CANOLFAN DYLAN THOMAS
RHAGLEN Mai i Awst 2012
CROESO
FARZANEH KHOJANDI
Mae ein diwrnod Under Milk Wood cyntaf erioed yn dathlu 59 mlynedd ers llwyfannu’r ddrama yn Efrog Newydd. Daw’r diwrnod yn eitem flynyddol yn y Ganolfan, ac eleni mae’n cynnwys arddangosfeydd, recordiadau, ffilmiau i’r teulu cyfan, a pherfformiad cyntaf drama newydd, Love the Words. Ymwelodd Dylan â Phersia ym 1951 i ysgrifennu sgript ffilm ar gyfer y Cwmni Olew Eingl-Iranaidd, ac mae’n bleser gennym gynnal penwythnos o farddoniaeth Berseg ym mis Mai. Yn ogystal, byddwn yn dathlu Olympiad Shakespeare gyda disgyblion o ysgolion Abertawe, ac yn cyflwyno drama gan garfan eleni o fyfyrwyr ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Abertawe. Ac mae digon i edrych ymlaen ato ar gyfer gweddill y flwyddyn, gyda Phumawd Stan Tracey eisoes wedi’i gadarnhau ar gyfer Gwˆ yl Dylan Thomas. Jo Furber, Swyddog Llenyddiaeth
SWYDDFA DOCYNNAU: 01792 463980 Gallwch gadw lle ar-lein: ewch i www.ticketsource.co.uk/dylanthomas F
2
Pris Llawn
C
Consesiynau
PTL
Pasbort i Hamdden
Nos Wener 4 Mai, 7.30pm
TAITH Y BEIRDD PERSEG gyda’r Ganolfan Cyfieithu Barddoniaeth
Mae barddoniaeth Berseg yn enwog am gyfoeth ei threftadaeth ac mae beirdd clasurol, megis Rumi a Hafez, yn cael eu darllen yn eang. Heno, bydd pum bardd Perseg cyfoes yn dangos sut y parheir i gyfoethogi’r traddodiad hwn. Bydd Partaw Naderi, Farzaneh Khojandi, Azita Ghahreman Shakila Azizzada a Reza Mohammadi yn darllen ochr yn ochr â’u cyfieithwyr, Sarah Maguire, Jo Shapcott, Maura Dooley a Mimi Khalvati. C £4.20 TOCYNNAU: F £6 PTL £2.80 MAI - AWST 2012
Dydd Sadwrn, 5 Mai, 11am – 1pm
Dydd Sadwrn, 12 Mai, 10.30am – 4.30pm
GWEITHDY BARDDONIAETH MIMI KHALVATI DIWRNOD UNDER MILK WOOD Ymunwch ag un o’n prif feirdd ar gyfer gweithdy ar y ffurf Berseg draddodiadol, sef y ghazal. Yn ogystal ag ennill gwobrau niferus am ei barddoniaeth, Mimi yw sylfaenydd yr Ysgol Farddoniaeth, lle mae’n dysgu. TOCYNNAU: F £10 C £7 Nos Sadwrn, 5 Mai, 7.30pm
MIMI KHALVATI Mae Mimi Khalvati, sy’n fardd arobryn, wedi cyhoeddi saith casgliad gyda Carcanet Press, gan gynnwys The Meanest Flower (2007) a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer gwobr T.S. Eliot. Mae ei chasgliad diweddaraf, Child: New and Selected Poems 1991-2011 wedi ennill clod arbennig gan y Gymdeithas Llyfrau Barddoniaeth. Mae Mimi hefyd wedi cael cymrodoriaethau gyda’r Gronfa Lenyddol Frenhinol a’r Rhaglen Ysgrifennu Ryngwladol yn Iowa. Bydd yn sgwrsio â Parvin Loloi. TOCYNNAU: F £5 C £3.50 PTL £1.80 www.dylanthomas.com
Bydd hwn - y cyntaf o’r hyn a fydd yn ddigwyddiad blynyddol - yn cynnwys arddangosfeydd, recordiadau a ffilmiau, a pherfformiad cyntaf drama newydd, Love the Words. 10.30: Animeiddiad o Dan y Wenallt 12.00: Animeiddiad o Under Milk Wood 2.00: Love the Words Cynhaliwyd y perfformiad llwyfan cyntaf o Under Milk Wood ar 14 Mai,1953, yn y Ganolfan Farddoniaeth, Efrog Newydd, gyda Dylan a phum arall – y cyfan yn actorion profiadol ac aelodau o staff yn y Ganolfan. Cyfarwyddyd olaf Dylan iddynt oedd i “ddwlu ar y geiriau”. Wedi’i llunio gan Fluellen a’i hysgrifennu gan Francis Hardy, mae Love The Words yn ystyried tarddiad y ddrama, y dylanwadau arni a’i hysbrydoliaeth. Mae hefyd yn ail-greu’r perfformiad cyntaf erioed ac yn darganfod y straeon y tu ôl i bawb a fu’n ymwneud â’r diwrnod eiconig hwnnw i lenyddiaeth Gymreig. Mae’r holl ffilmiau i’w gweld am ddim ac yn addas i bob oedran. LOVE THE WORDS TOCYNNAU: F £6 C £4.20 PTL £2.80 3
