Oriel Gelf Glynn Vivian Art Gallery OFFSITE / ODDI AR Y SAFLE January - April 2015 Ionawr - Ebrill 2015
OFFSITE / ODDI AR Y SAFLE
James Richards, The Misty Suite, 2009 Courtesy of the artist and Rodeo, Istanbul/London Trwy garedigrwydd yr artist ac Oriel Rodeo, Istanbwl/Llundain
Welcome / Croeso This season, Glynn Vivian Offsite is pleased to present a new series of exciting events, workshops and artist talks for January to April 2015.
Y tymor hwn mae'r Glynn Vivian yn falch o gyflwyno cyfres newydd o weithdai, sgyrsiau artist a digwyddiadau cyffrous o fis Ionawr tan fis Ebrill 2015.
In February we are delighted to be screening three nights of pop-up cinema at the YMCA. Time, a Hesitant Smile is curated by Jacqui Davies and Joseph Constable and is inspired by a programme of 25 artists' films produced for Random Acts on Channel 4.
Ym mis Chwefror, byddwn yn dangos tair noson o sinema teithiol yn y YMCA. Caiff Time, a Hesitant Smile ei churadu gan Jacqui Davies a Joseph Constable ac fe'i hysbrydolir gan raglen o ffilmiau gan 25 o artistiaid a gynhyrchwyd ar gyfer Random Acts ar Sianel 4.
Our community programmes continue at the YMCA and at venues in the city centre, offering free creative workshops for adults, children and families to take part.
Mae ein rhaglenni cymunedol yn parhau yn y YMCA ac mewn lleoliadau yng nghanol y ddinas, gan gynnig gweithdai creadigol am ddim i oedolion, plant a theuluoedd gymryd rhan ynddynt.
In addition we welcome two new Artists in Residence, Joan Jones and Jessica Hoad, to our studio space at the YMCA, offering our community an opportunity to engage with the artists and learn about their practice. The construction of the Gallery building is proceeding well, and soon our team will begin to prepare for moving back into the newly refurbished Gallery in autumn 2015. We will then reinstall the Gallery which will take some months and we look forward to preparing our exhibition displays and programmes for the relaunch in due course. We hope you will enjoy our activities this spring and thank you for your continuing support.
www.glynnviviangallery.org www.glynnvivian.com twitter.com/glynnvivian facebook.com/glynnvivian
Yn ogystal, rydym yn croesawu dau artist preswyl newydd sef Joan Jones a Jessica Hoad i'n lle stiwdio yn y YMCA. Bydd hyn yn gyfle i'r gymuned ymwneud â'r artistiaid a dysgu am eu harferion. Mae'r gwaith ar adeilad yr Oriel yn mynd rhagddo'n dda a chyn bo hir, bydd ein tîm yn dechrau paratoi ar gyfer symud yn ôl i'r Oriel ar ei newydd wedd yn yr hydref 2015. Byddwn wedyn yn ailosod yr Oriel. Bydd y gwaith yma'n cymryd rhai misoedd ac edrychwn ymlaen at baratoi ein harddangosfeydd a'n rhaglenni ar gyfer yr ail-lansio maes o law. Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau ein gweithgareddau y gwanwyn yma a diolch am eich cefnogaeth barhaus.
Jenni Spencer-Davies Curator /Curadur Oriel Gelf Glynn Vivian Art Gallery
Gwen John, Woman with a Coral Necklace (late 1910s - early 1920s) City & County of Swansea: Glynn Vivian Art Gallery Collection Dinas a Sir Abertawe: Casgliad Oriel Gelf Glynn Vivian
COLLECTIONS / CASGLIAD PARHAOL
Focus on the Collection Gwen John at National Museum, Cardiff In the new year, amongst other works from the Glynn Vivian Art Gallery collection, two wonderful paintings by Gwen John will be presented in the new displays at Amgueddfa Cymru-National Museum Wales: The Nun, c1910 and the painting illustrated here, Woman with a Coral Necklace, c1910-1920. Gwen John (1876-1939) was born in Haverfordwest, and brought up in Tenby with her brother, Augustus John (1878-1961). After studying at the Slade School of Art in London, Gwen went on to study at Whistler’s Academie Carmen in Paris, where she later returned to live, working in relative seclusion for most of her life. The Woman with a Coral Necklace was gifted to the Gallery by the Arts Council of Wales in 2002, and is one of a series of portraits of this young woman, painted with distilled simplicity at her studio. Along with The Nun, these are two remarkable paintings by one of Wales’ most highly acclaimed artists of the 20th Century.
