NEWYDDION LLYWODRAETHWYR RHIFYN 27
HAF 2011
Newyddion Staff Diweddaraf yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr Rwy’n si wr ˆ y byddwch yn falch i glywed fod Ruth Rolfe wedi’i phenodi i swydd Swyddog Llywodraethwyr Ysgolion a bod Chantal Biedeleux wedi olynu Ruth yn y rôl o Gymorth Gweinyddol i Gyrff Llywodraethu. Bydd Chantal wedi priodi erbyn i chi ddarllen rhifyn yr haf hwn, ond mae hi wedi penderfynu peidio â newid ei henw. Efallai y bydd modd ei pherswadio i gynnwys llun o’i phriodas yn rhifyn yr Hydref! Rwyf am gymryd y cyfle hefyd i roi gwybod i chi y byddaf yn gadael yr Awdurdod Lleol ar ddiwedd y flwyddyn academaidd ar ôl gweithio yn yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr am y 15 mlynedd diwethaf, mewn rhannau eraill o’r Adran Addysg am nifer o flynyddoedd cyn hynny ac fel athrawes Ysgol Gynradd am y 12 mlynedd cyntaf fy ngyrfa. Mae gen i restr hir o gynlluniau ar gyfer yr amser wedi i mi orffen, a’r mwyaf diweddar ohonynt yw fy mod newydd gael fy nerbyn i fod yn un o Arolygwyr Estyn ar gyfer Addysg Oedolion a Chymunedol. Mae Llywodraethwyr a Chlercod i Lywodraethwyr yn tueddu i’m hadnabod yn gynt nag y Dyma Swyddogion byddef i’n eich adnabod chi. Pwyllgor Rheoli Cymdeithas Dim ond un ohonof i sydd, Cyrff Llywodraethu Abertawe: ac mae nifer fawr ohonoch Trysorydd Cadeirydd chi, felly mae’n haws i chi! Mr. Peter Meehan Mr Jeff Bowen Serch hynny, os byddwch yn • Ysgol Gynradd • Ysgol Gyfun fy ngweld i ar ôl imi adael yr Trefansel Penyrheol Adran Addysg, cofiwch • Ysgol Iau Brynhyfryd • Ysgol Gynradd ddweud helo. Casllwchwr Jain Watkins Rheolwr Yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr
Is-gadeirydd Ms. Hazel Maguire • Ysgol Crug Glas
Cynrychiolydd Llywodraethwyr Cymru Mrs Carol Sayce • Ysgol Gyfun Esgob Gore
A CITY AND COUNTY OF LEARNING • DINAS A SIR O DDYSG
Hwyfforddiant Llywodraethwyr – dim dewis Daeth Mesur Addysg Cymru (Cymru) 2011 i rym ym mis Mai 2011. Ynghyd â newidiadau eraill, mae Llywodraeth Cymru (noder y newid enw o Lywodraeth Cynulliad Cymru) yn bwriadu cryfhau rôl cyrff llywodraethu. Yn unol â’i nod i godi safonau mewn ysgolion ar draws Cymru, mae’r mesur newydd yn cyflwyno ffordd o greu rheoliadau i gyflwyno hyfforddiant gorfodol i lywodraethwyr. Rhaid i lywodraethwyr feddu ar wybodaeth er mwyn cyflawni eu swydd yn effeithiol. Y meysydd cyntaf y mae’r Gweinidog Addysg yn debygol o’u gwneud yn orfodol yw hyfforddiant sefydlu i lywodraethwyr newydd, hyfforddiant i gadeiryddion llywodraethwyr, a hyfforddiant ar ddeall a defnyddio data perfformiad ysgolion. Yn Abertawe, mae llywodraethwyr newydd bob amser wedi cael gwahoddiad i ddod i sesiwn hyfforddi i’w cyflwyno i rôl llywodraethwr, ond mae presenoldeb yn