Canolfan Dylan Thomas Mai-Awst

Page 1


Rhaglen Canolfan Dylan Thomas Mai – Awst 2010 Erbyn i chi dderbyn y daflen wybodaeth hon, ni fyddaf yn gweithio yng Nghanolfan Dylan Thomas bellach. Wedi pymtheng mlynedd mae'n amser i mi symud ymlaen. Fodd bynnag, byddaf yn trefnu Gw ˆyl Dylan Thomas o hyd, ac yn gobeithio eich gweld chi i gyd yno. Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi cefnogi'r rhaglen ddigwyddiadau ar hyd y blynyddoedd. Credaf hefyd y dylid canmol Dinas a Sir Abertawe am ddangos ymrwymiad sylweddol i lenyddiaeth gyhyd, a hir y parhao felly. Bydd yn parhau yn nwylo medrus Jo Furber, a hoffwn ddiolch yn arbennig i Jo, ac i bawb sydd wedi gweithio yng Nghanolfan Dylan Thomas dros y blynyddoedd, ac i'r holl artistiaid a'r ysgrifenwyr sydd wedi gweithio gyda ni yn ystod yr amser hwnnw. Rydych chi wedi'n helpu ni i greu rhywbeth sydd wedi bod yn arbennig iawn i mi, ac rwy'n gobeithio i chi hefyd, ac i lawer o bobl eraill. Mae wedi bod yn llawer o hwyl. David Woolley Nos Iau 24 Mai 7.30pm

Ilija Trojanow Croeso i ysgrifennwr a anwyd ym Mwlgaria, sy’n ysgrifennu am deithio, adroddiadau llenyddol a nofelau, yn Almaeneg. Mewn cydweithrediad ag Adran Almaeneg Prifysgol Abertawe, ac wedi’i gyflwyno gan Julian Preece, o’r un adran. Tocynnau: Pris Llawn £4.00 Consesiynau £2.80 PTL Abertawe £1.60 Dydd Sadwrn 8 i ddydd Sul 16 Mai

Gw ˆyl Ffilmiau Bae Abertawe Bydd Gw ˆyl Ffilmiau Bae Abertawe 2010 yn cyflwyno mwy o amrywiaeth o ffilmiau a fideos nag erioed yn ei phumed flwyddyn. Bydd detholiad amrywiol a chyffrous o ffilmiau o bedwar ban byd yn cael eu cyflwyno AM DDIM rhwng 10am a 5pm bob dydd. Bydd yr w ˆyl, a gynhelir o ddydd Sadwrn 8 Mai tan ddydd Sul 16 Mai, hefyd yn cynnwys cyflwyniadau a sesiynau holi ac ateb gyda nifer o gyfarwyddwyr a chynhyrchwyr y ffilmiau yng ngw ˆ yl eleni. Am restr o’r ffilmiau a’r digwyddiadau ewch i:  www.swanseafilmfestival.com Malcolm Parr

Nos Iau 24 Mai, 7.30pm

The Joy of Battered Seaweed – chwerthin yw’r plaleiddiad gorau - Noson gyda Malcolm Parr Bardd, cyfieithydd, darlithydd a raconteur o Abertawe, bydd Malcolm Parr yn ddifyr gyda chymysgedd o storïau, jôcs a hanesion yn ei steil unigryw ei hun. Tocynnau: £3-00

Nos Iau 20 Mai, 7pm

Shadow Plays – Lansiad MA Ysgrifennu Creadigol Coleg y Drindod Caerfyrddin Bydd myfyrwyr cwrs MA y Coleg yn cyflwyno gwaith o’u hantholeg flynyddol ddiweddaraf. Mewn cydweithrediad â Llyfrau Parthian. Tocynnau: Gwin a mynediad am ddim

2

Mai - Awst 2010


Dydd Sadwrn 22 Mai, 2.30pm

Beth Mitchell For the love of the game Lansio Arddangosfa Ffotograffiaeth Tocynnau: Gwin a mynediad am ddim Nos Fercher 26 Mai, 7.30pm

