Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd Bae Abertawe Cynigion Prosiect

Page 1

Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd Bae Abertawe (GGLLPBA) Cynigion Prosiect ar 18 Ebrill 2019 1.

CRONFA MÔR A PHYSGODFEYDD EWROP (EMFF)

1.1

Bodlonodd y prosiectau canlynol y themâu GGLLP ym Mae Abertawe, ond nid y meini prawf felly rydym yn ei gefnogi wrth iddynt gael eu cyflwyno i'r EMFF craidd am gymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru. a. Gwelliannau yn Harbwr Porthcawl - nod y prosiect hwn yw gwella'r cyfleusterau yn Harbwr Porthcawl er mwyn caniatáu i bysgotwyr masnachol ddadlwytho'u dalfa'n ddiogel drwy leihau'r agwedd gorfforol ar ddadlwytho blychau o bysgod i'r cei sy'n gallu golygu bod galw corfforol mawr ar gapteiniaid pob cwch. Y cynnig yw buddsoddi mewn darn o beirianwaith wedi'i bweru a fydd yn helpu i gludo dalfa'r pysgotwyr a gwella'r goleuadau ar y pontynau wrth lwytho/ddadlwytho cychod. Y Diweddaraf am y Cynnydd: Nododd yr ymgeisydd fod y dyluniadau wedi'u llunio ar gyfer storio offer yn dilyn cymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru i lunio rhai dyluniadau cyn cyflwyno'r cais. Pan fydd y dyluniadau wedi'u cwblhau, gallwn ddarparu ffigurau arwyddol ar gyfer yr holl gynnig. Rhaid cael caniatâd adeilad rhestredig a gellir ei gyflwyno ar ôl cwblhau'r dyluniadau'n unig. Mae'r cais yn barod i'w gyflwyno a chaiff ei gyflwyno pan fydd y dyluniadau wedi'u cwblhau. • • • •

Ymgeisydd: Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr (Harbwr Porthcawl) Cyfradd Ariannu EMFF : 100% Statws: Proses cymeradwyo ymlaen llaw wedi'i derbyn. Prosiect yn mynd yn ei flaen i gais llawn. Themâu/amcanion GGLlPBA: Thema 1/Amcan 5 Darparu cefnogaeth ar gyfer rhoi cynnig ar brosesau newydd neu ychwanegu gwerth at gynnyrch i helpu cwmnïau/busnesau bach yn y diwydiant pysgota i dyfu.

C:\Users\liz.shellard\AppData\Local\Microsoft\Windows\INetCache\Content.Outlook\7VUVEBVX\SBF LAG Project Status 18.4.19.docx


Mesur/Erthygl: Blaenoriaeth Undeb 1 - Mesur I.23: Erthygl 43.1 a 3 (Porthladdoedd pysgota, safleoedd glanio, neuaddau arwerthu a chysgodfannau - buddsoddiadau i wella isadeiledd porthladd pysgota a neuaddau arwerthu neu safleoedd glanio a chysgodfannau; buddsoddiadau i wella diogelwch pysgotwyr). Cyfanswm y cyllid y cyflwynir cais amdano: Amcangyfrifwyd cyfanswm o £12,000-£15,000 (offer ar gyfer pysgotwyr a lleoedd storio).

b. Sicrhau bod sylfeini wal yr harbwr yn ddiogel/gwelliannau i'r gât allanol yn Harbwr Porthcawl - gwaith addasu i'r trawstiau breision pren y tu allan i'r gât glo ym Marina Porthcawl i sicrhau y gall llongau glymu a mynd o gwmpas yn ddiogel. Darparu ardal ddiogel i longau glymu'n ddiogel i aros i'r gatiau, gwneud gwaith cynnal a chadw sylfaenol neu glymu os bydd argyfwng sy'n golygu eu bod yn colli'r cyfle olaf i fynd drwy'r gât. Ni chaiff pysgotwyr masnachol/hamdden sydd am bysgota gyda'r nos eu cyfyngu gan amserau gweithredu'r gât, gan ehangu'r cyfnod sydd ar gael i ddal pysgod. Harbwrfeistr CBS Pen-y-bont ar Ogwr i gaffael contractwyr dethol a'u cyfarwyddo wedi iddynt fodloni'r meini prawf angenrheidiol. Statws: Yn aros am y cais Y Diweddaraf am y Cynnydd: Pan fydd y prosiect uchod wedi'i gyflwyno, byddwn yn canolbwyntio ar gyflwyno'r prosiect hwn. • • • • •

