Choosing Childcare Folder & 4 booklets Steve2 WELSH.:Choosing Childcare Quality Childcare (1) 200x200 04/05/2010 09:59 Page 1
Sut ydych chi’n dewis Gofal Plant o ansawdd da?
<#
Choosing Childcare Folder & 4 booklets Steve2 WELSH.:Choosing Childcare Quality Childcare (1) 200x200 04/05/2010 09:59 Page 2
2
Choosing Childcare Folder & 4 booklets Steve2 WELSH.:Choosing Childcare Quality Childcare (1) 200x200 04/05/2010 09:59 Page 3
Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD) Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn wasanaeth gwybodaeth rhad ac am ddim i BOB rhiant a gofalwr sydd â phlant rhwng 0 a 19 oed. Maent yno i roi gwybodaeth a chyngor i chi i’ch helpu i ganfod a dewis gofal plant. Gallent hefyd eich helpu i ganfod rhagor am yr ystod o wasanaethau i blant, teuluoedd a phobl ifainc sydd ar gael yn eich ardal. Gallwch naill ai ffonio neu ymweld â’ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol i siarad gyda phobl sy’n gallu esbonio pa wasanaethau plant a gofal plant sydd ar gael yn eich ardal a’ch cynghori am unrhyw gefnogaeth ariannol y mae hawl gennych i’w derbyn i’ch helpu i dalu cost eich gofal plant. Nhw yw eich man cychwyn delfrydol os oes gennych unrhyw gwestiynau am unrhyw beth yn ymwneud â’ch teulu. Felly ffoniwch nhw’n gyntaf. Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd i’w gael ymhob awdurdod lleol. Ffoniwch 0300 123 7777 i ganfod yr un sydd agosaf atoch chi. Neu, ewch i’r adran ‘Cysylltiadau Defnyddiol’ ar wefan www.ChwaraeDysguTyfuCymru.gov.uk
*sef Gwasanaethau Gwybodaeth Plant (GGP) gynt
3
Choosing Childcare Folder & 4 booklets Steve2 WELSH.:Choosing Childcare Quality Childcare (1) 200x200 04/05/2010 09:59 Page 4
Sut i ddewis gwasanaeth gofal plant Yn gyntaf, ewch i ymweld â chymaint o ddarparwyr gofal plant ag sy’n bosibl cyn penderfynu pa un yw’r gorau i chi a’ch plentyn, a gwnewch yn siwˆr eu bod wedi’u cofrestru. Yn ail, i’ch helpu i benderfynu, rydym wedi paratoi’r rhestr ddilynol o gwestiynau. Dyma’r cwestiynau y mae pobl eraill wedi’i chael hi’n ddefnyddiol i’w gofyn wrth chwilio am wasanaeth gofal plant.
Cwestiynau i’w gofyn wrth chwilio am wasanaeth gofal plant A oes awyrgylch groesawgar? • Oeddwn i’n teimlo bod croeso i mi? • Faint o sylw gaiff fy mhlentyn? – Ydyn nhw’n gwneud iddo/iddi deimlo’n arbennig?
ddefnyddio’r offer i gyd? • A fydd fy mhlentyn yn cael straeon? Oes llyfrau i edrych arnynt?
Pa gyfleusterau sydd yno?
• Ydy’r gofalwyr/staff yn barod i helpu?
• A oes llawer o deganau ac offer chwarae addas?
A yw hwn yn lle sy’n ysbrydoli plentyn?
• A oes lle iddynt chwarae tu allan?
• A oes arwyddion amlwg bod y plant yn cael hwyl a’u bod yn cael eu hysbrydoli, er enghraifft lluniau ar y wal, wynebau hapus, ac ati?
• Sut maent yn defnyddio’r teledu neu gemau cyfrifiadur?
• Pa raglen o weithgareddau sy’n cael ei chynnig? – A oes amrywiaeth ac ysgogiad? – Ydy’r gweithgareddau’n heriol ac yn ddiddorol? • Ydy’r merched a’r bechgyn yn cael eu hannog i gymryd rhan ymhob gweithgaredd ac i 4
• Beth am y prydau bwyd? – Os oes gan fy mhlentyn anghenion dietegol arbennig, ydyn nhw’n gallu darparu ar gyfer y rhain? • A all y gwasanaeth ddarparu darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg? • A oes darpariaeth ar gyfer anghenion arbennig?
Choosing Childcare Folder & 4 booklets Steve2 WELSH.:Choosing Childcare Quality Childcare (1) 200x200 04/05/2010 09:59 Page 5
Ydyn nhw’n ofalgar?
