Rhaglen Canolfan Dylan Thomas

Page 1


Rhaglen Canolfan Dylan Thomas Medi - Rhagfyr 2009 Fel arfer, uchafbwynt misoedd olaf y flwyddyn yw Gw ˆyl Dylan Thomas (26 Hydref - 9 Tachwedd) sy’n dathlu ei deuddegfed pen-blwydd eleni. Dylai’r rhaglen lawn fod ar gael tua diwedd mis Medi ond, cyn ac ar ôl yr w ˆyl, bydd gennym ein cymysgedd arferol o ddigwyddiadau rheolaidd ac unigol, gan gynnwys y gyfres darllen dramâu, Ar yr Ymyl, Caffi Gwyddoniaeth, Beirdd yn y Siop Lyfrau a’r gyfres Celfyddyd i Ginio ymhlith y digwyddiadau rheolaidd. Bydd digwyddiadau unigol yn cynnwys lansiadau a darlleniadau gan Parthian Books a’r cylchgronau Roundyhouse a Seventh Quarry. Os nad ydych ar ein rhestr e-bostio, cysylltwch â jo.furber@swansea.gov.uk, ac mae’r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddigwyddiadau ychwanegol neu newidiadau i’n rhaglen ar gael ar ein gwefan www.dylanthomas.com Nos Fercher 9 Medi 7.30pm

Ar yr Ymyl - wedi’i gyflwyno gan Michael Kelligan Y diweddaraf yn ein cyfres o berfformiadau ‘darllen o’r sgript’ gan ddramodwyr cyfoes o Gymru, Dandelion gan Patrick Jones - Efallai bod y pum cymeriad hyn yn byw mewn hosbis, ond mae digon o fywyd, cariad ac ysbryd ganddynt o hyd. Gyda Michael Kelligan fel Earnest. Wedi’i gyfarwyddo gan Allan Cook. Patrick Jones

Tocynnau: £3.00

Dydd Gwener 11 Medi 1pm

Celfyddyd i Ginio Ein hachlysur misol ar gyfer y rhai sy’n chwilio am fargen ddiwylliannol! Holy Wells: Wales ... on the road yw teitl darlith/perfformiad newydd gan Phil Cope. Cyhoeddwyd ei lyfr Holy Wells: Wales, a photographic journey gan Seren y llynedd, gyda chyflwyniad gan Jan Morris a cherddi gan nifer o feirdd o Gymru, gan gynnwys R. S Thomas, Rowan Williams a Gillian Clarke. Bu’r Bronwen Thomas lluniau hyfryd yn destun arddangosfa yng Nghanolfan Dylan Thomas ym mis Gorffennaf. Mae’r perfformiad hwn yn cynnwys storïau, mythau a cherddi, gyda chyfeiliant hudol gan Bronwen Thomas ar y delyn a’r sielo. Tocynnau: £5.00 am sgwrs 45 munud, gan gynnwys cawl a brechdan Dydd Sadwrn /dydd Sul 12-13 Medi

Ysgrifennu ar gyfer y Dudalen a’r Llwyfan Gyda Peter Read a Rona Campbell – gweler Cyrsiau, tudalen 7 am fanylion llawn.

2

Medi - Rhagfyr 2009


Nos Wener 18 Medi 7pm

10 mlynedd o Roundyhouse Mae rhifyn yr hydref o’r cylchgrawn Roundyhouse yn dathlu barddoniaeth gan fenywod. Darlleniadau gan Ivy Alvarez, Frances Presley Catherine Fisher Catherine Fisher, Frances Presley a llawer Ivy Alvarez mwy o berfformwyr gwych. Ymunwch â chriw Roundyhouse, Alexandra Trowbridge-Matthews, Phil Carradice, Sally Roberts-Jones a Brian Smith, am y cyntaf o’r achlysuron i ddathlu’n 10fed pen-blwydd! Bydd sesiwn meic agored. Tickets: Mynediad Am Ddim Nos Fercher 23 Ionawr 7.30pm