Ymgeisydd: Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr (Harbwr Porthcawl) Cyfradd Ariannu EMFF : 100% Statws: Yn aros i'r ymgeisydd gyflwyno'r cais. I'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo ymlaen llaw. Themâu/amcanion GGLlPBA: Thema 1/Amcan 5 Darparu cefnogaeth er mwyn rhoi cynnig ar brosesau newydd neu ychwanegu gwerth at gynnyrch i helpu busnesau/cwmnïau bach yn y diwydiant pysgota i dyfu Mesur/Erthygl: Blaenoriaeth Undeb 1 - Mesur I.23: Erthygl 43.1 a 3 (Porthladdoedd pysgota, safleoedd glanio, neuaddau arwerthu a chysgodfannau - buddsoddiadau i wella isadeiledd porthladd pysgota a neuaddau arwerthu neu safleoedd glanio a chysgodfannau; buddsoddiadau i wella diogelwch pysgotwyr). Cyfanswm y cyllid y cyflwynir cais amdano: £12,000

c. Gosod dwy sgrîn deledu fawr ar gyfer y cyhoedd yn y Mwmbwls prosiect arddangos gwybodaeth yn electronig GGLlPBA Ymddiriedolaeth Datblygu'r Mwmbwls (MDT). Amcan y prosiect yw gosod dwy sgrîn deledu fawr i arddangos gwybodaeth i'r cyhoedd yn y Mwmbwls i ddarparu gwybodaeth luosog sy'n bennaf ar gyfer hyrwyddo bwyd môr lleol a gaiff ei ddal, pa stociau pysgod sy'n lleol, gwybodaeth am y llanw, treftadaeth pysgota arfordirol lleol a gwaith GGLlP yn rhyngwladol. Y Diweddaraf am y Cynnydd: Adroddodd yr ymgeisydd y byddai'n ailgyflwyno'r cais, safle newydd ar gyfer yr 2il sgrîn, a chynnwys partneriaid newydd. •

Ymgeisydd: Ymddiriedolaeth Datblygu'r Mwmbwls

C:\Users\liz.shellard\AppData\Local\Microsoft\Windows\INetCache\Content.Outlook\7VUVEBVX\SBF LAG Project Status 18.4.19.docx


• • •

• •

Cyfradd Ariannu EMFF : 75% Thema 3/Amcan 10 GGLlPBA - Datblygu agweddau treftadaeth a thwristiaeth y morlin mewn ffordd gynaliadwy a chytbwys. Mesur/Erthygl: Blaenoriaeth Undeb 1 - Mesur I.23: Erthygl 43.1 a 3 (Porthladdoedd pysgota, safleoedd glanio, neuaddau arwerthu a chysgodfannau - buddsoddiadau i wella isadeiledd porthladd pysgota a neuaddau arwerthu neu safleoedd glanio a chysgodfannau; buddsoddiadau i wella diogelwch pysgotwyr). Cyfanswm y cyllid y cyflwynir cais amdano: £12,200 Statws: Ar waith

2.

