawl iddo; ac os ydych wedi ennill pensiwn graddedig neu bensiwn sy'n gysylltiedig â chyflog.

Mae cofnod o'ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol ym meddiant y Gwasanaeth Pensiwn a CThEM (gweler yr adran flaenorol). Os nad ydych wedi gweithio neu fod bylchau mewn cyflogaeth, mae'n bosib eich bod wedi cael credydau YG sy'n cyfrif fel blwyddyn gymhwyso. Rhoddwyd y rhain yn awtomatig am unrhyw wythnosau yr oeddech yn hawlio budd-daliadau penodol, e.e. budd-dal plant am blentyn dan 12 oed, Lwfans Gofalwr, lwfans ceisio gwaith, budd-dal analluogrwydd, neu lwfans cyflogaeth a chefnogaeth. Credydau YG i rai rhieni a gofalwyr Mae'r credydau hyn yn disodli 'Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref' o 6 Ebrill 2010, a gallant helpu i gynyddu hawliad i bensiynau ymddeol categori A a B. Gallwch gael eich credydu â chredydau Dosbarth 3 os: • dyfernir Budd-dal Plant i chi am blentyn/plant dan 12 oed am unrhyw ran o'r wythnos • rydych chi'n byw gyda rhywun sydd, am unrhyw ran o'r wythnos, yn derbyn budddal plant am blentyn dan 12 oed, rydych chi'n rhannu cyfrifoldeb â'r person hwnnw am y plentyn hwnnw ac mae'r person y dyfernir Budd-dal Plant iddo wedi talu cyfraniadau YG neu wedi'i gredydu â nhw. • rydych yn ofalwr maeth cymeradwy (neu'n ofalwyr perthynas os rydych yn yr Alban) • rydych yn gofalu am rywun am o leiaf 20 awr yr wythnos neu am fwy nag un person am gyfanswm o 20 awr yr wythnos o leiaf ac mae'r person hwnnw'n derbyn LG, LBA ar y gyfradd ganolig neu uwch neu gydran byw dyddiol y PIP; neu mae'r sawl sy'n penderfynu yn ystyried bod lefel y gofal a ddarperir yn ddigonol ac wedi'i ardystio gan eich ymarferydd gofal iechyd bod ei angen. • Rydych yn bodloni'r amodau i ofalwyr a allai fod â hawl i dderbyn Cymhorthdal Incwm. • Rydych o fewn y cyfnod 12 wythnos cyn eich bod yn gymwys i dderbyn Lwfans Gofalwr neu'r cyfnod 12 wythnos ar ôl i'ch hawl i'r budd-dal hwn ddod i ben. • Rydych yn darparu gofal plant i blentyn dan 12 oed ac rydych yn rhiant, yn famgu/tad-cu (hen neu hen hen fam-gu/tad-cu), yn frawd, yn chwaer, yn fodryb, yn ewythr, yn nai neu'n nith i'r plentyn hwn neu'n bartner neu'n gyn-bartner i unrhyw un o'r rhain ac mae rhywun arall yn derbyn budd-dal plant ar gyfer y plentyn. Os ydych wedi bod yn derbyn Budd-dal Plant neu Gymhorthdal Incwm byddwch yn derbyn eu credydau'n awtomatig, ond ar gyfer categorïau eraill, bydd rhaid i chi gyflwyno cais amdanynt. Mae'n rhaid i chi gyflwyno cais am y credydau ar ôl diwedd y flwyddyn dreth dan sylw. Ffoniwch CThEM (0845 302 1479) am ffurflen gais CC1 i ofalwyr neu lawrlwythwch ffurflen gais CF411A o www.hmrc.gov.uk/forms/cf411A.pdf i rieni a gofalwyr plant. Gallwch ofyn i'r Gwasanaeth Pensiwn am ragolwg pensiwn cyn i chi gyrraedd oedran ymddeol drwy gysylltu â Chanolfan Pensiwn y Dyfodol: Ffôn: 0845 300 0168. Caiff cyfraddau'r Pensiwn Ymddeol Gwladol eu cynyddu'n flynyddol. Gohirio Pensiwn Ymddeol Nid oes rhaid i chi ddechrau hawlio pensiwn ar eich "oedran ymddeol".Gallwch gynyddu swm y pensiwn rydych yn ei gael drwy ohirio'ch hawl - cyhyd â nad ydych yn hawlio budddaliadau eraill yn y cyfamser. Os ydych yn gohirio am 12 mis neu fwy, gallwch ddewis cael 5


cyfandaliad trethadwy neu swm wythnosol mwy. Os ydych yn gohirio am o leiaf 5 wythnos, gallwch dderbyn pensiwn y wladwriaeth wythnosol uwch. Mae un cyfandaliad unigol yn seiliedig ar y swm y byddech wedi'i dderbyn pe na baech wedi gohirio'ch hawl, ynghyd â llog. Caiff unrhyw gyfandaliad a dderbynnir ei anwybyddu am gyfnod amhenodol dan reolau cyfalaf ar gyfer Credyd Pensiwn a Budd-dal Tai. Os ydych yn ystyried gohirio'ch pensiwn y wladwriaeth dylech geisio cyngor arbenigol am ei fod yn bwysig ystyried y goblygiadau llawn. Newidiadau i Bensiynau Ymddeol y Wladwriaeth yn y Dyfodol Mae'r Llywodraeth yn bwriadu disodli pensiwn ymddeol y wladwriaeth sylfaenol ac ychwanegol gyda phensiwn un haen cyfradd wastad o fis Ebrill 2016. Bydd hyn yn gymwys i'r hawlwyr hynny sy'n cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth yn unig, wedi i'r pensiwn y wladwriaeth newydd gael ei gyflwyno. Bydd unigolion sy'n cyrraedd oed pensiwn y wladwriaeth cyn y dyddiad hwn yn derbyn pensiwn y wladwriaeth yn unol â'r rheolau presennol. Dyma'r rhai sy'n debygol o elwa o'r newidiadau: pobl hunangyflogedig, pobl ag enillion oes isel a'r rhai sy'n cael amser o'r farchnad lafur oherwydd diweithdra, gofalu neu anabledd. Fodd bynnag, disgwylir i grwpiau dan anfantais gynnwys; enillwyr cyflogau uwch, pobl â llai na'r cyfraniadau gofynnol y mae eu hangen i fod yn gymwys ar gyfer pensiwn y wladwriaeth, rhai pobl y mae dileu'r elfen Cynilion Credyd o'r Credyd Pensiwn wedi effeithio arnynt a rhai pobl a fyddai, dan y system bresennol, yn derbyn pensiwn y wladwriaeth yn seiliedig ar gofnod eu partner.

CREDYD PENSIWN Budd-dal â phrawf modd yw'r Credyd Pensiwn i bobl dros oedran pensiwn menywod (gweler yr adran Pryd rydw i'n hawlio credyd pensiwn?). Nid oes cyfyngiad cyfalaf uchaf. Caiff y £10,000 cyntaf o'ch cyfalaf ei anwybyddu'n llwyr ond bydd unrhyw gyfalaf dros y ffigur hwn yn effeithio ar y swm a gewch chi. Mae dwy ran i'r Credyd Pensiwn, sef: Credyd Gwarant (i bobl dros oed pensiwn menywod) a Chredyd Cynilion (gwobr i bobl sydd wedi darparu'n gymedrol ar gyfer eu hymddeoliad ac sydd dros 65 oed). Mae'r Credyd Gwarant yn fwy hael na'r lwfans personol mewn budd-daliadau eraill â phrawf modd (e.e. Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith). Bwriad y Credyd Cynilion yw gwobrwyo pensiynwyr sydd wedi darparu peth ar gyfer eu hymddeoliad ar ffurf pensiwn galwedigaethol bach, pensiwn preifat neu gynilion). Gellir ei dalu ar ei ben ei hun neu gyda chredyd gwarant. Gall Credyd Pensiwn gael ei ôl-ddyddio'n awtomatig am 3 mis ar yr amod eich bod yn bodloni'r meini prawf am y cyfnod rydych chi'n gwneud cais am ôlddyddio ar ei gyfer. Sut rwyf yn cyflwyno cais am Gredyd Pensiwn? • Gellir hawlio Credyd Pensiwn dros y ffôn, Ffôn: 0800 99 1234 neu Ffôn Testun: 0800 169 0133. Dydd Llun – dydd Gwener 8am – 6pm. Bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth am eich rhifau Yswiriant Gwladol chi a'ch partner, rhyw syniad o faint o arian rydych yn ei gael bob wythnos, manylion unrhyw gynilion a buddsoddiadau a gwybodaeth am gostau tai megis llog, morgais, taliadau gwasanaeth neu rent tir. •

Gellir hawlio hefyd ar ffurflen safonol PC1 sydd ar gael o'r Gwasanaeth Pensiwn drwy ffonio'r rhif ffôn uchod. Daw'r ffurflen Credyd Pensiwn gyda phedair tudalen ar bymtheg o nodiadau sydd i fod i'ch helpu chi i gwblhau'r ffurflen. Os ydych yn meddwl bod angen help arnoch i ddeall y nodiadau a/neu lenwi'r ffurflen, dylech gysylltu ag asiantaeth gynghori. Mae rhifau ffôn ar ddiwedd y daflen hon. 6


Pryd gallaf hawlio Credyd Pensiwn? Mae'r oedran y gall dynion a menywod hawlio Credyd Pensiwn yn newid yn unol â chodi'r oedran pensiwn i fenywod. O ran cyplau, ar hyn o bryd, un partner yn unig sy'n gorfod bod dros oed pensiwn y fenyw ond disgwylir i hyn newid pan gaiff Credyd Cynhwysol ei gyflwyno. Dyma'r rheolau presennol ar gyfer oedran cymwys, ond gallent newid. • • •

Gellir hawlio dim ond os ydych chi (yn wryw neu'n fenyw) wedi cyrraedd yr oedran y mae menyw'n cyrraedd oedran pensiwn. Mae'r oedran y mae menywod yn gymwys i gael pensiwn ymddeol yn dibynnu ar eu dyddiad geni. I fenywod a anwyd rhwng 6 Ebrill 1950 a 5 Rhagfyr 1953, mae'r oedran y maent yn gallu hawlio pensiwn ymddeol y wladwriaeth yn cynyddu'n raddol a byddant yn cyrraedd oedran pensiwn rhwng 60 a 65 oed. I ddynion a menywod a anwyd ar ôl 5 Rhagfyr 1953, mae'r oedran cymhwyso'n cynyddu i 66 oed erbyn Hydref 2020 a 67 oed erbyn 2036.

Sylwer, dan gynlluniau presennol y llywodraeth, bydd yr oedran ymddeol i ddynion a menywod yn codi wedyn i 68 erbyn 2046. Er mwyn cadarnhau beth fydd eich oedran ymddeol (ac felly'r oedran lle gallech hawlio Credyd Pensiwn), cysylltwch â'r Gwasanaeth Pensiwn naill ai drwy lythyr neu ffonio (manylion ar gefn y llyfryn hwn). Gallwch hefyd ddefnyddio cyfrifiannell oedran pensiwn gwladol ar-lein y Gwasanaeth Pensiwn ar wefan Direct.Gov.UK. www.gov.uk/calculatestate-pension Er enghraifft: Cyfnod eich pen-blwydd:

: Dyddiad cyrraedd oedran pensiwn

06/02/52-05/03/52 06/03/52- 05/04/52 06/04/52-05/05/52 06/05/52-05/06/52 06/06/52- 05/07/52 06/07/52-05/08/52 06/08/52-05/09/52

06/01/2014 06/03/2014 06/05/2014 06/07/2014 06/09/2014 06/11/2014 06/01/2015

Ôl-ddyddio Gellir ôl-ddyddio Credyd Pensiwn am hyd at 3 mis ond ni ellir ei ôl-ddyddio i'r cyfnod cyn oedran pensiwn. Os oedd eich pen-blwydd dros 3 mis yn ôl, ac rydych yn credu y byddech wedi bod yn gymwys pe baech chi wedi hawlio'n gynt, dylech weithio allan 3 mis cyn y dyddiad rydych yn hawlio a rhoi'r dyddiad hwnnw ar y ffurflen. Dylech ddweud eich bod yn credu eich bod yn gymwys o'r dyddiad hwnnw oherwydd gellir ôl-ddyddio Credyd Pensiwn am 3 mis ar yr amod eich bod yn bodloni'r holl amodau cymhwyso. Sut rwyf yn gwybod a oes gen i hawl i Gredyd Gwarant? Os nad ydych am ddarllen yr adran hon, gallwch ei hepgor a chyflwyno cais. Os caiff eich cais ei wrthod, gallwch gysylltu ag asiantaeth gynghori a gofyn iddynt wirio'ch hawl. Neu gallwch ddefnyddio cyfrifiannell credyd pensiwn ar-lein y llywodraeth a fydd yn rhoi amcangyfrif i chi o unrhyw Gredyd Pensiwn y gallech fod â hawl iddo. I ddefnyddio hwn ewch i: https://www.gov.uk/pension-credit-calculator 7


