Gŵyl caru cefn gwlad (2014)

Page 1

Gwˆ yl Caru Cefn Gwlad

Saving Gower – For All It’s Worth

Gower Landscape Partnership


Croeso i’r...

ˆ Caru Cefn Gwlad gyntaf Wyl

Cynhelir yr w ˆ yl newydd a chyffrous hon dros 16 o ddiwrnodau ym mis Medi gyda bron 60 o ddigwyddiadau gwahanol ar draws Gw ˆ yr a Mawr – mae’r rhan fwyaf ohonynt AM DDIM! Dewch wyneb yn wyneb â byd natur ar daith gerdded bywyd gwyllt, cymerwch ran mewn anturiaeth crefft y goedwig, byddwch yn greadigol a dysgwch sgiliau newydd neu chewch brofiad ymarferol wrth helpu i ofalu am ein cefn gwlad ryfeddol. Gyda chynifer o bethau i ymuno â nhw bydd siw ˆ r o fod rhywbeth at ddant pawb.

Rydym am i bawb:

Fwynhau cefn gwlad

Dysgu am gefn gwlad

Gofalu

am gefn gwlad Mae digwyddiadau yn y rhaglen hon wedi’u dosbarthu yn ôl y tair thema hyn er ein bod yn disgwyl i’r holl ddigwyddiadau fod yn llawn hwyl a bydd y rhan fwyaf yn cynnwys elfen o ddysgu.

Dau ddigwyddiad na ddylid eu colli yw diwrnodau ‘hwb’ yr wˆyl pan fydd dwsinau o weithgareddau ar gynnig: Bydd Diwrnod Hwb Gw ˆ yr, ddydd Sul 14 Medi yn ddigwyddiad dydd llawn hwyl i’r teulu ar hyd milltir o draeth Caswell, trwy Goed yr Esgob i’r Prosiect Down to Earth ger Murton. Bydd hwn yn cynnwys cerflunio tywod, pyllau trai, plethu helyg, adrodd straeon, stondinau crefft, heriau antur, gweithdai celf a llawer mwy. Gweler tudalen 15 am fwy o fanylion. Cynhelir Diwrnod Hwb Mawr, ddydd Sul 21 Medi yng Nghanolfan Weithgareddau Garnswllt newydd ei hagor yn nhirwedd drawiadol gogledd Abertawe gyda golygfeydd anhygoel dros Ddyffryn Aman. Bydd y digwyddiad hwn hefyd yn cynnwys dewis o stondinau crefft gwledig a gweithgareddau ymarferol. Gweler tudalen 22 am fwy o fanylion. I gael mwy o wybodaeth am yr wˆyl, ewch i www.abertawe.gov.uk/loveyourcountrysidefestival. Gw ˆ yl Caru Cefn Gwlad @Gw ˆ ylCCG #Gw ˆ ylCCG

Nod Gw ˆ yl Caru Cefn Gwlad yw cynyddu ein hymwybyddiaeth a’n gwerthfawrogiad o amgylchedd naturiol Abertawe wledig, sef ei gynefinoedd, ei fioamrywiaeth, ei dirweddau, ei forluniau a’i dreftadaeth, a’r rhan rydym yn ei chwarae ynddo; mae’n rhan o brosiect y Tîm Cadwraeth Natur, Cysylltiadau Cefn Gwlad, ac fe’i gefnogir gan Bartneriaeth Tirwedd Gw ˆ yr a’i ariannu trwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-13 (a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig), Cyfoeth Naturiol Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri.

1


Gwybodaeth Bwysig Mae Gw ˆ yl Caru Cefn Gwlad wedi cael ei threfnu a’i hyrwyddo gan Dîm Cadwraeth Natur Dinas a Sir Abertawe ond mae’r rhan fwyaf o’r digwyddiadau unigol yn cael eu cynnal gan sefydliadau eraill. Sylwch y caiff yr wybodaeth a ddarperir yn y rhaglen ei chyhoeddi mewn ffydd da ac ni fydd Dinas a Sir Abertawe yn atebol am anghywirdeb, newidiadau na chansladau. Mae’r rhan fwyaf o’r digwyddiadau a restrir yn y llyfryn hwn yn agored i unrhyw un. Os byddwch yn dod i ddigwyddiad, byddwch yn ystyriol i bobl eraill a’r amgylchedd. Cofiwch y côd cefn gwlad a defnyddiwch ddulliau teithio cynaliadwy lle bynnag y bo modd. Darllenwch fanylion y digwyddiad dan sylw yn ofalus a chysylltwch â threfnydd y digwyddiad os oes unrhyw ymholiadau gennych. PRISIAU DIGWYDDIADAU: Mae’r rhan fwyaf o’r digwyddiadau yn rhaglen yr wˆ yl AM DDIM ond codir tâl ar ychydig ac mae angen talu blaendal y gellir ei adennill i gadw lle ar rai ohonynt. CADW LLE YMLAEN LLAW: Mae lleoedd ar gyfer llawer o’r digwyddiadau’n brin, felly mae’n hanfodol cadw lle ymlaen llaw. Mae digwyddiadau eraill yn agored i unrhyw un alw heibio ar y dydd. Dylai hyn fod yn glir ym manylion y digwyddiad ond os nad ydych yn siwˆ r, cysylltwch ag arweinydd y digwyddiad. PLANT: Oni nodir yn wahanol, rhaid i blant dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol. ANABLEDD: Os oes gennych nam ar eich golwg neu’ch clyw neu anabledd symudedd ac mae angen mwy o fanylion arnoch er mwyn cymryd rhan yn rhai o’r digwyddiadau hyn, cysylltwch â’r trefnydd am fwy o wybodaeth. CWˆN: Ni chaniateir cwˆ n mewn llawer o’r digwyddiadau, ac eithrio cwˆ n cymorth. Os nad yw hyn wedi’i nodi’n glir ym manylion y digwyddiad, cysylltwch ag arweinydd y digwyddiad i wirio. DILLAD ADDAS: Mae’n bwysig gwisgo dillad ac esgidiau sy’n addas ar gyfer y tywydd a’r gweithgaredd dan sylw. BWYD A DIOD: Argymhellir dod â byrbryd bach a diod i ddigwyddiadau, yn enwedig os disgwylir iddynt bara am fwy nag awr. I lawer o ddigwyddiadau, awgrymir i chi ddod â chinio pecyn. Mae rhai digwyddiadau’n cynnwys ymweliad â chaffi neu dafarn lle gellir prynu lluniaeth neu bryd o fwyd. CYFARPAR: Lle mae angen cyfarpar neu ddeunyddiau penodol, caiff y rhain eu darparu fel arfer oni bai bod trefnydd y digwyddiad wedi nodi’n wahanol CANSLO: Fel arfer bydd arweinydd y digwyddiad yn bresennol ar ddechrau digwyddiad, hyd yn oed os yw wedi cael ei ganslo oherwydd tywydd gwael neu amgylchiadau eraill. I osgoi teithiau diangen, mae’n syniad i chi ffonio trefnydd y digwyddiad ymlaen llaw. PARCIO CEIR: Byddwch yn ystyriol wrth barcio a sicrhewch nad ydych yn rhwystro gatiau, cerbydau eraill etc. Codir ffi am barcio car mewn rhai mannau. TEITHIO CYNALIADWY: Gellir mynd i lawer o’r digwyddiadau sydd yn y llyfryn hwn trwy ddefnyddio cludiant cyhoeddus neu feicio. Ar gyfer llwybrau ac amserlenni bysus, ffoniwch Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu ewch i www.traveline-cymru.info neu wefan BayTrans www.baytrans.org.uk.

