Oriel Gelf Glynn Vivian Art Gallery OFFSITE / ODDI AR Y SAFLE January - April Ionawr - Ebrill 2014
OFFSITE / ODDI AR Y SAFLE
Welcome / Croeso The Gallery team wishes everyone a happy new year, and we bring you the good news that our redevelopment will soon be underway again at the Gallery.
Mae tîm yr oriel yn dymuno blwyddyn newydd dda i bob un ohonoch, ac rydym yn rhoi'r newyddion da i chi y bydd y gwaith i ailddatblygu'r oriel yn ailddechrau'n fuan.
Meantime, we continue to present our programmes offsite with the invaluable support of our local partners. Together, we enjoyed hosting the Chinese artists for Let’s see what happens…, which established such positive on-going links for our artists and communities; also, more recently, Maria Pask travelled from Amsterdam to make her new film inspired by the rock legends of Swansea’s past, which can soon be seen.
Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i gyflwyno ein rhaglenni oddi ar y safle gyda chefnogaeth amhrisiadwy ein partneriaid lleol. Gyda'n gilydd, gwnaethom fwynhau cynnal yr artistiaid Tsieineaidd ar gyfer Gawn ni weld..., a sefydlodd gysylltiadau da i'n hartistiaid a'n cymunedau; hefyd, yn fwy diweddar, teithiodd Maria Pask o Amsterdam i greu ei ffilm newydd wedi'i hysbrydoli gan gewri byd roc gorffennol Abertawe, y gellir ei gweld cyn bo hir.
The year begins with our celebration of Art’s Birthday at the Dylan Thomas Theatre, where there is always a warm welcome for everyone. We will be launching a new series of workshops too, further exploring the Richard Glynn Vivian bequest and his belief that art can change people’s lives and the way we see the world.
All images throughout are courtesy of the artist / Pob llun trwy garedigrwydd yr artist Cover: Glynn Vivian Handling Collection. Photography, Nicola Kelly, 2013 Clawr: Oriel Gelf Casgliad Trin a Thrafod. Ffotograffiaeth, Nicola Kelly, 2013
Mae’r flwyddyn yn dechrau gyda dathlu Art’s Birthday, yn Theatr Dylan Thomas, lle mae croeso mawr bob amser i bawb. Byddwn yn lasio cyfres newydd o weithdai hefyd, i ymchwilio i gymynrodd Richard Glynn Vivian ymhellach a'i gred fod celf yn gallu newid bywydau pobl a'r ffordd rydym yn gweld y byd.
We hope you will enjoy our programmes this year, and thank you for your continuing support.
Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau ein rhaglen oddi ar y safle eleni a diolch am eich cefnogaeth.
www.glynnviviangallery.org twitter.com/glynnvivian facebook.com/glynnvivian
Jenni Spencer-Davies Curator / Curadur Oriel Gelf Glynn Vivian Art Gallery
Art's Birthday 2014 UTOPIA - AIPOTU Dylan Thomas Theatre Friday 17 January, 5.30pm For this year's international celebrations to commemorate Art’s Birthday, Swansea's contribution carries a Utopian theme. Art’s Birthday was dreamt up by Robert Filliou in 1963, and we will be marking the close of the fiftieth anniversary year with a new prologue to Thomas More’s Utopia. The fictional, conceptual idea of a Utopian space, before and after Thomas More, remains full of potential - a site for celebration, critique, affirmation, subversion - a landscape for hopes, dreams, memories and perhaps nightmares. Art’s Birthday cake, 2013. Image / Llun, Eva Bartussek
All events are free. Everyone welcome, no booking required.
