Glynn Vivian January - April 2018

Page 1

Ionawr/January — Ebrill/April 2018 glynnviviangallery.org

Ionawr/January – Ebrill/April 2018

glynnviviangallery.org

1


Cynnwys/Contents

5-7 9 10 11-12 13-14 15 16-17 18-19 20-25 26 27 28 29 29 30

2

Arddangosfeydd/Exhibitions Casgliadau/Collections Gweithgareddau/Activities Sgyrsiau/Talks Digwyddiadau/Events Ffilmiau/Films Oedolion/Adults Pobl Ifanc/Young People Teuluoedd/Families Ysgolion/Schools Artistiaid Preswyl/Artists in Residence Llogi Ystafell/Room Hire Siop/Shop Caffi /Cafe Mynediad/Access

Clawr/Cover: Käthe Kollwitz (1867-1945), Hunanbortread gyda llaw yn erbyn boch/Self-portrait with hand against cheek (cyn mis Gorffennaf/before July 1906) © Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Brydeinig/The Trustees of the British Museum orielglynnvivian.org 01792 516900


Croeso/Welcome Gyda’r flwyddyn newydd o’n blaenau, rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno ein rhaglenni ar gyfer 2018, gan ddechrau gydag arddangosfa gan chwe artist cyfoes o Awstralia, Canada, Cyprus, Mawrisiws a Chymru, y mae eu gwaith yn dangos pwysigrwydd yr amgylchedd i’n dyfodol. Nod Mae Gan y Dyfroedd Hyn Straeon i’w Hadrodd yw archwilio mewn dulliau amrywiol sut mae ein gweithredoedd yn effeithio ar gefnforoedd, eu hecosystemau a’u hinsoddau, ac mae wedi’i churadu'n fedrus gan Celina Jeffery. Caiff yr arddangosfa hon ei dilyn ym mis Mawrth gan Portread o’r Artist: Käthe Kollwitz (1867-1945) y mae gan ei gwaith nodedig bw ˆ er emosiynol tra anghyffredin. Gan gyfuno darlunio a gwneud printiau wedi’u trefnu mewn partneriaeth ag Ikon a’r Amgueddfa Brydeinig, mae gwaith Käthe Kollwitz yn cysylltu â phob un ohonom gyda’i chred y dylai celf fod yn rym er lles y gymdeithas i gynnal ein cymunedau. Os ydych yn cynllunio ymweliad, mae ein Cynorthwy-wyr Oriel cyfeillgar yma’n barod i gynnig croeso cynnes i chi. Mae ganddynt gyfoeth o wybodaeth am yr holl ddarnau o waith sy’n cael eu harddangos ac maent yma i’ch helpu i gael y budd mwyaf o’ch ymweliad. Hefyd peidiwch â cholli ein clwb ffilmiau, ein digwyddiadau a'n gweithgareddau i deuluoedd, gyda’n gweithdai galw heibio newydd bob prynhawn dydd Sadwrn, neu dewch i gwrdd â’ch ffrindiau yn ystod ein horiau agor hwyr bob mis ar gyfer sesiynau hamddenol nos Wener gyda gweithgareddau celf, cerddoriaeth a digwyddiadau i roi cychwyn ar y penwythnos. I gael mwy o fanylion, ewch i’n gwefan www.orielglynnvivian.org

With the new year ahead, we are looking forward to presenting our programmes for 2018, beginning with an exhibition by six contemporary artists from Australia, Canada, Cyprus, Mauritius, USA and Wales, whose work illuminates the importance of the environment for our future. These Waters Have Stories To Tell explores in diverse ways how oceans, their ecosystems and climates are affected by our actions, and is skilfully curated by Celina Jeffery. This exhibition is followed in March by Portrait of the Artist: Käthe Kollwitz (1867-1945) whose remarkable work holds extraordinary emotional power. Comprising drawing and printmaking organised in partnership with Ikon and the British Museum, the work of Käthe Kollwitz reaches out to us all with her belief that art should be a force for good in society to sustain our communities. If you are planning a visit, our friendly Gallery Assistants are ready to offer you a warm welcome, they have a wealth of information about all of the works on display, and are here to help you make the most of your visit. Also don’t miss out on our film club, events and activities for all the family, with our new drop-in workshops every Saturday afternoon, or meet your friends at our monthly late night opening for relaxed Friday evenings with art activities, music and events to start the weekend. For further details visit our website www.glynnviviangallery.org.

Ionawr/January – Ebrill/April 2018

glynnviviangallery.org

Jenni Spencer-Davies Curadur/Curator 3


Arddangosfeydd/Exhibitions

Shiraz Bayjoo | Julia Davis | Alexander Duncan Jaanika Peerna | Sylvia Safdie | Christian Sardet and the Macronauts Mae Gan y Dyfroedd Hyn Straeon i'w Hadrodd These Waters Have Stories To Tell 20.01.18 – 11.03.18


Lleoliad/Location

Rhagarddangosfa/Preview

Ystafell/Room 3

19.01.18, 18:30 – 21:00 18.30 Perfformiad/Performance by Jaanika Peerna

Mae'r arddangosfa Mae Gan y Dyfroedd Hyn Straeon i'w Hadrodd yn cyflwyno gwaith chwe artist rhyngwladol, gan adlewyrchu eu profiad a'u perthynas â dyfroedd cefnforol. Mae gwaith Shiraz Bayjoo, Julia Davis a Sylvia Safdie yn tarddu o draethlinau Mawrisiws, Tasmania a Chyprus, lleoedd sydd wedi cael eu gwladychu, eu gorbysgota a'u llygru. Bydd Jaanika Peerna, Alexander Duncan a'r partneriaid sy'n cyfuno celf â gwyddoniaeth, sef Christian Sardet a'r Macronauts, yn archwilio cyrff a bodau'r môr fel ffenomen a chynefin, er mwyn ein hannog i sylwi ar y ddau'n rhyngweithio. Mae'r arddangosfa'n archwilio sut mae ein gweithredoedd yn effeithio ar y cefnforoedd, eu hecosystemau a'u hinsoddau. Wedi’i churadu gan Celina Jeffery Athro Hanes a Theori Celf ac Athro Cysylltiol, Prifysgol Ottawa.

These Waters Have Stories To Tell presents work from six international artists and is a reflection of their experience and relationship with oceanic waters. The work of Shiraz Bayjoo, Julia Davis and Sylvia Safdie originates from the shorelines of Mauritius, Tasmania and Cyprus, places that have been colonised, over-fished and polluted. Jaanika Peerna, Alexander Duncan and artistscience collaborators, Christian Sardet and The Macronauts, explore oceanic bodies and beings as both phenomenon and habitat, to encourage us to witness the two interacting. The exhibition explores how oceans, their ecosystems and climates are affected by our actions. Curated by Celina Jeffery, Professor of History and Theory of Art and Associate Professor, University of Ottowa.

