Hydref/October — Rhagfyr/December 2016
glynnviviangallery.org
Leonardo da Vinci (1452-1519) Recto: Expressions of fury in horses, lions and a man, c. 1504-5 Ymddiriedolaeth y Casgliad Brenhinol/ © Ei Mawrhydi’r Frenhines Elizabeth II 2016 Royal Collection Trust/ © Her Majesty Queen Elizabeth II 2016
Cynnwys/Contents
07–13 14–17 18–20 21–22 23–24 25–29 30–31 32 33 34
Hydref/October – Rhagfyr/December 2016
Arddangosfeydd/Exhibitions Casgliadau/Collections Teuluoedd/Families Pobl Ifanc/Young People Oedolion/Adults Sgyrsiau/Talks Artist Preswyl/Artist in Residence Crefft/Craft Caffi/Café Mynediad/Access Map
glynnviviangallery.org
3
Croeso Welcome
4
Mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi bod yr oriel bellach wedi’i hailagor ar ôl gwaith ailddatblygu i wella mynediad a chadw’r adeilad gwreiddiol o 1911 ar gyfer yr 21ain ganrif. Mae ein harddangosfeydd agoriadol ac arddangosiadau’r casgliad yn cynnwys celf o Gymru ac o bedwar ban byd. Mae Allan o’r Tywyllwch yn dod ag artistiaid ynghyd y mae eu gwaith wedi cael ei gyflwyno yma yn y gorffennol, gyda Marcel Duchamp (Ffrainc/ UDA), Cerith Wyn Evans (Cymru), Mark Wallinger (Lloegr), Oscar Muñoz (America Ladin), William Kentridge (De Affrica) a Yingmei Duan (Tsieina) mewn trosolwg cyfoes o ddiwylliant lleol a byd-eang heddiw. Mae Teithiau rhwng Celf a Bywyd yn adrodd stori gwreiddiau Richard Glynn Vivian yn Abertawe, ei deithiau ledled y byd a’i haelioni gydol oes, ac mae’n cynnwys (tan ddiwedd mis Tachwedd) baentiad rhagorol gan J.M.W. Turner sydd ar fenthyg o’r Tate, Storm Eira - Agerlong ger Mynedfa Harbwr, 1842. Mae Teithiau a Gweledigaethau yn cyflwyno darnau sy’n canolbwyntio ar waith stiwdio yn yr 20fed ganrif ac yn cynnwys Stiwdio’r Artist gan Pablo Picasso, sydd hefyd ar fenthyg o’r Tate. Mae’r gosodiad yn yr Atriwm, Nowhere Less Now 7, gan Lindsay Seers, a gefnogir gan Artangel, yn cyfuno teithiau barddonol yr artist ledled y byd mewn ffilmiau a gyflwynir mewn cwch sydd wedi mynd yn sownd. Mae hefyd yn fraint i ni allu cyflwyno Leonardo da Vinci: Deg Llun o’r Casgliad Brenhinol, sy’n cynnig mewnwelediad anghyffredin i waith un o artistiaid mwyaf y byd. Gobeithiwn y byddwch yn dod ac yn mwynhau’r oriel newydd!
glynnviviangallery.org
01792 516900
Jenni Spencer-Davies Curadur/Curator
We are delighted to announce the Gallery has now re-opened following our redevelopment to improve access and conserve the original 1911 building for the 21st century. Our opening exhibitions and collection displays include art from Wales and worldwide. Out of Darkness brings together artists whose work has been presented here in the past, with Marcel Duchamp (France/USA), Cerith Wyn Evans (Wales), Mark Wallinger (England), Oscar Muñoz (Latin America), William Kentridge (South Africa) and Yingmei Duan (China), in a contemporary overview of local-global culture today. Journeys between Art and Life tells the story of Richard Glynn Vivian’s Swansea roots, his travels around the world and his lifetime of generosity, including (until end November) a wonderful painting on loan from Tate by J.M.W. Turner, Snow Storm – Steamboat off a Harbour’s Mouth, 1842. Journeys and Visions presents work with a focus on studio based practice in the 20th century and includes The Artist’s Studio by Pablo Picasso, also on loan from Tate. The Atrium installation by Lindsay Seers, Nowhere Less Now 7, supported by Artangel, brings together the artist’s poetic journeys around the world in films presented in a stranded boat. We are also privileged to be able to present Leonardo da Vinci: Ten Drawings from the Royal Collection, offering a rare insight into the work of one of the world’s greatest artists. We hope you will come and enjoy the new Gallery!
