Eich opsiynau tai

Page 1

21994-09 Your Housing Options W:Layout 1

9/6/09

10:49

Page 1


21994-09 Your Housing Options W:Layout 1

9/6/09

10:49

Page 2

Eich opsiynau tai

I dderbyn yr wybodaeth hon mewn fformat wahanol, ffoniwch Opsiynau Tai ar 01792 533100

2

Dinas a Sir Abertawe


21994-09 Your Housing Options W:Layout 1

9/6/09

10:49

Page 3

Eich opsiynau tai

Eich Opsiynau Tai Os ydych am aros yn eich cartref cyfredol neu angen dod o hyd i un newydd, mae Dinas a Sir Abertawe yn ymroddedig i’ch helpu. Yn anffodus, gan nad oes gan y cyngor na chymdeithasau tai ddigon o lety, ni allwn gynnig cartref newydd i bawb sy’n cyflwyno cais i ni. Felly, rydym wedi ymgasglu ystod eang o opsiynau tai i’ch helpu.

Eich helpu i aros yn eich cartref Ein nod yw atal digartrefedd lle bynnag y bo’n bosib. Gallwn wneud hyn drwy eich helpu chi i aros lle’r ydych chi yn y tymor hir neu drwy eich helpu chi i aros lle’r ydych chi nes i chi ddod o hyd i rywle arall i fyw. Y cynharaf y rhowch wybod i ni am eich problem tai, y mwyaf y gallwn eich helpu. Gall ein hymgynghorwyr helpu fel hyn: ●

Siarad gyda pherthnasau a ffrindiau am adael i chi aros yn eu cartrefi nes i chi ddod o hyd i rywle mwy addas.

Mynd i’r afael â rhybuddion i adael a gweithredoedd meddiant gan landlordiau neu fenthycwyr morgais, gan gynnwys eich cynrychioli mewn llys.

Esbonio eich hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol.

Mynd i’r afael â’ch amodau tai gwael.

Ôl-ddyledion rhent, problemau cyfrif rhent a hawlio budd-dal.

Cyngor ariannol gan gynnwys helpu i aildrefnu eich incwm er mwyn i chi fedru gwneud taliadau fforddiadwy i leihau eich dyledion.

Dinas a Sir Abertawe

3


21994-09 Your Housing Options W:Layout 1

9/6/09

10:49

Page 4

Eich opsiynau tai

Gwella diogelwch eich cartref os ydych mewn perygl o drais.

Trefnu cefnogaeth ymarferol os oes angen cymorth arnoch i aros yn eich cartref megis cwblhau ffurfleni a thrin asiantaethau eraill e.e. y ganolfan waith, cwmnïau gwasanaeth.

Dod o hyd i rywle arall i chi fyw.

Dyddodion a bondiau rhent.

Mewn nifer o achosion, gallwn helpu pobl i gadw’u cartref, a’n nod yw gweithredu mor gynnar â phosib cyn i’r broblem waethygu.

Tai Cyngor Llety tymor hir, rhent isel yw tai awdurdod lleol neu dai cyngor. Gall eich ymgynghorydd Opsiynau Tai eich helpu i gwblhau ffurflen gais i gofrestru ar ein rhestrau aros ar gyfer tai cyngor. Mae galw uchel iawn am ein tai, a dylech ystyried dewis cymaint o ardaloedd â phosib, er mwyn cynyddu eich cyfle o gael tŷ newydd. Bydd pwyntiau anghenion tai yn cael eu dyfarnu i chi yn ôl eich amgylchiadau, ac yna byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi sawl pwynt sydd gennych. Wedi i’r pwyntiau gael eu dyfarnu i chi, gallwch gysylltu ag ymgynghorydd Opsiynau Tai a fydd yn rhoi cyngor pellach am ddewisiadau ardal ac amserau aros tebygol. Mae gwybodaeth bellach ac atebion i gwestiynau cyffredin ar gael yn y daflen – ‘Gwneud Cais am Dai Cyngor’ Mae’r galw am lety cyngor a chymdeithas tai yn uchel, a gall amserau aros am lety fod yn hir iawn mewn nifer o ardaloedd. Felly, dylech hefyd ystyried opsiynau eraill fel rhentu yn y sector preifat.

