29222-12 Governor News W_18375-07 Governor News Aut 07 23/02/2012 10:27 Page 1
NEWYDDION LLYWODRAETHWYR RHIFYN 28
GWANWYN 2012
Newyddion Staff Diweddaraf yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr Ymunais â Dinas a Sir Abertawe ar 1 Rhagfyr fel Rheolwr yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr ar ôl ymddeoliad Jain Watkins. Wrth i mi ysgrifennu, rwy'n dal yn gymharol newydd yn y swydd ond hyd yn hyn, rwy'n ystyried y rôl i fod yn amrywiol, yn heriol ac yn ddiddorol iawn. Rwy'n edrych ymlaen at y profiadau newydd sy'n siŵr o ddod gyda'r swydd. Rwyf wedi cael croeso cynnes iawn ac rwy'n mwynhau dod i adnabod fy nghydweithwyr newydd yn yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr ac yn yr Adran Addysg yn ogystal â'r penaethiaid, athrawon, staff cysylltiol ac, wrth gwrs, llywodraethwyr ysgolion Abertawe. Rwy'n gobeithio cael y cyfle i gwrdd â chynifer ohonoch â phosib yn y dyfodol agos ac rwy'n edrych ymlaen at eich cefnogi yn y gwaith gwerthfawr rydych yn ei wneud. Jain Watkins Rheolwr Yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr
Mae'r aelodau canlynol o staff yn ffurfio'r Uned Ysgolion a Llywodraethwyr: Kathryn Thomas
Rheolwr Cefnogi Ysgolion, Llywodraethwyr a Myfyrwyr Kate Phillips Rheolwr yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr Claire Abraham Dirprwy Reolwr/Swyddog Derbyniadau Ysgolion Uned Ysgolion a Llywodraethwyr Paul Henwood Swyddog Amddiffyn a Diogelu Plant Ruth Rolfe Swyddog Llywodraethwyr Ysgolion Martin Rodwell Cynorthwy-ydd Gweinyddol Alma Lodwick Cynorthwy-ydd Clercol Chantal Bideleux Cynorthwy-ydd Clercol
Dyma Swyddogion Pwyllgor Rheoli Cymdeithas Cyrff Llywodraethu Abertawe: Cadeirydd Mr Jeff Bowen • Ysgol Gyfun Penyrheol • Ysgol Gynradd Casllwchwr Is-gadeirydd Mrs Debbie Lloyd • Ysgol Tre-gŵyr
Trysorydd Mr. Peter Meehan • Ysgol Gynradd Trefansel • Ysgol Iau Brynhyfryd Cynrychiolydd Llywodraethwyr Cymru Mrs Carol Sayce • Ysgol Gyfun Esgob Gore
A CITY AND COUNTY OF LEARNING • DINAS A SIR O DDYSG
29222-12 Governor News W_18375-07 Governor News Aut 07 23/02/2012 10:27 Page 2
Hyfforddiant i Lywodraethwyr: Mae pwysigrwydd hyfforddiant i lywodraethwyr yn dod yn fwyfwy perthnasol yn dilyn Mesur Addysg (Cymru) 2011, a byddem yn annog pob llywodraethwr i fynd ar hyfforddiant rheolaidd i ddiweddaru ei sgiliau a'i wybodaeth. Mae byd addysg yn datblygu ac yn newid yn gyson. Cyflwynir mentrau newydd yn rheolaidd. Yn hynny o beth, mae hyfforddiant yn hanfodol i bob llywodraethwr, ni waeth beth yw eu profiad. Felly, mynnwch gip arall ar yr Arweiniad Hyfforddi a nodwch eich enw ger y cwrs sydd at eich dant. Data Mae ymwybyddiaeth data'n fater hyfforddi allweddol i lywodraethwyr ar hyn o bryd. Dylai gwybod, deall a defnyddio data perfformiad ysgol yn effeithiol i wella deilliannau dysgwyr fod yn ganolog i hunanwerthusiad ysgol. Mae data yn fwy na gwybod y ffigurau'n unig. Dylai gyfeirio, gwella a chynorthwyo cynllunio strategol a chael ei adlewyrchu mewn Cynlluniau Datblygu Ysgol a dogfennau Hunanwerthuso Ysgol. Dylai llywodraethwyr fod yn defnyddio'u gwybodaeth am eu data ysgol i gyfeirio'u gwaith a'u galluogi i herio a chefnogi ysgolion yn eu rôl fel cyfaill beirniadol. Yn ei araith ar 2 Chwefror 2011,
