Canolfan Dylan Thomas
Croeso! Beirdd ac awduron. Ffilmiau a theatr. Lansio llyfrau a seremonïau gwobrwyo. Teithiau tywys ac arddangosfeydd. Dyma rai o ddigwyddiadau Dylan Thomas 2014 a gynhelir yn Abertawe o fis Ebrill tan fis Mehefin. Y prif uchafbwynt yn arddangosfa Dylan Thomas yw bod pedwar nodlyfr barddoniaeth Dylan, a ysgrifennwyd rhwng 1930 a 1934, yn dychwelyd i Abertawe a’r DU am y tro cyntaf ers eu gwerthu yn y 1940au. Bydd y bardd Michael Rosen a’r cynhyrchydd ffilmiau EmmaLouise Williams yn cyflwyno eu ffilm a ysbrydolwyd gan Dan y Wenallt - Under The Cranes yng Nghanolfan Dylan Thomas ym mis Mai. Bydd Henry Widdecombe yn cynnal penwythnos arbennig o gomedi ym mis Mehefin. Mae amrywiaeth o deithiau tywys
hefyd ar gynnig gyda Chwmni Theatr Fluellen a Chwmni Theatr Lighthouse. Hefyd cynhelir Under Milk Wood: an opera yng Nghanolfan Celfyddydau Taliesin, dathlu Dydd Mamau Cymru ym Mharc Cwmdoncyn a Dylanathon – Marathon Ffotograffau ym man geni Dylan ynghyd ag arddangosfa Dylan Abertawe yn Amgueddfa Abertawe. Bydd mwy o wybodaeth a manylion prynu tocynnau ar gael yn www.dylanthomas.com. Tocynnau: S Safonol C Consesiynau PTL Pasbort y Hamdden 100 DT
wedi’i ariannu gan DT 100 wedi’i gefnogi gan Dylan Thomas 2014
Tony Curtis
Nos Iau 3 - nos Sadwrn 5 Ebrill, 7.30pm
Nos Iau 10 Ebrill, 7.30pm
Canolfan Gelfyddydau Taliesin, Le Chien Qui Chante (Montréal), Companion Star (Efrog Newydd) ac Opera Cenedlaethol Cymru’n cyflwyno perfformiad cyntaf Under Milk Wood: opera, sy’n seiliedig ar y ddrama wreiddiol.
Sgwrs ddarluniadol gan yr Athro Tony Curtis ar gyfer dathliadau canmlwyddiant geni Dylan Thomas 2014. Ganed Tony Curtis yng Nghaerfyddin ym 1946 ac am saith mlynedd, rhannodd y dref honno gyda Dylan, ei deulu a’i ffrindiau. Mae Athro Barddoniaeth cyntaf Cymru’n disgrifio cael ei addysgu gan Vernon Watkins ym Mhrifysgol Abertawe ym 1967 ac mae’n olrhain dylanwad Dylan ar ei ysgrifennu ei hun a phrofiadau eraill.
Yr Athro Tony Curtis – ‘My Under Milk Wood: an opera Life with Dylan Thomas’ Canolfan Gelfyddydau Taliesin Canolfan Dylan Thomas
Tocynnau: S £12, C £9 (01792 602060
DT 100
Tan ddydd Sul 6 Gorffennaf
Abertawe Dylan Amgueddfa Abertawe Arddangosfa sy’n dathlu’r Abertawe y byddai Dylan yn gyfarwydd â hi, lle y cafodd ei eni a’i fagu, lle y bu’n gweithio ac yn chwarae a sut y dylanwadodd hyn ar ei waith. Mae’r Amgueddfa wedi gweithio gyda’r arbenigwr Dylan Thomas, Jeff Towns, ac mae’r arddangosfa’n cynnwys darluniau gan Wyn Thomas Mynediad am ddim (01792 653763
Tocynnau: S £5 C £3.50 PTL £1.60 (01792 463980
100
3
Amgueddfa Abertawe Dydd Llun 14 Ebrill dydd Sul 15 Mehefin
Ysbrydolwyd gan waith Dylan Thomas Amgueddfa Abertawe
Nos Fercher 16 Ebrill, 7.30pm
Ar yr Ymyl: Results Night gan Sara Hawys a Leon Russell Canolfan Dylan Thomas
Mae 10 o fyfyrwyr ffotograffiaeth Prifysgol Fetropolitan Caerdydd wedi dehongli geiriau Dylan Thomas gan ddefnyddio eu safbwyntiau unigryw i greu darn o waith a fydd yn adlewyrchu ei ryddiaith gyfoethog ac amrywiol.
