Canolfan Dylan Thomas Ionawr - Ebrill 2010

Page 1

23472-09 Dylan Programme Welsh:Layout 1 08/01/2010 11:08 Page 1


23472-09 Dylan Programme Welsh:Layout 1 08/01/2010 11:08 Page 2

Dydd Sadwrn 23 Ionawr 10am – 4pm

Gweithdy Darlleniad Coffáu'r Holocost Mae Mel Kohlke o Brifysgol Abertawe'n arwain sesiwn a fydd yn trafod pa rwymedigaethau a dilemâu moesegol mae ysgrifennu am yr Holocost yn eu cyflwyno i ddarllenwyr. Bydd y sesiwn yn archwilio sut rydym yn mynd i'r afael â materion empathi, dwyn tystiolaeth eilaidd a mawrygu poen. Bydd y testunau a ystyrir yn cynnwys barddoniaeth, stori fer, cofiant a darnau o weithiau hwy Celan, Levi, Delbo ac eraill. Bydd yr hanesion hyn hefyd yn cael eu rhoi mewn cyd-destun gyda chyfeiriad at ddarnau beirniadol, gan archwilio cyflwyniad ac ymlediad cyffredinol yr hyn a elwir yn ddiwylliant trawma.

Tocynnau: MYNEDIAD AM DDIM ond cofiwch gofrestru ymlaen llaw Nos Fercher 27 Ionawr 7.30pm

Caffi Gwyddoniaeth – Deiet ac Ymddygiad trwy Oes David Benton, Athro Seicoleg, Prifysgol Abertawe.

Tocynnau: MYNEDIAD AM DDIM Nos Iau 28 Ionawr 7.30pm

Beirdd yn y Siop Lyfrau David Greenslade, The Dark Fairground Mwy o waith arloesol gan fardd a pherfformiwr hollol wreiddiol sy'n dwlu ar weithio gydag artistiaid gweledol. Dyma lansiad llyfr celf sy'n cynnwys lluniau gan y diweddar William Brown a thestunau byrion gan Greenslade. Disgrifiwyd ar Radio Wales fel 'anhygoel a neilltuol'. Dyma deyrnged wefreiddiol i arlunydd a oedd hefyd yn dwlu ar weithio gyda beirdd. Mae lluniau ar gael ar safle blog y llyfr hwn - www.darkfairground.wordpress.com Hefyd, i nodi Diwrnod Coffáu'r Holocost, rydym yn gwahodd darllenwyr meic agored i ddod â cherdd, neu ddarn byr o ryddiaith hyd yn oed, o'u gwaith eu hunain neu ysgrifennwr arall ar y thema honno os dymunant.

Tocynnau: Pris Llawn £4.00 Consesiynau £2.80 PTL Abertawe £1.60 Nos Fawrth 4 Chwefror 7pm

Lansiad llyfr – Battle in Iraq gan J.M.Hammond a Flint gan Margaret Redfern Mae dau fyfyriwr sydd newydd raddio o Goleg y Drindod, Caerfyrddin gydag MA mewn Ysgrifennu Creadigol yn lansio'u llyfrau cyntaf ar y cyd. Mae Battle in Iraq yn seiliedig ar lythyrau a dyddiaduron tad-cu Josephine Hammond o Irac yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ond yn cysylltu'r digwyddiadau â'r sefyllfa bresennol, wrth i gwrs hanes y Dwyrain Canol gael ei drawsffurfio. Chwedl farddonol yw Flint o gariad brawdol, yn seiliedig yn oes Edward I, yn dilyn anturiaethau'r cloddwyr ffosydd Will a Ned wrth iddynt gerdded o Gorsydd Lloegr i ogledd Cymru.

Tocynnau: MYNEDIAD A GWIN AM DDIM, Ar y cyd â Gwasg Radcliffe a Honno.

2

Ionawr - Ebrill 2010


23472-09 Dylan Programme Welsh:Layout 1 08/01/2010 11:09 Page 3

Nos Fercher 10 Chwefror 7.30pm

On the Edge yn cyflwyno Deadlier than the Male! Mae tymor newydd Michael Kelligan o berfformiadau sgript mewn llaw rhagorol ac amrywiol yn cynnwys dramâu gan awduresau o Gymru sy'n gweithio yng Nghymru.