Bob blwyddyn, mae'r Llywodraeth yn pennu swm o arian y dylai pobl dros oedran pensiwn menywod ei gael i fyw arno bob wythnos. Os yw'ch incwm o bob ffynhonnell yn llai na'r swm penodol hwn, yna bydd gennych hawl i gael ychwanegiad at eich incwm drwy Gredyd Gwarant. Gelwir y symiau sylfaenol hyn yn Lleiafswm y Warant Sylfaenol. Yn syml, mae hyn yn golygu na ddylai unigolyn neu gwpwl dros oedran pensiwn menywod gael llai i fyw arno na'r swm hwn. Gellir ychwanegu symiau eraill os ydych chi neu'ch gŵr/gwraig/partner sifil yn anabl iawn a/neu'n gofalu am rywun sy'n anabl iawn. Gall help ar gyfer y taliadau llog rydych yn eu talu ar forgais gael ei ychwanegu at Leiafswm y Warant Safonol hefyd (telir y taliadau hyn yn uniongyrchol i'ch benthyciwr). Ni ellir cynnwys taliadau a wneir oddi ar y cyfalaf. [Os ydych yn talu rhent, mae'n bosib y gallech hawlio help gyda'ch rhent drwy'r cynllun Budd-dal Tai]. Wrth ychwanegu'r symiau ychwanegol hyn, ceir y swm y dylai fod gan bob unigolyn neu gwpwl i fyw arno bob wythnos. Yr enw ar hwn yw'r 'Swm Priodol’. Oherwydd y symiau ychwanegol yma, bydd swm priodol pob unigolyn neu gwpwl yn wahanol. Os ydych yn credu bod gennych hawl, dylech gyflwyno cais. Os oes gennych hawl i'r Credyd Gwarant, bydd gennych hawl awtomatig i Fudd-dal Treth y Cyngor llawn a Budd-dal Tai ar gyfer eich rhent (ni waeth beth yw maint y cyfalaf sydd gennych). Sut rwyf yn gwybod a oes gen i hawl i Gredyd Cynilo? I fod yn gymwys am Gredyd Cynilion, mae'n rhaid i naill ai chi neu'ch partner fod yn 65 oed neu'n hŷn ac ni ddylech fod yn derbyn unrhyw arian arall sy'n fwy na'r trothwy a bennwyd (e.e. mwy na chyfradd sylfaenol Pensiwn Ymddeol y Wladwriaeth; Pensiwn Galwedigaethol neu incwm o gyfalaf). Does dim ffordd hawdd i wybod a oes gennych hawl i Gredyd Cynilo. Yr unig ffordd i fod yn siŵr yw cyflwyno cais neu geisio cyngor gan asiantaeth cynghori (gweler rhestr o asiantaethau ar gefn y llyfryn hwn). Faint o Gredyd Gwarant byddaf yn ei gael? Bydd y swm y byddwch yn ei gael yn dibynnu ar eich amgylchiadau penodol. • • • • •

A ydych yn sengl neu'n gwpwl A oes gennych incwm arall neu gynilion A ydych yn cael eich ystyried yn 'anabl iawn' A ydych yn cael eich ystyried yn 'ofalwr’ A oes gennych daliadau llog ar forgais.

Faint o Gredyd Cynilo byddaf yn ei gael? Mae uchafswm Credyd Cynilo y gallwch ei gael. Ni allwch gael mwy na hyn dan unrhyw amgylchiadau, ond gallwch gael llai, yn dibynnu ar swm yr incwm a'ch cynilion. Mae swm y credyd cynilion wedi bod yn lleihau'n raddol ers 2010.

BUDD-DAL TAI [HELP I DALU EICH RHENT] Caiff Budd-dal Tai ei dalu i bobl sy'n gorfod talu rhent am y lle maent yn byw ynddo. Fe'i gweinyddir gan yr Awdurdod lleol ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae'n destun prawf modd felly bydd faint o incwm a chynilion sydd gennych yn cael ei asesu a gallai effeithio ar swm y Budd-dal Tai y byddwch yn ei gael. Os oes gennych £16,000 neu fwy, yna ni allwch hawlio Budd-dal Tai os nad ydych yn derbyn rhan Gwarant y Credyd Pensiwn. Os felly, mi gewch y Budd-dal Tai llawn.

8


Sut rwyf yn cyflwyno cais am Fudd-dal Tai? • Os ydych am gyflwyno cais am Gredyd Pensiwn ac yn gofyn i'r Gwasanaeth Pensiwn anfon ffurflen gais atoch, dylech ofyn iddynt hefyd anfon ffurflen HCTB1 atoch [ar gyfer help gyda'ch rhent] er mwyn cyflwyno cais am Fudd-dal Tai. • Os ydych yn gwneud cais am Gredyd Pensiwn dros y ffôn, dylent ofyn a ydych am hawlio Budd-dal Tai ar yr un pryd. • Os nad ydych yn gwneud cais am Gredyd Pensiwn, cysylltwch ag adran Budddaliadau Tai a Threth y Cyngor eich awdurdod lleol a gofyn iddynt anfon ffurflen gais atoch. Ffôn: 01792 635885, neu ewch i'r Ganolfan Gyswllt yn y Ganolfan Ddinesig, dydd Llun - dydd Gwener 8.30am - 4.45pm. Gallwch wneud cais ar-lein hefyd ar wedudalennau Dinas a Sir Abertawe ar gyfer Budd-daliadau Tai a Threth y Cyngor. • Mae hawlio a newid amgylchiadau yn dechrau o'r dydd Llun yn dilyn yr hawlio/newid amgylchiadau. Pryd gallaf hawlio? Gallwch hawlio o'r adeg y bydd eich cyfrifoldeb am dalu rhent yn dechrau, hyd yn oed os nad ydych eto wedi symud i'r tŷ. Gall Budd-dal Tai gael ei ôl-ddyddio'n awtomatig am hyd at 3 mis os ydych dros oedran pensiwn menywod. Faint byddaf yn ei gael? Oherwydd bod Budd-dal Tai a Gostyngiadau Treth y Cyngor yn fudd-daliadau â phrawf modd, bydd y swm rydych yn ei gael yn dibynnu ar eich amgylchiadau ariannol a domestig. Os ydych yn derbyn rhan Credyd Gwarant y Credyd Pensiwn, byddwch fel arfer yn cael Gostyngiad Treth y Cyngor a Budd-dal Tai llawn. Os ydych yn byw mewn cartref o eiddo'r Cyngor neu Gymdeithas Tai bydd hyn fel arfer yn golygu bod eich holl rent yn cael ei dalu, fodd bynnag efallai bydd didyniadau os oes "oedolyn annibynnol" yn byw gyda chi, er enghraifft mab neu ferch sy'n oedolyn. Ond mae rhai pobl na wneir didyniadau ar eu cyfer hyd yn oed os oes person annibynnol yn byw gyda hwy, a dylech ofyn i gynghorwr i weld a ydych yn un o'r bobl yma. Os ydych yn rhentu gan landlord preifat, gallai'r swm rydych yn ei dderbyn fod yn llai na'r rhent y mae'n rhaid i chi ei dalu. Gallai hyn fod, er enghraifft, oherwydd bod y rhent y mae'r landlord yn ei godi yn uwch na'r Lwfans Tai Lleol ar gyfer yr ardal lle'r ydych yn byw, neu oherwydd yr ystyrir bod yr eiddo'n rhy fawr i'ch anghenion chi a'ch teulu. Os yw hyn yn wir, bydd angen i chi dalu'r gwahaniaeth rhwng y rhent y mae'n rhaid i chi ei dalu a swm y Budd-dal Tai rydych yn ei gael (gallech fod yn gymwys am 'daliad tai dewisol' ac efallai y dyfernir hwn i chi i dalu am y diffyg - ceisiwch gyngor.) Mae'r gostyngiad i bobl annibynnol hefyd yn berthnasol i denantiaethau landlordiaid preifat.

CYNLLUN GOSTYNGIADAU TRETH Y CYNGOR A HELP ARALL GYDA THRETH Y CYNGOR Gallech gael help i dalu Treth y Cyngor mewn pedair ffordd: • • • •

Gostyngiad Treth y Cyngor Cynlluniau disgownt Gostyngiad oherwydd anabledd Eithrio

Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor Gweinyddir Gostyngiad Treth y Cyngor gan yr Awdurdod Lleol ar ran Llywodraeth Cymru. Nid Budd-dal Nawdd Cymdeithasol ydyw mwyach, ac mae'r rheolau wedi newid ychydig ond yn bennaf, maent yn debyg iawn i'r rhai ar gyfer Budd-dal Tai. Mae Gostyngiad Treth 9


y Cyngor yn fudd-dal prawf modd a bydd unrhyw gynilion neu gyfalaf sydd gennych dros £16,000 yn golygu nad oes hawl gennych i Ostyngiad Treth y Cyngor oni bai eich bod yn derbyn rhan 'Gwarant' y Credyd Pensiwn. Os felly, bydd hawl gennych i'r Gostyngiad Treth y Cyngor llawn sydd ar gael yn y flwyddyn gyfredol honno. Os nad ydych yn derbyn rhan Credyd Gwarant y Credyd Pensiwn, yna, fel y mae gyda Budd-dal Tai, caiff eich hawl a'r swm rydych yn ei dderbyn eu pennu gan eich amgylchiadau ariannol a domestig. Mae didyniadau 'pobl annibynnol' fel y'u disgrifir yn y Budd-dal Tai hefyd yn berthnasol i Ostyngiad Treth y Cyngor. Sut rwyf yn cyflwyno cais? • Os ydych wedi cyflwyno cais am Gredyd Pensiwn ac wedi derbyn ffurflen gais ar gyfer Budd-dal Tai; neu rydych wedi cyflwyno cais am Gredyd Pensiwn ac wedi dweud eich bod am wneud cais am Fudd-dal Tai - dylai eich cais am Fudd-dal Tai olygu y bydd ffurflen gais ar gyfer Gostyngiad Treth y Cyngor yn cael ei hanfon atoch er mwyn i chi ei chwblhau. • Os nad ydych wedi cyflwyno cais am Gredyd Pensiwn, dylech gysylltu â'ch Awdurdod Lleol. • Mae dwy ffurflen ar gael, un i gyflwyno cais am Ostyngiad Treth y Cyngor a'r llall i gyflwyno cais ar y cyd am Fudd-dal Tai a Gostyngiad Treth y Cyngor. • Gall hawl gael ei ôl-ddyddio'n awtomatig am 3 mis i'r rhai dros oedran pensiwn menywod. • Bydd dyddiad yr hawl ac unrhyw newid mewn amgylchiadau perthnasol yn dechrau o'r dyddiad y derbyniwyd yr hawl neu ddyddiad y newid mewn amgylchiadau. Cynlluniau Gostyngiad Mae'n bosib bod hawl gennych i ddisgownt ar eich Treth y Cyngor oherwydd nifer y bobl sy'n byw yn eich cartref. Os ydych yn byw ar eich pen eich hun, cewch ddisgownt o 25 % oddi ar Dreth y Cyngor. Os yw pobl eraill yn byw gyda chi, mae'n bosib na fyddant yn cael eu cyfrif ar gyfer Treth y Cyngor. Mae hynny'n golygu y gallech gael disgownt sylweddol yn nhreth y cyngor. Dyma enghreifftiau o bobl efallai na fydd yn cael eu cyfrif; rhai myfyrwyr amser llawn a phrentisiaid; rhai pobl sy'n gofalu am berson sâl neu anabl a phobl â nam difrifol ar y meddwl. Gostyngiad oherwydd anabledd Efallai eich bod yn gymwys am ostyngiad i'ch taliadau Treth y Cyngor os ydych chi neu breswyliwr arall yn eich cartref [gan gynnwys plant] yn anabl ac: mae gennych ystafell ymolchi neu gegin ychwanegol ar gyfer y person anabl Neu mae gennych ystafell y mae ei hangen ar berson anabl ac a ddefnyddir ganddo ef yn bennaf Neu mae lle wedi'i greu yn y cartref ar gyfer defnyddio cadair olwyn. Os ydych yn gymwys, caiff eich Treth y Cyngor ei leihau i'r swm sy'n daladwy ar gyfer y Band Treth y Cyngor sy'n is na'r band ar gyfer eich cartref. Os ydyw yn y band isaf, yna caiff y swm y mae'n rhaid i chi ei dalu ei ostwng un rhan o chwech. Eithriadau Mae rhai cartrefi wedi'u heithrio'n llwyr o Dreth y Cyngor. Bydd hyn yn berthnasol i rai cartrefi sy'n wag ac i rai y mae categorïau penodol o bobl yn byw ynddynt. Mae'r rheolau'n gymhleth a dylech geisio cyngor. 10


Sut rwyf yn cael help gyda Threth y Cyngor? Mae ffurflenni cais ar gyfer Disgowntiau a Gostyngiadau ar gael o'ch Awdurdod Lleol (manylion yn yr adran Budd-dal Tai uchod).