• Sut mae staff yn annog ymddygiad da?
• Ydy’r lle’n hyblyg ynghylch y cyfnod ymgartrefu ar gyfer fy mhlentyn? – Allwn i aros gyda’m plentyn i’w helpu i ymgartrefu?
• Wrth ystyried gwarchodwyr plant, gofynnwch i gael gweld eu portffolio a’u tystlythyrau. Yn gyfreithiol, dyma’r gymhareb ofynnol o staff i blant:
• A gaf i’r cyfle i ganfod sut mae fy mhlentyn yn ymgartrefu ac yn mynd yn ei f / blaen? – A oes unrhyw ffyrdd systematig o wneud hyn?
Oedran y Plant
Nifer yr oedolion
Nifer y plant
Dan 2 oed
1
3
• A fydd fy mhlentyn yn cael amser distaw ar ei ben/phen ei hun os bydd ei angen?
2–3
1
4
3- 8
1
8
• A oes cyfnodau gorffwys hyblyg? • Pa systemau sydd yno ar gyfer triniaeth feddygol mewn argyfwng a chymorth cyntaf? • Beth am hyfforddi i fynd i’r toiled a beth sy’n digwydd os bydd fy mhlentyn yn cael damwain?
Beth am y staff? • Pa gymwysterau sydd gan y gofalwyr / staff? (Mewn mannau sydd wedi’u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) mae gofynion penodol ynglyˆn â lefel y cymwysterau y dylai’r staff eu cael.) • A oes cyfle i’r gofalwyr/staff gael hyfforddiant parhaus? • A yw’r gofalwyr/staff yn cyfranogi yng ngweithgareddau’r plant? • Faint o ofalwyr a faint o blant sydd yn y lle? • Sut mae’r staff yn siarad gyda’r plant e.e. ydyn nhw’n amyneddgar ac yn ystyriol?
Cwestiynau eraill • Beth yw strwythur y diwrnod? • A oes tripiau a theithiau allan? • Beth yw’r trefniadau ar gyfer bwcio? • A gaiff fy mhlentyn ddod â phethau o adref i’w helpu i ymgartrefu? • Sut gyfleusterau mynediad a pharcio sydd yno? • Faint fydd cost y gofal plant? Am beth fydd y ffi’n talu e.e. tripiau, bwyd, gofal yn ystod y gwyliau ac ati? Yn olaf, unwaith y byddwch wedi dod o hyd i wasanaeth gofal plant yr ydych yn hapus ag o, ceisiwch gael cyfnod o ymgartrefu drwy ymweld am gyfnodau byr gyda’ch plentyn. Bydd hyn yn helpu’r ddau/ddwy ohonoch i deimlo’n fwy hyderus a chyfforddus. 5
Choosing Childcare Folder & 4 booklets Steve2 WELSH.:Choosing Childcare Quality Childcare (1) 200x200 04/05/2010 09:59 Page 6
Mathau o ofal plant Cofrestredig Rhaid i unrhyw un sy’n darparu gofal plant i blant dan 8 oed am fwy na 2 awr y diwrnod ac sy’n cael eu gwobrwyo am hynny, fod yn gofrestredig gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC).
Mae’r gwasanaethau cofrestredig yn cynnwys: • gwarchodwyr plant • meithrinfeydd dydd • gofal cofleidiol (cyfeirir atynt yn aml fel cylchoedd chwarae mwy / Meithrin Mwy) • cylchoedd chwarae mwy / cylchoedd meithrin mwy • addysg ran amser i blant 3 a 4 oed • clybiau gofal plant tu allan i oriau ysgol • cynlluniau chwarae mynediad agored
Ffoniwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd i gael y rhestr ddiweddaraf o’r darparwyr gofal plant cofrestredig yn eich ardal. Ffoniwch 0300 123 7777. 6
Choosing Childcare Folder & 4 booklets Steve2 WELSH.:Choosing Childcare Quality Childcare (1) 200x200 04/05/2010 09:59 Page 7
1. Gwarchodwyr plant Mae gwarchodwyr plant yn ddarparwyr gofal dydd sy’n gweithio yn eu cartrefi eu hunain yn gofalu am blant. Maent wedi eu lleoli yn y gymuned, sy’n golygu y gall plant fynd i gylchoedd chwarae / cylchoedd meithrin, grwpiau rhieni a phlant bach, clybiau neu ymweld â ffrindiau. Cyfrifoldebau a Chofrestru
Ffioedd a Hyblygrwydd
Mae gwarchodwyr plant yn gyfrifol am ddiogelwch eich plentyn yn ogystal â’u datblygiad emosiynol a chorfforol. Dylent ddarparu cymysgedd o brofiadau dysgu a chwarae y tu mewn a’r tu allan i’r cartref.