Ffocws ar y Casgliad Gwen John yn Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd Yn y flwyddyn newydd, ymysg gweithiau eraill o gasgliad Oriel Gelf Glynn Vivian, ceir dau baentiad hyfryd gan Gwen John a fydd yn cael eu cyflwyno yn yr arddangosiadau newydd yn Amgueddfa Cymru: The Nun, o1910 a’r paentiad a ddarlunnir yma, Woman with a Coral Necklace, o1910-1920. Ganwyd Gwen John (1876-1939) yn Hwlffordd a’i magu yn Ninbych y Pysgod gyda’i brawd, Augustus John (1878-1961). Ar ôl astudio yn Ysgol Gelf Slade yn Llundain, aeth Gwen i astudio yn Academie Carmen Whistler ym Mharis, lle dychwelodd i fyw yn ddiweddarach, gan weithio’n feudwyaidd am y rhan fwyaf o’i bywyd. Rhoddwyd The Woman with a Coral Necklace i’r Oriel gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn 2002, ac mae’n un o gyfres o bortreadau o’r fenyw ifanc hon, a baentiwyd gyda symlrwydd distyll yn ei stiwdio. Ynghyd â The Nun, mae’r ddau baentiad anhygoel hyn gan un o artistiaid mwyaf nodedig Cymru o’r 20fed ganrif.
Time, a Hesitant Smile Film, broadcast and time travel Patrick Bokanowski, Judith Goddard, Johan Grimonprez, Louis Henderson, John Latham, Mark Leckey, Laida Lertxundi, Angela Melitopoulos, Haroon Mirza, James Richards, Ben Rivers, Anri Sala, Semiconductor, Apichatpong Weerasethakul Curated by Jacqui Davies and Joseph Constable Curadwyd gan Jacqui Davies a Joseph Constable
Semiconductor, Some Of Us Will Have Become, 2012 Copyright the artists. Courtesy Jacqui Davies Ltd Hawlfaint yr artistiaid. Trwy garedigrwydd Jacqui Davies Cyf
EXHIBITIONS / ARDDANGOSFEYDD
Thursday 5 / 12 / 19 February, 6.30pm YMCA Theatre, Swansea Glynn Vivian Offsite presents Time, a Hesitant Smile as a pop-up cinema over three nights, in the YMCA Theatre. A unique chance to see a selection of films which examines the gap between science fiction and reality, Time, a Hesitant Smile considers filmmaking and broadcasting, exploring the human fascination with time travel. Taking its title from Fernando Pessoa's 'The Book of Disquiet' - this bold selection of experimental, cult and ground-breaking artists' film looks at how multiple voices, narratives and histories are combined and presented as moments of fact and fiction. For full programme details, visit our website www.glynnviviangallery.org Join curators Jacqui Davies and Joseph Constable in conversation Thursday 5 February, 5.30pm, before the first screening.
Dydd Iau 5 / 12 / 19 Chwefror, 6.30pm Theatr y YMCA, Abertawe Mae Glynn Vivian Oddi ar y Safle'n cyflwyno Time, a Hesitant Smile, sinema dros dro, am dair noson yn Theatr y YMCA. Cyfle unigryw i weld detholiad o ffilmiau sy'n archwilio'r bwlch rhwng ffuglen wyddonol a realiti, mae Time, a Hesitant Smile yn ystyried proses gwneud ffilmiau a darlledu ac yn archwilio'r diddordeb mawr sydd gan bobl mewn teithio drwy amser. Daw'r teitl o 'The Book of Disquiet' gan Fernando Pessoa. Mae'r detholiad beiddgar hwn o ffilmiau gan artistiaid arbrofol, cwlt ac arloesol yn archwilio sut mae lleisiau, naratifau a hanesion lluosog yn cael eu cyfuno a'u cyflwyno fel eiliadau o ffaith a ffuglen. Am fanylion llawn y rhaglen, ewch i www.glynnviviangallery.org Ymunwch 창 Jacqui Davies a Joseph Constable yn sgwrsio nos Iau 5 Chwefror, 5.30pm cyn y dangosiad cyntaf.