Hydref/October – Rhagfyr/December 2016
glynnviviangallery.org
5
Arddangosfa/Exhibition
Lindsay Seers Nowhere Less Now7 15.10.2016 – 19.03.2017
Lleoliad/Location
Atriwm/Atrium Wedi’i gosod mewn llong sy’n symud trwy’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol, mae Nowhere Less Now 7, yn dilyn ôl traed perthynas a fu’n hwylio dros y moroedd yn y Llynges Frenhinol dros gan mlynedd yn ôl. Wedi iddi ddarganfod ei arysgrif ar goeden hynafol baobab ar yr ynys Affricanaidd, Sansibar, mae Lindsay Seers yn cysylltu straeon personol unigolion a gafodd eu llusgo gan gerhyntau cryfion byd-eang. Mae’r fersiwn hon o’r gwaith sy’n datblygu’n barhaus, yn plethu stori’r oriel ei hunan ag un ei sylfaenydd, Richard Glynn Vivian, a hanes morol Abertawe. Mae Nowhere Less Now 7 yn rhan o’r Casgliad Artangel, menter i ddod â gwaith ffilm a fideo neilltuol, sydd wedi ei gomisiynu a’i gynhyrchu gan Artangel, i orielau ac amgueddfeydd ar draws y DU. Mae’r Casgliad Artangel wedi cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â Tate ac fe’i cefnogir yn hael gan Ymddiriedolaeth Esmeé Fairbairn a Sefydliad Foyle, ac mae’n defnyddio cyllid cyhoeddus gan Gyngor Celfyddydau Lloegr.
Set in a ship that moves through time past, present and future, Nowhere Less Now 7 traces the journey of a relative who sailed the seas in the Royal Navy over a hundred years ago. Finding his inscription on an ancient baobab tree on the African island of Zanzibar, Lindsay Seers connects intimate stories of individuals dragged along in the strong currents of global histories. This is a new incarnation of the continuously evolving work interwoven with some of the Gallery’s own story through its founder Richard Glynn Vivian and Swansea’s own maritime past. Nowhere Less Now 7 is part of The Artangel Collection, an initiative to bring outstanding film and video works, commissioned and produced by Artangel, to galleries and museums across the UK. The Artangel Collection has been developed in partnership with Tate, generously supported by the Esmée Fairbairn Foundation and The Foyle Foundation with public funding from Arts Council England.
Lindsay Seers, Nowhere Less Now 7 Trwy greadigrwydd y Casgliad Artangel/courtesy The Artangel Collection Llun/Photo Eva Bartussek, 2016 Hydref/October – Rhagfyr/December 2016
glynnviviangallery.org
7
Arddangosfa/Exhibition
Out of Darkness O’r Tywyllwch 15.10.2016 – 20.11.2016
Lleoliad/Location
Artistiaid/Artists
Ystafell/Room 3
Yingmei Duan / Marcel Duchamp Cerith Wyn Evans / William Kentridge Oscar Muñoz / José Alejandro Restrepo Mark Wallinger
Mae O’r Tywyllwch yn dod â detholiad o artistiaid rhyngwladol ynghyd y mae eu gwaith yn archwilio themâu teithiau, boed hynny’n ddychmygol neu’n ysbrydol, ynghyd â golau, tywyllwch a chasglu. Gan gynnwys ffilm, gosodiadau a cherfluniau, mae’r arddangosfa gyntaf hon yn cyflwyno gwaith artistiaid sydd wedi cyfrannu i hanes arddangosfeydd llewyrchus y Glynn Vivian dros y 100 mlynedd diwethaf. Mae’r arddangosfa’n ymdrin â thrafodaethau ynghylch natur amgueddfeydd, ôl-wladychiaeth, rhyfel, colli a gwrthdystio, ac mae’n ceisio cynnig cyd-ddealltwriaeth o hanes yr oriel a’n hoes ni.
Out of Darkness brings together a selection of international artists whose works explore themes of journeys (both imagined and spiritual), light, darkness, and collecting. Encompassing film, installation and sculpture, this first exhibition features the work of artists who have contributed to the illustrious 100 year history of exhibitions at Glynn Vivian. The exhibition traverses discussions on the nature of museums, post colonialism, war, loss and protest, and seeks to offer a collective understanding of the history of the Gallery and the times in which we live.