y sesiwn bob amser wedi gorfod dibynnu ar frwdfrydedd yr unigolyn newydd ei benodi/ethol. Yn y dyfodol, mae’n ymddangos y bydd rhaid derbyn hyfforddiant sefydlu fel amod derbyn swydd fel llywodraethwr. Mae hyfforddiant i gadeiryddion llywodraethwyr wedi cael ei gynnig ar sawl achlysur yn Abertawe yn y gorffennol, ac er bod adborth bob amser wedi bod yn gadarnhaol, mae presenoldeb wedi bod yn siomedig iawn. Roedd Abertawe wedi cydnabod bod hyfforddiant deall data ysgolion yn hanfodol i lywodraethwyr allu cyflawni eu rolau a’u cyfrifoldebau yn gywir wrth wella safonau cyflawni disgyblion cyn i Lywodraeth Cymru grybwyll y peth. Wrth hyrwyddo’r safonau addysgol uchaf, rhaid i lywodraethwyr fod yn rhan o gynllun datblygu’r ysgol a chytuno arno. Er mwyn gwneud hyn yn effeithiol, rhaid i gyrff llywodraethu ddefnyddio data ar berfformiad ysgolion yn rheolaidd a chyda dealltwriaeth. Mae hon yn rôl y mae’n rhaid i’r corff llywodraethu ei rhannu gyda’r pennaeth, gyda’r corff llywodraethu fel ffrind beirniadol yn holi cwestiynau heriol, treiddiol. Rhaid i arolygwyr A CITY AND COUNTY OF LEARNING • DINAS A SIR O DDYSG
bellach? ysgolion werthuso faint mae llywodraethwyr yn ei wybod am berfformiad yr ysgol, a pha mor dda mae’r llywodraethwyr yn sicrhau bod yr ysgol yn atebol am y safonau a’r ansawdd mae’n eu cyflawni. Yn y dyfodol, bydd y mesur hefyd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i gynnig gwasanaeth clerc i gyrff llywodraethu. Bydd cyrff llywodraethu yn gallu parhau i wneud eu trefniadau eu hunain os byddant yn dymuno. Bydd ALlau yn gallu codi tâl am unrhyw wasanaeth maent yn ei ddarparu. Gosodir safon Cymru gyfan mewn rheoliadau, a bydd rhaid rhoi hyfforddiant i glercod lywodraethwyr er mwyn cyrraedd y safon honno. Ar hyn o bryd, yn Abertawe, mae pob clerc newydd yn cael cynnig hyfforddiant, ac mae fforwm yn cael ei drefnu i hysbysu clercod am ddatblygiadau newydd, newidiadau i reoliadau etc. Y meysydd eraill sydd wedi’u cynnwys yn y mesur yw cydweithredu ar draws ALlau ac ysgolion er mwyn defnyddio adnoddau cyhoeddus yn fwy effeithlon ac effeithiol. Ceir cynigion i ddarparu gwasanaeth a rennir ar draws Castell-nedd Port Talbot, Sir Gâr, Sir Benfro, Ceredigion, Powys ac Abertawe ar gyfer rhai cyrsiau hyfforddi a datblygu llywodraethwyr a chefnogaeth mewn ysgolion. Byddai gwasanaeth ALl craidd ar gyfer hyfforddiant, recriwtio a chlercod pellach i lywodraethwyr yn gyfrifoldeb i’r awdurdodau unigol. Mae’r mesur hefyd yn rhoi grym i ALlau drefnu ffederasiynau ysgolion i ysgogi gweithio ar y cyd, rhannu adnoddau, arweinyddiaeth unedig ar draws sawl ysgol a chryfhau llywodraethu. Bydd yr holl newidiadau sydd wedi’u hamlinellu yn y mesur yn eu lle erbyn mis Medi 2012.