Paying The Full Whack gan Gwenno Dafydd Yn actores, yn gantores, yn ddigrifwraig, yn awdures, yn ieithyddes, yn wir artist sawl rhan, magwyd Gwenno Dafydd yng ngogledd Sir Benfro. Ysgrifennwyd ei drama'n weddol fuan ar ôl rhyfel y Falklands. Unwaith eto, ar yr adeg drafferthus iawn hon ledled y byd, mae'n eich atgoffa'n drist o wrthdaro ac oferedd dynol, gan weld y llun byd-eang trwy lygaid dau deulu ifanc o Gymru. Fel actores, mae Gwenno wedi bod yn yr opera sebon Saesneg Casualty a'r opera sebon Gymraeg Pobol y Cwm ac wedi cael llawer o rolau comedi ar y teledu. Hefyd, mae ganddi ei sioe un fenyw ei hun, yn seiliedig ar ganeuon Edith Piaf. Tocynnau: £4-00

Gwenno Dafydd

Dydd Gwener 12 Chwefror 1pm

Celf i Ginio – Anne Price Owen David Jones: the Wedding of Form and Content Mae Dr Anne Price-Owen yn uwch ddarlithydd yng Nghanolfan Celf, Dylunio a Chyfryngau Dinefwr, Prifysgol Fetropolitan Abertawe. Ymunodd â'r sefydliad hwn ym 1995, ac ers hynny mae wedi cefnogi Tyˆ Llên - Canolfan Dylan Thomas - yn gadarn. Mae Anne wedi cyhoeddi'n helaeth ar y celfyddydau gweledol a hefyd ar lenyddiaeth, yn enwedig ar farddoniaeth beirdd o Gymru. Ei phrif ddiddordeb yw'r arlunydd-fardd David Jones (1895-1974), a sefydlodd Gymdeithas David Jones ym 1996, blwyddyn ar ôl ei gynhadledd canmlwyddiant ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan. Bydd ei sgwrs yn archwilio'r berthynas rhwng celfyddydau llenyddol a gweledol David Jones, ffenomen y mae'n credu ei bod yn arbennig o amlwg (ond ddim yn unigryw o gwbl) yng ngwaith beirdd ac arlunwyr gweledol sy'n gweithio yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae'n ymchwilio i lyfr ar artistiaid benywaidd Cymru, i'w gyhoeddi gan Seren yn ddiweddarach eleni.

Tocynnau: £5 yn cynnwys sgwrs 45 munud, cawl a brechdan. Dydd Gwener 12 Chwefror/Dydd Sadwrn 13 Chwefror

Gw ˆ yl Ladin Americanaidd Abertawe 2010 Mae gw ˆ yl aml-gelf eleni'n canolbwyntio ar Frasil, gyda cherddoriaeth, ffilm a dawnsio, arddangosiad Capoeira a lluniau gan Erika Tambke. Am fwy o wybodaeth, gweler www.dylanthomas.com neu e-bostiwch M.K.Morita@swansea.ac.uk.

Tocynnau: Pob Tocyn o Ganolfan Dylan Thomas.

Rhaglen Lenyddiaeth

3


23472-09 Dylan Programme Welsh:Layout 1 08/01/2010 11:09 Page 4

Nos Wener 19 Chwefror – 7pm

Lansiad Llyfr – Maggie Harris, After a visit to a Botanical Garden Mae trydydd casgliad o farddoniaeth Maggie, y bardd o Gaiana sy'n gweithio yng Nghymru, After a visit to a Botanical Garden (Gwasg Cane Arrow) wedi'i sbarduno gan fudiad planhigion yn ogystal â phobl rhwng Ewrop a'r Byd Newydd ers dyddiau Raleigh. Caiff y lansiad hwn ei ddilyn drannoeth gan weithdy ysgrifennu ar thema planhigion. Gweler isod. Tocynnau: MYNEDIAD A GWIN AM DDIM Maggie Harris