Och aye the noo! Mae canlyniadau refferendwm Annibyniaeth yr Alban wedi’u cyhoeddi. A yw hyn yn argyfwng neu’n achos i ddathlu i Gymru? Efallai na fydd y ddrama hon yn gwneud i chi bleidleisio, ond mae’n bosib y byddwch yn chwerthin yn ddi-stop!!
Mynediad am ddim (01792 653763
Tocynnau: S £4 PTL £1.60 (01792 463980
Abertawe Dylan’s Swansea Dydd Sadwrn 19 Ebrill, 1.00pm
Ffocws ar y Theatr: Fluellen yn Cyflwyno: Shakespeare’s Women Canolfan Dylan Thomas I ddathlu pen-blwydd Shakespeare, bydd Ffocws ar y Theatr yn edrych ar rôl menywod yn ei ddramâu. O freninesau i buteinfeistresi, o gomedi ffraeth i wylltineb treisgar, o gariadon i gynllunwyr; mae eu hamrywiaeth yn anfeidrol. Mae holl gyflwyniadau Ffocws ar y Theatr yn gyflwyniadau sgript-mewn-llaw a bydd sgwrs am y dramodydd cyn y perfformiad. Tocynnau: S £5, PTL £2 (01792 463980
Dydd Sul 20 Ebrill, dydd Sul 18 Mai, dydd Sul 22 Mehefin 10.30am - 12.30pm
Taith Dywys Abertawe Dylan Canolfan Dylan Thomas Bydd Cwmni Theatr Fluellen yn cyflwyno taith dywys fywiog a difyr sy’n seiliedig ar berfformiad o gwmpas canol Abertawe Dylan. Bydd yn dechrau o Ganolfan Dylan Thomas ac yn cynnwys Sgwâr Dylan Thomas, The Three Lamps, safle’r Kardomah, Sgwâr y Castell ac yn gorffen yn y No Sign Wine Bar. Tocynnau: S £10 C £8 PTL £4 (01792 463980 100
5
Tyler Keevil Dydd Llun 21 - dydd Sul 27 Ebrill
Nos Fercher 23 Ebrill, 7.30pm
The Many Faces of Dylan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Tyler Keevil yn sgwrsio ag Alan Bilton Canolfan Dylan Thomas
Mae Cymdeithas Artistiaid Abertawe’n cyflwyno digwyddiad paentio ac arlunio a fydd yn cynnwys nifer o artistiaid lleol a fydd yn creu gweithiau gan ddefnyddio themâu a ysbrydolodd Dylan Thomas.
Ymunwch â ni i ddathlu gwaith awdur Fireball, Tyler Keevil. Enwyd Burrard Inlet ar ôl y corff o ddŵr sy’n rhannu glannau gogledd Vancouver o’r Tir Mawr Is, lle mae’r ddinas yn cwrdd â’r mynyddoedd, a gwareiddiad yn cwrdd â’r gwyllt, cefndir i gymeriadau sy’n brwydro yn erbyn yr elfennau, ei gilydd a’u hunain. Mae’r straeon arobryn hyn yn llawn gwaed a heli. Bydd Tyler hefyd yn trafod ei nofel newydd The Drive gyda Dr Alan Bilton.