Jain Watkins Rheolwr Yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr
A CITY AND COUNTY OF LEARNING • DINAS A SIR O DDYSG
Fforwm Cyllideb Ysgolion a Chyllidebau Ysgol Nid yw’r fforwm Cyllideb Ysgolion wedi cwrdd ers i mi roi’r newyddion diweddaraf yn Nhymor y Gwanwyn, ond nid yw hyn yn golygu nad oes dim gwaith yn mynd ymlaen yn y cefndir! Mae grŵp cyllid ar y cyd o benaethiaid ysgolion cynradd ac uwchradd a Swyddogion yr Awdurdod wedi bod yn cwrdd, bron yn wythnosol, i edrych ar y pwysau cyllidol sydd i ddod i’r Adran Addysg, ac opsiynau i leihau’r pwysau. Mae’r prif ffocws wedi bod ar lefelau dirprwyo i ysgolion. Mae gweinidogion Cymru yn awyddus i godi canran y Gyllideb Addysg a ddirprwyir i ysgolion – o’r 74% presennol i 85% yn y blynyddoedd nesaf. Daw cyfrifoldebau ychwanegol law yn llaw â dirprwyo ychwanegol wrth gwrs! Fel y gwyddoch, fwy na thebyg, bwriedir dirprwyo swm ychwanegol sylweddol (ychydig dros £6m) ym mis Ebrill 2012, pan ddirprwyir y gyllideb ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion dwys a chymhleth i ysgolion. Cafwyd eisoes ymgynghoriad trwyadl ar y mater gydag ysgolion a llywodraethwyr ac
fe fydd hefyd yn rhan o ymgynghoriad ar newidiadau i fformiwla ariannu ar gyfer cyllidebau 2012/2013. Bydd y Fforwm Cyllideb Ysgolion yn cwrdd ym mis Medi a bydd yn edrych ar y dirprwyo ychwanegol hyn yn ogystal ag unrhyw newidiadau arfaethedig eraill a gaiff eu hawgrymu ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf. Bydd cyfarfod fforwm Tymor yr Hydref yn dechrau ar y dasg o baratoi ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Diogelwyd cyllid ysgolion gan y Gweinidog a gallwn felly ddisgwyl cynnydd cyffredinol o 1.58% o leiaf i ysgolion y flwyddyn nesaf (cyn unrhyw ddirprwyo ychwanegol). Os oes gennych ymholiadau cyffredinol, siaradwch â’ch pennaeth neu finnau. Cofiwch hefyd am y cwrs Cyllid ar gyfer Llywodraethwyr a gynhelir yn nhymor y gwanwyn!
Kelly Small Rheolwyr Cyllid a Gwybodaeth Ysgolion Ffôn: 636686 kelly.small@swansea.gov.uk
A CITY AND COUNTY OF LEARNING • DINAS A SIR O DDYSG
Derbyniadau Canoleg Ar-lein Fel y gwyddoch efallai, mae’r Awdurdod Lleol wedi penderfynu gweithredu system dderbyn ganolog ar-lein i ddelio â phob cais am le ysgol o fewn Dinas a Sir Abertawe. Bydd y system yn weithredol o Dymor yr Hydref 2011 er mwyn hwyluso’r broses o dderbyn disgyblion i ysgolion uwchradd yn Abertawe ar gyfer Medi 2012. Bydd ffurflenni cais ar gael ar y rhyngrwyd i rieni a bydd modd eu hanfon ar-lein yn uniongyrchol i’r Uned Ysgolion a Llywodraethwyr. Caiff y system ei ymestyn i gynnwys derbyniadau i ysgolion cynradd erbyn Medi 2013. Mae’n anodd gwybod yn gywir faint o rieni sydd yn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein ar hyn o bryd, felly mae trefniadau ar y gweill i helpu rhieni nad ydynt efallai yn ddigon hyderus i gwblhau cais arlein neu rieni sydd heb fynediad i’r rhyngrwyd. Bydd staff sydd yn gweithio yn y Ganolfan Gyswllt yn y Ganolfan Ddinesig yn cael eu hyfforddi i gynnig cymorth i rieni sydd am
alw’r Ganolfan er mwyn cwblhau a chyflwyno ffurflenni cais. Gobeithir hefyd hyfforddi staff sydd yn gweithio mewn llyfrgelloedd ar draws Abertawe i helpu rhieni sydd am gwblhau a chyflwyno ffurflenni cais yn eu llyfrgell leol. Bwriedir hefyd hyfforddi staff gweinyddol ysgolion er mwyn iddynt allu helpu rhieni sydd angen cymorth i gael hyd i’r ffurflenni cais, eu cwblhau a’u dychwelyd.
