CANOLFAN DYLAN THOMAS
RHAGLEN Y Gwanwyn
CROESO O ben-blwydd Shakespeare i ganmlwyddiant R.S. Thomas trwy ddarlleniad gan Mark Tredinnick, enillydd Gwobr Barddoniaeth Ryngwladol Caerdydd 2012, mae digon i'w ddathlu yn rhaglen y gwanwyn. Rydym hefyd yn canolbwyntio ar y gorau mewn ysgrifennu pêl-droed gyda lansiad y cyfnodolyn blaengar, The Blizzard, ac yn croesawu Jonathan Wilson, newyddiadurwr chwaraeon blaenllaw, i drafod ei lyfr diweddaraf, The Outsider: A History of the Goalkeeper. Canolfan Dylan Thomas
SWYDDFA DOCYNNAU:
01792 463980
Gallwch gadw lle ar-lein: www.ticketsource.co.uk/ dylanthomas F Pris Llawn C Consesiynau PTL Pasbort i Hamdden 2
Living in the Future
Nos Iau 24 Ionawr, 7.30pm
UNDERCURRENTS YN CYFLWYNO
LIVING IN THE FUTURE Mae'r rhaglen ddogfen eco hon, wedi'i chyfarwyddo gan Helen Iles, yn dilyn uchafbwyntiau ac isafbwyntiau naw teulu arloesol sy'n adeiladu eu tai fforddiadwy eu hunain, yn tyfu eu bwyd eu hunain ac yn creu cymuned newydd yn Lammas, ecobentref cynlluniedig cyntaf y DU yng Nglandwˆr, Sir Benfro, Cymru. POB TOCYN: £3 Nos Fercher 30 Ionawr, 7.30pm
CAFFI GWYDDONIAETH Pethau sy'n gwneud twrw gefn nos: ymagweddau ar gyfer mynd i'r afael ag anifeiliaid enigmatig – Yr Athro Rory Wilson (Prifysgol Abertawe). Mynediad am ddim Rhaglen y Gwanwyn
Oliver Reynolds
Nos Iau 31 Ionawr, 7.30pm
BEIRDD YN CDT GYDAG
OLIVER REYNOLDS Ganwyd Oliver Reynolds yng Nghaerdydd. Cyhoeddwyd Hodge, ei bumed llyfr o farddoniaeth, yn 2010 ac fe’i disgrifiwyd gan The Guardian fel “casgliad pleserus, ffraeth a grymus”. Mae'n byw yn Llundain ac yn gweithio fel tywysydd yn y Tyˆ Opera Brenhinol. Yn cynnwys meic agored.
Nos Wener 8 Chwefror, 7.30pm
MARTYN CRUCEFIX: SONNETS TO ORPHEUS Mae Martyn Crucefix yn darllen o’i gyfieithiad o Sonnets to Orpheus gan Rilke. Mae Martyn wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys gwobr Eric Gregory fawr a Chymrodoriaeth Hawthornden. Mae wedi cyhoeddi pum casgliad, gan gynnwys Hurt (Enitharmon, 2010). Cyrhaeddodd ei gyfieithiad o Duino Elegies gan Rilke restr fer Gwobr Popescu 2007 ar gyfer Cyfieithu Barddoniaeth Ewropeaidd ac mae Magma yn ysgrifennu ei bod yn “annhebygol y daw rhywbeth gwell am nifer mawr o flynyddoedd”. PRIS LLAWN: F £4 C £2.80 PTL £1.60
PRIS LLAWN: F
£4
C
£2.80
PTL
£1.60
www.dylanthomas.com
3
Martyn Crucefix
Jude Garner
Dydd Sadwrn 9 Chwefror, 2pm – 4.30pm
MARTYN CRUCEFIX: DEFEATING THE BLANK PAGE! Yn y gweithdy hwn, bydd Martyn Crucefix yn cyflwyno ymarferion diddorol a strwythuredig fel y bydd cyfranogwyr bron â gorffen pum neu chwe cherdd erbyn y diwedd. O ddyfeisio llwybrau enwau, estyn y dull haicw syml ac ysgrifennu am wrthrychau cysegredig, byddwn yn gweithio mewn awyrgylch cyfeillgar a chefnogol. Addas i'r rhai sydd am dorri hen arferion neu ddatblygu cyfeiriadau newydd yn eu hysgrifennu. PRIS LLAWN: F £10 C £7 4
