CANOLFAN DYLAN THOMAS
RHAGLEN Medi - Rhagfyr 2012
CROESO Erioed wedi meddwl tybed beth fyddai'n digwydd pe bai Capten Cat yn dechrau trydar? Byddwn yn archwilio hyn ar Ddiwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol, felly ymunwch yn y sgwrs @DTCSwansea. Mewn man arall byddwn yn lansio casgliadau cyntaf gwych dau fardd newydd cyffrous sef Anna Lewis ac Alan Kellermann, yn croesawu Carol Ann Duffy a Gillian Clarke yn ôl ac yn edrych ymlaen at Wˆyl Dylan Thomas wych a fydd yn cynnwys Paul Durcan, Graham Hunter, Stan Tracey a llawer mwy. Am fwy o newyddion yr wˆ yl ewch i www.dylanthomas.com neu www.facebook.com/DylanThomasFestival Jo Furber, Swyddog Llenyddiaeth
SWYDDFA DOCYNNAU: 01792 463980 Gallwch gadw lle ar-lein: ewch i www.ticketsource.co.uk/dylanthomas F PTL
2
Pris Llawn C Consesiynau Pasbort i Hamdden
Dydd Sadwrn 8 Medi, 1pm FFOCWS AR Y THEATR: THEATR fluellen YN CYFLWYNO
NOT NOT NOT NOT NOT ENOUGH OXYGEN, GAN CARYL CHURCHILL Bloc twˆr ymhen rhai blynyddoedd. Mae Mick a Vivian yn byw wedi'u diogelu rhag y trais a'r llygredd y tu allan, lle mae grwpiau o "benboethiaid" yn crwydro. Mae sgript ddoeth a chraff Caryl Churchill yn dangos ei defnydd hynod arloesol o iaith i gyfleu tensiwn dramatig. Mae holl gyflwyniadau Ffocws ar y Theatr yn gyflwyniadau sgript-mewn-llaw a bydd sgwrs am y dramodydd cyn y perfformiad. POB TOCYN: £5
MEDI - RHAGFYR 2012
Nos Wener 14 Medi, 7pm DIGWYDDIAD RHAGARDDANGOSIAD ˆ YL DYLAN THOMAS GW
LANSIO LLYFR: ALAN KELLERMANN AC ANNA LEWIS Nos Fercher 12 Medi, 7.30pm
THE ROAD TO PORT OF BARRY GAN ROBERT GOULD A CHRISTOPHER ORTON Comedi ddibarch, ddu sy'n feiddgar, yn gableddus, yn dreisgar - ac yn hynod ddoniol. Mae wedi'i lleoli'n gyfan gwbl mewn carafán frwnt ar fferm estrys yn ne Cymru, lle mae dau ddyn ifanc yn dadlau ac yn chwarae Monopoly nes bod y Dyn mewn Siwt sinistr yn cyrraedd, ac mae anrhefn yn dilyn. POB TOCYN: £4 www.dylanthomas.com
Mae You, Me and the Birds yn waith coeth gan Alan Kellermann sy'n cynnwys cariad, chwant, colled, celf a myth. Mae bydoedd America a Chymru'n gwrthdaro, mae'r sanctaidd a'r anghysegredig yn eistedd ochr yn ochr, ac mae paentiadau Tony Goble yn drawiadol o fywiog. Mae casgliad diddorol cyntaf Anna Lewis, Other Harbours, yn llawn cymeriadau sy'n symud drwy'r lle trothwyol rhwng gadael a chyrraedd. Mae'r cerddi crefftus hyn yn ein cyflwyno i fydoedd ar ymylon ein hanes derbyniedig. Bydd Alan ac Anna'n sgwrsio â'u golygydd yn Parthian, Kathryn Gray. TOCYNNAU: Mynediad a gwin am ddim 3
GRAHAME DAVIES
JASMINE DONAHAYE
Nos Fawrth 18 Medi, 7.00pm
Nos Iau 27 Medi, 7.30pm
Dydd Iau 4 Hydref, 10am– 5pm