Dydd Sadwrn 20 Chwefror 10.30 – 12.30

Gweithdy Ysgrifennu – Have Roots Will Travel gyda Maggie Harris Wedi lansio'i chasgliad newydd After a visit to a Botanical Garden y noson flaenorol, bydd Maggie Harris yn cynnal y gweithdy hwn sy'n canolbwyntio ar archwilio cynnar helwyr planhigion, gan archwilio gwaith a ysbrydolwyd gan blanhigion a gerddi fel sbringford i ysbrydoli ysgrifennu, yn farddoniaeth neu'n rhyddiaith. Tocynnau: £10.00

Dydd Sadwrn 20 Chwefror 1pm

Theatr Amser Cinio Cwmni Theatr Fluellen yn cyflwynoMarch gan Alberto Adellach Dychan brathog ar filitariaeth a chyflwr y dramodydd hwn o'r Ariannin sydd wedi'i esgeuluso'n gywilyddus. Cyflwyniad sgript mewn llaw yw holl ddramâu Theatr Amser Cinio a bydd sgwrs am yr ysgrifennwr a chefndir y ddrama o’i flaen. Tocynnau: £5.00 Nos Fercher 24 Chwefror 7.30pm

Caffi Gwyddoniaeth – Osgoi Marwolaeth trwy Gyfrifiadur Harold Thimbleby, Prifysgol Abertawe.

Tocynnau: MYNEDIAD AM DDIM Alison Bielski

Nos Iau 25 Chwefror 7.30pm

Beirdd yn y Siop Lyfrau – Alison Bielski Mae Alison, a gafodd ei geni yng Nghasnewydd, wedi cyhoeddi llawer o gasgliadau, ac mae'r diweddaraf, Sacramental Sonnets (Alun Books), wedi ennill 13 o wobrau am ei barddoniaeth. Sesiwn meic agored arferol hefyd.

Tocynnau: Pris Llawn £4.00 Consesiynau £2.80 PTL Abertawe £1.60 Nos Wener 26 Chwefror 7pm

Womencentrestage Eleni, mae sioe oriel gan WOMENCENTRESTAGE o fis Chwefror i fis Mawrth ac yn cynnwys gwaith celf myfyrwyr Prifysgol Fetropolitan Abertawe ac arlunwyr annibynnol eraill sydd naill ai wedi'u sefydlu neu'n dod i'r amlwg ym maes ffotograffiaeth, celfyddyd gain a thecstilau. Bydd y digwyddiad hwn yn sesiwn rwydweithio i arlunwyr gyda siaradwr gwadd, cyn fideos gan Broad Horizons, prosiect Abertawe i wneuthurwragedd fideo.

Tocynnau: Pris y tocyn ar gyfer y sioe fideos yn y nos yw £3, â'r elw at brosiectau menywod Oxfam. Cadwch le'n gynnar ar gyfer y digwyddiad poblogaidd hwn

4

Ionawr - Ebrill 2010


23472-09 Dylan Programme Welsh:Layout 1 08/01/2010 11:09 Page 5

Dydd Iau 4 Mawrth

Diwrnod y Llyfr Byddwn yn dathlu Diwrnod y Llyfr gyda chynigion yn ein siop lyfrau a digwyddiad gyda'r hwyr. Am fanylion llawn, gweler www.dylanthomas.com neu e-bostiwch jo.furber@swansea.gov.uk Nos Wener 5 Mawrth 7pm

Lansiad Llyfrau: Marion Preece - Man Falling off Cliff Croeso i ddwy chwedl ar bymtheg yn hunllefau, comedi a’r swrreal. Byddwch yn barod i gerdded gyda sadistiaid ac angylion, i weld buddugoliaeth dros anobaith ac i annog blaidd-ddynion. Byddwch yn barod am unrhyw beth ... ac eithrio darllen esmwyth.

Tocynnau: MYNEDIAD A GWIN AM DDIM Dydd Sadwrn 6 Mawrth 7pm

Lansiad Llyfr - Stevie Davies, Into Suez

Stevie Davies

Mae Stevie Davies yn awdur un ar ddeg o nofelau (dwy wedi'u rhestru ar gyfer Gwobr Booker) ac yn frodor o Abertawe. Mae ei nofel ddiweddaraf wedi'i gosod yn yr adeg cyn Argyfwng Sw ˆes, yn dempled ar gyfer ymosodiadau'r dyfodol (Irac ac Afghanistan yw'r diweddaraf). Trwy stori Joe, gweithiwr cyffredin ar y rhes flaen, mae Stevie'n archwilio sut nad yw agweddau ymerodraethol at y Dwyrain Canol wedi newid ers 1950. Ymunwch â ni i drafod y themâu cyfoes a chyfredol iawn hyn a gwrando ar ddarlleniadau o nofel hanesyddol bleserus dros ben.