11


TALIADAU TANWYDD Y GAEAF Taliad un tro yw hwn a roddir bob blwyddyn i helpu gyda chostau biliau tanwydd y gaeaf. Mae'r rhan fwyaf o bobl oedran pensiwn menywod ac yn hŷn yn derbyn taliad tanwydd y gaeaf, ar yr amod eu bod yr oed hwn neu'n hŷn yn yr wythnos sy'n dechrau ar drydydd dydd Llun mis Medi. Os ydych chi neu'ch partner dros wythdeg, mae swm ychwanegol. Sut rwyf yn cyflwyno cais am Daliad Tanwydd y Gaeaf? Os oes rhywun yn eich aelwyd yn derbyn Pensiwn Ymddeol y Wladwriaeth neu fudd-dal nawdd cymdeithasol cymhwyso arall, neu os derbyniwch y taliad hwn y llynedd, dylech dderbyn Taliad Tanwydd y Gaeaf yn awtomatig heb orfod cyflwyno cais. Os nad ydych wedi derbyn taliad ac yn meddwl eich bod yn gymwys, dylech ffonio Llinell Gymorth Tanwydd y Gaeaf Ffôn: 08459 151515 (cyfradd leol) neu Ffôn Testun 0845 601 513, neu'r Gwasanaeth Pensiwn Ffôn: 0845 6060265. Gallwch ofyn dros y ffôn am ffurflen gais neu lawrlwytho un owww.direct.gov.uk. Mae'n rhaid i chi hawlio cyn 31 Mawrth yn dilyn yr wythnos gymhwyso ym mis Medi (gweler uchod). Telir y Taliad Tanwydd Gaeaf fel arfer rhwng mis Tachwedd a mis Ionawr bob blwyddyn. Os ydych am dderbyn taliad cyn y Nadolig, dylech gyflwyno'ch cais cyn yr wythnos gymhwyso ym mis Medi.

TALIAD TYWYDD OER Taliad un tro yw hwn ar gyfer cyfnod o dywydd oer iawn. Caiff ei dalu ar gyfer pob wythnos rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth pan ragwelir y bydd y tymheredd cyfartalog yn yr orsaf dymheredd yn eich ardal chi yn gostwng i sero gradd Celsius neu'n is na sero [yn is na phwynt rhewi] neu'n cael ei gofnodi ar y tymereddau hyn am saith niwrnod yn olynol. Caiff ei dalu ar ben taliad tanwydd y gaeaf i'r rhai sy'n gymwys. Sut rwyf yn cyflwyno cais am Daliad Tywydd Oer? Byddwch yn derbyn y Taliad Tywydd Oer yn awtomatig os ydych chi neu'ch partner yn cael Credyd Pensiwn. Ceir gwiriwr codau post yn yr adran bensiynau yn www.direct.gov.uk i weld pa ardaloedd sy'n ddigon oer ar gyfer y taliadau hyn. Faint byddaf yn ei gael? Y taliad ar hyn o bryd yw £25.00 am bob wythnos o dywydd oer iawn.

BUDD-DALIADAU IECHYD Taliadau Presgripsiwn Yng Nghymru, mae pawb yn cael presgripsiwn am ddim, ni waeth beth yw ei oedran. Profion llygaid a sbectol Os ydych dros chwe deg oed, rydych yn gymwys i dderbyn profion llygaid am ddim. Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael profion llygaid am ddim os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall, â golwg rhannol, wedi'ch diagnosio â diabetes neu glawcoma neu dros 40 oed ac yn perthyn yn agos i rywun â glawcoma. Os ydych yn cael rhan Warant y Credyd Pensiwn, dylech fod yn gymwys am dalebau y gallwch eu defnyddio at gost sbectol neu lensys cyswllt. Efallai na fydd y talebau'n talu'r holl gostau, felly chwiliwch o gwmpas y siopau os nad ydych am dalu costau ychwanegol. Os nad ydych yn cael y Credyd Gwarant, efallai y byddwch yn gymwys i gael sbectol neu lensys cyffwrdd am ddim neu help gyda'r gost os yw'ch incwm yn ddigon isel.

12


Triniaeth Ddeintyddol neu Ddannedd Gosod Os ydych yn byw yng Nghymru, mae gennych hawl awtomatig i archwiliad deintyddol am ddim os ydych dros 60 oed. Nid oes hawl awtomatig i driniaeth ddeintyddol am ddim ar sail oed, fodd bynnag, os ydych yn derbyn y Credyd Gwarant, mae hawl gennych i driniaeth am ddim. Os nad ydych yn cael Credyd Gwarant, efallai y byddwch yn gymwys i gael triniaeth am ddim neu help gyda chostau triniaeth ar sail incwm isel. Sut rwyf yn cael help gyda Phrofion Llygaid a Sbectol a Thriniaeth Ddeintyddol? Os yw'n incwm yn fach ac rydych chi'n credu y gallwch hawlio, gallwch ddefnyddio ffurflen HC1 sydd ar gael mewn Swyddfeydd Post, swyddfeydd Canolfan Byd Gwaith Meddygon Teulu'r GIG ac ysbytai. Mae'n bosib bod gan optegwyr a deintyddion stoc ohonynt hefyd. Gallwch ofyn am ffurflen dros y ffôn, Ffôn: 0845 603 1108 a dewis yr opsiwn cyhoeddiadau iechyd neu lawrlwytho'r ffurflen o www.nhsbsa.nhs.uk/HealthCosts/1128.aspx. Os oes angen help arnoch i lenwi'r ffurflen, ffoniwch: 0845 850 1166; bydd cynghorwr yn llenwi'r ffurflen i chi a'i hanfon atoch i'w llofnodi a'i dychwelyd. Costau Teithio i'r Ysbyty Os ydych chi dros oedran pensiwn menywod ac yn derbyn Credyd Gwarant neu mae'ch incwm yn ddigon isel, byddwch yn gymwys am help i dalu am gostau teithio i'r ysbyty i gael triniaeth. Os nad yw'ch incwm yn ddigon isel i gael help llawn, efallai y gallech gael help rhannol. Bydd disgwyl i chi deithio ar y dull cludiant cyhoeddus safonol rhataf oni bai am ryw reswm nad yw hyn yn ymarferol. Os felly, dylai costau teithio mewn car neu dacsi gael eu talu. Os oes angen cwmni hebryngwr arnoch am resymau meddygol, gellir talu am y gost ychwanegol hefyd. Sut rwyf yn cyflwyno cais am Gostau Teithio i'r Ysbyty? Dylech hawlio yn yr ysbyty lle rydych chi'n cael triniaeth drwy fynd i'r swyddfa sy'n ymwneud â thaliadau teithio. Mae'n bosib y gallwch hawlio ymlaen llawn drwy gysylltu â'r ysbyty. Bydd rhaid i chi gadw'r dderbynneb am eich taliadau teithio. Os ydych yn hawlio costau taliadau teithio oherwydd eich bod yn derbyn budd-dal prawf modd megis Credyd Pensiwn, bydd angen i chi ddangos prawf o'r budd-dal hwn, megis hysbysiad o ddyfarnu'r budd-dal. Os ydych yn hawlio oherwydd incwm isel, bydd rhaid i chi hawlio drwy gwblhau ffurflen HC1, fel yr uchod.

LWFANS GWEINI Mae'r Lwfans Gweini'n fudd-dal i bobl dros 65 oed y mae ganddynt salwch neu anabledd corfforol neu feddyliol sy'n golygu bod angen help arnynt gyda gofal personol yn ystod y dydd ac/neu yn ystod y nos, neu fod angen rhywun i gadw llygad arnynt i'w cadw'n ddiogel. Does dim rhaid iddynt gael help, dim ond dangos bod angen help arnynt gyda phethau fel: • • • • • • • • • •

mynd i'r gwely a chodi ohono ymolchi a chael bath/cawod gwisgo a dadwisgo symud o gwmpas y tŷ mynd i fyny ac i lawr y grisiau mynd i'r toiled a'i ddefnyddio cymryd meddyginiaeth bwyta ac yfed gweld, clywed a/neu feddwl cyfathrebu 13


Gall yr help y mae ei angen gyda'r gweithgareddau hyn fod yn help corfforol oherwydd eich bod yn anabl neu'n methu â gwneud y pethau hyn drosodd eich hunan neu gall fod yn help ar ffurf rhywun yn siarad gyda chi i'ch perswadio neu'ch annog i ofalu amdanoch chi'ch hun oherwydd salwch megis iselder. Gallai fod yr angen am rywun i gadw llygad arnoch fod oherwydd perygl cwympiadau, neu oherwydd na fyddai'n ddiogel i chi fod ar eich pen eich hun oherwydd eich bod yn anghofus, yn drysu'n hawdd neu'n ddiamddiffyn. Nid oes rhaid eich bod yn cael yr help hwn ac nid oes rhaid i chi ddangos bod angen help yn feddygol. Fodd bynnag, mae'n rhaid bod yr angen am help yn un rhesymol, sy'n golygu bod rhaid i'r angen amdano fod yn fwy na dewis yn unig, ac mae'n rhaid bod yr angen rhesymol yma am help wedi bodloni am o leiaf chwe mis er mwyn i chi fod yn gymwys. [Mae rheolau arbennig i bobl a chanddynt salwch terfynol]. Mae Lwfans Gweini yn ddi-dreth ac nid oes prawf modd ar ei gyfer, felly nid yw'ch incwm neu'ch cynilion yn effeithio arno. Ni chaiff ei gyfrif fel incwm ar gyfer budd-daliadau eraill a gall olygu eich bod yn gymwys am fudd-daliadau prawf modd eraill ar gyfer y cyntaf neu eu cynyddu. Mae'n ddoeth ceisio cyngor neu hawlio os nad ydych yn siŵr. Nid yw'r ffaith eich bod yn byw ar eich pen eich hun neu gyda phobl eraill yn effeithio ar eich hawl, a gallwch wario'r arian mewn unrhyw ffordd. Sut rwyf yn cyflwyno cais ar gyfer Lwfans Gweini? Gallwch gael ffurflenni cais gan: • Y Gwasanaeth Pensiwn: Ffôn (rhadffôn) 0800 731 7898 (dydd Llun – dydd Gwener 8am – 6pm), neu Ffôn Testun: 0800 731 7339. • Lwfans Gweini Ffôn: 0845 605 6055 (codir tâl o 1c am bob galwad – 10.5c y funud o linellau tir a 12c – 41c y funud o ffonau symudol) • Gallwch lawrlwytho un o wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau neu gyflwyno cais arlein yn www.gov.uk/attendance-allowance/how-to-claim • Cyngor ar Bopeth neu Wasanaeth Cynghori arall Dylai ffurflen y byddwch yn ei derbyn drwy'r post gynnwys dau ddyddiad. Y dyddiad cynharaf yw'r dyddiad y derbyniwyd eich cais am y ffurflen a'r dyddiad mwy diweddar yw'r dyddiad ar gyfer dychwelyd y ffurflen. Os byddwch yn dychwelyd y ffurflen erbyn y dyddiad hwnnw, byddwch yn derbyn budd-dal o'r dyddiad cynharaf, os bydd eich hawl yn cael ei ganiatáu. Mae'r ffurflen yn gofyn i chi dicio blychau i nodi'ch amgen am help gyda gofal personol a rhywun i gadw llygad arnoch. Mae'n rhestri'r tasgau y gall fod angen help arnoch chi i'w gwneud neu pam mae angen rhywun i gadw llygad arnoch chi. Mae un tudalen ar gyfer anghenion y dydd ac un ar gyfer anghenion y nos. Rhoddir blychau gwag i chi ac yn y rhain rydych yn disgrifio, yn eich geiriau eich hun, y math o help y mae ei angen arnoch ac yn dweud pam y mae gennych anghenion o'r fath. Mae blwch gwag arall lle gallwch ddweud unrhyw beth arall rydych chi'n credu y dylent ei wybod a dweud sut mae eich salwch neu anabledd yn effeithio ar eich bywyd o ddydd i ddydd. Mae'n bwysig iawn eich bod yn disgrifio'r problemau a'r anawsterau sydd gennych wrth gyflawni'r gweithgareddau uchod mor llawn â phosib, a'u cysylltu â'ch salwch a'ch anableddau wrth ddweud pam mae gennych yr anghenion hyn. Os yw'n bosib, byddai'n well ceisio help Asiantaeth Cyngor wrth gwblhau'r ffurflen. Os nad yw hyn yn bosib, gall y canlynol fod yn awgrymiadau defnyddiol i'w cadw mewn cof.Awgrymiadau'n unig yw'r rhain ac mae'n bwysig meddwl yn ofalus am sut mae'ch anabledd neu salwch yn effeithio arnoch, a cheisio rhoi darlun mor llawn â phosib a rhoi enghreifftiau o'ch anawsterau. Bydd y penderfyniad i ddyfarnu budd-dal i chi neu beidio fel arfer yn seiliedig ar yr wybodaeth rydych yn ei rhoi ar y ffurflen. 14


