Oriel Gelf Glynn Vivian Art Gallery
Croeso i Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe Ers ei sefydlu ym 1911, mae'r oriel wedi llunio casgliad sylweddol gydag arddangosfeydd yn cael eu hategu gan arddangosfeydd a rhaglenni dysgu deinamig
Y Casgliad Amrywiaeth eang o'r celfyddydau gweledol, o waith hen feistri i artistiaid cyfoes, gyda chasgliad o borslen rhyngwladol a tsieni Abertawe
Enwyd yr Oriel Gelf ar ôl ei sefydlydd a’i phrif noddwr, Richard Glynn Vivian. Fe’i ganed ym Medi 1835 yn bedwerydd mab i berchnogion cefnog y ffatri gopr fwyaf yn Abertawe, prifddinas smeltio copr Prydain y cyfnod hwnnw. Cyfrannodd y teulu Vivian yn sylweddol at fywyd masnachol, cymdeithasol a diwylliannol y ddinas
R E Pfeninger Portrait of Richard Glynn Vivian, 1882 olew ar gynfas, 88.2 x 67.7 cm Thomas Jones (1742-1803) Ruined Buildings Naples, c. 1782, olew ar bapur, 24.5 x 39.7 cm
Argraffiadaeth yn dod i'r Oriel Ym 1911, cyflwynodd François Depeaux, diwydiannwr Ffrengig o Rouen, gyda chysylltiadau busnes cryf ag Abertawe a chyfaill i Richard Glynn Vivian, chwe phaentiad o ‘Ysgol Rouen’ i'r casgliad
Joseph Delattre (l858-1912) Vielles Maisons (Hen Dai), heb ddyddiad, olew ar gynfas 75.4 x 90.3cm. Rhan o rodd François Depeaux
Claude Monet (1840-1926) Bateaux en Hollande près de Zaandam (Cychod yn Holand ger Zaandam), 1871 olew ar gynfas 35.2 x 71cm. Rhoddwyd ym 1974 gan Lywodraeth EM (Y Drysorlys) yn lle trethi etifeddiaeth
Un o gyfres o 35 gwaith a baentiwyd gan yr Argraffiadydd Ffrengig enwog hwn pan oedd yn byw gyda'i wraig a'i blentyn yn yr Iseldiroedd yn ystod 1871
Lucien Pissarro (1863-1944) Cefn Bryn, Gower, 1933, olew ar gynfas, 47.3 x 55 cm
Paentiodd Lucien Pissarro yr olygfa hon o Gefn Bryn o Gastell Pennard, wrth ymweld ag ardal Abertawe ym 1933. Ac yntau'n fab hynaf yr Argraffiadydd enwog Camille Pissarro, bu Lucien yn byw yn Lloegr am 50 mlynedd. Bu'n aelod o'r New English Art Club a'r Camden Town Group lle cafodd ddylanwad mawr ar artistiaid Prydeinig ifanc y cyfnod, gan gynnwys Walter Sickert, Percy Wyndham Lewis ac Augustus John, sydd hefyd yn cael eu cynrychioli yn y casgliad yn yr oriel hon
Ciwbiaeth – Dyfodoliaeth – Swrealaeth – Celf Haniaethol – Adeileddiaeth Yn gynnar yn yr 20fed ganrif, roedd y DU yn byrlymu o syniadau, wedi'u hysbrydoli gan yr arddangosfeydd ac artistiaid niferus o dramor ar ymweliadau, a gyflwynodd garfanau gwahanol Moderniaeth Ben Nicholson (1894-1982) October 12 1952, olew a phensil ar fwrdd, 29.5 x 23.3 cm © Angela Verren Taunt 2008. Cedwir pob hawl, DACS
Ynghyd â Henry Moore, adfywiodd Barbara Hepworth gelfyddyd cerflunio yn y DU yn yr 20fed ganrif
Barbara Hepworth (1903-1975) Curved form with Inner form – anima, 1959, efydd, 62.5 x 40 x 68 cm © Bowness, Ystâd Hepworth
