SWANSEA | THEATR Y
GRAND THEATRE | ABERTAWE eg Rhifyn Cymra
2016 Hydref Gaeaf
01792 475715
www.swanseagrand.co.uk
‘A STUNNING PRODUCTION.
FABULOUS FROM BEGINNING TO END. DESERVES TO BE ONE OF YOUR FAVOURITE THINGS’ DAILY ECHO
LUCY E O’BYRNp Runner U in last year’s THE VOICE as Maria
and
Bill Kenwright presents A NEW PRODUCTION OF
THE SOUND OF MUSIC Music by
TV ’s awardwinning ANDREW LANCEL as CAPTA IN VON TRAPP
Lyrics by
RICHARD
OSCAR
RODGERS HAMMERSTEIN II Book by
HOWARD and RUSSEL LINDSAY CROUSE Suggested by ‘The Trapp Family Singers’ by Maria Augusta Trapp Presented by special arrangement with R&H Theatricals Europe www.rnh.com
‘LUCY O’BYRNE IS QUITE POSSIBLY THE BEST MARIA SINCE JULIE ANDREWS HERSELF’ THE SCOTSMAN
Perfformiad â disgrifiad sain Iau 25 Awst 2.30pm
‘A REAL JOY’
‘HEAVENLY’
THE STAGE
EVENING NEWS
Mae un o’r sioeau cerdd gorau erioed yn dychwelyd i’r llwyfan mewn cynhyrchiad newydd gwych i swyno’r rhai ifanc a’r rhai sy’n teimlo’n ifanc. Mae’r cynhyrchiad ysblennydd newydd hwn yn adrodd hanes y von Trappiaid, teulu o gantorion byd-enwog, ar ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf
‘BRILLIANT’ THE MAIL
Mae LUCY O’BYRNE, yn syth o’i llwyddiant ar raglen y BBC The Voice, yn chwarae rôl Maria. Daeth yn ail yn y gystadleuaeth yn 2015, gan syfrdanu’r wlad gydag amrediad trawiadol ei llais. Mae ANDREW LANCEL, actor arobryn a blaenllaw o’r byd teledu a theatr, yn chwarae’r cymeriad hoenus, Capten von Trapp. Enillodd Lancel, sydd fwyaf adnabyddus am ei rôl fel y dihiryn o ddyn busnes, Frank Foster, yn Coronation Street a DI Neil Manson yn The Bill, glod y beirniaid am ei brif rôl yn y cynhyrchiad West End, Epstein - The Man Who Made the Beatles. Mae’r sgôr gofiadwy’n cynnwys rhai o’r caneuon mwyaf bytholwyrdd sydd wedi cael eu perfformio erioed megis Edelweiss, Do-Re-Mi, Climb Ev’ry Mountain a The Sound of Music. Maw 23 Sad 27 Awst 7.30pm, sioe brynhawn Mer, Iau a Sad 2.30pm
£19.50 - £39.50*
Cynnig 2 am 1 ar gyfer y noson agoriadol (mae amodau a thelerau’n berthnasol) Cynnig hanner pris am blentyn ar gyfer perfformiadau a seddi dethol Mae consesiynau dethol ar gael ar gyfer perfformiadau dethol
Iau 1 Medi a Gwe 2 Medi 7.30pm
Sioe brynhawn Gwe 2.00pm a 7.30pm
Rumpus Theatre Company yn cyflwyno
RAFFLES THE MYSTERY OF THE MURDERED THIEF Drama lofruddiaeth gyffrous lle mae Harry “Bunny” Manders yn sicr bod ei gydbechadur gynt, y craciwr coffrau bonheddig A J Raffles, wedi boddi wrth iddo ddianc o ladrad mentrus ar long fawr drawsiwerydd. Ond mae ymateb i hysbyseb mewn papur newydd yn datgelu sefyllfa hollol wahanol… Gydag Ian Sharrock (Jackie Merrick yn Emmerdale a Jed Maxwell yn I’m Alan Partridge) fel Bunny.
£10.00 - £17.50* Mae consesiynau dethol ar gael
www.swanseagrand.co.uk
01792 475715
Sad 3 Medi 7.00pm a 10.00pm
16+
Mae Jimmy yn casglu detholiad o’i jociau gorau yn ogystal â deunydd newydd sbon ar gyfer y sioe gomedi orau oll. Ac yntau’n ddyn sydd wedi ymroi trwy’i oes i lunio’r jociau perffaith ac sydd wedi gadael miri mawr ar ei ôl, bydd taith newydd Jimmy Carr yn crynhoi popeth rydym yn hoffi chwerthin a synnu arno mewn un noson anhygoel o adloniant heb ei ail.
£28.00*
The King Gwe 9 Medi 7.30pm Is Back Ac yntau wedi ennill bri rhyngwladol fel un o berfformwyr teyrnged gorau’r byd i Elvis, mae Ben Portsmouth yn gerddor, yn ganwr ac yn gyfansoddwr caneuon amryddawn. Yn 2012 cyflawnodd Ben gamp hanesyddol pan enillodd ‘Ultimate Elvis Tribute Artist Contest’ Elvis Presley Enterprises, a gynhaliwyd ym Memphis lle coronwyd Ben yn “Worldwide Ultimate Elvis Tribute Artist”.
£22.50 a £24.50* *Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer. Codir ffi am gadw lle ar-lein.
Scamp Theatre a Freckle Productions yn cyflwyno
O’r llyfr gan Julia Donaldson wedi’i ddarlunio gan Axel Scheffler, a oedd yn gyfrifol am Y Gryffalo
Maw 6 Medi 4.30pm Mer 7 Medi 11.00am a 4.30pm
3+
Mae addasiad swynol Scamp Theatre o’r llyfr hynod boblogaidd i blant gan Julia Donaldson ac Axel Scheffler, STICK MAN, yn dod i Abertawe! Yn deimladwy, yn ddoniol ac yn gwbl wreiddiol, mae’r cynhyrchiad arobryn hwn yn cynnwys tri actor blaenllaw ac mae’n llawn pypedwaith, caneuon, cerddoriaeth fyw a symudiadau ffynci.
“Zesty and delightful. A clever compelling treat.” The Independent Oedolion £14.50, Plant £12.50, Tocyn teulu (4) £47.00*, Ysgolion £9.00 Prynwch 10 a chael 1 am ddim Stick Man © 2008 Julia Donaldson and Axel Scheffler. Published by Alison Green Books, an imprint of Scholastic Children’s Books.
www.swanseagrand.co.uk
01792 475715
Iau 8 Medi 7.30pm
Gyda chast penigamp ac i gyfeiliant cerddorfa fawr fyw gyda mwy na 30 o gerddorion. O ran trasiedi a thristwch, nid oes opera tebyg i Madam Butterfly gan Puccini. Gwnaeth y stori hon am gariad trychinebus rhwng is-gapten llynges o America a’i wraig ifanc o Siapan ysbrydoli Puccini i gyfansoddi ychydig o’i gerddoriaeth harddaf a godidocaf. Oherwydd cynllun ein lleoliad, nid oes modd gweld yr uwchdeitlau bob amser o rai seddi. Holwch staff y Swyddfa Docynnau ynglyˆn â hyn wrth gadw lle.
£24.50 - £31.50* Mae consesiynau dethol ar gael *Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer. Codir ffi am gadw lle ar-lein.