Tanau Gwyllt Angheuol 2009 ger Melbourne: Trychineb Anrhagweladwy neu Ddigwyddiad Rhagweladwy? Stefan Doerr, Prifysgol Abertawe Tocynnau: AM DDIM Gwen Watkins

Nos Fercher 26 Mai, 7pm

Digwyddiad Cymdeithas Dylan Thomas Gwen Watkins yn sgwrsio â Jeff Towns. Cyfle prin i glywed Gwen gweddw Vernon, ffrind i Dylan, ac ysgolhaig ac ysgrifennwr - yn siarad â Jeff, y llyfrwerthwr, ac awdurdod ar Dylan. Tocynnau: Pris Llawn £5-00 Consesiynau £3-00 Richard Gwyn

Patrick McGuinness

Nos Iau 27 Mai, 7.30pm

Poets in the Bookshop

Bydd Patrick McGuinness a Richard Gwyn ill dau yn lansio eu casgliadau newydd - mae Sad Giraffe Café (Arc) gan Richard yn gasgliad o gerddi rhyddiaith, sy’n ffurfio naratif cynyddol symudol gyda’i gilydd... yn camu’n llinell ansicr ar hyd y ffiniau rhwng breuddwyd ac arsylwi byw, rhwng y cnawdol a’r diwastraff, rhwng rhyddiaith a barddoniaeth. (Philip Gross). Mae Jilted City (Carcanet) Patrick yn Argymhelliad gan y Gymdeithas Llyfrau Barddoniaeth. Tocynnau: Pris Llawn £4.00 Consesiynau £2.80 PTL Abertawe £1.60 Nos Wener 4 Mehefin, 7.30pm

Blessing Nusariri

Zimbabwean Poets Blessing Nusariri ac Ethel Kwabato, dwy awdures o Zimbabwe ar daith wedi’i noddi gan y Cyngor Prydeinig, Gwasg Cinnamon a’r Academi. Mae Blessing Musariri yn awdur a bardd plant arobryn. Mae Ethel Kwabato yn fardd ac awdures straeon byrion. Tocynnau: Pris Llawn £4.00 Consesiynau £2.80 PTL Abertawe £1.60

Ethel Kwabato

Nos Fawrth a nos Fercher 8 a 9 Mehefin – y ddau am 7.30pm

Rough Diamonds Cyfres o ddetholiadau dramatig cyffrous wedi’u cyflwyno dros ddwy noson gan fyfyrwyr MA Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Abertawe. Wedi’u cyflwyno gan y dramodydd a thiwtor y cwrs, David Britton, a’u perfformio gan Gwmni Theatr Fluellen. Tocynnau: £3

Rhaglen Lenyddiaeth

3


Nos Wener 11 Mehefin - 7pm

Pursued by a Bear David Woolley

David Woolley

Bydd David yn lansio ei gasgliad o farddoniaeth ddiweddaraf, o Wasg Headland, gyda cherddi yn amrywio o farwnad bersonol i arsylwi ffraeth ac ysmala i ddilyniant o beintiadau gan Edward Hopper. Tocynnau: Gwin a mynediad am ddim

Nos Fercher 16 Mehefin, 7pm

Gordon Stuart - Studies for Portraits Lansio arddangosfa o frasluniau gan Gordon Stuart, a anwyd yng Nghanada, ond sydd bellach yn byw yn Abertawe, o’r nifer o ysgrifenwyr sydd wedi ymweld â Chanolfan Dylan Thomas y mae ef wedi eu peintio yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, ers i’w ddiddordeb mewn peintio ysgrifenwyr ddechrau gyda’i bortread olaf o Dylan Thomas ychydig cyn marwolaeth y bardd. Tocynnau: Gwin a mynediad am ddim Nos Iau 24 Mehefin