Mae gwarchodwyr plant yn hunangyflogedig ac yn gosod eu ffi eu hunain. Gallent gynnig gofal plant hyblyg, drwy’r flwyddyn gron, yn llawn amser neu’n rhan amser a’r tu allan i oriau’r ysgol. Gallent edrych ar ôl hyd at 6 o blant o wahanol oedrannau ar yr un pryd a gallent felly ofalu am frodyr a chwiorydd gyda’i gilydd.
Mae’n rhaid i bob gwarchodwr plant fod yn gofrestredig ac wedi’u harchwilio gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC), a fydd yn gwirio pa mor addas ydyn nhw, eu cartref a phawb dros 16 oed sy’n byw yn y tyˆ.
Mae’n rhaid i warchodwyr plant gael: • tystysgrif cofrestriad wedi'i ddyfarnu gan AGGCC • tystysgrif yswiriant atebolrwydd cyhoeddus Mwy o wybodaeth: Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd: 0300 123 7777 Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC): 01443 848450 cssiw@wales.gsi.gov.uk www.aggcc.org.uk Cymdeithas Genedlaethol Gwarchod Plant (NCMA): 0800 169 4486 info@ncma.org.uk www.ncma.org.uk 7
Choosing Childcare Folder & 4 booklets Steve2 WELSH.:Choosing Childcare Quality Childcare (1) 200x200 04/05/2010 09:59 Page 8
2. Meithrinfeydd dydd Mae meithrinfeydd dydd yn darparu gofal plant ac addysg gynnar gofrestredig i blant ifanc o’u genedigaeth hyd 5 oed. Fel arfer maent yn agor yn gynnar yn y bore hyd oriau hwyr y prynhawn, o ddydd Llun i ddydd Gwener, drwy’r flwyddyn gron. Maent yn cynnig amgylchedd ysgogol, diogel a gofalgar naill ai fel gofal diwrnod llawn neu ran amser i fabanod a phlant cyn-ysgol. Mae rhai hefyd yn darparu gofal cyn ac ar ôl ysgol ac yn y gwyliau i blant hyˆ n hefyd. Mae’n rhaid i feithrinfeydd dydd:
Ffioedd
• fod yn gofrestredig gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) a chael eu harolygu ganddynt • ddal tystysgrif cofrestru wedi’i chyhoeddi gan AGGCC • ddal tystysgrif yswiriant atebolrwydd cyhoeddus • ddal tystysgrif hylendid bwyd briodol
Mae’r mwyafrif o feithrinfeydd yn cael eu rhedeg gan sefydliadau preifat neu wirfoddol a bydd y ffioedd yn amrywio ar draws y wlad. Mae modd cael cefnogaeth gyda chostau gan Gredydau Treth, Talebau Gofal Plant a lleoedd rhan amser rhad ac am ddim i bob plentyn 3 oed.
Mae Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd yn darparu cyngor rhad ac am ddim i rieni ynghylch dewis meithrinfa a thalu am ofal plant, drwy adran arbennig i rieni ar ei gwefan www.ndna.org.uk. Mae meithrinfeydd dydd wedi’u cefnogi a’u cynrychioli gan y Gymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd. Mae llawer iawn o feithrinfeydd dydd cyfrwng Cymraeg yn aelodau o ac yn cael eu cefnogi gan Mudiad Ysgolion Meithrin.
Bwyd a byrbrydau Mae gan y mwyafrif o feithrinfeydd dydd gyfleusterau i baratoi bwyd a byrbrydau i’r plant sydd dan eu gofal. Dylent gynhyrchu bwydlen 3 wythnos o leiaf o fwyd o safon a darparu byrbrydau sy’n cyfateb â hyd y diwrnod y mae’r plentyn yn ei fynychu.