Arddangosfa ‘Arfordir Diflannol’ www.ephemeralcoast.com

An Ephemeral Coast exhibition www.ephemeralcoast.com

Julia Davis, Islif/Undercurrent, 2017 Trwy garedigrwydd yr artist/Courtesy of the artist Ionawr/January – Ebrill/April 2018

glynnviviangallery.org

5


Arddangosfeydd/Exhibitions

Käthe Kollwitz Portread o'r Artist/Portrait of the Artist 24.03.18 – 17.06.18


Lleoliad/Location

Rhagarddangosfa/Preview

Ystafell/Room 3

23.03.18, 19:00 – 21:00

Un o'r prif artistiaid ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif oedd Käthe Kollwitz (1867–1945), sy'n nodedig am bw ˆ er emosiynol ei darlunio, ei phrintiau a'i cherfluniau. Roedd hi'n byw bywyd a oedd yn cael ei archwilio’n ddwys, a gafodd ei fynegi yn ei hunanbortreadau, ei dyddiaduron a'i llythyrau niferus; wrth wraidd y fodolaeth hon oedd ei gwaith fel artist a’i meistrolaeth ar gelf graffig, a enillodd fri iddi'n gyflym yn yr Almaen ac yna'n rhyngwladol wrth i'w dylanwad ledaenu ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn yr arddangosfa hon, gellir gweld doniau artistig unigryw Kollwitz, yn ogystal â'i gallu technegol, ei deallusrwydd ac, yn bennaf oll, ei dyngarwch. Mae llawer ym mywyd a gwaith Kollwitz sy'n meithrin gobaith, gan ysbrydoli a chalonogi, er gwaethaf baich caledi a galar y bu'n rhaid iddi hi a chynifer o'i ffigyrau ei ysgwyddo. Yn aml roedd ei phwyslais ar yr hyn a oedd yn nodweddiadol am brofiad menywod, gan gynnwys natur a nerth sylfaenol cariad mamol. Roedd hi'n credu y gallai celf fod yn rym er lles ein cymdeithas.

Käthe Kollwitz (1867–1945) was one of the leading artists of the late nineteenth and early twentieth centuries, notable for the emotional power of her drawing, printmaking and sculpture. She lived an intensely examined life, expressed in her numerous selfportraits, diaries and correspondence; at the core of this existence was her work as an artist and a mastery of graphic art which quickly established her reputation in Germany, then further afield as her influence spread internationally after the First World War. Kollwitz’s unique artistic talent, her technical prowess and intelligence, and above all her humanity, can be seen in this exhibition. There is much about the life and work of Kollwitz that instils hope, that is inspiring and life affirming, despite the burden of hardship and sorrow carried by so many of her figures and by herself. Her emphasis was often on what was distinctive about women’s experience, including the fundamental nature and potency of maternal love. She believed that art could be a force for good in society.

Caiff yr arddangosfa hon ei threfnu mewn partneriaeth rhwng Ikon a'r Amgueddfa Brydeinig a'i chefnogi trwy haelioni The Dorset Foundation a darperir cyhoeddiad llawn darluniau i gyd-fynd â hi.

The exhibition is organised in partnership between Ikon and the British Museum and is generously supported by the Dorset Foundation. It is accompanied by a fully illustrated publication.

Käthe Kollwitz, Menyw gyda Phlentyn Marw/Woman with Dead Child, 1903, © Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Brydeinig/The Trustees of the British Museum Ionawr/January – Ebrill/April 2018

glynnviviangallery.org

7


Casgliadau/Collections

Stiwdio Gadwraeth Conservation Studio


Lleoliad/Location

Stiwdio Gadwraeth/ Conservation Studio Mae ein tîm cadwraeth yn gofalu am yr holl weithiau celf yn stiwdios cadwraeth newydd yr oriel. Roedd ar y paentiad hwn hen farnais resin naturiol a oedd wedi newid lliw dros amser i felynfrown ac wedi troi ychydig yn afloyw ac yn ddi-sglein. Roedd hwn yn cuddio lliwiau a manylion y paentiad. Cynhaliwyd profion gofalus i bennu’r toddydd priodol i’w ddefnyddio i gael gwared ar y farnais yn ddiogel. Cafwyd gwared arno trwy ddefnyddio toddydd ar swabiau gwlân cotwm. Yn y ffotograff gwelir y paentiad hanner ffordd trwy’r driniaeth hon. Mae Arfordir Iwerddon gan Augustus John yn cael ei drin i'w gadw cyn mynd ar fenthyg i arddangosfa a gynhelir yn ddiweddarach eleni yn Amgueddfa Poole ac yna yn Amgueddfa Salisbury. Os hoffech chi wybod mwy am ein gwaith cadwraeth, gweler ein digwyddiadau ar dudalen 14.

Our conservation team care for all the artworks in the Collection, working within our new conservation studios at the Gallery. This painting had an old natural resin varnish which had, over time, discoloured to a yellowish brown and become slightly opaque and matt. This obscured the colours and details in the painting. Careful tests were carried out to determine the appropriate solvent to safely remove the varnish. It was safely removed using solvent on cotton wool swabs. The photograph shows a detail of the painting mid-way through treatment. Irish Coast by Augustus John is being conserved before going on loan to an exhibition to be shown later this year at Poole Museum and then Salisbury Museum. If you would like to know more about our Conservation work, see our Events on page 14.

Augustus John (1878 –1961) Irish Coast, c.1912 – detail of the painting during varnish removal © The Estate of Augustus John/Bridgeman Library Augustus John (1878 –1961) Arfordir Iwerddon, tua 1912 – rhan o'r paentiad yn ystod y gwaith i dynnu'r farnais © Ystâd Augustus John/Llyfrgell Bridgeman Ionawr/January – Ebrill/April 2018

glynnviviangallery.org

9


Gweithgareddau/Activities

Croeso i bawb

Everyone welcome

Wedi’i hysbrydoli gan ein harddangosfeydd a’n casgliadau, mae ein rhaglen yn cynnig gweithgareddau i bawb eu mwynhau.

Inspired by our exhibitions and collections, our programme offers activities for everyone to enjoy.

I rai digwyddiadau, mae angen cadw’ch lle. Gallwch wneud hyn trwy ein gwefan www.orielglynnvivian.org neu drwy siarad ag un o gynorthwywyr cyfeillgar yr oriel. Rhowch wybod i ni os oes angen i chi ganslo trefniad fel y gall pobl eraill gymryd rhan. Rhaid i blant dan 10 oed fod yng nghwmni oedolyn. Mae croeso i chi ddod â chinio pecyn wrth fynd i bob gweithdy diwrnod llawn. Mae pob gweithgaredd am ddim oni nodir yn wahanol.

