Gwyl Dylan Thomas

Page 1

CANOLFAN DYLAN THOMAS

RHAGLEN ˆ YL YR W 27 Hydref - 9 Tachwedd 2012


CROESO “O may my heart’s truth / Still be sung / On this high hill in a year’s turning”, oedd geiriau Dylan Thomas yn ‘Poem in October’. Canai Dylan mewn sawl ffurf wahanol ac mae’n gwˆyl yn dathlu hyn drwy amrywiaeth y genres rydym yn eu cyflwyno yn ystod y pythefnos, o ffuglen fer i gerddoriaeth, ac o ysgrifennu am chwaraeon i farddoniaeth. Mwynhewch!

Jo Furber, Swyddog Llenyddiaeth

SWYDDFA DOCYNNAU: 

01792 463980

Dydd Sadwrn 27 Hydref, 2.30pm - 4.30pm

GWEITHDY BARDDONIAETH GYDA SAMANTHA WYNNE-RHYDDERCH The rhymer in the long tongued room: dewch i ddathlu pen-blwydd Dylan yn 98 oed mewn gweithdy ar ysgrifennu cerddi hir gyda’r bardd clodwiw, Samantha WynneRhydderch. Lle i ddeg yn unig. TOCYNNAU: F £10 C £7

Gallwch gadw lle ar-lein:  www.ticketsource.co.uk/ dylanthomas F Pris Llawn C Consesiynau PTL Pasbort i Hamdden 2

Gw ˆ yl Dylan Thomas 2012


Nos Sadwrn 27 Hydref, 7.30pm

Dydd Sul 28 Hydref, 2pm

PUMAWD STAN TRACEY CYFRES JAZZ A CHILD’S CHRISTMAS

HEARTS OF OAK GAN LIZ WRIDE

Wedi’i hysbrydoli gan stori fer Dylan Thomas, bydd cyfres newydd gan y seren jazz, Stan Tracey, yn cael ei pherfformio gan ei bedwarawd presennol gydag yr Stan, sef Ben, yn adroddwr. Fel Cyfres Under Milk Wood nodedig Stan, mae’r darn llawen hwn yn adlewyrchu hoffter Stan o waith Dylan a’r ffordd y mae’n parhau i’w ysbrydoli. TOCYNNAU: o £25 i £10

www.dylanthomas.com/festival

Wedi’i seilio ar stori wir, stori gan y dramodydd Liz Wride yw Hearts of Oak, sy’n cynnwys cythrwfl, cariad a chasineb wedi’i leoli yng Ngoleudy’r Smalls oddi ar arfordir de-orllewin Cymru.Ym 1780, mae dau ddyn wedi’u hynysu ar y goleudy heb ddim yn gwmni ond eu hatgasedd at ei gilydd. A hwythau’n cael eu blino gan atgofion am eu cydnabod ar y tir mawr, maent yn dechrau cwestiynu a fyddant yn llwyddo i adael y goleudy’n fyw. Perfformiad proffesiynol cyntaf sgriptmewn-llaw fydd hwn o dan gyfarwyddyd y dramodydd clodwiw D.J.Britton. TOCYNNAU: F £6 C £4.20 PTL £2.40 3


Nos Fawrth 30 Hydref, 7.30pm

ROSHI FERNANDO A KEVIN BARRY YN SGWRSIO Â JON GOWER

Kevin Barry

Rydym yn dathlu’r stori fer gydag enillydd gwobr Impress Roshi Fernando, y mae ei chasgliad o straeon cydgysylltiol trawiadol, Homesick, yn dilyn hynt a helynt cymuned o mewnfudwyr o Sri Lanka yn Llundain. Disgrifiwyd enillydd gwobr stori fer y Sunday Times, Kevin Barry, gan Irvine Welsh fel “ the most arresting and original writer to emerge from these islands for years.” Mae Dark Lies the Island yn adrodd straeon am gariad a Roshi chreulondeb, troseddau, Fernando anobaith a gobaith. Byddant yn sgwrsio â’r Jon Gower amryddawn. TOCYNNAU: F £6