4

Dinas a Sir Abertawe


21994-09 Your Housing Options W:Layout 1

9/6/09

10:49

Page 5

Eich opsiynau tai

Cymdeithasau Tai Landlordiad cymdeithasol yw cymdeithasau tai, yn debyg i’r cyngor, ac maent yn cynnig tai tymor hir am gost cymharol isel mewn nifer o ardaloedd ledled Abertawe. Mae gan gymdeithasau tai ffyrdd gwahanol o ddewis pwy sy’n cael eu tai a phwy sy’n cael eu cofrestru ar eu rhestrau aros. Dylech gysylltu â phob cymdeithas tai yn uniongyrchol am fwy o wybodaeth. Mae cymdeithasau tai hefyd yn rheoli cynlluniau tai cefnogol ac arbenigol hefyd, a dylech drafod eich anghenion unigol gydag ymgynghorydd. Mae’r cymdeithasau tai canlynol yn darparu tai yn Abertawe: ●

Tai Cymdogaeth Cyf (Gwalia) 10 - 13 Ffordd y Brenin, Abertawe, SA1 5JN. 01792 646626 www.cymdogaeth.com

Grw ˆ p Tai Arfordirol Cymdeithas Dai, 11 Stryd y Gwynt, Abertawe, SA1 1DP. 01792 479200 www.coastalhousing.co.uk

Cymdeithas Tai Teuluoedd 41 - 43 Heol Walter, Abertawe, SA1 5PN. 01792 460192 www.fha-wales.com

Cymdeithas Tai Cymru Unedig Tyˆ Cenydd, Stryd y Castell, Caerffili, CF83 1NZ. 02920 858100 www.uwha.co.uk

Dinas a Sir Abertawe

5


21994-09 Your Housing Options W:Layout 1

9/6/09

10:49

Page 6

Eich opsiynau tai

Cyfnewid drwy gytundeb Os ydych eisoes yn denant y cyngor neu gymdeithas tai a hoffech symud, dylech ystyried cyflwyno cais am gyfnewid drwy gytundeb. Mae cyfnewid drwy gytundeb yn caniatáu i chi gyfnewid eich cartref â thenant arall y cyngor neu gymdeithas tai. Mae cyfnewid drwy gytundeb yn rhoi cyfle i denantiaid y cyngor a chymdeithasau tai gychwyn cartref mewn ardal sy’n diwallu eu hanghenion drwy ganiatáu i ddau neu fwy o denantiaid gyfnewid eu tai. Gall cyfnewid eich cartref fel hyn fod yn ffordd dda o gynyddu eich gobaith o gael y cartref sydd ei angen arnoch o fewn cyfnod rhesymol. Dim ond os oes gennych gyfrif rhent clir ac nad ydych yn torri unrhyw amodau tenantiaeth gall eich landlord eich ystyried am gyfnewid drwy gytundeb. Efallai na fyddwch yn cael cyfnewid drwy gytundeb os byddai’r cyfnewid yn golygu bod un neu fwy o’r tai wedi’i gorlenwi neu heb ddigon yn byw yno. Gwasanaeth cyfnewid drwy gytundeb ar-lein am ddim yw Homeswapper a sefydlwyd i denantiaid sydd am gyfnewid tai. Dylai tenantiaid y cyngor neu gymdeithasau tai sydd â diddordeb mewn cyfnewid drwy gytundeb fynd i www.homeswapper.co.uk lle gallant gofrestru mewn pum munud. Fel arall, dylech gysylltu â’ch swyddog tai lleol a all helpu i egluro’r broses.

Llety preifat wedi’i rentu Mae’r galw am lety cyngor a chymdeithas tai yn uchel, a gall amserau aros am lety fod yn hir iawn mewn nifer o ardaloedd. Felly, dylech hefyd ystyried rhentu yn y sector preifat fel opsiwn. Mae llety preifat wedi’i rentu yn wahanol i rentu gan y cyngor neu gymdeithas tai. Dylech wirio cost y rhent a hyd y denantiaeth cyn symud i mewn. Rhentu gan landlord preifat yw’r unig opsiwn i nifer o bobl, yn enwedig os ydych am fyw mewn ardaloedd lle nad oes llawer o dai cyngor neu gymdeithas tai. 6

