Rhaglen Canolfan Dylan Thomas

Page 1

20939-09 Dylan Programme W:Layout 1

15/1/09

09:47

Page 1


20939-09 Dylan Programme W:Layout 1

15/1/09

09:47

Page 2

Rhaglen Canolfan Dylan Thomas Ionawr – Ebrill 2009 Croeso i 2009 yng Nghanolfan Dylan Thomas. Byddwn yn dechrau'r Flwyddyn Newydd gyda'r cymysgedd arferol o eitemau rheolaidd, digwyddiadau achlysurol a sioeau a gynhelir unwaith yn unig i'ch denu o glydwch yr aelwyd! Yn wyneb y dirwasgiad byd-eang, beth am achub ar y cyfle i gael eich symbylu a'ch diddanu gan ein digwyddiadau sy'n werth da am eich arian? Os ydych am dderbyn ein e-byst i'ch hysbysu neu'ch atgoffa am y digwyddiadau diweddaraf, e-bostiwch jo.furber@swansea.gov.uk Sylwer hefyd bod digwyddiadau'n cael eu cynnal o bryd i'w gilydd nad ydynt yn ein rhaglen argraffedig. Y ffordd orau o gael eich hysbysu am y rhain yw bod ar ein rhestr e-bostio ac edrych ar ein gwefan – www.dylanthomas.com Nos Fercher 28 Ionawr 7.30pm

Caffi Gwyddoniaeth Bydd ein slot misol, a drefnir gan Brifysgol Abertawe, yn dechrau blwyddyn newydd o sgyrsiau a thrafodaeth am amrywiaeth eang o bynciau gwyddonol. Y mis hwn – Dr.Gareth Parry yn siarad am ‘Ddyfrgwn’. Tocynnau: MYNEDIAD AM DDIM Nos Iau 29 Ionawr 7.30pm

Beirdd yn y Siop Lyfrau gyda Rona Campbell Y tro hwn bydd ein sesiwn darllen barddoniaeth a meic agored yn cyflwyno Rona Campbell. Ganwyd Rona yn Lloegr i rieni Cymreig a Gwyddelig, ac mae ei gwreiddiau Celtaidd yn dylanwadu'n drwm ar ei 'barddoniaeth elfennol a chnawdol’. Enillodd Gystadleuaeth Barddoniaeth Ryngwladol Sothebys ym 1982. Mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi a'i ddarlledu, a chyhoeddwyd casgliad llawn o'i gwaith gan Counter-Point Publications dan y teitl The Hedge. Tocynnau: Pris Llawn £4; Consesiynau £2.80; PTL Abertawe £1.60

2

Ionawr – Ebrill 2009


20939-09 Dylan Programme W:Layout 1

Chris Kinsey

15/1/09

09:47

Page 3

Nos Iau 5 Chwefror 7.30pm

Cerddi Gweld a Hedfan – Chris Kinsey Mewn cydweithrediad ag Achub Milgwn Cymru (GRW) ac Ysbyty Adar Gw ˆyr. Bydd Chris Kinsey, Bardd Bywyd Gwyllt BBC y Flwyddyn 2008, yn cyflwyno casgliad o ‘gerddi cw ˆn ac adar’ o’i chasgliadau Kung Fu Lullabies a Houndlove. Rhoddir yr holl elw i GRW ac Ysbyty Adar Gw ˆyr. Tocynnau: £5/£4 Nos Fercher 11 Chwefror 7.30pm

Cystadleuaeth Dramâu Mercher Tymor arall o’n digwyddiadau poblogaidd sy’n cyflwyno rhannau o ddramâu gan ddramodwyr lleol, wedi’u perfformio gan actorion lleol, gyda phanel o arbenigwyr a’r gynulleidfa’n pleidleisio i ddewis dau enillydd. Tocynnau: Pris Llawn £4; Consesiynau £3 Nos Iau 12 Chwefror 7.30pm