2


Sad 6 Medi – Glan Moˆ r Sarn Pen Pyrod Dewch i ymuno â’r biolegydd môr, Judith Oakley, ar saffari glan môr addysgol llawn hwyl am ddim. Darganfyddwch y bywyd cudd anhygoel ymhlith y pyllau trai ac o dan glogfeini ar draethau Gwˆyr. Codir ffioedd parcio ceir mewn rhai mannau a byddwch yn barod am daith gerdded 20 munud i gyrraedd y safle. Ni chaniateir rhwydi na chwˆn. Gwisgwch ddillad sy’n addas i amodau’r tywydd ac esgidiau gyda gafael da (dim fflip-fflops). Yn addas i blant 3+ oed ond rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol. Mae’n hanfodol cadw lle trwy decstio neu ffonio, neu drwy e-bostio info@oakleyintertidal.co.uk. Cwrdd

9am–11.30am, y tu allan i siop yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Rhosili

Cyswllt

Judith Oakley, Oakley Intertidal, 07879 837817

Sad 6 Medi – Taith Gerdded Dirweddol Cefn Drum a Chwm Dulais Taith gerdded o ryw 8 km i archwilio’r dystiolaeth sydd wedi’i chadw yn y dirwedd sy’n dangos sut mae glo’n ffurfio a sut mae wedi cael ei gloddio trwy’r oesoedd. Yn cynnwys dringo a disgyn llethrau serth a nifer o gamfeydd. Gall rhai llwybrau fod yn fwdlyd. Dylid gwisgo dillad ac esgidiau addas. Dylai plant fod yng nghwmni oedolyn a dylid cadw cwˆn ar dennyn. Mae cludiant cyhoeddus i Bontarddulais, tua 3 km o’r man cyfarfod. Am ddim. Cwrdd

9.30am–1pm, safle hen lofa Graig Merthyr, Cwm Dulais (cyf. grid: SN623 041)

Cyswllt

Geraint Owen, Prifysgol Abertawe, 01792 295141

Sad 6 Medi – Gweithdy Plethu Helyg Gweithdy gan Out to Learn Willow. Dysgwch sut i wneud adeileddau gardd o helyg ac am y llu o ddefnyddiau cynaliadwy helyg. Bydd pob cyfranogwr yn mynd adref ag adeiledd gardd helyg y maen nhw wedi’i wneud eu hunain. Rhaid bod cyfranogwyr yn 12 oed neu’n hŷn. Dim ond 8 lle sydd ar gael ac mae angen blaendal y gellir ei adennill o £5 i gadw lle. Mae’r lle parcio ar y safle ar gyfer pobl anabl yn unig. Dylai pobl eraill barcio ar Heol Brandy Cove a cherdded 200 llath i lawr y llwybr i’r feithrinfa goed. Cwrdd

9.30am–4.30pm, Meithrinfa Goed Coeden Fach, Heol Brandy Cove, Llandeilo Ferwallt SA3 3DT

Cyswllt

Kate Davies, Coeden Fach, 07831923244

3


Sad 6 Medi – Sesiwn Casglu Sbwriel y Tri Chlogwyn Dewch i helpu’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gadw’r traeth prydferth hwn yn lân. Darperir menig gwaith a sachau sbwriel. Dewch â chinio pecyn neu alw heibio unrhyw bryd i roi help llaw. Dim tâl. Yn addas i deuluoedd. Cwrdd

10am-3pm, ger y cerrig camu y tu cefn i draeth y Tri Chlogwyn, Gwˆyr

Cyswllt

Claire Hannington, Ymddiriedolaeth Genedlaethol, 07899 063577

Sad 6 Medi – Gweithdy Darganfod eich Ffotograffiaeth Ffotensial Dewch i ‘Ddarganfod eich Ffotensial’ yn y gweithdy ffotograffiaeth blaengar hwn a fydd yn datblygu’r ffordd rydych yn gweld y byd o’ch cwmpas. Dewch â chamera digidol, bwyd a diod gyda chi a gwisgwch ddillad sy’n addas i’r tywydd. Yn ddelfrydol ar gyfer perchnogion camerâu DSLR a CSC o bob gallu. Codir tâl o £5 i ariannu teisennau a diodydd twym a ddarperir. Ewch i www.photential.co.uk am fwy o fanylion ac i gadw lle. Mae’n hanfodol cadw lle. Mae lleoedd yn brin. Cwrdd

4pm–9pm, Canolfan Gymunedol Penclawdd, Penclawdd SA4 3FJ

Cyswllt

Lee Aspland, Photential, 07952 747776

Sul 7 Medi – Diwrnod Chwarae Caru Cefn Gwlad Diwrnod chwarae Ysgol Goedwig ar gyfer plant 8-12 oed, gan gynnwys amrywiaeth o weithgareddau Ysgol Goedwig megis adeiladu ffeuau, hela pryfed, coginio ar y tân gwersyll, crefftau, defnyddio offer a llawer mwy. Am ddim, ond croesewir unrhyw gyfraniadau. 12 lle yn unig sydd ar gael felly mae’n rhaid i chi gadw lle trwy e-bostio info@forestschoolsnpt.org.uk – y cyntaf i’r felin a gaiff le. Cwrdd

10am–3pm, Coed y Parc, Gwˆyr

Cyswllt

Ysgol Goedwig ACNPT, 01792 367118

4


Sul 7 Medi – Taith Feicio Welshmoor a Mwy Oddeutu 30 milltir ar hyd heolydd tawel iawn gan mwyaf ar gyflymder hamddenol a fydd yn addas i’r beiciwr arafaf. Yn dechrau ar y llwybr beicio i Ddyfnant, yna ar hyd lonydd a thraciau i Gomin Fairwood. O’r Crwys, byddwn yn croesi Welshmoor gyda golygfeydd dros Aber Llwchwr, gan alw heibio i dafarn y Greyhound, Oldwalls am goffi. Yna byddwn yn parhau i Bury Green, Llanddew, ac i gaffi yn Scurlage neu i’r King Arthur yn Reynoldston am ginio. Byddwn yn dychwelyd trwy’r morfeydd heli a’r llwybr beicio ym Mhenclawdd. Rhaid bod plant dan 16 oed yng nghwmni oedolyn. Am ddim. Cwrdd

10am ar lwybr beicio Abertawe ger Tafarn y Rheilffordd, Cilâ

Cyswllt

Martin Brain, C.T.C. Abertawe 01792 536372 / 07977 561047

Llun 8 Medi – Gwarchodfa Natur Genedlaethol Oxwich – Hanes, Rheoli a Chadwraeth Taith gerdded a sgwrs anffurfiol o gwmpas twyni tywod a morfeydd heli Gwarchodfa Natur Genedlaethol Oxwich, gan gynnwys y twyni tywod blaen, glaswelltir y twyni tywod, y llynnoedd a’r morfeydd heli. Yna trwy’r twyni tywod, allan i Nicholaston Pill ac yn ôl ar draws y traeth i’r maes parcio. Trafodaeth am hanes y bae, sut mae wedi effeithio ar y dirwedd a chadwraeth natur, y dynodiadau pwysig, y rhywogaethau sydd o bwys cenedlaethol a dyfodol y warchodfa. Mae lle parcio ar y safle ac mae safle bws ym mhentref Oxwich. Ffoniwch i gael manylion y man cyfarfod ac i gadw lle. Cwrdd

10am–12 ganol dydd, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Oxwich, Oxwich, Gwˆyr

Cyswllt

Nick Edwards, Cyfoeth Naturiol Cymru, 01792 371320

Llun 8 Medi – Gweithgareddau Antur Arfordir Gw ˆ yr Diwrnod gweithgareddau antur yn archwilio arfordir de Gwˆyr. Gan gyfuno cerdded, gweithgareddau dwˆr a dringo/abseilio, bydd y diwrnod llawn antur hwn yn cynnig golwg wahanol ar arfordir a chefn gwlad de Gwˆyr. Bydd rhai gweithgareddau’n dibynnu ar amodau’r tywydd/y llanw. Dewch â dillad nofio, esgidiau sbâr tebyg i esgidiau hyfforddi a chinio pecyn. Byddwn yn gadael y safle i leoliadau gweithgareddau ar arfordir de Gwˆyr, felly cyrhaeddwch yn eich car gan y byddwn yn gyrru i wahanol leoedd yn ein cerbydau ein hunain. Isafswm oedran: 11 oed. 12 lle yn unig sydd ar gael felly mae’n rhaid cadw lle. Am ddim. Cwrdd

10am–3pm, safle Down to Earth, Murton SA3 3AP

Cyswllt

Barney O’Kane, Down to Earth, 01792 232439

5


Ger’ Llun 8 Medi - Sad 13 Medi – Y Daith Gerdded sy’n Ailgysylltu Mae’r Daith Dir Emergence yn rhoi cyfle i gysylltu â materion o bwys ecolegol a chynaladwyedd mawr gyda hwyluswyr ac artistiaid profiadol. Mae’r daith gerdded yn dilyn cwrs 36 milltir Llwybr Gwˆyr ac fe’i chynhelir dros 4 diwrnod (5 noson yn gwersylla). Bydd cyfle i aros, anadlu a chysylltu’n greadigol â’r elfennau gyda’n calonnau, ein pennau a’n dwylo, a byddwn yn cwrdd yn ddyddiol â phorthwyr, artistiaid a stiwardiaid lleol y tir hynafol hwn. Bydd bws yn mynd â chyfranogwyr yn ôl i ganol y ddinas ar ôl y noson olaf o wersylla. E-bostiwch holli@emergenceuk.org. Nifer bach o leoedd sydd ar gael felly mae’n rhaid cadw lle. Pris llawn £300, pris consesiynol £200. Cwrdd

4pm, bydd bws yn cludo cyfranogwyr o Abertawe.

