CANOLFAN DYLAN THOMAS
RHAGLEN Mai - Awst 2011
CROESO... Ychydig iawn o feirdd sy’n derbyn yr anrhydedd o gael ffilm sydd wedi ennill Oscar wedi’i henwi ar ôl un o’i gerddi; daeth The Hurt Locker Kathryn Bigelow â gwaith treiddiol ac iasol Brian Turner i gynulleidfa hyd yn oed yn ehangach. Mae Brian yn dychwelyd i Abertawe ym mis Mehefin. Mae digon o gyfleoedd i awduron newydd flodeuo, gyda lansiad gwych Ten of the Best Parthian a drama gan fyfyrwyr Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Abertawe. Wrth edrych i’r dyfodol, mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer Gwˆyl Dylan Thomas eleni, gyda Sarah Waters, Pete Brown ac Antony Penrose ymhlith y rhai sydd wedi’u cadarnhau. Ll C PTL
2
Pris Llawn Consesiynau Pasbort i Hamdden Lansio Llyfr
Jo Furber Swyddog Llenyddiaeth Llun ar y Clawr: Brian Turner ©Kim Buchheit
SWYDDFA DOCYNNAU: 01792 463980 MAI - AWST 2011
KELLY GROVIER
GWYN THOMAS
HAROLD PINTER
MAI DIGWYDDIADAU Dydd Sadwrn, 14 Mai / 1pm FFOCWS AR Y THEATR: MAE CWMNI THEATR fluellen YN CYFLWYNO
‘VICTORIA STATION’ A ‘FAMILY VOICES’ GAN HAROLD PINTER Dwy ddrama fer gan Harold Pinter, dramodydd Prydeinig gorau’r 20fed ganrif yn ôl pob tebyg. Mae un yn ddoniol tu hwnt ac mae’r llall yn deimladwy. Mae’r ddwy yn astudiaethau mewn cyfathrebu, neu ddiffyg cyfathrebu. Mae cyflwyniadau Ffocws ar y Theatr yn ddrama sy’n darllen o’r sgript a bydd sgwrs am yr awdur cyn y ddrama. POB TOCYN: F £5, dim consesiynau. Nos Fercher, 25 Mai / 7.30pm
‘ALGAE: SCUM OF THE EARTH’ Adam Powell a Bob Lovitt, Prifysgol Abertawe TOCYNNAU: MYNEDIAD AM DDIM www.dylanthomas.com
Nos Fercher, 25 Mai / 7.30pm
Burning The Curtain GAN GWYNNE EDWARDS
Mae Jâms Thomas yn ymddangos yn narn newydd Gwyn Edwards ar yr awdur a’r darlledwr dylanwadol, Gwyn Thomas. POB TOCYN: F £4, dim consesiynau. Nos Iau, 26 Mai / 7.30pm BEIRDD YN Y SIOP LYFRAU:
GYDA KELLY GROVIER
Dewch i ddathlu llyfr newydd Kelly Grovier o’i ail gasgliad, sef Carcanet, The Sleepwalker at Sea. Ganed Grovier ym Michigan ac mae’n darlithio mewn ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth . Mae wedi ysgrifennu’n helaeth am y beirdd Rhamantaidd a chyhoeddwyd ei fywgraffiad o garchar Newgate enwog Llundain yn 2008, a sesiwn meic agored. TOCYNNAU: F £4 C £2.80 PTL £1.60 3
MEHEFIN DIGWYDDIADAU Nos Iau, 9 Mehefin / 7pm
LANSIO TEN OF THE BEST
ANNA LEWIS
Yn dilyn llwyddiant teitlau Bright Young Things 2010, mae Parthian yn cyflwyno Ten of the Best, sef detholiad o gerddi sy’n dangos doniau llenyddiaeth Cymru. Mae’n cynnwys cerddi trawiadol gan S.T. Owen, cerddi cyfoes, doniol gan Mab Jones, cerddi a ysbrydolwyd gan baentiadau Marc Chagall a Tony Goble gan Alan Kellermann, cerddi ALAN KELLERMANN sy’n bwrw allan cythreuliaid mewnol M.A. Oliver, a cherddi ystyriol, wedi’u crefftio’n wych, gan Anna Lewis.