Theatr Dylan Thomas Nos Wener 17 Ionawr, 5.30pm Ar gyfer dathliadau rhyngwladol eleni i goffáu Art’s Birthday, mae gan gyfraniad Abertawe thema Iwtopia. Crëwyd Art’s Birthday gan Robert Filliou ym 1963, a byddwn yn nodi diwedd y flwyddyn hanner canmlwyddiant gyda rhagymadrodd newydd i Utopia Thomas More. Mae'r syniad ffuglennol, cysyniadol o Iwtopia, cyn ac ar ôl Thomas More, yn llawn potensial o hyd - safle ar gyfer dathlu, beirniadaeth, cadarnhad, chwyldro - tirlun ar gyfer dymuniadau, breuddwydion, atgofion ac o bosib hunllefau. Mae pob digwyddiad am ddim. Mae croeso i bawb, dim angen cadw lle.
LEARNING / DYSGU
Handling Collection
Glynn Vivian Road Show
Our new handling collection was a great success when introduced for the first time by our community volunteers at Swansea Market, as part of Owen Griffiths’ work for Let’s see what happens…, and has shown us a positive way forward for everyone to have a hands-on experience with this collection, which is set to grow.
Action Resource Centre (ARC), Portmead
This small group of 19th century ceramics can be handled and considered for use in drawing, painting, pottery or sculpture sessions, offering sensory access too for everyone, as they are very tactile. Join our Learning team at the YMCA or during our Glynn Vivian Road Shows to find out more about this part of our collection, and let us know what you think.
Casgliad Trin a Thrafod Roedd ein casgliad trin a thrafod newydd yn llwyddiant mawr pan gafodd ei gyflwyno am y tro cyntaf gan ein gwirfoddolwyr cymunedol ym Marchnad Abertawe, fel rhan o waith Owen Griffiths ar gyfer Gawn ni weld..., ac mae wedi dangos ffordd gadarnhaol ymlaen i bawb gael profiad ymarferol o'r casgliad hwn sy'n tyfu. Gellir trin y grw ˆ p bach hwn o cerameg o'r 19eg ganrif a'i ystyried ar gyfer sesiynau lluniadu, paentio, crochenwaith neu gerflunwaith, gan gynnig mynediad synhwyraidd i bawb hefyd, gan eu bod yn gyffyrddol iawn. Ymunwch â'n tîm Dysgu yn y YMCA neu yn ystod Sioeau Teithiol y Glynn Vivian i ddarganfod mwy am y rhan yma o'n casgliad, a rhowch wybod eich barn i ni.
COLLECTIONS / CASGLIAD PARHAOL
Wednesday 26 February, 12 - 4pm Glynn Vivian Offsite will be visiting Swansea community centres as part of our exploration into the Richard Glynn Vivian bequest and the Gallery’s collection. It is an opportunity for local residents to join in with art activities, our handling collection, and gain expert advice from conservators and researchers. You will also get the chance to select work from the Gallery’s collection to be reproduced and put on display in your community centre. Come along to the first Glynn Vivian Road Show and meet our team for a fun afternoon of activities. All events are free. Everyone welcome, no booking required.
Sioeau Teithiol y Glynn Vivian Canolfan Adnoddau ar Waith (ARC), Portmead Dydd Mercher 26 Chwefror, 12 - 4pm Bydd Glynn Vivian Oddi ar y Safle'n ymweld â chanolfannau cymunedol Abertawe fel rhan o'n harchwiliad i gymynrodd Richard Glynn Vivian a chasgliad yr oriel. Mae'n gyfle i breswylwyr lleol ymuno â gweithgareddau celf, ein casgliad trin a thrafod, a derbyn cyngor arbenigol gan warchodwyr ac ymchwilwyr. Bydd y cyfle hefyd gennych i ddewis gwaith o gasgliad yr oriel i gael ei atgynhyrchu a'i arddangos yn eich canolfannau cymunedol. Dewch i'r Sioe Deithiol Glynn Vivian gyntaf i gwrdd â'n tîm am brynhawn hwyl llawn gweithgareddau. Mae pob digwyddiad am ddim. Mae croeso i bawb. Dim angen cadw lle.