For some events it is necessary to reserve your place. You can do this by visiting our website or by speaking to one of our friendly gallery assistants. Please let us know if you need to cancel a booking so others can join in. Children under 10 must be accompanied by an adult. You are welcome to bring a packed lunch when attending all day workshops. All activities are free unless otherwise stated.

I gael mwy o wybodaeth neu i drefnu taith: 01792 516900 www.orielglynnvivian.org

For further information or to book: 01792 516900 www.glynnviviangallery.org

10

orielglynnvivian.org

01792 516900


Sgyrsiau/Talks

Symposiwm: Mae Gan y Dyfroedd Hyn Straeon i'w Hadrodd Symposium: These Waters Have Stories To Tell

Dyddiad/Date

Tocynnau/Tickets

Sad/Sat – 20.01.18 13:30 – 16:30

Rhaid cadw lle Booking essential £10, £5 Consesiwn/Consessions

Lleoliad/Location

Ystafell/Room 1

I gyd-fynd â lansiad arddangosfa Mae Gan y Dyfroedd Hyn Straeon i’w Hadrodd, mae’r Glynn Vivian yn cynnal symposiwm i archwilio themâu’r arddangosfa, gan ystyried sut mae ein gweithredoedd yn effeithio ar gefnforoedd, eu hecosystemau a’u hinsoddau. Mae siaradwyr yn cynnwys yr artistiaid arddangos, sef Shiraz Bayjoo, Alexander Duncan, Jaanika Peerna, a Christian Sardet a’r Macronauts; a’r curadwr Celina Jeffery.

To coincide with the launch of the exhibition These Waters Have Stories To Tell, Glynn Vivian hosts a symposium exploring the themes of the exhibition, exploring how oceans, their ecosystems and climates are affected by our actions. Speakers include exhibiting artists – Shiraz Bayjoo, Alexander Duncan, Jaanika Peerna, Christian Sardet and The Macronauts; and curator Celina Jeffery.

Christian Sardet and The Macronauts, DIATOMS, PRAIRIES IN THE SEA, Odontella sinensis diatom, Bae Roscoff, Ffrainc/Bay of Roscoff, France, 2012 © Christian Sardet and The Macronauts/Plankton Chronicles Project Ionawr/January – Ebrill/April 2018

glynnviviangallery.org

11


Sgyrsiau/Talks

CHERISH: Newid yn yr Hinsawdd a Threftadaeth Arfordirol CHERISH: Climate Changes and Coastal Heritage

Jaanika Peerna, Llaid Gogoneddus/Sublime Ooze, 2018. Trwy garedigrwydd yr artist/ Courtesy of the artist

Dyddiad/Date

Tocynnau/Tickets

Sad/Sat – 24.02.18 15:00 -16:00

Rhaid cadw lle Booking essential

Lleoliad/Location

Ystafell/Room 1 Mae’r Glynn Vivian wedi gwahodd CHERISH, tîm o ymchwilwyr a chadwraethwyr, i drafod effaith y newid yn yr hinsawdd ar dreftadaeth arfordirol riffiau, ynysoedd a phentiroedd moroedd rhanbarthol Cymru ac Iwerddon, trwy ddefnyddio technegau blaengar i asesu a monitro ein harfordiroedd ac o dan y môr. Mae siaradwyr yn cynnwys Dr Sarah Davies, Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau’r Ddaear Prifysgol Aberystwyth.

Glynn Vivian has invited CHERISH, a team of researchers and conservationists, to discuss the impact of climate change on cultural heritage of reefs, islands and headlands of the Welsh and Irish regional seas, by using innovative techniques to asses and monitor both our coastlines and beneath the sea. Speakers include Dr Sarah Davies, Department of Geography and Earth Sciences, Aberystwyth University.

Dathlu Mis Hanes Pobl LGBTQ+ yn ystod mis Chwefror Ymunwch â ni ym mis Chwefror i ddathlu mis hanes pobl LGBT trwy gerddoriaeth, perfformiad, ffilmiau a sgyrsiau. Ewch i’n gwefan i gael mwy o wybodaeth.

Celebrate LGBTQ+ History Month during February Join us in February to celebrate LGBT history month through music, performance, films and talks. Visit our website for more information.

12

orielglynnvivian.org

01792 516900


Digwyddiadau/Events

Y Glynn Vivian gyda’r Hwyr Glynn Vivian at Night

Helen Sear, the beginning and the end of things, 2015

Dyddiad/Date

Tocynnau/Tickets

Gwe/Fri – 26.01.18, 16.02.18, 30.03.18 17:00 – 20:00

Galw heibio, croeso i bawb Drop-in, all welcome

Lleoliad/Location

Yr Oriel gyfan a'r Caffi/All Gallery & Cafe Ymunwch â ni ar gyfer y sesiynau nos Wener uchod i brofi’r oriel y tu allan i’r oriau agor arferol a mwynhau amrywiaeth o sgyrsiau, gweithdai, ffilmiau, barddoniaeth, cerddoriaeth a pherfformiadau, gyda diodydd a bwyd ar gael o’n caffi trwyddedig.

Join us on the Friday evenings above to experience the Gallery after hours and enjoy a range of talks, workshops, film, poetry, music and performance, with drinks and food available from our licensed café.

Ionawr/January – Ebrill/April 2018

glynnviviangallery.org

13


Digwyddiadau/Events

Crefft Cadwraeth The Art of Conservation Dyddiad/Date

Tocynnau/Tickets

Mer/Wed – 10.01.18, 07.02.18, 07.03.18 11:00 – 12:00

Rhaid cadw lle Booking essential

Lleoliad/Location

Ystafell yr Ardd/Garden Room Dewch i gwrdd â thîm cadwraeth y Glynn Vivian ac ewch y tu ôl i’r llenni yn adran gadwraeth yr oriel. Gallwch ymweld â’r stiwdios cadwraeth ac edrych ar y gwaith mae’r tîm yn ei wneud, gan ddysgu sut gofelir am y casgliad a sut mae’n cael ei drin a’i gadw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Meet the Glynn Vivian conservation team and go behind the scenes to the Gallery’s conservation department. Visit the conservation studios and explore the work the team are undertaking, learning how the collection is handled, cared for and conserved for future generations.

