Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Y mater hwn:
Digwyddiad Rhwydweithio Darparwyr Gofal Plant Abertawe 2016.
Gwobr Ansawdd Gwybodaeth I Deuluoedd.
Cymdeithas Darparwyr Cynysgol Cymru.
Gwobr Pluen Eira.
Y Canllaw Bwyta’n Dda.
Gwobr Byrbrydau Iach Safon Aur I Leoliadau Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant.
Rhaglen Hyfforddiant Gwasanaeth Gwybodaeth I Deuluoedd Abertawe. Fforwm Rhieni/ Gofalwyr Abertawe.
Dyddiadau i’ch dyddiadur.
Cynnydd ar gyfer llwyddiant.
Cylchlythyr
Medi 2016
Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant (ADGP) Cyn bo hir, bydd Abertawe’n cynnal yr Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant (ADGP) nesaf. Trwy’r asesiad hwn byddwn yn mesur natur a graddau’r angen am ofal plant yn yr ardal, a’r cyflenwad sydd ar gael. Trwy’r dadansoddiad hwn, byddwn yn gallu nodi unrhyw fylchau o ran darpariaeth gofal plan lle nad yw anghenion rhieni’n cael eu diwallu’n llawn, a fydd yn ei dro’n ein galluogi ni I gynllunio sut I gefnogi’r farchnad I lenwi’r bylchau a nodwyd. Eleni, cefnogir yr awdurdod lleol gan Coda Consultants Ltd. Yn ystod diwedd mis Medi/dechrau mis Hydref, er mwyn cael yr wybodaeth orau bosib, bydd Coda’n cynnal cyfweliadau dros y ffon gyda darparwyr cofrestredig presennol ar ran y Gwasanaeth Gwybodaeth I Deuluoedd (GGD). Eu ffocws fydd canfod gwybodaeth am gynaladwyedd parhaus y ddarpariaeth a ystyrir/ragwelir, tueddiadau yr arsylwyd arnynt sy’n gysylltiedig a’r galw, mathau o gefnogaeth (gweithlu) a hyfforddiant y byddai darparwyr yn ei dderbyn, ac ati. Rydym yn gwerthfawrogi pa mor brysur yw pob darparwr gofal plant ac felly caiff cyfweliadau ffon eu cadw mor fyr a phosib. Fodd bynnag, ddarperir gennych yn allweddol er mwyn cynhyrchu Asesiad Digonolrwydd o safon. Bydd gan nifer o randdeiliaid allweddol eraill, gan gynnwys rhieni, gofalwyr a gweithwyr, gyfle I ddweud eu dweud am sut mae gofal plant yn effeithio arnyn nhw neu eu gweithlu drwy gwblhau arolygon ar-lein neu fynychu grwpiau ffocws, fel y bo’n briodol. Bydd y rhain yn ymddangos ar wefan y GGD maes o law www.abertawe.gov.uk/ggd I ddechrau, bydd adroddiad cryno ADGP yn cael ei lunio ac ymgynghorir arno ac, unwaith eto, bydd gennych chi’r cyfle I fynegi’ch barn. Yn dilyn y cyfnod ymgynghori hwn, caiff yr asesiad llawn ei gyflwyno I Lywodraeth Cymru erbyn 31 Mawrth 2017.
Hoffem achub ar y cyfle hwn I ddiolch I chi ymlaen llaw am eich cefnogaeth barhaus a’ch cyfraniadau gwerthfawr.
Tudalen 2
Medi 2016 Digwyddiad Rhwydweithio Darparwyr Gofal Plant Abertawe 2016 Hoffem eich gwahodd I ymuno a ni ar gyfer yr wythfed digwyddiad rhwydweithio blynyddol yng Nghanolfan Gorseinon, Rhodfa Millers, Gorseinon, Abertawe SA4 4QN. Bydd y digwyddiad yn dathlu gwella datblygiad plant ifanc.
Nos Iau 8 Medi 2016 6:00pm-9:00pm
Cefnogi pa mor barod yw plant I ddechrau’r ysgol. Cefnogi asesu dysgu a datblygiad plant. Ymgysylltu a phlant er mwyn adeiladu ar wella’u perthynas a’u rhieni a’r bobl sy’n gofalu amdanynt.