Activities / Gweithgareddau Artist Talks
Sgwrs Artist
All events are free. Everyone welcome, no booking required. Events take place at the YMCA, Swansea.
Mae pob digwyddiad am ddim. Mae croeso i bawb. Dim angen cadw lle. Cynhelir yr holl weithdai yn y YMCA, Abertawe.
Artist in Residence Talk:
Sgwrs Artist Preswyl:
Joan Jones in conversation with Tom Goddard
Joan Jones yn sgwrsio â Tom Goddard
Thursday 29 January, 5.30pm Joan Jones’ work is about turning embodied queer experience - often painful - into narratives or ‘folk stories’ through a variety of mediums, including song, live performance and zine distribution.
Nos Iau 29 Ionawr, 5.30pm Mae gwaith Joan Jones yn ymwneud â throi profiadau pobl hoyw - rhai poenus yn aml - yn naratifau neu 'straeon gwerin' drwy amrywiaeth o gyfryngau, gan gynnwys cân, perfformiad byw a dosbarthu 'zines'.
Time, a Hesitant Smile
Time, a Hesitant Smile
Thursday 5 February, 5.30pm Join curators of Time, a Hesitant Smile, Jacqui Davies and Joseph Constable in conversation before the first screening of our three night pop-up cinema at the YMCA, Swansea.
Nos Iau 5 Chwefror, 5.30pm Ymunwch â churaduron Time, a Hesitant Smile, Jacqui Davies a Joseph Constable mewn sgwrs cyn dangosiad cyntaf ein sinema dros dro tair noson yn y YMCA, Abertawe.
Andrew Morris
Andrew Morris
Thursday 26 February, 5.30pm Andrew graduated from Swansea Metropolitan / University of Wales Trinity Saint David with a BA (Hons) in Photography in the Arts. Andrew won the first ‘Wales International Young Artists Award’ presented to him by the British Council Wales for his What’s Left Behind? series.
Nos Iau 26 Chwefror, 5.30pm Graddiodd Andrew o Brifysgol Fetropolitan / Abertawe y Drindod Dewi Sant gyda BA (Anrh) mewn Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau. Mae Andrew wedi ennill 'Gwobr gyntaf Artist Ifanc Rhyngwladol Cymru' a gyflwynwyd iddo gan Gyngor Prydeinig Cymru am ei gyfres What's Left Behind?
LEARNING / DYSGU
Artist in Residence Talk: Jessica Hoad
Sgwrs Artist Preswyl: Jessica Hoad
Thursday 30 April, 5.30pm Jessica Hoad will talk about her varied sculptural practice focusing on the research project developed throughout her residency.
Dydd Iau 30 Ebrill, 5.30pm Bydd Jessica Hoad yn siarad am ei harfer cerflunio amrywiol ar y prosiect ymchwil a ddatblygwyd drwy gydol ei chyfnod preswyl.
Missed a talk? Catch up on past Artist Talks online at www.soundcloud.com/ glynnvivianartgallery
Wedi colli sgwrs? Gallwch glywed Sgyrsiau Artist blaenorol ar-lein yn www.soundcloud.com/glynnvivianartgallery
Andrew Morris, What's Left Behind? 2014
Adults
Oedolion
All activities are free. Booking essential, call 01792 516900 or book online at www.glynnviviangallery.org
Mae pob gweithgaredd am ddim. Rhaid cadw lle, ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein yn www.glynnviviangallery.org
Please bring a packed lunch for all day workshops.
Dewch â chinio pecyn am weithdai diwrnod cyfan.
11am - 4pm, age 16+
11am - 4pm, 16+ oed
No previous experience necessary, complete beginners welcome.
Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol, croeso i ddechreuwyr pur.
Botanic Inspired Enamels
Enamelau a Ysbrydolwyd gan Fotaneg
Richard Glynn Vivian was an avid traveller and collected exotic botanical seeds on his travels which were sent back to Swansea and planted in and around his Swansea home, Singleton Abbey. In these two workshops you will create two enamelled pieces - a pendant, brooch or a small piece of your choice - inspired by plants from Singleton Botanical Gardens.