Roedd Barbara Hepworth a Ben Nicholson, ei gwr, ˆ yn rhan o fudiad Haniaeth Ewropeaidd prif ffrwd a byddent yn ymweld â Pharis yn ystod y 1930au, lle byddent yn cwrdd yn rheolaidd â Picasso, Gabo, Brâncus¸i a Mondrian. Ym 1939 fe symudon nhw i St Ives gan helpu i sefydlu Ysgol St Ives. Ynghyd â Henry Moore (1898-1986), Hepworth a Nicholson oedd y genhedlaeth gyntaf o artistiaid Modern y DU
"Lliwiau yw'r allweddell, y llygaid yw'r morthwylion, yr enaid yw'r piano â llawer o dannau. Yr artist yw'r llaw sy'n chwarae, gan gyffwrdd â'r naill allwedd neu'r llall, er mwyn creu dirdyniadau yn yr enaid" Wassily Kandinsky - ‘Concerning the Spiritual in Art’ 1911
Credai Ceri Richards mewn undod sylfaenol yn y celfyddydau; cafodd rhai o'i weithiau gorau eu hysbrydoli gan gerddi Dylan Thomas a cherddoriaeth Debussy. Ganwyd Richards yn Nyfnant ger Abertawe ac enillodd glod rhyngwladol yn ystod ei fywyd
Ceri Richards (1903-71) Do Not Go Gentle into that Good Night, 1965, dyfrlliw a chyfryngau cymysg ar bapur, 77 x 56.7 cm © Ystâd Ceri Richards/DACS 2008
"Mae cerddoriaeth yn arbennig o arwyddocaol i mi ac yn symud yn gyfochrog â'm cariad at baentio a'r gwaith o baentio - yn barhaus" Ceri Richards –1960
Ceri Richards (1903-71) The Pianist, 1948, olew ar gynfas, 63 x 76 cm © Ystâd Ceri Richards/DACS 2008
Gyda phortread, rydych yn cael profiad uniongyrchol o unigolion, efallai o amser, neu le neu ddiwylliant arall
Roedd Augustus John yn baentiwr eithriadol ac yn ddyluniwr rhagorol. Fe'i ganwyd yn Ninbych y Pysgod, Sir Benfro ac astudiodd yn Ysgol Gelf Llundain ar yr un pryd â'i chwaer, Gwen. Mae The Tutor yn bortread o John Hope-Johnstone, a addysgodd blant John ym Mhlas Alderney, Dorset
Augustus John (1878-1961) The Tutor, c. 1911, olew ar banel, 52.9 x 41.6 cm © Trwy ganiatâd Ystâd Augustus John/ The Bridgeman Art Library
Gwen John (1876-1939) Little Girl Wearing a Straw Hat, c. 1910au, gouache, 21.7 x 17 cm © Ystâd Gwen John. Cedwir pob hawl, DACS 2008
A hithau'n cael ei hystyried gan lawer o feirniaid fel un o artistiaid mwyaf ei hoes, cafodd Gwen John ei magu yn Ninbych y Pysgod ac astudiodd yn Ysgol Gelf Slade yn Llundain, gan fyw yn Ffrainc o'r 1900au cynnar. O dan nawdd Whistler ym Mharis, datblygodd diddordeb mewn arlliwiau a gwead. Dros y blynyddoedd, mireiniodd ei thechneg unigol iawn a'i gweledigaeth tra gwreiddiol yn gynyddol gan gyrraedd uchafbwynt gyda darnau o geinder a sensitifrwydd mawr
Mae'r oriel yn enwog am ei chasgliad o grochenwaith a phorslen o Abertawe Mae hefyd yn cynnwys sawl enghraifft o grochenwaith a phorslen Cymreig, Seisnig, Ewropeaidd a Dwyreiniol, a brynwyd gan Richard Glynn Vivian, sef craidd casgliad llawer mwy helaeth erbyn hyn
Dros y blynyddoedd, trwy roddion a chaffaeliadau a chefnogaeth ddi-ffael Cyfeillion Glynn Vivian, mae'r casgliad yn parhau i ddatblygu I gael mwy o wybodaeth am Gyfeillion Glynn Vivian ewch i www.glynnviviangallery.org neu cysylltwch â derbynfa'r oriel
Thomas Rothwell (1740-1897) The Betsey Ship Plate, 1800, llestri pridd printiedig Crochenwaith Cambrian, Abertawe, 24.7cm o ddiamedr