GRŴP GWEITHREDU (GGLLPBA)

LLEOL

PYSGODFEYDD

BAE

ABERTAWE

2.1

Mae'r prosiectau canlynol yn bodloni themâu ac amcanion GGLlP Bae Abertawe ac maent ar gamau datblygu gwahanol, o ddatblygu syniad y prosiect i'w gymeradwyo gan aelodau'r GGLlPBA neu, yn y pen draw, gweithredu a chyflwyno'r prosiect. a. Gŵyl Wystrys y Mwmbwls - Mae'r ŵyl hon yn dathlu treftadaeth pysgodfeydd wystrys a physgodfeydd mewndirol y Mwmbwls, Gŵyr a Bae Abertawe. Cynhelir y digwyddiad ar ddydd Sadwrn (dyddiad i'w gadarnhau) ym mis Hydref 2019 yn y Mwmbwls a bydd yn cynnwys bar wystrys, arddangosiadau coginio, marchnad cynnyrch lleol, gweithdai addysgol a mwy. • • • •

Ymgeisydd: Ymddiriedolaeth Datblygu'r Mwmbwls Thema 5/Amcan 11 GGLlPBA - Cefnogaeth ar gyfer hyrwyddo treftadaeth ddiwylliannol, dyframaethu a buddion morol. Cyfanswm y cyllid y cyflwynir cais amdano: £2000 Statws: Cymeradwywyd gan PIF. Yn aros am gais lawn.

b. Cael gwared ar wastraff o afon Tawe - y bwriad y cadw afon Tawe ac ardal y traethau'n glir heb sbwriel plastig diangen a sbwriel arall. Bydd hyn o fudd mawr i'r amgylchedd lleol a hefyd i breswylwyr Abertawe yn ogystal â'r bywyd gwyllt. Byddai aelodau Gwasanaeth Gwirfoddoli Arforol Abertawe a gwirfoddolwyr ychwanegol yn sicrhau bod y prosiect yn cael ei reoli'n wythnosol, ac y byddai'r gwastraff plastig yn cael ei gasglu a'i waredu'n rheolaidd. Y Diweddaraf am y Cynnydd: Mae prosiect a ddatblygwyd yn Sir Benfro sy'n cyd-fynd â'r model y bwriedir ei ddefnyddio gyda'r prosiect hwn. Felly, mae'r ymgeisydd yn aros tan i'r model datblygedig hwn gael ei gyflwyno, yna bydd yn ail-bennu cwmpas y prosiect a bydd yn ei ail-gyflwyno i GGLlP. • • • •

Statws: Yn cael ei ddatblygu. Ymgeisydd: Gwasanaeth Gwirfoddoli Arforol Thema 3/Amcan 9 GGLlPBA - Gwneud yn fawr o'r amgylchedd naturiol lleol Cyfanswm y cyllid y cyflwynir cais amdano: I'w gadarnhau

C:\Users\liz.shellard\AppData\Local\Microsoft\Windows\INetCache\Content.Outlook\7VUVEBVX\SBF LAG Project Status 18.4.19.docx


Statws: Yn cael ei ddatblygu

c. NEWYDD Creu cynefin naturiol i wystrys ger Knab Rock - Amlygwyd y prosiect hwn yn wreiddiol fel problem yn Knab Rock gan bysgotwyr lleol. Roeddent wedi adrodd am ddifrod i'w cychod wrth iddynt ddadlwytho'u dalfa ar y creigiau a oedd wedi eu hadeiladu ar ddiwedd y slipffordd yn Knab Rock a'r ardal gyfagos. Yn dilyn ymchwiliadau i'r broblem, mae GGLlPBA wedi dod â nifer o arbenigwyr at ei gilydd i drafod y ffordd ymlaen a chytuno arni, a thrafodwyd creu cynefin i'r wystrys ar yr adeg hon. Pan fyddant wedi cytuno ar y ffordd ymlaen, cyflwynir cais i GGLlPBA. • • • • •