EUAN THORNEY CROFT
PHILIP GROSS
GWEN DAVIES
Nos Fercher 16 a nos Iau 17 Mai, 7.30pm
Dydd Iau, 17 Mai, 10am – 5pm
ROUGH DIAMONDS
DIWRNOD YR YSGRIFENWYR
O ohebwyr rhyfel yn Gaza i fân droseddwyr yn Abertawe, o ddrama lys sy’n gweld y DU ei hun o flaen ei gwell i argyfwng hyder pabaidd sy’n dod â nefoedd a daear at ei gilydd mewn gwrthdaro ysblennydd. Dyma rai o gasgliad o ddramâu newydd a chyffrous eleni gan fyfyrwyr MA ar raglen Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Abertawe. Ymhlith y dramodwyr mae: Jack Branford, Michael Carey, Kathy Chamberlain, Ding Shun, Keri-Ann Edwards, Pippa Hawkins, Dai Howe, Megan Jones, Sarah Jones, Kelsey Richards, David Shannon, Michele Smith, Géraldine Smits, Kerry Steed, Laura Stowe ac Emma Whitney. Caiff y nosweithiau, sy’n cynnwys detholiadau arbennig o’r dramâu, eu cyflwyno a’u cyfarwyddo gan y dramodydd D.J.Britton, Darlithydd mewn Ysgrifennu Dramatig ym Mhrifysgol Abertawe. Caiff y gwaith ei berfformio gan gwmni theatr neilltuol Fluellen o Abertawe. POB TOCYN: £3 4
Diwrnod o ddarlleniadau, trafodaethau a pherfformiadau, wedi’i drefnu ar y cyd gan brifysgolion Abertawe a’r Drindod Dewi Sant. Yn cynnwys Gwen Davies (New Welsh Review), Fiona Sampson (cyn-olygydd Poetry Review), yr asiant Euan Thorneycroft a’r bardd Philip Gross. Mynediad am ddim, ond cadwch le drwy ffonio 01792 463980.
MAI - AWST 2012
CHRIS TORRANCE
CHRIS VINE
Dydd Sadwrn, 19 Mai, 1pm FFOCWS AR Y THEATR: MAE CWMNI THEATR fluellen YN CYFLWYNO
GREEN FORMS GAN ALAN BENNETT Mae Doris a Doreen yn weithwyr swyddfa yn y cyfnod cyn cyfrifiaduron, e-bost a meithrin tîm. Maent wedi troi osgoi gwaith yn gelfyddyd, ond mae’n anochel y bydd yr amseroedd yn newid. Mae ffraethineb a hiwmor Alan Bennett yn bleser pur. Mae holl gyflwyniadau Ffocws ar y Theatr yn gyflwyniadau sgript-mewn-llaw a bydd sgwrs am y dramodydd cyn y perfformiad. POB TOCYN: £5 www.dylanthomas.com
MARK JENKINS
Nos Wener 25 Mai, 7.30pm
Nos Fercher, 30 Mai, 7.30pm
HEAT POETS
DOWN TOWN PARADISE GAN MARK JENKINS
Barddoniaeth a cherddoriaeth gyda Chris Torrance a Chris Vine. Mae Torrance wedi’i gynnwys mewn nifer o flodeugerddi Adfywiol allweddol, gan gynnwys Conductors of Chaos ac Other: British and Irish Poetry since 1970. Ei brif waith yw’r gyfres Magic Door barhaus. Mae Vine wedi gweithio gyda chwmnïau megis Earthfall, Theatr Genedlaethol Cymru a’r Ganolfan Ymchwil Perfformio. Mae’n gweithio ym Mrasil ar hyn o bryd, fel cyfansoddwr gyda Verve Cia de Dança. C £3.50 TOCYNNAU: F £5 PTL £1.80
Mae Rachel yn gyfreithwraig ifanc sy’n benderfynol o frwydro yn erbyn gormes, ond a fydd yng ngharchar Santanero Califfornia yn ormod iddi? ystyriol a ‘‘ Drama phryfoclyd, sy’n hyderus yn ei chreftwriaeth… Pwerdy o emosiwn Kate Stratton, Evening Standard.