Cinnamon Press yn cyflwyno John Powell Ward a Jan Fortune Wood Ar hyn o bryd mae John, sy’n byw yng Ngw ˆyr, yn Gymrawd Ymchwil Anrhydeddus ym Mhrifysgol Abertawe. Heno bydd yn lansio ei ddegfed casgliad o gerddi, The Last Green Year. Bydd Jan, pennaeth Cinnamon, yn ymuno â John i ddarllen o’i dilyniant gwych wedi’i nofeleiddio o gerddi rhyddiaith Stale Bread & Miracles. Tocynnau: MYNEDIAD A GWIN AM DDIM Nos Fercher 18 Chwefror 7.30pm

ON THE EDGE Cyflwynwr: Michael Kelligan LOOK WHO’S TALKING NOW! Tymor y Gwanwyn 2009. Gwaith newydd a chyfredol gan ddramodwyr Cymru SOLITUDE Drama newydd gan Dic Edwards, cyfarwyddwr: Michael Kelligan Dyma ddrama wych - a swrrealaidd yn aml - sy’n dilyn Trecci, awdur sydd wedi colli’r awen, sydd am gael ei adael yn llonydd ar ei gwch camlas ac nad yw’n mentro allan ond am noson afreolus yn y dafarn ac ambell gyfarfod rhywiol â gwraig ungoes ei gymydog. Tickets: Pob Tocyn £3

Rhaglen Lenyddiaeth

3


20939-09 Dylan Programme W:Layout 1

15/1/09

09:47

Page 4

Nos Fercher 25 Chwefror 7.30pm

Caffi Gwyddoniaeth Y mis hwn – Dr. Ben Evans yn siarad am ‘Raglen Bloodhound - rhaglen record cyflymder tir y byd’ (gweler www.bloodhoundssc.com) Tocynnau: MYNEDIAD AM DDIM Nos Iau 26 Chwefror 7.30pm

Beirdd yn y Siop Lyfrau gyda Steve Griffiths

Steve Griffiths

Y gwestai fydd y bardd Cymreig, Steve Griffith, y mae ei gyhoeddiad diweddaraf An Elusive State: entering al-Chwm (Cinnamon Press) yn adrodd ‘stori bywyd a marwolaeth iwtopia dychmygol’. Mae darnau o hwn wedi cael eu darlledu ar The Verb ar Radio Three. Tocynnau: Pris Llawn £4; Consesiynau £2.80; PTL Abertawe PTL £1.60

28 Chwefror – 1 Mawrth

Gw ˆ yl America Ladin – Nodi 50 Mlynedd ers Chwyldro Ciwba Bydd Cymdeithas America Ladin Abertawe (CALA) yn cyflwyno ei gw ˆ yl ddiwylliannol eleni ar y cyd â Cymru Cuba. Caiff yr w ˆ yl ei hagor ar 28 Chwefror gyda pherfformiad am ddim o ddawnsio a cherddoriaeth. Bydd gweddill yr w ˆyl yn cynnwys ffilmiau, sgyrsiau, dawnsio, barddoniaeth a gweithdai i bobl ifanc, gyda phwyslais trwm ar ddiwylliant Ciwba. Hefyd cynhelir arddangosfa o ffotograffau o Giwba gan Heather Bennett. Am y manylion llawn, ewch i www.alas.org.uk neu www.dylanthomas.com neu e-bostiwch alas_wales@hotmail.com Nos Wener 6 Mawrth 7pm

FFOCWSMENYWOD Noson o arddangosfeydd ac adloniant gan fenywod lleol. Yn ogystal ag arddangosfa bresennol Oriel y Coridor o waith celf a ffotograffiaeth, bydd y noson hon yn cynnwys arddangosfeydd gemwaith, ffabrigau, cerameg, gwydr, llyfrau a cherfluniau o gwmpas perfformiadau o farddoniaeth, drama, cerddoriaeth, dawns a fideo. Tocynnau: £3 – rhoddir yr holl elw i Brosiectau Menywod Oxfam. Nos Fercher 11 Mawrth 7.30pm

