23589-10 JPR Spring W:Layout 1 19/02/2010 09:23 Page 1
Newyddion Byd Natur Gofalu am ein Draenogod Wedi gaeaf oer iawn, bydd anifeiliaid megis draenogod yn deffro o’u gaeafgwsg rhwng mis Mawrth a mis Ebrill. Rydym yn gallu gwneud llawer o bethau i helpu draenogod ac efallai eu denu i’n gerddi. Os ydych yn lwcus, efallai y byddwch yn gweld draenogod yn eich gardd neu mewn parciau a mannau gwyrdd eraill ar draws Abertawe.
Gaeafgwsg
Helo i’r CPI
Fel arfer, mae draenogod yn mynd i gysgu (neu’n gaeafgysgu) rhwng mis Tachwedd a mis Mawrth er mwyn goroesi’r gaeaf, pan nad oes llawer o fwyd yn gyffredinol neu pan fydd yn brin.
Croeso i’n cylchlythyr cyntaf yn 2010. Gobeithio y cawsoch amser gwych dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd ac i chi i gyd lwyddo i fwynhau’r eira, tra’n cadw’n gynnes ac yn ddiogel.
Yn ystod gaeafgwsg, gall draenog ddeffro sawl gwaith. Os gwelwch un, mae’n syniad da cynnig bwyd a dw ˆ r. Os nad oes arwydd o broblem, gadewch i’r draenogod fynd ar eu ffordd.
Yn y rhifyn hwn, byddwn yn ystyried gaeafgwsg a chael gwybod am yr hyn mae Arnie Actif wedi bod yn ei wneud. Rydym hefyd wedi cynnwys gemau difyr newydd i chi eu chwarae.
Yn ddiweddar, ychwanegwyd draenogod at y rhestr mewn perygl yn y DU, felly dyna reswm arall i roi help iddynt.
Os oes gennych unrhyw sylwadau ar ein cylchlythyr neu os hoffech i ni roi sylw i unrhyw fater penodol, cofiwch roi gwybod i ni.
Cynnwys Croeso CPI ....................................................1 Newyddion Byd Natur....................................1 Syniadau Arnie Actif ......................................2 Digwyddiadau...............................................3 Cornel Jeff.....................................................3 Hwyl a Gemau ..............................................4
Bwydo draenogod
Dyma ychydig o awgrymiadau: Mae garddwyr yn hoffi draenogod am eu bod yn mwynhau bwyta gwlithod a malwod sy’n dinistrio planhigion. Fel arfer, os yw’r tywydd yn wael (rhew, eira), maent yn hoffi ychydig o fwyd cw ˆ n sych. Eu hoff fwydydd eraill yw chwilod, lindys a mwydod, ond byddant hefyd yn bwyta ffrwyth wedi cwympo, grawnfwyd a chig ffres. Yr amser gorau i’w gweld yw yn ystod y cyfnos. ˆ r ffres yn bwysig iawn, Mae ffynhonnell o ddw yn enwedig yn ystod tywydd poeth. Gadewch ddysglaid bas a sefydlog o ˆ r allan ar bwys y bwyd. ddw Peidiwch â rhoi bara a llaeth i ddraenogod! Mae’n gallu rhoi bola tost a dolur rhydd iddynt.