’’
POB TOCYN: £4
5
ANTON CHEKOV
RHIAN EDWARDS
Nos Fercher, 30 Mai, 7.30pm
Nos Iau, 31 Mai 7.30pm
GORSAF YNNI NIWCLEAR FUKUSHIMA DAI-ICHI RHAGLEN YMATEB I DDAEARGRYN JAPAN, EDF
BEIRDD YN Y DTC GYDA RHIAN EDWARDS
Mae EDF, a anfonodd dîm ymateb i Japan fis Mawrth diwethaf, yn adrodd stori’r digwyddiadau, eu heffeithiau ar yr ardal ac ar y personél a’r boblogaeth, a’r gwersi a ddysgwyd. TOCYNNAU: Am Ddim
6
Clueless Dogs (Seren) yw casgliad llawn cyntaf Rhian Edwards. A hithau eisoes yn berfformwraig nodedig o’i chaneuon a’i barddoniaeth, mae’r llyfr hwn yn cadarnhau ei thalent aruthrol. Hi oedd enillydd Gwobr John Tripp am Farddoniaeth Lafar a Chynulleidfa 2011, ac mae Ian McMillan yn ei disgrifio fel “bardd Cymreig rhyfeddol gyda pherfformiadau sy’n eich taro yn eich stumog emosiynol”. Gan gynnwys meic agored. TOCYNNAU: F £4 C £2.80 PTL £1.60
Dydd Sadwrn, 9 Mehefin, 1pm FFOCWS AR Y THEATR: MAE CWMNI THEATR fluellen YN CYFLWYNO
THE BEAR GAN ANTON CHEKOV Mae gwraig weddw, sy’n galaru, yn cael ymweliad gan gredydwr ei diweddar wˆr, sy’n hawlio’n ddig yr arian sy’n ddyledus iddo. Mae comedi wych Chekhov yn llawn mewnwelediadau cynnil i’r cyflwr dynol. Mae holl gyflwyniadau Ffocws ar y Theatr yn gyflwyniadau sgript-mewn-llaw a bydd sgwrs am y dramodydd cyn y perfformiad. POB TOCYN: £5 MAI - AWST 2012
Nos Lun 18, nos Fawrth, 19 a nos Fercher, 20 Mehefin, 7pm
OLYMPIAD SHAKESPEARE YSGOLION Dathlwch y Gemau Olympaidd gyda phrosiect unigryw ar y cyd rhwng Cwmni Theatr Fluellen, Canolfan Dylan Thomas ac ysgolion uwchradd yn ne Cymru. Dilynwch y Ffagl Olympaidd ar daith ddychmygol drwy olygfeydd o ddramâu Shakespeare wedi’u perfformio gan yr ysgolion. Mae’r daith yn dechrau yn Athen (A Midsummer Night’s Dream) ac yn parhau drwy Illyria (Twelfth Night), Verona (Romeo and Juliet), gogledd Ffrainc (Henry V), yr Alban (Macbeth), gan orffen yn nwyrain Llundain (Henry IV Rhan 2). TOCYNNAU: F £6 C £4.50 U16 £1 www.dylanthomas.com
Nos Wener, 22 Mehefin, 7pm
NOSON GWOBRAU TERRY HETHERINGTON Dathlwch gyflawniadau ymgeiswyr eleni ar gyfer Gwobrau Terry Hetherington i ysgrifenwyr o dan 30 oed, gyda gwobr o £1000. Bydd yr enillydd Lowri Llewelyn Astley, ail Mao Jones a thrydydd Georgia Carys Williams yn derbyn eu gwobrau ac yn darllen ochr yn ochr ag TERRY HETHERINGTON ymgeiswyr eraill. Byddwn hefyd yn lansio Cheval 5, sy’n cynnwys detholiad o ymgeiswyr eleni, ac a gyhoeddir gan Parthian Books. TOCYNNAU: Am Ddim
7
Nos Iau, 28 Mehefin, 7.30pm
BEIRDD YN Y DTC GYDAG ANNE-MARIE FYFE JOHN HARRISON
Nos Fercher, 27 Mehefin, 7.30pm
JOHN HARRISON: FORGOTTEN FOOTPRINTS Enillydd Llyfr y Flwyddyn Cymru, John Harrison, sy’n teithio i bennau a chalonnau’r rhai a gafodd eu cymell i archwilio Antarctica, mewn noswaith o straeon, rhai personol a hanesyddol, gan deithiwr a chanddo flynyddoedd lawer o brofiad o’r cyfandir dirgel hwn. Mae’n cynnwys ffotograffiaeth drawiadol a seinluniau atmosfferig. Mae John yn arweinydd teithio, anturiaethwr ac awdur arobryn, a’i lyfr diweddaraf yw Cloud Road. C £4.60 TOCYNNAU: F £7 PTL £2.40 8