Cystadleuaeth Dramâu Mercher Tocynnau: Pris Llawn £4; Consesiynau £3

4

Ionawr – Ebrill 2009


20939-09 Dylan Programme W:Layout 1

15/1/09

09:47

Page 5

Nos Fawrth 17 Mawrth 7.30pm

Brian Turner Here, Bullet

“Ar y diwrnod pan droediodd dyn ar y lleuad am y tro cyntaf, dywedodd athro llenyddiaeth coleg fy nhad wrth ei ddosbarth, ‘Un dydd byddan nhw’n anfon bardd i’r lleuad, ac yna byddwn ni’n gwybod yn union sut le yw e.’ Mae Turner wedi anfon neges yn ôl o le sydd, y gellir dadlau, yn fwy annealladwy na’r lleuad - y rhyfel yn Irac - ac mae’n haeddu ein diolchgarwch...”

Milwr-fardd yw Brian Turner ac enillodd ei lyfr cyntaf o gerddi, Here, Bullet, Wobr Beatrice Hawley 2005, detholiad “Editor’s Choice” y New York Times, Gwobr “Best in the West” Pen Center USA 2006, a Poets Prize 2007, ymhlith eraill. Gwasanaethodd Turner am saith mlynedd ym myddin UDA, The New York Times Book Review gan gynnwys blwyddyn fel arweinydd tîm troedfilwyr yn Irac gyda Thîm Brwydro’r 3edd Frigâd Stryker, yr 2il Adran Droedfilwyr. Cyn hynny, cafodd ei anfon i Bosnia-Herzegovina ym 1999-2000 gyda’r 10fed Adran Fynydd. Roedd Turner wedi ymddangos yn Operation Homecoming, ffilm ddogfen sy’n archwilio profiadau personol aelodau lluoedd arfog UDA yn eu geiriau eu hunain. Mae Here, Bullet gan Brian Turner yn ddisgrifiad personol arswydus a hardd o ryfel Irac. Mae’r cerddi yn y casgliad nodedig hwn yn adlewyrchu profiadau Turner fel milwr â grym telynegol treiddgar, tosturi, sensitifrwydd a huodledd, yn gresynu’r trais ond yn cydnabod trallod ac arswyd rhyfel. Tocynnau: Mynediad Am Ddim Nos Fawrth 17 Mawrth o 3pm i 5.30pm

Gweithdy Barddoniaeth dan arweiniad Brian Turner yng Nghanolfan Dylan Thomas I gadw lle, cysylltwch â David Woolley trwy e-bostio david.woolley@swansea.gov.uk neu ffonio 01792 463980 Tocynnau: £10.00

Brian Turner

Nos Fercher 18 Mawrth 7.30pm

ON THE EDGE Cyflwynwr Michael Kelligan LOOK WHO’S TALKING NOW! Tymor y Gwanwyn 2009. Gwaith newydd a chyfredol gan ddramodwyr Cymru CARIBBEAN ANGELS gan Tony Etoria Cyfarwyddir gan yr Awdur. Yn cyflwyno Cymru i flasau danteithiol y Caribî Tocynnau: Pob Tocyn £3 Nos Wener 20 Mawrth 7.30pm / Dydd Sadwrn 21 Mawrth 2.30pm a 7.30pm

Darren Hembrow Productions yn cyflwyno Funkette gan Binda Singh Mae Jenny a Sharron wedi cael llond bol ar eu swyddi, eu pennaeth a’u bywydau. Ond mae eu diwrnod yn mynd o ddrwg i waeth. Mae amrywiaeth disglair o gwsmeriaid yn torri ar draws undonedd y diwrnod, ond a fyddant byth yn gweld y golau ym mhen draw’r twnnel? Gyda Beth Jones, Catrin O’Brien, Darren Hembrow, Alana Cater-Sheehan, Carolina Rosati-Jones, Richard Pritchard, Gillian Jackson a Margaret Hembrow. Tocynnau: Pris Llawn £5; Consesiynau £3