Franz Anton Bustelli (1754-63) The Tempestuous Lovers, 1760, porslen past caled Nymphenburg, 14.4cm o uchder
Craig Wood (g.1960) Carmarthen-Leeds Return, 2000, acrylig ar bluen mewn ffrâm 33cm x 27 cm © Yr Artist. Enillydd Gwobr Brynu Richard a Rosemary Wakelin, 2003. Gwobr flynyddol a gefnogir gan y Cyfeillion
Thomas Baxter (1782-1821) The Jubal Cup, c. 1814-1817, porslen Crochenwaith Cambrian, Abertawe 8.4 cm
Erbyn heddiw ystyrir Franz Anton Bustelli yn brif artist porslen Rococo. Mewn llai na 9 mlynedd yn Nymphenburg, creodd tua 150 o fodelau, gan gynnwys ei ffigurau bydenwog o'r Commedia dell'Arte
Richard Monahan (g.1979) Portrait with Pencil, 2005, lluniad olew, 170cm x 120 cm © Yr Artist. Enillydd Gwobr Artistiaid Ifanc Syr Leslie Joseph a roddwyd gan y Cyfeillion yn 2006. Gwobr bob yn ail flwyddyn yw hon a gefnogir gan y Cyfeillion
Shani Rhys James (g.1953) Head I, II & III, 2002, y cyfan yn olew ar liain 31 x 15 cm © Shani Rhys James. Cedwir pob hawl, DACS 2008. Prynwyd yn 2003 gyda chymorth Cronfa Grantiau Prynu Adnoddau/V+A a Chyfeillion Glynn Vivian
Arddangosfeydd Dysgu Siop Lyfrau
Shimabuku (g.1969), Swansea Jack Memorial Dog Swimming Competition, 2003, trefnwyd gan Oriel Gelf Glynn Vivian Š Yr Artist
Rhaglen arddangosfeydd ddeinamig sy'n rhoi cyfle i artistiaid yng Nghymru gyflwyno eu gwaith mewn cyd-destun lleol, cenedlaethol a rhyngwladol Rhoddir pwyslais ar y berthynas rhwng materion lleol a byd-eang a chaiff hyn ei adlewyrchu hefyd yn y gwahoddiadau a roddir i artistiaid lleol a rhyngwladol i arddangos a chreu gwaith wrth ymateb i ddinas Abertawe. Mae'r oriel hefyd yn cynnal arddangosfeydd teithiol cenedlaethol a rhyngwladol o artistiaid cyfoes pwysig yn ogystal â sioeau hanes celf. Mae'r oriel yn cynnal arddangosfeydd celfyddyd gymhwysol gyfoesol bob tri mis ar gyfer artistiaid newydd a datblygol yn ogystal â phobl mwy adnabyddus (Uchod) Peter Finnemore (g.1963) Green Destiny, 2004, ffotograff. O ‘Zen Gardener’ arddangosfa a grëwyd gan Oriel Mostyn Gallery a'i dangos yn Oriel Gelf Glynn Vivian 2005 © Yr Artist (Chwith) Nadín Ospina (g.1960) Idolo con Muñeca (Delw gyda Dol), 2000, Cerflun calchfaen, 42 x 24 x 19 cm Prifysgol Essex, Casgliad o Gelf America Ladin. O arddangosfa Displaced: Contemporary Art from Colombia, sioe a grëwyd gan Oriel Gelf Glynn Vivian 2007 © The Artist
Rut Blees Luxemburg (g.1967) DVLA, 2003, ffotograff. O ‘ffolly’, arddangosfa a grëwyd ar y cyd gan Oriel Gelf Glynn Vivian a Ffotogallery 2003 © The Artist David Clarke (g.1967) Stuff of Nonsense, 2006, plwm. Metel gwyn gwerthfawr a phres plât arian © Yr Artist
Creu awyrgylch cyfeillgar a chefnogol lle gall pobl ifanc ddatblygu dealltwriaeth o fyd celf ac, ar yr un pryd, darganfod eu galluoedd eu hunain trwy weithdai ymarferol
Mae tua 6,000 o blant ysgol a myfyrwyr yn cymryd rhan mewn ymweliadau a drefnir â'r oriel bob blwyddyn, fel rhan o'r Gwasanaeth Addysg 4 safle