Tocynnau: Mynediad a gwin am ddim, mewn cydweithrediad â Parthian Books. Nos Fercher 10 Mawrth 7.30pm

On the Edge yn cyflwyno Deadlier than the Male! Mae tymor newydd Michael Kelligan o berfformiadau sgript mewn llaw rhagorol ac amrywiol yn cynnwys dramâu gan awduresau o Gymru sy'n gweithio yng Nghymru.

Gryfhead gan Lucy Gough Mae Lucy wedi bod yn ysgrifennu dramâu ers 1986. Mae llawer o'i dramâu llwyfan wedi'u perfformio'n broffesiynol a chyrhaeddodd y rownd derfynol ar gyfer Gwobr John Whiting a Gwobr Ysgrifennwr y Flwyddyn BBC Cymru (1994) gyda'i drama, Crossing The Bar. Roedd ei darllediad cyntaf ar y BBC ym 1994 gydag Our Lady of Shadows (BBC Radio 3). Ers hynny, mae ganddi ddrama'r wythnos ar Wasanaeth Byd y BBC ac wedi cael pum drama ar BBC Radio 4. Fe wnaeth ei dramateiddiad radio o Wuthering Heights ar gyfer Radio 4 gael ei ddarlledu fel y stori gyfres glasurol yn Woman's Hour yn 2003.

Tocynnau: £4.00

Rhaglen Lenyddiaeth

5


23472-09 Dylan Programme Welsh:Layout 1 08/01/2010 11:09 Page 6

Dydd Sadwrn 13 Mawrth

Diwrnod Sgwad Sgwennwyr Gyda chefnogaeth Academi a Chyngor Llyfrau Cymru, rydym yn nodi wythnos Diwrnod y Llyfr gyda diwrnod o ddigwyddiadau a gweithdai i aelodau Sgwad Sgwennwyr Ifanc Abertawe a’u rhieni, mewn partneriaeth â Sgwad Sgwennwyr Pontardawe. Bydd y diwrnod hefyd yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb i ymuno â’n Sgwadiau Sgwennu – mae Sgwad Iaith Gymraeg hefyd yn cael ei sefydlu. Am y manylion llawn, e-bostiwch david.woolley@swansea.gov.uk Nos Sul 14 Mawrth 7pm

Prosiect Myfyrwyr Americanaidd ar Ymweliad Dylan Thomas in Wales 2010 Seminar llenyddol 12 wythnos yw Dylan Thomas in Wales a gynigir gan Goleg Knox (Illinois, America), mewn cydweithrediad â Man Geni Carl Sandburg (America), Cylchgrawn Barddoniaeth Abertawe'r Seithfed Chwarel (Cymru), Cysylltiadau Croesddiwylliannol (Efrog Newydd), ac mewn cysylltiad â Llywodraeth Cynulliad Cymru yn Efrog Newydd. I ddathlu bod y grw ˆ p cyntaf o fyfyrwyr wedi cyrraedd o America ac yn cymryd rhan yn y prosiect, cynhelir noson o farddoniaeth, drama a chanu a gaiff ei chyflwyno gan Peter Thabit Jones, sef y tywysydd a’r trefnydd yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe.

Tocynnau: MYNEDIAD AM DDIM Dydd Gwener 19 Mawrth 1pm

Celf i Ginio Jen Wilson How African American Music Came to Wales Bydd Jen, o Jazz Heritage Wales, Women in Jazz gynt, sydd bellach yn gweithio ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe, yn cyflwyno sgwrs â darluniau ar y pwnc "How African American Music Came to Wales", sut mae'r cyfryngau'n cynrychioli'r gerddoriaeth a'r arloeswragedd a gyfrannodd at yr hyn a ddaeth i fod yn Jas. Darlun: Sheet Music, My Little Zulu Babe 1901