Ymhlith casgliadau Anne-Marie Fyfe mae Understudies: New and Selected Poems (Seren, 2010) Mae’n gyn-enillydd Cystadleuaeth Farddoniaeth Ryngwladol Caerdydd; mae’n cynnal darlleniadau a gweithdai Coffee-House Poetry yn Troubadour Llundain, yn trefnu yr wˆyl Wanwyn Hewitt flynyddol yng Nglynnoedd Antrim, a bu’n gadeirydd ar y Gymdeithas Farddoniaeth rhwng 2006 a 2009. Gan gynnwys meic agored. TOCYNNAU: £4 F £2.80 C £1.60 PTL
MAI - AWST 2012
CHARLES DICKENS
RHYS OWAIN WILLIAMS
Dydd Sadwrn 14 Gorffennaf 1pm FFOCWS AR Y THEATR: MAE CWMNI THEATR fluellen YN CYFLWYNO
AFTERPLAY GAN BRIAN FRIEL Caffi bach sy’n mynd â’i ben iddo yn y 1920au ym Moscow: mae nith Wncwl Vanya, sef Sonya, yn eistedd ar ei phen ei hun tan i Andrei, brawd gorthrymedig y Tair Chwaer, gyrraedd. Mae awdur byw enwocaf Iwerddon yn rhoi ei ddehongliad gwych ac unigol iawn ar Chekhov. Mae holl gyflwyniadau Ffocws ar y Theatr yn gyflwyniadau sgript-mewn-llaw a bydd sgwrs am y dramodydd cyn y perfformiad. POB TOCYN: £5 www.dylanthomas.com
Nos Iau, 26 Gorffennaf, 7.30pm
Dydd Sadwrn, 11 Awst, 1pm FFOCWS AR Y THEATR: MAE CWMNI THEATR fluellen YN CYFLWYNO
BEIRDD YN Y DTC GYDAG ADAM SILLMAN A RHYS OWAIN WILLIAMS THE LAMPLIGHTER Dau berfformiad i ddathlu cyfres GAN CHARLES DICKENS newydd a gyhoeddir o dan faner noson llyfrau llafar Mozart. Mae Crunch Poets Volume 1 yn cynnwys cyd-sefydlydd Crunch, Adam Sillman, ochr yn ochr â bardd arall o Abertawe sy’n ennill enw iddo’i hun, Rhys Owain Williams. Gan gynnwys meic agored. TOCYNNAU: F £4 C £2.80 PTL £1.60
Wrth ddathlu deucanmlwyddiant genedigaeth Charles Dickens, cyfle prin i weld y ffars a ysgrifennodd yn arbennig ar gyfer yr actor comig o oes Fictoria, Williams Charles Macready. Mae holl gyflwyniadau Ffocws ar y Theatr yn gyflwyniadau sgriptmewn-llaw a bydd sgwrs am y dramodydd cyn y perfformiad. POB TOCYN: £5
9
STR
DS
VU E
W AY
ORCHAR
EL LE
HE
EET
BR
IN EN
T STREE
NDEB D YR U / STRY
S ORD OXF
ET TRE
R RYD / ST
YC HYD
HEN
WIND
W
Grand Theatre Theatr y Grand
St St David’s Davids Shopping
ES
/F
Canolfan Siopa Dewi Sant
FO RD D Y RL GO N WI LE
H UT MO ER T S OY
CANOLFAN DYLAN THOMAS
STELL D Y CA / STRY
Castle Square Sgwâr y Castell
REET LE ST CAST
FF
Y DD OR
UNION
Y/ WA GS N I EK TH
TW AY
Parc Tawe
SOMERSET PLACE, ABERTAWE SA1 1RR 01792 463980 www.dylanthomas.com dylanthomas.lit@swansea.gov.uk
AD RO
TH AR YN W L ML TU YS L EO /H
STREE
T / S TR YD Y G W
YNT
AD
L MANSE STRYD
C BE
D FAWR
LA DE YD STR
RO RIA VICTO HEOL
Amgueddfa National Genedlaethol Waterfront y Glannau Museum
CANOLFAN DYLAN THOMAS
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod manylion yn y rhaglen hon yn gywir, ond mae Dinas a Sir Abertawe yn cadw’r hawl i newid rhan o’r rhaglen hon heb rybudd. Credyd Lluniau: Rhys Owain Williams gan Rhys Jones
CEFNOGIR GAN:
10
MAI - AWST 2012