Cyswllt

Fern Smith, Emergence, 07528 527836

Maw 9 Medi – Gweithdy Gwneud Siarcol Gweithdy ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn rheoli coetiroedd, perchnogion coetiroedd sydd am greu incwm, myfyrwyr cadwraeth, mentrau coetir bach ac eraill sydd am ddysgu’r broses o wneud siarcol. Diwrnod hamddenol, anffurfiol ac addysgol yn y coed gan edrych ar bob agwedd ar y broses o wneud siarcol mewn un dydd a chymryd rhan mewn llwytho, cynnau, graddio, bagio etc. Caiff defnyddiau siarcol a biosiar eu trafod yn ogystal â phriodweddau pren, marchnadoedd posib a rheoli coetiroedd yn gynaliadwy. Lle i 8 cyfranogwr yn unig felly mae’n hanfodol cadw lle. 18+ oed (croesewir pobl ifanc 16-17 oed os byddant yng nghwmni oedolyn). Mae lle parcio ar y safle ond nid oes unrhyw gyfleusterau lles na thoiledau. Er y gwneir pob ymdrech i gynnal y gweithdy, os bydd gwyntoedd cryfion neu law gormodol mae’n bosib y bydd rhaid canslo ar y funud olaf. I gadw lle neu am ymholiadau, e-bostiwch: p.thornton@welshwildlife.org. Am ddim ond gall fod angen blaendal i gadw lle. Cwrdd

9am–4.30pm (bras amcan), Coed Gelli Hir, Cilonnen, Gwˆyr

Cyswllt

Paul Thornton, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru, 07966 564372

6


Maw 9 Medi – Ymweliad a Thaith Gerdded Fferm Lower Hardingsdown Cyfle prin i ymweld â fferm da byw organig weithredol i ddeall y prosesau ffermio, yr arallgyfeirio a’r arferion cadwraeth sydd ar waith. Bydd yn cynnwys taith gerdded o gwmpas y fferm. Yn agored i bawb, yn addas i deuluoedd ond rhaid bod plant yng nghwmni oedolion. Digwyddiad am ddim yw hwn ond ychydig o leoedd sydd ar gael, felly mae’n rhaid cadw lle. Argymhellir gwisgo esgidiau glaw neu gerdded. Mae lle parcio a thoiledau ar gael. Ar fws, cymerwch rif 116 i safle bws Muzzard Cross a cherdded 400m i fyny lôn y fferm. Cwrdd

10am–12 ganol dydd, Fferm Lower Hardingsdown, Llangynydd, Gwˆyr SA3 1HT

Cyswllt

Allison Tyrell, 01792 386222

Maw 9 Medi – Diwrnod Gwirfoddoli Penllergaer Hanner diwrnod o weithgaredd cadwraeth coetir corfforol awyr agored yng Nghoed Cwm Penllergaer mewn grwˆp. Gwisgwch ddillad awyr agored sy’n addas i amodau’r tywydd. Darperir offer a chyfarpar. Isafswm oedran 17 oed, oni bai bod person ifanc yng nghwmni oedolyn cyfrifol ar bob adeg. Dim tâl ond ychydig o leoedd yn unig sydd ar gael, felly cadwch le trwy ffonio neu e-bostio contact@penllergare.org. Mae maes parcio talu ac arddangos ar y safle. Mae bws X13 yn mynd heibio’n agos gyda safle bws ym Mharc Penllergaer 500m ymaith. Mae bws gwasanaeth 141 yn mynd heibio i fynedfa’r maes parcio. Cwrdd

10am–2pm, maes parcio, Coed Cwm Penllergaer, Penllergaer, Abertawe SA4 9GS

Cyswllt

David Connick, Ymddiriedolaeth Penllergaer, 01792 344224

Maw 9 a Mer 10 Medi – Cyflwyniad i Waith Coed Gwyrdd Cyfle i ddysgu sgiliau gwaith coed gwyrdd sylfaenol gyda Dragonfly Creations megis hollti, llifio a cherfio gan ddefnyddio bwyeill a chyllyll - a mynd adref â’r hyn rydych wedi’i wneud. Bydd y gweithdy deuddydd hwn yn eich helpu i nodi pren, patrwm graen a mathau addas o goed, wrth ddysgu ar yr un pryd sut mae hyn yn gweddu i agweddau ehangach ecoleg a chynaladwyedd. Dewch â chinio pecyn a gwisgwch ddillad awyr agored addas ac esgidiau gwydn. Darperir cludiant rhwng y safle a Chanolfan Gofalwyr Abertawe ar Stryd Mansel, Abertawe. Mae’r gweithdy’n agored i unrhyw ofalwr 18+ sy’n byw yn Ninas a Sir Abertawe. Mae hyn yn cynnwys unrhyw un sy’n gofalu am ffrind, cymydog neu berthynas oherwydd llesgedd, afiechyd, dibyniaeth neu anabledd. 8 lle yn unig sydd ar gael, felly mae’n hanfodol cadw lle trwy ffonio neu e-bostio ali@swanseacarerscentre.org.uk. Am ddim. Cwrdd

10am–3pm, Fferm The Bays, Lôn Overton, Porth Einon SA3 1NR

Cyswllt

Ali Morrison, Canolfan Gofalwyr Abertawe, 01792 653344

7


Mer 10 Medi – Taith Gerdded Broughton Tro 3 milltir hamddenol i’r traeth ger Llangynydd gydag ymweliad wedyn â thafarn leol am luniaeth. Yn dechrau ac yn gorffen gyda dringfa fer. Dim cwˆn. Gwisgwch esgidiau da a dillad sy’n addas i’r tywydd. Am ddim. Cwrdd

10am, ym maes parcio Tregwˆyr i rannu ceir neu cysylltwch i drefnu cwrdd ar ddechrau’r daith gerdded.

Cyswllt

Keith Jones, Clwb Cerdded Mawr, 01792 775817

Mer 10 Medi – Gwirfoddoli’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol Ymunwch â grwˆp gwirfoddoli’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol am ddiwrnod. Tasg i’w chadarnhau. Darperir menig gwaith. Dewch â chinio pecyn. Yn addas i deuluoedd. Argymhellir cadw lle. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01792 390636 neu e-bostiwch gower.admin@nationaltrust.org.uk Cwrdd

10am-3pm, lleoliad i’w gadarnhau

Cyswllt

Claire Hannington, Ymddiriedolaeth Genedlaethol, 07899 063577

Mer 10 Medi – Geogelcio ar Benrhyn Gw ˆ yr Diwrnod anturus yn archwilio de Gwˆyr trwy geogelcio – hela trysor awyr agored go iawn gan ddefnyddio teclynnau llywio â lloeren. Byddwn yn chwilio am “gelciau”, gan fynd â chi i fannau anghysbell a gwyllt yn ogystal â dangos i chi sut i guddio eich celciau eich hunain. Bydd rhai gweithgareddau’n dibynnu ar y tywydd. Dewch â dillad ac esgidiau sy’n addas i’w awyr agored ynghyd â chinio pecyn. Byddwn yn gadael y safle i fynd i leoliadau gweithgareddau yn ne Gwˆyr, felly cyrhaeddwch mewn car gan y byddwn yn gyrru o’r safle yn ein cerbydau ein hunain. Isafswm oedran: 11 oed. 12 lle yn unig sydd ar gael, felly mae’n rhaid cadw lle. Am ddim. Cwrdd