Mae croeso i chi ddefnyddio mwy o bapur os nad oes lle i bopeth rydych am ei ddweud yn y blychau a ddarperir. Cofiwch, pan fydd y sawl sy'n penderfynu yn ystyried eich hawl, mwy na thebyg dyma'r unig wybodaeth fydd ganddo. •

Mynd i'r gwely a chodi ohono: Ystyriwch sut rydych yn teimlo wrth ddihuno yn y bore a sut rydych yn llwyddo i godi o'r gwely. Ydych cymalau'n boenus ac yn stiff? A fyddai'n llai poenus i chi eistedd yn y gwely'n gyntaf ac yna codi i sefyll pe bai rhywun yn gallu bod yno i'ch helpu chi? Ydych chi'n siglo ar eich traed pan fyddwch yn sefyll i ddechrau? Ydych chi erioed wedi cwympo/baglu neu eistedd yn ôl ar y gwely oherwydd nad oeddech yn gallu cadw'ch cydbwysedd? Ar ôl i chi godi ar eich eistedd, oes angen i chi aros am ysbaid/sbel i'r poen leihau neu i gael eich anadl yn ôl? Ydych chi'n teimlo'n benysgafn? Ydych chi'n defnyddio unrhyw gymhorthion i'ch helpu i godi o'r gwely? Ydy e'n ymdrech i chi, ac ydy e'n cymryd amser hir? Os ydych yn dioddef o iselder, oes angen rhywun arnoch i'ch cymell drwy siarad â chi a'ch annog i godi, a heb yr anogaeth honno, a fyddech chi'n treulio'r bore/diwrnod cyfan yn y gwely?

Ymolchi a chael bath/cawod: Ystyriwch sut rydych chi'n mynd i mewn i'r bath ac yn codi allan ohono. Ydych chi'n gallu gwneud hyn yn ddiogel a heb help. Ydych chi'n gallu mynd ati i eistedd yn y bath a sefyll eto'n ddiogel? Ydych chi erioed wedi cwympo/llithro? Os oes gennych chi gawod, ydy'r gawod dros y bath ac ydy hyn yn achosi problemau? Ydych chi'n gallu plygu i olchi'ch coesau a'ch traed? Ydych chi'n gallu ymestyn eich dwy fraich i olchi'ch gwallt? Ydych chi'n gallu sychu'ch hunan yn iawn? Ydych chi'n mynd yn fyr eich gwynt y bath/cawod? Ydy'r ymdrech yn eich blino'n lân? Oes angen rhywun arnoch i'ch annog i gael bath neu gawod oherwydd rydych yn isel eich ysbryd ac yn methu â chymell eich hunan? Oes gennych chi nam ar y golwg sy'n ei gwneud yn anodd i chi wneud yn siŵr bod eich gwallt wedi'i gribo'n gywir, eich colur wedi'i roi ar eich wyneb yn gywir a'ch dillad yn lân etc.?

Gwisgo a dadwisgo: Ystyriwch broblemau dadwisgo, cydweddu dillad a'r ymdrech y mae ei hangen. Ydy'r ymdrech i wisgo'n achosi poen ac anghysur i chi neu'n eich gwneud yn fyr eich gwynt? Ydych chi'n llwyddo i wisgo, ond mae'n cymryd amser hir neu mae angen i chi stopio bob hyn a hyn i orffwys. Ydy'r dasg yn eich blino'n lân? Ydych chi'n gallu plygu i wisgo teits, trowsus, esgidiau a sanau? Ydych chi'n gallu cau botymau? Oes angen eich cymell i wisgo'ch hun? Ydych chi'n teimlo nad oes pwrpas am nad oes gennych ddiddordeb yn eich gwedd, neu mae'n cymryd gormod o ymdrech ac nid ydych yn mynd allan i unman? Fyddech chi'n treulio'r diwrnod cyfan yn eich gŵn tŷ heb gymhelliant? Oes problem weledol yn ei gwneud hi'n anodd i chi ddewis lliwiau priodol, gweld a yw'ch dillad yn lân, gweld a ydych wedi rhoi colur ar eich wyneb yn gywir? Sut rydych yn llwyddo i wisgo'ch gemwaith?

Symud o gwmpas yn eich cartref a mynd i'r toiled: Ystyriwch sut beth yw codi o'r soffa ar ôl i chi fod yn eistedd am gyfnod; ydych chi'n stiff ac a yw'n boenus i chi sefyll? Ydych chi'n siglo ar eich traed, wedi cwympo'n ôl yn y gadair neu gwympo ar y llawr? Oes gennych chi broblemau â'ch cydbwysedd wrth gerdded o gwmpas, ydych chi wedi baglu neu gwympo? Oes gennych chi broblemau dringo i fyny a dod i lawr y grisiau? Ydych chi'n ddiogel ar y grisiau? Ydych chi'n teimlo'n benysgafn neu'n siglo ar eich traed? Ydych chi'n gallu cyrraedd y toiled yn ddiogel? Ydych chi'n cael problemau wrth eistedd a chodi o'r toiled? Ydych chi'n gallu sychu a glanhau eich hun ar ôl defnyddio'r toiled? Ydych chi'n dioddef o anymataliaeth? Oes gennych chi broblemau symud o gwmpas neu wrth ddefnyddio'r toiled oherwydd nam ar y golwg: 15


Cymryd meddyginiaeth: Ydych chi'n anghofio cymryd eich meddyginiaeth neu'n anghofio eich bod wedi ei chymryd? Oes angen eich atgoffa neu'ch perswadio i'w chymryd? Ydych chi'n gallu agor poteli moddion neu dabledi o'r pecynnau ffoil? Ydych chi'n gallu gweld y tabledi y mae'n rhaid i chi eu cymryd?

Bwyta ac yfed: Oes angen i rywun dorri'ch bwyd yn fân oherwydd gwendid yn eich dwylo/arddyrnau? Ydych chi'n gallu gweld y bwyd ar eich plât? Oes angen anogaeth arnoch i fwyta, a fyddech chi'n trafferthu i fwyta pe baech yn cael eich gadael i wneud fel y mynnoch? Ydych chi'n gollwng eich bwyd, neu ddim yn sylwi eich bod yn gwneud hynny?

Cyfathrebu: Ydych chi'n cael anhawster cyfathrebu â phobl oherwydd nam ar y clyw, gweledol neu leferydd neu am unrhyw reswm arall? Disgrifiwch y problemau hyn a rhowch enghreifftiau.

Oes angen cadw llygad arnoch chi oherwydd y rhesymau canlynol? • Ydych chi'n dueddol o gwympo a/neu mewn perygl o gwympo? • Ydych chi'n dioddef o ffitiau neu lewygon a allai olygu eich bod yn cael anaf pan fyddant yn digwydd? • Ydych chi'n ddiamddiffyn oherwydd problem iechyd meddwl fel clefyd Alzheimer neu anabledd dysgu neu ddryswch a bod angen rhywun gyda chi er mwyn i chi deimlo'n ddiogel yn eich cartref? Ydych chi'n anghofio cloi drysau yn y nos a diffodd peiriannau/offer ar ôl i chi eu defnyddio? • Oes perygl i chi niweidio'ch hun oherwydd salwch iselder? Ydych chi mewn perygl o achosi niwed i eraill neu greu sefyllfaoedd a allai fod yn beryglus oherwydd eich salwch? Faint byddaf yn ei gael? Mae'n cael ei dalu ar ddwy gyfradd. Mae'r gyfradd is i'r rhai y mae angen help arnynt gyda gofal personol drwy gydol y dydd neu rywun i gadw llygad arnynt drwy gydol y nos. Mae'r gyfradd uwch i'r rhai y mae angen help arnynt neu rywun i gadw llygad arnynt drwy gydol y dydd a'r nos hefyd. Gall cael Lwfans Gweini olygu bod hawl gennych i Gredyd Pensiwn a Budd-dal Tai a Threth y Cyngor am y tro cyntaf neu gallai gynyddu'r swm rydych eisoes yn ei gael.

LWFANS BYW I'R ANABL Mae Lwfans Byw i'r Anabl (LBA) wedi'i ddisodli gan fudd-dal o'r enw'r Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) a rhaid i bob hawliwr newydd oed gweithio gyflwyno cais am PIP Bydd Lwfans Byw i'r Anabl yn parhau i'r canlynol: 1. Pobl a oedd yn 65 oed ar 8 Ebrill 2013, ar yr amod eu bod yn parhau i fodloni'r meini prawf i dderbyn y budd-dal hwn. 2. Plant dan 16 oed Os ydych yn y grŵp uchod ac mae eich anghenion gofal a symudedd yn gwaethygu, dylech hysbysu'r Uned a fydd yn ailystyried eich dyfarniad o Lwfans Byw i'r Anabl; fel o'r blaen, os nad oeddech eisoes yn derbyn naill ai gyfradd is y gydran ofal neu'r gydran symudedd, ni allant ystyried y cyfraddau hyn pan fyddant yn ystyried eich cais. Fodd bynnag, os ydych eisoes yn derbyn y cyfraddau hyn ac rydych eisoes wedi derbyn ffurflen 16


i adnewyddu'ch cais am Lwfans Byw i'r Anabl, gall eich cydrannau ar y cyfraddau hyn gael eu hadnewyddu. OND os rydych eisoes yn derbyn Lwfans Byw i'r Anabl (LBA) ac nid oeddech yn 65 oed ar 8 Ebrill 2013, ac mae newid i'ch anghenion gofal a symudedd, NI chewch eich ailasesu ar gyfer Taliadau Annibyniaeth Personol ond cewch eich gwahodd a'ch asesu ar gyfer Taliadau Annibyniaeth Personol (PIP) yn lle hynny. Caiff hawlwyr 16 i 64 oed (ar 8 Ebrill 2013) eu gwahodd i hawlio Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) pan fydd eu dyfarniad cyfredol ar gyfer LBA yn dod i ben ac o 2015, cânt eu gwahodd i hawlio ar hap. Cewch 4 wythnos i ymateb i wahoddiad i hawlio Taliadau Annibyniaeth Personol; os nad ydych yn cysylltu â hwy o fewn y cyfnod 4 wythnos hwn, caiff eich dyfarniad o LBA ei ohirio a'i derfynu os nad ydych yn hawlio Taliad Annibyniaeth Personol o fewn 8 wythnos. Wedi i'ch dyfarniad LBA gael ei derfynu, ni fydd modd ei adfer a bydd rhaid i chi gyflwyno cais am PIP neu LG (os ydych bellach dros 65 oed). Os ydych yn ymateb i'r gwahoddiad, bydd eich dyfarniad LBA yn parhau ar ffurf tâl nes y gwneir penderfyniad ynghylch eich cais i hawlio PIP. Os ydych bellach dros 65 oed, ond rydych wedi cael gwahoddiad i hawlio PIP oherwydd eich bod dan 65 ar 8 Ebrill 2013, dan yr amgylchiadau hyn, gallant ystyried y disgrifwyr symudedd wrth eich asesu er mwyn dyfarnu PIP i chi, er nad oeddech o bosib yn derbyn cydran symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl.