Plant yn edrych ar gyfres Nanzino Pece ar gyfer ‘Final Season at the Vetch’, sioe grwp ˆ o ffotograffwyr o Athrofa Addysg Uwch Abertawe 2006
Mae digwyddiadau'n cynnwys artistiaid, curaduron, awduron a sylwebyddion diwylliannol – yn trafod amrywiaeth o faterion wedi'u hysgogi gan arddangosfeydd yr oriel. Yn aml, rydym hefyd yn gwahodd beirdd a cherddorion i roi eu hymatebion penodol eu hunain i'r gwaith celf. Mae teclynnau sain ar gael ar gyfer rhai gweithiau yn yr arddangosfa, gan gynnwys yr artistiaid o Abertawe, Evan Walters (1893-1951) a Ceri Richards (1903-1971) I weld ffilm neu bodlediad o ddigwyddiad, ewch i'n gwefan – www.glynnviviangallery.org
Ensemble In Transit yn perfformio cyngerdd o gerddoriaeth gyfoes mewn ymateb i ‘You’ll Never Know: Drawing and Random Interference’, arddangosfa deithiol Oriel Hayward 2006
Mae'r siop lyfrau yn gwerthu'r cyhoeddiadau diweddaraf ar Gelf Gyfoes, Ffotograffiaeth, Celf Gymhwysol, Pensaernïaeth, Ffasiwn a Dylunio a Hanes a Theori Celf
Cynllun yr Oriel
PRIF ORIEL
GWYBODAETH
ORIELAU’R CASGLIADAU
LLAWR CYNTAF
YSTAFELL ADDYSG
ORIEL YSTAFELL 1
Am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau, holwch yn nerbynfa'r oriel, neu ewch i www.glynnviviangallery.org N
BERL L A
R
S T RY D F AW
A
L
D Y
HEO
AD
ST RY
D
RO
DERBYNFA M4
GWYBODAETH
›
FFORD F AB I A N
AD
E
IN
PA R
AY
Y
GW
ORIEL GREFFTAU
YN
T
QU
R
EN
N
YD
FFO
R Y B DD
A
STR
Dinas a Sir Abertawe. Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn cydnabod yn ddiolchgar gefnogaeth ariannol Cyfeillion y Glynn Vivian a Chyngor Celfyddydau Cymru
X
RA
ALLANFA
ATRIWM
T
Os ydych am dderbyn yr wybodaeth hon mewn fformat arall, cysylltwch â’r Oriel. Mae’r llyfryn hwn ar gael yn Saesneg.
LE
CU
Llawr gwaelod; mynediad cyfyngedig i’r llawr uchaf; toiledau hwylus; intercom y brif fynedfa yn cynnwys arwydd cyffyrddol/braille.
SIOP LYFRAU
GORSAFF REILFFORDD
ORIEL GELF G LY N N VIVIAN
Clawr Blaen: Mark Wallinger (1959) Ecco Homo, 1999, resin wedi’i farmoreiddio, haen aur, gwifren farfog – maint dynol (Gosodwyd yn Oriel Glynn Vivian yn 2002). © Yr Artist, trwy garedigrwydd Oriel Anthony Reynolds, Llundain. Ffotograffiaeth Charles a Patricia Aithie, David Clarke, Peter Finnemore, Rut Blees Luxemburg, Graham Matthews, Noguchi Rika © 2008 Oriel Glynn Vivian a’r artistiaid. Gwnaed pob ymdrech i gael caniatâd hawlfraint ar gyfer pob llun yn y cyhoeddiad hwn. Dylunio A1 Design, Caerdydd.
LLAWR GWAELOD
PRIF FYNEDFA
HEOL ALEXANDRA
MYNEDFA Â RAMP
Gwen John (1876-1939) The Nun, c. diwedd y 1910au, olew ar gynfas, 56 x 35.2 cm © Ystâd Gwen John. Cedwir pob hawl, DACS 2008
CITY AND COUNTY OF SWANSEA o DINAS A SIR ABERTAWE
Oriel Gelf Glynn Vivian Art Gallery Heol Alexandra Abertawe SA1 5DZ Ffôn: 01792 516900 e-bost: glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk www: glynnviviangallery.org Ar agor ddydd Mawrth i ddydd Sul 10am - 5pm Ar gau bob dydd Llun (ac eithrio Gwyliau Banc) Mynediad am Ddim