Oscar Muñoz, El Coleccionista, 2014-2016 Tafluniadau fideo cydamserol Synchronized video projections Trwy garedigrwydd yr artist/Courtesy the artist Hydref/October – Rhagfyr/December 2016
glynnviviangallery.org
9
Arddangosfa/Exhibition
Glenys Cour Lliw Dweud The Colour of Saying 10.12.2016 – 05.02.2017
Lleoliad/Location
Ystafell/Room 3 Mae’r arddangosfa bwysig hon, wedi’i churadu gan Mel Gooding, yn dathlu oes a gwaith Glenys Cour, artist, dylunydd, athrawes a mentor poblogaidd yn Abertawe. Mae’n datgelu’r ffyrdd gwahanol niferus mae ei rôl fel artist wedi cyfrannu i fywyd diwylliannol dinas Abertawe, a’i dylanwad ar yr artistiaid mae hi wedi’u haddysgu a chydweithio â nhw yn ystod ei gyrfa hir a llwyddiannus. Mae’r arddangosfa’n cynnwys paentiadau, gwydr lliw, dyluniad theatr a llyfrau artist.
This major exhibition, curated by Mel Gooding, celebrates the life and work of much loved Swansea artist, designer, teacher and mentor, Glenys Cour. It reveals the many different ways in which her role as an artist has contributed to the cultural life of the city of Swansea, and her influence on the artists she has taught and collaborated with during her long and successful career. The exhibition includes paintings, stained glass, theatre design and artist books.
Taith dywys 11.12.2016, 14:30 – 15:30 Ystafell 3
Guided tour 11.12.2016, 14:30 – 15:30 Room 3
Bydd y curadur, Mel Gooding, yn arwain taith dywys a sgwrs o’r arddangosfa
Curator Mel Gooding leads a guided talk and tour of the exhibition
Ysbrydoli ac ysgogi – mewn aur a glas 13.11.2017, 12:30 – 13:30 Ystafell 2
Inspire and enthuse – in gold and blue 13.11.2017, 12:30 – 13:30 Room 2
Bydd y curadur a’r darlithydd, Sally Moss, yn dathlu bywyd a gwaith Glenys Cour a’i dylanwad ar fywydau ei chyd-artistiaid a’r myfyrwyr y bu’n eu dysgu ac yn cydweithio â hwy.
Curator & lecturer, Sally Moss, celebrates the life and work of Glenys Cour and her influence on the lives of fellow artists and the students she taught and collaborated with.
Glenys Cour, Blue Monument, 1977 Dinas a Sir Abertawe: Casgliad Oriel Gelf Glynn Vivian City & County of Swansea: Glynn Vivian Art Gallery Collection Hydref/October – Rhagfyr/December 2016
glynnviviangallery.org
11
Arddangosfa/Exhibition
Leonardo da Vinci Ten drawings from the Royal Collection 15.10.2016 – 08.01.2017
Lleoliad / Location
Ystafell/Room 9
Mae deg o’r lluniau gorau gan Leonardo da Vinci yn y Casgliad Brenhinol yn cael eu harddangos mewn arddangosfa newydd. Mae’r gweithiau wedi cael eu dewis i ddangos cwmpas arbennig diddordebau’r artist, o baentio a cherflunio i beirianneg, söoleg, botaneg, llunio mapiau ac anatomeg, yn ogystal â’i ddefnydd o gyfryngau gwahanol - pen ac inc, sialciau du a choch, dyfrlliwiau a phwyntilau metel. Drwy dynnu lluniau, roedd Leonardo yn ceisio cofnodi a deall y byd o’i gwmpas. Lluniau Leonardo yw’r rhai cyfoethocaf, mwyaf amrywiol, mwyaf technegol ddisglair a mwyaf bythol ddiddorol.
Ten of the finest drawings by Leonardo da Vinci from the Royal Collection are on display in a new exhibition. The works have been selected to show the extraordinary scope of the artist’s interests, from painting and sculpture to engineering, zoology, botany, map-making and anatomy, as well as his use of different media – pen and ink, red and black chalks, watercolour and metalpoint. Through drawing, Leonardo attempted to record and understand the world around him. Leonardo’s drawings are rich, wide-ranging, technically brilliant, and endlessly fascinating.