TALIADAU ANNIBYNIAETH PERSONOL (PIP) Os ydych dan 65 oed ac ni allwch hawlio Lwfans Gweini, ac os nad ydych eisoes yn derbyn Lwfans Byw i'r Anabl, y budd-dal y mae'n rhaid i chi ei hawlio yw Taliadau Annibyniaeth Personol (PIP) os oes gennych salwch neu anabledd. Beth yw Taliadau Annibyniaeth Personol? Budd-dal nad yw'n seiliedig ar brawf modd ac na chaiff ei drethu yw PIP sy'n cael ei dalu ar ben budd-daliadau eraill. Fe'i lluniwyd i helpu gyda chostau ychwanegol anabledd neu gyflyrau iechyd anablu tymor hir. Fe'i telir i bobl sy'n gweithio ac sy'n ddi-waith. Fel Lwfans Gweini, caiff ei anwybyddu fel incwm wrth gyfrifo hawliad i fudd-daliadau eraill â phrawf modd, a gall, mewn gwirionedd gynyddu eich hawliad neu sicrhau bod gennych hawl i fudd-dal â phrawf modd am y tro cyntaf. Mae PIP yn cynnwys dwy gydran; Byw Dyddiol a Symudedd ac mae dwy gyfradd i'r ddwy gydran: Safonol a Gwell Amodau Sylfaenol: • Mae'n rhaid eich bod o oed gweithio pan hawlioch chi am y tro cyntaf (16 i 64 oed; bydd y terfyn oedran uchaf yn cynyddu'n uwch na 65 oed yn unol â'r oedran pensiynadwy o 2018). • Mae'n rhaid eich bod yn bodloni'r profion byw dyddiol a/neu symudedd ar gyfer y cyfnod cymhwyso • Mae'n rhaid eich bod yn pasio'r profion preswylio a phresenoldeb • Mae'n rhaid bod eich anabledd/salwch wedi bodoli am y 3 mis diwethaf a bod disgwyl iddynt barhau am y 9 mis nesaf o leiaf. Gweithgareddau a Disgrifwyr 17


Mae PIP yn cynnwys dwy gydran ac mae dwy gyfradd i'r ddwy gydran. Mae cymhwyso ar gyfer PIP yn ddibynnol ar sgorio digon o bwyntiau mewn rhestr o ddisgrifwyr mewn 10 gweithgaredd byw dyddiol a/neu 2 weithgaredd symudedd. Gallwch sgorio unwaith yn unig ym mhob gweithgaredd. Mae'n rhaid i chi sgorio o leiaf y pwyntiau canlynol er mwyn cymhwyso ar gyfer y gyfradd benodol honno o'r budd-dal: Byw Dyddiol: Cyfradd Safonol: Pwyntiau: 8 Symudedd: Cyfradd Safonol: Pwyntiau: 8

Cyfradd Well: Pwyntiau: 12 Cyfradd Well: Pwyntiau: 12

Y rhan fwyaf o'r amser: Er mwyn i ddisgrifwyr fod yn berthnasol, dylai effeithio arnoch am fwy na 50% o'r diwrnodau yn y cyfnod cymhwyso. Os bydd mwy nag un yn berthnasol, dylid dyfarnu'r pwyntiau uwch i chi. Os nad yw unrhyw ddisgrifiwr yn y gweithgaredd yn berthnasol am 50% o'r amser ond byddai dau neu fwy gyda'i gilydd yn fwy na 50%, dylid dyfarnu'r disgrifiwr i chi sy'n berthnasol ar y rhan fwyaf o ddiwrnodau. Cymhorthion a Chyfarpar: Ystyrir yr holl ddisgrifwyr byw dyddiol a symudedd ar y sail eich bod yn gwisgo neu'n defnyddio unrhyw gymhorthyn neu gyfarpar, gan gynnwys cymalau artiffisial, a ddefnyddiwch fel arfer neu y gellid disgwyl yn rhesymol i chi ei wisgo neu ei ddefnyddio. Anghenion Gofal Dros Nos: Er y diffinnir y rhain fel gweithgaredd byw dyddiol, mae'r llywodraeth wedi nodi y bydd yr asesiad yn ystyried anghenion dros gyfnod o 24 awr a bydd anghenion dros nos yn cael eu hystyried fel rhan o hwnnw, felly mae'n rhaid i chi sicrhau eich bod wedi esbonio'ch anghenion dros nos. Sut rwyf yn cyflwyno cais am Daliadau Annibyniaeth Personol? Ffoniwch yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) i gyflwyno cais am Daliad Annibyniaeth Personol (PIP) newydd os ydych ym Mhrydain Fawr. DWP - ceisiadau am Daliadau Annibyniaeth Personol dydd Llun i ddydd Gwener, 8am to 6pm Ffôn: 0800 917 2222 (rhadffôn) Ffôn Testun: 0800 917 7777 (rhadffôn) Byddant yn gofyn i chi am wybodaeth fel: • manylion cyswllt a dyddiad geni • Rhif Yswiriant Gwladol • manylion banc neu gymdeithas adeiladu • enw'ch meddyg neu weithiwr iechyd • manylion unrhyw amser rydych wedi treulio dramor neu mewn cartref gofal neu ysbyty Gall rywun arall ffonio ar eich rhan, ond bydd angen i chi fod gyda'r person hwn pan fydd yn ffonio. Gallwch hefyd ysgrifennu i ofyn am ffurflen er mwyn anfon yr wybodaeth uchod drwy'r post (gall hyn oedi'r penderfyniad ynglŷn â'ch cais). Personal Independence Payment New Claims Post Handling Site B Wolverhampton WV99 1AH Beth fydd yn digwydd nesaf? Bydd ffurflen PIP2 yn gofyn sut mae eich anableddau'n effeithio arnoch yn cael ei hanfon atoch a chaiff yr wybodaeth hon, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth ychwanegol a gyflwynir 18


gennych, ei rhoi i weithiwr proffesiynol gofal iechyd a gyflogir ar gontract DWP (yng Nghymru bydd y contract gyda Capita) ac o hyn bydd yn penderfynu a oes angen asesiad ‘wyneb yn wyneb’. Mae'n bwysig rhoi cymaint o dystiolaeth ag y gallwch ar yr adeg hon. Ymgynghoriad Wyneb yn Wyneb: Bydd gweithiwr proffesiynol gofal iechyd yn asesu pa ddisgrifwyr ‘byw dyddiol’ a ‘symudedd’ sy'n berthnasol. Gall rhywun fynd gyda chi i'r asesiad hwn. Mae Capita, sy'n gyfrifol am drefnu'r asesiadau yng Nghymru, wedi dweud y cynhelir nifer mawr o'r ymgynghoriadau yng nghartref yr hawliwr. Peidio â Darparu Tystiolaeth neu Fynd i Ymgynghoriad: Os ydych yn peidio â darparu unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth neu nad ydych yn mynd i ymgynghoriad a chyfranogi ynddo heb ‘reswm da’, byddwn yn ystyried nad ydych yn gymwys ar gyfer PIP a chaiff yr hawl ei wrthod neu'i atal. Rhoddir 7 niwrnod o rybudd yn ysgrifenedig cyn bod rhaid i chi fynd i ymgynghoriad oni bai eich bod yn cytuno i gyfnod byrrach o rybudd. Mae'r ffurflen gais PIP yn wahanol i'r un ar gyfer Lwfans Gweini ac mae'n anos ei chwblhau. Byddai'n ddoeth ceisio cymorth gan un o'r Asiantaethau Cyngor a restrir ar gefn y daflen hon. Rheolau Arbennig Os ystyrir bod gennych salwch terfynol neu salwch, gellir ymdrin yn gyflymach â'ch cais am Lwfans Gweini; cais am ddisodli ar gyfer LBA a PIP. Gallwch chi, neu rywun sy'n gweithredu ar eich rhan, ffonio'r DWP i ddechrau'ch cais/cais am ddisodli ac yna anfon ffurflen DS1500 atynt (mae'r ffurflen hon ar gael yn unig gan feddyg neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall). Ni fydd angen i chi gwblhau'r manylion ar y ffurflen sy'n gofyn am eich anghenion gofal neu'ch anghenion byw dyddiol ond bydd angen i chi fodloni'r disgrifwyr ar gyfer cydran symudedd y PIP.

LWFANS GOFALWR Gellir talu Lwfans Gofalwr i chi os ydych yn gofalu am rywun am 35 awr yr wythnos neu fwy a'r person hwnnw'n derbyn naill ai'r Lwfans Gweini neu gyfradd byw dyddiol y Taliadau Annibyniaeth Personol neu gyfradd ganol neu uwch cydran gofal Lwfans Byw i'r Anabl. Nid yw'n angenrheidiol eich bod yn byw gyda'r person hwnnw neu'n perthyn iddo, a chaniateir i chi weithio cyhyd ag y mae eich cyflog yn is na lefel arbennig. Nid oes diffiniad i 'ofal', felly gallai rhywbeth mor syml â bod gyda rhywun i sicrhau ei fod yn ddiogel neu gadw cwmni i rywun fod yn gymwys. Mae Lwfans Gofalwr yn 'fudd-dal sy'n gorgyffwrdd'. Mae hyn yn golygu os ydych eisoes yn derbyn budd-daliadau penodol (mae pensiwn Ymddeol y Wladwriaeth yn un ohonynt) ni ellir talu Lwfans Gofalwr i chi. Gallwch dderbyn yr hyn a elwir yn 'hawliad gwaelodol' a gall hynny gynyddu'ch hawl neu roi hawl i chi gael budd-daliadau â phrawf modd am y tro cyntaf. E.e.: Mae Mr a Mrs B yn derbyn Pensiwn Ymddeol Gwladol a dyfarnwyd Lwfans Gweini i'r ddau ohonynt. Gall y ddau ohonynt wneud cais am Lwfans Gofalwr am ofalu am ei gilydd, ond ni fyddai'n cael ei dalu am fod y ddau ohonynt yn derbyn Pensiwn Ymddeol y Wladwriaeth. Fodd bynnag, drwy wneud cais am Lwfans Gofalwr, mae'n cynyddu eu hawl i Gredyd Pensiwn drwy roi hawl iddynt gael 2 ddyfarniad Premiwm Gofalwr ychwanegol . SYLWER y gall gwneud cais am Lwfans Gofalwr effeithio ar fudd-daliadau'r person rydych yn gofalu amdano ac felly dylech geisio cyngor bob amser cyn gwneud cais. Sut rwyf yn cyflwyno cais am Lwfans Gofalwr? Gellir cyflwyno cais am Lwfans Gofalwr ar ffurflen DS700 neu ar DS700(SP) os ydych yn derbyn pensiwn y wladwriaeth. Gallwch gael ffurflenni cais gan: 19


• • •

Y Gwasanaeth Pensiwn: Ffôn (rhadffôn) 0800 731 7898 (dydd Llun – dydd Gwener 8am – 6pm), neu Ffôn Testun: 0800 731 7339. Uned Lwfans Gofalwr Ffôn: 0845 608 4321 Ffôn Testun 0845 6045 312 (codir tâl o 1c am bob galwad – 10.5c y funud o linellau tir a 12c – 41c y funud o ffonau symudol) Gallwch lawrlwytho un o wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau neu gyflwyno cais ar-lein yn www.gov.uk/carersallowance/

Y GRONFA GYMDEITHASOL Mae dau fath o daliad: taliad dewisol neu daliad rheoledig. Taliad dewisol yw lle nad oes hawl gyfreithiol i ddyfarniad a bellach mae'n cynnwys benthyciadau cyllidebu'n unig. Mae'r Gronfa Gymdeithasol reoledig yn cwmpasu Taliadau Tywydd Oer (fel uchod); Taliadau Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn a Thaliadau Costau Angladd. Benthyciadau Cyllidebu Benthyciadau di-log yw'r rhain y bwriedir iddynt helpu pobl gyda threuliau ysbeidiol. Mae'n rhaid eich bod chi neu'ch partner yn derbyn budd-dal â phrawf modd megis Credyd Pensiwn, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n Gysylltiedig ag Incwm a Lwfans Ceiswyr Gwaith sy'n Seiliedig ar Incwm ac wedi bod yn derbyn hwn drwy gydol y 26 wythnos cyn cyflwyno'ch cais. Caiff Benthyciadau Cyllidebu eu disodli gan Flaensymiau Cyllidebu ar gyfer yr holl rai sy'n derbyn Credyd Cynhwysol wrth i'r budd-dal hwn gael ei gyflwyno'n raddol. Sut rwyf yn gwneud cais? Gweinyddir y ceisiadau hyn gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a bydd angen i chi ffonio Canolfan Dosbarthu Budd-daliadau eich ardal. Yn Abertawe, Wrecsam yw hwn, ar 0845 600 3016. Taliad Costau Angladd I fod yn gymwys am daliad costau angladd, mae'n rhaid mai chi yw'r 'person cymwys' ac yn derbyn cyfrifoldeb am yr angladd. Caiff 'person cymwys' ei ddiffinio'n glir a cheir trefn flaenoriaeth o gymhwysedd. Er enghraifft, partner y person ymadawedig fel arfer fyddai'r 'person cymwys' ac a fyddi'n gyfrifol am yr angladd cyn neb arall. Dim ond rhai costau a threuliau'r angladd y mae'r taliad yn eu cynnwys ac fel arfer, nid yw'n cynnwys y cyfan o bell ffordd. I fod yn gymwys, mae'n rhaid eich bod yn derbyn budd-dal â phrawf modd. Sut a phryd gallaf wneud cais am Daliad Costau Angladd? I wneud cais gallwch ofyn am ffurflen SF200 gan Wasanaeth Profedigaeth y DWP Ffôn: 0845 606 0265 Ffôn Testun: 0845 606 0285. Neu gallwch gael ffurflen gais o'ch Canolfan Byd Gwaith lleol neu ei lawrlwytho o: www.gov.uk/llywodraeth Mae'n rhaid i chi gyflwyno cais o fewn 3 mis i ddyddiad yr angladd. O fis Ebrill 2013 cafodd Grantiau Gofal Cymunedol a Benthyciadau Argyfwng eu dileu o'r Gronfa Gymdeithasol Ddewisol a'u disodli gan y Gronfa Cymorth Dewisol. Trosglwyddwyd y cyfrifoldeb am y gronfa hon i Lywodraeth Cymru, ac fe'i gweinyddir gan Northgate Public Services sy'n prosesu ceisiadau ac adolygiadau.