Mwy o wybodaeth: Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd: 0300 123 7777 Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd (NDNA): 01824 707 823 www.ndna.org.uk 8 Mudiad Ysgolion Meithrin (MYM): 01970 639639 www.mym.co.uk
Choosing Childcare Folder & 4 booklets Steve2 WELSH.:Choosing Childcare Quality Childcare (1) 200x200 04/05/2010 09:59 Page 9
3. Cylchoedd chwarae / Cylchoedd Meithrin Mae Cylchoedd chwarae’n darparu’n bennaf i blant 2½ i 5 oed, am 2 i 3 awr fel arfer yn y bore neu’r prynhawn ac yn ystod y tymor gan fwyaf. Maent yn cynnig amgylchedd diogel a chyffrous lle mae plant yn chwarae, dysgu a chymdeithasu â’i gilydd. Caiff cylchoedd chwarae eu datblygu a’u cefnogi gan Gymdeithas Darparwyr Cyn-ysgol Cymru, sy’n elusen gofrestredig. Mae llawer o Gylchoedd Chwarae’n cynnig cyflwyniad i blant ifanc i’r iaith Gymraeg. Mae staff a gwirfoddolwyr yn cael eu hannog yn frwd i ddatblygu a rhannu eu sgiliau iaith Gymraeg. Mae rhieni a gofalwyr yn ymroi’n egnïol i redeg cylchoedd chwarae ac yn aml yn ymuno â’u pwyllgorau rheoli. Mae Cylchoedd Meithrin yn gylchoedd chwarae cyfrwng Cymraeg sy'n rhoi cyfle i blant ddysgu trwy chwarae. Mae croeso i blant o gartrefi di-Gymraeg fynychu'r Cylchoedd Meithrin ac
mae modd iddynt elwa trwy ddod yn ddwyieithog. Cefnogir y Cylchoedd Meithrin gan Mudiad Ysgolion Meithrin (MYM), sy'n fudiad gwirfoddol cenedlaethol.
Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd Mae’r Gymdeithas Darparwyr Cyn-ysgol Cymru (Cymru PPA) a Mudiad Ysgolion Meithrin (MYM) yn cynnig gwybodaeth, cefnogaeth a hyfforddiant yn ogystal â chynlluniau cyfeirio i integreiddio plant sydd ag anghenion addysgol arbennig ac anabledd mewn cylchoedd chwarae lleol.
Mwy o wybodaeth: Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd: 0300 123 7777 Cymdeithas Darparwyr Cyn-ysgol Cymru: sharmanm@walesppa.org www.walesppa.org 01686 624 573 Mudiad Ysgolion Meithrin: 01970 639639 post@mym.co.uk www.mym.co.uk 9
Choosing Childcare Folder & 4 booklets Steve2 WELSH.:Choosing Childcare Quality Childcare (1) 200x200 04/05/2010 09:59 Page 10
4. Gofal Cofleidiol (cyfeirir ato yn aml fel Cylchoedd Chwarae Mwy / Meithrin Mwy) Cynigir Gofal Cofleidiol mewn mannau o Gymru fel estyniad i'r Cylch Chwarae/Cylch Meithrin a Darpariaeth Addysg Feithrin yr Awdurdod Lleol. Cynigir y gwasanaeth yma mewn cydweithrediad 창 phartner arall, fel rheol gyda'r ysgol gynradd leol. Gall grwpiau weithredu am hyd at 4 awr y diwrnod, ond gall rhieni gael estyniad i'r ddarpariaeth yn yr ysgol gynradd leol. Cynhelir y sesiynau yn yr ysgol yn y bore neu yn y prynhawn. Cefnogir y grwpiau hyn gan Cymru PPA neu Mudiad Ysgolion Meithrin (MYM) yn yr un modd ag y cefnogir Cylchoedd Chwarae / Cylchoedd Meithrin. Fel y Cylchoedd Chwarae /Cylchoedd Meithrin eraill, gellir cynnal y gwasanaeth mewn neuaddau cymunedol neu eglwysi/capeli neu yn yr ysgolion. Mae Meithrin Mwy yn gylchoedd meithrin estynedig sy'n darparu addysg a gofal blynyddoedd cynnar o safon trwy gyfrwng y Gymraeg. Maent yn cael eu cefnogi gan Mudiad Ysgolion Meithrin (MYM).
Mwy o wybodaeth: Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd: 0300 123 7777 Cymdeithas Darparwyr Cyn-ysgol Cymru: sharmanm@walesppa.org www.walesppa.org 01686 624 573 Mudiad Ysgolion Meithrin: 01970 639639 post@mym.co.uk www.mym.co.uk 10
Choosing Childcare Folder & 4 booklets Steve2 WELSH.:Choosing Childcare Quality Childcare (1) 200x200 04/05/2010 09:59 Page 11
5. Addysg ran amser i blant 3 a 4 oed Mae gan bob plentyn yr hawl i le mewn addysg gynnar o ansawdd da, yn rhan amser ac yn rhad ac am ddim mewn safle cymeradwy yn y tymor ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed. Mae rhan amser yn golygu o leiaf 10 awr yr wythnos, am oddeutu’r un nifer o wythnosau â’r flwyddyn ysgol arferol. Gall safle cymeradwy fod yn ysgol, cylch meithrin, cylch chwarae, meithrinfa ddydd neu warchodwr plant sy’n rhan o rwydwaith gwarchod plant y mae ei ansawdd wedi’i sicrhau. Costau Nid oes disgwyl i chi gyfrannu tuag at gost y lleoedd yma. Os yw eich plentyn yn mynychu safle addysg gynnar gymeradwy yn barod pan ddaw’n 3 oed, caiff y ffi ei ostwng. Ond, efallai y bydd raid i chi dalu am unrhyw wasanaethau neu ofal plant ar ben y lle rhan amser rhad ac am ddim mewn addysg.