Rhaglen Lenyddiaeth

5


20939-09 Dylan Programme W:Layout 1

15/1/09

09:47

Page 6

Nos Sadwrn 21 Mawrth 7.30pm

Lansio Llyfr - No Soy Tu Musa/Nid Eich Awen Ydwyf Cyfrol o farddoniaeth gyfoes menwyod Gwyddelig yn y Sbaeneg Carlota Caulfield a John Goodby Mae Carlota Caulfield yn awdur o dras Sbaenaidd a Gwyddelig a anwyd yng Nghiwba. Ar hyn o bryd mae’n Athro Sbaeneg yng Ngholeg Mills yn Oakland, Califfornia. Astudiodd ym mhrifysgolion Hafana, San Francisco a Tulane, ac mae bellach yn fardd Sbaenaidd-Americanaidd fenywaidd gyfoes flaenllaw. Mae ei llyfrau niferus o’i cherddi ei hun yn cynnwys 34th Street (1987), A las puertos del papel con amoroso fuego / Wrth y pyrth papur â chwant tanbaid (1996), a Book of the XXXIX Steps (1999). Mae wedi ennill nifer o wobrau am ei barddoniaeth a’i gwaith academaidd, gan gynnwys gwobr farddoniaeth ryngwladol Ultima Novocento ym 1988. Y flodeugerdd hon o gerddi menywod Gwyddelig wedi’u cyfieithu i’r Sbaeneg,No Soy Tu Musa / Nid Eich Awen Ydwyf (2008), yw’r cyntaf o’i bath. Caiff ei chyflwyno gan yr Athro John Goodby o Brifysgol Abertawe, bardd, beirniad a cyfieithydd a fu’n olygydd, yn gyflwynwr ac yn ymgynghorydd cyfieithu y prosiect hwn. Tocynnau: MYNEDIAD A GWIN AM DDIM Nos Fercher 25 Mawrth 7.30pm

Caffi Gwyddoniaeth Y mis hwn – Miles Barton, o Uned Astudiaethau Natur y BBC ac yn gynhyrchydd cyfres BBCtv ‘Life in Cold Blood’ yn siarad am ‘Raglenni Dogfen Bywyd Gwyllt y BBC’. Tocynnau: MYNEDIAD AM DDIM Nos Iau 26 Mawrth 7.30pm

Beirdd yn y Siop Lyfrau gyda Pascale Petit Bardd gwadd y mis yw Pascale Petit. Mae casgliad diweddaraf Pascale - ei thrydydd – The Treekeeper’s Tale (Seren) yn arddangos ‘teimlad dwys am fyd natur, ynghyd ag ymateb personol i ddigwyddiadau Pascale Petit hanesyddol’. Tocynnau: Pris Llawn £4; Consesiynau £2.80; PTL Abertawe £1.60. Nos Wener 3 Ebrill 7pm

Noson Terry Hetherington Bu farw Terry Hetherington, bardd ac awdur o Gastell-nedd, ym mis Awst 2006. Ym mis Chwefror y llynedd, dathlodd Canolfan Dylan Thomas fywyd a gwaith Terry gyda noson goffáu ar gyfer ei deulu, ei ffrindiau a’i gyd-awduron. Cynigir arian a godwyd ar y noson honno, a thrwy werthu llyfrau Terry wedi hyn, i awdur ifanc fel bwrsari i’w helpu i wella’i sgiliau a phrofiad ysgrifennu. Caiff y bwrsari cyntaf ei gyflwyno ar y noson hon, ac unwaith eto bydd teulu a ffrindiau’n dod at ei gilydd i gofio Terry a’i waith. Tocynnau: MYNEDIAD AM DDIM

6

Ionawr – Ebrill 2009


20939-09 Dylan Programme W:Layout 1

15/1/09

09:47

Page 7

28 Chwefror – 1 Mawrth

Creu Argraff/Making an Impression Bydd yr Athro Tony Curtis, bardd a beirniad celf, yn lansio ein harddangosfa newydd o brintiau cyfoes gan Shani Rhys James, David Nash, Ceri Richards, Gelnys Cour ac eraill, ac yn rhoi darlith ddarluniadol am draddodiad gwneud printiau yng Nghymru. Tocynnau: MYNEDIAD A GWIN AM DDIM Nos Fercher 15 Ebrill am 7.30pm