Maria Pask Manfinger Preview, Dylan Thomas Theatre Thursday 10 April, 6.30pm Elysium Gallery 11 - 26 April, Wednesday - Saturday, 12 - 5pm Manfinger is a narrative-free documentary film that looks at the theme of internal tensions between commercial success and rebellious expression in the music industry. Manfinger is filmed on location in Swansea using several different sources from the South Wales rock scene of the 1970s: band fanzines, TV documentaries, interviews and stories from the public. Maria Pask is a Welsh artist based in Amsterdam. A Glynn Vivian Offsite exhibition, supported by a grant from the Mondriaan Foundation in collaboration with Black Kettle Collective, Gorseinon Day Service group and students from the Royal Art School in Den Haag, The Netherlands.
Rhagolwg, Theatr Dylan Thomas Nos Iau 10 Ebrill, 6.30pm Oriel Elysium 11 - 26 Ebrill, Dydd Mercher - dydd Sadwrn, 12 - 5pm Ffilm ddogfen heb naratif yw Manfinger sy'n canolbwyntio ar y thema o densiynau mewnol rhwng llwyddiant masnachol a mynegiant gwrthryfelgar yn y diwydiant cerddoriaeth. Ffilmiwyd Manfinger mewn lleoliadau gwahanol yn Abertawe trwy defnyddio gwahanol ffynonellau o sin roc de Cymru yn y 1970au: cylchgronau i gefnogwyr y band, rhaglenni dogfen ar y teledu, cyfweliadau a straeon gan y cyhoedd. Artist Cymraeg yw Maria Pask wedi’i lleoli yn Amsterdam. Arddangosfa Oddi ar y Safe Glynn Vivian, a gefnogir gan grant yr Ymddiriedolaeth Mondriaan ar y cyd â Grw ˆ p y Tegell Du, Grw ˆ p Gwasanaeth Dydd Gorseinon a myfyrwyr Ysgol Gelf Frenhinol yn Den Haag, Yr Iseldiroedd.
EXHIBITIONS / ARDDANGOSFEYDD
Activities / Gweithgareddau All activities are free. Workshops take place at the YMCA, Swansea.
Mae pob gweithgaredd am ddim. Cynhelir y gweithdai yn y YMCA, Abertawe.
Adults
Oedolion
11am - 4pm, Age 16+ No previous experience necessary, complete beginners welcome.
11am - 4pm, 16+ oed Dim angen profiad blaenorol, croeso i ddechreuwyr pur.
Mark Making in Textile Art
Gwneud Marciau mewn Celf Decstilau
With artist Arwen Roberts Saturday 11 & 25 January, 8 February, 11am - 4pm Booking essential tel 01792 516900. Discover different techniques of mark making in textile art, as we investigate ways of representing our personal journeys and the world around us with line, colour and texture.
Traditional Craft Drop-in With artist Arwen Roberts Saturday 8 March & 5 April, 11am - 4pm No booking required Whatever your traditional craft crochet, knitting, embroidery, smocking, hand quilting - come and share it with others.
LEARNING / DYSGU
Gyda'r artist Arwen Roberts Dydd Sadwrn 11 ac 25 Ionawr, 8 Chwefror, 11am - 4pm Rhaid cadw lle ffôn 01792 516900. Darganfyddwch dechnegau gwahanol o wneud marciau mewn celf decstilau, wrth i ni ymchwilio ffyrdd o gynrychioli ein teithiau personol a'r byd o'n cwmpas â llinellau, lliw a gwead.
Crefft Traddodiadol Galw Heibio Gyda'r artist Arwen Roberts Dydd Sadwrn 8 Mawrth a 5 Ebrill, 11am - 4pm Dim angen cadw lle Beth bynnag yw eich crefft draddodiadol - crosio, gwau, brodwaith, smocwaith, cwiltio â llaw - dewch i'w rannu ag eraill.
Families
Teuluoedd
All activities are free. Booking essential tel 01792 516900.
Mae pob gweithgaredd am ddim. Rhaid cadw lle ffôn 01792 516900.
Workshops take place at the YMCA, Swansea.
Cynhelir y gweithdai yn y YMCA, Abertawe.
All children under 10 must be accompanied by an adult.