Dinas a Sir Abertawe


21994-09 Your Housing Options W:Layout 1

9/6/09

10:49

Page 7

Eich opsiynau tai

Dyma rai syniadau os ydych yn chwilio am gartref i’w rentu’n breifat: Papurau Lleol - Mae’r Evening Post yn cyhoeddi atodiad tai bob wythnos. Mae copïau ar gael gan Opsiynau Tai, asiantaethau gosodiadau, siopau ac archfarchnadoedd. Hysbysfyrddau - Mae cardiau ar hysbysfyrddau asiantau newyddion yn hysbysebu rhai o’r fflatiau neu ystafelloedd rhataf ar y farchnad. Dylech fynd o amgylch yr ardal sydd o ddiddordeb i chi mor rheolaidd ag y gallwch. Undeb myfyrwyr neu goleg - Os ydych yn fyfyriwr, efallai y gall eich coleg helpu i ddod o hyd i rywle i chi aros. Dylech gysylltu ag undeb y myfyrwyr neu swyddog llety. Asiantaethau Llety neu Osodiadau - Mae asiantaethau llety’n rhentu ac yn cynnal ystafelloedd, fflatiau a thai ar ran landlordiaid preifat. Mae’r rhan fwyaf o asiantaethau’n hysbysebu yn y papur lleol Yellow Pages a chyfeirlyfr Thompson. Ar Lafar - Mae’n weddol arferol i bobl glywed am ystafelloedd neu fflatiau ar lafar gan ffrindiau neu gyd-weithwyr, felly mae’n syniad rhoi gwybod i bawb eich bod yn chwilio. Bwrdd Bondiau - Os oes angen help arnoch i godi arian ar gyfer blaendal rhent neu fond, gallwch geisio cael help gan Fwrdd Bondiau Abertawe. Gall y Bwrdd Bondiau gynnig tystysgrif warant i landlordiaid yn lle blaendal. Bydd gan y Bwrdd Bondiau wybodaeth am lety gwag cyfredol lle bydd y landlordiaid yn derbyn tystysgrif bond. Os ydych yn deulu, bydd angen i un o weithiwyr achosion Opsiynau Tai eich cyfeirio. Gellir ffonio’r Bwrdd Bondiau ar 01792 301363. Y rhyngrwyd - Gall nifer o wefannau eich helpu i ddod o hyd i rywle i fyw. Caiff gwefannau newydd eu creu’n gyson, a gall peiriant chwilio eich helpu i ddod o hyd i rywle i fyw. Yn ogystal â gwefannau asiantaeth gosodiadau a landlordiaid, gallwch hefyd gael manylion am bobl sydd eisiau rhentu neu rannu gartref ar flogiau ar y we a gwefannau rhwydweithio cymdeithasol.

Dinas a Sir Abertawe

7


21994-09 Your Housing Options W:Layout 1

9/6/09

10:49

Page 8

Eich opsiynau tai

Rhowch gynnig ar y gwefannau canlynol www.spareroom.co.uk www.roombuddies.com www.clickflatshare.co.uk/swansea http://uk.easyroommate.com www.flatmateclick.co.uk Gall gymryd amser hir i ddod o hyd i’r hyn yr ydych ei eisiau; felly mae’n rhaid i chi fod yn barod i barhau i chwilio. Rhai pwyntiau pwysig i’w cofio: ●

Dylech sicrhau eich bod yn gallu fforddio’r rhent. Gall ymgynghorydd Opsiynau Tai eich helpu i gyfrifo faint y gallwch ei fforddio.

Bydd disgwyl i chi dalu blaendal neu fond fel arfer. Efallai bydd rhaid i chi dalu eich rhent ymlaen llaw. Efallai byddwch yn gymwys i dderbyn cymorth gyda’r costau hyn. Gall ymgynghorydd Opsiynau Tai roi cyngor pellach a threfnu cyfweliad gyda Bwrdd y Bondiau os ydych yn gymwys.

Os ydych ar incwm isel neu fudd-dal efallai bod hawl gennych i gael Lwfans Tai Lleol. Bydd pob tenant preifat sy’n gwneud hawliadau newydd yn awr yn derbyn Lwfans Tai Lleol yn hytrach na Budd-dâl Tai.

Caiff swm y lwfans byddwch yn ei dderbyn ei bennu yn ôl nifer yr ystafelloedd gwely sydd eu hangen arnoch yn ôl y gyfraith, faint o incwm ac arbedion sydd gennych p’un a oes pobl eraill yn byw gyda chi. Os ydych yn sengl ac yn iau na 25 oed, byddwch yn derbyn cyfradd sefydlog i gael ystafell sengl mewn cartref wedi’i rannu.

Bydd y swyddog rhent yn dweud wrth y cyngor faint yw rhent Lwfans Tai Lleol cartref o bob maint. Arddengys y symiau hyn yn swyddfeydd y cyngor ac ar wefan y cyngor.