10am–2.30pm, safle Down to Earth, Murton SA3 3AP

Cyswllt

Barney O’Kane, Down to Earth, 01792 232439

8


Mer 10 Medi – Diwrnod Gwirfoddoli Madog Sant Helpwch i leihau’r rhedyn er mwyn annog blodau gwyllt a defnyddiwch raca i gasglu rhedyn wedi’i dorri mewn pentyrrau yn ein mannau rheoli rhedyn. Gwisgwch drowsus hir ac esgidiau gwydn. Dewch â chinio pecyn, dwˆr a het haul/eli haul, os yw’n boeth. Efallai bydd yn cynnwys tasgau awyr agored eraill. Ni chaniateir cwˆn. Dylech gadw le. Yn addas i bobl ifanc 10 oed a hŷn. Rhaid bod plant dan 16 oed yng nghwmni oedolion cyfrifol. Cwrdd Cyswllt

10am-4pm, Canolfan Madog Sant, Llanmadog, Gwˆyr SA3 1DE Sarah Leedham, Canolfan Madog Sant, 01792 386291

Iau 11 Medi – Cyflwyniad i Grefft y Goedwig Cyflwyniad un diwrnod gan Dryad Bushcraft i ddysgu am offer, technegau a sgiliau sylfaenol crefft y goedwig. Bydd hyn yn cynnwys sut i ddefnyddio cyllell, llif a bwyell yn ddiogel, dysgu sut i feddwl fel goroeswr, cynnau tanau heb fatsis, adeiladu lloches argyfwng, casglu a pharatoi bwyd gwyllt, coginio yn y gwyllt, gosod maglau, tracio, rhoi arwyddion a dod o hyd i’ch ffordd. Does dim angen profiad blaenorol o grefft y goedwig. Gwisgwch ddillad awyr agored addas ac esgidiau gwydn. Darperir cynhwysion ar gyfer cinio y gellir ei goginio uwchben tân, ond dewch â’ch byrbrydau a’ch diodydd eich hunain i gynnal eich lefelau egni. Darperir cludiant rhwng y safle a Chanolfan Gofalwyr Abertawe ar Stryd Mansel, Abertawe. Bydd y gweithdy’n agored i unrhyw ofalwr 18+ oed sy’n byw yn Ninas a Sir Abertawe. Mae hyn yn cynnwys unrhyw un sy’n gofalu am ffrind, cymydog neu berthynas oherwydd llesgedd, afiechyd, dibyniaeth neu anabledd. Digwyddiad am ddim yw hwn ond 10 lle yn unig sydd ar gael, felly mae’n hanfodol cadw lle trwy ffonio neu e-bostio ali@swanseacarerscentre.org.uk. Cwrdd

10am–5pm, yng Nghoed y Parc, ger Parkmill, Gwˆyr

Cyswllt

Ali Morrison, Canolfan Gofalwyr Abertawe, 01792 653344

Iau 11 Medi – Diwrnod Gwirfoddoli Penllergaer Hanner diwrnod o weithgaredd cadwraeth coetir corfforol awyr agored yng Nghoed Cwm Penllergaer mewn grwˆp. Gwisgwch ddillad awyr agored sy’n addas i amodau’r tywydd. Darperir offer a chyfarpar. Isafswm oedran yw 17 oed, oni bai bod person ifanc yng nghwmni oedolyn cyfrifol ar bob adeg. Dim tâl ond ychydig o leoedd yn unig sydd ar gael, felly cadwch le trwy ffonio neu e-bostio contact@penllergare.org. Mae maes parcio talu ac arddangos ar y safle. Mae bws X13 yn mynd heibio’n agos ac mae safle bws ym Mharc Penllergaer 500m ymaith. Mae bws gwasanaeth 141 yn mynd heibio i fynedfa’r maes parcio. Cwrdd

10am–2pm, maes parcio Coed Cwm Penllergaer, Penllergaer, Abertawe SA4 9GS

Cyswllt

David Connick, Ymddiriedolaeth Penllergaer, 01792 344224

9


Iau 11 Medi – Taith Gerdded Adrodd Straeon Taith gerdded adrodd straeon o gwmpas Coed yr Esgob wedi’i hysbrydoli gan y coetir hardd a’r hanes sy’n dal yn fyw yn y dirwedd. Mae Siân Cornelius (storïwr lleol) ac Andy Jones (cerddor/archeolegydd) wedi dod â’r byd hudolus yn fyw sy’n bodoli ac yn anadlu trwy straeon, barddoniaeth, cerddoriaeth a’r synhwyrau. Tir anwastad a serth yw’r daith gerdded mewn mannau, felly mae angen ffitrwydd a gallu cymedrol, ynghyd ag esgidiau cerdded gwydn. Digwyddiad am ddim yw’r daith hon ond ychydig o leoedd yn unig sydd ar gael, felly mae’n hanfodol cadw lle. Yn addas i oedolion a phlant 10+ oed. Cwrdd

10.30am a 1.30pm, yng nghefn maes parcio’r traeth, Caswell, Gwˆyr

Cyswllt

Siân Cornelius, Tirwydd, 07854113640

Iau 11 Medi – Taith Gerdded Cronfeydd Dw ˆ r Lliw Taith gerdded 4 milltir hamddenol a diddorol yw hon sy’n dilyn llwybrau cerdded a’r heol darmac o gwmpas dyfroedd prydferth Cronfeydd Dwˆr Lliw Isaf ac Uchaf, gan ddod i ben gydag ymweliad haeddiannol â’r caffi ar y safle am baned a theisennau etc. Sylwch y gallai llwybrau cerdded fod yn fwdlyd ar ôl glaw. Rhaid cadw cwˆn ar denynnau byr. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn. Digwyddiad am ddim. Cwrdd

11.45am, maes parcio Cronfa Ddwˆr Lliw Isaf, Felindre

Cyswllt

Mike Clarke, Cerddwyr Abertawe, 01792 843590

Gwe 12 Medi – Adeiladu aˆ Byrnau Gwellt – Paratoi i Adeiladu Seminar undydd hanfodol ar gyfer pob hunanadeiladwr byrnau gwellt gyda Barbara Jones o Straw Works, awdur y llawlyfr hunanadeiladu hynod boblogaidd ‘Building with Straw Bales’. Bydd y seminar poblogaidd hwn yn canolbwyntio ar reoli prosiect adeiladu â byrnau gwellt, gan esbonio technegau y gallwch eu defnyddio yn eich prosiect eich hun: Am ansawdd, cyllideb a phrydlondeb. Dewch â chinio pecyn. Isafswm oedran: 18 oed. 15 lle yn unig. £45 y person. Mae’n rhaid cadw lle. Cwrdd

9.45am–4pm, safle Down to Earth, Murton SA3 3AP

Cyswllt

Mark McKenna, Down to Earth, 01792 232439

10


Gwe 12 Medi – Rheoli Coetiroedd a Choginio ar Daˆn Agored Gweithgareddau coetir ymarferol gan gynnwys cymynu coed a chlirio malurion yn ogystal â dysgu sut i gynnau tân heb fatsis a choginio bwyd gwych arno. Gan gyfuno rheoli coetir â bwyta’n dda o gwmpas tân gwersyll, byddwch yn cysgu’n braf ar ôl y diwrnod cyffrous hwn yn y coed. Bydd rhai gweithgareddau’n dibynnu ar y tywydd. Dewch â dillad ac esgidiau sy’n addas i’r awyr agored ynghyd â chinio pecyn os oes gennych anghenion deietegol penodol. Isafswm oedran: 11 oed. 12 lle yn unig. Dim tâl ond mae’n rhaid cadw lle. Cwrdd