4

C £4.20

PTL

£2.40

Gw ˆ yl Dylan Thomas 2012


Brenda Chamberlain

Menna Elfyn

Nos Fercher 31 Hydref am 7.30pm

Nos Iau 1 Tachwedd, 7pm

DIGWYDDIAD CANMLWYDDIANT MENNA ELFYN YN BRENDA CHAMBERLAIN LANSIO MURMUR GYDA NEW WELSH REVIEW, Menna Elfyn yw’r mwyaf adnabyddus, mwyaf helaeth ei theithio, a’r bardd y mae PARTHIAN A FLUELLEN ei gwaith wedi’i gyfieithu fwyaf o’r holl feirdd Ym mlwyddyn ei chanmlwyddiant, mae Parthian yn cyhoeddi ffuglen a drama gan Brenda Chamberlain, ynghyd â bywgraffiad o’i bywyd. Dewch i ymuno â’r bywgraffydd Jill Piercy a Gwen Davies o’r New Welsh Review mewn noson i ddathlu gwaith Brenda, ei chysylltiadau ag Alun Lewis, Lynette Roberts a Dylan Thomas, a’r bywyd cythryblus oedd yn gefndir i’r cyfan. Bydd Fluellen hefyd yn cyflwyno perfformiad sgript-mewn-llaw o ddarnau o ddrama Chamberlain, The Protagonists. TOCYNNAU: F £6 C £4.20 PTL £2.40 www.dylanthomas.com/festival

yn yr iaith Gymraeg. Mae amrywiaeth rhyngwladol rhyfeddol ei phynciau, ei dyfeisgarwch syfrdanol a helaethrwydd ei gweledigaeth yn ei gosod ymhlith prif feirdd Ewrop, ac mae’n bleser gennym lansio cyhoeddi ei chasgliad diweddaraf yn Gymraeg ac yn Saesneg gan Bloodaxe, y llyfr Cymraeg cyntaf erioed i gael ei argymell gan y Poetry Book Society fel Cyfieithiad i’w Argymell. Yn ymuno â Menna bydd un o’i chyfieithwyr, Elin ap Hywel, a chaiff ei chyflwyno gan yr Athro M Wynn Thomas. Mynediad a gwin am ddim 5


Dydd Gwener 2 Tachwedd, 9.30am – 5.30pm

THE LONG REVOLUTION IN JAPAN AND WALES: TRANSNATIONAL DIALOGUES ON RAYMOND WILLIAMS Cynhadledd undydd a drefnir gan CREW gyda chefnogaeth Canolfan Richard Burton. Beth fu dylanwad gwaith Raymond Williams yn Japan? A oes sail i gymharu hanes beirniadol, diwylliannol a gwleidyddol Cymru a Japan? A yw llais Williams yn gynyddol bwysig mewn oes o argyfwng ariannol? Dyma’r drydedd mewn cyfres o gynadleddau sy’n cynnwys academyddion o Gymru a Japan ac sy’n ymwneud â gwaith Williams, gan gynnwys papurau gan ffigurau hir-sefydledig megis y cyfieithydd a’r academydd enwog Yasuo Kawabata, ac ysgolheigion iau megis Shintaro Kono a Takashi Onuki. Mae hefyd yn cynnwys cyfraniadau gan Dai Smith a Chris Williams o Brifysgol Abertawe. TOCYNNAU: £10, gan gynnwys te a choffi. 6

Nos Wener 2 Tachwedd, 7.30pm

PAUL DURCAN Ac yntau’n cael ei ystyried fel un o feirdd mawr Iwerddon gyfoes, mae Paul Durcan ar ei orau yn ei gasgliad diweddaraf, Praise in Which I Live and Move and Have my Being, wrth iddo fyfyrio ar gwymp y Teigr Celtaidd a rhefru yn erbyn bancwyr a ‘bois y bonws’. Ceir cerddi am ennill a cholli cariad, ac er cof am ffrindiau a pherthnasu sydd wedi marw, ond mae llawenydd hefyd yng ngenedigaeth wˆyr, a chlod i arwriaeth di-sôn-amdano trycwyr, rheolwyr traffig awyrennau a nyrsys. Mae Durcan yn ddarllenydd gwefreiddiol o’i waith dyma digwyddiad na ddylech ei golli! TOCYNNAU: F £8 C £5 Gw ˆ yl Dylan Thomas 2012


David Boucher

Keidrych Rhys

Dydd Sadwrn 3 Tachwedd, 11.30am

Dydd Sadwrn 3 Tachwedd, 1pm

DAVID BOUCHER THE PRICE OF FAME

LANSIO THE VAN POOL KEIDRYCH RHYS GYDA CHARLES MUNDYE

Roedd Dylan Thomas yn cael ei addoli yn America am ei feiddgarwch, er bod ei lythyrau’n mynegi rhyw chwerwedd am orfod bod yno. Gallai hyd yn oed feiddio gwawdio’i gynulleidfa’n ddidrugaredd am gael eu swyno gan hudoliaeth enwogrwydd. Yn y sgwrs hon, mae David Boucher yn ymchwilio i’r agwedd negyddol ar enwogrwydd nid yn unig yn ing Dylan Thomas, ond hefyd a oedd yn gymaint o obsesiwn i rai o’i edmygwyr pennaf megis Rexroth, Corso, Ginsberg, Kerouac, Bukowski, Cohen a Bob Dylan. POB TOCYN: £4 www.dylanthomas.com/festival

Roedd Keidrych Rhys yn ystyried Dylan Thomas, Glyn Jones, Vernon Watkins, Emyr Humphreys, Alun Lewis ac RS Thomas ymhlith ei ffrindiau; bu’n briod â Lynette Roberts a bu’n golygu’r cylchgrawn Wales. Mae’r llyfr hwn yn cynnwys cerddi Rhys ei hun, nodiadau Charles Mundye a chyd-destun bywgraffyddol. Mynediad am ddim a gwin mewn cydweithrediad â Seren Books.