Ymgeisydd: Cyngor Abertawe Cyfradd Ariannu EMFF : 100% Thema 3/Amcan 9 GGLlPBA: Gwneud yn fawr o'r amgylchedd naturiol lleol Cyfanswm y cyllid y cyflwynir cais amdano: £ i'w gadarnhau Statws: Ar Waith

d. NEWYDD Astudiaeth Beilot Wystrys ym Moryd Llwchwr - astudiaeth dichonoldeb ar yr wystrys brodorol. Astudiaeth beilot i weld a fyddant yn ffynnu ym Moryd Llwchwr gyda golwg ar gael fferm pysgod cregyn ar y safle os yw'r astudiaeth beilot yn llwyddiannus. Y Newyddion Diweddaraf am y Prosiect: Mae'r ymgeisydd yn gweithio gydag un o'n haelodau GGLlP i adolygu cais a syniad y prosiect cyfredol a'u diweddaru cyn ailgyflwyno'r prosiect i'w gymeradwyo. • • • •

Ymgeisydd: Cwmni preifat Thema 3/Amcan 9 GGLlPBA: Gwneud yn fawr o'r amgylchedd naturiol lleol Cyfanswm y cyllid y cyflwynir cais amdano: £2000 Statws: Yn aros am ddiweddariad ar y cais syniad am brosiect.

e. NEWYDD Arddangosiadau coginio bwyd môr ym Marchnad Abertawe - Cynnig y prosiect yw cynnal nifer o arddangosiadau coginio bwyd môr ym Marchnad Abertawe yn ystod mis Medi 2019. Bydd y prosiect yn dod o hyd i gogyddion lleol i gynnal arddangosiadau coginio a rhoi'r cyfle i'r gynulleidfa arogli, cyffwrdd a blasu'r bwyd a gwylio'r bwyd yn cael ei baratoi. Bydd y prydau a chânt eu paratoi'n iachus ac efallai y byddant yn cynnwys cynnyrch lleol eraill, e.e. cocos a bara lawr. Bydd pob arddangosiad yn para oddeutu 45 munud a gwahoddir y gynulleidfa i flasu'r pryd a goginiwyd ar ddiwedd yr arddangosiad. Bydd y digwyddiadau'n cael eu ffilmio a thynnir ffotograffau a chânt eu cyhoeddi ar y cyfyngau cymdeithasol a sianeli cyfryngau lleol. Bydd cyfle i arogli, cyffwrdd a blasu'r bwyd yn ogystal â'i wylio'n cael ei baratoi. • • •

Ymgeisydd: Cyngor Abertawe EMFF: Nodiadau Arweiniol ar Gymhwysedd EMFF - Adran 35. Thema 3/Amcan 9 GGLlPBA: Gwneud yn fawr o'r amgylchedd naturiol lleol

C:\Users\liz.shellard\AppData\Local\Microsoft\Windows\INetCache\Content.Outlook\7VUVEBVX\SBF LAG Project Status 18.4.19.docx


• •

Cyfanswm y cyllid y cyflwynir cais amdano: £ i'w gadarnhau Statws: Yn cael ei ddatblygu