WHOSE PEOPLE? WALES, ISRAEL, PALESTINE
BEIRDD YN CDT:
DIWRNOD BARDDONIAETH CENEDLAETHOL
Mae Jasmine Donahaye yn siarad â Jon Gower am ei llyfr diweddaraf, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru. TOCYNNAU: F £4 C £2.80 PTL £1.60 Nos Fercher 26 Medi, 7.30pm
CAFFI GWYDDONIAETH Bydd yr Athro Lyn Evans o CERN yn trafod y Prosiect Gwrthdaro Hadron Mawr. Mynediad Am Ddim 4
GRAHAME DAVIES Mae Grahame Davies yn fardd arobryn, yn nofelydd, yn olygydd ac yn feirniad. Mae ei lyfrau yn Gymraeg a Saesneg yn cynnwys The Chosen People, astudiaeth o'r berthynas rhwng y Cymry a'r Iddewon, a The Dragon and the Crescent, astudiaeth o Gymru ac Islam. Mae ei gyfrol gyntaf o gerddi Saesneg, Lightning Beneath the Sea (Seren), newydd gael ei rhyddhau. Meic agored hefyd. TOCYNNAU: F £4 C £2.80 PTL £1.60
CYFNEWIDFA TWITTER UNDER MILK WOOD Darnau o Under Milk Wood ar ffurf gwbl wahanol, wrth i rai o gymeriadau hoffus Llareggub sgwrsio drwy gyfrwng Twitter. Dilynwch ni yn @DTCSwansea i gael mwy o wybodaeth.
MEDI - RHAGFYR 2012
JOSEPH CONRAD
NEIL BEBBER
RONA LAYCOCK
Dydd Sadwrn 6 Hydref, 1pm
Nos Fercher 10 Hydref, 7.30pm
Nos Iau 18 Hydref, 7.30pm
FFOCWS AR Y THEATR: THEATR fluellen YN CYFLWYNO
MOIST GAN NEIL BEBBER
BEIRDD YN CDT:
ONE MORE DAY GAN JOSEPH CONRAD Peth prin iawn - un o dair drama'n unig a ysgrifennwyd gan y nofelydd o fri, Joseph Conrad. Mae'r gwˆr hynod, Captain Hagberd, yn aros i'w fab mordwyol ddychwelyd ac mae ganddo gynlluniau mawr ar gyfer ei ddyfodol. Mae holl gyflwyniadau Ffocws ar y Theatr yn gyflwyniadau sgript-mewn-llaw a bydd sgwrs am y dramodydd cyn y perfformiad. POB TOCYN: £5 www.dylanthomas.com
“I had all the coke I could get up my nose, all the women that my hot tub would hold and more money than I’d ever be able to spend, and do you know what? I don’t miss any of it. But I’d give my right arm to have one more chance to stand up there and make people laugh again. And then, just maybe she’d come back to me.” Peidiwch â cholli ymson gafaelgar Neil Bebber. POB TOCYN: £4
RONA LAYCOCK Mae Rona Laycock a anwyd ym Mangor wedi byw a gweithio mewn sawl gwlad, y mae pob un ohonynt wedi dylanwadu ar ei hysgrifennu. Mae'n drefnydd digwyddiadau, yn diwtor ac yn olygydd y cylchgrawn Graffiti, ac mae ei gwaith wedi'i gyhoeddi'n helaeth. Roedd Haiku a haibun yn rhan sylweddol o'i PhD ym Mhrifysgol Abertawe, a chyhoeddir ei chasgliad o farddoniaeth, Borderlands, ar CD. Meic agored hefyd. TOCYNNAU: F £4 C £2.80 PTL £1.60
5
Nos Fercher 24 Hydref, 7.30pm
CAFFI GWYDDONIAETH Yr Athro Rory Wilson ar Ddilyn Trywydd Anifeiliaid Mynediad Am Ddim
ˆ YL GW Dydd Sul 11 Tachwedd, 2.00 - 4.30pm
6