20


Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol yn cynnwys dau fath o daliad; grantiau yw'r rhain yn hytrach na benthyciadau; Mae cymhwysedd ar gyfer un o'r taliadau hyn yn debyg i'r meini prawf ar gyfer yr hen Grant Gofal Cymunedol a Benthyciadau Argyfwng. Taliadau Cymorth Unigol Mae'r taliadau hyn wedi disodli'r Grantiau Gofal Cymunedol; i fod yn gymwys ar gyfer un o'r taliadau hyn, mae'n rhaid eich bod yn derbyn budd-dal cymwys - Cymhorthdal Incwm; Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm; Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm a Chredyd Gwarant y Credyd Pensiwn. Mae'r taliadau hyn yn darparu nwyddau a gwasanaethau'n bennaf yn hytrach nag arian parod. Wrth roi unrhyw daliad, rhaid bodloni'r angen brys a nodwyd sy'n galluogi neu'n cefnogi pobl i sefydlu eu hunain neu barhau i fyw'n annibynnol yn y gymuned. Gallai hyn fod oherwydd: • • • • • •

eu bod yn ymsefydlu yn y gymuned ar ôl cyfnod mewn gofal eu bod am barhau yn y gymuned yn hytrach na mynd i ofal eu bod yn cymryd rhan mewn rhaglen adsefydlu a drefnwyd ar ôl ffordd o fyw ansefydlog eu bod yn deulu sy'n wynebu pwysau eithriadol eu bod yn gofalu am garcharor neu droseddwr ifanc sy'n cael ei ryddhau dros dro o'r carchar bod angen cymorth arnynt gyda chostau teithio byr dymor unigryw pan fydd hyn yn hanfodol i'w cefnogi i barhau i fyw'n annibynnol yn y gymuned.

Taliadau Cymorth Brys Mae'r taliadau hyn wedi disodli Benthyciadau Argyfwng ac maent ar gael i unrhyw un heb ystyried eu hawl i fudd-daliadau, ar yr amod y bydd y taliad yn rhoi cymorth mewn argyfwng neu drychineb lle ceir bygythiad uniongyrchol i iechyd neu les. Yn debyg i Fenthyciadau Argyfwng, bydd y taliadau cymorth mewn argyfwng hyn yn gyfyngedig i uchafswm o dri mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis treigl. Mae dyfarniadau ar gael i chi drwy PayPoint neu drosglwyddiad BACS. Sut rwyf yn gwneud cais? Gellir gwneud cais ar-lein i http://moneymadeclearwales.org; drwy ffonio 0800 859 5924 (am ddim o linellau tir) 033 0101 5000 (bydd ffioedd lleol i'w talu) neu drwy gais trwy'r post. Y nod yw prosesu ceisiadau am Daliadau Cymorth Unigol o fewn 14 diwrnod a phrosesu ceisiadau am Daliadau Cymorth Brys o fewn 24 awr. Blaensymiau Tymor Byr (talu budd-dal) Gallwch wneud cais am flaenswm tymor byr ar yr amod eich bod yn derbyn unrhyw fudddal nawdd cymdeithasol cyfrannol neu'n seiliedig ar incwm. Mae'n rhaid i'r blaensymiau hyn gael eu had-dalu - fel arfer o fewn 3 mis, ond gellir ymestyn hyn i 6 mis mewn amgylchiadau eithriadol. Bydd rhaid i chi ddangos eich bod mewn angen ariannol a bodloni set o amgylchiadau penodedig: • • •

Tra bod eich cais am fudd-dal yn cael ei brosesu; I bara cyfnod hwy na chyfnod y budd-dal (e.e. derbyn taliad un wythnos sydd angen para pythefnos) Lle nad yw'n ymarferol i'r budd-dal gael ei dalu ar y dyddiad dyledus (e.e. problemau technegol yn prosesu'r cais neu daliad) 21


Sut rwyf yn cyflwyno cais? Bydd angen i chi gysylltu â'r swyddfa budd-daliadau perthnasol sy'n prosesu eich cais am fudd-dal.

HERIO PENDERFYNIADAU Gellir herio'r rhan fwyaf o benderfyniadau ar yr hawl i fudd-daliadau Ar gyfer budd-daliadau'r DWP fel Credyd Pensiwn; Cymhorthdal Incwm; Lwfans Cyflogaeth a Chymorth; Lwfans Ceisio Gwaith; Gyda Lwfans Byw i'r Anabl a Thaliad Annibyniaeth Personol, fel arfer bydd angen i chi ofyn i'r swyddfa a wnaeth y penderfyniad adolygu neu ailystyried y penderfyniad cyn y gallwch ofyn am apêl gan dribiwnlys annibynnol . Caiff hyn ei alw'n 'ailystyriaeth orfodol'. Adolygiad yw hwn a gynhelir gan yr un adran a wnaeth y penderfyniad gwreiddiol. Mae'r rheol newydd hon yn berthnasol i bob penderfyniad a wnaed ar y budddaliadau hyn ar ôl 28 Hydref 2013. Mae hyn yn golygu nad yw'n bosib mwyach i apelio i dribiwnlys annibynnol ar unwaith, oni bai eich bod yn herio penderfyniad a wnaed cyn y dyddiad hwnnw neu eich bod yn herio penderfyniad ar Fudd-dal Tai. Dim ond ar ôl i'r DWP ystyried y cais am adolygiad y gallwch apelio'n uniongyrchol i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi os ydych dal yn anfodlon ar y canlyniad. Sut rwyf yn mynd i'r afael â'r broses her? • Dylid gwneud cais am adolygu penderfyniad (neu ailystyriaeth orfodol) o fewn mis. Gellir gofyn amdano hyd at 13 mis yn hwyr mewn rhai achosion neu mewn ambell achos 'ar unrhyw adeg' - MYNNWCH GYNGOR • Gallwch wedyn apelio o fewn mis i'r penderfyniad ailystyriaeth orfodol neu hyd at 13 mis yn ddiweddarach os ydych dal yn anfodlon ar y penderfyniad. • Mae'n rhaid i chi anfon yr hysbysiad o 'ailystyriaeth orfodol' a gaiff ei anfon atoch. Anfonwch hwn gyda'ch cais am apêl at dribiwnlys annibynnol Mae ffurflen apêl newydd i'w defnyddio, neu gellir apelio trwy lythyr cyhyd â bod yr holl wybodaeth yn cael ei rhoi. Mae bob amser yn werth ceisio cyngor i'ch helpu wrth herio penderfyniadau. MANYLION CYSWLLT YR ADRAN GWAITH A PHENSIYNAU (DWP) Y Gwasanaeth Pensiwn: dydd Llun i ddydd Gwener 8am - 6pm Yn gweinyddu budd-daliadau i'r rhai dros oedran pensiwn menywod. Gwefan: www.direct.gov.uk am wybodaeth ar-lein, gan gynnwys cyfrifiannell oedran pensiwn y wladwriaeth. Ffôn: 0800 991234 (Rhadffôn) neu 0845 6060265 (codir tâl cyfradd leol) Cyfeiriad post: Pension Service 8, Post Handling Site B, Wolverhampton, WV99 1AN Llinell Gymorth Budd-daliadau Anabledd: Dydd Llun i ddydd Gwener 8am tan 6pm Mae'r gwasanaeth hwn yn darparu gwybodaeth am Lwfans Byw i'r Anabl, Lwfans Gweini a'r Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) yn ogystal â rhoi cyngor ar sut i gyflwyno cais. 22


Gwefan: www.gov.uk/disability-benefits-helpline E-bost: dcpu.customer-services@dwp.gsi.gov.uk (os ydych yn 16 oed neu'n hŷn) Midlands-dbc-customer-services@dwp.gsi.gov.uk(os ydych dan 16 oed) Ffôn: 08457123456 neu Ffôn Testun: 08457722 4433 Llinell Gymorth Lwfans Gweini: Dydd Llun – dydd Gwener 8am – 6pm I gyflwyno cais newydd neu ar gyfer pob ymholiad sy'n ymwneud â cheisiadau sy'n bodoli eisoes E-bostiwch:attendance.allowanceenquiries@dwp.gsi.gov.uk

Ffôn: 0345 neu Ffôn Testun: 0845 604 5312 Cyfeiriad post: Attendance Allowance Service Centre, Warbreck House Warbreck Hill, Blackpool, Lancashire FY2 0YE Lwfans Byw i'r Anabl: Dydd Llun – dydd Gwener 8am – 6pm Am bob ymholiad sy'n ymwneud â chais sy'n bodoli eisoes Ffôn: 08457 neu Ffôn Testun: 08457 601 6677 Cyfeiriad post ar gyfer Oedolyn LBA (16 oed ac yn hŷn): Disability Benefits Centre Warbreck House Warbreck Hill Blackpool Lancashire FY2 0YE Llinell Gymorth Taliad Annibyniaeth Personol (PIP): Dydd Llun i ddydd Gwener 8am tan 6pm Ffôn: 0845 850 3322 neu Ffôn Testun: 0845 601 6677 Ceisiadau am Daliadau Annibyniaeth Personol: Dydd Llun i ddydd Gwener 8am tan 6pm Ffôn: 0800 917 2222 neu Ffôn Testun: 0800 917 7777 Cyfeiriad post ar gyfer ceisiadau a phob ymholiad: Freepost RTEU-HGTR-JXZX Personal Independence Payments 2 Mail Handling Site A Wolverhampton WV98 1AB Uned Lwfans Gofalwr: Dydd Llun i ddydd Iau 8.30am–5pm, dydd Gwener 8.30am– 4.30pm Yn gweinyddu ceisiadau am fudd-dal ar gyfer Lwfans Gofalwr. Ffôn: 0845 608 4321 neu Ffôn Testun: 0845 6045 312 Cyfeiriad post ar gyfer ceisiadau a phob ymholiad: Palatine House, Lancaster Road, Preston, PR1 1HB

23


HELP ARALL: ASIANTAETHAU DEFNYDDIOL Asiantaethau sy'n gallu rhoi help a chyngor: Age Cymru Bae Abertawe: Tŷ Sun Alliance 166/167, Heol San Helen, Abertawe; Mae'n rhoi cyngor am ddim ar fudd-daliadau i'r rhai dros 50 oed gan gynnwys help i'r rhai o oedran gweithio ac oedran pensiwn i weld a ydych yn hawlio'r cyfan y mae gennych hawl iddo ac yn eich helpu i lenwi ffurflenni cais. Nid ydynt yn cynrychioli mewn apeliadau budddaliadau, ond gallant gynghori ar herio penderfyniadau ac ar y drefn apelio. Cynigir cyngor a gwybodaeth arall hefyd, gan gynnwys tai, yswiriant, help i leihau costau biliau ynni a gwybodaeth am gymhorthion ac addasiadau. Hefyd, amrywiaeth eang o wasanaethau, gan gynnwys cefnogaeth i bobl sy'n teimlo'n ynysig neu'n unig, cefnogaeth i bobl sy'n dod adref o'r ysbyty, help ymarferol gyda gwaith bach a glanhau yn eich cartref, i enwi ond ychydig. Codir tâl am rai gwasanaethau. Ffoniwch 01792 648 866 i ofyn am gyngor neu i ddysgu mwy am eu gwasanaethau, neu galwch heibio i'w gweld yn y ganolfan, dydd Llun i ddydd Gwener - 9.30am – 4.00pm. Gallwch hefyd e-bostio ymholiadau i enquiries@agecymruswanseabay.org.uk Y Groes Goch Brydeinig: Tŷ Villiers, Charter Court, Ffordd y Ffenics Parc Menter Abertawe, Abertawe: Ffôn: 01792 772146 Yn cynnig help i aros yn annibynnol yn eich cartref eich hun; cyngor ar fudd-daliadau a dyledion; cymhorthion anabledd a grantiau ar gyfer addasiadau cartref; cydgysylltu â chwmnïau cyfleustodau; cydgysylltu â'r Gwasanaethau Cymdeithasol neu weithwyr iechyd ar eich rhan; yn eich helpu i ddeall llythyrau swyddogol ac yn rhoi cefnogaeth emosiynol ar adegau o argyfwng. Canolfan Gofalwyr Abertawe: 104 Stryd Mansel, Abertawe: Ffôn Yn rhoi cyngor am ddim ar fudd-daliadau gan gynnwys gwiriadau budd-daliadau, llenwi ffurflenni a chynrychiolaeth ar gyfer apêl yn ogystal â gwasanaethau i ofalwyr a'r bobl anabl y maent yn gofalu amdanynt. E-bostiwch ymholiadau i: admin@swanseacarerscentre.org.uk Cyngor dros y Ffôn: Dydd Llun – dydd Gwener 9.00am – 4.30pm Galwch heibio: Dydd Llun – dydd Gwener 11.00am – 4.00pm Lle bo'r angen, gellir trefnu ymweliadau cartref ar gyfer pobl nad ydynt yn gallu dod i apwyntiad am resymau iechyd. Cyngor ar Bopeth: Llys Glas, Stryd Pleasant Abertawe; Yn darparu ystod lawn o gyngor am ddim ar fudd-daliadau, dyled, tai, cyflogaeth, defnyddwyr etc; Cyngor dros y Ffôn:

Ffôn: 08444 77 20 20 Dydd Llun – dydd Gwener 10.00am – 4pm

Galwch heibio:

Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener 9am-4pm Dydd Mercher - 9pm - 1pm a 4pm – 7pm Canolfan Feddygol Fforestfach – Dydd Llun 1.30pm-4.30pm (Cleifion yn unig)

Allgymorth:

24


Canolfan Gofal Cychwynnol Clydach – Dydd Llun 9am-12.30am (Galw heibio'n unig) Canolfan Ddydd Tŷ Einon - dydd Gwener 9am-12pm (defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl yn unig). Cynigir sesiynau allgymorth hefyd ym mhedair ardal glwstwr Cymunedau'n Gyntaf mewn lleoliadau amrywiol ledled ardal Abertawe. Am fwy o wybodaeth am y sesiynau hyn neu i drefnu apwyntiad, ffoniwch swyddfa CAB ar 01792 474882. Gellir derbyn cyfeiriadau ar-lein gan: eich Cynghorydd lleol; AS; rhai o staff yr Awdurdod Lleol; Gweithwyr Cefnogi Tenantiaid Cymdeithasau Tai. Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall Cymru (RNIB): Mae ganddo wasanaeth hawliau lles sydd ar gael i bobl ddall a'r rhai â golwg rhannol i wneud cais am y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt. Mae'n helpu gyda chwblhau ffurflenni, herio penderfyniadau a'ch cynrychioli mewn apeliadau. Mae'n gwasanaethu Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot Ffoniwch Kelly Watkins ar 01792 325304 neu e-bostiwch: RNIBCymruWRT@rnib.org.uk Canolfan Adnoddau'r Cyreniaid: Cefn Eglwys Sant Matthew, Y Stryd Fawr, Abertawe: Ffôn: 01792 470127 Mynediad agored i'r rhai 18+ oed sydd dan anfantais yn gymdeithasol, ar incwm isel neu ar fudd-daliadau. Diwrnod Pobl Ifanc - mae angen ffonio'r ganolfan am fwy o wybodaeth. Cyngor a chefnogaeth am ddim gan gynnwys: tai, dyled, budd-daliadau, camddefnyddio sylweddau, cefnogaeth feddygol a chwnsela. Mae cawod, cyfleusterau golchi dillad a TG ar gael hefyd, a chaffi â chymhorthdal Mae'n rhoi cyngor sylfaenol ar fudd-daliadau gan gynnwys help i lenwi ffurflen gais, a help gyda galwadau ffôn i ddatrys problemau budd-daliadau. Galwch heibio: Dydd Llun: 9.30am – 1.30pm Dydd Mawrth - dydd Gwener: 9.00am – 1.30pm Gwasanaeth Cyfraith Anabledd: Yn darparu cyngor cyfreithiol arbenigol a gwybodaeth am ddim i bobl anabl, eu teuluoedd a'u gofalwyr: Y meysydd cyfreithiol a gynhwysir yw Gofal Cymunedol, Gwahaniaethu ar sail Anabledd wrth ddarparu nwyddau a gwasanaethau, Cyflogaeth a Budd-daliadau Lles. Mae swyddog cyfreithiol sglerosis ymledol ar gael hefyd. Rhoddir cyngor dros y ffôn neu ar-lein yn unig. Derbynnir achosion ar sail barhaus yn unig i bobl sy'n gymwys am gymorth cyfreithiol neu help cyfreithiol. Mae ffeithlenni ar fudd-daliadau ar gael. Ffôn: 020 7791 9800; Minicom: 020 7791 9801 Dydd Llun– dydd Gwener 10am – 5pm Shelter Cymru: 25, Heol Walters, Abertawe; Mae'n rhoi cyngor arbenigol ar dai gan gynnwys cyngor ar fudd-daliadau sy'n ymwneud â materion tai. Cyngor dros y ffôn: 0845 075 5005 Apwyntiadau: Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener 10am – 12 ganol dydd Cyngor ar ddyledion: cyngor ar ddyled am ddim a help i atal ailfeddiannu, beilïod ac achosion llys, yn ymdrin â chredydwyr a dyledion, yn trefnu'ch arian a chyllidebu ar gyfer y 25


dyfodol. Cynigir apwyntiadau mewn lleoliadau amrywiol ledled ardal Abertawe. Am fwy o wybodaeth am y sesiynau hyn neu i drefnu apwyntiad, cysylltwch â: E-bost: money advice@sheltercymru.org.uk Ffôn: 0845 075 5005 a gofyn am Gyngor ar Ddyled Yr Uned Cefnogi Tenantiaid (UCT): 71 Heol Creswell, y Clâs, Abertawe; Yn rhoi cefnogaeth i'r rhai a chanddynt broblemau'n ymwneud â thenantiaeth, gan gynnwys cyngor ar fudd-daliadau. Ffôn: 01792 774360/774320 Cyfreithwyr Tŷ Arian: Llawr 10, 1 Heol Alexandra, Abertawe SA1 5ED Cyngor cyfyngedig ar fudd-daliadau ar Achosion yr Uwch Dribiwnlys i bobl sy'n gymwys am gymorth cyfreithiol yn unig. Gellir trefnu apwyntiadau dros y ffôn. Ffôn: 01792 484200 Cyngor Cyfreithiol Sifil Rhoddir cyngor cyfreithiol am ddim ar gyfer problemau budd-daliadau, dyled, tai, y teulu, addysg, gwahaniaethu a chyflogaeth i bobl ag incwm isel sy'n gymwys am gymorth cyfreithiol drwy linell gymorth y Cyngor Cyfreithiol Cymunedol. Gwneir asesiad ariannol dros y ffôn, ac os nad ydych yn gymwys, cewch eich cyfeirio i sefydliad a fydd yn gallu'ch helpu. Ffôn: 0845 345 4345:

Dydd Llun – dydd Gwener 9.00am – 8.00pm Dydd Sadwrn 9.00am – 12.30pm Canolfan Maggie's: Ysbyty Singleton, Lôn Sgeti, Abertawe SA2 8QL. Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig cyngor ar fudd-daliadau i bobl â chanser a'u teuluoedd. Ffoniwch neu cymerwch gipolwg ar y wefan i weld ble mae cyngor ar fudd-daliadau ar gael. Ffôn: 01792 200000 E-bost: Swansea@maggiescentres.org. Ar agor dydd Llun - dydd Gwener 9am - 5pm. .’

Cludiant: Bathodyn Car (Bathodyn Glas): Os oes gennych broblemau/anawsterau cerdded neu mae cerdded yn achosi poen neu anghysur i chi, efallai y byddwch yn gymwys am fathodyn car. Efallai y byddwch hefyd yn gymwys os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall neu mae gennych gerbyd wedi'i addasu oherwydd anableddau difrifol i'r breichiau. Nid oes rhaid i chi fod yn derbyn cyfradd uwch cydran symudedd Lwfans Byw i'r Anabl na rhai disgrifwyr y gydran Symudedd ar gyfer Taliadau Annibyniaeth Personol, ond os ydych, bydd hawl awtomatig gennych i fathodyn car. Mae ffurflenni cais ar gael gan yr Awdurdod Lleol yn y Ganolfan Gyswllt yn y Ganolfan Ddinesig neu gellir eu lawrlwytho o'u gwefan yn: www.abertawe.gov.uk. Neu ffoniwch 01792 637366 Tocyn bws: Mae hwn yn darparu teithio consesiynol i'r henoed a rhai pobl anabl. Os ydych yn chwedeg oed ac yn hŷn, neu unrhyw oed ac mae gennych anableddau penodol ac yn breswylwyr parhaol yn Ninas a Sir Abertawe, byddwch yn gymwys am docyn bws. Rhoddir tocynnau bws am ddim ac maent yn caniatáu teithio am ddim ar yr holl fysys lleol cofrestredig yng Nghymru heb gyfyngiadau. Mae ffurflenni cais ar gael gan yr Awdurdod Lleol (fel uchod) neu mewn swyddfeydd post. Teithio ar y trên: Os oes gennych anabledd sy'n ei gwneud hi'n anodd teithio ar y trên, efallai y byddwch yn gymwys i gael Cerdyn Rheilffordd i Bobl Anabl. Mae'r cerdyn 26


rheilffordd hwn yn caniatáu i chi ac un oedolyn sy'n teithio gyda chi gael 1/3 oddi ar y rhan fwyaf o brisiau trên. Gellir trefnu i staff gwrdd â chi yn yr orsaf adael, mynd gyda chi i'r trên a sicrhau eich bod yn mynd yn ddiogel ar y trên. Gellir gwneud trefniadau tebyg yng ngorsaf eich cyrchfan ac mewn gorsafoedd eraill. Neu mae Cardiau Rheilffordd i Bobl Hŷn ar gael i bobl dros 60 oed am ffi o £30 y flwyddyn neu £70 am 3 blynedd sy'n rhoi gostyngiad o 1/3 oddi ar y rhan fwyaf o brisiau. Gallwch wneud cais am y cardiau hyn: Ar-lein yn: www.railcard.co.uk Dros y ffôn: 0844 871 4036 (0700-2200 bob dydd, ac eithrio Dydd Nadolig.) Neu mewn unrhyw swyddfa docynnau â staff. Tacsis Symudedd/Cludiant Cymunedol: Maent yn darparu cludiant hanfodol i bobl hŷn ac anabl. Mae'n bosib y bydd rhaid i chi dalu am y gwasanaeth hwn. Mae gan rai o'r cynlluniau hyn geir sy'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Gorseinon 01792 899933 Gŵyr 01792 851942 Pontarddulais 01792 884944 Abertawe 01792 463675 www.dansa.org.uk Cynllun Motability: Mae hwn yn helpu pobl i symud o le i le drwy gyfnewid eu lwfans symudedd i brydlesu car, sgwter neu gadair olwyn trydan. Er mwyn defnyddio'r cynllun hwn, mae'n rhaid eich bod wedi cael hawl i dderbyn cyfradd uwch cydran symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl, Cyfradd Well y Taliad Annibyniaeth Personol, Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel neu Daliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog. Bydd yr Uned Cyswllt a Phrosesu Anabledd yn talu'n uniongyrchol i motability. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Gwefan: www.motability.co.uk Ffôn: 0300 456 4566 8.30am - 5.30pm Dydd Llun i ddydd Gwener. Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe (Shopmobility gynt): Mae'n benthyg sgwteri a chadeiriau olwyn trydan i helpu pobl ag anawsterau cerdded wneud eu siopa'n haws. Codir tâl bach blynyddol i ymuno â'r cynllun, a thâl bach bob tro rydych yn defnyddio'r cynllun. Mae cyfradd ddyddiol i ymwelwyr ar gael hefyd. Mae angen i chi drefnu i logi'r cyfarpar 2 ddiwrnod ymlaen llaw. I gofrestru, cysylltwch â Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe. Bydd angen dau fath o ID arnoch gyda'ch enw a'ch cyfeiriad arnynt. Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe Gorsaf Fysus Dinas Abertawe Stryd Plymouth Abertawe SA1 3AR Ffôn: 01792 461785 Ffacs: 01792 467614 E-bost -swanseamobilityhire@swanseacitycentre.com Cadeiriau olwyn, ffyn baglau, fframiau Zimmer a sgwteri: Ar gyfer anghenion tymor hir, gall eich meddyg drefnu i chi gael un am ddim. Fodd bynnag, mae'r Groes Goch Brydeinig yn benthyca cadeiriau olwyn am gyfnodau tymor byr. Gall Age Cymru Bae 27


Abertawe ddarparu cyngor ar ble y gallwch gael cadair olwyn, gan gynnwys ble y gallwch logi un. Mae manylion cyswllt y sefydliadau hyn ar gael yn yr adran flaenorol.