Cymhorthfa Gadwraeth Conservation Surgery Dyddiad/Date

Tocynnau/Tickets

Mer/Wed – 10.01.18, 07.02.18, 07.03.18 13:00 – 14:00

Rhaid cadw lle Booking essential

Lleoliad/Location

Llyfrgell/Library Dewch i gwrdd â’n Cadwraethwr a’i holi am sut i ofalu am eich celf eich hun, gan gynnwys paentiadau, darnau seramig, printiau a thecstilau. Dewch â’r eitem (neu ffotograff o’r eitem) i’r sesiwn er mwyn cael cyngor penodol ar sut i ofalu amdani.

14

orielglynnvivian.org

Meet our Conservator and ask questions about how to care for your own art, including paintings, ceramics, prints and textiles. Please bring an object (or photograph of the object) to the session to receive specific advice on its care.

01792 516900


Ffilmiau/Films

Clwb Ffilmiau i Deuluoedd Family Film Club Dyddiad/Date

Tocynnau/Tickets

Sul/Sun – 14.01.18, 11.02.18, 11.03.18, 22.04.18 10.30

Rhaid cadw lle Booking essential

Lleoliad/Location

Ystafell/Room 1 Dangosir ffilmiau i deuluoedd am ddim gyda ffilm wahanol bob tro, sy’n berffaith ar gyfer penwythnosau oer a gwlyb y gaeaf. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.orielgelfglynnvivian.org

Free family film screenings with a different film every time, perfect for those cold wet winter weekends. For more information, visit www.glynnviviangallery.org

Clwb Ffilmiau – Dewis yr Artist Film Club – Artist’s Choice Dyddiad/Date

Tocynnau/Tickets

Sul/Sun – 14.01.18, 11.02.18, 11.03.18, 22.04.18 14:00

Rhaid cadw lle Booking essential

Lleoliad/Location

Ystafell/Room 1 Gofynnwn i artistiaid arddangos ddewis ffilm sydd wedi dylanwadu arnynt ac yna rydym yn rhannu hon â chi ar ein sgrîn fawr am ddim. Gall ffilm a sinema ysgogi syniadau newydd neu gallant ddangos ffordd wahanol o weld y byd. O glasuron cwlt i berlau cudd, ymunwch â ni ar gyfer y mewnwelediad hwn i gyfeiriadau a ffynonellau ysbrydoliaeth artistiaid cyfoes.

We ask exhibiting artists to choose a film which has influenced them, and share it with you on our big screen free of charge. Film and cinema can be a starting point for new ideas or show a different way of seeing the world. From cult classics to hidden gems, join us for this insight into the references and inspiration of today’s artists.

Ionawr/January – Ebrill/April 2018

glynnviviangallery.org

15


Oedolion/Adults

Dosbarthiadau Celf Dydd Sadwrn i Oedolion Saturday Adult Art Classes Dyddiad/Date

Tocynnau/Tickets

Sad/Sat – 27.01.18, 24.02.18, 24.03.28, 21.04.18 11:00 – 15:00

Rhaid cadw lle Booking essential

Lleoliad/Location

Oed/Age

Ystafell/Room 2

16+

Mae dosbarthiadau dydd Sadwrn i oedolion yn weithdai penodol sy’n archwilio syniadau, deunyddiau a thechnegau sy’n gysylltiedig â’n harddangosfeydd. Caiff y dosbarthiadau eu harwain gan artistaddysgwyr ac maent yn addas ar gyfer pob lefel o brofiad a gallu. Bydd themâu’r dosbarthiadau’n ymateb i’r rhaglen arddangosfeydd. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.orielglynnvivian.org

Saturday Adults classes are focused workshops exploring ideas, materials and techniques related to our exhibitions. The classes are led by artist-educators and are suitable for all levels of experience and ability Themes for the classes will respond to the exhibitions programme. For more information, visit www.glynnviviangallery.org

Sgyrsiau Cyfoes Contemporary Conversations Dyddiad/Date

Tocynnau/Tickets

Maw/Tue – 23.01.18, 30.01.18, 06.02.18, 13.02.18 13:00 – 15:00

Rhaid cadw lle Booking essential

Lleoliad/Location

Oed/Age

Ystafell/Room 2

16+

Sesiwn agored, bell-gyrhaeddol ac ysgogol i ddarparu amgylchedd cefnogol i bobl sydd â diddordeb mewn creu gwaith celf a thrafod materion cyfoes.

An open, wide ranging and thought provoking session to provide a supportive environment for people with an interest in creating art work and discussing contemporary issues.

16

orielglynnvivian.org

01792 516900


Oedolion/Adults

Dosbarth Meistr gydag Alexander Duncan Masterclass with Alexander Duncan Dyddiad/Date

Tocynnau/Tickets

Sad/Sat – 03.03.18 + Sul/Sun – 04.03.18 11:00 – 16:00

Rhaid cadw lle/Booking essential £80 ar gyfer gweithdy dau ddiwrnod Darperir yr holl ddeunyddiau £80 for two day workshop All materials provided

Lleoliad/Location

Oed/Age

Ystafell/Room 2

16+

Gan weithio dros ddau ddiwrnod, ymunwch â’r artist arobryn o Abertawe, Alexander Duncan, i ddysgu’r prosesau cerflunio sydd ynghlwm wrth amrywiaeth o dechnegau creu mowldiau a chastiau, i greu eich gwaith celf eich hun dros y sesiwn ddeuddydd.

Working over a period of two days, join award-winning Swansea artist, Alexander Duncan, to learn the sculptural processes attached to a range of mould making and casting techniques, to create your own artwork over the two day session.

Bywluniadu/Life Drawing Dyddiad/Date

Tocynnau/Tickets

Sad/Sat – 14.04.18 14:00 – 16:00

Rhaid cadw lle/ Booking essential Awgrymir cyfraniad o £3 Suggested donation £3

Lleoliad/Location

Oed/Age

Ystafell/Room 2

18+

Gan dynnu ysbrydoliaeth o’n harddangosfa o waith Käthe Kollwitz, ymunwch â’n tîm dysgu a fydd yn arwain y dosbarth bywluniadu hwn.

Inspired by our exhibition of work by Käthe Kollwitz, join our Learning team who will lead this life drawing class.

Ionawr/January – Ebrill/April 2018

glynnviviangallery.org

17


Pobl Ifanc/Young People

Criw Celf yr Ifanc Young Art Force

Dyddiad/Date

Tocynnau/Tickets

Iau/Thurs – 11.01.18, 08.02.18, 08.03.18, 12.04.18 11:00 – 14:00

Rhaid cadw lle Booking essential

Lleoliad/Location

Oed/Age

Ystafell/Room 2

10 – 16

Dosbarth celf agored sy’n archwilio ac yn ymateb i arddangosfeydd ac arddangosiadau casgliad yr oriel, gan gynnig achrediad Gwobr Gelf Efydd ac Arian yn arbennig i blant sy’n cael eu haddysgu gartref, unrhyw un nad yw’n derbyn addysg prif ffrwd neu’r rhai sy’n chwilio am her newydd.