ANNA LEWIS
TOCYNNAU: Mynediad a gwin am ddim, mewn cydweithrediad â Parthian Dydd Sadwrn 11 Mehefin / 1pm FFOCWS AR Y THEATR: MAE CWMNI THEATR fluellen YN CYFLWYNO
OSCAR WILDE
A FLORENTINE TRAGEDY gan OSCAR WILDE Drama heb ei gorffen chwilfrydig, prin nad yw’n cael ei pherfformio - a’i ymgais mwyaf llwyddiannus ar drasiedi. Mae cyflwyniadau Ffocws ar y Theatr yn darllen o’r sgript a bydd sgwrs am y dramodydd cyn y perfformiad. POB TOCYN: F £5, dim consesiynau. 4
MAI - AWST 2011
MENNA ELFYN
Nos Fercher, 15 Mehefin a nos Iau, 16 Mehefin /7.30pm
Dydd Iau, 16 Mehefin / 10am – 6pm
ROUGH DIAMONDS
DIWRNOD I YSGRIFENWYR
Mae casgliad eithriadol o ddramâu newydd gan ôlraddedigion ar raglen Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Abertawe’n mynd i’r afael â’r byd. Mae’r dramodwyr yn cynnwys: Faith Barnes, Rebecca Cooper, David Ryan Craft, Gareth Edwards, Tabitha Ganda, Debs Llewelyn, Elizabeth Wride, Ireti Oladapo, Sammy Siddique, Laura Stowe, Jayne Walter, Keira Wilkie, yn ogystal â gwesteion arbennig. Bydd y nosweithiau, sy’n cynnwys detholiadau o’r dramâu, yn cael eu cyflwyno a’u cyfarwyddo gan y dramodydd, D.J.Britton, Darlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe, ac fe’u perfformir gan Gwmni Theatr Fluellen. POB TOCYN: F £3, dim consesiynau.
Mae adrannau Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Abertawe a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant Caerfyrddin, ynghyd â Phartneriaeth Menter y Ddraig, yn cynnal diwrnod o weithdai, trafodaethau a darlleniadau. Mae’r bardd o fri, Menna Elfyn, a’r awduron gwych newydd, Roshi Fernando a Tracey Warr yn perfformio. Mae James Hawes yn rhybuddio am beryglon mabwysiadu ac mae Mick Felton (Seren) yn siarad am ddyfodol cyhoeddi yn yr oes ddigidol. Mae sioe un fenyw hefyd gan Sian Rees a lansiad llyfr sy’n arddangos gwaith newydd gan fyfyrwyr. TOCYNNAU: AM DDIM, ond cadwch le ymlaen llaw o Ganolfan Dylan Thomas drwy ffonio 01792 463980.
www.dylanthomas.com
5
MEHEFIN DIGWYDDIADAU Nos Iau, 23 Mehefin / 7.30pm
Dydd Sadwrn, 25 Mehefin / 2pm – 5pm
BRIAN TURNER
GWEITHDY BARDDONIAETH GYDA BRIAN TURNER
Mae Brian Turner yn filwr-fardd o fri a ddilynodd ei waith cyntaf, Here, Bullet gyda Phantom Noise a oedd ar restr fer gwobr T.S.Eliot. Gwasanaethodd Turner am saith mlynedd ym Myddin UDA gydag un flwyddyn yn Irac. Mae Here, Bullet yn hanes teimladwy o Ryfel Iraq, ac yn Phantom Noise mae’n wynebu a cheisio mynd i’r afael â’r canlyniadau trawmatig. TOCYNNAU: C £4.20 F £6 PTL £2.80
‘The Poetry of Negation’. Byddwn yn astudio’r ffyrdd y mae beirdd yn ehangu’r tirlun creadigol drwy greu’r hyn nad yw’n bodoli. Defnyddir y dechneg gan sawl awdur, megis Wilfred Owen, Dylan Thomas, Sylvia Plath a mwy. Yna byddwn yn creu ein cerddi ein hunain gan ddefnyddio’r dechneg ddefnyddiol hon. Dewch â’ch hoff ddeunyddiau ysgrifennu. TOCYNNAU: £10 £8 F
C
ANNA Nos Iau, 30 Mehefin / 7.30pm LEWIS BEIRDD YN Y SIOP LYFRAU: gyda CHRISTIEN GHOLSON Christien Gholson yw awdur On the Side of the Crow (Hanging Loose Press, 2006), y llyfrynnau The Sixth Sense (Modest Proposal Chapbooks, 2005) a llyfrynnau bach How the World was Made (2River View chapbook series, 2009), a’r nofel, A Fish Trapped inside the Wind (Parthian, 2011). Wrth adolygu Crow, meddai cylchgrawn Coldfront: “Gwreiddiol iawn, wedi’i rheoli’n naturiol ac yn dynn, yn dangos egni parhaus y gerdd brôs.” A meic agored. TOCYNNAU: F £4 C £2.80 PTL £1.60 6