Mynediad am ddim (029 2057 3600
Mynediad am ddim (01792 463980
Jonathan Edwards Nos Iau 24 Ebrill, 7.30pm
Dydd Sul 27 Ebrill 11am - 5pm
Beirdd yng Nghanolfan Dylan Thomas gyda Jonathan Edwards Canolfan Dylan Thomas
Diwrnod Mamau Cymru Parc Cwmdoncyn
Disgrifiwyd Jonathan Edwards gan Mike Jenkins fel ‘un o’r beirdd mwyaf cyffrous i ymddangos o’r Cymoedd ers tro byd.’ Enillodd wobr Terry Hetherington yn 2010 ac yn 2012 enillodd wobrau yng Nghystadleuaeth Barddoniaeth Ryngwladol Caerdydd. Mae ei waith wedi ymddangos mewn amrywiaeth eang o gylchgronau, gan gynnwys Poetry Review, Poetry Wales, New Welsh Review a Magma. Mae ei gasgliad cyntaf, My Family and Other Superheroes, newydd gael i gyhoeddi gan Seren. Mae’r noson hefyd yn cynnwys sesiwn meic agored.
Ar ben-blwydd Florence, mam Dylan Thomas, mae Cyfeillion Parc Cwmdoncyn, Oriel Elysium, Theatr Dylan Thomas a Dinas a Sir Abertawe’n cyflwyno diwrnod hwyl am ddim i’r teulu gyda gweithdai gweithgareddau ac adloniant byw. Mynediad am ddim (01792 205327
DT
Tocynnau: S £4 C £2.80 PTL £1.60 (01792 463980
7
Canolfan Dylan Thomas Nos Fercher 30 Ebrill, nos Fercher 28 Mai, 7.30pm
Caffi Gwyddoniaeth Canolfan Dylan Thomas Bob mis, bydd arbenigwr arweiniol yn ei faes yn rhoi sgwrs ragarweiniol fer ac yna sgwrs anffurfiol gyfeillgar. Gallwch eistedd yn ôl, ymlacio gyda diod yn eich llaw a gwrando neu gymryd rhan yn y drafodaeth a’r ddadl. Mynediad am ddim (01792 463980
Dydd Sadwrn 10 Mai, 1.00pm
Diwrnod Dan y Wenallt: Cwmni Theatr Fluellen yn cyflwyno After the One Spring Day Canolfan Dylan Thomas Wnaeth Mr Pugh wenwyno’i wraig? Oedd Organ Morgan yn rhan o un o ganeuon mwyaf y 1960au? Bydd atebion i’r rhain a chwestiynau eraill mewn cyfres o sgetshis wedi’u hysgrifennu’n arbennig gan ddramodwyr sy’n cynnwys Ken Blakemore, Katie Bowman, Glynis Judge a Mike Witchell, wrth iddyn nhw ystyried yr hyn a allai fod wedi digwydd i rai o breswylwyr Llareggub ar ôl y “one Spring day” hwnnw. Tocynnau S £5 PTL £2 (01792 463980
100
Under The Cranes
Nos Sadwrn 10 Mai, 7.30pm
Diwrnod Dan y Wenallt – Darlledu ffilm: Under The (12a) Cranes Canolfan Dylan Thomas Trochwyd y bardd Michael Rosen yng ngwaith Dylan Thomas ar adeg pan glywyd ei lais ar y radio. Bellach mae Rosen wedi ysgrifennu ei ddrama farddol ei hun ar gyfer lleisiau’n seiliedig ar Dan y Wenallt, Hackney Streets, sydd wedi ysbrydoli’r ffilm, Under the Cranes. Mae Under the Cranes gan EmmaLouise Williams yn cymysgu ffilm archif a sinematograffi newydd i archwilio hanes un rhan o Ddwyrain Llundain trwy leisiau’r bobl sydd wedi bod yma. Bydd Michael ac Emma-Louise yn cynnal sesiwn holi ac ateb ar ôl y ffilm.