Leonardo da Vinci (1452-1519) Recto: Expressions of fury in horses, lions and a man, c.1504-5 Ymddiriedolaeth y Casgliad Brenhinol/© Ei Mawrhydi’r Frenhines Elizabeth II 2016 Royal Collection Trust/© Her Majesty Queen Elizabeth II 2016 Hydref/October – Rhagfyr/December 2016
glynnviviangallery.org
13
Casgliadau/Collections
Teithiau rhwng Bywyd a Chelf Journeys between Art and Life Richard Glynn Vivian (1835-1910) O/From 15.10.2016
Lleoliad/Location
Ystafelloedd/Rooms 4 – 7
Richard Glynn Vivian oedd sylfaenydd ein horiel yn Abertawe. Wedi’i eni yn Abaty Singleton, roedd Glynn yn bedwerydd mab y teulu Vivian cefnog, perchnogion gwaith mwyndoddi copr mwyaf llwyddiannus y byd yn y 19eg ganrif. Gadawodd Glynn ei gasgliad celf cyfan ‘er mwynhad pobl Abertawe’ ym 1908, ac agorodd yr oriel ym 1911, flwyddyn ar ôl ei farwolaeth. Teithiodd y byd ar agerlongau a threnau, gan gaffael gwaith celf gain a chelf gymhwysol o’r 18fed ganrif a chyfnodau cynharach. Mae Teithiau rhwng Bywyd a Chelf yn cyflwyno ei gasgliad ac yn dathlu ei fywyd am y tro cyntaf mewn dros 100 mlynedd. Mae’r arddangosfa’n cynnwys gwaith J.M.W. Turner (1775-1851) Storm Eira - Agerlong ger Mynedfa Harbwr, a arddangoswyd ym 1842, ar fenthyg yn hael o’r Tate tan ddiwedd mis Tachwedd 2016. Mae arweiniad amlgyfrwng digidol newydd yn ategu’r arddangosfa am Richard Glynn Vivian. Neu gallwch lawrlwytho’r ap am ddim, sydd ar gael o iTunes a Google Play. Cefnogir y prosiect yn hael gan grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri.
Richard Glynn Vivian was the original founder of our gallery in Swansea. Born at Singleton Abbey, Glynn was the fourth son of the wealthy Vivian family, owners of the largest copper smelting plant in the 19th century. He left his entire art collection for ‘the enjoyment of the people of Swansea’ in 1908, and the Gallery opened in 1911, a year after he died. He travelled the world by steamship and train, acquiring fine art and applied arts from the 18th century and earlier periods. Journeys between Art & Life presents his collection and celebrates his legacy for the first time in over 100 years. The exhibition includes Snow Storm - Steam-Boat off a Harbour’s Mouth, exhibited 1842, by J.M.W Turner’s (1775-1851) generously on loan from Tate until the end of November 2016. The Richard Glynn Vivian displays are accompanied by a new digital multimedia guide at the Gallery. Or you can download the App for free, available on iTunes and Google Play. The project is generously supported by a grant from the Heritage Lottery Fund.
R.E. Pfeninger, Portrait of Richard Glynn Vivian, 1882 Dinas a Sir Abertawe: Casgliad Oriel Gelf Glynn Vivian City & County of Swansea: Glynn Vivian Art Gallery Collection Hydref/October – Rhagfyr/December 2016
glynnviviangallery.org
15
Casgliadau/Collections
Teithiau a Gweledigaethau Cyfres Artistiaid yr Ugeinfed Ganrif Journeys and Visions Twentieth Century Artist Series O/From 15.10.16
Lleoliad/Location
Ystafell/Room 8
Yn aml mae celf a barddoniaeth yn cael eu gwneud mewn unigedd. Yn yr 20fed ganrif, roedd stiwdios artistiaid wrth wraidd eu gwaith, lle arbennig lle gallent rannu eu gweledigaethau a’u syniadau â’r byd. Mae’r arddangosfa hon o’r casgliad yn cynnwys gwaith gan David Jones, Barbara Hepworth, Ben Nicholson, Gwen John, Mark Gertler, Brenda Chamberlain, Ceri Richards ac The Studio gan Pablo Picasso, ar fenthyg yn hael o’r Tate. Mae’r testunau wedi’u hysgrifennu’n hardd yn cynnwys cyfraniadau gan artistiaid, haneswyr, awduron a beirdd, gan gynnwys Anne Price-Owen, Nicholas Thornton, Sharon Morris, Sarah MacDougall, Wynne Thomas, Mel a Rhiannon Gooding a Glenys Cour.