Beirdd a Cherddoriaeth yn y Siop Lyfrau

Clare Potter

Dave Jones a’i ffrindiau gyda Clare Potter, yn ogystal â‘r sesiwn meic agored arferol hefyd. Bydd y pianydd o Abertawe, Dave, yn lansio ei CD newydd sy’n cynnwys gosodiadau o gerddi gan y bardd o’r Coed-duon, Clare Potter. Tocynnau: £5-00 ond gellir hawlio £2-00 oddi ar bris CD ar y noson. Nos Fercher 7 Gorffennaf, 7pm

Noson Terry Hetherington Bydd trydedd noson goffáu ar gyfer yr ysgrifennwr a’r bardd o Gastell-nedd, y diweddar Terry Hetherington, yn nodi cyhoeddiad Cheval 3 - detholiad o waith gan ac am Terry. Bydd darlleniadau a theyrngedau gan ei ffrindiau, a gwobrwyo ail Fwrsariaeth Terry Hetherington i ysgrifennwr dawnus, ifanc o Gymru. Tocynnau: Am ddim Nos Wener 9 Gorffennaf – 7.30pm

The Shoeshine gan Richard Lloyd Mae’r sgleinwir sgidiau wedi bod wrth ei waith ers mwy na deugain mlynedd yng Nghyntedd Gorsaf Drenau Sussex. Nid oes llawer yn talu sylw iddo, wrth iddo ef sylwi ar bob manylyn y byd sy’n mynd heibio iddo. Efallai y bydd pobl sy’n ymweld ag ef yn cael ei fod yn gwybod llawer mwy Richard amdanynt, a hynny braidd yn annifyr. Mae’r ddrama ddwy act hon gan yr Lloyd ysgrifennwr o Abertawe, Richard Lloyd, yn estyniad ar gynhyrchiad llwyddiannus mis Tachwedd diwethaf, gyda Richard ei hun fel y Sgleiniwr Sgidiau, ac yn cyflwyno Julie-Anne Grey, Cathy Morris a Rob Stradling. Pob tocyn: £5-00

4

Mai - Awst 2010


Dydd Sadwrn 24 Gorffennaf a dydd Sadwrn 21 Awst Y ddau am 1pm

Theatr Amser Cinio Dydd Sadwrn One State of Happiness - Cwmni Theatr Fluellen One State Of Happiness yw sut y disgrifiodd Dylan Thomas ei gyfnod yn byw yn Nhyˆ‘r Cychod yn Laugharne. Dychwela Fluellen gyda’r olwg hon ar flynyddoedd hapusaf - ac olaf - bywyd y bardd, drwy eiriau ei deulu, ei ffrindiau ac wrth gwrs, Dylan ei hun. Pob tocyn: £5-00 Nos Iau 29 Gorffennaf, 7.30pm

Poets in the Bookshop – Joe Dunthorne Y gwestai fydd yr aml-dalentog Joe, a anwyd yn Abertawe, a rhoddwyd ei nofel gyntaf, Submarine, ar restr hir Gwobr Dylan Thomas, ymhlith eraill. Bu Joe hefyd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Stori fer y BBC, a bydd yn darllen o’i gasgliad gyntaf o farddoniaeth o’r gyfres Faber New Poets. Tocynnau: Pris Llawn £4.00 Consesiynau £2.80 PTL Abertawe £1.60 Dydd Sadwrn 31 Gorffennaf, 1pm

Theatr Amser Cinio Dydd Sadwrn Throw away your bed socks Pwy sy’n dehongli barddoniaeth orau? Y bardd neu’r darllenydd? A ddylai barddoniaeth gael ei darllen neu ei chlywed? Gan ddefnyddio cerddi Dylan Thomas fel sylfaen, mae Adrian Metcalfe – a welwyd yn fwyaf diweddar fel Daniel Jones yn y Warmley cymeradwy - yn gofyn y cwestiwn - ydy hi’n well bod yn Mog Edwards nag Eli Jenkins? Pob tocyn: £5-00