Caitlin Dydd Llun 12 - dydd Sadwrn 17 Mai
Caitlin Theatr y Grand
(14+)
Bydd yr actores enwog o Abertawe, Helen Griffin, yn perfformio rôl Caitlin Macnamara, gwraig Dylan Thomas, mewn sioe un fenyw am un dyn mewn stori afaelgar a fydd yn aros gyda chi am gyfnod hir. Mae gwaith atgofus Mike Kenny wedi swyno cynulleidfaoedd a beirniaid yng Nghymru ac Efrog Newydd mewn drama sy’n darganfod y grym a ddaeth â nhw ynghyd ac yna a’u gwahanodd. Tocynnau: S £10.00 (01792 475715
Tocynnau: S £5 C £3.50 PTL £1.60 100 (01792 463980
Under The Cranes (Y llun: Under The Cranes 2011, diolch i Hackney Archives)
9
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Nos Fercher 14 Mai, 7.30pm
Ar yr Ymyl - The War is Dead Long Live the War – Patrick Jones Canolfan Dylan Thomas I goffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf - ailymweld â drama’r bardd o Blackwood 2004. Mae Wilfred Owen yn cwrdd â milwr ifanc o Ryfel y Gwlff Gan y tîm, Patrick Jones a Michael Kelligan, a gynhyrchodd Dandelion Tocynnau: S £4 PTL £1.60 (01792 463980
17 Mai, 31 Mai, 1 Mehefin, 5+6 Gorffennaf, 10.30am
Return Journey O Amgueddfa Genedlaethol y Glannau i Barc Cwmdoncyn Cynhyrchiad promenâd drwy strydoedd Abertawe gan ddechrau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac yn gorffen ym Mharc Cwmdoncyn. Dewch i ailfyw taith yr awdur drwy Abertawe’r Blitz drwy olygfeydd a seiniau’r ddinas. Mae’r perfformiad yn defnyddio perfformwyr lleol ac yn cynnwys gwybodaeth hanesyddol am Abertawe yn ystod ieuenctid Dylan. Bydd y cyfranogwyr hefyd yn cael pecyn gwybodaeth gyda dyfyniadau o’i waith, hanes a mapiau o’r cyfnod. Tocynnau: S £9, C £7 (01792 463980
100
Canolfan Dylan Thomas
Nos Sul 18 Mai, 6pm
Dylan Thomas yn Efrog Newydd: Darlith a lansio llyfr Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Ymunwch â’r bardd o Abertawe, Peter Thabit Jones, am noson i ddathlu amser Thomas yn Efrog Newydd ac i lansio ei lyfr newydd Dylan Thomas Walking Tour of Greenwich Village, a ysgrifennwyd gan ferch Thomas, Aeronwy Thomas. Yn dilyn y ddarlith, bydd cyfle i brynu copi o’r llyfr wedi’i lofnodi. Mynediad am ddim (029 2057 3600
Nos Fercher 21 a nos Iau 22 Mai, 7.30pm
Rough Diamonds Canolfan Dylan Thomas Peidiwch â cholli drama newydd uchelgeisiol o waith myfyrwyr rhaglen Ysgrifennu Creadigol nodedig Prifysgol Abertawe. Mae’r perfformiadau gan Gwmni Theatr Fluellen yn cael eu cyflwyno a’u cyfarwyddo gan y dramodydd D. J. Britton, Athro Cyswllt mewn Ysgrifennu Dramatig ym Mhrifysgol Abertawe Tocynnau: S £4 PTL £1.60 (01792 463980
11
Cerddwyr Llanelli Dydd Iau 22 Mai, 10.00am - 5.30pm
Dydd Sadwrn 24 - dydd Llun 26 Mai
Diwrnod yr Ysgrifenwyr Canolfan Dylan Thomas