7


Dydd Sadwrn 3 Tachwedd, 3pm

DIGWYDDIAD YSGRIFENWYR RHESTR FER GWOBR EDGE HILL Bydd tri o’r ysgrifenwyr ar restr fer Gwobr Stori Fer bwysig Edge Hill eleni, A.J. Ashworth, Zoe Lambert a Rowena Macdonald, yn darllen o’u gwaith ac yn trafod rhinweddau cystadlaethau. Mae eu casgliadau’n amrywio o Montreal i Fanceinion, o fechgyn-filwyr i gyltiau diwedd y byd, o gariad i ryfel, o alar i ymddatguddiadau sydyn. Cewch eich difyrru’n llwyr!

Dydd Sadwrn 3 Tachwedd, 7.30pm

A.J. Ashworth

Zoe Lambert

TOCYNNAU: F £6 PTL £2.40 C £4.20 Rowena Macdonald

8

Graham Hunter

GRAHAM HUNTER: SWANSEA CITY A FC BARCELONA Ac yntau’n newyddiadurwr rhyngwladol o fri, mae Graham Hunter yn gohebu ar bêl-droed Sbaen ar Sky Sports, y BBC a phapurau newydd a chylchgronau ar draws y byd. Mae ganddo fynediad heb ei ail a digyffelyb i dîm Barcelona. Barca: The Making of the Greatest Team in the World yw hanes go iawn y tîm pêl-droed gorau a mwyaf poblogaidd yn y byd yn mynd ati i ailddiffinio’r ffordd y mae’r gêm yn cael ei chwarae. Bydd yn trafod y cyffelybiaethau rhwng athroniaeth Barca a Dinas Abertawe. TOCYNNAU: F £8

C £5

Gw ˆ yl Dylan Thomas 2012


Dydd Sul 4 Tachwedd, 11am

MARK DAVIES ‘A LITERARY TOUR OF THE RIVER THAMES’ O bererinion Chaucer i addysg uwch Tom Brown, drwy Alice in Wonderland, Wind in the Willows, a Dark Materials Philip Pullman, mae’r hanesydd, yr awdur a’r tywysydd Mark Davies yn archwilio sut mae camlas ac afonydd Rhydychen yn ymddangos mewn cynifer o weithiau llenyddol. Bydd hefyd yn trafod y cysylltiadau Cymreig yn Rhydychen, gan gynnwys cyfeiriad at Dylan Thomas, a fu’n byw yno ar un adeg. POB TOCYN: £4

Dydd Sul 4 Tachwedd, 1pm

RHIAN EDWARDS ‘ONLY POETRY ALOUD’ Cewch ddysgu sut i fanteisio ar ddarlleniadau byw o’r cerddi gyda Rhian Edwards, enillydd Gwobr John Tripp 2011-2012. Mae Rhian yn berfformiwr hudolus, ac mae ei chasgliad diweddar, Clueless Dogs (Seren), newydd gael ei ddewis ar restr fer y Forward Prize. Unig amod y gweithdy yw eich bod yn dysgu cerdd ‘I’ ar eich cof ac a gafodd ei hysgrifennu gennych chi. Rhaid i’r gerdd fod yn 8 llinell o leiaf a rhaid cyfeirio atoch chi, h.y. ymadroddion sy’n cyfeirio at ‘I’ a ‘me’. TOCYNNAU: F £10 C £7

www.dylanthomas.com/festival

Dydd Sul 4 Tachwedd, 2pm

DIGWYDDIAD CYFEILLION Y GLYNN VIVIAN:

DAVID JONES BETWEEN THE WARS: THE YEARS OF ACHIEVEMENT Bydd yr arbenigwr enwog, Derek Shiel yn cyflwyno’i ffilm gyfareddol ar David Jones, wedi’i chydgyfarwyddo gydag Adam Alive. Drwy gyfrwng cyfweliadau ag ysgolheigion, artistiaid, ysgrifenwyr a ffrindiau, a lluniau o’i gerfiadau, ei engrafiadau, ei frasluniau a’i baentiadau, mae’n dangos datblygiad Jones fel paentiwr, engrafwr a bardd. TOCYNNAU: F £6 C £4.20