Os oes gennych gwestiynau cyffredinol, cysylltwch â Claire Davies Swyddog Derbyn Ysgolion Ffôn: 01792 635381 neu drwy e-bost claire.davies3@Swansea.gov.uk
A CITY AND COUNTY OF LEARNING • DINAS A SIR O DDYSG
Dyddiadau Tymhorau a Gwyliau Ysgolion 2011/2012 Tymor
Tymor yn Dechrau
Tymor yn Gorffen
Yr Hydref Dydd Gwener Dydd Gwener 2011 2 Medi 21 Hydref 36 Y Gwanwyn Dydd Llun Dydd Gwener 2012 9 Ionawr 10 Chwefror 25 Yr Haf Dydd Llun Dydd Gwener 2012 16 Ebrill 1 Mehefin 34 Gwyliau Banc 6 Ebrill 2012 9 Ebrill 2012 7 Mai 2012
Gwener y Groglith Llun y Pasg Gwyl Banc Calan Mai
Gwyliau Hanner Tymor Dechrau Gorffen
Tymor yn Dechrau
Tymor yn Gorffen
Cyfanswm Diwrnodau Fesul Tymor
Dydd Llun Dydd Gwener Dydd Llun Dydd Iau 24 Hydref 28 Hydref 31 Hydref 22 Rhagfyr 39 Dydd Llun Dydd Gwener Dydd Llun Dydd Gwener 13 Chwefror 17 Chwefror 20 Chwefror 30 Mawrth 30 Dydd Llun Dydd Gwener Dydd Llun Dydd Gwener 4 Mehefin 8 Mehefin 11 Mehefin 20 Gorffennaf 30 CYFANSWM
75
55
64 194
4 Mehefin 2012 Gwyl Banc y Gwanwyn 5 Mehefin 2012 Gwyl Banc Ychwanegol
Dyddiadau Tymhorau a Gwyliau Ysgolion 2012/2013 Tymor
Tymor yn Dechrau
Tymor yn Gorffen
Yr Hydref 2012
Dydd Llun Dydd Gwener 3 Medi 26 Hydref 40 Y Gwanwyn Dydd Llun Dydd Gwener 2013 7 Ionawr 8 Chwefror 25 Yr Haf Dydd Llun Dydd Gwener 2013 15 Ebrill 24 Mai 29 Gwyliau Banc 29 Mawrth 2013 Gwener y groglith 1 Ebrill 2013 Llun y Pasg
Gwyliau Hanner Tymor Dechrau Gorffen
Tymor yn Dechrau
Tymor yn Gorffen
Cyfanswm Diwrnodau Fesul Tymor
Dydd Llun Dydd Gwener Dydd Llun Dydd Gwener 29 Hydref 2 Tachwedd 5 Tachwedd 21 Rhagfyr 35 Dydd Llun Dydd Gwener Dydd Llun Dydd Iau 11 Chwefror 15 Chwefror 18 Chwefror 28 Mawrth 29 Dydd Llun Dydd Gwener Dydd Llun Dydd Mawrth 27 Mai 31 Mai 3 Mehefin 23 Gorffennaf 37 CYFANSWM 6 Mai 2013 Gwyl Banc Calan Mai 27 Mai 2013 Gwyl Banc y Gwanwyn
75
54
66 195