Rhaglen: 18:00—18:30 - Cyrraedd a bwffe 18:30—18:50 - Cyflwyniad Strategaeth Abertawe (Gary Mahoney) 19:00—20:00 - Gweithdai 20:00—21:00 - Beth nawr? Cwestiynau a gwerthusiadau. 21:15—Diwedd Gweithdy 1—Adeiladu ar y Theori Ymlyniad Mae sesiynau therachwarae’n creu cysylltiad emosiynol actif rhwng y plenty a’r rhiant neu’r sawl sy’n gofalu amdano. Mae therachwarae’n seiliedig ar batrymau naturiol o ryngweithio chwareus ac iachus sy’n bersonol, yn gorfforol ac yn hwyl. Gweithdy 2—Asesiad Proffil I Bawb Mae proffil y Cyfnod Sylfaen yn rhan allweddol o fframwaith asesu Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru. Mae’r proffil yn cefnogi asesu dysgu a datblygiad plant. Mae’r ffurflen broffil yn cynhyrchu ciplun o gynnydd plenty ac mae’n galluogi ymarferwyr I gynhyrchu deilliant unigol ar gyfer pob maes dysgu yn y proffil. Gweithdy 3—Llythrennedd Corfforol yn y Blynyddoedd Cynnar Bydd y gweithdy hwn yn edrych ar bwysigrwydd cynllunio a datblygu gemau difyr drwy straeon a gweithgareddau creadigol a fydd yn annog plant I ddod yn fwy hyderus ac yn fwy tebygol o fwynhau gweithgareddau corfforol. I gadw’ch lle cysylltwch a Gwasanaeth Gwybodaeth I Deuluoedd Abertawe drwy e-bostio GGD@abertawe.gov.uk neu ffonio 01792 517222.
Tudalen 3
Medi 2016
Gwobr Ansawdd Gwybodaeth i Deuluoedd
Mae Gwansanaeth Gwybodaeth I Ceuluoedd Abertawe (GGD)
Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe (GGD) newydd ennill Gwobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf am helpu teuluoedd lleol i gael yr wybodaeth y mae ei hangen arnynt er mwyn gwneud yn fawr o’u bywydau. Proses sicrhau ansawdd ac offeryn gwella ansawdd yw’r Wobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf a ddyluniwyd i helpu gadw teuluoedd wrth wraidd ein harfer a helpu’r GGD i ddarparu gwybodaeth safon aur. Datblygwyd y wobr gan y Gymdeithas Genedlaethol Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd (NAFIS) ar y cyd a’r Adran Addysg (DfE) a Chyngor Sir Suffolk fel offeryn i fesur effeithiolrwydd Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD) awdurdod lleol, ac arddangos sut mae’n diwallu anghenion statudol Deddf Gofal Plant 2006 (Dyletswydd Wybodaeth Adran 27) a Chod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2014. Roedd Llywodraeth Cymru hefyd wedi cydnabod pwysigrwydd y Ddyletswydd Wybodaeth fel rhan o’i Deddf Gofal Plant ei hun, ac wedi cefnogi’r Gymdeithas Genedlaethol Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd wrth iddi weithio gyda 22 GGD Cymru er mwyn sicrhau bod y safonau’n hwyluso rol asesu’n ddeuol yn erbyn gofynion Adran 27 (y ‘Ddyletswydd Wybodaeth’) Deddf Gofal Plant Cymru.
Yn y llun mae’r tim Claire Bevan; Sian Fennell; Hannah Vyse; Allison Williams; Gary Mahoney a Christopher Jones (a Finley yr Arth) yn derbyn ei tystysgrif gan y Cllr Christine Richards. Hefyd yn y llun mae Jane Whitmore Pennaeth Dros Dro Tlodi ac Atal; Cllr Jan Curtice a Chris Sivers— Cyfarwyddwr Pobl, Dinas a Sir Abertawe.
Medi 2016
Tudalen 4
Cymdeithas Darparwyr Cyn-ysgol Cymru
Gyda chynifer o ddatblygiadau a newidiad au yn y sector gofal plant dros y misoedd diwethaf, mae Cymdeithas Darparwyr Cyn-ysgol Cymru wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau bod lleisiau ei haelodau’n cael eu clywed, a’u bod yn derbyn y newyddion diweddaraf am y newidiadau a fydd yn effeithio arnynt. Hefyd, yn ystod y cyfarfod fforwm diweddaraf, rhoddwyd gwybodaeth I ddarparwyr a oedd yn amlinellu cyllid ar gyfer cyfleoedd hyfforddiant gwaith chwarae.