f. NEWYDD Fish is the Dish 2020 - Yn 2014, cyflwynodd GGLlP Bae Abertawe brosiect llwyddiannus 'Fish is the Dish'. Darparodd y prosiect gyfle i blant ysgol gynradd o fewn ardal GGLlPBA gymryd rhan mewn gwersi rhyngweithiol am fwyd môr i gynyddu ymwybyddiaeth o bysgod fel bwyd ac i'w hannog i fwyta mwy o bysgod, deall mathau gwahanol o bysgod a dysgu am brydau pysgod a'u manteision o ran iechyd. Mae'r prosiect hwn yn cynnig adeiladu ar lwyddiant y prosiect blaenorol a chyflwyno 'Fish is the Dish 2020' gyda dau ddiweddariad bach - bydd y prosiect yn canolbwyntio ar blant rhwng 9 ac 11 oed. Canolbwyntiodd y prosiect diwethaf ar blant 5 oed. Byddwn hefyd yn cynnwys ardal GGLlP ychwanegol Porth Tywyn er nad oedd yn rhan o GGLlP Bae Abertawe yn 2014. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar gynaladwyedd, ailadrodd y neges nad yw'r rhan fwyaf o weithgareddau pysgota'n niweidiol i'r amgylchedd a bod ein pysgotwyr yn gyfrifol, yn gwerthfawrogi dyfodol y diwydiant, a'u bod yn deall bod angen gadael digon am y dyfodol ac nid nhw yw ein gelyn, yn wahanol i'r ffordd maent yn cael eu portreadu. Bwriad y gweithgaredd a gynllunnir yw cynnig cyfle i ysgolion cynradd yn ardal GGLlPBA, h.y. Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr a Phorth Tywyn, dderbyn ymwelydd i un dosbarth ysgol gynradd (mwyafrif o 30 o blant) a rhoi gwers ryngweithiol ar fwyd môr lleol. I ddechrau, cynigir y cyfle i ysgolion sydd wedi derbyn y pecyn ond nad ydynt wedi cyflwyno'r gwersi. Yn dibynnu ar y ddiddordeb, gellir cynnig y cyfle hwn i bob ysgol gynradd yn yr ardal. Disgwylir y bydd tua hanner y 207 o ysgolion cynradd yn ardal GGLlP Bae Abertawe'n cymryd rhan y prosiect hwn. Bydd y pecyn addysg, a gaiff ei diweddaru ar gyfer 'Fish is the Dish 2020' yn adnodd allweddol i gynyddu ymwybyddiaeth o bysgod fel bwyd ymhlith plant ysgol gynradd, a bydd yn eu hannog i fwyta mwy o bysgod. Bydd yn gyfres o wersi ac adnoddau trawsgwricwlaidd a fydd yn sicrhau dealltwriaeth plant o bysgod fel bwyd, mathau gwahanol o bysgod, prydau sy'n cynnwys pysgod a'r manteision iechyd o ganlyniad i fwyta pysgod. Bydd y wers ryngweithiol ar fwyd môr lleol yn gyfle i blant cynradd ddysgu mwy am y bwyd môr a gaiff eu glanio, eu cynaeafu neu'u gwerthu'n gyffredinol yn ardal Bae Abertawe, ac i'w blasu. Lle bo modd, cafwyd y bwyd môr lleol yn uniongyrchol gan fusnesau pysgodfeydd lleol (sef pysgotwyr lleol, cyfanwerthwyr a gwerthwyr pysgod). Bydd y prosiect hefyd yn trefnu ymweliadau, lle gall plant gwrdd â physgotwyr lleol ym Marina Abertawe a rhoi cyfle iddynt ofyn cwestiynau i'r pysgotwyr lleol yn ogystal â threfnu ymweliad i fusnes bwyd môr lleol.

C:\Users\liz.shellard\AppData\Local\Microsoft\Windows\INetCache\Content.Outlook\7VUVEBVX\SBF LAG Project Status 18.4.19.docx


Bydd cyflwyno'r prosiect yn cynnwys ymweliadau â nifer o ysgolion cynradd yn ardal GGLlP Bae Abertawe gan ymgynghorydd annibynnol gyda'r sgiliau perthnasol gyda chefnogaeth cydlynydd ac aelodau GGLlPBA. Cyflwynir datganiadau i'r wasg am y prosiect, y pysgodfeydd lleol sy'n cymryd rhan a'r rhai sy'n ymwneud â'r prosiect a byddant yn cael eu dosbarthu i'r wasg leol a chenedlaethol. • • • •

Ymgeisydd: Cyngor Abertawe Thema 3/Amcan 9 GGLlPBA: Gwneud yn fawr o'r amgylchedd naturiol lleol Cyfanswm y cyllid y cyflwynir cais amdano: £15,000 Statws: Yn cael ei ddatblygu