Art and poetry are often made in solitude. In the 20th century artists’ studios were at the heart of their practice, a special place where they could share their visions and ideas with the world. This collection display includes work by David Jones, Barbara Hepworth, Ben Nicholson, Gwen John, Mark Gertler, Brenda Chamberlain, Ceri Richards and The Studio by Pablo Picasso, generously on loan from Tate. The beautifully written texts include contributions from artists, historians, writers and poets, including Anne Price-Owen, Nicholas Thornton, Sharon Morris, Sarah MacDougall, Wynne Thomas, Mel & Rhiannon Gooding and Glenys Cour.
Pablo Picasso (1881-1973), The Studio, 1955 © Succession Picasso/ DACS, Llundain/London 2016 Ar fenthyg o’r Tate On loan from Tate Hydref/October – Rhagfyr/December 2016
glynnviviangallery.org
17
Gweithgareddau/Activities
Rhaid i blant dan 10 oed fod yng nghwmni oedolyn. Croeso i chi ddod â chinio pecyn wrth fynychu gweithdai diwrnod llawn.
Children under 10 must be accompanied by an adult. You are welcome to bring a packed lunch when attending all day workshops.
Mae pob gweithgaredd am ddim.
All activities are free.
I gadw lle: 01792 516900 orielglynnvivian.org
18
glynnviviangallery.org
To book: 01792 516900 glynnviviangallery.org
01792 516900
Teuluoedd/Families
Blynyddoedd Cynnar Early Years
Llun/Photo Eva Bartussek, 2016
Dyddiad/Date
Tocynnau/Tickets
Maw/Tue – 22.11.16 & 06.12.16 10:30 – 11:00
Nid oes angen cadw lle No booking required
Lleoliad/Location
Ystafell/Room 1
Ymunwch â ni am sesiwn gyd-ganu gyfeillgar yn amgylchedd golau ac agored ein horiel ar ei newydd wedd. Ar gyfer plant ifanc a’u gofalwyr, rydym yn darparu lle diogel i grwydro, canu, tynnu lluniau a chwarae.
Join us for a baby friendly sing-a-long in our newly redeveloped gallery. Aimed at young children and their carers, we provide a safe place to roam, sing, draw and play.
Hydref/October – Rhagfyr/December 2016
glynnviviangallery.org
19
Teuluoedd/Families
Gweithdai Dydd Sadwrn i’r Teulu Saturday Family Workshops
Dyddiad/Date
Tocynnau/Tickets
Sad/Sat – 5.11.16 & 3.12.16 10:00 – 13:00
Rhaid cadw lle Booking essential
Lleoliad/Location
Oed/Age
Ystafell/Room 2
4 – 13
Drwy arbrofi â deunyddiau, technegau a syniadau, rydym yn ceisio ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o artistiaid. Archwiliwch arddangosfeydd newydd yr oriel a gadewch i fywyd a chasgliad Richard Glynn Vivian eich ysbrydoli i greu eich llyfr braslunio personol eich hunan a chreu albwm teithio enfawr ar y cyd, gan ddefnyddio’r lluniadau yn eich llyfr braslunio am ysbrydoliaeth.
Through experimentation with materials, techniques and ideas, we aim to inspire the next generation of artists. Explore the Gallery’s new exhibitions and draw inspiration from Richard Glynn Vivian’s life and collection to create your own personalised sketchbook and make a collective jumbo travel album, using the drawings made in your sketchbooks for inspiration.
20
glynnviviangallery.org
01792 516900
Pobl Ifanc/Young People
Grw ˆ p y Tegell Du Black Kettle Collective
Llun/Photo: Phil Rees, 2016
Dyddiad/Date
Tocynnau/Tickets
Gwen/Fri – 25.11.16 & 07.12.16 15:30 – 17:00
Nid oes angen cadw lle No booking required
Lleoliad/Location
Oed/Age
Ystafell/Room 2
14 – 24
Grw ˆ p pobl ifanc yr oriel yw Grw ˆp y Tegell Due ac mae’n addas i unrhyw un rhwng 14 a 24 oed. Mae’r grw ˆ p yn cynnig cyfleoedd i ymateb i raglen arddangosfeydd, casgliadau a digwyddiadau oriel, a gweithio mewn partneriaeth ar brosiectau cenedlaethol a lleol cyffrous. Gan weithio gyda’r tîm dysgu ac artistiaid gwadd, mae’r grw ˆ p yn trefnu digwyddiadau cyffrous ac unigryw i bobl ifanc, gan ddysgu sgiliau newydd a chwrdd â ffrindiau newydd ar yr un pryd.