An open art class exploring and responding to the Gallery’s exhibitions and collection displays, offering Bronze and Silver Arts Award accreditation especially for home schooled children, anyone not in mainstream education, or those looking for a new challenge.

18

orielglynnvivian.org

01792 516900


Pobl Ifanc/Young People

Gwneuthurwyr Ifanc/Young Makers Dyddiad/Date

Tocynnau/Tickets

Sad/Sat – 13.01.18, 10.02.18, 10.03.18 14:00 – 16:00

Rhaid cadw lle Booking essential

Lleoliad/Location

Oed/Age

Ystafell/Room 2

13 – 16

Gweithdai Pypedwaith Stopffilmio Gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau, byddwch yn dysgu sut i droi eich darluniau'n byped 3D o safon broffesiynol gydag ysgerbwd gwifren y gellir symud pob rhan ohono.

Motion Puppet Workshops Using a range of techniques you will learn how to turn your drawings into a professional quality 3D puppet with fully moveable wire skeleton.

Pobl Ifanc Glynn Vivian/Glynn Vivian Young People Dyddiad/Date

Tocynnau/Tickets

Mer/Wed – 17.01.18, 31.01.18, 14.02.18, 28.02.18, 14.03.18, 28.03.18, 18.04.18, 16:00 - 17:00

Rhaid cadw lle Booking essential

Lleoliad/Location

Oed/Age

Ystafell/Room 2

16 – 24

Ydych chi'n 16-24 oed a hoffech chi gwrdd â phobl greadigol eraill i weithio ar brosiectau grw ˆ p? Mae Grw ˆ p Pobl Ifanc y Glynn Vivian yn gyfle i drafod a chynllunio'ch rhaglen eich hun o weithdai a digwyddiadau, gyda chyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd a chydweithio â grwpiau pobl ifanc eraill ledled y wlad. E-bostiwch Daniel McCabe@swansea.gov.uk i gael mwy o wybodaeth.

Are you aged 16 - 24 years old and would like to meet other creative people to work on group projects? The Glynn Vivian Young People’s Group is an opportunity to discuss and plan your own programme of workshops and events, with opportunities to learn new skills and work collaboratively with other young people’s groups nationally. Contact Daniel McCabe Daniel.McCabe@swansea.gov.uk for more information.

Ionawr/January – Ebrill/April 2018

glynnviviangallery.org

19


Teuluoedd/Families

Gweithdai Dydd Sadwrn i Deuluoedd Saturday Family Workshops Dyddiad/Date

Tocynnau/Tickets

Sad/Sat – 13.01.18, 10.02.18, 10.03.18 10:00 – 13:00

Rhaid cadw lle Booking essential

Lleoliad/Location

Oed/Age

Ystafell/Room 2

4 – 12

Mae Gweithdai Dydd Sadwrn i Deuluoedd yn rhoi cyfle i artistiaid ifanc ddysgu sgiliau a thechnegau newydd mewn amgylchedd dysgu cefnogol gyda chyfranogiad teuluol yn ganolog iddynt.

Saturday Family Workshops are where young artists can learn new skills and techniques in a supportive learning environment with family participation at its core.

Clwb Cadwraeth/Conservation Club Dyddiad/Date

Tocynnau/Tickets

Mer/Wed – 10.01.18, 07.02.18, 07.03.18 16:00 – 16:45

Rhaid cadw lle Booking essential

Lleoliad/Location

Oed/Age

Ystafell yr Ardd/Garden Room

8 – 14

Hoffech chi helpu’r cadwraethwr edrych yn y maglau pryfed i weld a oes pryfed neu gorynnod ynddynt, neu ddysgu sut i fesur lefelau golau a lleithder yr oriel? Yna dewch i’n Clwb Cadwraeth misol i weld sut rydym yn gofalu am ein casgliadau.

Would you like to help the conservator check the insect traps for bugs and spiders, or learn how to measure the light and humidity levels in the gallery? Then come to our monthly conservation club and find out how we look after our collections.

20

orielglynnvivian.org

01792 516900


Teuluoedd/Families

Gweithdai Galw Heibio Dydd Sadwrn i Deuluoedd Saturday Drop-in Workshops for Families Dyddiad/Date

Lleoliad/Location

Bob Sad/Every Sat 12.30 – 15.30

Atriwm/Atrium

Dewch i ddarganfod, creu a dysgu gyda’ch gilydd yn ein gweithdai galw heibio llawn hwyl â thema wahanol ym mhob sesiwn wedi’i hysbrydoli gan ein harddangosfeydd – dan arweiniad ein hartist-addysgwyr a fydd yn helpu plant o bob oedran i greu eu gwaith celf eu hunain.

Come and discover, create and learn together at our fun drop-in workshops with a different theme for each session inspired by our exhibitions – led by our artist-educators, who will help children of all ages make their own artwork.

Babanod Celf/Art Babas Dyddiad/Date

Tocynnau/Tickets

Maw/Tues – 09.01.18, 13.02.18, 13.03.18, 17.04.18 10:30 – 11:30

Rhaid cadw lle Booking essential

Lleoliad/Location

Oed/Age

Ystafell/Room 1

0–3

Amser chwarae synhwyraidd yn yr oriel i fabanod a’u hoedolion. Cynhelir y sesiwn chwarae dan arweiniad mewn lle creadigol hamddenol lle gellir archwilio symud, sain, iaith, gwead a lliw, wedi'i dylunio'n benodol i rieni a gofalwyr sydd â phlant cyn oed ysgol o 6 mis i 3 blwydd oed.

Sensory play time in the gallery for babies and their grownups. This guided play session is held in a relaxed creative space, where movement, sound, language, texture and colours can be explored, specifically designed for parents and carers with pre-school children from 6 months to 3 years.

Ionawr/January – Ebrill/April 2018

glynnviviangallery.org

21


Teuluoedd/Families

Gweithdai Gwyliau Holiday Workshops Hanner Tymor Mis Chwefror February Half Term

Dyddiad/Date

Tocynnau/Tickets

20.02.18 – 25.02.18

Galw heibio, croeso i bawb Drop in, everyone welcome

Lleoliad/Location

Oed/Age

Ystafell/Room 2 Atriwm/Atrium

I bob oedran/For all ages

Archwilio’r Cefnforoedd Mae’r Glynn Vivian yn eich gwahodd i ddiwrnod llawn creadigedd anhygoel wrth i ni fentro i archwilio rhyfeddodau dyfnderoedd y môr mewn cyfres o weithdai isod i'r teulu cyfan.