Yn benodol, mae siaradwyr gwadd yn fforymau rhanbarthol llawn gwybodaeth Cymdeithas Cylchoedd Chwarae Cyn-ysgol Cymru (WPPA) wedi trafod y broses gofrestru awtomatig ar gyfer pensiynau, y gofynion ar gyfer cofrestru a Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) er mwyn sicrhau bod data a gedwir gan leoliadau’n ddiogel, ac yn fwyaf diweddar, cyflwyniad am gynllun sicrhau ansawdd cymeradwy WPPA Llywodraeth Cymru, Ansawdd i Bawb (QFA). Hefyd, yn ystod y cyfarfod fforwm diweddaraf, rhoddwyd gwybodaeth i ddarparwyr a oedd yn amlinellu cyllid ar gyfer cyfleoedd hyfforddiant gwaith chwarae. Bydd hyn yn galluogi staff o fewn eu lleoliadau i ennill lefel o gymhwyster sy’n ofynnol er mwyn bodloni’r newidiadau AGGCC diweddar ynghylch cofrestru gofal i blant hyd at 12 oed. Mae’r fforymau rhanbarthol wedi cael croeso cynnes gan aelodau WPPA. Cynhelir y digwyddiad nesaf ym mis Hydref a’r siaradwr gwadd fydd cynrychiolydd o’r AGGCC a fydd yn siarad am y newidiadau diweddar i’r gyfraith gofal plant a’r fframwaith arolygu newydd. Caiff gwahoddiadau eu hanfon yn nes at yr amser. Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch: andreaw@walesppa.org Mae Donna Thomas, ein Gweithiwr Datblygu, newydd gwblhau cwrs Bwyd a Maeth Cymunedol y Blynyddoedd Cynnar, ac mae’n defnyddio’r wybodaeth y mae newydd ei hennill er mwyn helpu lleoliadau yn Abertawe i ennill y wobr Cynllun Cyn-ysgol lach a Chynaliadwy. Mae Donna hefyd yn annog aelodau WPPA yn Abertawe i ennill y Wobr Byrbryd lachus Safon Aur y gellir ei chyflawni heb rwymedigaeth i ymrwymo i gwblhau’r wobr Cyn-ysgl lach. Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am y cynlluniau hyn, cysylltwch a Donna trwy ebostio dwswansea@walesppa.org Gallwch ffonio’r swyddfa ar 01792 781108, a Gweithiwr Datblygu Abertawe, Donna, ar 07557 439065.
Medi 2016
Tudalen 5
Gwobr Pluen Eira
cholli’r cyfle i
Gyda’r Nadolig yn nesau, pa ffordd well i ddathlu’r wyl na chymryd rhan yn ein Gwobr Pluen Eira. Hoffai Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe wahodd ymeiswyr ar gyfer Gwobr Pluen Eira 2016 o’r holl ddarparwyr gofal plant cofrestredig. Peidiwch a cholli’r cyfle i ennill talebau Love to Shop er mwyn prynu adnoddau ychwanegol i’ch lleoliad.
ennill talebau
Meini prawf:
Peidiwch a
Love to Shop er mwyn prynu adnoddau ychwanegol
Er mwyn sicrhau bod y broses yn deg, disgwylir i Warchodwyr Plant Cofrestredig greu golygfa coeden Nadolig. Disgwylir i ofalwyr Gofal Dydd Llawn, Gofal Sesiynol a Gofal y Tu Allan i’r Ysgol cofrestredig greu Bwrdd Arddanogs Nadolig/Golygfa Nadoligaidd.
i’ch lleoliad.
Rhaid cael tystiolaeth o blant yn cymryd rhan yn y broses benderfynu o ran y thema e.e. yr addurniadau a’r deunyddiau a defnyddir, gan gynnwys tystiolaeth o’u gwaith eu hunain (*bwrdd hwyliau A3). Mae angen bod yn greadigol. Dylai’r adnoddau a ddefnyddir fod yn rhad neu am ddim
Bydd mwy o fanylion ar gael yn agosach at y dyddiad. Fodd bynnag, os hoffech drafod cydag aelod o Dim y GGD peidiwch ag oedi i’n ffonio ar 01792 517222.