Gw ˆ yl Gerdded Cerddwyr Llanelli gan gynnwys Llwybrau DT, Abertawe Teithiau amrywiol
Mae Diwrnod Ysgrifenwyr Abertawe’n cynnwys toreth o gyflwyniadau a thrafodaethau â chynrychiolwyr o bob rhan o’r byd cyhoeddi. Mae’r rhain yn cynnwys Rebecca Carter, Janklow & Nesbit literary agency, yn ogystal â golygyddion llyfrau, cyhoeddwyr ac ysgrifenwyr. Bydd cyflwyniadau a thrafodaethau’r dydd yn ymdrin â materion cyhoeddi allweddol sy’n berthnasol i ysgrifenwyr newydd a datblygol, gyda sesiynau holi ac ateb a digon o gyfleoedd ar gyfer rhwydweithio cyffredinol. Mynediad am ddim, rhaid cadw lle (01792 463980
Yn 2014 cynhelir y 19eg w ˆ yl Gerdded flynyddol, a fydd â’r thema Cymru Dylan Thomas, y mannau lle roedd yn byw, yn gweithio ac yn chwarae ynddynt. Lleoliadau megis Abertawe, Cei Newydd, Talacharn, Dinbych y Pysgod a Llangain. Mae’r teithiau cerdded yn amrywio o hawdd ac addas i’r teulu i rai mwy heriol. Pellteroedd rhwng 3 a 12 milltir. 8 festival@llanelliramblers.org.uk DT
Rhosili Dydd Llun 26 Mai, 4.00pm
Nos Lun 26 Mai, 7.30pm
Extraordinary Little Cough Siop yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Rhosili
Atgofion Plentyndod Neuadd Bentref Rhosili
Mae Theatr Lighthouse Abertawe’n cyflwyno ei harddull adrodd straeon unigryw i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy ail-greu profiad Dylan yn cerdded ar hyd y clogwyni i Wylfa Gwylwyr y Glannau. (01792 390 636 DT 8 www.lighthouse-theatre.co.uk
Yn dilyn ei berfformiad cyntaf yng Ngw ˆ yl Caeredin a enwebwyd am wobr Fringe First, mae Theatr Lighthouse yn cyflwyno Adrian Metcalfe mewn perfformiad unigol awr o hyd pan fydd yn cofio ei blentyndod ei hun yn Abertawe, gan gynnwys deunydd o ‘The Portrait of the Artist as a Young Dog’, ‘Quite Early One Morning’, ‘The Collected Poems’ a ‘Return Journey’ i greu archwiliad swynol, hiraethus o waith Dylan Thomas. Tocynnau: S £6, C £3 8 www.lighthouse-theatre.co.uk
13
Alan Perry Nos Iau 29 Mai, 7.30pm
Rhyfel Dylan Thomas
Dydd Sadwrn 31 Mai dydd Sul 31 Awst
Beirdd yng Nghanolfan Dylan Arddangosfa Nodlyfrau Thomas gydag Alan Perry Dylan Thomas Canolfan Dylan Thomas Canolfan Dylan Thomas Mae llawer o waith Alan Perry wedi’i gyhoeddi. Mae’n fardd, yn baentiwr ac yn awdur straeon byrion. Mae’n byw ac yn gweithio yn Abertawe ac yn sefydlydd ac yn feirniad Gwobr Terry Hetherington. Bydd y noson hefyd yn cynnwys sesiwn meic agored Tocynnau: S £4 C £2.80 PTL £1.60 ( 01792 463980
Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys y pedwar nodlyfr cerddi a ysgrifennwyd rhwng 1930 a 1934, a’r nodiadur rhyddiaith coch sydd hefyd yn dyddio o’r cyfnod hwn. Yn ogystal, ceir deunydd ategol megis detholiadau o lythyrau sy’n cyfeirio at y cerddi a’r prosesau a ddilynwyd i’w hysgrifennu, a hunanbortread mewn pensil lliw a frasluniodd Dylan ar gefn llythyr i Pamela Hansford Johnson. Mae’r eitemau wedi’u benthyg o Brifysgol Daleithiol Efrog Newydd. Mynediad am ddim ( 01792 463980
100
Dydd Sadwrn 7 Mehefin
Dydd Sadwrn 7 Mehefin, 1pm
Rhyfel Dylan Thomas: yr Heddychwr, y Propagandydd a Blitz Abertawe Teithiau amrywiol
Cwmni Theatr Fluellen yn cyflwyno Sherlock Holmes and the Crown Diamond gan Arthur Conan Doyle Canolfan Dylan Thomas
Ac yntau’n heddychwr sosialaidd ag ofn mawr consgripsiwn, roedd Dylan yn anesmwyth iawn am yr Ail Ryfel Byd. Gan deithio rhwng Llundain a gorllewin Cymru trwy gydol y rhyfel, bu’n gweithio ar ffilmiau propaganda yn ogystal â llunio ychydig o’i waith llenyddol duaf a thristaf. Mae’r daith yn archwilio Abertawe adeg y rhyfel, trwy safleoedd y strydoedd a ddinistriwyd gan fomiau a restrwyd yn selog ganddo, i’r lleoedd sydd wedi goroesi, gan ystyried torcalon colli’r mannau a oedd yn cael eu mynychu gan Griw’r Kardomah.
Mae’r ditectif cyfrwys yn taro eto! Drama wreiddiol wedi’i hysgrifennu gan ei grëwr, Syr Arthur Conan Doyle. Mae holl gynyrchiadau Ffocws ar y Theatr yn gynyrchiadau sgript-mewn-llaw a bydd sgwrs am y dramodydd cyn y perfformiad. Tocynnau: S £5 PTL £2 ( 01792 463980
Tocynnau: Full tour - £17; talk & screening only - £8 8 www.llenyddiaethcymru.org 100 Rhyfel Dylan Thomas’ (Y llun: Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg)
15
Taith Gerdded Dylan Thomas
Dan y Wenallt Vehicle Run
Dydd Gwener 13 Mehefin
13 - 15 Mehefin
Taith Gerdded Dylan Thomas Uplands, Parc Cwmdoncyn, Man Geni Dylan Thomas
Penwythnos comedi gyda Henry Widdicombe Dylan Thomas Centre
Dewch i ymuno yng Ngw ˆ yl Gerdded Gw ˆ yr ar daith i ben uchaf Parc Cwmdoncyn. Ar ambell adeg yn ystod y daith, ceir darlleniadau byr o waith Dylan Thomas. Bydd y pris yn cynnwys mynediad i fan geni Dylan Thomas a the prynhawn.
Ymunwch â ni ar gyfer penwythnos o gomedi gyda rhai o ddigrifwyr gorau’r maes. Arweinir y penwythnos gan y digrifwr a threfnydd yr w ˆ yl, Henry Widdicombe. Mae Dylan Thomas yn adnabyddus am ei ffraethineb miniog yn ogystal â’i hiwmor tyner. Mae ei waith yn llawn cymeriadau doniol, boed hynny’n drigolion Llareggub (sillafwch ef o chwith) yn Dan y Wenallt, neu’r hanes hyfryd am daith mewn siarabáng sy’n gwneud i chi chwerthin yn uchel yn ‘A Story’. Roedd yn hoff o ffilmiau’r brodyr Marx ac roedd yn ddiddanwr a fu’n dod â phleser i gynulleidfaoedd gyda’i ddarlleniadau a’i hanesion doniol trwy gydol ei oes. Dewch i ddathlu gwaith digrifwyr cyfoes mewn cyfres o sioeau arbennig a gynhelir yng Nghanolfan Dylan Thomas y penwythnos hwn.