Theatr Playhouse Pedair drama hanner awr gan ddramodwyr lleol, gan gyflwyno - Slammed gan Alex James, Around the Block gan Caroline James, The Vampyres gan Margaret Hembrow a Murdering Shakespeare (or What you Kill) gan Kevin Johnson. Tocynnau: £4.00, £3.00 Nos Iau 24 Medi 7.30pm

Beirdd yn y Siop Lyfrau - Peter Dale Darllenydd gwadd y mis yw Peter Dale, bardd, cyhoeddwr a chyfieithydd profiadol iawn. Symudodd Peter i Gaerdydd yn 2008 ac, yn ddiweddar, cyhoeddwyd Local Habitation (Gwasg Anvil), ei gasgliad cyntaf ers 2002. Sesiwn meic agored arferol hefyd. Peter Dale

Tocynnau: Pris Llawn - £4; Consesiynau - £2.80; PTL Abertawe - £1.40

Dydd Sadwrn 26 Medi 10am - 4pm

Along the Shoreline Gweithdy barddoniaeth gydag Angela Morton. Gweler cyrsiau, tudalen 7 am fanylion llawn. Nos Fercher 30 Medi 7.30pm

Caffi Gwyddoniaeth ~ Dr. Dan Forman – Moch Daear a TB. Tocynnau: Mynediad Am Ddim Nos Iau 1 Hydref 7pm

Lansio Llyfr – Vicar Joe’s Religious Joke Book gan Kevin John a Peter Read Yn dilyn llwyddiant dramâu Peter, Toshack or Me a To Hull and Back yn Theatr y Grand, Abertawe, mae Peter, Kev a Joe wedi dod at ei gilydd i greu’r casgliad hwn o jôcs a sylwadau crefyddol a ffraeth! Peidiwch â cholli dychweliad Joe i Theatr y Grand ym mis Tachwedd/Rhagfyr yn Vicar Joe’s No, No Nativity! Tocynnau: Mynediad a gwin am ddim, mewn cydweithrediad â Gwasg y Lolfa

Rhaglen Lenyddiaeth

3


Nos Fercher 7 Hydref 7pm

Lansiad gan Parthian – Landeg White a Jeni Williams Mae Landeg White yn lansio ei wythfed gasgliad o gerddi, Singing Bass, a bydd y bardd o Abertawe, Jeni Williams, yn lansio Being the Famous Ones yma’n gyntaf. Tocynnau: Mynediad a gwin am ddim, mewn cydweithrediad â Parthian Books Dydd Gwener 9 Hydref 1pm

Celfyddyd i Ginio Ein hachlysur misol ar gyfer y rhai sy’n chwilio am fargen ddiwylliannol! Bydd y ffotograffydd o Abertawe, Bernard Mitchell, sy’n adnabyddus am ei ddelweddau o awduron ac artistiaid, yn cyflwyno Photographing People, sgwrs ddarluniadol am ei anturiaethau wrth dynnu lluniau amrywiaeth eang o bobl -o bobl enwog i feirdd ac arlunwyr a’r dyn a’r fenyw yn y stryd! Tocynnau: £5.00 am sgwrs 45 munud, gan gynnwys cawl a brechdan Nos Wener 9 Hydref 7pm

Eric Maddern - What the Bees Know Mae Eric, sy’n storïwr ac yn gerddor ac yn cadw gwenyn ei hunan, yn cyflwyno perfformiad heriol am y salwch sy’n effeithio arnom a’r hyn a Eric Maddern allai ein hiacháu. Drwy gyfuno ei ganeuon pwerus ei hun, storïau llawn doethineb diamser, cerddi, proffwydoliaeth ynghyd â sgyrsiau â gwenyn, mae Eric yn llwyddo i gyrraedd hanfod y broblem mewn modd ysgafn. Mae’n datgelu bod rhaid i bawb ddysgu gwybodaeth y gwenyn os ydym i ‘gymryd y cam mwyaf erioed ar gyfer ein heneidiau’ ac ymgymryd â her y cyfnod tyngedfennol hwn. Mae’r sioe yn emosiynol, yn ysgogol, weithiau’n ddoniol ac yn aml yn procio’r meddwl. Mewn cydweithrediad â Chanolfan yr Amgylchedd Abertawe. Tocynnau: £6.00; £4.00 Consesiynau Nos Iau 15 Hydref 7pm