8

Dinas a Sir Abertawe


21994-09 Your Housing Options W:Layout 1

9/6/09

10:49

Page 9

Eich opsiynau tai

● Os ydych yn gymwys i dderbyn Lwfans Tai Lleol, yna caiff yr arian

ei dalu i chi’n uniongyrchol. Dim ond dan amgylchiadau eithriadol y caiff ei dalu i’ch landlord. Rhaid i chi ddefnyddio’r arian hwn i dalu eich rhent. Rydych mewn perygl o golli’ch tenantiaeth os ydych yn methu taliadau. ● Am fanylion pellach, gallwch ofyn i ymgynghorydd Opsiynau Tai neu siarad ag ymgynghorwyr Lwfans Tai Lleol Dinas a Sir Abertawe ar 636000. ● Dim ond os ydych yn derbyn llety y mae asiant llety yn dod o hyd iddo ar eich rhan y gall godi tâl am wasanaeth. Os bydd asiant yn gofyn i chi am arian ymlaen llaw, dylech chwilio am gyngor cyn talu. ● Gall asiantaeth hefyd godi tâl am lunio cytundeb tenantiaeth a rhestr o eiddo’r cartref. Efallai bydd gofyn i chi roi geirda gan eich cyflogwr neu eich landlord diwethaf hefyd.

Symud y tu allan i Ddinas a Sir Abertawe Efallai eich bod am symud i ardal arall y tu allan i Abertawe. Gall ymgynghorwyr Opsiynau Tai roi cyngor pellach i chi am sut i gyflwyno cais i gynghorau eraill. Fodd bynnag, dim ond os ydych yn ateb meini prawf penodol y cewch eich derbyn e.e. cysylltiad â’r ardal yr ydych yn gwneud cais ynddi.

Cynlluniau perchnogaeth gyfrannol Mae cynlluniau perchnogaeth gyfrannol yn caniatáu i chi brynu cyfran o eiddo. Gallant fod yn opsiwn da os oes gennych incwm cyson, ond eich bod yn methu â phrynu eich cartref eich hun yn syth. Gallwch dalu morgais ar y gyfran yr ydych yn berchen arni, a rhentu’r gweddill. Fel arfer, mae’n rhatach na phrynu’n breifat. Efallai byddwch yn gallu prynu mwy o gyfrannau nes eich bod yn berchen ar yr holl eiddo. Cymdeithasau Tai sy’n cynnal cynlluniau perchnogaeth gyfrannol. Am fwy o wybodaeth a manylion am Gymdeithasau Tai sy’n cynnig cynlluniau perchnogaeth gyfrannol, gofynnwch i weithiwr achosion Opsiynau Tai neu cysylltwch â’r cymdeithasau tai yn uniongyrchol. Mae eu manylion cyswllt ar gael ar ddechrau’r daflen wybodaeth hon. Dinas a Sir Abertawe

9


21994-09 Your Housing Options W:Layout 1

9/6/09

10:49

Page 10

Eich opsiynau tai

Prynu cartref Mae bod yn berchen ar eich cartref eich hun yn rhoi mwy o ddiogeledd i chi a hawliau gwell na llety wedi’i rentu, ond mae’n ymrwymiad ariannol sylweddol. Dim ond os gallwch ei fforddio’n realistig y dylech ystyried hyn. Os ydych yn methu â thalu eich morgais, gallech golli’ch cartref. Os ydych yn y sefyllfa hon, dylech gysylltu ag Opsiynau Tai ar unwaith. Mae nifer o wahanol fathau o forgeisiau. Gallwch gael copi o arweiniad ‘Sut i Brynu Tŷ’ cyngor y benthycwyr morgeisi, sy’n egluro eich opsiynau. Cyngor Benthycwyr Morgeisi; ffôn 02074370075.

Cynllun Achub Morgeisi Llywodraeth Cynulliad Cymru Gall y Cynllun Achub Morgeisi eich helpu os ydych yn berchennog preswyl sy’n cael trafferthion gyda’ch morgais ac rydych mewn perygl o gael eich cartref wedi’i adfeddiannu. Nid hwn fydd yr opsiwn gorau i bawb ac mae’r cronfeydd yn gyfyngedig. I weld a yw’r cynllun yn addas neu i gadarnhau a ydych yn gymwys, siaradwch ag ymgynghorydd yn yr Opsiynau Tai.