‘THE BIGGEST LIVE THEATRE SENSATION OF ALL TIME’ THE OBSERVER
12+
THE RECORD-BREAKING INTERNATIONAL SENSATION THE RECORD-BREAKING INTERNATIONAL SENSATION
Dewch i gael amser eich bywyd gyda’r profiad bywyd gorau oll: Dirty Dancing - The Classic Story on Stage. Yn llawn angerdd a rhamant, cerddoriaeth wefreiddiol a dawnsio hynod rywiol, mae’r sioe gerdd sydd wedi torri recordiau hyd yn oed yn well nag erioed o’r blaen yn y cynhyrchiad newydd sbon hwn. Mae stori glasurol am Baby a Johnny yn dychwelyd, gan ddilyn dau gyfnod llewyrchus yn y West End a dwy daith lwyddiannus ledled y DU, gan gynnwys y caneuon poblogaidd ‘Hungry Eyes’, ‘Hey! Baby’, ‘Do You Love Me?’ a’r ffefryn mawr ‘LUCY‘(I’ve O’BYRNE IS QUITE POSSIBLY Had) The Time Of My Life’ THE
BEST MARIA SINCE JULIE ANDREWS HERSELF’ THE SCOTSMAN
Perfformiad â dehongliad Iaith Arwyddion Iau 15 Medi 7.30pm
+++++
‘THE STAGE VERSION OF THE FILM IS ELECTRIC’ BIRMINGHAM MAIL
+++++ +++++
‘FABULOUS’ ‘REMARKABLE’ BRISTOL POST
EDINBURGH EVENING NEWS
Llun 12 - Sad 17 Medi Llun - Iau 7.30pm, Gwe 5.30pm a 8.30pm, Sad 2.30pm a 7.30pm
£26.50 - £60.50*
Cynnig y noson agoriadol: £5.00 oddi ar bob tocyn (mae amodau a thelerau’n berthnasol) Mae consesiynau dethol ar gael ar gyfer perfformiadau dethol
Maw 20 - Sad 24 Medi 7.30pm, sioe brynhawn Iau a Sad 2.30pm
Mae David Preston yn dod adref o’r gwaith am 7pm yn ôl yr arfer i ganfod bod 24 awr wedi mynd heibio ac mae bellach yn ddiwrnod yn hwyrach nag yr oedd yn meddwl. Gan ddioddef o amnesia, mae’n debyg, mae ef a’i wraig sydd eisoes wedi’i chythruddo yn cael sioc arall pan fo tystiolaeth i’w chael sy’n dangos mai ef sy’n gyfrifol am lofruddiaeth a gyflawnwyd yn ystod yr amser nad yw’n gallu rhoi cyfrif amdano. www.eliteproductionslimited.co.uk
£13.00 - £20.50* Cynnig 2 am 1 ar gyfer y noson agoriadol (mae amodau a thelerau’n berthnasol) Mae consesiynau dethol ar gael
www.swanseagrand.co.uk
01792 475715
Sad 10 Medi 7.30pm The Sir Harry Secombe Trust yn cyflwyno
SHOWSTOPPERS Yn dilyn ei lwyddiant diweddar gyda Fame ac Aladdin, mae’r cwmni theatr ieuenctid arobryn hwn yn dychwelyd i lwyfan Theatr y Grand, Abertawe gyda noson o ffefrynnau theatr gerdd. Dewch i fwynhau caneuon a golygfeydd o sioeau poblogaidd y West End megis Matilda, The King and I, Priscilla, Mamma Mia a The Hunchback of Notre Dame, a llawer mwy o ffefrynnau.
£8.00 - £12.50* Mae consesiynau dethol ar gael
Maw 27 Medi 7.30pm Yn dathlu 40 mlynedd ers eu halbwm arloesol, Sheet Music, a oedd yn cynnwys y gân The Wall Street Shuffle, a gyrhaeddodd y 10 uchaf. Dan arweiniad cydsylfaenydd 10cc, Graham Gouldman, mae’r hanner cyntaf yn cynnwys Sheet Music yn ei gyfanrwydd. Mae’r ail ran yn cynnwys detholiad cynhwysfawr o’r 11 o ganeuon y band a gyrhaeddodd y 10 uchaf a mwy, gan gynnwys eu tair cân rhif 1: I’m Not In Love, Dreadlock Holiday a Rubber Bullets.
£31.00 a £33.00* *Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer. Codir ffi am gadw lle ar-lein.
Mer 28 Medi 8.00pm
JOSH WIDDICOMBE
14+
What Do I Do Now... Mae Josh Widdicombe, hwnnw o’r sioeau comedi teledu gyda’r gwallt cyrliog, yn ôl gyda thaith newydd sbon. Ers cael seibiant o gomedi lwyfan, mae Josh wedi bod yn gweithio’n galed ar bethau eraill ond peidiwch â phoeni, mae wedi dod o hyd i lawer o fân bethau sy’n ei gynhyrfu ac nawr mae cyfle ganddo i siarad amdanyn nhw ar y llwyfan (ar ffurf jociau).
£18.50*
Iau 29 Medi 7.30pm
Dathliad trawiadol o gerddoriaeth a bywyd un o gantorion gorau ein hoes. Mae’r seren newydd y West End, Rebecca Freckleton, yn rhoi perfformiad syfrdanol. Gan fynd â ni ar daith hudol llawn troeon trwy dri degawd o ganeuon poblogaidd: I Wanna Dance With Somebody, I’m Every Woman, I Will Always Love You a llawer mwy.
£20.00 a £22.00* www.swanseagrand.co.uk
01792 475715
MOON RIVER AND ME TEYRNGED I ANDY WILLIAMS GYDA JIMMY OSMOND
Gwe 30 Medi 7.30pm
Yn syth o UDA, dyma’r unig sioe deyrnged swyddogol i Andy Williams, gyda Jimmy Osmond. Mae’r sioe newydd sbon hon yn llawn cerddoriaeth arobryn, clipiau ffilm o’r gorffennol ac atgofion arbennig o Andy Williams yn cyffwrdd â’ch calon. Dechreuodd Jimmy Osmond ei yrfa berfformio’n 3 oed gydag Andy Williams ar ei gyfres deledu. Mae eleni’n hanner can mlynedd ers i Jimmy ddechrau yn y byd adloniant.
£28.00 a £30.50* Mae consesiynau dethol ar gael
Sad 1 Hyd 8.00pm
£20.50* Mae consesiynau dethol ar gael
16+
Mae Puppetry of the Penis bellach wedi cael ei chyflwyno i’r rhan fwyaf o’r Byd Gorllewinol a’i pherfformio mewn 6 iaith. Mae dau ddyn sydd bron yn noethlymun (maen nhw’n gwisgo esgidiau) yn ystumio eu taclau gan ddefnyddio celf hynafol origami’r organau cenhedlu, gan gyflwyno amrywiaeth hynod ddoniol o ffurfiau a dynwarediadau i’r gynulleidfa a ddangosir ar sgrîn fideo anferth. Nid sioe rywiol yw hon ac nid yw’n cynnwys noethni blaen llwyr dynion.
*Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer. Codir ffi am gadw lle ar-lein.