Black Kettle Collective is the Gallery’s Young People’s group for anyone aged 14 to 24. The group offers opportunities to respond to the Gallery’s exhibition and events programme, and work in partnership on exciting national and local projects. Working with the Learning team and guest artists, the group organises exciting and unique events for young people, learning new skills and making new friendships along the way.
Hydref/October – Rhagfyr/December 2016
glynnviviangallery.org
21
Pobl Ifanc/Young People
Byddin Gelf yr Ifanc Young Art Force
Dyddiad/Date
Tocynnau/Tickets
Iau/Thur – 10.11.16 & 08.12.16 11:30 – 14:30
Rhaid cadw lle Booking essential
Lleoliad/Location
Oed/Age
Ystafell/Room 2
14 – 24
Dosbarth celf agored yw Byddin Gelf yr Ifranc sy’n addas i unrhyw un rhwng 14 a 24 oed ac sy’n rhoi’r cyfle i gyfranogwyr archwilio ac ymateb i arddangosfeydd yr oriel trwy gan ddefnyddio deunyddiau a thechnegau gwahanol, datblygu eu sgiliau a’u hyder, a chwrdd â phobl newydd. Mae’r dosbarthiadau hyn, sy’n cynnig achrediad Gwobr Gelf, yn ddelfrydol i unrhyw un nad yw mewn addysg brif ffrwd neu sy’n chwilio am her newydd.
Young Art Force is an open art class for anyone aged 14 to 24 to explore and respond to the Gallery’s exhibitions and collections. Using different materials and techniques, we provide opportunities for participants to develop their skills and confidence and to meet new people. Offering Arts Award accreditation, the classes are aimed at anyone not in mainstream education or those looking for a new challenge.
22
glynnviviangallery.org
01792 516900
Oedolion/Adults
Dosbarthiadau Celf Dydd Sadwrn i Oedolion Saturday Adult Art Classes
Llun/Photo: Phil Rees, 2016
Dyddiad/Date
Tocynnau/Tickets
Sad/Sat – 12 & 26.11.16 11:00 – 16:00
Rhaid cadw lle Booking essential
Lleoliad/Location
Oed/Age
Ystafell/Room 2
16+
Gan dynnu ysbrydoliaeth o arddangosiadau yr oriel am Richard Glynn Vivian a’i chasgliad o brintiau Japaneaidd, bydd y dosbarth hwn yn rhoi cyflwyniad i chi am wneud torluniau leino i greu eich gwaith celf unigryw eich hun. Gofynnir i gyfranogwyr fod ar gael ar gyfer y ddau weithdy. Mae croeso i chi ddod â chinio pecyn wrth fynychu gweithdai diwrnod llawn.
Drawing inspiration from the Richard Glynn Vivian displays and the collection of Japanese prints, this class will provide you with an introduction to linocut printmaking to create your own unique limited edition works of art. Participants are asked to be available for both workshops. You are welcome to bring a packed lunch when attending all day workshops.
Hydref/October – Rhagfyr/December 2016
glynnviviangallery.org
23
Oedolion/Adults
Gweithdai 55+ 55+ workshops
Llun/Photo: Phil Rees, 2016
Dyddiad/Date
Tocynnau/Tickets
Mer/Wed – 30.11.16 & 07.12.16 14:00 – 16:00
Rhaid cadw lle Booking essential
Lleoliad/Location
Oed/Age
Ystafell/Room 2
55+
Nod y grw ˆ p 55+ yw hyrwyddo annibyniaeth, hyder a sgiliau creadigol trwy amgylchedd cefnogol a chymdeithasol i bawb. Mae sesiynau’n cynnwys ymweliadau ag orielau, gweithdai, sgyrsiau a digwyddiadau. Y tymor hwn, gan ddefnyddio arddangosfeydd a chasgliadau’r oriel fel ysbrydoliaeth, bydd y grw ˆp yn canolbwyntio ar amrywiaeth o dechnegau arlunio Leonardo da Vinci: Ten Drawings from the Royal Collection ac yn datblygu casgliad o waith ar gyfer ei arddangosfa ei hun oddi ar y safle.