Nos Fercher 13 Chwefror, 7.30pm
A NICE DRINK GAN JUDE GARNER Enillodd A Nice Drink gan Jude Garner gystadleuaeth Drama Un Act 2012 Cymdeithas Ddrama Cymru, a feirniadwyd gan Ian Rowlands, dramodydd clodfawr. Mae wedi'i datblygu'n ddrama hyd llawn gan Gwmni Llwyfan Fargo Cymru i ddechrau'r tymor hwn o berfformiadau On the Edge. POB TOCYN: £4
Rhaglen y Gwanwyn
Dydd Sadwrn 16 Chwefror, 1pm
J.M. Barrie
THEATR fluellen YN CYFLWYNO
THE OLD LADY SHOWS HER MEDALS GAN J.M. BARRIE 1916 yw hi ac mae pedair menyw'n brolio'u meibion, sydd bant yn y rhyfel. Ond mae gan Mrs Dowey, yr un sy'n brolio fwyaf, gyfrinach. Dyma gomedi gampus a miniog gan awdur Peter Pan. Mae holl gyflwyniadau Ffocws ar y Theatr yn gyflwyniadau sgript-mewnllaw a bydd sgwrs am y dramodydd cyn y perfformiad. POB TOCYN: ÂŁ5 Nos Fercher 27 Chwefror, 7.30pm
CAFFI GWYDDONIAETH Ewch i www.swan.ac.uk/science/ swanseasciencecafe/ am fanylion sgwrs y mis hwn gan arbenigwr blaenllaw yn ei faes. Mynediad am ddim
www.dylanthomas.com
5
Nos Iau 28 Chwefror, 7.30pm
BEIRDD YN CDT GYDA JO BELL Mae barddoniaeth Jo Bell yn trafod archaeoleg, cyfeillgarwch, cychod a rhyw - yr holl bethau pwysig mewn bywyd. Yn gyn-Gyfarwyddwr Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol ac yn fardd preswyl Gwˆ yl Glastonbury, mae Jo'n gweithio ac yn perfformio ar draws y DU. Yn aml yn gweithio ar y cyd ag eraill, ei phrosiect presennol yw llyfr ar y cyd â Martin Malone am garwyr yn eu pedwar degau a'u hanawsterau. Hi yw Bardd Llawryfog Camlesi cyntaf y DU, yn ysgrifennu ac yn annog eraill i ysgrifennu am y dyfrffyrdd mewndirol. Yn cynnwys meic agored. PRIS LLAWN: F £4 C £2.80 PTL £1.60
6
Nos Iau 7 Mawrth, 7pm
STUFF HAPPENS AR DDIWRNOD Y LLYFR Mae The Crunch a Chanolfan Dylan Thomas yn cyfuno i ddathlu Diwrnod y Llyfr eleni gyda noson arbennig yn dathlu ysgrifennu o Abertawe. TOCYNNAU: Mynediad am ddim
Rhaglen y Gwanwyn
Nos Sadwrn, 16 Mawrth, 7.30pm
THE BLIZZARD A THE OUTSIDER Ymunwch â ni am noson o ddau hanner. Mae Jonathan Wilson yn trafod ei lyfr diweddaraf, The Outsider: A History of the Goalkeeper. Mae ei deitlau eraill yn cynnwys Inverting the Pyramid, hanes tactegau pêl-droed a enwyd yn Llyfr Pêl-droed y Flwyddyn yn 2009, a Nobody Ever Says Thank You, bywgraffiad o Brian Clough. Mae hefyd yn golygu The Blizzard, cyfnodolyn pêl-droed chwarterol sy'n rhoi'r rhyddid i'w awduron ysgrifennu'r straeon pêldroed sydd o bwys iddynt, boed hynny ar y lefel uchaf neu'r isaf, gartref neu dramor. Rydym hefyd yn lansio rhifyn diweddaraf The Blizzard gydag un o'u sesiynau holi ac ateb enwog. Bydd Jonathan, ei gyd-olygydd, David Rose, a newyddiadurwyr eraill yn trafod popeth sy'n ymwneud â phêl-droed â'r gynulleidfa ac yn cynnig eu barn am gêm y prynhawn rhwng Dinas Abertawe ac Arsenal.