Roedd Richard Glynn Vivian yn deithiwr brwd ac yn casglu hadau botanegol egsotig ar ei deithiau a anfonwyd adref i Abertawe a'u plannu o amgylch ei gartref yn Abertawe, Abaty Singleton. Yn y ddau weithdy hyn, byddwch yn creu dau ddarn enamel - tlws crog, tlws neu ddarn bach o'ch dewis - wedi'u hysbrydoli gan blanhigion o Erddi Botaneg Singleton.
Saturday 31 January Ty’r Blodau, Singleton Botanical Gardens With artist Arwen Roberts
Dydd Sadwrn 31 Ionawr Tyˆ'r Blodau, Gerddi Botaneg Singleton Gyda'r artist Arwen Roberts
Saturday 28 February YMCA, Swansea With artist Maggie Jones
Dydd Sadwrn 28 Chwefror YMCA, Abertawe Gyda'r artist Maggie Jones
Participants must be able to attend both workshops. Please wear warm, waterproof clothing for the visit to Ty’r Blodau.
Rhaid i gyfranogwyr gymryd rhan yn y ddau weithdy. Gwisgwch ddillad cynnes a diddos ar gyfer yr ymweliad â Thyˆ'r Blodau.
Swansea’s Industrial Landscape: A Screen Printer’s View
Tirlun Diwydiannol Abertawe: Golwg Argraffydd Sgrîn
Saturday 28 March Swansea Museum and River Tawe With artist Arwen Roberts The Vivian Family owned the largest copper works in Swansea, then the main copper smelting centre in Britain, based in the Lower Swansea Valley. Participants will take inspiration from historical photographs and artefacts at Swansea Museum and create drawings from observations on board the River Tawe cruise, Copper Jac.
Dydd Sadwrn 28 Mawrth Amgueddfa Abertawe ac Afon Tawe Gyda'r artist Arwen Roberts Roedd y Teulu Vivian yn berchen ar y gwaith copr mwyaf yn Abertawe, yna'r brif ganolfan mwyndoddi copr ym Mhrydain, yng Nghwm Tawe Isaf. Bydd cyfranogwyr yn cael ysbrydoliaeth o ffotograffau ac arteffactau hanesyddol yn Amgueddfa Abertawe ac yn creu lluniadau drwy arsylwi ar bethau ar long mordwyo afon Tawe, Copper Jac.
Saturday 25 April YMCA, Swansea With artist Nina Morgan Using your drawings, learn how to prepare and cut a stencil, which will be used to create a print. Produce up to 3 screen-prints from your stencils, experimenting with collage and combined screen printing techniques.
Dydd Sadwrn 25 Ebrill YMCA, Abertawe Gyda'r artist Nina Morgan Gan ddefnyddio eich lluniadau, dysgwch sut i baratoi a thorri stensil, a fydd yn cael ei ddefnyddio i greu argraffiad. Creu hyd at 3 argraffiad sgrîn o'ch stensilau, gan arbrofi gyda gludwaith a chyfuno dulliau argraffu sgrîn.
Participants must be able to attend both workshops. Please bring warm, waterproof clothing for the River Tawe cruise.
Rhaid i gyfranogwyr gymryd rhan yn y ddau weithdy. Dewch â dillad cynnes a diddos ar gyfer mordeithiau afon Tawe.
Families
Teuluoedd
All activities are free. Booking essential, call 01792 516900 or book online at www.glynnviviangallery.org
Mae pob gweithgaredd am ddim. Rhaid cadw lle, ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein yn www.glynnviviangallery.org
Workshops take place at the YMCA, Swansea.
Cynhelir y gweithdai yn y YMCA, Abertawe.
All children under 10 must be accompanied by an adult.
Mae'n rhaid i bob plentyn dan 10 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Saturday Family Workshops
Gweithdai Dydd Sadwrn i'r Teulu
With artist Dan McCabe and programmer Tim Luther-Lewis 10am - 1pm, Age 4 - 14 Join our Saturday morning art club and create The ‘The Adventures of Richard Glynn Vivian’ computer game based on Richard Glynn Vivian’s travels and collecting. In this project, participants will be designing and creating all the artwork to make a retro style computer game, developing stories, characters, objects and scenarios. Using a variety of materials, techniques and programmes, including Raspberry Pi, this season the team will work on building computer coding for the game, testing and modifying the game in progress and creating additional resources when needed. Saturday 17 & 24 January, 14 & 21 February, 21 & 28 March and 11 & 18 April Workshops take place twice a month and participants are asked to try and attend all sessions.