Tocynnau: £5 yn cynnwys sgwrs 45 munud, cawl a brechdan. Nos Wener 19 Mawrth 7pm

Lansiad Llyfr - Byron Beynon, Nocturne in Blue Mae cerddi Byron, y bardd a'r darlithydd o Abertawe, wedi ymddangos mewn sawl cyhoeddiad, gan gynnwys Agenda, Poetry Salzburg Review, Planet, The French Literary Review, Quadrant (Awstralia) a'r Istanbul Literary Review. Mae ei gasgliadau'n cynnwys: The Girl in the Yellow Dress, The Restaurant of Mud a Cuffs. Cyhoeddir Nocturne in Blue gan Lapwing Publications (Belfast). Roedd Byron yn arfer bod yn gydolygydd Roundyhouse Magazine.

Tocynnau: MYNEDIAD A GWIN AM DDIM

6

Ionawr - Ebrill 2010


23472-09 Dylan Programme Welsh:Layout 1 08/01/2010 11:09 Page 7

Vaclav Havel

Dydd Sadwrn 20 Mawrth 1pm

Theatr Amser Cinio Cwmni Theatr Fluellen yn cyflwyno Unveiling gan Vaclav Havel Ar ôl llwyddiant drama Havel, Audience, y llynedd, dyma'r nesaf; dychan lle mae ei hunan arall, Vanek, yn westai cinio i gwpl sydd wedi croesawu system ormesol eu gwlad â breichiau agored. Cyflwyniad sgript mewn llaw yw holl ddramâu Theatr Amser Cinio a bydd sgwrs am yr ysgrifennwr a chefndir y ddrama o'i flaen.

Tocynnau: £5.00 Nos Iau 25 Mawrth 7.30pm

Beirdd yn y Siop Lyfrau - Carol Rumens Mae Carol wedi cyhoeddi llawer o gasgliadau, gan gynnwys y diweddaraf, Blind Spots, a gyhoeddwyd gan Seren, ac wedi ennill llawer o wobrau am ei barddoniaeth. Ar hyn o bryd, mae'n addysgu ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Sesiwn meic agored arferol hefyd.

Tocynnau: Pris Llawn £4.00 Consesiynau £2.80 PTL Abertawe £1.60 Nos Fercher 31 Mawrth

Caffi Gwyddoniaeth i'w gadarnhau Tocynnau: MYNEDIAD AM DDIM Dydd Sadwrn 10 Ebrill 1pm

Theatr Amser Cinio Cwmni Theatr Fluellen yn cyflwyno Scenes of Fear

Bertolt Brecht

Addaswyd o ddramâu a barddoniaeth Bertolt Brecht. Golwg annifyr ar yr Almaen Natsïaidd yn ystod y blynyddoedd cyn yr Ail Ryfel Byd, wedi'i gweld trwy lygaid y rhai a oedd yn gwrthwynebu Hitler, a'r rhai nad oeddent yn ei wrthwynebu. Cyflwyniad sgript mewn llaw yw holl ddramâu Theatr Amser Cinio a bydd sgwrs am yr ysgrifennwr a chefndir y ddrama o'i flaen. Tocynnau: £5.00

Nos Iau 15 Ebrill - 7pm

Lansiad llyfrau a pherfformiad, Childe Roland: Ham & Jam and A Pearl: Two One-act Plays Mae prif fardd concrît Cymru'n cyflwyno dwy ddrama fer lle mae Polonius yn holi'r Tywysog 'gwallgof' am wleidyddiaeth y byd a’r gair, gwallgofrwydd trefnus ein meistri. Llyfrau Hafan pamffled ‘Out of Line’ #11.

Tocynnau: Â holl elw'r llyfrau i elusen ffoaduriaid. Childe Roland

Rhaglen Lenyddiaeth

7


23472-09 Dylan Programme Welsh:Layout 1 08/01/2010 11:09 Page 8

Nos Iau 22 Ebrill - 7pm

Lansiad llyfrau a pherfformiad John Goodby: Wine Night White Bardd cybyddlyd a llac ei foesau, y siaredir yn aml amdano ... hic! yn llowcio sosej fel Saussure a chlirio'i lwnc â photel o plonc. Llyfrau Hafan pamffled ‘Out of Line’ #12. John Goodby

Tocynnau: Â holl elw'r llyfrau i elusen ffoaduriaid.