FOLLOWING TEN YEARS OF THE AGATHA CHRISTIE THEATRE COMPANY BILL KENWRIGHT PRESENTS
GARY MAVERS ALEX FERNS · SUSIE AMY ANITA HARRIS · MARK WYNTER LAUREN DRUMMOND AND BEN NEALON IN
ADAPTED FOR THE STAGE BY DAVID ROGERS
DIRECTED BY ROY MARSDEN
‘KEEPS YOU ON THE EDGE OF YOUR SEAT’ MAIDENHEAD ADVERTISER
www.swanseagrand.co.uk
01792 475715
A NEW CHAPTER - FROM THE WRITERS OF MURDER, SHE WROTE Yn dilyn degawd o lwyddiant anhygoel Cwmni Theatr Agatha Christie, a werthodd dros 2 filiwn o docynnau ac a berfformiodd i theatrau llawn ledled y DU, mae Bill Kenwright yn cyflwyno cynhyrchiad newydd gan dıˆm ysgrifennu talentog arobryn Levinson and Link. Ymhlith y cast o sêr mae’r eilun teledu GARY MAVERS o Peak Practice a Casualty ac yn syth o chwarae’r Gordon Livesy drygionus yn Emmerdale. Mae’r actor blaenllaw y llwyfan a’r teledu, ALEX FERNS, a afaelodd yn y gynulleidfa wrth chwarae rôl y dihiryn Trevor Morgan yn Eastenders, yn ymuno â SUSIE MAY sydd fwyaf adnabyddus am chwarae Chardonnay yng nghyfres ITC Footballers’ Wives. Yn ymuno â’r rhain bydd yr actores ANITA HARRIS yr oedd ei ffilmiau’n cynnwys y gyfres Carry On, y cyn-eilun pop MARK WYNTER, sydd wedi ymddangos mewn dim llai na saith o gynhyrchiad Cwmni Theatr Agatha Christie, LAUREN DRUMMOND o Holby City a BEN NEALON o ddrama arobryn ITV, Soldier Soldier. Mae calon y dramodydd Alex Dennison yn torri pan gaiff corff Monica Welles, ei ddyweddi a’i brif actores, ei ddarganfod a hithau wedi marw ar ôl lladd ei hun, mae’n debyg. Flwyddyn yn unig ers y noson dyngedfennol honno, mae Alex yn galw’r un cast a chriw ynghyd yn yr un theatr ar gyfer darlleniad o’i ddrama newydd. Ond wrth i’r darlleniad ddechrau, mae’n dod yn amlwg bod Alex yn credu y cafodd Monica ei llofruddio ac mae’n bwriadu dod o hyd i’w llofrudd.
‘AN EVENING THAT WILL HAVE YOU CLAMOURING FOR MORE’ ESSENTIAL SURREY
Llun 3 - Sad 8 Hyd 7.30pm, sioe brynhawn Iau a Sad 2.30pm Perfformiad â disgrifiad sain Iau 6 Hyd 2.30pm
£12.50 - £26.50*. Cynnig y noson agoriadol: 2 am 1 (mae amodau a thelerau’n berthnasol)
Mae consesiynau dethol ar gael ar gyfer perfformiadau dethol *Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer. Codir ffi am gadw lle ar-lein.
Llun 10 Hyd 7.30pm
£22.50* Mae consesiynau dethol ar gael
Mae TUKUO yn cyfuno eu cymysgedd cwbl unigryw o harmonı¨au lleisiol â’u fersiwn hwy o hiwmor nodweddiadol Brydeinig, trefniannau hynod feiddgar a dyfeisgar a sain anghredadwy eu hoff offeryn bach. Mae’r sioe yn cyfuno cerddoriaeth o Mozart i Monty Python, o Bach i’r Beatles, mewn modd dyheuig.
Iau 13 Hyd 7.30pm
THE ELIS 14+ JAMES a JOHN ROBINS EXPERIENCE Oners! Retro Oners! PCDs! O’r diwedd, dyma gyfle i deimlo’r cyffro gwirioneddol! Mae Elis James a John Robins yn mynd â’u podlediad ar daith! Mae Elis, “Cymro hamddenol, cyffredin sy’n dwlu ar bêl-droed” (Buzzfeed), a John a’i “ysfa rywiol isel” (The Independent) yn cymysgu nodweddion cyfarwydd, a rhai trıˆts arbennig.
£18.00* www.swanseagrand.co.uk
01792 475715
Maw 11 Hyd a Mer 12 Hyd 6.00pm 1.00pm a 6.00pm
Mae bachgen sy’n boddi yn cael ei achub gan ffigwr dirgel sy’n honni mai Arthur Pendragon ydyw. Wrth i’r hen ddyn adrodd ei straeon, caiff y bachgen ei gludo’n ôl i ddyddiau gwyllt Camelot, y Ford Gron, Myrddin a Chaledfwlch. Ymunwch â’r Story Pocket Theatre arobryn wrth iddynt ddod â’r straeon cyffrous hyn yn fyw gyda cherddoriaeth, hud a lledrith ac adrodd straeon rhagorol.
£11.50, Tocyn teulu (4) £40.00*, Ysgolion £6.50 y disgybl (athrawon am ddim) *Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer. Codir ffi am gadw lle ar-lein.
£18.50 ac £20.50*
Gwe 14 Hyd 7.30pm
Mae consesiynau dethol ar gael
An Evening with Des O’Connor Un o berfformwyr gorau’r DU erioed, dyma Des O’Connor, yn ei sioe newydd sbon i ddathlu ei yrfa ar y llwyfan a’r teledu. Mae Des yn difyrru yn ei ffordd unigryw ei hun wrth adrodd straeon lliwgar am y personoliaethau enwog mae wedi rhannu’r llwyfan â nhw, gan gynnwys Barbra Streisand, Morecambe a Wise, Oliver Reed, Will Smith a Robert Redford.
Llun 24 a Maw 25 Hyd 7.30pm
Mae consesiynau dethol ar gael. Rhwng 1965 a 1968, nid oedd rhaglen radio fwy poblogaidd ym Mhrydain na’r sioe arloesol Round the Horne. Dewch i ymuno â’r direidi wrth i Kenneth Horne a’i griw bywiog gael eu hatgyfodi ar y llwyfan yn fyw i ddathlu 50 mlynedd o chwerthin di-dor.
£16.50* Mae consesiynau dethol ar gael
www.swanseagrand.co.uk
01792 475715
Sad 15 Hyd 7.30pm
BALLET CYMRU yn cyflwyno
ROMEO A JULIET Enillydd Cynhyrchiad Dawns Graddfa Fawr Gorau yng Ngwobrau Beirniaid Cymru 2014.
From forth the fatal loins of these two foes A pair of star-crossed lovers take their life Addasiad arbennig o gampwaith Shakespeare, Romeo a Juliet, gydag ymladd dwys, deuawdau brwd a themâu cyffredinol sy’n atseinio trwy goreograffi dramatig a thelynegol. Mae gwisgoedd cain a thafluniadau fideo’n creu byd o berygl a chyffro lle mae dau garwr yn cael eu dal mewn gelyniaeth oesol
£8.50 - £14.50* Mae consesiynau dethol ar gael *Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer. Codir ffi am gadw lle ar-lein.
Sioe gerdd roc a rôl fwyaf llwyddiannus y byd Maw 18 - Sad 22 Hyd 7.30pm, sioe brynhawn Mer a Sad 2.30pm
Llwyddiant y West End Anghofiwch deimlo’n dda, bydd Buddy - The Buddy Holly Story yn gwneud i chi DEIMLO’N WYCH! Dewch i fwynhau’r ddrama, yr angerdd a’r cyffro wrth i gast o actorion a cherddorion hynod dalentog adrodd stori Buddy Holly. Gyda dwy awr wych o’r caneuon gorau a gyfansoddwyd erioed, gan gynnwys That’ll Be The Day, Oh Boy, Rave On a llawer, llawer mwy, mae’r sioe hon yn anhygoel.