Cofrestru Caiff bob safle cymeradwy eu harchwilio gan Estyn sef y corff sy’n gyfrifol am hyfforddi a chofrestru arolygwyr addysg feithrin. I gael rhagor o wybodaeth am safleoedd sy’n cynnig lleoedd rhan amser yn rhad ac am ddim, cysylltwch â’ch GGD lleol.
Mwy o wybodaeth: Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd: 0300 123 7777 11
Choosing Childcare Folder & 4 booklets Steve2 WELSH.:Choosing Childcare Quality Childcare (1) 200x200 04/05/2010 09:59 Page 12
6. Clybiau gofal plant tu allan i oriau ysgol Mae clybiau gofal plant tu allan i oriau ysgol yn helpu rhieni neu ofalwyr sy’n gweithio neu’n hyfforddi. Maent yn darparu clybiau brecwast, clybiau ar ôl ysgol, clybiau gwyliau a gofal chwarae cofleidiol i blant oedran ysgol. Cofrestru Mae gan lawer o ysgolion glybiau gofal plant tu allan i oriau ysgol, tra bo clybiau eraill wedi’u seilio mewn neuaddau pentref, canolfannau cymunedol neu feithrinfeydd dydd. Caiff presenoldeb y plant ei gofrestru ac maent yn derbyn byrbryd a diod. Lle bo’n briodol, caiff clybiau eu cofrestru a’u harolygu gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ac mae staff chwarae hyfforddedig neu gymwysedig yn goruchwylio’r gweithgareddau
(un aelod o staff i bob 8 o blant dan 8 oed). Dylai’r amgylchedd chwarae fod yn gyffrous ac amrywiol, gan gynnig gweithgareddau amrywiol megis celf / crefftau, gemau a chwarae corfforol i’r plant ddewis ohonynt. Efallai bod lle distaw ar gyfer darllen a gwaith cartref ar gael hefyd. Caiff plant eu goruchwylio nes daw rhiant neu ofalwr i’w casglu. Weithiau mae gwasanaeth casglu plant ar gael i gymryd plant i’r ysgol o’r clwb a’u casglu o’r ysgol ar ddiwedd eu diwrnod.
7. Cynlluniau chwarae mynediad agored Mae cynlluniau chwarae mynediad agored yn fannau lle mae rhyddid i blant fynd a dod. Mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cofrestru gydag AGGCC os ydynt yn darparu ar gyfer plant dan 8 oed am fwy na 2 awr y diwrnod.
12
Yn ystod gwyliau’r ysgol, mae llawer o awdurdodau diwrnodau gweithgareddau arbennig. I gael manylion lleol yn trefnu neu’n cefnogi cynlluniau chwarae allai cynlluniau chwarae yn eich ardal, cysylltwch â’ch fod yn rhai mynediad agored. Mae rhai awdurdodau Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol. lleol hefyd yn cynnig clybiau bore Sadwrn a Mwy o wybodaeth: Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd: 0300 123 7777 Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs: www.clybiauplantcymru.org 029 2074 1000 Chwarae Cymru: mail@playwales.org.uk www.chwaraecymru.org.uk 029 2048 6050
Choosing Childcare Folder & 4 booklets Steve2 WELSH.:Choosing Childcare Quality Childcare (1) 200x200 04/05/2010 09:59 Page 13
Mathau o ofal plant Heb ei gofrestru Nid oes yn rhaid i’r opsiynau gofal plant dilynol gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC): (Nodwch os gwelwch yn dda, os byddwch yn defnyddio gofal plant sydd heb ei gofrestru neu ei gymeradwyo, ni fyddwch yn gallu hawlio elfen gofal plant y Credyd Treth Gwaith.)
1. Grwpiau rhieni a phlant bach / Cylchoedd Ti a Fi
3. Gwarchodwyr
2. Au pairs
Gwelwch dudalen 14.