Lansio llyfr – Gower – Nigel Jenkins a David Pearl Dynodwyd Penrhyn Gw ˆyr yn ‘Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol’ gyntaf Prydain fwy na 50 mlynedd yn ôl, ac mae’n lle arbennig iawn i lawer o bobl. Mae Gower yn dathlu’r arfordir eiconig hwn mewn cyfrol foethus. Mae Nigel Jenkins yn archwilio’n fanwl i hanes ei fro frodorol drwy gyfres o draethodau byr sy’n cyfuno darnau doniol â gemau llenyddol, a’r cyfan yn creu cyfrol swynol, bersonol a hawdd ei darllen. Mae’n llawn delweddau gwefreiddiol sy’n portreadu agweddau annisgwyl ar Benrhyn Gw ˆyr. Mae lluniau David Pearl yn llawn ansawdd, dyfnder a deallusrwydd llygad y ffotograffydd. Yn debyg i eiriau Nigel, maent yn annerch y darllenydd mewn ffordd gyfeillgar ac uniongyrchol, gan gyfleu gwir natur Gw ˆyr yn ei holl ogoniant. Tocynnau: Mynediad a gwin am ddim. Mewn cydweithrediad â Gwasg Gomer.

4

Medi - Rhagfyr 2009


Nos Wener 16 Hydref 7pm

The Seventh Quarry Mae’r cylchgrawn barddoniaeth Abertawe, wedi’i olygu gan y bardd o Abertawe Peter Thabit Jones, yn Aleksey cyflwyno Noson o Gerddi o America, gyda Sultan Catto Sultan Catto Dayen ac Aleksey Dayen. Bydd Peter Thabit Jones hefyd yn cyflwyno caneuon gan Terry Clarke. Cydweithrediad rhwng The Seventh Quarry a Cross-Cultural Communications, Efrog Newydd. Tocynnau: Mynediad Am Ddim Nos Fercher 21 Hydref 7.30pm

Caffi Gwyddoniaeth ~ Dr John Emsley, Prifysgol Caergrawnt - Better Looking, Better Living, Better Loving - dan nawdd Gymdeithas Frenhinol Cemeg Tocynnau: : Mynediad Am Ddim Nos Iau 22 Hydref 7.30pm

Beirdd yn y Siop Lyfrau - Paul Henry Bardd gwadd y mis yw Paul Henry o Gasnewydd, sydd wedi cyhoeddi pum casgliad, a’r diweddaraf yw Ingrid’s Husband gan Seren. Tocynnau: Pris Llawn £4, Consesiynau £2.80, PTL Abertawe £1.40

Paul Henry

27 Hydref - 9 Tachwedd

Deuddegfed Ŵyl Flynyddol Dylan Thomas ˆ yl ar wahân neu ewch i www.dylanthomas.com Am fanylion llawn, gweler Llyfryn yr W Dydd Gwener 13 Tachwedd

Celfyddyd i Ginio Ein hachlysur misol ar gyfer y rhai sy’n chwilio am fargen ddiwylliannol! Mae’r bardd, cyfieithydd a darlithydd o Abertawe, Malcolm Parr, yn cyflwyno sgwrs ddarluniadol am yr artist penigamp, enigmatig ac unigryw, Stanley Spencer. Tocynnau: £5.00 for a 45 minute talk, includes soup and a sandwich Nos Fercher 18 Tachwedd 7.30pm

Ar yr Ymyl - wedi ei gyflwyno gan Michael Kelligan Y diweddaraf yn ein cyfres o berfformiadau ‘darllen o’r sgript’ gan ddramodwyr cyfoes o Gymru, Straight Talk - drama newydd gan Dan Anthony. Mae plismon a’i hysbyswr yn cwrdd ar fainc parc. Mae’r plismon yn cael ei ddenu i fyd hudol lle mae’r llinell rhwng ffaith a chelwydd yn pylu ac mae ei freuddwyd (i fod yn blismon da) yn cael ei gwireddu. Wedi ei gyfarwyddo gan Simon West. Simon West