Gyda'r artist Dan McCabe a’r rhaglennydd Tim Luther-Lewis 10am - 1pm, 4 - 14 oed Ymunwch â'n clwb celf ar fore Sadwrn a chreu 'The Adventures of Richard Glynn Vivian', gêm gyfrifiadurol yn seiliedig ar deithiau a chasgliadau Richard Glynn Vivian. Yn y prosiect hwn, bydd cyfranogwyr yn dylunio ac yn creu'r holl waith celf a gaiff ei ddefnyddio i wneud gêm gyfrifiadur arddull retro,datblygu straeon, cymeriadau, gwrthrychau a senarios. Gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau, tehcnegau a rhaglenni, gan gynnwys Raspberry Pi, y tymor hwn bydd y tîm yn gweithio ar adeiladu codau cyfrifiadur ar gyfer y gêm, profi ac addasu’r gêm sy’n cael ei datblygu a chreu adnoddau ychwanegol pan fydd eu hangen. Dydd Sadwrn 17 a 24 Ionawr, 14 a 21 Chwefror, 21 a 28 Mawrth ac 11 a 18 Ebrill Cynhelir y gweithdai ddwywaith y mis a gofynnir i gyfranogwyr geisio dod i bob un ohonynt.
‘The Adventures of Richard Glynn Vivian’
‘Anturiaethau Richard Glynn Vivian’
The Computer Game
Lansio’r Gêm Gyfrifiadur
Saturday 25 April, 11am - 3pm Castle Square, Swansea
Dydd Sadwrn 25 Ebrill, 11am - 3pm Sgwâr y Castell, Abertawe
Join the Saturday Family Workshop group as they present their new computer game based on the life and travels of the Gallery’s founder, Richard Glynn Vivian. Pick up a comic and watch the animation on the big screen. Free, everyone welcome.
Ymunwch â'r Gweithdy Dydd Sadwrn i'r Teulu wrth iddynt gyflwyno'u gêm gyfrifiadurol sy'n seiliedig ar fywyd a theithiau sefydlydd yr Oriel, Richard Glynn Vivian. Codwch gomig a gwyliwch yr animeiddiad ar y sgrîn fawr. Am ddim, croeso i bawb.
Holiday Activity
Gweithgaredd y Gwyliau
Young Art Force
Byddin Gelf yr Ifanc
Monday 16 - Friday 20 February 10am - 3pm YMCA, Swansea Young Art Force is for young people aged 14 - 24 who are currently not in education, employment or training.
Dydd Llun 16 - dydd Gwener 20 Chwefror, 10am - 3pm YMCA, Abertawe Mae Byddin Gelf yr Ifanc ar gyfer pobl ifanc 14 - 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ar hyn o bryd.
We work through Arts Award and Agored Cymru to allow young people to express themselves through art. Each project is led by the young people’s interests giving them the opportunity to have a voice and discover new ideas while building relationships and social skills within the group. Call Tom Goddard on 01792 516900 or email Tom.Goddard@swansea.gov.uk to find out more. All materials and equipment provided. New beginners welcome.
Rydym yn gweithio drwy Wobr y Celfyddydau ac Agored Cymru er mwyn i bobl ifanc fynegi eu hunain drwy gelf. Arweinir pob prosiect gan ddiddordebau'r bobl ifanc gan roi cyfle iddyn nhw gael llais a darganfod syniadau newydd wrth feithrin perthnasoedd a sgiliau cymdeithasol o fewn y grw ˆ p. Ffoniwch Tom Goddard ar 01792 516900 neu e-bostiwch Tom.Goddard@swansea.gov.uk i gael mwy o wybodaeth. Darperir yr holl ddeunyddiau a'r cyfarpar. Croeso i ddechreuwyr newydd.