4. Cyfeillion ac aelodau’r teulu
Gallent fod heb eu cofrestru Nid yw’r opsiynau gofal plant dilynol wedi’u cofrestru gyda AGGCC fel arfer, ond mae’n rhaid iddynt gofrestru dan amgylchiadau arbennig: 1. Nanis
2. Crèches
Gwelwch dudalen 15. 13
Choosing Childcare Folder & 4 booklets Steve2 WELSH.:Choosing Childcare Quality Childcare (1) 200x200 04/05/2010 09:59 Page 14
Mathau o ofal plant Heb eu cofrestru 1. Grwpiau rhieni a phlant bach / Cylchoedd Ti a Fi Mae Grwpiau Rhieni a Phlant Bach yn darparu ar gyfer plant dan 2½ oed fel arfer. Mae’n rhaid i rieni / gofalwyr aros gyda’u plant, a bod yn gyfrifol amdanynt, felly nid oes raid i grwpiau gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC). Mae’r sesiynau’n caniatáu i rieni a phlant gymysgu gydag eraill a mwynhau amrywiaeth o weithgareddau gwahanol. Mae Cylchoedd Ti a Fi yn galluogi i rieni a gofalwyr chwarae ochr yn ochr â’u plant a chymdeithasu mewn awyrgylch Cymraeg anffurfiol. Croesewir rhieni di-Gymraeg i ddod i'r Cylchoedd Ti a Fi ac maent yn cael eu hannog i ddysgu Cymraeg gyda'u plant gan fwynhau straeon syml, caneuon a hwiangerddi Cymraeg yn ogystal â dysgu brawddegau syml i'w defnyddio gartref.
2. Au pairs Fel arfer mae Au Pairs yn fyfyrwyr 17-27 oed o wlad dramor. Does ganddyn nhw ddim cymwysterau gofal plant fel arfer, felly dydy hi ddim yn syniad da gadael plant sy’n iau nag oedran ysgol dan eu gofal nhw ar eu pennau eu hunain. Mae Au Pairs yn byw fel aelodau o’r teulu er mwyn dysgu Saesneg. Gallent weithio yn y cartref am hyd at 5 awr y dydd ac am hynny cânt ystafell wely, tâl bychan a 2 ddiwrnod 14 llawn yn rhydd bob wythnos.
3. Gwarchodwyr Fel arfer mae gwarchodwyr yn edrych ar ôl y plant tra bo’r rhieni’n mynd allan am y prynhawn neu gyda’r nos. Does dim rhaid i’r gwarchodwr fod yn hyˆn nag oedran penodol yn ôl y gyfraith, ond mae’r NSPCC o’r farn y dylent fod yn hyˆn na 16. Os byddwch yn defnyddio gwarchodwr sy’n iau nag 16 ac mae’r plentyn yn cael anaf, efallai mai chi fydd wedi’ch dal yn gyfrifol. Felly, dewiswch warchodwyr yn ofalus a gofynnwch am dystlythyr gan rywun arall os nad ydych yn nabod y person yn dda. Mae’r daflen ‘Home Alone’ yn rhoi cyngor i rieni sy’n chwilio am warchodwyr. Mae hon wedi’i chyhoeddi gan yr NSPCC ac mae ar gael gan eich Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD) lleol. Os oes gennych gylch gwarchod lleol gerllaw, gallwch rannu dyletswyddau gwarchod gyda rhieni eraill.
4. Cyfeillion ac aelodau’r teulu Gall rhai rhieni ofyn i neiniau a theidiau a pherthnasau eraill neu ffrindiau edrych ar ôl eu plant. Yn aml iawn, mae hyn yn gweithio’n dda iawn, ond dylech feddwl yr un mor ofalus am y math yma o ofal plant ag y byddech am gyfleuster cofrestredig. Os oes rhywun arall heblaw aelod o’ch teulu agos yn edrych ar ôl eich plant yn rheolaidd yn eu cartref eu hunain ac yn cael taliad neu wobr am wneud hynny, mae’n rhaid iddynt gofrestru fel gwarchodwr plant gyda AGGCC.
Choosing Childcare Folder & 4 booklets Steve2 WELSH.:Choosing Childcare Quality Childcare (1) 200x200 04/05/2010 09:59 Page 15
Mathau o ofal plant Gallent fod heb eu cofrestru 1. Crèches Mae crèches yn darparu gofal plant achlysurol i blant tra bo’u rhieni’n siopa, yn mwynhau chwaraeon neu’n astudio ar gwrs, er enghraifft. Disgwylir i rieni aros ar yr un safle, er nad ydynt o anghenraid yn yr un ystafell. Mae’n rhaid i crèche gael eu cofrestru gan AGGCC os yw’n gofalu am blant dan 8 oed am fwy na 2 awr y dydd ac am 6 neu fwy o ddyddiau bob blwyddyn ar yr un safle (hyd yn oed os yw’r plentyn yn mynychu am gyfnodau byrrach).