Mae'n rhaid i bob plentyn dan 10 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Saturday Family Workshops
Gweithdai Dydd Sadwrn i'r Teulu
With artists Tom Goddard and Dan McCabe
Gyda'r artistiaid Tom Goddard a Dan McCabe
Saturday 18 & 25 January, 8 & 15 February, 1 & 15 March 10am - 1pm, All ages
Dydd Sadwrn 18 a 25 Ionawr, 8 a 15 Chwefror, 1 a 15 Mawrth 10am - 1pm, Pob oed
Be part of our Saturday morning art club and create an animation based on ‘The Adventures of Richard Glynn Vivian’. Explore different animation techniques and work on storyboards, prop making, scripts, characters and sound effects.
Dewch i fod yn rhan o'n clwb celf ar fore Sadwrn a chreu animeiddiad ynglyˆn ag ‘Anturiaethau Richard Glynn Vivian’. Cewch gyfle i archwilio technegau animeiddio gwahanol a gweithio ar fyrddau stori, gwneud celfi, sgriptiau, cymeriadau ac effeithiau sain
Workshops take place twice a month and participants are asked to try and attend all sessions.
Cynhelir y gweithdai ddwywaith y mis a gofynnir i gyfranogwyr geisio dod i bob un.
Holiday Activities
Gweithgareddau'r Gwyliau
April
Ebrill
Film Premiere
Dangosiad Cyntaf Ffilm
The Adventures of Richard Glynn Vivian: The Animation Saturday 12 April, 11am Big Screen, Castle Square
Anturiaethau Richard Glynn Vivian: Animeiddiad Dydd Sadwrn 12 Ebrill, 11am Sgrîn Fawr, Sgwâr y Castell Bydd ein grw ˆ p gweithdy i deuluoedd ddydd Sadwrn yn cyflwyno eu stori animeiddiedig am sefydlydd yr Oriel, Richard Glynn Vivian, a'i deithiau o amgylch y byd. Yn addas ar gyfer pob oedran.
All activities are free. Booking essential tel 01792 516900.
Mae pob gweithgaredd am ddim. Rhaid cadw lle ffôn 01792 516900.
Workshops take place at the YMCA, Swansea.
Cynhelir y gweithdai yn y YMCA, Abertawe.
All children under 10 must be accompanied by an adult.
Mae'n rhaid i bob plentyn dan 10 oed fod yng nghwmni oedolyn.
February
Chwefror
Our Saturday family workshop group present their animated story of the Gallery’s founder Richard Glynn Vivian and his travels around the world. Suitable for all ages.
Dream Landscapes
Tirluniau Delfrydol
Creative Textiles
Tecstilau Creadigol
With artist Dan McCabe
Gyda'r artist Dan McCabe
Thursday 27 & Friday 28 February, 11am - 4pm, Ages 4+
Dydd Iau 27 a dydd Gwener 28 Chwefror, 11am - 4pm, 4+ oed
With artist Arwen Roberts Wednesday 23 April 11am - 4pm, Ages 4+
Gyda'r artist Arwen Roberts Dydd Mercher 23 Ebrill 11am - 4pm, 4 oed+
Create an animated dreamscape exploring colour, form, light and texture in this fun, accessible workshop for all ages.
Crëwch freuddwydlun animeiddiedig gan archwilio lliw, ffurf, golau a gwead yn y gweithdy hygyrch, hwyl hwn i bobl o bob oedran.
Using the elements of Richard Glynn Vivian’s travels and collections and Swansea history, join us to explore different textile art techniques in this hands-on family workshop.
Gan ddefnyddio elfennau o deithiau a chasgliadau Richard Glynn Vivian, a hanes Abertawe ymunwch â ni i ymchwilio i wahanol dechnegau o gelf tecstilau yn y gweithdy ymarferol i deuluoedd hwn.