£13.00 - £30.00* Cynnig y noson agoriadol: pob tocyn £20 (mae amodau a thelerau’n berthnasol) Mae consesiynau dethol ar gael ar gyfer perfformiadau dethol
www.swanseagrand.co.uk
01792 475715
Mer 26 Hyd
14+
7.30pm
Gan John Godber. Cyfarwyddwr Richard Tunley. Gyda Gareth John Bale, Sam Davies, Ross Ford a Morgan Hopkins fel Lucky Eric Dewch i gwrdd â Les, Judd, Ralph a Lucky Eric, dryswyr clwb nos lleol, wrth iddynt baratoi ar gyfer cyrch o feddwdod nos Wener. Mae dynion yn chwilio am ferched, merched yn chwilio am ddiod, ac mae’r cwrw’n llifo’n ddi-baid...
£15.50* Mae consesiynau dethol ar gael
Llun 31 Hyd THE CHINESE STATE CIRCUS 7.30pm
DYNASTY Mae dros 2000 mlynedd o gelfyddyd a cherddoriaeth yn dod ynghyd mewn perfformiad anhygoel i’r teulu cyfan. Gyda chwmni o 30 o acrobatiaid, dawnswyr a cherddorion o Tsieina yn ogystal â’r Rhyfelwyr Shaolin byd-enwog.
Oedolion £25.50, Plant £10.50, Tocyn teulu (4) £61.00* Mae consesiynau dethol ar gael *Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer. Codir ffi am gadw lle ar-lein.
Iau 27 - Sad 29 Hyd 7.30pm, sioe brynhawn Sad 2.00pm
Gyda Stephen Beckett (The Bill, Coronation Street) a Leah Bracknell (Emmerdale) Cwmni cyhoeddi llenyddiaeth ffeminyddol yw ‘Love Is All Around’ lle mae Harriet Copeland yn cynnal cystadleuaeth i ddod o hyd i ffuglen ramantus; ei arwyddair yw ‘For Women By Women’. Mae Leonard Loftus yn gorfod cyflwyno ei nofel dan ffugenw menyw, Myrtle Banbury. Mae’r nofel yn creu argraff ar Harriet sy’n mynnu cwrdd â Myrtle er mwyn cyflwyno’r wobr. Nid oes angen dweud mai comedi ac anhrefn yw’r canlyniad.
£9.50 - £16.00*. Cynnig y noson agoriadol: 2 am 1 (mae amodau a thelerau’n berthnasol) Mae consesiynau dethol ar gael
www.swanseagrand.co.uk
01792 475715
Mer 2 Tach 7.30pm
£30.00* 18+
Nid perfformiad cyngerdd yn unig yw the Kevin Bloody Wilson show. I’r rhan fwyaf, digwyddiad gwefreiddiol ydyw i chi ei groesi oddi ar eich rhestr fwced a chyfle i weld digrifwr rhyngwladol mwyaf nodedig Awstralia. Yng ngeiriau Billy Connolly, “The world’s funniest Australian.” Iau 3 Tach 7.30pm
ISLANDS IN THE STREAM THE DOLLY PARTON & KENNY ROGERS STORY Dathliad o frenhines a brenin canu gwlad a gwerin, Dolly Parton a Kenny Rogers. Yn llawn clasuron canu gwlad a gwerin: Jolene, Ruby, Lucille, Coward of the County a Lady. Mae perfformiadau syfrdanol yn adrodd hanes y ferch fferm syml o’r Smoky Mountains ar ei thaith i enwogrwydd fel seren enwocaf canu gwlad a gwerin.
£22.50* *Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer. Codir ffi am gadw lle ar-lein.
Gwe 4 Tach 7.30pm
Mae 10fed parti penblwydd y sioe boblogaidd hon yn dathlu 50 mlynedd o’r gân rhif un, Reach Out, I’ll Be There. Mae’r hanes o gewri Motown – y Four Tops, y Supremes, y Temptations, y Jackson 5, yr Isley Brothers, Stevie Wonder, Diana Ross a mwy – yn parhau.
£24.00* Sad 5 Tach 2.00pm a 7.30pm
£12.50 - £24.00* Mae consesiynau dethol ar gael
Dewch i fwynhau sain eiconig Valli a The Four Seasons, cyflwyniad Frankie Shoreline Theatre, sydd wedi’i hailgreu yn agos at y gwreiddiol gan gast gogoneddus a band byw penigamp. Mae’r sioe o fri rhyngwladol, Big Girls Don’t Cry, yn ail-greu harmonı¨au hyfryd sêr disgleiriaf New Jersey. Mae’n arddangos ffalseti anhygoel Frankie ac mae’n cynnwys ei ganeuon llwyddiannus fel unawdydd gan amrywio o’r caneuon roc a rôl hiraethlon o Grease i ganeuon gwefreiddiol, hynod boblogaidd megis My Eyes Adored You.
www.swanseagrand.co.uk
01792 475715
Adain y Celfyddydau Iau 1 Medi 7.45pm
MOORING LINES O ganeuon môr i’r pantri Cymreig, o’r swrrealaidd i’r dyrchafol; gyda galarnadau am serch, colli ac ergydion emosiynol. Noson o gerddoriaeth a geiriau cyfoethog a rhythmig.
£7.50*
Mer 7 ac Iau 8 Med
ˆ Wyddoniaeth Prydain GWyl Science-ish yn Fyw - Ymunwch â Rick Edwards a Dr Michael Brooks am eu podlediad clodwiw (nos Fercher am 7.30pm). Mae The Great British Brain Off nos Iau am 6.00pm. I gadw lle, ewch i: www.britishsciencefestival.org Am ddim
Mer 21 Sad 24 Medi 7.45pm, sioe brynhawn Iau a Sad 2.00pm Lighthouse Theatre yn cyflwyno
ABERYSTWYTH MON AMOUR Fersiwn newydd i’r llwyfan gan Malcolm Pryce
£11.00 a £12.00* Mae consesiynau dethol ar gael
Mae Louie Knight, ymchwilydd preifat gorau’r byd, ar yr achos. Paratowch i ymweld â byd ‘Noir Cymreig’ yn yr addasiad hwn o’r nofel dditectifgomedi lwyddiannus.
Adain y Celfyddydau Mer 28 - Gwe 30 Medi 7.15pm, sioe brynhawn Iau a Sad 1.00pm Cwmni Theatr Fluellen yn cyflwyno
MACBETH gan William Shakespeare Llofruddiaeth, gwallgofrwydd a dewiniaeth! Pan fo’r tair chwaer ryfedd yn darogan y bydd Macbeth yn frenin yr Alban, i ba raddau gwaedlyd y mae yntau a’i wraig yn barod i sicrhau bod y broffwydoliaeth hon yn dod yn wir?
£8.00 - £10.00* Mae consesiynau dethol ar gael
Gwe 7 Hyd a Sad 8 Hyd 7.00pm
2.00pm a 7.00pm
TONI WISEMAN STAGE SCHOOL Mae Toni Wiseman a’i disgyblion talentog yn eich gwahodd i ddod i gael eich difyrru gan ddawnsio – o fale clasurol i berfformiadau ffynci, modern a theatr gerdd.