Ocean Exploration Extravaganza Glynn Vivian invites you to a day of mind-boggling creativity as we bravely explore the wonders of the deep sea in a series of workshops below for all the family.

Cystadleuaeth Ddarlunio Plancton yn erbyn Plastig Mer 21.02.18, 10:00 – 15:00 Rhowch gynnig ar gystadleuaeth ddarlunio anferthol lle mae plancton arwrol yn ceisio trechu angenfilod plastig angheuol y môr. Darluniwch eich anghenfil eich hun a’i weld yn cael ei daflunio ar waliau’r oriel ar gyfer profiad darlunio ymdrochol i bob oedran.

Plankton v Plastic Draw-Off Wed 21.02.18, 10:00 – 15:00 Take the plunge into a giant, drawing battle, where heroic plankton attempt to defeat the evil sea-plastic monsters of doom. Draw your own monster and see it projected on the gallery walls for an immersive, drawing experience for all ages.

Gweithdy’r Troli Celf Iau 22.02.18 – Sul 25.02.18 11.00 – 13.00 Gweithdai galw heibio dros wyliau’r hanner tymor. Rhowch gynnig ar amrywiaeth o weithgareddau ar thema forol, sy’n newid yn ddyddiol.

Art Trolley Workshop Thurs 22.02.18 – Sun 25.02.18 11.00 – 13.00 Drop-in workshops for half-term, try a range of nautical themed activities, changing daily.

22

orielglynnvivian.org

01792 516900


Teuluoedd/Families

Gweithdai Gwyliau Holiday Workshops Hanner Tymor Mis Chwefror February Half Term

Dyddiad/Date

Tocynnau/Tickets

Mer/Wed – 21.02.18, 11:00 – 15:00

Rhaid cadw lle Booking essential

Lleoliad/Location

Oed/Age

Ystafell yr Ardd/Garden Room Ystafell/Room 1

I bob oedran/For all ages

Gweithdy Llyfrau Comics Plancton yn erbyn Plastig 10:00 – 13:00, Rhaid cadw lle. Gan dynnu ysbrydoliaeth o arddangosfa Mae Gan y Dyfroedd Hyn Straeon i’w Hadrodd, sy’n ymwneud â’r môr, byddwn yn archwilio technegau celf llyfrau comics. Bydd y sesiwn creu llyfrau comics hon yn llawn cyngor ac awgrymiadau i’ch helpu i ddatblygu’ch straeon trwy ddarlunio.

Plankton v Plastic Comic Book Workshop 10:00 – 13:00, Booking essential. Inspired by the exhibition, These Waters Have Stories To Tell, which relates to the sea, we will be exploring techniques from the realms of comic art. This comic creating session will be full of hints and tips to help you develop your stories through drawing.

Clwb Ffilmiau i Deuluoedd Maw 20.02.18, 10.30-12.30 Byddwn yn dangos ffilm ar thema’r cefnfor ar gyfer ein Clwb Ffilmiau i Deuluoedd dros wyliau'r hanner tymor.

Family Film Club Tues 20.02.18, 10.30-12.30 An ocean themed screening for our Family Film Club at half-term.

Ionawr/January – Ebrill/April 2018

glynnviviangallery.org

23


Teuluoedd/Families

Gweithdai'r Gwyliau: Y Pasg Holiday Workshops: Easter Dyddiad/Date

Tocynnau/Tickets

30.03.18 – 15.04.18

Galw heibio, croeso i bawb Drop in, everyone welcome

Lleoliad/Location

Oed/Age

Ystafelloed/Rooms 1 & 2 Atriwm/Atrium

I bob oedran/For all ages

Dathliadau Creadigol Mer, 11:00 – 15:00 Dewch i ddathlu popeth creadigol gyda chyfres o weithgareddau galw heibio i’r teulu cyfan.

Creative Celebrations Weds, 11:00 – 15:00 Celebrate everything creative with a series of drop-in activities for the whole family.

Fy Mapio I – 04.04.18 Sut olwg fyddai arnoch petaech yn ynys? A fyddai gennych afonydd ynni neu fynyddoedd creadigedd? Treuliwch y diwrnod yn eich mapio’ch hun gydag amrywiaeth o dechnegau a deunyddiau.

Mapping Me – 04.04.18 What would you look like if you were island? Would you have rivers of energy or mountains of creativity? Spend the day mapping yourself with a range of techniques and materials.

Hysbyslenni a Baneri – 04.04.18 Crëwch eich hysbyslenni a’ch baneri eich hun i roi gwybod i’r byd am yr hyn rydych yn dwlu arno a’r hyn nad ydych yn gallu byw hebddo a dathlwch yr holl bethau sy’n rhoi gwên ar eich wyneb.

Placards and Banners – 04.04.18 Create your own placards and banners to tell the world what you love and can’t live without and celebrate all the things that make you smile.

Creu Mygydau – 04.04.18 Trwy ddefnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu, crëwch eich mwgwd eich hun i roi gwybod i’r byd sut rydych chi’n teimlo.

Mask making – 04.04.18 Using recycled materials, make your own mask to tell the world how you feel.

Paentio Mynegiadol – 11.04.18 Hoffech chi greu paentiadau sy’n neidio o’r dudalen? Fe’ch gwahoddir i ddiwrnod llawn mynegiadaeth mentrus i greu paentiad anferthol. Gwisgwch hen ddillad!

Expressive painting – 11.04.18 Would you like to create paintings that pop off the page? You are invited to a day of explosive expressionism to create a giant painting. Wear your old clothes!

24

orielglynnvivian.org

01792 516900


Teuluoedd/Families

Gweithdai'r Gwyliau Holiday Workshops Y Pasg Easter

Dyddiad/Date

Tocynnau/Tickets

12.04.18 11.00 – 15.00

Rhaid cadw lle Booking essential

Lleoliad/Location

Ystafelloedd/Rooms 1 & 2 Wal Animeiddio Unlliw (7+ oed) Gan ddefnyddio un lliw, rhowch fywyd i waliau'r Stiwdio Ddysgu trwy animeiddio! Gallwch ddarlunio, smwtsio, rhwbio a chymysgu i greu technegau animeiddio gwahanol.

Monochromatic Animation Wall (Age 7+) Using one colour, bring the walls of the Learning Studio to life through animation! Draw, smudge, wipe and blend to produce different animation techniques.

Clwb Ffilmiau i Deuluoedd Maw 03.04.18, 10.04.18 10:30 Ymunwch â ni bob dydd Mawrth yn ystod gwyliau'r hanner tymor ar gyfer ein dangosiad ffilm am ddim. Trefnwch eich tocyn am ddim ar-lein!