Black Kettle Collective Grw ˆp y Tegell Du Open to anyone aged 14 - 24 Tuesdays 5 - 7pm Working with the Gallery's Learning team, Black Kettle Collective engages with and responds to the Gallery's programme of exhibitions, collections and activities, producing their own events for young audiences in Swansea. The group meets twice a month at the YMCA, Swansea, to discuss ideas, plan projects and talk about the future. 13 & 27 January 10 & 24 February 10 & 24 March 7 & 21 April To join, call Dan McCabe on 01792 516900 or email Daniel.McCabe@swansea.gov.uk Follow us on Twitter @Klackbettle
Agored i unrhyw un rhwng 14 a 24 oed Nos Fawrth 5 - 7pm Wrth weithio gyda thîm dysgu'r oriel, mae Grw ˆ p y Tegell Du yn cynnwys ac yn ymateb i raglen o arddangosfeydd, casgliadau a gweithgareddau'r oriel, gan drefnu eu gweithgareddau eu hunain i gynulleidfaoedd ifanc yn Abertawe. Mae'r grw ˆ p yn cwrdd ddwywaith y mis yn y YMCA, Abertawe, i drafod syniadau, cynllunio prosiectau a siarad am y dyfodol. 13 a 27 Ionawr 10 a 24 Chwefror 10 a 24 Mawrth 7 a 21 Ebrill I ymuno, ffoniwch Dan McCabe ar 01792 516900 neu e-bostiwch Daniel.McCabe@swansea.gov.uk Dilynwch ni ar Twitter @Klackbettle
Artist in Residence /Artist Preswyl All activities are free. Events take place at the 3rd Floor Studio, YMCA, Swansea. Everyone welcome, no booking required. The Glynn Vivian Art Gallery ‘Artist in Residence’ programme is an opportunity for the community to interact, exchange and engage with an artist and to offer artists an opportunity for reflection, research and collaboration.
Mae pob gweithgaredd am ddim. Cynhelir y digwyddiadau yn Stiwdio'r 3ydd Llawr, YMCA, Abertawe. Mynediad am ddim, croeso i bawb, dim angen cadw lle. Mae rhaglen Artist Preswyl y Glynn Vivian yn gyfle i'r gymuned ryngweithio, cyfnewid a gweithio gydag artist, ac i artist fyfyrio, ymchwilio a chydweithio.
Joan Jones
Joan Jones
January - February
Ionawr - Chwefror
Joan has been working as an independent DIY cultural practitioner for over a decade. With roots based in the London queer punk scene (performing solo as Truly Kaput and in bands such as the Battys and Gender Fascist) Joan now works in a variety of mediums, including song, live performance and zine distribution. Joan's work is about turning embodied queer experience - often painful - into narratives or what they like to think of as ‘folk stories.’
Mae Joan wedi bod yn gweithio fel ymarferydd DIY diwylliannol annibynnol ers dros ddegawd. Gyda gwreiddiau yn sîn pync rhyfedd Llundain (gan berfformio'n unigol fel Truly Kaput ac mewn bandiau megis y Battys a'r Gender Facist) mae Joan bellach yn gweithio mewn amrywiaeth o gyfryngau, gan gynnwys caneuon, perfformiadau byw a dosbarthu cylchgronau. Mae gwaith Joan yn ymwneud â throi profiadau rhyfedd corfforol - rhai poenus yn aml yn hanesion, neu'n ‘straeon gwerin’ fel yr hoffent eu disgrifio.
As a genderqueer person and artist, Joan is currently exploring gender neutral pronouns such as 'their' and 'them' in reference to themselves.
Fel person ac artist genderqueer, mae Joan ar hyn o bryd yn archwilio rhagenwau niwtral o ran rhyw megis 'eu' a 'nhw' gan gyfeirio at eu hunain.
AiR Open Studio
Stiwdio Agored AiR
Friday 23 & 30 January and 20 & 27 February, 1 - 2pm Meet the artist in their studio.
Dydd Gwener 23 a 30 Ionawr a 20 a 27 Chwefror, 1 - 2pm Dewch i gwrdd â'r artist yn ei stiwdio.
AiR Talk
Sgwrs AiR
Thursday 29 January, 5.30pm Joan Jones in conversation with Tom Goddard.
Nos Iau 29 Ionawr am 5.30pm Joan Jones yn sgwrsio â Tom Goddard.
Valentine’s Day Performance
Perfformiad Dydd San Ffolant
Friday 13 February, 4.30 - 6.45pm YMCA Theatre Live performance spectacular/jilted lovers dance party revenge.
Nos Wener 13 Chwefror, 4.30 - 6.45pm, Theatr YMCA Perfformiad byw/parti dawns dial i gariadon siomedig.
After party at Mozarts, 7pm Music by XX Bottom, zine stall and much, much more!
Ôl-barti ym Mozarts, 7pm Cerddoriaeth gan XX Bottom, stondinau cylchgronau a llawer, llawer mwy!