nododd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, fod cadeiryddion llywodraethwyr yn gyfrifol am sicrhau bod eu cyrff llywodraethu wedi trafod data'r teulu o ysgolion a data perfformiad perthnasol arall a bod ganddynt ddealltwriaeth o sut i ddadansoddi a defnyddio'r data hwn i gyfeirio gwaith strategol y Corff Llywodraethu. Ydych chi'n hyderus bod o leiaf un aelod o'ch corff llywodraethu'n gallu gwneud hyn? I helpu cyrff llywodraethu i gyflawni hyn, mae Dinas a Sir Abertawe'n cynnal sesiynau hyfforddi ar Ddeall Data Ysgol i ysgolion cynradd ac uwchradd. Dyma'r manylion: Ein nod yw sicrhau bod o leiaf un llywodraethwr o bob corff llywodraethu yn mynd ar gwrs Hyfforddiant Data. Byddwn yn cysylltu â'r holl Gadeiryddion Llywodraethwyr i nodi pa lywodraethwr o'u corff llywodraethu sydd eisoes wedi cael hyfforddiant, neu'n bwriadu mynd i gael hyfforddiant. Gall cyrff llywodraethu anfon cynifer o lywodraethwyr ag y dymunant ar gwrs hyfforddiant data ond gofynnwn bod o leiaf un llywodraethwr o bob ysgol yn mynd ar y cwrs hwn. Kate Phillips - Rheolwr yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr
A CITY AND COUNTY OF LEARNING • DINAS A SIR O DDYSG
29222-12 Governor News W_18375-07 Governor News Aut 07 23/02/2012 10:28 Page 3
Deall Data Ysgol (Trosolwg o Wybodaeth am Berfformiad Ysgol a Disgyblion) Hwylusydd: Mike Jones – Swyddog Gwybodaeth - Adran Addysg TARGEDU MEWN YSGOLION CYNRADD Dyddiad: 20 Mawrth 2012 Amser: 3.30 p.m. – 5.30 p.m. Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 Canolfan Ddinesig Dyddiad: 22 Mawrth 2012 Amser: 3.30 p.m. – 5.30 p.m. Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 Canolfan Ddinesig Dyddiad: 24 Ebrill 2012 Amser: 3.30 p.m. – 5.30 p.m. Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3 Canolfan Ddinesig TARGEDU MEWN YSGOLION UWCHRADD Dyddiad: 26 Ebrill 2012 Amser: 3.30 p.m. – 5.30 p.m. Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3 Canolfan Ddinesig D.S. Cwrs y llynedd yw hwn sy'n cael ei ailadrodd eleni. I gadw lle ffoniwch Ruth Rolfe, Uned Ysgolion a Llywodraethwyr 01792 636550
Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar y canlynol: • Systemau cronfeydd data disgyblion a'r hyn maent yn ei gynnwys SIMS mewn ysgolion ONE mewn ALl Systemau Cenedlaethol a chasglu data • Ysgolion Lleol a Pherfformiad Disgyblion Gwybodaeth a gynhyrchwyd gan ALl Abertawe Canlyniadau asesiadau athrawon Pennu Targedau Proffiliau Ysgol Cyfnod Allweddol 4 a chanlyniadau ôl-16 (Sesiwn Uwchradd yn Unig) • Perfformiad Ysgol a Disgyblion Cenedlaethol Gwybodaeth a gynhyrchwyd gan LC Pecynnau Data Craidd Adroddiadau System DEWi Crynodeb o Berfformiad Ysgolion Uwchradd (SSSP)(Sesiwn Uwchradd yn Unig) • Mesurau Gwerth Ychwanegol (Cynnydd Disgyblion) Ymddiriedolaeth Teulu Fischer Profion Safonol