MAI - AWST 2011
GORFFENNAF DIGWYDDIADAU KATY EVANS-BUSH
Nos Iau, 28 Gorffennaf / 7.30pm BEIRDD YN Y SIOP LYFRAU:
KATY EVANS-BUSH A TAMAR YOSELOFF TAMAR YOSELOFF
Nos Wener, 1 Gorffennaf / 7pm
Dydd Sadwrn 23 Gorffennaf / 1pm FFOCWS AR Y THEATR: MAE CWMNI THEATR fluellen YN CYFLWYNO
NOSON GOFFA A CHYFLWYNO GWOBRAU TERRY HETHERINGTON LOVE AND HOW TO CURE IT gan Dyma bedwaredd noson goffa i THORNTON WILDER Terry Hetherington, y diweddar awdur o Gastell-nedd yn dathlu gwaith cystadleuwyr eleni yng Ngwobr Terry Hetherington i awduron ifanc. Bydd darlleniadau a theyrngedau gan ffrindiau Terry a lansiad Cheval 4 - pytiau dethol gan Terry ac amdano, a gyhoeddir ynghyd â gwaith enillwyr y Wobr. TOCYNNAU: Mynediad Am Ddim www.dylanthomas.com
Mae dyn ifanc dros ei ben a’i glustiau mewn cariad â merch nad ydy hi’n credu ei fod yn fwy na stelciwr a llofruddiwr o bosib. Sut gallai gael ei ryddhau o’r cariad ffôl hwn? Comedi treiddgar gan ddramodydd Americanaidd gwych. Mae cyflwyniadau Ffocws ar y Theatr yn darllen o’r sgript ac mae sgwrs am y dramodydd cyn y perfformiadau. POB TOCYN: F £5, dim consesiynau.
Perfformiad dwbl i ddathlu llyfrau newydd Tamar Yoseloff a Katy Evans o Salt. Mae pedwerydd casgliad Yoseloff, sef The City with Horns, yn cynnwys dilyniant o gerddi a ysbrydolwyd gan Jackson Pollock. Mae ganddi raddau mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Morgannwg a Phrifysgol Aberystwyth. Mae Evans-Bush yn fardd, blogiwr ac arbenigwr cyfathrebu Cymreig-Americanaidd a fydd yn darllen o’i hail gasgliad llawn, sef Egg Printing Explained. TOCYNNAU:
£4 C £2.80 PTL £1.60 F
7
AWST DIGWYDDIADAU Dydd Sadwrn, 13 Awst / 1pm FFOCWS AR Y THEATR: MAE CWMNI THEATR fluellen YN CYFLWYNO
THE MAIDS gan JEAN GENET Llon morwynion lle ni bo meistres! Drama gyffrous glasurol gan un o ddramodwyr pwysicaf Ffrainc. Mae cyflwyniadau Ffocws ar Theatr yn darllen o’r sgript a bydd sgwrs am y dramodydd cyn y perfformiadau.
T RE E L ST MANSE STRYD
YB
W AY
ET TRE
R RYD / ST
HYD
EN YCH
WIND
W
Grand Theatre Theatr y Grand
St David’s Davids St Shopping
ES
TW AY
/F
STELL D Y CA / STRY
Castle Square Sgwâr y Castell NDEB D YR U / STRY
S ORD OXF
NIN RE
T STREE
E TH
CANOLFAN DYLAN THOMAS
Parc Tawe
REET LE ST CAST
DD OR FF
VU E
UNION
Y/ WA GS KIN
EL LE
HE
DS
EC AB
Canolfan Siopa Dewi Sant
FO RD D Y RL GO N WI LE
D/ OA HR UT MO R E ST OY
TH AR YN LW ML TU S Y OL HE
STREE
T / S TR YD Y G W
YNT
SOMERSET PLACE, ABERTAWE SA1 1RR 01792 463980 www.dylanthomas.com dylanthomas.lit@swansea.gov.uk
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod manylion yn y rhaglen hon yn gywir, ond mae Dinas a Sir Abertawe yn cadw’r hawl i newid rhan o’r rhaglen hon heb rybudd.
AD
L DE
£5, dim consesiynau. D FAWR
YD STR
F
ORCHAR
POB TOCYN:
RO RIA VICTO HEOL
Amgueddfa National Genedlaethol Waterfront y Glannau Museum
CANOLFAN DYLAN THOMAS
CEFNOGIR GAN: 8
MAI - AWST 2011