ON THE EDGE Cyflwynwr Michael Kelligan LOOK WHO’S TALKING NOW! STAIRWAY TO HEAVEN (Fersiwn newydd ei diweddaru) gan Laurence Alan, Cyfarwyddir gan David Britton Ac yntau’n ffigur nodedig ym myd drama Cymru, cafodd Laurence ei eni ym Mhontypridd ym 1954. Meddai, “Rwy’n dwlu ar y lle. Mae’n gartref i mi, ac rwy’n gobeithio bod fy nramâu wedi’u gwreiddio’n gadarn yno, ac ar yr un pryd eu bod yn gwbl berthnasol i bobl ym mhob man.” Mae wedi ysgrifennu ar gyfer bron pob cwmni theatr yng Nghymru. Enillodd ei ddrama Flowers From Tunisia wobr y ddrama orau newydd yng ngwobrau Theatr Cymru. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio ar nofel, The Last Buffalo. Tocynnau: Pob Tocyn £3 Nos Iau 16 April 7.30pm

Now All the Rage - Duncan Bush

Duncan Bush

Mae Duncan Bush, sy’n fardd ac yn nofelydd, yn un o awduron mwyaf medrus Cymru. Mae’n darllen o’i nofel ddiweddaraf, Now All the Rage (Colophon Press), a disgwylir y bydd hon yn stori bryfoclyd a dadleuol, ‘hanes afaelgar a phryfoclyd am enwogrwydd a phornograffi, dicter a celfyddyd, chwant a dinodedd (neu unrhyw gyfuniad o’r rhain…)’! Tocynnau: Pris Llawn £4; Consesiynau £2.80; PTL Abertawe £1.60

Nos Fercher 22 Ebrill 7.30pm

Cystadleuaeth Dramâu Mercher Tocynnau: Pris Llawn £4; Consesiynau £3 Dydd Sadwrn 25 Ebrill 1pm

Theatr Amser Cinio Dydd Sadwrn The American Dream Dychweliad ein slot ddrama amser cinio poblogaidd, gyda Fluellen Theatre Company yn cyflwyno perfformiad “wrth ddal y sgript” o ddychan abswrdaidd a threiddgar wych ar fywyd teuluol Americanwyr. Mae Mom a Dad yn byw gyda mam Mom. Un dydd daw dau westai ar ymweliad sy’n troi eu byd ben i waered. Dywedodd Albee fod ei ddrama yn “safiad yn erbyn y celwydd bod popeth yn ein gwlad ddirywiol yn berffaith”. Tocynnau: Pris Llawn £5; Consesiynau £4

Rhaglen Lenyddiaeth

7


20939-09 Dylan Programme W:Layout 1

15/1/09

09:47

Page 8

Nos Fercher 29 Ebrill 7.30pm

Caffi Gwyddoniaeth/Lansio Llyfr Jonathan Foster – The Death Ray – The Secret Life of Harry Grindell Matthews Ychydig o bobl sy’n gwybod bod y dyfeisiwr Harry Matthews wedi treulio Harry rhan olaf ei fywyd yn ardal Abertawe, yn Matthews adeiladu labordy yng Nghraig-cefn-parc! Dyfeisiodd Matthews (ymhlith sawl peth arall) y ffôn symudol, y peilot awtomatig, y canfodydd llongau tanfor a ‘Phelydr Marwol’! Bydd ei gofiannydd yn siarad am y dyfeisiwr anhygoel hwn. Bydd cyfle i drafod fel arfer, a hefyd bydd llyfr Jonathan ar werth. Tocynnau: MYNEDIAD AM DDIM Nos Iau 30 Ebrill 7.30pm

Beirdd yn y Siop Lyfrau gyda Phil Maillard Bardd gwadd y mis yw Phil Maillard sy’n byw yn ne Cymru. Tri chasgliad yn un yw ei gasgliad diweddaraf Sweet Dust and Growling Lambs (Shearsman Books). Mae gwaith Phil yn ‘fywiog ac yn llawagored…llais egnïol cryno’. Tocynnau: Pris Llawn £4; Consesiynau £2.80; PTL Abertawe £1.60