MARC SAFON I GYRFF LLYWODRAETHU Y Marc Safon - Mae'r Wobr Efydd yn canolbwyntio ar archwiliad o wybodaeth am bolisïau a gweithdrefnau, gyda chyrff llywodraethu'n gorfod llunio portffolio o dystiolaeth sy'n seiliedig ar restr wirio. Mae'r Marc Safon yn gweithredu fel hunanwerthusiad corff llywodraethu, sy'n darparu meincnod y gall cyrff llywodraethu asesu eu heffeithiolrwydd yn ei erbyn. Dewch i gael mwy o wybodaeth am y Wobr Efydd, adborth o'r cynllun peilot a gynhaliwyd yn 2011 a'r camau nesaf yn y broses yng Nghynhadledd Cymdeithas Llywodraethwyr Cymru ddydd Iau, 15 Mawrth 2012. Rwy’n edrych ymlaen at eich gweld. Rhai sylwadau o'r cynllun peilot: 'Mae'r Marc Safon yn deyrnged wych ac yn ddathliad ymroddiad ac ymrwymiad y corff llywodraethu.' 'Mae paratoi ar gyfer cyflwyno'r Marc Safon wedi rhoi cyfle gwych i'r corff llywodraethu ganolbwyntio ar yr hyn rydym yn ei wneud ac i feddwl am sut y gallwn wneud pethau'n well."
Jane Morris - Cyfarwyddwr Llywodraethwyr Cymru
A CITY AND COUNTY OF LEARNING • DINAS A SIR O DDYSG
29222-12 Governor News W_18375-07 Governor News Aut 07 23/02/2012 10:28 Page 4
Fforwm Cyllideb Ysgolion a Chyllid Ysgolion Grŵp statudol yw'r Fforwm Cyllideb Ysgolion sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r cyngor, penaethiaid, llywodraethwyr, undebau ac eraill. Cynrychiolwyr y Llywodraethwyr yw Jeff Bowen (Ysgol Gyfun Penyrheol), Peter Meehan (Ysgol Iau Brynhyfryd), Rose Amesbury (Ysgol Gynradd Llanrhidian) a Debbie Lloyd (Ysgol Gyfun Tregŵyr). Mae'r fforwm yn allweddol i ddatblygu deialog ac ymddiriedaeth wybodus, hyderus rhwng yr Awdurdod Lleol a'i ysgolion ynglŷn â: • Materion ariannol, gan gynnwys lefelau cyllid ar gyfer ysgolion yn y flwyddyn i ddod • Pwysau ar gyllidebau'r dyfodol • Newidiadau i'r fformiwla ariannu leol • Adolygu contractau/cytundebau lefel gwasanaeth ar gyfer gwasanaethau i ysgolion Mae'r Fforwm Cyllideb Ysgolion wedi bod yn ystyried lefelau dirprwyo i ysgolion. Ar hyn o bryd, mae oddeutu 74% o'r gyllideb addysg yn Abertawe wedi'i dirprwyo i ysgolion. Mae Gweinidogion Cymru'n awyddus i gynyddu'r dirprwyo i ysgolion hyn i 85% ar gyfer yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru dros yr ychydig flynyddoedd nesaf - ac wrth gwrs gyda dirprwyo ychwanegol daw cyfrifoldeb ychwanegol. Cynigir swm mawr o arian ychwanegol (dros £6m) i'w ddirprwyo ym mis Ebrill 2012 i ddisgyblion ag Anghenion Difrifol a Chymhleth. Mae hyn wedi bod yn destun ymgynghoriad ffurfiol ag ysgolion fel newid fformiwla o 16 Rhagfyr 2011 tan 2 Chwefror 2012 (gweler http://www.abertawe.gov.uk/ formulaconsultation) Caiff mwy o feysydd dirprwyo eu