Family Film Club Tues 03.04.18, 10.04.18 10:30 Join us every Tuesday during half-term for our free film screening. Book your free ticket online!

Ionawr/January – Ebrill/April 2018

glynnviviangallery.org

25


Ysgolion/Schools

Mae 4Site yn cynnig ffordd syml i ysgolion gael mynediad i Oriel Gelf Glynn Vivian, Canolfan Dylan Thomas, Amgueddfa Abertawe a Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg. Caiff sesiynau eu harwain gan artist-addysgwyr sy'n cysylltu arddangosiadau'r casgliad ac arddangosfeydd â themâu cyfnodau allweddol trwy amrywiaeth o ddulliau a gweithdai creadigol. Yn ogystal, byddwch yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ariannu'r celfyddydau, newyddion am y rhwydwaith a gwahoddiad i ddigwyddiad DPP, gyda'r cyfan am ddim fel rhan o'ch aelodaeth. Mae adnoddau dysgu ar gael arlein i athrawon eu defnyddio i gydfynd ag arddangosfeydd presennol yr oriel, gyda chyfleoedd archwilio y gellir manteisio arnynt i sbarduno trafodaeth. Wrth gadw'r llinellau dehongli mor agored â phosib, mae cwestiynau'n berthnasol ar y gyfer y Cyfnod Sylfaen hyd at Gyfnod Allweddol 3. Gweler www.orielglynnvivian.org i gael mwy o wybodaeth.

26

orielglynnvivian.org

4Site offers a simple way for schools to access Glynn Vivian Art Gallery, Dylan Thomas Centre, Swansea Museum and West Glamorgan Archives. Sessions are led by artist educators, linking the collection displays and exhibitions to key stage themes through a range of creative approaches and workshops. Plus you get the latest arts funding information, network news and an invite to a CPD/Continuing Professional Development event, all free as part of your membership. Learning Resources are available online for teachers to accompany the Gallery’s current exhibitions, with avenues of exploration that can be used to create discussion. Whilst keeping the lines of interpretation as open as possible, questions are relevant for Foundation Phase through to Key Stage 3. See www.glynnviviangallery.org for more information.

01792 516900


Artistiaid Preswyl/Artists in Residence

Rhodri Davies Hazel Cardew Dyddiad/Date

Ionawr – Ebrill January – April

Rhodri Davies Ionawr – Chwefror Artist preswyl cyntaf y tymor hwn yw Rhodri Davies. Mae'n canu'r delyn, y delyn drydan ac offerynnau electronig byw ac mae'n creu gosodiadau gwynt, dw ˆ r, iâ, iâ sych a thelyn dân. Derbyniodd Rhodri Wobr Cymru Greadigol yn 2016 ac yn ddiweddar mae wedi cydweithredu ag artistiaid megis David Garner, Ivor Davies a Gustav Metzger.

Rhodri Davies January – February Rhodri Davies is the first of this season’s Artists in Residence. He plays harp, electric harp, live-electronics and builds wind, water, ice, dry ice and fire harp installations. Rhodri received a Creative Wales Award in 2016 and recent collaborations include artists, David Garner, Ivor Davies and Gustav Metzger.

Sgwrs Artist

Artist Talk

Sad 10.02.18, 14:30 – 15:30 Ymunwch â Rhodri wrth iddo drafod ei arfer a'i waith a darganfod mwy am ei brofiadau yn ystod ei gyfnod preswyl. Mae'n rhaid cadw lle. Hefyd dewch i weld Rhodri yn ei berfformiad yn Glynn Vivian gyda'r Hwyr ar 16.02.18.

Sat 10.02.18, 14:30 – 15:30 Join Rhodri as he discusses his practice and discover more about his experiences during his residency. Booking essential. Also see Rhodri in his performance at Glynn Vivian at Night on 16.02.18.

Hazel Cardew Mawrth – Ebrill Hazel Cardew fydd ail artist preswyl y tymor. Ar hyn o bryd mae Hazel yn gweithio o'i stiwdio Oriel Elysium, Abertawe, ac mae hi'n creu gosodiadau, darluniau a ffilmiau minimalaidd, unlliw wedi'u hysbrydoli gan ei diddordeb mawr mewn lle pensaernïol a minimaliaeth. Ewch i'n gwefan i gael mwy o fanylion.

Hazel Cardew March – April Hazel Cardew will be our second of this season’s Artists in Residence. Hazel currently works from her studio Elysium Gallery, Swansea and creates minimal, monochromatic installations, drawings and films, inspired by a fascination with architectural space and minimalism. Check our website for more details.

Ionawr/January – Ebrill/April 2018

glynnviviangallery.org

27


Llogi Ystafell/Room Hire

Llogi'r Ddarlithfa a'r Oriel Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn cynnig amgylchedd celfyddydau gweledol unigryw sy'n berffaith ar gyfer lletygarwch corfforaethol, grwpiau cymunedol neu achlysuron cymdeithasol llai megis partïon preifat a dathliadau eraill. Mae'r Ddarlithfa'n lle hyblyg ar gyfer digwyddiadau yn ystod ein horiau agor ac mae'n cynnwys yr holl gyfleusterau clyweled angenrheidiol a WiFi. Gellir trefnu digwyddiadau mwy o faint y tu allan i'r oriau hyn gan fod gennym le ar gyfer pob achlysur. Mae'r holl incwm a wneir trwy logi ystafelloedd yn cyfrannu'n uniongyrchol at raglen dysgu, arddangosfeydd a chasgliadau'r Glynn Vivian. Sefydliad nid er elw yw'r oriel hon ac felly codir ffïoedd llogi rhesymol. I gael mwy o wybodaeth ac i weld ein ffïoedd, ewch i www.orielglynnvivian.org.

28

orielglynnvivian.org

Hire of Lecture Theatre and Gallery Glynn Vivian Art Gallery provides a unique visual art environment, perfect for corporate hospitality, community groups, or smaller social gatherings such as private parties and other celebrations. The Lecture Theatre is a versatile space for events during our opening hours and is fully equipped with audio-visual facilities and WiFi. Larger receptions can be arranged outside these hours, we have a space to suit every occasion. All income from Room Hire contributes directly to the Glynn Vivian’s learning, exhibitions, and collections programme. The Gallery is a non-profit making organisation and our fees for hire are therefore modestly priced. For further information and our charges, please visit our website www.glynnviviangallery.org.