Dydd Gwener 23 Ebrill 1pm

Celf i Ginio - Stevie Davies ar George Eliot Bydd Stevie Davies, y nofelydd, a'r Athro Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe sy'n awdur sawl llyfr ar lenyddiaeth Fictoriaidd, yn siarad am driniaeth wefreiddiol George Eliot o empathi ym myd dychmygus Middlemarch.

Tocynnau: £5 yn cynnwys sgwrs 45 munud, cawl a brechdan. Nos Fercher 28 Ebrill 7.30pm

On the Edge yn cyflwyno Deadlier than the Male! Mae tymor newydd Michael Kelligan o berfformiadau sgript mewn llaw rhagorol ac amrywiol yn cynnwys dramâu gan awduresau o Gymru sy'n gweithio yng Nghymru.

Don’t Breathe A Word gan Susan Richardson Mae Susan yn awdur pedair drama a gweithiai, am sawl blwyddyn, fel dramodydd a hwylusydd gweithdai i Something Permanent, cwmni theatr addysgol â chanolfannau yn y DU a Toronto, Canada. Mae ei drama gyntaf, Two Of Me Now, yn ddrama farddonol am famolaeth fiolegol a llenyddol, fel a adlewyrchwyd ym mywydau a gwaith Virginia Woolf a Sylvia Plath. Dyfarnwyd y wobr gyntaf i Don’t Breathe A Word, drama am ysgrifennu a “Myfyrgar a diddorol…mae'r sensoriaeth, yng Nghystadleuaeth Sgript Drama stori wedi'i hadrodd yn Timberlake Wertenbaker a chyrhaeddodd y rhestr fer yn y brydferth, ag eglurder a Gystadleuaeth Ysgrifennu Drama Genedlaethol i Fyfyrwyr. manwl gywirdeb ” Mae wedi'i pherfformio yng Ngw ˆyl Ymylol Caeredin , Platfform 4 Gw ˆyl Theatr Caerwysg, Gw ˆyl Lenyddiaeth The Scotsman Cheltenham ac yn Theatr Llys y Barwn, Llundain.

Tocynnau: £4.00 Nos Fercher 28 Ebrill 7.30pm

Caffi Gwyddoniaeth Y Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr a’r Peiriant Arafu Gwrthbrotonau llai o lawer- Beth rydym yn gobeithio ei ddarganfod a phryd? Graham Shore a Mike Charlton, Prifysgol Abertawe

Tocynnau: MYNEDIAD AM DDIM

8

Ionawr - Ebrill 2010


23472-09 Dylan Programme Welsh:Layout 1 08/01/2010 11:09 Page 9

Nos Iau 29 Ebrill 7.30pm

Beirdd yn y Siop Lyfrau - Maurice Scully Ganwyd Maurice yn Nulyn ym 1952. Ar ôl cael addysg yng Ngholeg y Drindod, aeth ati i olygu barddoniaeth, cyhoeddi a threfnu digwyddiadau llenyddol, yn ogystal â gweithio yn yr Eidal ac Affrica yn yr '80au. Yn y '90au, bu'n addysgu ym “Gwir olau i'r iaith.” Maurice Mhrifysgol Dinas Dulyn. Rhwng '81 a '06 roedd Harry Gilonis, The Gig Scully yn ymgysylltiedig ag un prosiect, Things That Happen, gwaith 8 “Rwy’n credu ei bod yn well darllen Scully mewn llyfr. Ymddangosodd Doing the Same in mannau cyhoeddus, traeth neu loches fysus pan English, detholiad o waith 1987 - 2008, yn '08 fydd pobl o'ch cwmpas... Rwy'n chwerthin lot. ac ymddangosodd Humming yn '09. Mae'n fardd rhadlon ac mae hynny'n cael ei gyfleu yn ei waith. Er bod y rhyfeddod honedig yng ngwaith Scully yn tarddu o'r amlwg cyffredinol, mae'r blodau y mae'n eu cynhyrchu'n bur ecsotig” Augustus Young, Golden Handcuffs Review