hystyried gan y Fforwm Cyllideb Ysgolion ar gyfer mis Ebrill 2013. Mae'r Gweinidog wedi diogelu'r swm cyffredinol sydd wedi'i ddirprwyo i ysgolion ar gyfer yr ychydig flynyddoedd nesaf. Mae hyn yn golygu bod rhaid cynyddu'r gyllideb gyffredinol i'w dirprwyo i ysgolion (CYU) 1.58% o leiaf ar gyfer 2012/13. Mae diogelu tebyg yn berthnasol ar gyfer 2013/14 ar 2.08% ac ar gyfer 2014/15 ar 1.27%. Fodd bynnag, cydnabyddir bod ysgolion yn parhau i wynebu penderfyniadau cyllideb anodd ac mae'r rhagolygon wrth fynd ymlaen yn parhau'n heriol i ysgolion. Bydd cyllideb Addysg heb eu dirprwyo hefyd yn wynebu heriau am nad ydynt wedi'u cynnwys yn y diogelu ariannol. Y setliad cyffredinol gan Lywodraeth Cymru i Abertawe yw cynnydd o 0.5%. Mae gwybodaeth a ddarperir gan fy nhîm a fydd yn helpu ysgolion i gynllunio ar gyfer y dyfodol yn cynnwys y dogfennau canlynol, a roddir i'r pennaeth: • Rhagamcaniadau niferoedd disgyblion (rhaid i o leiaf 70% o'r arian ddilyn disgyblion, felly mae'n bwysig gwybod a yw'r niferoedd ar gofrestr yr ysgol yn newid) • Rhagamcaniadau cyllidebau ar gyfer 3 blynedd • Ffigurau meincnodi ar gyfer ysgolion cynradd (fel y gallwch gymharu gwariant ag ysgolion eraill) • Dadansoddiad ariannol (i gymharu staff a gyflogir, staff a ariennir etc.) Mae gofynion yr Adroddiad Blynyddol i Rieni’n nodi y dylai gynnwys “adroddiad ariannol sy’n cynnwys Datganiad Adran 52 a ddarperir gan yr awdurdod lleol”. Mae Datganiadau Cyllideb ac Alldro
A CITY AND COUNTY OF LEARNING • DINAS A SIR O DDYSG
29222-12 Governor News W_18375-07 Governor News Aut 07 23/02/2012 10:28 Page 5
Adran 52 yn cael eu cynhyrchu gan fy nhîm bob blwyddyn ariannol a chânt eu cyhoeddi ar ein gwefan http://www.abertawe.gov.uk/index.cfm? articleid=4736. Mae’r datganiadau’n cynnwys faint o gyllid sydd wedi’i ddarparu i bob ysgol gan yr awdurdod lleol, y fformiwla ariannu a ddefnyddir a lefel y cronfeydd wrth gefn i bob ysgol. Awgrymaf y dylai’ch Adroddiad Blynyddol i Rieni gynnwys y ddolen uchod i’r dogfennau hyn er mwyn sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r gofynion. Er gwybodaeth, mae Nicola Maliphant (Prif Swyddog Caffael) a minnau wedi trefnu gweithdai ar faes pwysig caffael ym mis Ionawr/Chwefror 2012 i benaethiaid a bwrsariaid/staff swyddfa. Mae'r gweithdai'n cynnwys meysydd megis tendro am wasanaethau a nwyddau a sut i sicrhau bod ysgolion yn cael eu diogelu wrth brynu. Yn olaf, efallai eich bod wedi clywed am
y 'premiwm disgybl' o oddeutu £450 y disgybl sydd â hawl cael prydau ysgol am ddim yng Nghymru. Mae manylion terfynol yr arian ychwanegol hwn yn debygol o gael eu cwblhau ar ôl cyflwyno cyfrannau cyllidebau ysgolion ar gyfer 2012/13, a bydd yr Awdurdod Lleol yn rhoi gwybod i ysgolion cyn gynted ag y bydd y manylion yn hysbys. Rwy'n gobeithio cyflwyno cyfrannau cyllidebau ysgolion mynegol i ysgolion ar ddiwedd mis Chwefror/dechrau mis Mawrth gyda chyllidebau terfynol yn cael eu cadarnhau erbyn diwedd mis Mawrth 2012. Bydd ysgolion wedyn yn gorfod pennu eu cynlluniau cyllideb erbyn 31 Mai 2012.