Storytelling Adventures
Straeon Antur
With ‘The Crowman’ Thursday 24 April, 11am -1.15pm & 1.45pm - 4pm, Ages 5+
Gyda ‘Dyn y Frân’ Dydd Iau 24 Ebrill, 11am - 1.15pm a 1.45pm - 4pm, 5 oed+
Richard Glynn Vivian lived an adventurous life. He travelled to lots of different countries and brought back lots of treasures to share. Join ‘The Crowman’ on a journey and create your own treasure in this interactive family workshop. What treasure will you find along the way?
Roedd Richard Glynn Vivian yn byw bywyd anturus. Teithiodd i nifer o wledydd gwahanol a daeth â nifer o drysorau yn ôl gydag ef i'w rhannu. Ymunwch â ‘Dyn y Frân’ ar daith a chrëwch eich trysor eich hun yn y gweithdy rhyngweithiol hwn i'r teulu. Pa drysor y byddwch chi'n dod o hyd iddo ar eich taith?
Events / Digwyddiadau All activities are free, everyone welcome. Workshops take place at the YMCA, Swansea.
Mae pob digwyddiad am ddim, croeso i bawb. Cynhelir yr holl weithdai yn y YMCA, Abertawe.
Black Kettle Collective / Grw ˆ p y Tegell Du Join our team of young people, ‘Black Kettle Collective’, aged 14 24 and host your own workshops and events in Swansea. Working with the Gallery's Learning team, ‘Black Kettle Collective’ will engage and respond to the Gallery's programme of exhibitions, collections and activities and produce their own events for other young audiences in Swansea. No previous experience is required, just a passion for art. We will give you all the tools and techniques you will need, all we ask for is your time and enthusiasm. Meetings take place fortnightly Tuesday 14 & 28 January, 11 & 25 February, 11 & 25 March and 8 & 22 April, 5 - 7pm
Ymunwch â'n tîm o bobl ifanc, ‘Grw ˆ p y Tegell Du’, rhwng 14 a 24 oed i gynnal eich gweithdai a'ch digwyddiadau'ch hunain yn Abertawe. Trwy weithio gyda Thîm Dysgu'r Oriel, mae ‘Grw ˆ p y Tegell Du’ yn cysylltu ac yn ymateb i raglen o arddangosfeydd, casgliadau a gweithgareddau'r Oriel ac yn creu eu digwyddiadau eu hunain i gynulleidfaoedd iau yn Abertawe. Does dim angen profiad blaenorol, dim ond brwdfrydedd mawr dros y celfyddydau. Byddwn yn rhoi i chi'r holl offer a thechnegau y bydd eu hangen arnoch. Y cyfan rydym yn gofyn i chi ei roi yw eich amser a’ch brwdfrydedd. Cynhelir cyfarfodydd bob pythefnos Nos Fawrth 14 a 28 Ionawr, 11 a 25 Chwefror, 11 a 25 Mawrth a 8 a 22 Ebrill, 5 - 7pm
Artist Talks / Sgwrs Artist All events are free. Everyone welcome, no booking required.
Mae pob digwyddiad am ddim. Mae croeso i bawb, dim angen cadw lle.
Events take place at the YMCA, Swansea.
Cynhelir yr holl weithdai yn y YMCA, Abertawe.
Carwyn Evans
Carwyn Evans
Thursday 30 January, 5.30pm Royal College of Art Graduate and Fine Art Gold Medal winner 2012 at the National Eisteddfod of Wales, Carwyn Evans will discuss his experiences of post graduate study and making work in and about Wales.
Nos Iau 30 Ionawr, 5.30pm Graddiodd o'r Coleg Celf Brenhinol ac enillodd Fedal Aur Celfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2012, bydd Carwyn Evans yn trafod ei brofiadau o astudiaethau ôl-raddedig a chreu gwaith yng Nghymru ac o'i hamgylch.
Marc Rees
Marc Rees
Thursday 27 February, 5.30pm Marc Rees is one of Wales’ leading interdisciplinary artists and an eminent curator of site responsive work. Join him as he shares recent and upcoming projects, including Adain Avion and Raw Material: Llareggub Revisted, and discusses his personal relationship with Swansea and making work in Wales.