2. Nanis Mae nanis yn edrych ar ôl plant yng nghartref y teulu. Ar hyn o bryd ni chânt eu rheoleiddio ac nid oes raid iddynt gofrestru gydag AGGCC heblaw eu bod yn gweithio i fwy na 2 deulu. Gall nanis hefyd gofrestru dan y Cynllun Cymeradwy Gofal Plant yng Nghymru i ddod yn weithwyr gofal plant cymeradwy, gan adael i’r teuluoedd y maent yn gweithio iddynt hawlio Elfen Gofal Plant y Credyd Treth Gwaith neu Dalebau Gofal Plant.
I gymryd mwy o ofal fyth, gallwch wirio a yw eich nani’n gymeradwy gan y Cynllun Cymeradwy Gofal Plant yng Nghymru. I gael eu derbyn ar y cynllun, mae’n rhaid i bob nani fod yn gwbl gymwysedig mewn gofal plant a’u hyfforddi mewn cymorth cyntaf. Yn ffodus, byddent hefyd wedi cael eu gwirio gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) i ganfod a ydynt yn addas ar gyfer gweithio gyda phlant. www.childcareapprovalschemewales.co.uk 0844 736 0260
Dyletswyddau Caiff nanis eu cyflogi gan y rhieni a gall eu dyletswyddau amrywio yn ddibynnol ar negodi gyda’r rhieni. Mae’n bwysig trafod yr hyn a ddisgwyliwch gan nani cyn cyflogi un. Fel arfer bydd nanis yn edrych ar ôl pob agwedd o les plentyn. Efallai y byddent yn gwarchod yn rheolaidd ond nid ydynt yn debygol o wneud gwaith tyˆ. Gallent fyw yng nghartref y plentyn neu ddod i’r cartref bob dydd.
Cynllun Cymeradwy Gofal Plant yng Nghymru: 0844 736 0260 www.childcareapprovalschemewales.co.uk. 15
Choosing Childcare Folder & 4 booklets Steve2 WELSH.:Choosing Childcare Quality Childcare (1) 200x200 04/05/2010 09:59 Page 16
Gwirio Safonau ac Ansawdd Gofal Plant Caiff Safonau Gofal Plant eu rheoli gan 2 gorff yng Nghymru: 1. Mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn gyfrifol am reoli gofal dydd yng Nghymru. 2. Mae Estyn yn gyfrifol am reoleiddio darpariaeth addysgol mewn gofal dydd yng Nghymru. Mae’r gwasanaethau cofrestredig yn cynnwys: • gwarchodwyr plant • meithrinfeydd dydd • cylchoedd chwarae / cylchoedd meithrin • gofal cofleidiol • addysg ran amser i blant 3 – 4 oed (heblaw addysg mewn ysgol) • clybiau gofal plant tu allan i oriau ysgol • cynlluniau chwarae mynediad agored
Caiff unrhyw un, heblaw perthynas agos, sy’n darparu gofal plant yng nghartref y plentyn wneud cais i fod yn weithiwr gofal plant cymeradwy. I gael eu cymeradwyo dan y cynllun yma, rhaid i weithwyr gofal plant: • fod yn 18 oed neu’n hyˆn • feddu ar gymhwyster Lefel 2 yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant • gael tystysgrif cymorth cyntaf • fod wedi derbyn cliriad y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) • o fis Hydref 2009 mae gofyn iddynt gofrestru gyda’r Awdurdod Diogelu Annibynnol (ISA).
Ffoniwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd i gael y rhestr ddiweddaraf o’r darparwyr gofal plant cofrestredig yn eich ardal. Ffoniwch 0300 123 7777. 16
Llinell Gymorth Cynllun Cymeradwy Gofal Plant: 0844 736 0260 neu ymwelwch â www.childcareapprovalschemewales.co.uk. Llinell Gymorth yr Awdurdod Diogelu Annibynnol (ISA) 0300 123 1111 www.isa-gov.org.uk
Choosing Childcare Folder & 4 booklets Steve2 WELSH.:Choosing Childcare Quality Childcare (1) 200x200 04/05/2010 09:59 Page 17
Safonau gofynnol cenedlaethol 1. Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n darparu gwasanaeth gofal plant am fwy na 2 awr y dydd i blant dan 8 oed gofrestru gyda AGGCC. Mae’n rhaid i wasanaethau cofrestredig gyrraedd y safonau gofynnol cenedlaethol sydd wedi’u nodi gan reoliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’r safonau gofynnol sydd wedi’u gosod ar gyfer pob math o wasanaeth gofal plant. Mae’r Rheoliadau a’r Safonau ar gael gan AGGCC a gallwch gael gafael arnynt drwy wefan AGGCC..