Hostelau a llety argyfwng Efallai mai llety hostelau yw eich unig ddewis. Mae hostelau’n darparu llety a bydd gweithwyr cefnogi’n eich helpu i ddod o hyd i lety parhaol. ●

Cyrenians - Hostel Stryd Paxton, 1a Stryd Paxton, Abertawe. 01792 459288 www.cyrenians.org.uk – Math o Lety: Hostel mynediad uniongyrchol (pobl sengl a chyplau 18+ oed yn unig). – Sut i gysylltu: Cyfeiriad gan Opsiynau Tai neu hunangyfeiriad.

The Wallich - Hostel Dinas Fechan, Y Strand, Abertawe. 01792 648031 www.thewallich.com – Math o Lety: Hostel mynediad uniongyrchol (pobl sengl a chyplau 18+ oed yn unig). – Sut i gysylltu: Cyfeiriad gan Opsiynau Tai neu hunangyfeiriad.

10

Dinas a Sir Abertawe


21994-09 Your Housing Options W:Layout 1

9/6/09

10:49

Page 11

Eich opsiynau tai

Cenhadwyr Elusennol - Y Strand, Abertawe. 01792 464604 – Math o Lety: Hostel mynediad uniongyrchol (dynion sengl 25+ oed yn unig). – Sut i gysylltu: Cyfeiriad gan Opsiynau Tai neu hunangyfeiriad.

Cyngor annibynnol Mae Opsiynau Tai’n rhan o’r cyngor. Gallwn ddarparu cyngor ar dai a dyledion am ddim i unrhyw un sydd ei angen. Gallwch hefyd dderbyn cyngor annibynnol gan: ●

Cyngor ar Bopeth - Llys Glas, Pleasant Street, Abertawe, SA1 5DS. 08444 772020 www.citizensadvice.org.uk neu www.adviceguide.org.uk Cyngor ar faterion cyfreithiol, dyledion a chredyd cwsmeriaid.

Shelter Cymru - 25 Heol Walter, Abertawe, SA1 5NN. 469400 www.sheltercymru.org.uk Cyngor ar dai a digartrefedd.

Os ydych yn dioddef trais yn y cartref, aflonyddwch neu angen cyngor cyfreithiol, efallai bydd angen i chi ymgynghori â chyfreithiwr. Gall cyfreithiwr eich helpu gyda nifer o faterion, gan gynnwys: achosion cystodaeth, gwaharddebau, gorchmynion heb ymyrraeth a gorchmynion preswylio. Gofynnwch i Opsiynau Tai am restr o gyfreithwyr lleol a fydd yn gallu eich helpu. Os nad oes unrhyw lety ar gael i chi, neu os ydych yn debygol o golli eich llety, dylech gysylltu ag Opsiynau Tai cyn gynted â phosib.

Dinas a Sir Abertawe

11


21994-09 Your Housing Options W:Layout 1

9/6/09

10:49

Page 12

Defnyddio ein Pod Cyngor ar Dai Mae amrywiaeth enfawr o wybodaeth a chyngor ar gael yn ein pod cyngor ar dai ar gyfer pobl y mae angen help arnynt gyda’u tai. Mae’r pod yn hawdd ei ddefnyddio ac fe’i cyfieithwyd i sawl iaith gymunedol. Gall y pod eich helpu i: ●

ddeall eich hawliau

gwneud cais am gyfnewid cartref

darganfod mwy am gynlluniau celfi

dod o hyd i lety a rentir yn breifat

dod o hyd i lety dros dro neu mewn argyfwng neu lety â chefnogaeth

darganfod pa mor hir y bydd disgwyl i chi aros am lety

A llawer, llawer mwy. Mae’r pod yn ardal dderbynfa Opsiynau Tai a gellir ei ddefnyddio am ddim. Gofynnwch i gynghorydd Opsiynau Tai am help os bydd angen help arnoch. Mae cyngor a chefnogaeth hefyd ar gael yn www.swansea.gov.uk/housing

Am fwy o wybodaeth Gallwch ffonio i drafod eich amgylchiadau neu i wneud apwyntiad. Gallwch hefyd ffonio Opsiynau Tai i weld un o’n hymgynghorwyr. 01792 533100 Opsiynau Tai, 17 Stryd Fawr, Abertawe, SA1 1LF. housingoptions@swansea.gov.uk

Rydym ar agor ●

10.00 - 4.30 dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau

10.00 - 4.00 dydd Gwener

Dolen glyw a gwasanaeth cyfieithu ar gael. Designed and Printed by DesignPrint

Tel: 01792 586555

21994-09


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.