01792 516900


Caffi Mae coffi ffres a nwyddau wedi'u pobi gartref yn gwneud Coast Café yn lle delfrydol i ddathlu unrhyw achlysur, yn enwedig os diben y digwyddiad arbennig yw cwrdd â ffrindiau i fwynhau'r arddangosfeydd. Mae'r holl gynnyrch yn lleol lle bo modd gydag amrywiaeth o ddewisiadau llysieuol, heb glwten a heb gynnyrch llaeth. Mae gostyngiadau ar gael i fyfyrwyr, darlithwyr a Chyfeillion y Glynn Vivian. Gofynnwch yn Coast Café am fwy o fanylion ac i gasglu'ch cerdyn ffyddlondeb.

Café Fresh coffee with homemade baked goods, make Coast Café the ideal place to celebrate any occasion, especially if the special event is meeting with friends to enjoy the exhibitions. All produce is locally sourced where possible with a range of vegetarian, gluten free and dairy free options. Discounts are available for students, lecturers and Friends of the Glynn Vivian. Ask at Coast Café for more details and to collect your loyalty card.

Siop Mae Oriel Mission ac Oriel Glynn Vivian yn gweithio mewn partneriaeth i guradu nifer o eitemau crefft wedi'u dethol yn arbennig ar gyfer siop grefftau'r oriel. Mae'n bleser mawr i ni gynnig detholiad o brintiau celf o safon broffesiynol o baentiadau yng nghasgliad yr oriel. Mae siop yr oriel hefyd yn cynnig amrywiaeth o lyfrau celf lliwgar a chyffrous i blant, cardiau, anrhegion a dewis o lyfrau gan artistiaid. Dewch i ddarganfod yr anrheg berffaith wrth gefnogi creadigedd yn y gymuned.

Shop Mission Gallery and Glynn Vivian are working in partnership to curate a number of specially selected craftworks on sale in the Gallery’s shop. We are delighted also to offer a selection of professional quality art prints from paintings in the Gallery collection. The Gallery shop also offers a variety of colourful and exciting children’s art books, cards, gifts and a range of artist books. Discover that perfect gift whilst supporting creativity in the community.

Ionawr/January – Ebrill/April 2018

glynnviviangallery.org

29


A4118

P

Swansea Central

Strand

A4217

B4489

Orchard S t.

Al ex an dr a

d.

Dehli St

Plantasia

Gr ov

eR

e River Taw

P

d ut R wC Ne

Glynn Vivian

Ro ad

290 B4

7 06 A4

Mynediad Mae Oriel Glynn Vivian yn gwbl hygyrch I bobl sy’n defnyddio cadair olwyn ac mae lifft i bob oriel ac ardal. Mae gennym doiledau ar gyfer pobl anabl a chyfleuster ‘Changing Places’, ac mae lleoedd parcio dynodedig i bobl sydd â bathodyn glas o flaen yr adeilad y tu allan i’n mynedfa newydd ar lefel y stryd. I gael rhagor o wybodaeth am y cyfleusterau, yr adnoddau a'r rhaglenni dysgu i bob ymwelydd, cysylltwch â ni trwy e-bostio oriel.glynn.vivian@abertawe.gov.uk, ffonio 01792 516900 neu holi aelod o’n staff cyfeillgar yn Oriel Glynn Vivian yn ystod eich ymweliad.

Oriel Gelf Glynn Vivian Heol Alexandra Abertawe SA1 5DZ

30

Access Glynn Vivian is committed to delivering a practical, positive approach to inclusive access for all. The Gallery is fully accessible for wheelchair users, and has lift access to all galleries and spaces. We have disabled toilets and a ‘Changing Places’ facility, and designated parking for blue badge holders can be found at the front of the building outside our new street level entrance. For further information on facilities, resources and learning programmes, contact us at glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk, telephone 01792 516900 or ask a member of our friendly Glynn Vivian staff during your visit.

Glynn Vivian Art Gallery Alexandra Road Swansea SA1 5DZ

orielglynnvivian.org

A483

twitter.com @GlynnVivian facebook.com GlynnVivian instagram @glynnvivian

01792 516900


Cyfeillion y Glynn Vivian

Friends of the Glynn Vivian

Ymaelodi â Chyfeillion y Glyn Vivian Y ffi ar gyfer aelodaeth sengl yw £15.00 a'r ffi ar gyfer aelodaeth ar y cyd yw £20 y flwyddyn.

Become a Friend of the Glynn Vivian Single membership is £15.00 and joint membership is £20 per a year.

Mae'r manylion llawn ar gael ar-lein neu gan yr Ysgrifennydd Aelodaeth. 01792 476187 friendsglynnviv@gmail.com www.friendsoftheglynnvivian.com twitter.com @FriendsofGlynnViv

Full details available online or from the Membership Secretary. 01792 476187 friendsglynnviv@gmail.com www.friendsoftheglynnvivian.com twitter.com @FriendsofGlynnViv

Mae'r oriel yn ddiolchgar iawn i chi am eich cyfraniadau sy'n cefnogi'r gweithgareddau cymunedol a dysgu yn yr oriel. Mae pob cyfraniad yn helpu pobl eraill i gael mynediad i'r celfydyddau ac i'w mwynhau cymaint ag y gwnewch chi. I gael mwy o wybodaeth am gyfrannu, ewch i'n gwefan neu holwch aelod o'r staff.

Warmest thanks from the Gallery for your donations which support the community and learning activities at the Gallery. Every donation helps other people to access and enjoy the arts just as much as you do. To find out more about donating visit our website or talk to a member of staff.

Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn rhan o Ddinas a Sir Abertawe ac yn cael ei chefnogi gan grant o Gyngor Celfyddydau Cymru.

Glynn Vivian Art Gallery is part of Swansea Council and is supported by a grant from the Arts Council of Wales

Cefnogir yr arddangosfeydd gan Exhibitions supported by

Ionawr/January Ionawr/January – –Ebrill/April Ebrill/April2018 2018

glynnviviangallery.org

31


Oriel Gelf Glynn Vivian Heol Alexandra Abertawe SA1 5DZ

Glynn Vivian Art Gallery Alexandra Road Swansea SA1 5DZ

01792 516900 orielglynnvivian.org

01792 516900 glynnviviangallery.org

Ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sul, 10am - 5pm Ar gau ddydd Llun heblaw am Wyliau’r Banc

Open Tuesday - Sunday 10am - 5pm Closed Mondays except Bank Holidays

Mynediad am ddim

Admission free

WiFi ar gael am ddim

Free Wi-Fi available

Parcio am ddim bob dydd Sul ym maes parcio'r Stryd Fawr abertawe.gov.uk/ meysyddparciocanolyddinas

Free parking on Sundays at High Street car park swansea.gov.uk/ citycentrecarparks


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.