Ystafelloedd Dosbarth Awyr Agored Abertawe

Page 1

Zj]Yl`]ÛkoYfk]Y YfY\dmÛYZ]jlYo]Û

Ystafelloedd Dosbarth Awyr Agored Abertawe

Canolfan Ddarganfod Brynmill, Gerddi Clun a Thyˆ’r Blodau

City and County of Swansea Dinas a Sir Abertawe


Mae gan dri o barciau mwyaf blaenllaw Abertawe gyfleusterau dysgu gwych. Mae’r rhain yn darparu profiad ymarferol ac addysgiadol i ysgolion a grwpiau ei fwynhau sy’n gysylltiedig ag amgylchedd yr awyr agored. Mae pob cyfleuster yn unigryw o ran ei gymeriad ac o ran y testunau addysgol a gynigir. P’un ai bod y gwersi’n cael eu darparu yn ein hystafelloedd dosbarth penodol neu yn yr awyr agored gyda golygfeydd a bywyd gwyllt hardd o’u cwmpas, mae dysgu’n hwyl ym mharciau Abertawe. Canolfan Ddarganfod Brynmill Wedi’i hagor ym mis Mehefin 2008, mae’r Ganolfan Ddarganfod wrth ochr y llyn prydferth ym Mharc Brynmill. Gyda ffenestr wydr fawr lle gallwch weld yr adar a’r bywyd gwyllt yn eu cynefin naturiol, mae’n lleoliad delfrydol ar gyfer dysgu diddorol ac addysgiadol. Dyma’r math o sesiynau sydd ar gael: • Archwilio pyllau ac ymchwiliadau • Bywyd gwyllt a pharciau trefol • Hanes Parc Brynmill • Cynefinoedd ac Ecosystemau • Teithiau cerdded bywyd gwyllt/ synhwyraidd a theithiau tywys • Dod i adnabod adar

Tyˆ’r Blodau Canolfan addysg a chanolfan i ymwelwyr wedi’i hadeiladu at y diben yw Tyˆ’r Blodau, ac mae yng Ngerddi Botaneg arobryn Parc Singleton. Mae’r gerddi yn gartref i gasgliadau gwych o blanhigion o ranbarthau anial poeth, fforestydd glaw trofannol a pharthau cynhesach ar draws y byd, gan ddarparu cipolwg ar rai o rywogaethau planhigion mwyaf amrywiol y ddaear. Mae ystafell ddosbarth Tyˆ’r Blodau yn cynnwys y dechnoleg ddysgu a’r wybodaeth ddiweddaraf sy’n addas ar gyfer nifer o wahanol weithgareddau, er enghraifft: • Gweithdai ymarferol – plannu hadau/egino, ailbotio/ trawsblannu, tyfu llysiau • Cynefinoedd ac addasiadau planhigion – ecosystemau tymherus, trofannol a diffeithdir (mewn tri thyˆ gwydr) • Teithiau cerdded bywyd gwyllt/synhwyraidd a theithiau tywys yn y gerddi – mae’r pynciau’n cynnwys “sut mae pethau’n tyfu”, “perlysiau” ac “ecosystemau”.


Deunyddiau dysgu Gellir darparu deunyddiau dysgu yn Gymraeg neu yn Saesneg, ac maent yn addas i ysgolion babanod, iau a chyfun ac yn cynnwys amrywiaeth o bynciau’r cwricwlwm cenedlaethol gan gynnwys: • • • • • •

Hanes Daearyddiaeth Mathemateg Gwyddoniaeth Celf Dylunio a Thechnoleg

Gellir creu pecynnau gwaith ac ymweliadau i fodloni gofynion ysgolion unigol. Darperir y gwasanaeth hwn am ddim ar hyn o bryd. Cytunir ar unrhyw ffioedd a bennir ymlaen llaw, ac fe’u seilir ar adennill costau ar gyfer y deunyddiau a ddefnyddir. Gerddi Clun Yn un o barciau ‘Baner Werdd’ Abertawe, mae Gerddi Clun yn enwog ar draws y byd am y casgliadau o rododendronau ac ekianthus. Fel un o’r gerddi gorau yng Nghymru, maent yn cynnwys tirnodau hanesyddol a bywyd gwyllt amrywiol ac amrywiaeth o rywogaethau o blanhigion prin.

Hurio’r Ganolfan Ddarganfod a Thyˆ’r Blodau Mae’r ddau leoliad ar gael i athrawon eu hurio ar gyfer

Mae’r gerddi’n ysblennydd drwy gydol y flwyddyn, ac mae’r gweithgareddau a’r pynciau sydd ar gael yn cynnwys:

Mae cyfleusterau te a choffi ar gael yn y ddau leoliad, ynghyd â bwrdd gwyn, uwch-daflunydd a gliniadur sy’n gydnaws â DGSA. Am ragor o wybodaeth am argaeledd a chost, ffoniwch 01792 205327.

• Teithiau cerdded bywyd gwyllt/synhwyraidd a theithiau tywys • Hanes tirwedd Clun a Phrydain yn y 1800au • Casgliadau o blanhigion • Gerddi coetir

• Sesiynau hyfforddi oddi ar y safle • Cyfarfodydd • Diwrnodau hyfforddiant mewn swydd:


Abertawe yn ei Blodau ar gyfer Ysgolion Mae Abertawe yn ei Blodau yn gystadleuaeth flynyddol sy’n cael ei threfnu gan bwyllgor gwirfoddol mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Datblygu’r Parciau. Y bwriad yw annog ysgolion cynradd i ddatblygu eu gerddi eu hunain a helpu i wella eu mannau dysgu gydag arddangosfeydd blodau a gwyrddni. Cynhelir y gystadleuaeth rhwng mis Ionawr a mis Mai bob blwyddyn, gyda seremoni wobrwyo ym mis Gorffennaf. Mae croeso i bob ysgol gynradd gymryd rhan, ac mae’r categorïau’n cael eu rhannu’n dri grw ˆp oedran gwahanol.

I ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y gystadleuaeth a’r categorïau eleni, cysylltwch â Polly Gordon ar 01792 635083 neu polly.gordon@swansea.gov.uk. Cofiwch – gall Tîm Addysg Arbenigol y Parciau roi cyngor a chefnogaeth i chi ynghylch creu ardal ar dir eich ysgol, pa mor fach bynnag, ar gyfer gerddi bywyd gwyllt, llysiau neu synhwyraidd. Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01792 205327 neu ewch i www.anadluabertawe.com

I gael y newyddion diweddaraf drwy e-bost am ddim ewch i: www.fyabertawe.com Os hoffech gael y daflen hon mewn fformat arall, ffoniwch y Gwasanaethau Marchnata ar 01792 635478. Yr holl wybodaeth yn gywir adeg argraffu.

If you require this brochure in a different format please contact Marketing Services on 01792 635478. All details are Mae’r llyfryn hwn wedi ei correct at time of going to print. argraffu ar bapur a ailgylchwyd


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.