Nos Iau 27 Chwefror, 5.30pm Marc Rees yw un o artistiaid rhyngddisgyblaethol mwyaf blaengar Cymru ac mae'n guradur amlwg o waith sy'n ymateb i'r safle. Ymunwch ag ef wrth iddo rannu prosiectau diweddar a rhai sydd i ddod gan gynnwys Adain Avion a Raw Material: Llareggub Revisited, a thrafod ei berthynas bersonol ag Abertawe a chreu gwaith yng Nghymru.
Emma Gifford-Mead
Emma Gifford-Mead
Thursday 27 March, 5.30pm Emma Gifford-Mead is a curator with the British Council. Join Emma as she discusses her curatorial practice including highlights from
Nos Iau, 27 Mawrth, 5.30pm Mae Emma Gifford-Mead yn guradur gyda’r Cyngor Prydeinig. Ymunwch ag Emma wrth iddi drafod ei gwaith curadurol gan gynnwys
her time at Oriel Davies, Newtown, Parasol Unit, London and the British Council, leading up to curating the Jeremy Deller exhibition at the British Pavilion at the Venice Biennale, 2013.
yr uchafbwyntiau o'i hamser yn Oriel Davies, y Drenewydd, Parsol Unit, Llundain a'r Cyngor Prydeinig, gan arwain at guradu arddangosfa Jeremy Deller yn y Pafiliwn Prydeinig yn y Venice Biennale, 2013.
Mark McGowan (The Artist Taxi Driver)
Mark McGowan (The Artist Taxi Driver)
Thursday 24 April, 5.30pm Mark McGowan is a British street artist, performance artist and prominent public protester. Interviewing public figures on current affairs from the front seat of his day job as a taxi driver, Mark uses social media to champion the plight of the working person.
Nos Iau 24 Ebrill, 5.30pm Mae Mark McGowan yn artist stryd a pherfformio Prydeinig ac mae’n wrthdystiwr cyhoeddus blaenllaw hefyd. Mae Mark yn holi wynebau cyfarwydd am faterion cyfoes o sedd flaen ei swydd arferol fel gyrrwr tacsi, ac yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo achos y gweithiwr.
Community Café / Caffi Cymunedol All activities are free. Everyone welcome, no booking required. Events take place at the YMCA, Swansea. Join curator, art historian and artist Ceri Thomas and be a part of our stimulating community discussions.
Mae pob digwyddiad am ddim. Mae croeso i bawb, dim angen cadw lle. Cynhelir yr holl weithdai yn y YMCA, Abertawe. Ymunwch â'r curadur, hanesydd celf ac artist, Ceri Thomas, a byddwch yn rhan o'n trafodaethau cymunedol ysgogol.
Thursday 23 January, Thursday 6 March & Thursday 17 April
Dydd Iau 23 Ionawr, Dydd Iau 6 Mawrth a Dydd Iau 17 Ebrill
5.30pm - 6.30pm Ceri Thomas will present a series of three progressive talks looking at the visual culture of south Wales since 1910 using works from the Glynn Vivian Collection.
5.30pm - 6.30pm Bydd Ceri Thomas yn cyflwyno cyfres o dair sgwrs ddilynol yn edrych ar ddiwylliant gweledol de Cymru ers 1910 gan ddefnyddio gwaith o gasgliad y Glynn Vivian.
Artist in Residence
Artist Preswyl
AiR Workshop
Gweithdy AiR
February - March
Chwefror - Mawrth
All events are free. Events take place at the YMCA, Swansea.
Mae pob digwyddiad am ddim. Cynhelir yr holl weithdai yn YMCA, Abertawe.
Maia Conran
Maia Conran
Maia Conran was born in Bangor, North Wales and studied at Sheffield Hallam University and the University of the West of England.
Ganwyd Maia Conran ym Mangor, gogledd Cymru ac astudiodd ym Mhrifysgol Sheffield Hallam a Phrifysgol Gorllewin Lloegr.