Kelly Small Rheolwr Cyllid a Gwybodaeth i Ysgolion Ffôn 636686 kelly.small@swansea.gov.uk
Derbyniadau Ysgol Ar-Lein yn Mynd yn Fyw! Mae system uwch-dechnoleg newydd wedi gwneud pethau'n haws nag erioed i rieni Abertawe sicrhau lle mewn ysgol uwchradd i'w plentyn. Am y tro cyntaf, bydd rhieni yn Abertawe'n gallu mynd ar-lein i gwblhau cais am ddewis ysgol eu plentyn Blwyddyn 6. Yn y flwyddyn gyntaf, mae 90% o rieni wedi cyflwyno eu ceisiadau ar-lein drwy'r system newydd, gan arwain at ddyrannu lleoedd yn fwy effeithlon. Roedd y rhai nad oedd yn gallu cyrchu'r we o'u cartref neu yr oedd angen cefnogaeth ychwanegol arnynt yn gallu cyflwyno ceisiadau yn eu hysgol leol, eu llyfrgell leol neu'r Ganolfan Gyswllt. Claire Abraham I gael mwy o wybodaeth am y broses newydd ac atebion i unrhyw Swyddog Derbyn Ysgolion gwestiynau allai fod gennych, ewch i Ffôn 01792 635381 neu drwy e-bost www.abertawe.gov.uk/admissions Claire.Abraham@swansea.gov.uk A CITY AND COUNTY OF LEARNING • DINAS A SIR O DDYSG
29222-12 Governor News W_18375-07 Governor News Aut 07 23/02/2012 10:28 Page 6
Trwyddedau Perfformio Yn ogystal â'r gwaith mae'r Uned Ysgolion a Llywodraethwyr yn ei wneud wrth arwain, cynghori a chefnogi cyrff llywodraethu a threfnu hyfforddiant i lywodraethwyr, mae gan yr uned nifer o swyddogaethau a chyfrifoldebau eraill. Un agwedd bwysig ar waith yr uned yw cyhoeddi Trwyddedau Perfformio. Mae Trwyddedau Perfformio'n chwarae rhan bwysig wrth sicrhau bod perfformwyr sy'n blant yn cael eu diogelu a'u cefnogi'n briodol. Mae’n bwysig bod llywodraethwyr yn ymwybodol o'r broses hon ac mae’n arbennig o berthnasol i lywodraethwyr sydd â chyfrifoldeb am amddiffyn plant. Deddfwriaeth Mae'r ddeddfwriaeth sy'n rheoli plant mewn adloniant yn cwmpasu plant o'u genedigaeth i'r oedran gadael ysgol statudol ac mae angen cyflwyno Trwydded Perfformiad i blant sy'n byw yn yr awdurdod ac sy'n cymryd rhan yn y canlynol: • Darllediad byw neu berfformiad wedi'i recordio, fel rhaglen deledu neu radio neu ffilm; • Perfformiad theatr lle codir tâl; • Unrhyw berfformiad ar safle trwyddedig; • Modelu a chwaraeon plant lle telir y plentyn neu unrhyw berson arall (ar wahân i dreuliau arferol). Addysg Os bydd plentyn yn gorfod colli ysgol er mwyn cymryd rhan mewn perfformiad, bydd angen caniatâd gan bennaeth yr ysgol y mae'r plentyn yn mynd iddi cyn y gellir rhoi trwydded. Mae hyn oherwydd bod dyletswydd ar yr Awdurdod Trwyddedu i roi trwydded perfformiad dim ond pan fyddant yn fodlon na fydd addysg y plentyn yn dioddef drwy gymryd rhan yn y perfformiad. Iechyd Ni ddylai plentyn berfformio, na chael trwydded i berfformio, os yw'n sâl neu mewn perygl o fod yn sâl oherwydd natur perfformiad, felly bydd rhaid cael llythyr gan feddyg teulu'r plentyn yn nodi bod y plentyn yn ffit i berfformio ar gyfer perfformiadau am 3 diwrnod neu fwy mewn unrhyw gyfnod o 6 