Tocynnau: S £7 8 www.gowerwalkingfestival.org/cy
Tocynnau: www.dylanthomas.com 100 ( 01792 463980
Carrie Etter Dydd Sadwrn 14 Mehefin
Nos Iau 26 Mehefin, 7.30pm
Ras Gerbydau Clasurol Dan y Beirdd yng Nghanolfan Dylan Thomas gyda Carrie Etter Wenallt Canolfan Dylan Thomas Bae Bracelet i Dalacharn Bydd beiciau modur, ceir, faniau, tryciau, coetsis a bysus hanesyddol yn mynd ar y daith flynyddol i Dalacharn cyn y cynhelir yr 21ain w ˆ yl Gludiant Abertawe yng nghanol dinas Abertawe ddydd Sul 15 Mehefin. Mynediad am ddim 8 swanseatransport@aol.com Dydd Iau 26 Mehefin, 2.00pm 4.30pm
Barddoniaeth gyda Dylan Thomas a Carrie Etter Canolfan Dylan Thomas
Yn Imagined Sons, mae Carrie Etter wedi ysgrifennu llyfr o gerddi byw, torcalonnus ar brofiad rhoi plentyn i’w fabwysiadu. A hithau’n awdur, yn ddarlithydd, yn feirniad ac yn flogiwr poblogaidd, mae Etter yn dychmygu tynghedau posibl y plentyn ac yn cyflwyno amrywiaeth o sefyllfaoedd o’r trasig i’r absẃrd. Mae’r noson hefyd yn cynnwys meic agored Tocynnau: S £4 C £2.80 PTL £1.60 ( 01792 463980
Yn y gweithdy hwn, a arweinir gan y bardd adnabyddus Carrie Etter, byddwn yn ymgolli yn nodlyfrau Thomas ac yn gloddesta ym manylion y naratif a’r defnydd o iaith, yna’n defnyddio ein canfyddiadau i greu cerddi newydd, gwreiddiol sy’n adeiladu ar yr ysbrydoliaeth honno. Uchafswm o 12 lle. Tocynnau: S £14 C £11.00 PTL £5.00 ( 01792 463980
Carrie Etter credit Dot and Lucy Photography 100
17
Gwobrau Terry Hetherington
Prosiect Dawns Cynradd Nos Iau 26 - nos Wener 27 Mehefin, 7.00pm
Prosiect Dawns Cynradd Canolfan Gelfyddydau Taliesin Unwaith eto bydd y Prosiect Dawns Cynradd yn llenwi llwyfan Taliesin ag egni, cyffro a sgiliau plant Abertawe. Bydd chwe ysgol yn ymuno â myfyrwyr Coleg Gw ˆ yr i gyflwyno ymateb egnïol, mewn dawns, i archwilio plentyndod Dylan yn Abertawe - teyrnged briodol gan y prosiect blynyddol clodwiw hwn ym mlwyddyn y canmlwyddiant. Tocynnau: S £2.00 ( 01792 602060 Er y gwneir pob ymdrech i sicrhau bod manylion y rhaglen hon yn gywir, mae Dinas a Sir Abertawe’n cadw’r hawl i newid unrhyw ran o’r rhaglen heb rybudd. Cefnogir gan
Nos Wener 27 Mehefin, 7.00pm
Gwobr Terry Hetherington Canolfan Dylan Thomas Dathlwch gyflawniadau ymgeiswyr y flwyddyn hon ar gyfer Gwobr Terry Hetherington gwerth £1000 i ysgrifenwyr dan 30 oed. Unwaith eto, caiff eu gwaith ei gyhoeddi gan Parthian yn y gyfrol ddiweddaraf o Cheval a gaiff ei lansio ar y noson. Am ddim ( 01792 463980 Dydd Sadwrn 28 Mehefin
Dylanathon – Marathon Ffotograffau Man Geni Dylan Thomas Gan ddefnyddio camera, ffôn clyfar neu dabled, anogir ymgeiswyr i ddewis blaengaredd dros ansawdd llun i ddehongli 10 thema sy’n gysylltiedig â Dylan Thomas trwy gydol y dydd. info@dylanthomasbirthplace.com 100