Tocynnau: £3.00

Rhaglen Lenyddiaeth

5


Nos Fercher 25 Tachwedd 7.30pm

Caffi Gwyddoniaeth ~ I’w gadarnhau Tocynnau: Mynediad Am Ddim Nos Iau 26 Tachwedd 7.30pm

Beirdd yn y Siop Lyfrau - Anna Lewis Bardd gwadd y mis yw Anna Lewis. Mae cerddi Anna wedi ymddangos mewn llawer o gylchgronau, gan gynnwys Poetry Wales a’r New Welsh Review, ac mae hi wedi ennill sawl gwobr a bwrsari. Bydd ei chasgliad cyntaf yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir. Anna Lewis

Tocynnau: Pris Llawn £4, Consesiynau £2.80, PTL Abertawe £1.40

Nos Wener 27 Tachwedd 7.30pm

The Shoe Shine gan Richard Lloyd Drama un act newydd, wedi’i hysgrifennu a’i chynhyrchu gan Richard Lloyd o Abertawe, sydd hefyd yn un o’r tri actor, ynghyd â Julie-Anne Grey a Rob Stradline. Mae’r ddrama ddiddorol hon yn son am bâr newydd briodi sy’n cael cyfarfod buddiol gyda rhywun â sylwadau doeth am y byd. Wedi’i chyfarwyddo gan Steve Grey. Tocynnau: £3.00 Nos Iau 3 Rhagfyr 7pm

Digwyddiad er budd y Sefydliad Meddygol Digwyddiad celfyddydol blynyddol i gynyddu ymwybyddiaeth am yr elusen bwysig hon. Am fwy o fanylion, e-bostiwch jack.fell@yahoo.co.uk neu ffoniwch 01792 701588 Nos Wener 4 Rhagfyr 7pm

Dylan Thomas yng Nghymru - Prosiect Myfyrwyr o America ar Daith Seminar llenyddol 12 wythnos yw Dylan Thomas yng Nghymru a ddarperir gan Knox College (Illinois, America) mewn cydweithrediad a’r Carl Sandburg Birthplace (America), y cylchgrawn barddoniaeth o Abertawe, The Seventh Quarry (Cymru), Cross-Cultural Communications (Efrog Newydd) a Chanolfan Ryngwladol Cymru (Efrog Newydd). Yn yr UD bydd y myfyrwyr yn astudio bywyd a gwaith llenyddol Dylan Thomas. Yng Nghymru byddant yn Robin Metz Peter Thabit Jones astudio effaith hanes naturiol a deinamig diwylliannol Cymru ar waith y llenor. I lansio’r prosiect newydd a chyffrous hwn, bydd y bardd o America, Robin Metz, a’r bardd o Abertawe, Peter Thabit Jones, yn darllen rhai o’u cerddi a siarad am y prosiect. Bydd y canwr-gyfansoddwr o Abertawe, Terry Clarke, yn perfformio caneuon am Dylan Thomas hefyd. Tocynnau: Mynediad Am Ddim

6

Medi - Rhagfyr 2009


Nos Fercher 9 Rhagfyr 7.30pm

Ar yr Ymyl - wedi’i gyflwyno gan Michael Kelligan Y diweddaraf yn ein cyfres o berfformiadau ‘darllen o’r sgript’ gan ddramodwyr cyfoes o Gymru, A Marriage of Convenience gan Ian Rowlands. Yn sgil cynyrchiadau Michael Kelligan o Blue Heron in the Womb a Blink, mae’r cyfarwyddwr Gareth Potter yn dychwelyd at y ddrama arobryn hon y bu’n perfformio’r rhan o Rowland, y dyn ifanc chwilgar, ynddi’n wreiddiol. Tocynnau: £3.00