10am–2.30pm, Millwood, Penrhys, Gwˆyr

Cyswllt

Barney O’Kane, Down to Earth, 01792 232439

Gwe 12 Medi – Creu Basgedi i Ddechreuwyr Crëwch eich basged ffrâm helyg eich hun gan ddefnyddio technegau plethu traddodiadol. Darperir cyfarwyddiadau llawn a deunyddiau gan Out to Learn Willow. Cyflwyniad gwych i greu basgedi yw hwn sy’n addas i ddechreuwyr pur. Gwisgwch ddillad sy’n addas i’r awyr agored ac esgidiau gwydn. Mae’r lleoliad yn yr awyr agored ac mae cyfleusterau toiled o fewn pellter cerdded byr. Dewch â chinio pecyn a diod. Darperir cludiant rhwng y safle a Chanolfan Gofalwyr Abertawe ar Stryd Mansel, Abertawe. Bydd y gweithdy’n agored i unrhyw ofalwr 18+ oed sy’n byw yn Ninas a Sir Abertawe. Mae hyn yn cynnwys unrhyw un sy’n gofalu am ffrind, cymydog neu berthynas oherwydd llesgedd, afiechyd, dibyniaeth neu anabledd. 8 lle yn unig sydd ar gael, felly mae’n hanfodol cadw lle trwy ffonio neu e-bostio ali@swanseacarerscentre.org.uk. Am ddim. Cwrdd

10am–4pm, yn y Tŷ Crwn, Coed yr Esgob, Caswell

Cyswllt

Ali Morrison, Canolfan Gofalwyr Abertawe, 01792 653344

Sad 13 / Sul 14 Medi – Tyˆ Agored Abertawe Digwyddiad am ddim sy’n dathlu amgylchedd a threftadaeth adeiledig Abertawe, gan roi cyfle unwaith mewn blwyddyn i weld y tu ôl i ddrysau caeëdig a chlywed mwy am sut cafodd adeiladau a phrosiectau eu dylunio a’u gweithredu. Mae’n cynnwys adeiladau a safleoedd mewn rhannau gwledig o Abertawe megis eglwysi de-orllewin Gwˆyr, Prosiect Down to Earth a Choed Cwm Penllergaer. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.swanseaopenhouse.com Cwrdd

Lleoliadau ac amserau amrywiol

Cyswllt

www.swanseaopenhouse.com/contact.html

11


Sad 13 Medi – Cyflwyniad i Adeiladu aˆ Byrnau Gwellt Cyflwyniad i adeiladu â byrnau gwellt i bawb o hunanadeiladwyr a phenseiri i ddechreuwyr pur. Nid cwrs ymarferol yw hwn er y bydd peth gwaith ymarferol â byrnau. Dewch yn barod i gael eich ysbrydoli! Caiff y cwrs hwn ei arwain gan Barbara Jones sydd wedi arloesi’r defnydd o wellt fel deunydd adeiladu ers 1995 ac sydd bellach yn rheoli Straw Works. Dewch â chinio pecyn. Isafswm oedran: 18 oed. 12 lle yn unig. Dim tâl ond mae’n rhaid cadw lle. Cwrdd

9.45am–4pm, safle Down to Earth, Murton SA3 3AP

Cyswllt

Mark McKenna, Down to Earth, 01792 232439

Sad 13 Medi – Llwybr Gw ˆ yr: Reynoldston i Rosili Taith gerdded gymedrol 6 milltir ar hyd y rhan o Lwybr Gwˆyr sy’n mynd heibio i Landdewi a Hen Henllys, Kingshall a Mynydd Rhosili. Bydd golygfeydd o Ben Pyrod a’r bae sy’n cael ei bleidleisio’n aml ymhlith traethau harddaf y byd. Darperir coets am ddim o faes parcio Rhosili i fan cychwyn y daith gerdded yn Reynoldston. Am ddim ond mae’n hanfodol cadw lle. Cwrdd

9.45am rhwng Neuadd y Ddinas a Pharc Victoria, Abertawe (i rannu car) neu 10.45am ym maes parcio Rhosili.

Cyswllt

Lynne Esson, Cerddwyr Abertawe, 01792 845845

Sad 13 Medi – Pigau a Thraed Dewch i ddysgu pam mae pigau a thraed adar yn amrywio o ran siâp a rhowch gynnig ar fwydo adar â phigau gwahanol. I blant 8-18 oed. Am ddim i aelodau’r grwˆp, £3 i’r rhai nad ydynt yn aelodau. Croeso i’r rhai nad ydynt yn aelodau ond ffoniwch yn gyntaf. Cwrdd

10am–12 ganol dydd, Neuadd Les Craig-cefn-parc SA6 5RB

Cyswllt

Vicky Rees, Barcutiaid a Throchwyr Cwm Clydach yr RSPB, 01792 846443

Sad 13 Medi – Gw ˆ yl Cerflunio ar lan y Moˆ r y DU Ymunwch â thîm o artistiaid proffesiynol i greu arddangosfa o gerfluniau dros dro ar thema anifeiliaid morol sy’n ysbrydoli ac yn addysgu am un o draethau harddaf Gwˆyr. Dewch â bwcedi a rhawiau, hetiau ac eli haul. I bob oedran a diwylliant. Gweithdai galw heibio am ddim a’r cyntaf i’r felin a gaiff le. Mae ar lwybr bws ac mae meysydd parcio talu ac arddangos ar gael. Cwrdd

10am–4pm, traeth Caswell, Gwˆyr

Cyswllt

Sara Holden, Cerflunio ar lan y Môr y DU, 01792 367571

12


Sad 13 Medi – Gweithdy Darganfod eich Ffotograffiaeth Ffotensial Dewch i ‘Ddarganfod eich Ffotensial’ yn y gweithdy ffotograffiaeth flaengar hwn a fydd yn datblygu’r ffordd rydych yn gweld y byd o’ch cwmpas. Dewch â chamera digidol, bwyd a diod gyda chi a gwisgwch ddillad sy’n addas i’r tywydd. Yn ddelfrydol ar gyfer perchnogion camerâu DSLR a CSC o bob gallu. Codir tâl o £5 i ariannu teisennau a diodydd twym a ddarperir. Ewch i www.photential.co.uk am fwy o fanylion ac i gadw lle. Mae’n hanfodol cadw lle. Mae lleoedd yn brin. Cwrdd

10am–3pm, Canolfan Weithgareddau Garnswllt, Heol y Mynydd, Garnswllt SA18 2SE

Cyswllt

Lee Aspland, Photential, 07952 747776

Sad 13 Medi – Taith Twyni, Rhosydd a Thraethau Taith gerdded gymedrol 8 milltir ar hyd ochr ddwyreiniol Mynydd Rhosili i Felin Whitemoor a’r bryngaerau ar Harding’s Down ac Eglwys Llangynydd, gan ddychwelyd ar draws rhosydd Llangynydd ac ar hyd y traeth a llwybr yr arfordir. Rhaid cadw cwˆn ar denynnau byr. Cwrdd

10.30am, maes parcio Eglwys Rhosili (cyf. grid: 416 804)

Cyswllt

Alan Bailey, Cymdeithas Gwˆyr, 01792 233046

Sad 13 Medi – Gweithdy Gwaith Coed Gwyrdd Mae arweinydd y gweithdy, Dai Morris, yn weithiwr coed gwyrdd profiadol iawn a fydd yn dysgu egwyddorion sylfaenol gwaith coed gwyrdd gan gynnwys gwaith cyllyll a defnyddio ceffyl plaenio. Nid oes angen profiad blaenorol. Bydd pawb yn mynd adref ag enghraifft o’u gwaith. Rhaid bod cyfranogwyr yn 12 oed neu’n hŷn. 7 lle yn unig sydd ar gael, felly mae angen cadw lle. Mae’r gweithdy am ddim ond bydd angen blaendal o £5 y gellir ei adennill. Mae maes parcio talu ac arddangos yn Caswell. Mae amserau’r gweithdy yn addas i gyfranogwyr sy’n defnyddio gwasanaeth bws 2C o Abertawe. Gallwn gwrdd ag unrhyw un sy’n ansicr o’r lleoliad yng nghefn maes parcio Caswell. Cwrdd

10.30am–4.30pm, Ymddiriedolaeth Llanwell, Coed yr Esgob, Caswell, Gwˆyr

Cyswllt

Kate Davies, Coeden Fach, 07831 923244

13


Sad 13 Medi – Saffari Glan Moˆ r Porth Einon Dewch i ymuno â’r biolegydd môr, Judith Oakley, ar saffari glan môr addysgol llawn hwyl am ddim. Darganfyddwch y bywyd cudd anhygoel ymhlith y pyllau trai ac o dan glogfeini ar draethau Gwˆyr. Codir ffioedd parcio ceir mewn rhai mannau a byddwch yn barod am daith gerdded 10 munud dros dywod a chreigiau i gyrraedd y safle. Ni chaniateir rhwydi na chwˆn. Gwisgwch ddillad sy’n addas i amodau’r tywydd ac esgidiau gyda gafael da (dim fflip-fflops). Yn addas i blant 3+ oed ond rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol. Mae’n hanfodol cadw lle trwy decstio neu ffonio, neu drwy e-bostio info@oakleyintertidal.co.uk. Cwrdd