Materion y cartref: Casglu sbwriel gyda Chymorth: Os ydych chi'n ei chael yn anodd rhoi eich sbwriel ar ymyl y ffordd, ac nid oes person sy'n abl yn gorfforol yn byw gyda chi, gallwch wneud cais am gasglu sbwriel gyda chymorth, lle ceir hyd i leoliad mwy addas i chi roi eich sachau sbwriel/ailgylchu. I ddefnyddio'r gwasanaeth hwn, cysylltwch ag Adran yr Amgylchedd am gopi o'r ffurflen gais Casglu gyda Chymorth. Bydd angen i'ch meddyg lofnodi a stampio'r ffurflen hon. Ffôn: 01792 636000 Mân dasgau a garddio: Mae amrywiaeth o asiantaethau'n darparu 'gwasanaethau cartref' sy'n gallu helpu pobl a chanddynt dasgau ar ôl i'w gwneud o gwmpas y cartref, ac mewn rhai amgylchiadau, gall grantiau fod ar gael i gynorthwyo gyda'r costau. I gael mwy o wybodaeth am wasanaethau cartref, cysylltwch ag Age Cymru neu Gofal a Thrwsio, a restrir yn y llyfryn hwn. Gofal a Thrwsio: Asiantaeth gwella cartrefi annibynnol y sector gwirfoddol yw hwn ar gyfer gwella cartrefi i bobl hŷn ac anabl a'u gofalwyr. Mae'r gwasanaeth yn darparu amrywiaeth o gefnogaeth i bobl ar gyfer eu problemau tai. Mae hyn yn cynnwys arwain cleientiaid drwy'r broses grantiau tai a darparu gwasanaeth tasgmon a all ymateb yn bositif i anghenion mân atgyweiriadau ac addasiadau pobl hŷn ac anabl yn Abertawe. Ffôn: 01792 79859 Dydd Llun - dydd Iau 8am – 3.30pm a dydd Gwener 8am - 3pm E-bost: enquiries@swanseacareandrepair.co.uk Opsiynau Tai: Maent yn darparu cyngor ar dai, asesu ceisiadau ar gyfer tai cyngor a throsglwyddo tenantiaid y cyngor a chynnal a chadw'r gofrestr o anghenion tai cyngor. Os ydych mewn perygl o golli'ch llety, cysylltwch ag Opsiynau Tai am help. Cyfeiriad: 17 Y Stryd Fawr, Abertawe; Galwch heibio: Dydd Llun – dydd Iau 10.00am–4.30pm a dydd Gwener 10am – 4pm Ffôn: 01792 533100

ARIANNOL: Mae Undebau Credyd yn sefydliadau ariannol cydweithredol y mae pobl leol yn berchen arnynt ac yn eu rheoli. Cânt eu rheoleiddio a'u gwirio'n union fel banciau. Nid oes ganddynt gyfranddalwyr allanol, ond maent yn dychwelyd yr holl elw i'w haelodau yn lle hynny. Maent yn darparu cyfrifon cynilo diogel a benthyciadau cost isel ac mae yswiriant bywyd am ddim wedi'i gynnwys hefyd. Am fwy o wybodaeth: Galwch heibio: 139 Heol Walter, Abertawe SA1 5RQ. Dydd Llun i ddydd Gwener 09:30 i 14:30 Ffôn: 01792 643632 E-bost: query@lasacreditunion.org.uk Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl: Diben y rhain yw helpu i dalu am addasu eiddo ar gyfer anghenion person anabl. Mae'n rhaid i'r person â'r anableddau (y mae angen y grant arno) a'i bartner, os oes ganddo un, gael prawf modd. Mae'r prawf modd yn wahanol i fathau eraill o brawf modd. Cysylltwch â'r cyngor am fwy o wybodaeth am Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl: 28


Ffôn: 01792 635330 Grantiau/Taliadau Gofalwyr: Os ydych yn ofalwr, mae gennych hawl i Asesiad Gofalwr y mae timau gwaith cymdeithasol yn eu cyflawni. Os asesir bod angen 'gofal sylweddol a rheolaidd' arnoch, bydd yr asesiad yn nodi effaith a chynaladwyedd eich rôl a pha wasanaethau ychwanegol y gellid eu rhoi ar waith i'ch cefnogi. Gallai'r taliadau hyn dalu am unrhyw gostau/taliadau ychwanegol sy'n codi yn sgîl y gefnogaeth/gwasanaethau y nodwyd bod eu hangen. Mae grantiau ar gael hefyd i ofalwyr sy'n wahanol o bryd i'w gilydd, gan ddibynnu ar ariannu. I gael gwybod am ba grantiau sydd ar gael a pha wasanaethau sydd ar gael i ofalwyr, cysylltwch â'r Ganolfan Ofalwyr (wedi'i rhestru uchod). Nwy/Trydan: Mae'n rhaid i'r rhan fwyaf o ddarparwyr ynni gynnig prisiau cymdeithasol i helpu'u cwsmeriaid diamddiffyn ymdopi â chostau uchel nwy a thrydan. Mae'n rhaid i'r holl brisiau cymdeithasol fod yn gyfartal â chynigion rhataf y cyflenwyr. Siaradwch â'ch cyflenwr ynni i weld a oes modd eich symud i bris rhatach. Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes: Ar gyfer y gaeaf 2014 i 2015, gallech gael gostyngiad o £140 ar eich bil trydan trwy Gynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes. Ni fydd y gostyngiad yn effeithio ar eich Taliad Tywydd Oer na'ch Taliadau Tanwydd Y Gaeaf. I fod yn gymwys, rhaid bod eich cyflenwr trydan yn rhan o'r cynllun a rhaid i'ch enw chi (neu'ch partner) fod ar y bil. Yn ogystal, ar y dyddiad cymhwyso, mae'n rhaid eich bod chi (neu'ch partner) yn derbyn elfen Credyd Gwarant y Credyd Pensiwn (hyd yn oed os rydych yn derbyn Credyd Cynilion hefyd) Gall rhai cyflenwyr gynnig y gostyngiad i bobl ddiamddiffyn (e.e. y rhai ar incwm isel). Mae gan bob cyflenwr ei reolau ei hun am bwy arall all gael yr help hwn. Holwch eich cyflenwr i weld a ydych yn bodloni ei reolau am help a sut i wneud cais amdano. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â https://www.gov.uk/the-warm-home-discount-scheme/eligibility Nyth: Nyth yw cynllun blaenllaw Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi tanwydd ar draws Cymru. Gallant ddarparu cyngor diduedd am ddim ar arbed ynni yn ogystal â chynnal gwiriad i sicrhau eich bod ar y pris tanwydd gorau i chi. Gallant hefyd roi cyngor ar reoli arian a hawl i fudd-dal i roi hwb i'ch incwm. Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael gwelliannau cartref heb unrhyw gost i chi, i'ch helpu i wneud eich cartref yn gynhesach a lleihau cost eich biliau ynni. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Ffôn: 0808 808 2244, dydd Llun – dydd Gwener 9am i 7pm. Galwadau am ddim o linell tir neu ffôn symudol E-bost: http://www.nestwales.org.uk Grantiau insiwleiddio llofftydd a waliau ceudod am ddim: Os ydych chi dros 70 oed neu ar gredyd pensiwn, gallech fod yn gymwys am hyn, ni waeth pwy yw'ch darparwr ynni. Mae'r cynlluniau naill ai ar gyfer perchnogion tai preifat neu denantiaid preifat gyda chaniatâd y landlord, ond nid i denantiaid y cyngor neu gymdeithas tai. Gweler y wefan: moneysavingexpert.com am fanylion y rhain a chynigion eraill Cymorth Dŵr Cymru: Os ydych yn derbyn budd-dal prawf modd ac mae gennych 3 o blant neu fwy dan 19 oed yn byw yn eich cartref rydych chi'n hawlio Budd-dal Plant ar eu cyfer, neu aelod o'r teulu â chyflwr meddygol lle mae angen defnyddio swm sylweddol o ddŵr ychwanegol, efallai gallech fod yn gymwys am ostyngiad i'ch daliadau drwy Gymorth Dŵr Cymru. Gellir ôl-ddyddio hwn i 1 Ebrill y flwyddyn pan wneir cais am ostyngiad. Er enghraifft, y gyfradd wedi'i chapio ar gyfer 1 Ebrill 2014 - 1 Ebrill 2015 yw is £262. Am fwy o wybodaeth neu i gyflwyno cais: 29


Ffoniwch 0800 052 0145 dydd Llun – dydd Gwener 8.00am-8.00pm; dydd Sadwrn 8.00am - 1.30pm E-bostiwch:www.dwr.cymru.com a dilynwch y dolenni ar gyfer cwsmeriaid aelwydydd a Chymorth Dŵr Cymru i lawrlwytho ffurflen gais. Trwydded deledu: Pan fyddwch yn cyrraedd 75 oed, gallwch gyflwyno cais ar-lein ar y wefan drwyddedu deledu am drwydded deledu dros 75 oed am ddim. Mae gennych hawl hefyd i ostyngiad ffi o 50% os ydych chi neu rywun sy'n byw yn eich cartref yn ddall neu'n rhannol ddall. I gael mwy o wybodaeth neu i wneud cais: Gwefan: www.tvlicensing.co.uk Ffôn: 0300 790 6131 Dydd Llun - dydd Gwener - 8:30am i 6:30pm, dydd Sadwrn - 8:30am 1:00pm Yswiriant: Os oes gennych broblemau meddygol neu os ydych dros oed arbennig, efallai y bydd hi'n anodd i chi gael yswiriant, yn enwedig yswiriant gwyliau. Mae Age Cymru yn darparu gwybodaeth am yr holl fathau o yswiriant. Disgowntiau mewn siopau: Mae sawl siop yn gweithredu cynllun disgownt os ydych dros chwe deg oed, fel Boots y Fferyllydd. Mae siopau eraill yn rhoi disgownt i'r rhai chwe deg oed ac yn hŷn os ydych yn siopa ar ddiwrnodau arbennig o'r wythnos. Cerdyn Ffyddlondeb Canol y Ddinas: Mae'r cerdyn hwn yn rhoi disgowntiau o hyd at 25% mewn mwy na 100 o fusnesau ar draws canol dinas Abertawe. Am fwy o wybodaeth neu i wneud cais: Gwefan: www.canoldinasabertawe.com/siopa/cerdyn-ffyddlondeb/ Neu galwch heibio: 67 Stryd Plymouth, Abertawe SA1 3QG Ffôn: (01792) 476370 Cynllun Ac Un: Mae'n gwella mynediad i wasanaethau hamdden ac adloniant yn ardal Abertawe drwy gynnig disgownt neu docyn am ddim i ofalwyr ddim cwsmeriaid anabl. I fod yn gymwys, mae'n rhaid eich bod chi'n derbyn budd-dal anabledd penodedig sy'n cynnwys LBA Oedolyn a Phlentyn, PIP, Lwfans Gweini, Taliadau Annibyniaeth y Lluoedd Arfog, Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel neu Dystysgrif Nam ar y Golwg. Am fwy o wybodaeth ar sut i wneud cais: Ffôn: 01792 635463 E-bost: Plusone@abertawe.gov.uk Gwefan: www.abertawe.gov.uk/plusone Pasbort i Hamdden: Cynllun disgownt Dinas a Sir Abertawe yw hwn i drigolion sydd ar incwm isel. Darperir disgowntiau ar amrywiaeth eang o leoliadau chwaraeon a hamdden ar draws yr awdurdod, ynghyd â disgowntiau amrywiol gyda chwmnïau preifat. I fod yn gymwys, mae'n rhaid eich bod yn breswyliwr yn Abertawe ac yn derbyn budd-daliadau arbennig. Am fwy o wybodaeth am y cynllun ac i gael gwybod sut i wneud cais: Ffôn: 01792 635473 E-bost: www.ptlabertawe.com Gwefan: www.abertawe.gov.uk/pasbort i hamdden Mae nofio am ddim ar gael hefyd yn Ninas a Sir Abertawe i'r rhai sy'n 60 oed ac yn hŷn.

30


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.