Gareth Potter

Dydd Gwener 11 Rhagfyr

Celfyddyd i Ginio Ein hachlysur misol ar gyfer y rhai sy’n chwilio am fargen ddiwylliannol! Yn dilyn ei sgwrs hynod lwyddiannus ym mis Gorffennaf, mae’r actor a chyfarwyddwr, Peter Richards o Gwmni Theatr Fluellen, yn cyflwyno Directing Shakespeare - Act Two! Peter Richards

Tocynnau: £5.00 am sgwrs 45 munud, gan gynnwys cawl a brechdan

Nos Iau 17 Rhagfyr 7.30pm

Beirdd yn y Siop Lyfrau - John Barnie

John Barnie

Bardd gwadd y mis yw John Barnie o Aberystwyth, bardd, ysgrifennwr rhyddiaith, beirniad a chyn olygydd y cylchgrawn Planet. Enillodd casgliad diwethaf John, Trouble in Heaven, le ar restr hir Llyfr y Flwyddyn Cymru 2008. Tocynnau: Pris Llawn £4, Consesiynau £2.80, PTL Abertawe £1.40

CYRSIAU yng Nghanolfan Dylan Thomas Dydd Sadwrn/Dydd Sul 12 a 13 Medi - Canolfan Dylan Thomas, Abertawe

Ysgrifennu Barddoniaeth ar gyfer y dudalen a’r llwyfan gyda Peter Read a Rona Campbell Mae Peter wedi ennill Gwobr John Tripp ar gyfer Barddoniaeth Lafar. Mae saith o’i ddramâu wedi eu perfformio’n broffesiynol ac mae wedi cyhoeddi dau gasgliad o gerddi. Mae gwaith y bardd Rona Campbell, enillydd Gwobr Arvon, wedi ei ganmol gan Ted Hughes a’i berfformio gan Placido Domingo. Mae’n gantores opera broffesiynol ac mae’n cynnal dosbarthiadau ar ddefnyddio’r llais. Tocynnau: £60 - I gadw lle neu i gael mwy o fanylion, ffoniwch Peter ar 07931 614180 Dydd Sadwrn 26 Medi 10am - 4pm

Along the Shoreline - Gweithdy Barddoniaeth gydag Angela Morton Diwrnod o ysbrydoliaeth, myfyrio ac ysgrifennu sydd â’r nod o’ch helpu i ddarganfod eich ‘traethlin’ eich hun ac ymateb iddo, i ysgrifennu’n farddonol am yr hyn sy’n digwydd ar ymylon eich profiad. Mae Angela Morton wedi cyhoeddi llawer o gerddi, gan gynnwys un casgliad cyflawn, ac mae wedi arwain nifer o weithdai mewn amrywiaeth eang o leoliadau. Mae’r gweithdy hwn yn croesawu ysgrifenwyr newydd a phrofiadol. Dylech gadw lle ymlaen llaw gan fod lleoedd yn gyfyngedig i 12. Tocynnau: £10.00