1.45pm–3.45pm, y tu allan i’r siopau sglodion, Porth Einon, Gwˆyr

Cyswllt

Judith Oakley, Oakley Intertidal, 07879 837817

Sad 13 Medi – Saffari Snorcelu Llongddrylliad Oxwich Ymunwch â chydlynydd Clear Streams a Chwaraeon Dwˆr Abertawe wrth iddynt lywio cwch i’r llongddrylliad ym Mae Oxwich. Pan fo’r llanw ar drai, gallwch archwilio’r llongddrylliad anhygoel hwn sy’n llawn bywyd gwyllt wrth ddysgu am faterion sy’n effeithio ar ein hamgylchedd dwˆr. Ar gyfer snorcelwyr profiadol yn unig. Ni ddarperir offer snorcelu, felly mae’n rhaid i gyfranogwyr ddod â’u hoffer eu hunain. I gadw lle, e-bostiwch connor@environmentcentre.org.uk. Mae angen blaendal o £10 y gellir ei adennill yn ogystal â ffurflen gais wedi’i chwblhau. Cwrdd

1.30pm–4.30pm, The Beach Hut, traeth Oxwich, Oxwich SA3 1LS

Cyswllt

Connor Whiteley, Clear Streams, 01792 480200

Sul 14 Medi – Taith Gerdded Cwm Clydach Taith gerdded egnïol 9/10 milltir trwy gaeau, dros fryniau ac i lawr dyffrynnoedd serth gan fynd heibio i domen gladdu enwog Lechart. Yn cynnwys dringo a disgyn rhai llethrau serth. Tir garw dan droed mewn mannau; gall y dyffrynnoedd fod yn fwdlyd ac yn llithrig. Mae angen esgidiau a dillad da. Dim cwˆn. Cwrdd

9.30am rhwng Neuadd y Ddinas a Pharc Victoria, Abertawe (i rannu car) neu 10am ym maes parcio Gwarchodfa Natur Cwm Clydach yr RSPB SA6 5TL (cyf. grid: SN682 026)

Cyswllt

John France, Cymdeithas Gwˆyr, 01792 547439

14


ˆ Sul 14 Medi – DIWRNOD HWB GWYR

CCG

10am–4pm, digwyddiad diwrnod llawn hwyl i’r teulu mewn chwe hwb gweithgareddau ar hyd milltir o draeth Caswell trwy Goed yr Esgob i’r prosiect Down to Earth, Murton Dewch i greu cerflun tywod anferth ar y traeth, archwilio byd hudol Llanwell, teithio yn ôl trwy amser i ddechrau ffotograffiaeth, rhoi cynnig ar restr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ‘50 o Bethau i’w Gwneud Cyn i Chi Droi’n 11¾ Oed’, dilyn gorymdaith y Fari Lwyd ar hyd llwybr y goedlan, creu pethau â phren a charreg, dysgu sgiliau goroesi… ac mae llawer mwy i’w weld a’i wneud. Hwb y Traeth: arfordiro, cerfluniau tywod a phyllau trai Hwb Crefftau Gwledig: stondinau cynnyrch lleol a chrefftau gwledig Hwb y Goedlan: hwyl bywyd gwyllt a helfeydd trysor Hwb y Tyˆ Crwn: gweithgareddau celf, ffotograffiaeth a threftadaeth Hwb Llanwell: adrodd straeon ac arddangosiadau crefftau Hwb Down to Earth: gweithgareddau antur, dulliau adeiladu traddodiadol a gwaith coed gwyrdd Rhaglen: Bydd rhaglen lawn ar gael ar y dydd. Mae’r holl weithgareddau am ddim ond bydd gan rai amserau penodol a nifer cyfyngedig o leoedd. Dylid cadw lle ar gyfer y gweithgareddau canlynol: • Sesiynau arfordiro (9am–10.30am ac 11am–12.30pm), isafswm oedran 11 oed, lle i 10 person yn unig, yn cwrdd ym maes parcio Caswell gyda phâr sbâr o esgidiau hyfforddi, dillad nofio a thywel. Darperir dillad gwlyb. • Gweithdai gwaith coed gwyrdd (10.30am, 11.30am, 1.30pm a 2.30pm). I gadw lle ar gyfer y naill weithdy neu’r llall, ffoniwch Down to Earth ar 01792 232439. Cludiant Cyhoeddus: Cymerwch fws 114 o Abertawe i Murton am 10am neu 12 ganol dydd. Parcio a Mynediad i’r Safle: Mae meysydd parcio talu ac arddangos ger traeth Caswell a Chanolfan Cefn Gwlad Coed yr Esgob. Mae maes parcio di-dâl yng Nghanolfan Gymunedol Llandeilo Ferwallt, Murton. Mae’r prif lwybr trwy Goed yr Esgob ac ar safle Prosiect Down to Earth yn hygyrch i gadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio. Mae’r llwybr byr rhwng Coed yr Esgob a Down to Earth yn anwastad ac yn anaddas i gadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio ond bydd bws gwennol am ddim yn teithio rhwng meysydd parcio Caswell a Murton. Lluniaeth a Chyfleusterau Toiled: Bydd bwyd a thoiledau ar gael ger traeth Caswell ac ar safle Prosiect Down to Earth. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael yng Nghoed yr Esgob.

15


Sul 14 Medi – Planhigion ac Ieir Bach yr Haf Clogwyni’r Arfordir Taith dywys ar hyd llwybr y clogwyn o Caswell i Langland (ac yn ôl), gan dynnu sylw at blanhigion yr hydref ac ieir bach yr haf. Dim mynediad i bobl anabl. Ychydig o leoedd yn unig sydd ar gael, felly mae’n rhaid cadw lle. Digwyddiad am ddim ond codir ffioedd parcio. Cwrdd

10am–12 ganol dydd, Canolfan Cefn Gwlad Coed yr Esgob, Caswell, Gwˆyr

Cyswllt

Dr Deborah Sazer, Cadwraeth Ieir Bach yr Haf, 01792 851050 / 07703 343597

Sul 14 Medi – Eco-lwyth Gweithgareddau amgylcheddol i’r teulu yn yr awyr agored. Gwisgwch ddillad ac esgidiau sy’n addas i’r awyr agored. Rhaid bod plant dan 16 oed yng nghwmni oedolion cyfrifol. Am ddim, dim angen cadw lle. Cwrdd

3pm–5pm, Canolfan Madog Sant, Llanmadog, Gwˆyr SA3 1DE

Cyswllt

Mark Cutliffe, Canolfan Madog Sant, 01752 386291

Llun 15 Medi – Dringo Coed, Gwaith Coed Gwyrdd a Choginio ar y Taˆ n Diwrnod amrywiol ac anturus o weithgareddau ymarferol gan gynnwys dringo derwen fawr, gwaith coed gwyrdd a chreu rhywbeth i fynd ag ef adref yn ogystal â chynnau tân heb fatsis a choginio bwyd gwych uwchben tân agored. Bydd rhai gweithgareddau’n ddibynnol ar y tywydd. Gwisgwch ddillad ac esgidiau sy’n addas i’r awyr agored a dewch â chinio pecyn os oes gennych anghenion deietegol penodol. Isafswm oedran: 11 oed. 12 lle yn unig sydd ar gael. Dim tâl ond mae’n rhaid cadw lle. Cwrdd

10am–2.30pm, safle Down to Earth, Murton SA3 3AP

Cyswllt

Mark McKenna, Down to Earth, 01792 232439

Llun 15 Medi – Extraordinary Little Cough Dylan Thomas Perfformiad cerdded un dyn gan Gwmni Theatr Lighthouse ar hyd clogwyni Rhosili. Yn addas i deuluoedd. Dim tâl ond mae’n hanfodol cadw lle. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01792 390636 neu e-bostiwch gower.admin@nationaltrust.org.uk. Cwrdd