Nos Fercher 20 Mawrth, 7.30pm
THE WAY OF WATER GAN CARIDAD SVICH Mae'r ddrama newydd hon gan Caridad Svich, sy'n gweithio yn Efrog Newydd, yn archwilio ôl-effeithiau'r arllwysiad olew ym Mae Mecsico yn 2010 a'r ffyrdd mae wedi taro ar fywydau a breuddwydion pobl sy'n byw ar hyd yr arfordir hon. POB TOCYN: £4
POB TOCYN: £5 www.dylanthomas.com
7
Dorothy Parker
Mark Tredinnick
Dydd Sadwrn 23 Mawrth, 1pm
Nos Iau 28 Mawrth, 7.30pm
THEATR fluellen YN CYFLWYNO
BEIRDD YN CDT GYDA
HERE WE ARE GAN DOROTHY PARKER
MARK TREDINNICK
Mae pâr sydd newydd briodi yn teithio ar y trên i'w gwesty mis mêl a chyflawnhad eu priodas y bu hir aros amdano. Beth gallai fynd o'i le? Mae Dorothy Parker ar ei gorau gyda'i ffraethineb miniog yn y gomedi hyfryd hon. Mae holl gyflwyniadau Ffocws ar y Theatr yn gyflwyniadau sgript-mewnllaw a bydd sgwrs am y dramodydd cyn y perfformiad. POB TOCYN: £5 Nos Fercher 27 Mawrth, 7.30pm
Mark Tredinnick - enillydd Gwobr Barddoniaeth Montreal yn 2011 a Gwobr Barddoniaeth Caerdydd 2012 yw awdur Fire Diary, The Blue Plateau, Australia’s Wild Weather a naw casgliad clodfawr arall o farddoniaeth a rhyddiaith. Bydd ei gasgliad newydd, Body Copy, yn cael ei gyhoeddi eleni. Mae'n byw ac yn ysgrifennu ar hyd afon Wingecarribee yn Ne Cymru Newydd. Yn cynnwys meic agored. PRIS LLAWN: F £4 C £2.80 PTL £1.60
CAFFI GWYDDONIAETH Gweler tudalen 5 am fwy o wybodaeth. 8
Rhaglen y Gwanwyn
Robert Minhinnick
Nos Iau 11 Ebrill, 7.30pm
Dydd Sadwrn 13 Ebrill, 1pm
ROBERT MINHINNICK A MIKE JENKINS
THEATR fluellen YN CYFLWYNO
Mae darlleniadau heno, sy'n frith o syniadau gwleidyddol, yn cynnwys perfformiad o ‘An Opera in Baghdad’ o New Selected Poems (Carcanet) gan Robert Minhinnick, sy'n cynnwys yr actores Tracy Evans. Cafodd ei ysgrifennu ar ôl ymweliad Minhinnick ag Irac ym 1997, ac mae'n trafod y dinistriad gwleidyddol ac amgylcheddol a ddeilliodd o'r rhyfel parhaol yn Irac. Yn ei gasgliad diweddaraf, Barkin!, mae Mike Jenkins yn cofnodi gwallgofrwydd a thrasiedi ei dref enedigol. Gan ddefnyddio iaith lafar fywiog Merthyr, mae Jenkins yn ysgrifennu am bobl sy'n ceisio herio gormes system sydd wedi'i wneud yn un o'r lleoedd tlotaf yn y DU. PRIS LLAWN: F £5 C £3.50 PTL £1.60 www.dylanthomas.com
THE SONNETS GAN WILLIAM SHAKESPEARE Rhywbeth arbennig ar gyfer pen-blwydd Shakespeare (ar 23 Ebrill), gydag archwiliad o'i sonedau; gwirioneddau dwys am Amser, Hyfrydwch a Barddoniaeth. Mae holl gyflwyniadau Ffocws ar y Theatr yn gyflwyniadau sgriptmewn-llaw a bydd sgwrs am y dramodydd cyn y perfformiad. POB TOCYN: £5