Rhaglen Lenyddiaeth

7


10 a 17 Hydref a 14 ac 28 Tachwedd

Dosbarth Meistr Canu i Berfformwyr - Rona Campbell Bydd cantorion yn gweithio gyda Ms Campbell mewn gw ˆyr ac, yn y prynhawn, bydd cyfle iddynt berfformio o flaen cynulleidfa mewn awyrgylch dosbarth meistr anffurfiol. Dewch â’ch cyfeillion a’ch tiwtoriaid cerdd. Bydd Ms Campbell yn gweithio ar eich perfformiad, eich dehongliad, osgo eich corff a’ch techneg. I fanteisio i’r eithaf ar y dosbarth hwn, dylech fod yn gyfarwydd â’ch geiriau a’ch cerddoriaeth, beth bynnag fo eich dull o ganu – boed hwnnw’n ganu poblogaidd, clasurol, caneuon neu gabaret. Os ydych yn paratoi am glyweliad, gradd mewn cerddoriaeth, arholiad Safon Uwch neu TGAU, neu’n mwynhau canu er ei fwyn ei hun, mae croeso i bawb. Dylai cantorion baratoi detholiad o ganeuon i bara 15 munud ar y mwyaf. Dylech ddewis dull o gerddoriaeth sy’n gweddu i’ch llais. Anfonwch ddau lungopi at Ms Campbell o leiaf pythefnos cyn eich dosbarth. Rona Campbell oedd prif soprano gydag Opera Metropolitana de Caracas, Venezuela, ac mae wedi astudio gydag Alfredo Hollander o Opera Gwladol Vienna a Gerald Davies yng Nghymru. Bu’n chwarae nifer o rannau, gan gynnwys Rosalinder yn Die Fledermaus, Susanna yn Le Nozze di Figaro, y Spinster yn Lord Byron’s Love Letters, y Bartered Bride, ynghyd â rhannau yn Gianni Schicchi a Hansel and Gretel. Mae’n arbenigo mewn ailhyfforddi’r llais canu sydd wedi ei niweidio ac, yn ddiweddar, ymddeolodd fel Pennaeth Astudiaethau Lleisiol Gwasanaethau Cerdd Wrecsam. Mae ganddi brofiad o ganeuon ac oratorios Seisnig, Bach, Mozart, Britten, Vaughan Williams a sioeau cerdd. Tocynnau: £30.00 y diwrnod. Am fwy o fanylion – ronacampbell@talktalk.net neu ffoniwch 01978 312790/07758 16660

Siop Lyfrau Cover to Cover, Y Mwmbwls. Digwyddiadau dathlu’r degfed ben-plwydd: Dydd Mercher 12 Awst, 12.30pm yn Cover to Cover

Bydd Griff Rhys Jones yn arwyddo copïau o Rivers Ei lyfr newydd sy’n cyd-fynd a’i gyfres ar BBC, River Journeys. Tocynnau: Mynediad Am Ddim. Cysylltwch â Cover to Cover os nad oes modd i chi fod yn bresennol ond hoffech gael copi wedi’i arwyddo.

Griff Rhys Jones

Nos Wener 11 Medi, 7.30pm yng Nghaffi Surfside, Caswell

Joe Dunthorne Bydd Joe yn darllen o’i lyfr cyntaf hynod ddoniol, Submarine. Wedi’i leoli yn Abertawe, mae’r llyfr wedi cael ei gyfieithu i chwe iaith ac mae ffilm yn cael ei chynhyrchu gyda Michael Sheen yn actio ynddi a Ben Stiller yn gynhyrchydd gweithredol. Cerddoriaeth gan y gitarydd lleol, Simon Parton. Tocynnau: £2 ar gael gan Cover to Cover. Ad-delir pris y tocyn i’r rhai sy’n prynu’r llyfr Joe Dunthorne

8

Medi - Rhagfyr 2009


Dydd Sul 20 Medi, 2.00-4.00pm yng Nghanolfan Ostreme

Julia Donaldson a’r arlunydd Axel Scheffler yn arywddo eu llyfr Bydd Julia Donaldson a’r arlunydd Axel Scheffler - y ddau yn boblogaidd iawn ym myd llyfrau darluniadol i blant - yn arwyddo copïau o’u llyfr newydd Tabby McTat ar eu hunig ymweliad â Chymru eleni. Mae croeso i blant ddod â’u cathod meddal eu hunain i wneud i Tabby deimlo’n gartrefol. Yn ogystal, bydd ymddangosiad arbennig gan y Gruffalo sy’n dathlu ei ddegfed pen-blwydd hefyd. Tocynnau: Mynediad am ddim. I archebu copi o’r llyfr am y pris arbennig o £8.99, cysylltwch â Cover to Cover. Bydd llyfrau heb eu harchebu ar gael ar y diwrnod am y pris arferol o £10.99. Am fanylion pellach, cysylltwch â: Cover to Cover, 58 Heol Newton, Y Mwmbwls, Abertawe SA3 4BQ  01792 366363  www.cover-to-cover.co.uk  books@cover-to-cover.co.uk