Oedolion £8.50, Plant £6.50* Mer 12 Hyd 7.45pm
REVLON GIRL Yn ddrama wreiddiol sydd wedi cael ei seilio ar ddigwyddiadau ynglyˆn â Thrychineb Aberfan yn 1966. Ygrifennwyd y ddrama gan Neil Anthony Docking (Casualty, Emmerdale’) cyfarwyddwyd gan Maxine Evans (Stella). £11.00* Mae consesiynau dethol ar gael
Gwe 14 Hyd 2.00pm
Prynhawn gyda Kev Johns a’i Westeion
Bydd Kev yn cyflwyno ei gymsgedd arebnnig o hiwmor, gan gynnwys ei hunan arall lliwgar, Gladys Heavens. Bydd pobl ifanc leol, hynod dalentog hefyd yn ymuno â Kev.
£8.50*
Mer 19 Hyd
£8.50*
7.00pm
Dathlu Pen-blwydd Paul Johnson yn 40 oed I ddathlu ei ben-blwydd yn 40 oed, bydd enwogion lleol, gan gynnwys Menna Trussler, Rob Knight a Bev Davies, yn ymuno â Paul. Bydd yr holl elw er budd yr Uned Arbennig i Fabanod yn Ysbyty Singleton.
Gwe 21 Hyd 7.15pm
Rebecca Newman Ymunwch â’r soprano clasurol a gyrhaeddodd frig y siartiau clasurol, Rebecca Newman, a’i gwesteion lleol am noson o opera, sioeau a phop. Fel y’i gwelwyd ar daith gyda Russell Watson yn 2015 ac ar y teledu a’r radio cenedlaethol.
£17.50*
Mae consesiynau dethol ar gael
Sad 22 Hyd 7.45pm It’s An Act yn cyflwyno
TWO gan Jim Cartwright Wedi’i leoli mewn tafarn dosbarth gweithio yng nghymoedd De Cymru gyda dau actor yn chwarae rhan pedwar cymeriad ar ddeg. Mae’r ddrama’n troi o gwmpas noson llawn cyffro mewn tafarn.
£10.00*
Mae consesiynau dethol ar gael
Adain y Celfyddydau Iau 27 Hyd 7.45pm
Michael Jackson Tribute Cymerodd ran yn Britain’s Got Talent 2016 a chafodd bedwar “ie” gan y beirniaid! Wedi’i lysenwi’n ‘The Dancing Machine’, mae sioe deyrnged Rory J Jackson yn cynnwys yr holl gyffro, coreograffi, gwisgoedd a dawnsio enwog.
£15.50*
Gwe 28 Hyd 7.45pm
AUSTENTATIOUS Ymunwch â’r cast wrth iddynt berfformio gwaith newydd sbon yn null Jane Austen o flaen eich llygaid, ar sail un awgrym gan aelod o’r gynulleidfa.
£13.00* Llun 7 Tach 8.00pm
Lucy Porter: Consequences Bydd Lucy yn sôn am rai neu bob un o’r canlynol: sensoriaeth, anghydfod rhwng y cenedlaethau, moeseg ddiwinyddol, bragu cartref, cwisiau, Britpop o’r 1990au, heboca a Gary Wilmot.
16+
£14.50*
Mer 9 - Gwe 11 Tach 7.15pm, sioe brynhawn Iau 1.00pm
£8.00 - £10.00*
Mae consesiynau dethol ar gael
Ysgolion £5.50
Cwmni Theatr Fluellen yn cyflwyno
THE TEMPEST gan William Shakespeare
Yng nghanol storm, caiff llong sy’n cludo brenin Napoli a’i fintai ei gwasgaru o gwmpas ynys ddieithr, wrth i Prospero - dyn roedd pawb yn meddwl a oedd wedi marw - ddefnyddio ei hud a lledrith i reoli’r ysbrydion a’r Maw 15 a angenfilod. Mer 16 Tach 7.45pm, sioe brynhawn Mer 2.00pm Lighthouse Theatre yn cyflwyno
Shirley Valentine gan Willy Russell
Gwraig tˆy gyffredin yw arwres y gomedi adnabyddus hon gan Willy Russell. Wrth iddi baratoi cinio, mae’n synfyfyrio am ei bywyd ac am wahoddiad gan ffrind i fynd ar wyliau gyda hi a allai newid ei bywyd am byth.
£11.00 a £12.00*
Mae consesiynau dethol ar gael
Gwe 18 Tach 7.45pm
Terry Christian
16+
Rebel Without Applause Comedi hynod ddoniol llawn agwedd ddrwg yn ail sioe comedi lwyfan Terry. Mae gonestrwydd yn cwrdd â dadlau dibwrpas.
£15.50*
Gwe 25 Tach 8.00pm
MiCHAEL Roberts Album Launch £12.00, £10.50* Consesiynau Bydd Michael Roberts o Abertawe, yn aelod hirsefydlog y band The 15+ Somethings, yn perfformio ei Sad 26 Tach albwm cyntaf Suspended In This Space. 7.30pm
Nish Kumar Mae gweithredoedd yn well na geiriau oni bai eich bod yn gweiddi’r geiriau’n uchel Sioe gomedi am hanes, democratiaeth a chyfalafiaeth. Fel a welwyd ar Live at the Apollo a Have I Got News For You.
£14.50*
Mae consesiynau dethol ar gael
FFOCWS THEATR Mae pob sioe sy’n para awr yn cynnwys sgwrs gan gyfarwyddwr Cwmni Theatr Fluellen, Peter Richards, am ddramodydd mawr cyn rhoi perfformiad o’i waith gyda’r sgript yn y llaw. Sad 3 Medi ARTHUR MILLER gan gynnwys I Can’t Remember Anything Sad 1 Hyd GWYN THOMAS Dathliad gyda darnau o’i ddramâu a’i waith llenyddol, gan gynnwys The Keep Sad 12 Tach J. M. BARRIE gan gynnwys The Old Lady Shows Her Medals
£6.00, £4.50* Consesiynau
Iau: 15 Medi a 17 Tach 1.30pm
Digwyddiadau Rheolaidd
Dawnsio’r Prynhawn
Dewch i ymuno â ni am brynhawn arbennig o ddawnsio dilyniant a neuadd hawdd. Mae croeso i bawb, yn enwedig y rhai dros 50 oed. Bydd lluniaeth ar gael
Sad: 15 Hyd & 17 Rhag
£4.00*
18+ 8.00pm Bluestocking Lounge yn cyflwyno
Burlesque Daisy Black ac Alex McAleer o Thread’s Vauderville Co yn ogystal ag Advotia The Russian Doll drawiadol. Mae mis Rhagfyr yn addo bod yn fis llawn miri masweddus gyda doniau Stage Door Johnny a mwy. Mae Bluestocking Lounge yn cyflwyno Burlesque.