Tudalen 6
Medi 2016
Y Canllaw Bwyta’n Dda Crynodeb ar gyfer Lleoliadau ac Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar Ym mis Mawrth 2016, lansiodd Iechyd Cyhoeddus Lloegr Ganllaw Bwyta’n Dda newydd a diwygiedig mewn cydweithrediad a Llywodraeth Cymru, Safonau Bwyd yr Alban a’r Asiantaeth Safonau Bwyd yng Ngogledd lwerddon. Mae bwyta’n iach a chael ffordd iach o fyw yn gallu ein helpu i deimlo ar ein gorau a gwneud gwahaniaeth mawr i’n hiechyd yn y tymor hir. Mae ymarferwyr iechyd, sefydliadau cymunedol, athrawon, y diwydiant bwyd ac awdurdodau lleol yn cael eu hannog i ddefnyddio’r Canllaw Bwyta’n Dda er mwyn helpu’r genedl i wella’i deiet a dewis bwydydd mwy cynaliadwy. Mae’r Canllaw Bwyta’n Dda yn briodol i’r rhan fwyaf o bobl, beth bynnag fo eu pwysau, cyfyngiadau deietegol, dewisiadau neu darddiad ethnig. Nid yw’r Canllaw Bwyta’n Dda yn hollol berthnasol i blant dan 2 oed oherwydd bod ganddynt anghenion maeth penodol. Rhwng 2 a 5 oed, dylai plant ddechrau bwyta’r un bwydydd a gweddill y teulu’n raddol yn ol y cyfrannau sy’n cael eu nodi yn y canllaw.
Y Canllaw Bwyta’n Dda a phlant dan 5 oed Mae bwyta’n dda a chwarae actif yn hanfodol i blant ifanc er mwyn iddynt fwynhau iechyd a lles da. Mae ymarferwyr y Blynyddoedd Cynnar mewn sefyllfa ddelfrydol i helpu sefydlu arferion bwyta am oes ac i sicrhau bod pwysau plant ifanc yn iach pan fyddant yn dechrau’r ysgol. Mae bwyta amrywiaeth o fwydydd o bum grwp bwyd y Canllaw Bwyta’n Dda yn bwysig yn y blynyddoedd cynnar, gan gynnwys amrywiaeth o ffrwythau a llysiau. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi bod gwahaniaethau allweddol yn yr argymhellion i oedolion a’r canllawiau maeth i blant cynysgol. Gallwch ddod o hyd i lyfryn Canllaw Bwyta’n Dda gyda rhagor o wybodaeth yn: Change4Life Wales I dderbyn fersiwn llawn o’r erthygl hon ffoniwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar 01792 517222 neu e-bostwich ni yn GGD@abertawe.gov.uk
Tudalen 7
Medi 2016
Gwobr Byrbrydau lach Safon Aur i Leoliadau Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Ydych chi eisoes yn darparu byrbryd iachus a maethlon i’r plant sy’n dod i’ch lleoliad ac am i hyn gael ei gydnabod? Lluniwyd y wobr hon i gynyddu ymwybyddiaeth o arferion bwyta’n iach ac arddangos yr hyn y gellir ei gyflawni drwy ddarparu byrbrydau maethlon i blant mewn lleoliadau gofal plant. Mae’n cael ei thargedu at feithrinfeydd, gwarchodwyr plant, grwpiau rhieni a phlant bach a chlybiau gofal y tu allan i’r ysgol ar draws Abertawe. Gall ymarferwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant wneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd a lles plant yn eu gofal, a darparu cyfleoedd i blant o oedran ifanc flasu bwydydd maethlon newydd. Gall cyflwyno byrbrydau iachus o oedran ifanc hyrwyddo ymagwedd cadarnhaol at fwyd, a gall gweithwyr gofal plant fod yn fodelau rol cadarnhaol er mwyn cefnogi hwn. Bydd lleoliadau gofal plant yn ennill y wobr gan ddilyn cyfres o dri ymweliad, drwy fodloni’r meini prawf canlynol:
Darparu byrbrydau a diodydd iach Safonau hylendid priodol Darparu amgylchedd bwyta addas Safonau iechyd deintyddol
Caiff tystysgrif ei chyflwyno os yn llwyddiannus. Os ydych yn lleoliad gofal plant a hoffech gael mwy o wybodaeth am y wobr Byrbrydau lach ffoniwch Gary Mahoney yn y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar 01792 517222. Os oes gan unrhyw Glybiau Gofal Plant y Tu Allan i’r Ysgol ddiddordeb mewn cyflawni’r Wobr Byrbryd Iachus Safon Aur, ffoniwch: Sian Jewell, Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs ar 01269 831010 neu 07966 792416.