Digwyddiadau Eraill... O ddydd Iau 15 Ionawr yng Nghanolfan Dylan Thomas

Poetry Works – Cwrs gyda Stuart Jones Ymagwedd ymarferol at farddoniaeth - i ddechreuwyr ac ysgrifenwyr mwy profiadol cwrs 8 wythnos £25/consesiynau ar gael – ffoniwch Stuart ar 01792 540820 neu e-bost: stuartjones@ntlworld.com Nos Iau gyntaf ac ail nos Iau bob mis o fis Chwefror yng Nghanolfan Dylan Thomas 7.30pm – 9pm

Grw ˆp Barddoniaeth Junkbox Fforwm bywiog ar gyfer beirniadaeth adeiladol. I gael manylion, e-bostiwch junkboxpoetry@hotmail.com 21 a 22 Chwefror – 10am – 4pm yng Nghanolfan Dylan Thomas

Peter Read – Writing for Pleasure and Profit Mae Peter Read, bardd, dramodydd ac actor, wedi ysgrifennu saith llyfr, gan gynnwys ei gasgliad diweddaraf o gerddi Read Only, a gyhoeddwyd ym mis Mai y llynedd. Mae pedair o’i ddramâu wedi’u llwyfannu’n broffesiynol hefyd, gyda thair arall ar y gweill yn ystod 2009. Bydd y cwrs hwn yn ystyried ffyrdd o gadw’ch ysgrifennu’n ffres ac ar yr un pryd yn ceisio cael ei gyhoeddi. Tocynnau: £60. Ffoniwch Peter ar 07931 614180.

8

Ionawr – Ebrill 2009


20939-09 Dylan Programme W:Layout 1

15/1/09

09:47

Page 9

Dydd Sadwrn 21 Chwefror 11am

Seminar Glasfryn – Ian Davidson – Language Poetries and Place Bydd y Seminar Glasfryn ddiweddaraf, a gefnogir gan Academi ac a gyflwynir gan Lyndon Davies yng Nglasfryn, Llangatwg, Powys yn cynnwys dwy sesiwn a thrafodaeth dan arweiniad Ian Davidson y bardd, y darlithiwr a’r damcaniaethwr llenyddol. Tocynnau: Y gost yw £10 yn unig ac mae lleoedd yn brin. Cysylltwch â Lyndon – goodbard@yahoo.co.uk neu ffoniwch 01873 810456 Yna am 6pm: Lansio rhifyn cyntaf o Poetry Wales o dan olygyddiaeth Zoe Skoulding yn nhafarn yr Hen & Chickens, Y Fenni, 6 – 8 pm (mynediad am ddim) Nos Fercher 25 Chwefror 8pm

Noson o Fwyd Gourmet Cymreig yng Nghanolfan Dylan Thomas £30 am 4 cwrs, cerddoriaeth fyw gan delynores Gymreig. Hefyd bydd amrywiaeth o winoedd a gwirodydd Cymreig ar gael ar y noson. I gael y manylion llawn, ewch i www.dylanthomas.com I gadw bwrdd, ffoniwch 01792 463980 3pm – 5.30pm Nos Fawrth 17 Mawrth

Gweithdy Barddoniaeth dan arweiniad Brian Turner

Brian Turner

yng Nghanolfan Dylan Thomas I gadw lle, cysylltwch â David Woolley trwy e-bostio david.woolley@swansea.gov.uk neu ffonio 01792 463980 Tocynnau: £10.00

Dydd Mercher 25 Mawrth 10-3pm

Canolfan Celfyddydau Pontardawe yn cyflwyno

A Chain of Voices gyda Hugh Lupton Gweithdy i oedolion sy’n dechrau dysgu crefft y storïwr. Yn addas ar gyfer pawb sydd â diddordeb mewn dysgu sgiliau sylfaenol allweddol adrodd storïau. Dysgwch gan feistr yn y maes. Yng Nghanolfan Dylan Thomas Tocynnau: £10 Angen cadw lle - ffoniwch 01792 863772