£15.50* Mer: 26 Hyd a 30 Tach 8.00pm Yn chwerthin ers 1999. Dewch i weld sêr comedi’r dyfodol, heddiw! Os yw’n hawdd tramgwyddo yn eich erbyn, cadwch draw! 16+
Sad 29 Hyd 12.30pm
£11.00*
Game of Bones gan Mike Witchell
Sad 26 Tach Moving Through Mountains 12.30pm gan Wendy Holborow
£6.00, £4.50* Consesiynau
Sad 3 Rhag 10.00am 4.00pm
Ffair Crefftau Cartref Mynediad am Ddim
Arddangosfeydd Mer 31 Awst - Gwe 9 Medi Gw ˆyl Wyddoniaeth Lefelau 1 a 2 Prydain - Lluniau Cystadleuaeth Maw 13 - Gwe 30 Medi Lefel 1
3 of a Kind - Julie Hutchby
Maw 13 - Gwe 30 Medi Lefel 2 a’r Ystafell Wen
Thank You To Wales - Mary Falconer
Maw 4 - Gwe 14 Hyd Lefel 1 a’r Ystafell Wen
Gaia4 Jean Perry & Friends
Maw 4 - Gwe 28 Hyd Lefel 2
Art Across the City LOCWS
Maw 18 - Gwe 5 Tach Ystafell Wen
Paul O’Donovan
Maw 15 - Gwe 25 Tach Lefel 1
Wave Energy Jo Frost
Maw 29 Tach Paentiadau gan Gwe 16 Rhag Moira Evans a Lefel 1 Roger Dunstan I gael manylion llawn, ewch i www.swanseagrand.co.uk
Mwynhau’r Theatr Am chwarae mwy o ran? Yna ymaelodwch â Chlwb Theatr y Grand Abertawe
£10 Oedolion
Ffoniwch 01792 475715
£25 Teulu (2 oedolyn, 2 aelod iau)
Am fwy o wybodaeth, ewch i www.grandtheatreclub.org.uk
£5 Aelodau Iau (dan 17).
Yr Anrheg Nadolig Berffaith
Talebau Theatr y Grand Abertawe Ceisio meddwl am anrheg Nadolig unigryw? Does dim angen chwilio ymhellach. Rhowch gyfle i’ch anwyliaid fwynhau noson o adloniant o’r radd flaenaf yn un o leoliadau gorau Cymru – Theatr y Grand Abertawe. Anrheg berffaith yw talebau anrheg y theatr gan y gellir eu defnyddio i weld unrhyw gynhyrchiad o’ch dewis yn Theatr y Grand Abertawe. Mae’r talebau’n ddilys am flwyddyn ac maent ar gael ar bob gwerth arian.
Maw 8 Tach 7.30pm
Psychic Medium John Edward Crossing Over Mae’r cyfryngwr seicig bydenwog, John Edward, yn defnyddio’i alluoedd unigryw i ragweld digwyddiadau’r dyfodol a chysylltu pobl ag anwyliaid sydd wedi symud i’r byd arall. Awdur sawl llyfr llwyddiannus sydd wedi ennill clod beirniaid y New York Times. Sioe ymchwiliadol yw hon at ddiben adloniant.
£25.50 - £50.50* Tocynnau VIP £75.50*
(Aelodaeth flwyddyn Evolve a’r cyfle i gwrdd â John)
Mer 9 Tach 7.30pm
Mae’r London Swing Orchestra yn cyflwyno
Cewri’r Byd Jazz a Swing Yn llawn ffraethineb a steil, bydd Graham Dalby yn eich arwain trwy’r stori swynol o ddechrau jazz a swing. Gyda chlasuron o ragtime, y dauddegau gwyllt ac oes swing y cewri megis Ellington, Goodman, Miller, Sinatra a Crosby, mae’r London Swing Orchestra fawr ei bri yn disgleirio yn y sioe ysblennydd hon sy’n llawn cerddoriaeth boblogaidd fytholwyrdd yr 20fed ganrif.
£16.50 ac £20.50* Mae consesiynau dethol ar gael
www.swanseagrand.co.uk
01792 475715
Iau 10 Tach 2.30pm
JESS CONRAD 60s ICON RE-LOADED Noson llawn hwyl o straeon a chlipiau ffilm. Mae Jess yn cofio am ei gyfeillgarwch â rhai o sêr mwyaf y byd adloniant, gan gynnwys Diana Dors a Roger Moore. Dewch i glywed sut llwyddodd y bachgen o Brixton i swyno’i ffordd i’r byd ffilm a mynd o fod yn seren bop i chwarae’r Joseph cyntaf, ynghyd â’r holl ffefrynnau o’r 60au.
£15.00* Mae consesiynau dethol ar gael
Gwe 11 a Sad 12 Tach 7.30pm
£21.50 - £25.50* Mae consesiynau dethol ar gael
Rhinestone Cowboy, Wichita Lineman, Galveston, By The Time I Get To Phoenix, Southern Nights a llawer mwy. Hefyd gyda chlasuron Dolly Parton, Kenny Rodgers, Linda Ronstadt, Neil Diamond, Bobby Gentry, The Beach Boys a Kris Kristofferson.
*Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer. Codir ffi am gadw lle ar-lein.
Mer 16 Sad 19 Tach 7.15pm, sioe brynhawn Sad 2.30pm Yn dilyn cynhyrchiad hynod lwyddiannus y llynedd o Sister Act, mae’r Abbey Players yn cyflwyno sioe gerdd glasurol Lionel Bart, Oliver!, sy’n adrodd hanes bachgen amddifad ifanc o’r enw Oliver wrth iddo gwrdd ag amrywiaeth o gymeriadau lliwgar megis yr Artful Dodger, Nancy ac, wrth gwrs, Fagin. Gyda ffefrynnau megis Consider Yourself, Pick a Pocket or Two a Food Glorious Food. Wedi’i chyflwyno ar gyfer llwyfan Broadway gan David Merrick a Donald Albery. Caiff y cynhyrchiad hwn ei berfformio trwy drefniad â MusicScope a Stage Musicals Limited o Efrog Newydd.
£10.00 - £15.00*
Ar werth 8 Awst
Mae consesiynau dethol ar gael
www.swanseagrand.co.uk
01792 475715
Llun 21 Tach 7.30pm Byddwch yn barod i fwynhau’r sioe deyrnged orau i Dire Straits yn y byd. Mae’r cerddorion yn ail-greu sain go iawn un o’r bandiau roc mwyaf llwyddiannus erioed. Byddant yn perfformio Money for Nothing, Romeo and Juliet, Sultans of Swing, Private Investigations, Walk of Life, Brothers in Arms, So Far Away a llawer mwy o’u clasuron poblogaidd yn y sioe sain fythgofiadwy hon. www.easytheatres.com
£22.00* Iau 24 Tach 8.00pm
£19.00* 14+
Romesh Ranganathan Irrational Mae Romesh Ranganathan yn dychwelyd gyda’i sioe newydd sbon sy’n archwilio rhesymeg ei syniadau am y byd. ‘Yn ‘Irrational’, bydd Romesh yn archwilio’r pynciau sy’n bwysig iddo ac yn esbonio pam mae pawb arall yn anghywir amdanynt. “Ranganathan’s punchlines are sharper and funnier than many of his peers.” The Guardian
*Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer. Codir ffi am gadw lle ar-lein.
Maw 22 Tach 7.30pm
£24.50 - £31.50* Mae consesiynau dethol ar gael
SWAN LAKE Cerddoriaeth gan Pyotr I. Tchaikovsky Stori gyfareddol o ramant drasig. Tywysoges wedi’i throi’n alarch gan felltith ddieflig… Fydd cariad y Tywysog Siegfried yn ddigon cryf i’w hachub hi? Y bale rhamantaidd mwyaf perffaith erioed wedi’i berfformio i gyfeiliant sgôr swynol a bythgofiadwy Tchaikovsky.
www.swanseagrand.co.uk
01792 475715
Gyda chast penigamp ac i gyfeiliant cerddorfa fawr fyw gyda mwy na 30 o gerddorion.