Adrian Metcalfe

Dydd Sadwrn 7 a 14 Awst - Y ddau am 1pm

Theatr Amser Cinio Dydd Sadwrn - The Tongue of the Wave - Cwmni Theatr Fluellen Cipolwg newydd Fluellen i fywyd a gwaith bardd mawr arall Abertawe, Vernon Watkins, a ddisgrifiwyd gan ei ffrind, Dylan Thomas, fel “y Cymro mwyaf dwfn a medrus sy’n ysgrifennu cerddi yn Saesneg” Pob tocyn: £5-00 Dydd Sadwrn 28 Awst, 1pm

Theatr Amser Cinio Dydd Sadwrn Dylan in America – Peter Read

Peter Read

Un cyfle eleni i weld campwaith trasiedi-gomedi gwych a hynod boblogaidd Peter. Hanes angheuol teithiau melys-chwerw Dylan i America. Pob tocyn: £5-00

Rhaglen Lenyddiaeth

5


ANGOSFEYDD 18 Mai – 13 Mehefin

Beth Mitchell – For the love of the game Ffocws ffotograffau’r arddangosfa hon yw Uwch Gynghrair Cymru, gan archwilio themâu ysbryd cymuned, ffyddlondeb a hunaniaeth y Cymry a’r dirwedd. Mae gan bêl-droed yng Nghymru draddodiad hir ac mae blas lleol cryf ym mhob cae. Mae gan bob clwb hanes balch, naws unigryw a chymeriadau ymroddedig sy’n teithio i sefyll ar y teras oer gyda phastai a Bovril ym mhob llaw. 15 Mehefin – 11 Gorffennaf

Gordon Stuart - Studies For Portraits Daeth Gordon Stuart yn artist preswyl Canolfan Dylan Thomas ym 1995. Mae ganddo fwy o bortreadau mewn casgliadau rhyngwladol nag unrhyw artist Cymreig arall sy’n fyw heddiw. Mae’r prisiau’n syfrdanol o isel ac ni ddylid colli’r arddangosfa hon. 13 Gorffennaf – 8 Aws

Valerie Ganz - Brasluniau o Gerddorion Gw ˆ yl Gw ˆ yr ‘Daeth y gwahoddiad i fynd i rihyrsals ar gyfer Gw ˆ yl Gw ˆ yr 2009 yn dilyn sylw ffwrdd â hi a wnes y llynedd, fy mod i wedi gweithio gyda Jazz am flynyddoedd ac y byddwn yn gwerthfawrogi’r cyfle o weithio gyda cherddorion clasurol. Treuliais bythefnos hyfryd yn astudio’r cerddorion wrth iddynt fireinio’u perfformiadau i’r cyngherddau... profiad gwefreiddiol, ac roeddwn i’n gwerthfawrogi eu parodrwydd wrth ganiatáu i mi ddod mor agos atynt pan oeddent wrth eu gwaith.’ Valerie Ganz 10 Awst – 5 Medi

Lluniadau gan Alan Bicknell

22/23 Mai

Cwrs Dramodydd: Mae Peter Read, y dramodydd, y bardd a'r actor o Abertawe, yn cynnal Gweithdy deuddydd poblogaidd arall, From Page to Stage, ar 22/23 Mai yng Nghanolfan Dylan Thomas. Cost £60. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Peter ar  07931614180 or petersamread@hotmail.co.uk neu anfonwch amlen â'ch cyfeiriad a stamp arni i 14 Heol Overland, Y Mwmbwls, Abertawe, SA3 4LS.

6

Canolfan Dylan Thomas Somerset Place, Abertawe SA1 1RR  01792 463980  www.dylanthomas.com Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y manylion yn y rhaglen hon yn gywir, ond mae Dinas a Sir Abertawe yn cadw’r hawl i newid unrhyw ran o’r rhaglen hon heb rybudd.

Cefnogir gan: hybu llên literature promotion

CYNGOR LLYFRAU CYMRU WELSH BOOKS COUNCIL

Mai - Awst 2010

24222-10 Designprint

Y DIWEDDARAF!!!!!


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.