www.AGGCC.org.uk
I gofrestru gyda AGGCC, mae’n rhaid i wasanaeth gofal plant sicrhau bod: • safleoedd yn ddiogel ac yn addas • gan y staff y cymwysterau priodol • y staff wedi derbyn cliriad iechyd a chliriad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) a bod tystlythyrau eraill wedi’u gwirio • offer a gweithgareddau yn briodol ar gyfer nifer ac oedran y plant • mae’r gwasanaethau cofrestredig yn cael eu gwirio unwaith bob dwy flynedd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â rheoliadau a safonau (yn flynyddol ar gyfer safleoedd gofal dydd llawn) drwy archwiliad gan AGGCC a bod adroddiad o’r canfyddiadau ar gael.
17
Choosing Childcare Folder & 4 booklets Steve2 WELSH.:Choosing Childcare Quality Childcare (1) 200x200 04/05/2010 09:59 Page 18
2. Estyn Mae Estyn yn archwilio ysgolion, meithrinfeydd a chanolfannau hyfforddi yng Nghymru. Mae’n annibynnol ar, ond wedi’i gyllido gan, Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn rhan o’i swydd, mae Estyn yn gyfrifol am: • hyfforddi a chofrestru arolygwyr addysg feithrin • fonitro ansawdd arolygon ac adroddiadau arolygon • edrych eilwaith ar unrhyw safle y mae rhywun arall wedi dweud ei fod yn llawer is na’r safon addysgol ofynnol
www.estyn.gov.uk
Mae’n rhaid i Brif Arolygydd Estyn hysbysu Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rheolaidd am: • ansawdd a safon addysg feithrin • ddatblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol plant sydd mewn addysg feithrin 18
Choosing Childcare Folder & 4 booklets Steve2 WELSH.:Choosing Childcare Quality Childcare (1) 200x200 04/05/2010 09:59 Page 19
Anghenion addysgol arbennig ac anabledd Help wrth law Dylai eich Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD) fod â manylion darpariaeth gofal plant addas i blant anabl a phlant sydd ag anghenion addysgol arbennig yn eich ardal. Bydd ganddynt hefyd wybodaeth ynglyˆn â chael gafael ar gymorth i dalu costau gofal plant. Mae cynlluniau cyfeirio ymhob rhan o Gymru’n helpu plant gydag anghenion addysgol arbennig i fynychu cylchoedd chwarae / cylchoedd meithrin gyda phlant eraill o'r un oedran.
Cymorth ariannol ychwanegol
Hygyrchedd a’r Comisiwn Hawliau Anabledd
Gallwch hawlio Lwfans Byw i’r Anabl ar gyfer plentyn sydd â salwch neu anabledd corfforol neu feddwl difrifol os ydynt angen llawer mwy o gymorth neu ofal, oherwydd eu salwch, na phlant eraill o’r un oedran. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch y Llinell Gymorth Ymholiadau Budd-daliadau ar 0800 88 22 00.
Mae’n rhaid i’r holl ddarparwyr gofal plant gyflawni gofynion y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 (DDA) a gwneud ‘addasiadau rhesymol’ i gynnwys plant anabl. Ni chânt drin plant anabl yn ‘llai ffafriol’ oherwydd eu hanabledd. Gallwch ffonio’r Comisiwn Hawliau Anabledd (DRC) ar 08457 622 633 i gael arweiniad ar ofynion cyfreithiol yn ymwneud â darparwyr gofal plant.
Gall Credyd Treth Plant gynnwys arian ychwanegol ar gyfer plant anabl. Gall Credyd Treth Gwaith gynnwys cymorth gyda chostau gofal plant. I ganfod yr hyn y mae gennych hawl iddo, cysylltwch â’r llinell gymorth ar 0845 300 3900.
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd: 0300 123 7777 19
Choosing Childcare Folder & 4 booklets Steve2 WELSH.:Choosing Childcare Quality Childcare (1) 200x200 04/05/2010 09:59 Page 20
CMK-22-07-459 19096 Choosing Childcare Booklets 978 0 7504 5549 7