Mer 23 Tach 7.30pm
£24.50 - £31.50* Mae consesiynau dethol ar gael
SLEEPING BEAUTY Cerddoriaeth gan Pyotr I. Tchaikovsky Yn hoff stori tylwyth teg pob plentyn, Sleeping Beauty yw’r stori glasurol am gariad a diniweidrwydd, dirgelwch a hud gyda’r cyfan i gyfeiliant sgôr odidog Tchaikovsky. Mae coreograffi syfrdanol, gwisgoedd moethus a setiau anhygoel yn creu byd ffantasi lle mae’r Lilac Fairy yn ymdrechu yn erbyn y dylwythen ddrygionus, Carabosse. *Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer. Codir ffi am gadw lle ar-lein.
Gwe 25 Tach 7.30pm
£23.00 a £25.00* Wedi’u hen sefydlu fel band teyrnged gorau’r byd i’r Eagles, mae The Illegal Eagles yn dychwelyd gyda sioe ragorol arall gan addo mwy o’u harmonı¨au tynn, eu manwl gywirdeb a’u perfformiad gwefreiddiol anhygoel. Bydd y cynhyrchiad diweddaraf hwn hefyd yn cynnwys teyrnged arbennig i’r diweddar Glenn Frey, un o aelodau sefydlu’r Eagles.
Sad 26 Tach 8.00pm
£25.50* 15+
www.swanseagrand.co.uk
Mae brenin comedi fyrfyfyr yn dychwelyd. Yn wir feistr ar wyriadau swrrealaidd, mae y digrifwr o ogleddddwyrain Lloegr, Ross Noble, ar ei bymthegfed daith. Fel arfer mae gan Ross lawer o syniadau’n cronni yn ei ben ac mae’n hen bryd i’w rhyddhau, ac yntau’n adnabyddus am ei arddull rydd hynod gyflym a’i ddychymyg ffrwythlon iawn. 01792 475715
Llun 29 Tach 11.00am a 6.00pm Mae Siôn Corn yn ôl ar ei deithiau… ac mae dal eisiau pi-pi. Ym mhob tˆy mae’n bwyta ac yn yfed y danteithion sydd wedi’u gadael iddo, ond mae wedi anghofio gwneud rhwybeth eitha’ pwysig… mae wir angen pi-pi arno!
Oedolion £12.50, Plant £10.50, Teulu (4) £42.00*, Ysgolion £8.00*
Maw 29 Tach 7.30pm
£19.50 a £22.00* Mae eicon y Bay City Rollers, Les McKeown, yn ôl ar daith. Mae ei sioe benigamp, Rollermania, yn addo bod yn daith unigryw yn ôl i’r 1970au pan oedd Les a’i fand chwedlonol ar frig siartiau pop y byd ac roedd cerddoriaeth y Bay City Rollers yn gyfeiliant i genehedlaeth o bobl ifanc. Gyda’r holl ffefrynnau gwreiddiol, gan gynnwys Bye Bye Baby, Shang-a-Lang, Remember a llawer mwy. www.lesmckeown.com *Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer. Codir ffi am gadw lle ar-lein.
NINA CONTI
Mer 30 Tach 7.30pm
12+
IN YOUR FACE
Yn hollol ac yn syndod o ddigymell, mae’r feistres taflu llais yn teithio unwaith eto gyda’i sioe, In Your Face, y gwerthwyd pob tocyn ar ei chyfer, yn dilyn ei thymor llewyrchus diweddar yn y West End. Mae’r tafleisiwr comedi arobryn o Brydain, Nina Conti, yn defnyddio mygydau wyneb i droi aelodau ei chynulleidfa’n bypedau gan ddyfeisio sioe newydd hynod ddoniol yn fyrfyfyr bob nos.
“Laugh out loud funny” British Theatre Guide
Iau 1 Rhag 7.30pm
£20.50*
Mae hoff seicig y wlad, Sally Morgan, yn dychwelyd ac yn well nag erioed gyda’i sioe newydd sbon a mwyaf anhygoel hyd yma, Call Me Psychic. Yn ddoniol, yn ddifyr, weithiau’n dorcalonnus. Mae’r sioe hon yn ymchwiliadol ac at ddiben adloniant.
£24.50* www.swanseagrand.co.uk
01792 475715
Gwe 2 Rhag 7.30pm
An Evening With Balsamo Deighton AND Friends Songs, stories and Storys Mae Steve Balsamo a Rosalie Deighton, a fu’n aelodau’r band clodwiw o Abertawe, The Storys, wedi dod ynghyd i recordio eu halbwm hyfryd cyntaf, Unfolding, sydd wedi’i ysbrydoli gan canu gwlad a gwerin, canu gwerin a chanu Americana. Yn ymuno â nhw mae cydaelodau The Storys, Andy Collins ac Alan Thomas, ynghyd â Christian Phillips o The Sonic Executive Sessions a sêr lleol addawol, Who’s Molly?. Rhoddir yr elw i Zac’s Place (www.zacsplace.org).
£18.00* Mae consesiynau dethol ar gael
Sad 3 Rhag 7.30pm
‘Mae ‘band roc a rôl gorau’r byd’ yn ddatganiad beiddgar, ond mae Showaddywaddy wedi cyfiawnhau’r teitl hwnnw ers y 4 degawd diwethaf! Mae eu sioe fyw’n ddeinamig ac yn ddyrchafol ac yn cynnwys eu holl ganeuon mwyaf poblogaidd: Under The Moon of Love, Three Steps to Heaven, Hey Rock & Roll, When, Blue Moon a llawer mwy.
£19.50* *Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer. Codir ffi am gadw lle ar-lein.
Gwe 9 RHAG 16 - SUL 8 ION 17 Ceir rhaglen lawn y perfformiadau yn www.swanseagrand.co.uk Bydd pantomeim ysblennydd Theatr y Grand Abertawe eleni’n cynnwys cast gwych dan arweiniad Richard Jones enillydd Britain’s Got Talent 2016, ynghyd â ffefryn Abertawe, Kevin Johns, Niki Evans o The X Factor a’r ffefryn comedi, Matt Edwards. Wedi’i gynhyrchu’n arbennig ar gyfer Dinas a Sir Abertawe gan gynhyrchwr pantomeimau mwyaf y byd, Qdos Entertainment, gallwch fod yn sicr o fwynhau panto llawn hud a lledrith, cerddoriaeth, comedi ac effeithiau arbennig i sicrhau mai Sleeping Beauty fydd pantomeim eich breuddwydion. Peidiwch ag oedi - gyda rhagor o sêr enwog i’w cadarnhau, bydd yn werth i chi gadw’r seddi gorau tra bydd amser ar ôl gennych. Cynnig y Penwythnos Agoriadol: Pob tocyn £19.00* (mae amodau a thelerau’n berthnasol)
£12.50 - £26.00* Mae consesiynau dethol ar gael ar gyfer perfformiadau dethol Perfformiad â disgrifiad sain Gwe 30 Rhag 2.00pm
Perfformiad â dehongliad Iaith Arwyddion Mer 4 Ion 2.00pm & Iau 5 Ion 7.00pm
Bar y Cylch Mawr Sad 3 Rhag 12.30pm Lighthouse Theatre yn cyflwyno
A Child’s Christmas Rhaglen ddwbl o straeon Nadoligaidd wedi’u hadrodd gan Adrian Metcalfe: A Child’s Christmas in Wales gan Dylan Thomas ac A Christmas Story gan Richard Burton. Cynhyrchir y cynhyrchiad hwn gyda chymorth Theatr y Grand, Abertawe, Cyngor y Celfyddydau a NightOut.