Digwyddiadau eraill, Cyrsiau, Gweithdai etc... Mae tymor llawn o ddigwyddiadau bob nos Lun drwy gydol mis Medi yn Nhy ˆ Cwch Dylan Thomas yn Nhalacharn i ddathlu 60 mlynedd ers i Dylan a Caitlin Thomas symud i’r Tyˆ Cwch. Am fanylion llawn, ffoniwch  01994 232726 neu  boathouse@carmarthenshire.gov.uk neu ewch i  www.dylanthomasboathouse.com Digwyddiadau yng Ngheredigion - Mae Word Up! yn digwydd bob nos Iau cyntaf y mis yng Nghaffi’r Castell yng Ngheredigion, gyda bardd gwadd a sesiwn meic agored. E-bostiwch  simone@simonemb.com  01559 370517. Hefyd cynhelir gweithdai a chyrsiau yng Nghanolfan Ceridwen - gweler  www.ceridwencentre.co.uk

Arddangosfeydd yn Oriel y Coridor, Canolfan Dylan Thomas 7 - 20 Medi

Bear Hunt a Jack in a Box Mae Llyfrgelloedd Abertawe yn cyflwyno arddangosfa Dechrau Da a Dechrau’n Deg o ffotograffau gan ddisgyblion ysgolion Waun Wen a Townhill, yn deillio o ddau brosiect gwahanol.

21 Medi - 4 Hydref

All the Colours of Light Arddangosfa o waith plant a ysbrydolwyd gan yr Artist Mary Lloyd Jones, i gyd-fynd â lansio llyfr a phecyn athrawon newydd am waith yr artist gan Carolyn Davies a Lynne Bebb.

Am fwy o wybodaeth am arddangosfeydd eraill mis Hydref a mis Tachwedd, gweler llyfryn Gŵyl Dylan Thomas.

Rhaglen Lenyddiaeth

9


Arddangosfeydd parhad... 5 - 18 Hydref

Teithiau arddangosfa o waith gan ddisgyblion pedair ysgol gynradd yn Sir Gaerfyrddin a fu’n gweithio gyda’r artist Keith Bayliss a’r bardd Peter Read. Mae’r disgyblion wedi creu cerddi, rhyddiaith, paentiadau, argraffiadau a cherfluniaeth, sy’n archwilio themâu a ysbrydolwyd gan yr artistiaid Tony Goble a William Brown. 1 Rhagfyr - mis Ionawr 2010

Cherry Pickles Paentiadau o Weriniaeth Dominica.

S

DE

PA

W

FA B

R

IAN

AY

O

ST

SO

SA IN SB

UR YS

ME RS E

RIA

RO

AD

SWAN MU SU SE A EM

WAT ER FR O NT M US UE M

Marina

Dylan Thom Centreas

Dylan Thom Theatras e

➙ Civ Centric e

Cefnogir gan: hybu llên literature promotion

CYNGOR LLYFRAU CYMRU WELSH BOOKS COUNCIL

Medi - Rhagfyr 2009

22477-09 Designprint

TO VIC

E AC

TE SCO

PL

Y WA

D UTH ROA

D

R

T

T

TERMO

IN

Y WA

ES

H. M . PR IS O N

W

QU

N

ST

sia

A

ND

Castle

’S RY MA ST

W

 dylanthomas.lit@swansea.gov.uk

STAT IO

TO M 4 J4 5

Tawe

Planta

Castle Square

ESS INC PR

BU S

ARD

X

LE

➙ T

STRA

EE D STR

Gra Theand tre

 www.dylan-thomas-books.com

CH

A

OR

Parc

CASTLE ST

KING

O XF OR

 www.dylanthomas.com

10

THE

Y S WA

T

 01792 463980

REE

MANSELL ST

ST

Somerset Place, Abertawe SA1 1RR

Gwneir pob ymdrech i sichau bod y manylion yn y rhaglen hon yn gywir, ond mae Dinas a Sir Abertawe yn cadw’r hawl i newid unrhyw ran o’r rhaglen hon heb rybudd.

NCP

HIG H

Canolfan Dylan Thomas


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.