g. NEWYDD Gŵyl Bwyd, Diod a Bwyd Môr CROESO 2020 - Mae Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd Bae Abertawe'n awyddus i archwilio ffyrdd o hyrwyddo bwyd môr lleol yn ardaloedd y 4 awdurdod lleol a warchodir gan GGLlP, h.y. Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot a Sir Gaerfyrddin. Gobeithir y bydd yr ŵyl yn Abertawe'n gosod y sylfeini ar gyfer digwyddiadau tebyg yn yr ardaloedd GGLlP eraill. Mae aelodau GGLlPBA wedi croesawu'r cyfle i weithio mewn partneriaeth â Thîm Digwyddiadau'r Cyngor i gynnwys elfen bwyd môr yng Ngŵyl Bwyd CROESO. Wrth weithio mewn partneriaeth â'r Tîm Digwyddiadau, byddwn yn gallu rhannu'r costau trwy gynnwys elfen bwyd môr yn yr ŵyl a rhannu manteision gŵyl bwyd sydd eisoes yn sefydledig. Y bwriad fydd cynnal adran bwyd môr yng Ngŵyl Bwyd a Diod CROESO, a bydd aelodau GGLlPBA sy'n gweithio yn yr adran bwyd môr yn cyfathrebu â'r bobl leol ac yn rhoi gwybodaeth am sut i gyflwyno cais am gyllid, y strategaethau a'r themâu allweddol. Y gobaith fydd cynyddu ymwybyddiaeth o'r mathau o bysgod sydd ar gael, rhywogaethau gwahanol, sut i baratoi a choginio'r pysgod a'r manteision iechyd gyda'r gobaith o ddarparu gwell ddealltwriaeth o fwyd môr ac annog pobl leol i fwyta mwy o bysgod a chynnyrch bwyd môr. Bydd yr ŵyl bwyd môr hefyd yn canolbwyntio ar gynaladwyedd, ailadrodd y neges nad yw'r rhan fwyaf o weithgareddau pysgota'n niweidiol i'r amgylchedd a bod ein pysgotwyr yn gyfrifol, yn gwerthfawrogi dyfodol y diwydiant, a'u bod yn deall bod angen gadael digon am y dyfodol ac nid nhw yw ein gelyn, yn wahanol i'r ffordd maent yn cael eu portreadu. Cynhelir y digwyddiad ddydd Sadwrn, 29 Chwefror 2020 ym Marchnad Dan Do Abertawe a bydd yn cael ei gysylltu â'r thema Gymreig wrth ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Hyrwyddir y digwyddiad hwn yn eang trwy ddefnyddio rhestr bostio'r Tîm Digwyddiadau sydd eisoes yn bodoli, adnoddau'r cyngor, h.y. gwefan, cyfryngau cymdeithasol, busnesau lleol, etc.

C:\Users\liz.shellard\AppData\Local\Microsoft\Windows\INetCache\Content.Outlook\7VUVEBVX\SBF LAG Project Status 18.4.19.docx


• • • • 3.

Ymgeisydd: Cyngor Abertawe Thema 3/Amcan 9 GGLlPBA: Gwneud yn fawr o'r amgylchedd naturiol lleol Cyfanswm y cyllid y cyflwynir cais amdano: £2,000 Statws: Syniad prosiect wedi'i gymeradwyo. Cais lawn wedi ei chyflawni a'i chyflwyno.

PROSIECTAU A WEITHREDIR

3.1. Asesiad o Stoc/Boblogaeth Wystrys - cynnal rhywfaint o ymchwil ar y safle i asesu pa mor llwyddiannus yw'r wystrys wrth ddarparu gwasanaethau ecosystem ehangach megis glanhau dŵr ac enillion bioamrywiaeth. Mae cwestiynau o hyd ynghylch y ffordd orau o wneud y gwaith adfer er mwyn cael yr effaith fwyaf ar yr amgylchedd ac o ran bod yn fasnachol ddichonadwy e.e. cynyddu goroesiad. Statws: Yn aros i'r ymgeisydd gyflwyno'r cais. • • • •

Ymgeisydd: Cyngor Abertawe Thema 3/Amcan 9 GGLlPBA: Gwneud yn fawr o'r amgylchedd naturiol lleol GGLLPBA: 100% Cyfanswm y cyllid y cyflwynir cais amdano: £4,999

C:\Users\liz.shellard\AppData\Local\Microsoft\Windows\INetCache\Content.Outlook\7VUVEBVX\SBF LAG Project Status 18.4.19.docx


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.