Teithiau y tu ôl i’r
£6.00, 4.50* Consesiynau
Llenni
Ydych chi erioed wedi eisiau gweld yr hyn sy’n digwydd y tu ôl i len y theatr?
Sad: 27 Awst, 17 Medi, 24 Medi, 8 Hyd 22 Hyd, 17 Rhag, 7 Ion, 28 Ion 10.00am. Mae’n hanfodol cadw lle. 01792 475715. Oedolion £5.50, Plant £3.00
Te Prynhawn y
GRAND
BAR-CAFFI FOOTLIGHTS
Ar gael o ddydd Llun i Sad rhwng 12pm - 5pm £12.95 Y Person Gyda GWYDRAID o Prosecco £17.95 Rhaid cadw lle ymlaen llaw - 01792 475715
Yn yr Arfaeth THE OSCAR-WINNING LOVE STORY LIVE ON STAGE IN A BRAND NEW PRODUCTION
B E L I E V E
BILL KENWRIGHT PRESENTS A NEW PRODUCTION OF THE TIMELESS STORY OF LOVE, DESPAIR AND HOPE
T
H
E
M
U
S
I
C
A
L
OH MY LOVE , MY DARLING... I’VE HUNGERED FOR YOUR TOUCH BOOK AND LYRICS BY
BRUCE JOEL RUBIN
MUSIC & LYRICS BY
DAVE & GLEN STEWART BALLARD
BASED ON THE PARAMOUNT PICTURES FILM WRITTEN BY BRUCE JOEL RUBIN
LLUN 20 - SaD 25 CHWE 2017
Llun 20 - Sad 25 Maw
Mer 29 Maw Sad 1 Ebrill
Gwe 28 a Sad 29 Ebrill
Llun o gyn-aelod o’r cast
Yn yr Arfaeth
MAE OPERA & BALLET INTERNATIONAL YN ˆ CYFLWYNO GWYL OPERA ELLEN KENT GYDAG UNAWDWYR RHYNGWLADOL, CORWS CLODWIW A CHERDDORFA GYFLAWN
Iau 6 Ebrill Mae’r stori drasig hon o ryfel, cenfigen a dial yn cynnwys yr Orymdaith Fuddugol glasurol gyda rhaeadrau o aur pefriog a pherfformwyr tân anhygoel.
Gwe 7 Ebrill Hanes trasig o Mimi, gwniadwraig drychinebus sy’n dioddef o’r ddarfodedigaeth, a’i chariad am awdur heb yr un geiniog, gyda band pres, effeithiau eira a chi Muzetta.
Sad 8 Ebrill Daw Corws y Caethweision Hebrëig teimladwy a melodaidd adnabyddus Verdi yn fyw mewn campwaith o ddial, difetha a chenfigen. Caiff pob uwchdeitlau ei chanu yn Eidaleg ag isdeitlau Saesneg
Sut i archebu Mae’r Swyddfa Docynnau ar agor Llun - Sadwrn 9.30am - 8.00pm, ac am 1 awr cyn perfformiadau dydd Sul. Archebu tocynnau 01792 475715 Gallwch brynu tocynnau dros y ffôn neu drwy’r post, yn bersonol neu ar-lein yn www. swanseagrand.co.uk (D.S. Bydd yn rhaid talu ffi brynu wrth brynu tocynnau ar-lein). Consesiynau* Lle cynigir consesiynau, gallant gynnwys rhai o’r canlynol: 16 ac yn iau, 65 ac yn hˆ yn. Gellir gofyn i chi brofi eich oedran. Myfyrwyr mewn addysg amser llawn sy’n gallu dangos cerdyn Undeb Myfyrwyr Cenedlaethol neu Fyfyriwr Tramor dilys neu gerdyn tebyg. Ysgolion pobl ifanc 18 oed ac yn iau a’r rhai sydd mewn addysg amser llawn. Trefnwyr grwpiau pobl sy’n archebu 10+ o docynnau ar gyfer un perfformiad ar y tro. PTL deiliaid cardiau PTL Abertawe. Clwb Theatr Wrth gyflwyno cerdyn aelodaeth dilys. Sylwer y gellir gofyn i chi brofi eich hawl i gonsesiwn wrth archebu tocyn neu gyrraedd am y perfformiad. Derbynnir y rhan fwyaf o’r prif gardiau credyd (tâl o 2%) a debyd. Dylid gwneud sieciau’n daladwy i: Dinas a Sir Abertawe. Rhif minicom y Swyddfa Docynnau yw 01792 654456. Teipdestun ar gyfer cwsmeriaid â nam ar eu clyw. Ni all Dinas a Sir Abertawe dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw newidiadau, y tu hwnt i’w rheolaeth, a all ddigwydd ar ôl cyhoeddi’r cyhoeddiad hwn. I dderbyn y llyfryn hwn mewn fformat gwahanol, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau. Cynllun Hynt. Mae Cynllun Hynt yn gerdyn aelodaeth Cymru gyfan sy’n galluogi deiliad y cerdyn i gael tocyn am ddim ar gyfer cynorthwyydd neu ofalwr personol ym mhob un o’r theatrau a’r sinemâu sy’n cymryd rhan. Ffoniwch 0844 2578858 neu ewch i www.hynt.co.uk am fwy o wybodaeth. Os oes angen y gwasanaeth Text Relay arnoch, ffoniwch 18001 0844 2578858. www.swanseagrand.co.uk
01792 475715
Amodau a thelerau gwerthu 1. Ystyrir cyfnewid tocynnau mewn argyfwng yn unig ac mae’r Rheolwyr yn cadw’r hawl i wrthod cyfnewid tocyn. Os caiff tocyn ei gyfnewid, bydd ar gyfer perfformiad arall o’r un cynhyrchiad. Codir £1.00 y tocyn. 2. Ni roddir unrhyw ad-daliadau ond ar gyfer digwyddiadau wedi’u canslo. 3. Mae’r Rheolwyr yn cadw’r hawl i gyflwyno gostyngiadau a newidiadau eraill o ran prisiau heb roi rhybudd. 4. Mae’r hyrwyddwr yn cadw’r hawl i wneud unrhyw newidiadau i’r rhaglen a hybysebir. 5. Ni chaniateir defnyddio camerâu na chyfarpar recordio na sigarennau electronig. 6. Mae’r Rheolwyr yn cadw’r hawl i wrthod mynediad ac, ar adegau, gall fod angen cynnal archwiliadau diogelwch er mwyn sicrhau diogelwch y cwsmeriaid. 7. Dan amgylchiadau eithriadol, mae’r Rheolwyr yn cadw’r hawl i gynnig seddi gwahanol i’r rhai a nodir ar y tocyn. 8. Archwiliwch eich tocyn - adeg ei dderbyn gan nad oes modd unioni camgymeriadau bob amser. 9. Os darperir uwchdeitlau Saesneg ar gyfer perfformiad, dylai cwsmeriaid holi staff y Swyddfa Docynnau (adeg archebu) ynglˆyn ag addasrwydd seddi. 10. Un cynnig yn unig sy’n berthnasol ar unrhyw adeg.
Rhoddir yr amodau a’r telerau llawn ar gais neu yn www.swanseagrand.co.uk.
*Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer. Codir ffi am gadw lle ar-lein.
LLUN 23 - SAD 28 ION 2017 Mae’r tocynnau’n gwerthu’n gyflym!