27 HYDREF – 9 TACHWEDD
OTHELLO IN FOCUS
Mae'r rhai sydd eisoes wedi cadarnhau yn cynnwys Pedwarawd Stan Tracey a fydd yn perfformio'u dehongliad clodwiw o A Child's Christmas in Wales gan Dylan Thomas, darlleniadau gan Paul Durcan, Samantha Wynne Rhydderch, Ros Barber, Roshi Fernando, a Kevin Barry, a lansiadau gan Menna Elfyn a Nigel Jenkins. Bydd y newyddiadurwr enwog rhyngwladol, Graham Hunter, hefyd yn ymuno â ni i drafod Clybiau Pêl-droed Barcelona a Dinas Abertawe. Mae mwy ar gael yn www.dylanthomas.com a www.facebook.com/DylanThomasFestival
Caiff cynhyrchiad newydd Cwmni Theatr Fluellen o Othello ei berfformio yn Adain Gelfyddydau Theatr y Grand Abertawe o 6 - 9 Tachwedd. Mae'r cyfarwyddwr, Peter Richards, ynghyd ag actorion o'r cynhyrchiad, yn eich gwahodd i drafodaeth/weithdy ar un o drasiedïau mwyaf Shakespeare. Addas i bob oed a gallu. POB TOCYN: £5
MEDI - RHAGFYR 2012
LYNNE REES
Dydd Sadwrn 17 Tachwedd, 1pm FFOCWS AR Y THEATR: fluellen YN CYFLWYNO
THE MAN ON THE FLOOR GAN NEIL SIMON Penwythnos Wimbledon yw hi, ac mae dau deithiwr o America mewn trallod mawr wedi iddynt ddarganfod eu bod wedi colli eu tocynnau. Ond mae pethau gwaeth i ddod! Campwaith gan yr awdur comedïau gwych ac enillydd Gwobr Pulitzer. NEIL Mae holl gyflwyniadau SIMON Ffocws ar y Theatr yn gyflwyniadau sgript-mewn-llaw a bydd sgwrs am y dramodydd cyn y perfformiad. POB TOCYN: £5 www.dylanthomas.com
Nos Wener 23 Tachwedd, 7pm
LANSIO LLYFR: KEN JONES A LYNNE REES Bog Cotton gan Ken Jones yw'r casgliad diweddaraf gan ysgrifennwr a golygydd sydd wedi bod yn flaenllaw wrth arloesi datblygiad Gorllewinol y genre cerddi rhyddiaith Japaneaidd, yr haibun. Mae forgiving the rain gan Lynne Rees yn gofiant amlochrog o gartref. Mae'r haibun cyfoes hyn yn cyfuno pwˆer naratif rhyddiaith ag ymddatguddiadau cerddi haiku i gwestiynu ac archwilio ble mae cartref, sut rydym yn ei adnabod, sut rydym yn ei adael a sut rydym yn darganfod ein ffordd yn ôl. TOCYNNAU: Mynediad a gwin am ddim 7
KEN JONES
STEVE GRIFFITHS
Dydd Sadwrn 24 Tachwedd, 10.30am – 1pm
Nos Fercher 28 Tachwedd 7.30pm
DARLLEN AC YSGRIFENNU HAIBUN CAFFI GWYDDONIAETH Bydd yr Athro Peter Douglas yn trafod Cemeg GYDA KEN JONES A LYNNE REES Rhyddiaith neu farddoniaeth? Beth am y ddwy? O'i fan geni yn Japan, mae'r Haibun Saesneg yn profi dadeni ar ddwy ochr yr Iwerydd. Mewn ffordd unigryw, mae'n cydbwyso rhyddiaith â barddoniaeth, ac yn gweddu i amrywiaeth o arddulliau a ffurfiau: dyddiadura, y traethawd telynegol, cofiannau, ysgrifennu am natur a theithio. Byddwn yn darllen enghreifftiau o haibun i'n hysbrydoli, ac yn rhoi cynnig ar greu ein rhai'n hunain. TOCYNNAU:
8
F
£10
C
£7
Goleuni. Mynediad am Ddim
Nos Iau 29 Tachwedd, 7.30pm BEIRDD YN CDT:
STEVE GRIFFITHS
Cyhoeddwyd chweched casgliad o gerddi Steve Griffiths sef Surfacing (Cinnamon Press), y llynedd. Mae wedi dychwelyd yn ddiweddar o gyfres lwyddiannus o ddarlleniadau yn Efrog Newydd. Mae Surfacing yn dechrau o dan y ddaear, mewn lle gwag, ond cyn bo hir, ceir cyffro, a ffrwydradau achlysurol i olau llachar anesboniadwy, pwyslais ar wyrthiau o optimistiaeth a fflachiadau o hiwmor. Meic agored hefyd. TOCYNNAU: F £4 C £2.80 PTL £1.60 MEDI - RHAGFYR 2012
CAROL ANN DUFFY A GILLIAN CLARKE
LUCINDA COXON
Nos Wener 7 Rhagfyr, 5pm a 7.30pm
Nos Fercher 12 Rhagfyr, 7.30pm
CAROL ANN DUFFY A GILLIAN CLARKE
I AM ANGELA BRAZIL GAN LUCINDA COXON
Oherwydd galw mawr, rydym yn cyflwyno dwy sesiwn gan Fardd Cenedlaethol Cymru a'r Bardd Llawryfog. Rydym yn dathlu cyhoeddi Ice, casgliad diweddaraf Gillian Clarke gan Carcanet, a dyfarnu Gwobr Pen/Pinter ar gyfer teilyngdod llenyddol eithriadol i Carol Ann Duffy. TOCYNNAU: F £12 C £9
www.dylanthomas.com
Drama glodwiw sy'n herio ac yn troi'r argraff o theatr drwy ffigur gwrywaidd yn ei bedwardegau. Ef ac nid ef yw Angela Brazil. POB TOCYN: £4
Nos Iau 13 Rhagfyr, 7pm
NADOLIG YNG NGHYMRU Dathliad hudol Cwmni Theatr Fluellen mewn geiriau a cherddoriaeth, o Nadoligau'r gorffennol a heddiw, gyda pherfformiad cyflawn o'u haddasiad clodwiw o waith Dylan Thomas, A Child’s Christmas In Wales, gyda Delyth Jenkins ar y delyn. TOCYNNAU: F £6.50 C £4.50 Mae'r tocyn yn cynnwys gwydraid o win y gaeaf neu sudd yn ystod yr egwyl. 9
STR
DS
VU E
W AY
ORCHAR
EL LE
HE
EET
BR
IN EN
T STREE
NDEB D YR U / STRY
S ORD OXF
ET TRE
R RYD / ST
YC HYD
HEN
WIND
W
Grand Theatre Theatr y Grand
St St David’s Davids Shopping
ES
/F
Canolfan Siopa Dewi Sant
FO RD D Y RL GO N WI LE
H UT MO ER T S OY
CANOLFAN DYLAN THOMAS
STELL D Y CA / STRY
Castle Square Sgwâr y Castell
REET LE ST CAST
FF
Y DD OR
UNION
Y/ WA GS N I EK TH
TW AY
Parc Tawe
SOMERSET PLACE, ABERTAWE SA1 1RR 01792 463980 www.dylanthomas.com dylanthomas.lit@swansea.gov.uk
AD RO
TH AR YN W L ML TU YS L EO /H
STREE
T / S TR YD Y G W
YNT
AD
L MANSE STRYD
C BE
D FAWR
LA DE YD STR
RO RIA VICTO HEOL
Amgueddfa National Genedlaethol Waterfront y Glannau Museum
CANOLFAN DYLAN THOMAS
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod manylion yn y rhaglen hon yn gywir, ond mae Dinas a Sir Abertawe yn cadw’r hawl i newid rhan o’r rhaglen hon heb rybudd. Credyd Lluniau: Jasmine Donahaye gan Keith Morris, Gillian Clarke a Carol Ann Duffy gan Bernard Mitchell. Carol Ann Duffy - University of Manchester Library
CEFNOGIR GAN:
10
MEDI - RHAGFYR 2012