mis. Lles Efallai y bydd yr Awdurdod Trwyddedu'n gwrthod rhoi trwydded os credir bod y perfformiad yn niweidiol i: iechyd, gofal a/neu addysg y plentyn (Adran 39(6) Deddf 1968). Efallai bydd angen i'r Awdurdod Trwyddedu gael gwybodaeth ychwanegol gan yr ymgeisydd cyn rhoi trwydded, ac mewn rhai achosion gall gynnwys rhai amodau neu wrthod trwydded yn llwyr. Gwarchodwyr Efallai y bydd angen i blant sy'n cymryd rhan mewn perfformiad gael cwmni rhiant neu warchodwr cofrestredig ar bob adeg. Ni ellir rhoi trwydded os na fydd yr ymgeisydd yn rhoi manylion oedolyn addas i fod yn warchodwr. Bydd y rhiant/gwarchodwr yn gyfrifol am sicrhau bod anghenion lles y plentyn yn cael eu diwallu. Ac eithrio pan fyddant yn A CITY AND COUNTY OF LEARNING • DINAS A SIR O DDYSG
29222-12 Governor News W_18375-07 Governor News Aut 07 23/02/2012 10:28 Page 7
rhiant y plentyn, mae angen i warchodwyr gael trwydded, ac mae'r rhain hefyd yn cael eu rhoi gan Uned Ysgolion a Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. Gwiriadau ac archwiliadau lleoliadau Mae gan yr Awdurdod Trwyddedu yr hawl i archwilio unrhyw berfformiad i sicrhau bod amodau'r drwydded yn cael eu dilyn, bod lleoliad y perfformiad yn addas a bod anghenion y plentyn yn cael eu diwallu. Cynhelir gwiriadau lleoliad fel rhan o'r broses drwyddedu ac i sicrhau bod perfformwyr sy'n blant yn ddiogel. Perfformiadau yn Abertawe Eleni, mae dros 600 o Drwyddedau Perfformio wedi'u cyflwyno yn Abertawe i ganiatáu i blant berfformio mewn amrywiaeth eang o gynyrchiadau o Aladdin i Bobol y Cwm. Oes unrhyw blant yn eich ysgol yn cymryd rhan mewn perfformiadau, ac a oes angen Trwydded Perfformio arnynt? Os hoffech gael mwy o wybodaeth am Drwyddedau Perfformio, cysylltwch â'r Uned Ysgolion a Llywodraethwyr ar 01792 636550
Adroddiad Blynyddol y Llywodraethwyr Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi diwygio gwybodaeth ynglŷn ag Adroddiad Blynyddol y Llywodraethwyr. Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli ac yn dirymu Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2001 fel y'u diwygiwyd. Yn ôl y rheoliadau newydd, mae'n ofynnol i wneud y canlynol: • Cynnwys adroddiad cymharol o ganlyniadau asesiadau athrawon diwedd cyfnod ac arholiadau allanol (lle y bo'n briodol), a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. • Mae'n rhaid i ysgolion gynnwys y gymuned a chanolbwyntio ar y gymuned. Bydd hyn yn cynnwys creu cysylltiadau ag asiantaethau megis yr heddlu. • Diweddaru'r wybodaeth i'w chynnwys er mwyn adlewyrchu gofynion y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, sef cyhoeddi manylion ynglŷn â sut mae Cymraeg yn cael ei defnyddio fel cyfrwng y dysgu ym mhob cyfnod allweddol ar wahân (a'r Cyfnod Sylfaenol os yw'n briodol), a darparu mwy o wybodaeth am iaith y dysgu ac unrhyw gyfyngiadau a all gyfyngu ar gyfle'r rhieni i ddewis iaith y