2pm, Rhosili, Gwˆyr

Cyswllt

Kathryn Thomas, Ymddiriedolaeth Genedlaethol, 07899 826170

16


Maw 16 Medi – Uned Ymarferwyr Addysg Awyr Agored Y cyntaf o dri diwrnod llawn dros dri mis (gan gynnwys 14 Hydref ac 11 Tachwedd) gan ddefnyddio ethos Ysgol Goedwig ar gyfer athrawon, gweithwyr chwarae, gweithwyr ieuenctid ac addysgwyr sydd am ddefnyddio’r awyr agored yn eu lleoliadau eu hunain fel amgylchedd dysgu mwy cynhyrchiol ac sydd am ddatblygu eu hyder, eu sgiliau a’u technegau. Cost: £300. 12 lle yn unig sydd ar gael, felly mae’n hanfodol cadw lle. Cwrdd

9am–5pm, Canolfan y Coetir, Coed Cwm Penllergaer, Abertawe SA4 9GS

Cyswllt

Ysgol Goedwig ACNPT, 01792 367118

Maw 16 Medi – Diwrnod Gwirfoddoli Penllergaer Hanner diwrnod o weithgaredd cadwraeth coetir corfforol awyr agored yng Nghoed Cwm Penllergaer mewn grwˆp. Gwisgwch ddillad awyr agored sy’n addas i amodau’r tywydd. Darperir offer a chyfarpar. Isafswm oedran yw 17 oed, oni bai bod person ifanc yng nghwmni oedolyn cyfrifol ar bob adeg. Dim tâl ond ychydig o leoedd yn unig sydd ar gael, felly cadwch le trwy ffonio neu e-bostio contact@penllergare.org. Mae maes parcio talu ac arddangos ar y safle. Mae bws X13 yn mynd heibio’n agos gyda safle bws ym Mharc Penllergaer 500m ymaith. Mae bws gwasanaeth 141 yn mynd heibio i fynedfa’r maes parcio. Cwrdd

10am–2pm, maes parcio Coed Cwm Penllergaer, Penllergaer, Abertawe SA4 9GS

Cyswllt

David Connick, Ymddiriedolaeth Penllergaer, 01792 344224

Maw 16 Medi – Gweithdy Creu Basgedi Helyg Creu basgedi helyg i ddechreuwyr. Dysgwch sut i greu basged fach gron gan ddefnyddio dulliau traddodiadol a gwahanol fathau o helyg. Yn addas i ddechreuwyr. 8 lle yn unig sydd ar gael, felly dylech gadw lle trwy ffonio 01656 881007 neu e-bostio info@outtolearnwillow.co.uk. Cwrdd

10am–4.30pm, Canolfan Weithgareddau Garnswllt, Heol y Mynydd, Garnswllt SA18 2SE

Cyswllt

Mel Bastier, Out To Learn Willow, 07764 961095

17


Maw 16 Medi – Taith Gerdded Cefn Drum a Thw ˆ r Maggie Taith gerdded gymedrol 6 milltir gyda golygfeydd eang i gopa’r Graig Fawr ac ar hyd y drum i Dwˆr Maggie a Chefn Drum. Rhaid bod plant yng nghwmni oedolion. Rhaid cadw cwˆn ar denynnau byr. Ar gludiant cyhoeddus, cymerwch fws X13 am 9.35am o orsaf fysus Abertawe i Bontarddulais gyda thaith gerdded o ryw filltir i’r man cychwyn. Cysylltwch â’r arweinydd am fwy o gyfarwyddiadau neu os byddwch yn cyrraedd ar fws. Am ddim. Cwrdd

10.45am, ger coetir ar Heol Dantwyn, Pontarddulais SA4 8NB

Cyswllt

Lynne Esson, Cerddwyr Abertawe, 01792 845845

Mer 17 Medi – Taith Feicio Garnswllt Taith gymedrol i Bontarddulais a Garnswllt gan alw yn y Scotch Pine, Betws am ginio. Rhaid bod plant dan 16 oed yng nghwmni oedolyn. Am ddim. Cwrdd

10am, Canolfan Feddygol Tregwˆyr, Stryd y Felin, Tregwˆyr SA4 3ED

Cyswllt

Martin Brain, C.T.C. Abertawe, 01792 536372 / 07977 561047

Mer 17 Medi – Gwirfoddoli’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol Ymunwch â grwˆp gwirfoddoli’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol am ddiwrnod. Tasg i’w chadarnhau. Darperir menig gwaith. Dewch â chinio pecyn. Yn addas i deuluoedd. Argymhellir cadw lle. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01792 390636 neu e-bostiwch gower.admin@nationaltrust.org.uk Cwrdd

10am-3pm, lleoliad i’w gadarnhau

Cyswllt

Claire Hannington, Ymddiriedolaeth Genedlaethol, 07899 063577

Mer 17 Medi – Cylchdaith Gerdded Reynoldston Cylchdaith gerdded tua 11 cilometr ar lwybrau a thraciau. Mae’n bosib y bydd ychydig gamfeydd i’w croesi. Argymhellir i chi wisgo esgidiau cerdded gan y gallai’r llwybr fod yn fwdlyd a byddwch yn barod am dywydd amrywiol. Dewch â chinio pecyn a diodydd. Dim cwˆn. Digwyddiad am ddim. Cwrdd

10am–4pm, ym maes parcio Tregwˆyr i rannu ceir i fan cychwyn y daith gerdded.

Cyswllt

Alun Thomas, Clwb Cerdded Mawr, 01792 790053

18


Mer 17 Medi – Taith Dywys Penllergaer Taith dywys yn cerdded o gwmpas Coed Cwm Penllergaer i weld y cynnydd wrth adfer yr hen waith tirlunio. Mae’r tir yn anwastad mewn mannau, felly gwisgwch esgidiau cryf a dillad sy’n addas i’r amodau tywydd. Isafswm oedran yw 17 oed, oni bai bod person ifanc yng nghwmni oedolyn cyfrifol ar bob adeg. Nid oes rhaid cadw lle. Am ddim ond croesewir cyfraniadau. Mae maes parcio talu ac arddangos ar y safle. Mae bws X13 yn mynd heibio’n agos gyda safle bws ym Mharc Penllergaer 500m ymaith. Mae bws gwasanaeth 141 yn mynd heibio i fynedfa’r maes parcio. Cwrdd

6pm–8pm, maes parcio Coed Cwm Penllergaer, Penllergaer, Abertawe SA4 9GS

Cyswllt

David Connick, Ymddiriedolaeth Penllergaer, 01792 344224

Iau 18 Medi – Diwrnod Gwirfoddoli Penllergaer Hanner diwrnod o weithgaredd cadwraeth coetir corfforol awyr agored yng Nghoed Cwm Penllergaer mewn grwˆp. Gwisgwch ddillad awyr agored sy’n addas i amodau’r tywydd. Darperir offer a chyfarpar. Isafswm oedran yw 17 oed, oni bai bod person ifanc yng nghwmni oedolyn cyfrifol ar bob adeg. Dim tâl ond ychydig o leoedd yn unig sydd ar gael, felly cadwch le trwy ffonio neu e-bostio contact@penllergare.org. Mae maes parcio talu ac arddangos ar y safle. Mae bws X13 yn mynd heibio’n agos gyda safle bws ym Mharc Penllergaer 500m ymaith. Mae bws gwasanaeth 141 yn mynd heibio i fynedfa’r maes parcio. Cwrdd

10am–2pm, maes parcio, Coed Cwm Penllergaer, Penllergaer, Abertawe SA4 9GS

Cyswllt

David Connick, Ymddiriedolaeth Penllergaer, 01792 344224

Iau 18 Medi – Saffari Lindys Brith y Gors Taith gerdded rhwng awr ac awr a hanner i ddarganfod bywyd dirgel brith y gors (math o iâr fach yr haf) a’i lindysyn. Gallwch barcio ar ochr yr heol ger man cychwyn y daith. Nid yw’n addas i blant dan 12 oed. Dim cwˆn. Dim mynediad i’r anabl. Tir gwastad ond mae’n arw a bydd fwy na thebyg yn wlyb. Ychydig o leoedd yn unig sydd ar gael, felly dylech chi gadw lle. Cwrdd

2pm, ger yr heol ym mhen gogleddol Welshmoor, Gwˆyr (cyf. grid: SS519 929)