9
Nos Iau 18 Ebrill, 7pm
R.S. THOMAS: DATHLIAD Noson o farddoniaeth, cerddoriaeth a thrafod i nodi canmlwyddiant genedigaeth R. S. Thomas. Mae'r Athro M. Wynn Thomas, ysgutor ystad lenyddol anghyhoeddedig Thomas, yn lansio'i lyfr newydd, R.S. Thomas: Serial Obsessive. Hefyd, bydd ymatebion cyfoes wedi'u comisiynu'n bwrpasol i waith Thomas mewn barddoniaeth a cherddoriaeth gan Menna Elfyn, Brian Breeze ac eraill. TOCYNNAU: Mynediad am ddim
10
Rhaglen y Gwanwyn
Delyth Jenkins
Ian Rowlands
Emily Hinshelwood
Nos Fercher 24 Ebrill, 7.30pm
Nos Iau 25 Ebrill, 7.30pm
BEIRDD YN CDT GYDAG HORIZONS GAN JEROEN VAN DEN EMILY HINSHELWOOD BERG AC IAN ROWLANDS A DELYTH JENKINS Wedi'i hysgrifennu'n bwrpasol ar gyfer Fargo Cymru, mae'r ddrama hon yn dilyn anturiau dau awdur wrth deithio trwy Ewrop. POB TOCYN: £4 Nos Fercher 24 Ebrill, 7.30pm
CAFFI GWYDDONIAETH Gweler tudalen 5 am fwy o wybodaeth.
www.dylanthomas.com
Ysbrydolwyd casgliad newydd Emily Hinshelwood, On Becoming a Fish, gan gyfres o deithiau cerdded ar hyd llwybr arfordirol 186 milltir Sir Benfro. Wedi cymryd rhan fawr mewn materion amgylcheddol trwy gydol ei gwaith ym maes ynni cymunedol a newid yn yr hinsawdd, mae'r awdur hefyd yn hoff o wylio natur ddynol yng nghyd-destun yr arfordir prydferth hwn. Ar yr un pryd â'r darlleniad, bydd Delyth Jenkins yn canu'r delyn. Yn cynnwys meic agored. PRIS LLAWN: F £4 C £2.80 PTL £1.60 11
DS W AY
ORCHAR
VU E
NDEB D YR U / STRY
R RYD / ST
IN EN
PHILIP GROSS N
YC HYD
HE
WIND
W
Grand Theatre Theatr y Grand
St St David’s Davids Shopping
ES
/F
Castle Square Sgwâr y Castell
STELL D Y CA / STRY
T STREE
EE T STR
BR
REET LE ST CAST
FF
Y DD OR
UNION
ORD OXF
Canolfan Siopa Dewi Sant
FO RD D Y RL GO N WI LE
Parc Tawe
EET
Y/ WA GS KIN E TH
TW AY
31463-12 DESIGNPRINT
STR
EL LE
HE
/ AD RO H UT MO ER ST Y O
TH AR YN LW L UM ST LY O HE
STREE
T / S TR YD Y G W
YNT
AD
L MANSE STRYD
C BE
D FAWR
LA DE YD STR
RO RIA VICTO L O E H
National Amgueddfa Genedlaethol Waterfront Museum y Glannau
SOMERSET PLACE, ABERTAWE SA1 1RR 01792 463980 www.dylanthomas.com
Cefnogir gan:
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod manylion yn y rhaglen hon yn gywir, ond mae Dinas a Sir Abertawe yn cadw’r hawl i newid rhan o’r rhaglen hon heb rybudd.
CANOLFAN DYLAN THOMAS Credyd lluniau: R.S. Thomas gan Bernard Mitchell