The 55+ group aims to promote independence, confidence and creative skills through a supportive and sociable environment for all. Sessions include Gallery visits, workshops, talks and events. This season, the group will focus on a range of drawing techniques from Leonardo aa Vinci: Ten Drawings from the Royal Collection, as well as the Gallery’s exhibitions and collection displays as inspiration.
glynnviviangallery.org
01792 516900
24
Sgyrsiau/Talks
Leonardo trwy’i ddarluniau Leonardo through his drawings Martin Clayton Pennaeth Printiau a Darluniau, Ymddiriedolaeth y Casgliad Brenhinol Head of Prints and Drawings, Royal Collection Trust
Dyddiad/Date
Tocynnau/Tickets
Gwe/Fri – 11.11.16 12:30 – 13:30
Rhaid cadw lle Booking essential
Lleoliad/Location
Ystafell/Room 1 Yn ogystal â darlunio i baratoi ei baentiadau, roedd Leonardo da Vinci’n darlunio i gynllunio’i gerfluniau, datblygu cynlluniau pensaernïol uchelgeisiol, dyfeisio peiriannau newydd ac astudio’r byd o’i gwmpas, gan fod ymchwiliadau arloesol Leonardo i fyd natur yr un mor fedrus â’i gyflawniadau artistig. Roedd yn defnyddio pwyntilau metel, pen, sialciau a dyfrlliwiau i gofnodi ei arsylwadau a ffrwyth ei ddychymyg mewn modd nad oes unrhyw artist neu wyddonydd arall erioed wedi rhoi cynnig arno.
Leonardo da Vinci drew not only to prepare his paintings, but also to plan his sculptures, devise grand architectural schemes, invent new machines, and to study the world around him. Leonardo’s pioneering investigations of the natural world were equal to his artistic achievements. He used metalpoint, pen, chalks and watercolour to capture his observations and the workings of his imagination in a manner that no other artist or scientist has ever attempted.
Hydref/October – Rhagfyr/December 2016
glynnviviangallery.org
25
Sgyrsiau/Talks
Safbwyntiau Perspectives Symposiwm Darlunio Drawing Symposium
Dyddiad/Date
Tocynnau/Tickets
Mer/Wed – 16.11.16 13:30 – 17:30
Rhaid cadw lle Booking essential
Lleoliad/Location
Ystafell/Room 1 Trefnwyd y symposiwm hwn ar y cyd â Choleg Celf Abertawe PCYDDS Abertawe i archwilio perthnasedd darlunio mewn arfer cyfoes ac mae’n dod â chwe artist cyfoes ynghyd i drafod rôl darlunio yn eu gwaith celf. Siaradwyr yn cynnwys Dr Catrin Webster Jonathan Williams Yr Athro Sue Williams Richard Monahan Julia Griffiths-Jones Gwenllian Beynon
26
glynnviviangallery.org
This symposium has been organised in collaboration with Swansea College of Art, UWTSD to explore the relevance of drawing in contemporary practice, and brings together six contemporary artists to discuss the role of drawing in their artwork. Speakers include Dr Catrin Webster Jonathan Williams Prof Sue Williams Richard Monahan Julia Griffiths-Jones Gwenllian Beynon
01792 516900
Sgyrsiau/Talks
Archwilio’r Casgliad Exploring the Collection
Llun/Photo: Phil Rees, 2016
Dyddiad/Date
Tocynnau/Tickets
Gwe/Fri – 18.11.16 14:00 – 15:00 & 15:00 – 16:00
Rhaid cadw lle Booking essential
Lleoliad/Location
Llyfrgell/Library O gaffael i arddangos, archwiliwch y gwaith sydd wrth wraidd archifo a storio gwybodaeth am ein casgliad ynghyd â lluniau ohono. Mae cymynrodd wreiddiol Richard Glynn Vivian wedi cynyddu bob blwyddyn yn ein hanes 100 mlynedd i gynnwys fideo, paentio, darlunio, cerflunio a sain. Ymunwch â ni am y sgwrs gyflwyniadol hon ac ymwelwch â’n gwasanaeth llyfrgell ac archifau newydd.
From acquisition to exhibition, explore the work involved in archiving and storing information and images of our collection. Richard Glynn Vivian’s original bequest has grown every year in our 100 year history to include video, painting, drawing, sculpture and sound. Join us for this introductory talk, and visit our new Library and Archive service.