Rhaglen Hyfforddiant Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertaew Mae’r rhaglen hyfforddiant newydd sy’n amlinellu’r cyrsiau sydd ar gael rhwng mis Hydref 2016 a mis Mawrth 2017 bellach ar gael ar-lein. Mae’r cyrsiau hyfforddiant sydd ar gael yn cynnwys Hyder Anabledd, Makaton, Rheoli Ymddygiad Heriol a llawer mwy. I gael mynediad i’r rhaglen hyfforddiant dilynwch y ddolen isod: www.abertawe.gov.uk/ggd Mae copiau caled hefyd ar gael ar gais.
Medi 2016
Tudalen 8
Fforwm Rhieni/Gofalwyr Abertawe Os ydych yn rhiant/gofalwr, yn aelod o’r teulu, neu rydych yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ag anableddau a’u teuluoedd ac mae gennych gwestiynau, ac rydych am ddarganfod mwy am y fforwm peidiwch ag oedi i gysylltu a ni. Mae Fforwm Rhieni/Gofalwyr Abertawe’n cynnal sesiwn galw heibio yn ystod y tymor ar drydydd dydd Mawrth y mis, am 10:00am yn yr Ystafell Ddarganfod, Llyfrgell Ganolog. Mae hyn yn rhoi cyfle i unrhyw riant/ofalwr ddod i gwrdd a rhieni/gofalwyr efaill a chael mwy o wybodaeth am y fforwm. Mae Fforwm Rhieni/Gofalwyr Abertawe yn cynnig cyfle i rannu gwybodaeth a phwynt cyfeirio ar gyfer ymgynghoriadau partneriaeth ac awdurdod lleol ar gynlluniau sy’n cynnig awgrymiadau ymarferol ac adeiladol ar gyfer gwella gwasanaethau. Mae’r fforwm yn rhoi cyfle i: Fod yn fwy gwybodus; dylanwadu ar wasanaethau; helpu i wneud penderfyniadau er mwyn cyflawni gwasanaethau gwell i blant a’u teuluoedd; cyfnewid syniadau a chynyddu ymwybyddiaeth o anghenion plant a’u teuluoedd; cwrdd a rhieni/gofalwyr eraill sy’n byw yn Abertawe.
Wyddech chi fod gan Abertawe wefan ddynodedig sy'n darparu amrywiaeth o wybodaeth ddefnyddiol mewn un lle i rieni/ofalwyr a gweithwyr proffesiynol? www.abertawe.gov.uk/1stopswansea
Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Sandra Spratt, Swyddog Datblygu Teuluoedd ac Anableddau Pobl Ifanc Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe, 7 Heol Walter, Abertawe. Ffon: 01792 544019 neu E-bost: Sandra_spratt@scvs.org.uk
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
Dyddiadau i’ch dyddiadur Cyfarfod Meithrinfa Ddydd y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Tim Datblygu’r Blynyddoedd Cynnar 5ed Llawr, Canolfan Oldway Abertawe SA1 5LD Ffon: 01792 635400 01792 517222 E-bost: ggd@abertawe.gov.uk www.abertawe.gov.uk/ ggd
www.abertawe.gov.uk/ ggd
Fe’i cynhelir yng Nghanolfan Blant Abertawe, Heol Eppynt, Penlan SA5 7AZ ar 10 Hydref 2016 am 9:30am—11:00am, i staff a rheolwyr Meithrinfeydd Dydd a lleoliadau Gofal Dydd Llawn.
Cynnydd ar gyfer Llwyddiant Mae gwarchod plant yn fwy na swydd yn unig, mae’n yrfa bwysig iawn. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth a Chronfa Gymdeithasol Ewrop, wedi lansio Cynnydd ar gyfer Llwyddiant. Rhaglen hyfforddiant sy’n seiliedig ar waith yw Cynnydd ar gyfer Llwyddiant, a fydd yn ariannu ymarferwyr proffesiynol yn y sctor blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae i ennill cymwysterau lefel uwch sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol, gan gynnwys lefelau 2, 3 a 5 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant (CCLD). Gallai hyn wella’ch gyrfa neu’ch busnes os ydych yn gyflogwr. Mae Cynnydd ar gyfer Llwyddiant yn ariannu hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Os hoffech chi/eich gweithwyr gofrestru ar y rhaglen hon am ddim, ffoniwch ITEC ar 02920 713668 neu e-bostiwch: pfs@itecskills.co.uk