The relationship between stillness and movement within film and video is central to Maia Conran's work. She makes installations in which objects are animated humorously to draw attention to architectural and social contexts.
Mae'r cysylltiad rhwng llonyddwch a symudiad mewn ffilm a fideo yn ganolog i waith Maia Conran. Mae'n gwneud gosodiadau lle mae gwrthrychau yn cael eu hanimeiddio'n ddoniol i dynnu sylw at gyd-destunau pensaernïol a chymdeithasol.
Super 8 Swap Shop, Saturday 22 February, 11am - 4pm, Age16+ Maia invites you to create your own montaged films using old super 8 films she has collected from car boot sales and online. Maia will show you how to edit the footage to create an original piece of film and your final films will be digitised and available to view online. Booking essential, call 01792 516900
Siop Gyfnewid Super 8, Dydd Sadwrn 22 Chwefror,11am - 4pm, 16+ oed Mae Maia yn eich gwahodd i greu eich ffilmiau montage eich hun trwy ddefnyddio hen ffilmiau Super 8 mae hi wedi eu casglu o arwerthiannau cist car ac oddi ar y we. Bydd Maia yn eich dysgu sut i addasu'r darnau o ffilm i greu ffilm wreiddiol a bydd eich ffilmiau terfynol yn cael eu digido a byddant ar gael i'w gwylio ar-lein. Rhaid cadw lle, ffoniwch 01792 516900
AiR Talk
Sgwrs AiR
Thursday 13 March, 5.30pm Join Maia Conran, for a talk about her current practice and residency. Everyone welcome, no booking required.
Nos Iau, 13 Mawrth, 5.30pm Ymunwch â Maia Conran, am sgwrs am ei harfer presennol a'i chyfnod preswyl. Mae croeso i bawb, dim angen cadw lle.
www.maiaconran.com
www.maiaconran.com
Support the Gallery / Cefnogi'r Oriel Join the Friends of the Glynn Vivian Details are available from the Membership Secretary: h.a.barnes@btinternet.com 01792 476187 www.friendsoftheglynnvivian.com
Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian Mae manylion ar gael gan yr Ysgrifennydd Aelodaeth: h.a.barnes@btinternet.com 01792 476187 www.friendsoftheglynnvivian.com
Where to find Glynn Vivian Offsite programme
Ble cynhelir rhaglen Oddi ar y safle Glynn Vivian
Venues January - April
Lleoliadau Ionawr - Ebrill
Action Resource Centre (ARC) 45 Broughton Avenue, Portmead, Swansea SA5 5JS
Canolfan Adnoddau ar Waith (ARC) 45 Rhodfa Broughton, Portmead, Abertawe SA5 5JS
Castle Square Swansea, SA1 1DW
Sgwâr y Castell Abertawe, SA1 1DW
Dylan Thomas Theatre Dylan Thomas Square, Gloucester Place, Maritime Quarter, Swansea SA1 1TY
Theatr Dylan Thomas Sgwâr Dylan Thomas, Gloucester Place, Ardal Forol, Abertawe SA1 1TY
Elysium Gallery 16 College Street, Swansea SA1 5BH
Oriel Elysium 16 Stryd y Coleg, Abertawe SA1 5BH
YMCA Swansea 1 The Kingsway, Swansea SA1 5JQ
YMCA Abertawe 1 Ffordd y Brenin, Abertawe SA1 5JQ
Contact us / Cysylltu â ni: Glynn Vivian Art Gallery, Administrative Offices c/o Room 249, The Guildhall, Swansea SA1 4PE
Oriel Gelf Glynn Vivian, Swyddfeydd Gweinyddol d/o Ystafell 249, Neuadd y Ddinas, Abertawe SA1 4PE
01792 516900
glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk
Join in online & find out more www.glynnviviangallery.org www.facebook.com/glynnvivian
Ymunwch â ni ar-lein i gael mwy o wybodaeth Blog: www.glynnvivian.com www.twitter.com/glynnvivian