dysgu. • Adlewyrchu'n well y gweithgareddau chwaraeon sy'n digwydd mewn ysgolion. • Adlewyrchu gofynion i sicrhau mynediad i gyfleusterau toiled a'u diogelwch yn ogystal â glanweithdra. Mae'r newidiadau hyn yn ychwanegol at restr o ofynion ar gyfer yr holl eitemau i'w cynnwys yn yr adroddiad blynyddol. Mae gan yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr restr wirio ddiweddar i chi ei dilyn sy'n adlewyrchu'r newidiadau. I wneud cais am gopi o'r rhestr wirio, Kate Phillips - Rheolwr yr Uned ffoniwch yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr ar 01792 636550. Ysgolion a Llywodraethwyr A CITY AND COUNTY OF LEARNING • DINAS A SIR O DDYSG
29222-12 Governor News W_18375-07 Governor News Aut 07 23/02/2012 10:28 Page 8
Cynhadledd Ranbarthol De-orllewin Cymru Llywodraethwyr Cymru 2011 Ddydd Iau 18 Hydref 2011, cynhaliwyd yr ail gynhadledd ranbarthol i lywodraethwyr yn ne-orllewin Cymru yn Orendy Margam. Trefnwyd y gynhadledd gan Lywodraethwyr Cymru mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol Sir Gâr, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe. Y thema oedd ‘Llywodraethu Effeithiol’. Rhoddwyd y prif anerchiad gan Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog Addysg a Sgiliau, a dilynwyd hyn gan sesiwn holi ac ateb. Yn ogystal, cafwyd sesiwn ‘Hawl i Holi’ yn cynnwys panel o addysgwyr blaenllaw. Dyma oedd aelodau'r panel: • Anthony Jordan, Llywodraeth Cymru • Anna Brychan, Cyfarwyddwr, NAHT Cymru • Karl Napieralla, Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes, Castell-nedd Port Talbot • Clive Phillips, Arolygydd EM, Estyn Ceir adroddiad llawn ar y gynhadledd, gan gynnwys araith y Gweinidog a manylion y sesiwn holi ac ateb ar wefan Llywodraethwyr Cymru: http://www.governorswales.org.uk/ cymraeg/ o dan yr adran “cyhoeddiadau”.
Gwnaed cyflwyniadau i'r ysgolion a oedd wedi cyflawni Marc Safon Efydd Llywodraethwyr Cymru i Gyrff Llywodraeth yn y cynllun peilot. Caiff y rhaglen ei chyflwyno i bob ysgol yng ngwanwyn 2012, ac mae erthygl gan Jane Morris o Lywodraethwyr Cymru wedi'i chynnwys yn y rhifyn hwn o Newyddion Llywodraethwyr, sy'n rhoi manylion am y dyfarniad newydd. Gorffennodd y bore gyda rhaglen o gerddoriaeth a berfformiwyd gan Gerddorfa Ieuenctid Gorllewin Morgannwg. Chwaraewyd y gerddoriaeth yn hyfryd ac rwy'n siŵr bod pob un o'r cynadleddwyr wedi'i gwerthfawrogi. Y nod yw cyflwyno'r Marc Safon yn Abertawe yn 2012. Mae Jane Morris yn mynd i Gynhadledd Cymdeithas Cyrff Llywodraethu Abertawe ar 15 Mawrth 2012 yn y Ganolfan Ddinesig a bydd yn rhoi mwy o wybodaeth am gael y dyfarniad hwn. Estynnir gwahoddiad i bob llywodraethwr fynd i'r gynhadledd am 6.30 pm i gael lluniaeth a bydd yn dechrau am 7.00 pm. Dewch i gael mwy o wybodaeth. Kate Phillips - Rheolwr yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr
A CITY AND COUNTY OF LEARNING • DINAS A SIR O DDYSG