Jessica Hoad
Jessica Hoad
March - April Through her practice Jessica Hoad explores the bringing together of objects, images and more recently sound, to form the basis of her installations and interventions.
Mawrth - Ebrill Drwy ei harfer, mae Jessica Hoard yn archwilio dod 창 gwrthrychau, delweddau ac, yn fwy diweddar, seiniau ynghyd, i greu sylfaen ar gyfer ei gosodiadau a'i hymyriadau.
AiR Open Studio
Stiwdio Agored AiR
Friday 20 March & 17 April 1 - 2pm Meet the artist in their studio.
Dydd Gwener 20 Mawrth ac 17 Ebrill, 1 - 2pm Dewch i gwrdd 창'r artist yn ei stiwdio.
AiR Talk
Sgwrs AiR
Thursday 30 April, 5.30pm Jessica will talk about her varied sculptural practice focusing on the research project developed throughout her residency.
Nos Iau 30 Ebrill, 5.30pm Bydd Jessica yn siarad am ei harfer cerflunio amrywiol ar y prosiect ymchwil a ddatblygwyd drwy gydol ei chyfnod preswyl.
Jessica Hoad, Ghosts, 2014 Detail from collection of Polaroid images. Copyright the artist Manylion o gasgliad y lluniau Polaroid. Hawlfraint yr artist
Schools
Ysgolion
Throughout the Gallery closure the Glynn Vivian learning team continues to deliver an offsite programme of full day workshops to take place within Primary and Secondary schools in Swansea, Neath and Port Talbot. Glynn Vivian Away Days provides an opportunity for a class to work in school with one of our team of art educators to engage in activities that will explore the Gallery and its collection. To find out more, visit our website www.glynnviviangallery.org or contact us via email glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk or call 01792 516900.
Er bod yr oriel ar gau, mae tîm dysgu'r Glynn Vivian yn parhau i ddarparu rhaglen oddi ar y safle o weithdai diwrnod llawn i'w cynnal mewn ysgolion yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Mae Diwrnodau Oddi Cartref Glynn Vivian yn rhoi cyfle i ddosbarth weithio yn yr ysgol gydag un o'n tîm o addysgwyr celf i gymryd rhan mewn gweithgareddau a fydd yn archwilio'r oriel a'i chasgliad. I gael mwy o wybodaeth, ewch i'r wefan www.glynnviviangallery.org neu cysylltwch â ni drwy e-bost glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk neu ffoniwch 01792 516900.
Support the Gallery:
Cefnogi’r Oriel:
Join the Friends of the Glynn Vivian
Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
Details are available from the Membership Secretary:
Mae manylion ar gael gan yr Ysgrifennydd Aelodaeth:
h.a.barnes@btinternet.com
@FriendsofGlynnViv
www.friendsoftheglynnvivian.com
01792 476187
Where to find Glynn Vivian Offsite programme
Ble i ddod o hyd i raglen Glynn Vivian Oddi ar y Safle
Venues January - April 2015
Lleoliadau Ionawr - Ebrill 2015
Castle Square, Swansea SA1 1DW
Sgwâr y Castell, Abertawe SA1 1DW
Swansea Museum, Victoria Road, Maritime Quarter, Swansea SA1 1SN
Amgueddfa Abertawe, Heol Victoria, Ardal Forol, Abertawe SA1 1SN
Ty’r Blodau, Botanical Gardens, Singleton Park, Swansea SA2 8PW
Tyˆ'r Blodau, Gerddi Botaneg, Parc Singleton, Abertawe SA2 8PW
YMCA Abertawe YMCA Swansea 1 The Kingsway, Swansea SA1 5JQ 1 Ffordd y Brenin, Abertawe SA1 5JQ
Contact us:
Cysylltu â ni:
Glynn Vivian Art Gallery, Administrative Offices c/o Room 249, The Guildhall, Swansea SA1 4PE
Oriel Gelf Glynn Vivian, Swyddfeydd Gweinyddol d/o Ystafell 249, Neuadd y Ddinas, Abertawe SA1 4PE
01792 516900
glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk
Join in online & find out more
Ymunwch â ni ar-lein i gael mwy o wybodaeth
www.glynnviviangallery.org www.facebook.com/glynnvivian
Blog: www.glynnvivian.com www.twitter.com/glynnvivian