Tocynnau: Pris Llawn £4.00 Consesiynau £2.80 PTL Abertawe £1.60

ARDDANGOSFEYDD Tan 17 Ionawr

Cherry Pickles Darluniad o Haiti a'r Weriniaeth Ddominicaidd. 19 Ionawr – 14 Chwefror

David Greenslade a William Brown The Dark Fairground Cydweithrediad rhwng y bardd Greenslade a'r diweddar arlunydd William Brown. 16 Chwefror – 21 Mawrth 23 Mawrth – 18 Ebrill

Menywod Canol Llwyfan

Lyndon Mably Burning – A random Event

delweddau gan artistiaid lleol i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Darluniau’n defnyddio haearn tawdd – archwiliad o siawns a dewis – man cyfarfod yr awydd celfyddydol a’r digwyddiad ar hap.

20 Ebrill – 16 Mai

Gus Payne Cydweithrediad rhwng yr arlunydd Gus Payne a’r bardd Mike Jenkins, a’r ddau’n gweithio ym Merthyr. Mae’r gwaith newydd hwn yn canolbwyntio ar idiomau ac ymadroddion Cymreig i archwilio ymwybyddiaeth gymdeithasol, democratiaeth a’r pwerau sy’n penderfynu ar y materion mawr ar ein rhan.

Rhaglen Lenyddiaeth

9


23472-09 Dylan Programme Welsh:Layout 1 08/01/2010 11:09 Page 10

CYRSIAU/GWEITHDAI Yng Nghanolfan Dylan Thomas oni nodir yn wahanol Sadwrn 23 Ionawr

Diwrnod Darlleniad Coffáu'r Holocost Gweler tudalen 2 am fwy o fanylion. Dydd Sadwrn 30/ Dydd Sul 31 Ionawr 10am – 4pm bob dydd

O'r Dudalen i'r Llwyfan - Cwrs Deuddydd ar Ysgrifennu Dramâu gyda Peter Read Cwrs deuddydd i awduron dramâu profiadol a newydd. Am fwy o wybodaeth, ewch i  www.peterread.co.uk Am ragor o wybodaeth a ffurflen cadw lle, cysylltwch â Peter Read ar  07931 614180 neu e-bostiwch  petersamread@hotmail.co.uk neu anfonwch amlen rag-dal i:  14 Overland Road, Y Mwmbwls, Abertawe SA3 4LS

Tocynnau: Cost y cwrs dau ddiwrnod yw £60 Dydd Sadwrn 20 Chwefror 10.30 – 12.30

Gweithdy Ysgrifennu – Have Roots Will Travel gyda Maggie Harris Gweler tudalen 4 am fwy o fanylion. Dydd Sul 21 a 28 Chwefror a 7 a 14 Mawrth 10am – 4pm

Gweithdy Actio – The Craft of Acting Fluellen Theatre Company yn parhau â’i gwrs actio agored ar gyfer sgiliau action sylfaenol.

Tocynnau: £10 y sesiwn. Am fanylion/i gadw lle, ffoniwch  01792 368269 neu e-bostiwch  fluellentheatre@aol.com

DIGWYDDIADAU ERAILL 13/14 Mawrth (drwy’r dydd)

Canolfan Ceridwen, Sir Gaerfyrddin: Penwythnos Ysgrifenwyr Gyda Diwrnod Ysgrifenwyr, Noson Llofruddiaeth Ddirgel a gweithdy Ysgrifennu Storïau Ditectif gyda Sally Spedding. Am fanylion llawn, gweler  www.ceridwencentre.co.uk neu e-bostiwch  info@ceridwencentre.co.uk neu  01559 370517

Somerset Place, Abertawe SA1 1RR

Cefnogir gan:

 01792 463980 hybu llên literature promotion

 www.dylan-thomas-books.com

Gwneir pob ymdrech i sichau bod y manylion yn y rhaglen hon yn gywir, ond mae Dinas a Sir Abertawe yn cadw’r hawl i newid unrhyw ran o’r rhaglen hon heb rybudd.

 dylanthomas.lit@swansea.gov.uk

10

CYNGOR LLYFRAU CYMRU WELSH BOOKS COUNCIL

 www.dylanthomas.com

Ionawr - Ebrill 2010

23472-10 Designprint

Canolfan Dylan Thomas


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.