Arddangosfeydd... Ionawr– 1 Chwefror

Dilyn y Fflam/Following the Flame Ym mis Awst 2011 caiff arddangosfa bwysig newydd ar hanes Cymru yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd ei lansio yn Abertawe. I ddeffro’ch diddordeb, bydd Canolfan Dylan Thomas yn cynnal arddangosfa i ysbrydoli pobl leol i gymryd rhan. Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch phil.cope@talktalk.net

Rhaglen Lenyddiaeth

9


20939-09 Dylan Programme W:Layout 1

15/1/09

09:47

Page 10

Arddangosfeydd... Cuban Fruit Stall, Heather Bennett

Hefyd, bydd arddangosfa bresennol Brian Gaylor – An Alternative View - yn parhau tan 1 Chwefror. 4 Chwefror – 1 Mawrth

Green Lemons, Ffotograffau o Giwba Heather Bennett 4 Mawrth – 29 Mawrth

Arddangosfa Ffocwsmenywod Gwaith celf a ffotograffiaeth gan artistiaid lleol sy’n fenywod. Mosäig: Ffocwsmenywod

1 Ebrill– 3 Mai

Creu Argraff/Making an Impression – Cymdeithas Gelfyddyd Gyfoes Cymru – Printiau Cyfoes Gwreiddiol o Gymru Y curadur yw’r AthroTony Curtis a fydd yn rhoi sgwrs i agor yr arddangosfa ar 15 Ebrill.

Y DIWEDDARAF!! Y DIWEDDARAF!!

Bydd Gwesty’r Worm’s Head, Rhosili yn dechrau cyfres o Benwythnosau Ysgrifennu cynhwysol. Y cyntaf fydd gydag Iris Gower ar 24/25 Ebrill. I gael y manylion llawn, cysylltwch ag Adrian Short trwy e-bostio adrianshort233@hotmail.com 01792 390512 DY

FAT T Y STREET

T

ND

ST

N

PA

W

FA B

R

ST

SO

SA IN SB

IAN

WA Y A 48

TO M 4 J4 2

UR YS

ME RS E

TE SCO

VIC

TO R

O IA R

AD

SWAN MU SU SEA EM

WATE RF MU SU RO NT EM

Marina

E AC

➙ R O AD

D

PL

Y WA

MO UT H

IN

3

T

T

OYSTER

W

AY SW

ES

H. M. PR ISO N

ST

O

AY

STAT IO

S RY’ MA

R

QU

Castle

ES INC PR

BU S

sia

Castle Square

DE

EE D STR

Grand Theatre

TO M 4 J4 5

Tawe

Planta

STRA

O XF OR

Parc

A

S WAY

KING

CASTLE ST

THE

LE

A

ARD

EET

OR

NCP

HS TR

➙ MANSELL ST

HIG

XA

N

RD

ST

RA

W

Dyla Thom n Centreas

Dyla Thom n as Theatre

Civic Cent re

Cefnogir gan: hybu llên literature promotion

CYNGOR LLYFRAU CYMRU WELSH BOOKS COUNCIL

Gweneir pob ymdrech i sichau bod y manylion yn y rhaglen hon yn gywir, ond mae Dinas a Sir Abertawe yn cadw’r hawl i newid unrhyw ran o’r rhaglen hon heb rybudd.

10

Ionawr – Ebrill 2009

20939-09 Designprint

Teithio a Llety I gael manylion am lety, cysylltwch â Chanolfan Wybodaeth Abertawe drwy ffonio 01792 361302, neu ewch i www.visitswanseabay.com Mae First Cymru’n rhedeg rhwydwaith o wasanaethau busys lleol yn ne a gorllewin Cymru. Am fanylion, ffoniwch 0870 6082608. Am wybodaeth am wasanaethau trenau, cysylltwch ag Ymholiadau Rheilffordd Cenedlaethol drwy ffonio 08457 484950.

D

Cynhelir pob digwyddiad yng Nghanolfan Dylan Thomas oni nodir yn wahanol

CH

Somerset Place, Aberatwe. SA1 1RR 01792 463980 www.dylanthomas.com www.dylan-thomas-books.com dylanthomas.lit@swansea.gov.uk

EN TH 83 AR A4 M D A

Canolfan Dylan Thomas

The Hand Mirror, Shani Rhys James MBE


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.