Cylchlythyr Ceidwaid Parc Iau

Page 1

Hydref 2009

Helo i'r CPI!

Ffrwythau’r Hydref

Gobeithio y cafodd pob un ohonoch haf gwych a chyfle i fynd allan i'r awyr agored a mwynhau un o'r parciau gwych sydd gennym yn Abertawe. Mae'r Clwb Ceidwaid Parc Iau yn mynd o nerth i nerth a bellach rydym wedi torri'r record ar gyfer nifer yr aelodau newydd. Yr hydref yw hi nawr, hoff dymor y flwyddyn i lawer o bobl, ac wrth i’r dail droi eu lliw cawn wledd o liwiau coch, melyn a brown. Ewch i’ch parc lleol i weld faint o ddail o liwiau gwahanol y gallwch eu casglu. Dros y misoedd nesaf, bydd adar megis y wennol yn hedfan i'r de i wledydd cynhesach, gan deithio cannoedd o filltiroedd o Ewrop i Affrica. Efallai y cewch eich synnu faint o adar eraill sy’n gwneud hyn hefyd. Gall hyd yn oed yr adar duon yn eich gardd ym mis Ionawr fod yn ymwelwyr o Ddwyrain Ewrop dros y gaeaf. Yn ein diwrnod gweithgaredd CPI ym mis Tachwedd byddwn yn dangos i chi sut gallwch helpu'r adar yn eich gardd.

Wedi iddynt gael eu peillio gan wenyn a phryfed eraill yn ystod yr haf, mae llawer o goed a phlanhigion gwyllt yn cynhyrchu ffrwyth yn yr hydref.

Cynnwys... Ffrwythau’r Hydref................................1 Cywion elyrch ym Mharc Brynmill .....2 Canlyniadau'r Gystadleuaeth Boster....2 Digwyddiadau’r Hydref CPI .................2 Nos Galan Gaeaf! ..............................3 ‘Be a nice guy’ ....................................3 Pennau Berwr ......................................4 Hwyl a Gemau / Cystadleuaeth .........4

Mae'r rhain yn cynnwys hadau a fydd yn tyfu i greu'r genhedlaeth nesaf o goed. Mae llawer o ffrwythau a hadau yn lliwgar iawn ac yn edrych yn ddengar iawn i'w bwyta. Mewn gwirionedd, dyma un o'u prif ddibenion oherwydd bod anifeiliaid yn bwyta'r ffrwyth, ac yn eu tro'n gwasgaru'r hadau. Tra bod rhai ffrwythau a hadau megis mwyar a chnau cyll yn dda iawn i'w bwyta, byddwch yn ofalus iawn os byddwch yn mynd allan i'w casglu. Ewch gydag oedolyn bob tro oherwydd gall rhai aeron fod yn niweidiol a gellir eu camgymryd yn hawdd am amrywiaethau gwenwynig. Gall hadau eraill megis rhai'r Sycamorwydden a Chastanwydden y Meirch fod yn llawer o hwyl. Taflwch hadau sycamorwydden yn yr awyr a'u gwylio'n suddo’n araf i'r llawr ac yn chwyrlïo fel hofrennydd. Neu, defnyddiwch Gastanwydden y Meirch ar gyfer gêm o goncyrs. Os ydych yn chwarae gêm, ceisiwch sicrhau eich bod ond yn defnyddio concyrs sydd wedi syrthio'n barod, a byddwch yn ofalus wrth chwarae.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.