PTL

£2.40

9


Nos Fercher 7 Tachwedd, 7.30pm

ROS BARBER A SAMANTHA WYNNE-RHYDDERCH YN DARLLEN EU GWAITH Mae trydydd casgliad clodwiw Samantha Wynne-Rhydderch, Banjo (Picador), yn coffáu Capten Scott yn cyrraedd Pegwn y De ym 1912, gan archwilio’r ffordd yr oedd cerddoriaeth a theatr wedi galluogi cymunedau wedi’u caethiwo gan iâ i oroesi. Mae The Marlowe Papers (Sceptre) gan Ros Barber yn nofel anghyffredin mewn barddoniaeth, sy’n adrodd stori arall Christopher Marlowe, lle mae’n cael ei alltudio i Ffrainc ac yn ysgrifennu dramâu a barddoniaeth o dan enw William Shakespeare.

Samantha Wynne-Rhydderch

Nos Fawrth, 6 Tachwedd, 7pm

STUFF HAPPENS Byddwn yn ymuno â noson y gair llafar The Crunch i gyflwyno noson ysbrydolus a hamddenol o farddoniaeth, celf a sgwrsio bywiog. Mwy amdano yma: www.facebook.com/ dylanthomasfestival Am ddim

TOCYNNAU: F £6 PTL £2.40 C £4.20

10

Ros Barber

Gw ˆ yl Dylan Thomas 2012


Nigel Jenkins

Fernhill

Nos Iau 8 Tachwedd, 7pm

Nos Wener 9 Tachwedd, 7.30pm

NIGEL JENKINS YN LANSIO REAL SWANSEA 2

FERNHILL

Yn Real Swansea 2, mae’r bardd Nigel Jenkins, yn rhoi cipolwg arall ar ei dref enedigol gyda’i fewnwelediad a’i hiwmor nodweddiadol a’i lygad am yr hynod a’r anghyffredin. O Kardomah Dylan Thomas a Theatr y Grand i buteindai a Salubrious Passage, mae’n dathlu Abertawe mewn rhyddiaith steilus a barddoniaeth ddi-flewyn ar dafod. Bydd Nigel yn sgwrsio â golygydd cyfres Real, Peter Finch. Mynediad am ddim a gwin mewn cydweithrediad â Seren Books.

www.dylanthomas.com/festival

Ystyrir yn rhyngwladol bod Fernhill yn un o grwpiau gwerin gorau Cymru. Ymhlith edmygwyr y gantores Julie Murphy mae Robert Plant a Danny Thompson, y ddau ohonynt wedi recordio gyda hi. Yn ymuno â hi y tro hwn mae Ceri Rhys Matthews, Tomos Williams a Christine Cooper, wrth iddynt gyflwyno deunydd o’u halbwm diweddaraf, Canu Rhydd, y mae Huw Stephens, DJ Radio 1, a Late Junction Radio 3 wedi’i gynnwys ar eu rhaglenni. TOCYNNAU: F £8

C £5.50

PTL

£3

11


ARDDANGOSFA 30813-12 DESIGNPRINT

Rydym yn lansio ein partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydag arddangosfa o eitemau o Gasgliad Dylan Thomas y llyfrgell. PHILIP GROSS

YB

W AY

NIN RE

T STREE

NDEB D YR U / STRY

ET TRE

RYD / ST

HEN DYC R HY

W

St St David’s Davids Shopping

ES

/F

 WIND

Grand Theatre Theatr y Grand

TW AY

STELL D Y CA / STRY

Castle Square Sgwâr y Castell

UNION

S ORD OXF

CANOLFAN DYLAN THOMAS

Parc Tawe

REET LE ST CAST

D RD FO /F

VU E

Canolfan Siopa Dewi Sant

FO RD D Y RL GO N WI LE

/ AD RO TH OU M ER ST OY

OL HE

TH AR YN LW L M TU YS

STREE

T / S TR YD Y G W

SOMERSET PLACE, ABERATWE SA1 1RR  01792 463980  www.dylanthomas.com

YNT

AD

T RE E L ST MANSE STRYD

AY SW ING EK TH

EL LE

HE

DS

EC AB

ORCHAR

L DE

D FAWR

YD STR

RO RIA VICTO HEOL

Cefnogir gan:

Amgueddfa National Genedlaethol Waterfront y Glannau Museum

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod manylion yn y rhaglen hon yn gywir, ond mae Dinas a Sir Abertawe yn cadw’r hawl i newid rhan o’r rhaglen hon heb rybudd. Credydau: Stan Tracey gan William Ellis, Paul Durcan gan Mark Condren, Ros Barber gan Derek Adams, Menna Elfyn gan Bernard Mitchell , Fernhill gan Jasmin Hedger, Nigel Jenkins gan Branwen Jenkins, Liz Wride gan Jess Ramthun.

12

Gw ˆ yl Dylan Thomas 2012


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.