Cyswllt

Dr Deborah Sazer, Cadwraeth Ieir Bach yr Haf, 07703 343597

19


Gwe 19 Medi – Fframiau Pren Polion Crwn Diwrnod rhagarweiniol gan esbonio sut i adeiladu â phren yn y rownd gan ddefnyddio llarwydd ar safle adeiladu fframiau pren polion crwn gweithredol. Bydd y diwrnod yn cynnwys cefndir ar ddewisiadau pren, yr offer angenrheidiol a hefyd y saernïaeth sydd ynghlwm. Bydd rhai tasgau ymarferol bach ar y dydd. Bydd rhai gweithgareddau’n dibynnu ar y tywydd. Gwisgwch ddillad ac esgidiau sy’n addas i’r awyr agored a dewch â chinio pecyn. Isafswm oedran: 11 oed. Dim tâl ond 12 lle yn unig sydd ar gael, felly mae’n rhaid cadw lle. Cwrdd

10am–2.30pm, safle Bryn Gwyn Bach Down to Earth, Gwˆyr SA3 1EB

Cyswllt

Mark McKenna, Down to Earth, 01792 232439

Sad 20 Medi – Diwrnod Cenedlaethol Gwylio Traethau Helpwch yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gadw’r traeth godidog hwn yn lân a chyfrannwch at yr arolwg cenedlaethol. Darperir menig gwaith a sachau sbwriel. Dewch â chinio pecyn. Dim tâl. Yn addas i deuluoedd. Argymhellir cadw lle. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01792 390636 neu e-bostiwch gower.admin@nationaltrust.org.uk Cwrdd

10am-3pm, traeth Rhosili, Gwˆyr

Cyswllt

Kathryn Thomas, Ymddiriedolaeth Genedlaethol, 07899 826170

Sad 20 Medi – Dringo Coed, Gwaith Coed Gwyrdd a Choginio ar Daˆ n Agored Diwrnod amrywiol ac anturus o weithgareddau ymarferol gan gynnwys dringo derwen fawr, gwaith coed gwyrdd a chreu rhywbeth i fynd ag ef adref yn ogystal â chynnau tân heb fatsis a choginio bwyd gwych uwchben tân agored. Bydd rhai gweithgareddau’n ddibynnol ar y tywydd. Gwisgwch ddillad ac esgidiau sy’n addas i’r awyr agored a dewch â chinio pecyn os oes gennych anghenion deietegol penodol. Isafswm oedran: 11 oed. 12 lle yn unig sydd ar gael. Dim tâl ond mae’n rhaid cadw lle. Cwrdd

10am–2.30pm, safle Down to Earth, Murton SA3 3AP

Cyswllt

Mark McKenna, Down to Earth, 01792 232439

20


Sad 20 a Sul 21 Medi – Caru Cefn Gwlad i’r Dyfodol Ewch ar daith i un o draethau prydferthaf y byd i helpu i gasglu gwastraff plastig a darnau eraill o sbwriel ar y dydd Sadwrn a/neu helpu i adeiladu cestyll tywod anferth a chreu cerfluniau tywod ar y dydd Sul – bydd gwobrau ar gael. Bydd Gower Power hefyd yn cael sgwrs anffurfiol dros y ddau ddiwrnod am farn pobl ar yr hyn y dylai’r cyngor lleol a Llywodraeth Cymru ei flaenoriaethu er mwyn mynd i’r afael ag effeithiau’r newid yn yr hinsawdd fel y gall cenedlaethau’r dyfodol barhau i fwynhau cefn gwlad. Digwyddiad am ddim a chroesewir pob oedran ond rhaid i blant fod yng nghwmni oedolion. Darperir sachau du i gasglu’r sbwriel ond dewch â’ch rhawiau a’ch rhacanau eich hunain i adeiladu cestyll tywod ar y dydd Sul. Dewch â dwˆr yfed. Cwrdd

12 ganol dydd–4pm, traeth y Tri Chlogwyn, Gwˆyr

Cyswllt

Ant Flanagan, Cydweithfa Gymunedol Gower Power, 07824 860803

Sul 21 Medi – DIWRNOD HWB MAWR Bydd llawer i’w weld a’i wneud gyda llwyth o weithgareddau hwyl trwy gydol y dydd gan gynnwys gweithdai plethu helyg, gweithgareddau’r RSPB, stondinau cynnyrch lleol a chrefftau, gwaith coed gwyrdd a theithiau cerdded tywys byr yng nghefn gwlad yr ardal gyfagos. Amserlen: Bydd rhaglen lawn ar gael ar y dydd. Mae’r holl weithgareddau am ddim ond bydd gan rai amserau penodol a nifer cyfyngedig o leoedd. Parcio a Mynediad: Ychydig iawn o le parcio sydd ar gael ger y ganolfan weithgareddau ond mae maes parcio bach tua 300m i lawr y bryn o’r ganolfan weithgareddau a hefyd yn y pentref. Darperir bws gwennol am ddim rhwng y pentref, y maes parcio a’r ganolfan weithgareddau. Lluniaeth a Chyfleusterau Toiled: Bydd bwyd a thoiledau ar gael yn y ganolfan. Cwrdd: 10am–4pm, Canolfan Weithgareddau Garnswllt, Heol y Mynydd, Garnswllt, SA18 2SE.

21

CCG


Sul 21 Medi – Taith Gerdded Twyni, Morfeydd a Rhosydd Taith gerdded egnïol 12.5 milltir (gan gynnwys dringo 500m) ar draws Bae Broughton i Burry Holms, Rhosili a Harding’s Down gan ddychwelyd trwy forfa heli Llandimôr. Rhaid cadw cwˆn ar denynnau byr. Am ddim. Cwrdd

9.30am, maes parcio Cwm Iorwg, Llanmadog, Gwˆyr

Cyswllt

Mark Wolle, Cerddwyr Abertawe, 07739-857825

Sul 21 Medi – Diwrnod Chwarae Caru Cefn Gwlad Diwrnod chwarae Ysgol Goedwig ar gyfer plant 8-12 oed, gan gynnwys amrywiaeth o weithgareddau Ysgol Goedwig megis adeiladu ffeuau, hela pryfed, coginio ar y tân gwersyll, crefftau, defnyddio offer a llawer mwy. Dim tâl ond croesewir unrhyw gyfraniadau. 12 lle yn unig sydd ar gael, felly mae’n rhaid cadw lle trwy e-bostio info@forestschoolsnpt.org.uk – y cyntaf i’r felin a gaiff le. Cwrdd

10am–3pm, Coed Cwm Penllergaer, Abertawe SA4 9GS

Cyswllt

Ysgol Goedwig ACNPT, 01792 367118

Sul 21 Medi – Gweithdy Darganfod eich Ffotograffiaeth Ffotensial Dewch i ‘Ddarganfod eich Ffotensial’ yn y gweithdy ffotograffiaeth flaengar hwn a fydd yn datblygu’r ffordd rydych yn gweld y byd o’ch cwmpas. Dewch â chamera digidol, bwyd a diod gyda chi a gwisgwch ddillad sy’n addas i’r tywydd. Yn ddelfrydol ar gyfer perchnogion camerâu DSLR a CSC o bob gallu. Codir tâl o £5 i ariannu teisennau a diodydd twym a ddarperir. Ewch i www.photential.co.uk am fwy o fanylion ac i gadw lle. Mae’n hanfodol cadw lle. Mae lleoedd yn brin. Cwrdd

4pm–9pm, Canolfan Madog Sant, Llanmadog, Gwˆyr SA3 1DE

Cyswllt

Lee Aspland, Photential, 07952747776

22


19

Main Locations for Festival Events ˆ Prif Leoliadau Digwyddiadau’r Wyl 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11

Rhossili Llanmadoc / Cwm Ivy Penclawdd Welshmoor Down to Earth Little Bryn Gwyn Coeden Fach Tree Nursery Caswell Bishop’s Wood / Lanwell Down to Earth Murton Three Cliffs Park Woods

12 13 14 15 16 17 18 19 20 21

Gelli Hir Woods Millwood Oxwich Port Eynon Penllergare Valley Woods Cefn Drum / Cwm Dulais Lower Lliw Reservoir Garnswllt Activity Centre Craig Cefn Parc Cwm Clydach Nature Reserve

17 18 20

16

3

2 12

4

5 11

9 8

13

1

10

6 14 15

7

21


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.