Hydref/October – Rhagfyr/December 2016
glynnviviangallery.org
27
Sgyrsiau/Talks
Crefft Cadwraeth The Art of Conservation
Llun/Photo: Phil Rees, 2016
Dyddiad/Date
Tocynnau/Tickets
Mer/Wed – 23.11.16 11:00 – 12:00
Rhaid cadw lle Booking essential
Lleoliad/Location
Ystafell yr Ardd/Garden Room Dewch i gwrdd â thîm cadwraeth y Glynn Vivian ac ewch y tu ôl i lenni’r oriel newydd. Gallwch ymweld â’n stiwdios newydd a dysgu sut caiff y casgliad ei drin, ei warchod a sut y gofelir amdano ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
28
glynnviviangallery.org
Meet the Glynn Vivian conservation team and go behind the scenes of the new Gallery. Visit our new studios in this guided tour and learn how the collection is handled, cared for and conserved for future generations.
01792 516900
Sgyrsiau/Talks
Caffi Cymunedol Community Café Kirstine Dunthorne Richard Glynn Vivian: teithiwr, casglwr a dyngarwr traveller, collector & philanthropist Richard Glynn Vivian (1835 – 1910) Gosod Carreg Sylfaen yr Orielau (1909) Laying the Gallery’s Foundation Stone (1909) Dyddiad/Date
Tocynnau/Tickets
Gwe/Fri – 25.11.16 12:30 – 13:30
Rhaid cadw lle Booking essential
Lleoliad/Location
Ystafell/Room 1 Etifeddodd Glynn Vivian gyfoeth aruthrol o fusnes gweithgynhyrchu copr ei deulu yn Abertawe. Dengys ymchwil ddiweddar y bu ei fywyd yn un llawn cynnwrf, teithio byd-eang a chasglu brwd. Yn ystod ei flynyddoedd olaf, ac yntau wedi colli ei olwg, newidiodd ei fywyd i un a oedd yn canolbwyntio ar grefydd a dyngarwch. Rhoddodd ei gasgliad amrywiol o baentiadau, darluniau, cerameg, pethau cain a gwrthrychau a chyfraniad ariannol i adeiladu Oriel Gelf Glynn Vivian ‘er mwynhad trigolion pobl Abertawe’
Glynn Vivian inherited immense wealth from his family’s copper manufacturing in Swansea. Recent research reveals that he led a life of restless, world-wide travel and obsessive collecting. In his last years, having lost his sight, his thoughts turned to religion and philanthropy and he donated his eclectic collection of paintings, drawings, ceramics and objets d’art and funding to build the Glynn Vivian Art Gallery ‘for the enjoyment of the people of Swansea’.
Hydref/October – Rhagfyr/December 2016
glynnviviangallery.org
29
Artist Preswyl /Artist in Residence
Richard Monahan
Dyddiad/Date
Hydref – Rhagfyr / October – December Ganed Richard Monahan yn Tiverton, Dyfnaint ym 1979 a bu’n astudio tecstilau yng Ngholeg Celf Camberwell cyn symud i Abertawe i astudio celfyddyd gain yn 2001. Ers 2004 mae wedi byw a gweithio yn Abertawe. Mae gwaith Richard yn canolbwyntio ar ddarlunio naratif gydag elfennau o baentio a phrintio. Mae Richard hefyd yn addysgu mewn ysgolion, yn darlithio mewn prifysgolion ac yn y gymuned ehangach.
Richard Monahan was born in Tiverton, Devon in 1979 and studied textiles at Camberwell College of Art, before moving to Swansea to study Fine Art in 2001. Since 2004 he has lived and worked in Swansea. Richard’s practice is focused on narrative drawing with elements of painting and print. Richard also teaches in schools, and lectures in, universities and in the wider community.
Mae gwaith presennol Richard Monahan wedi datblygu trwy gyfres o sefyllfaoedd dychmygol sy’n ymwneud â dinistr y gorffennol, yn bersonol ac yn ddiwylliannol. Trwy ei gyfnod preswyl mae Richard yn ceisio ehangu ei waith mewn ymateb i’r arddangosfa Leonardo da Vinci: Ten Drawings from the Royal Collection.
Richard Monahan’s current practice has developed through a series of imagined scenarios that engage with the destruction of the past, both personal and cultural. Throughout his residency Richard is looking to expand his practice in response to the Leonardo da Vinci: Ten Drawings from the Royal Collection exhibition.
30
glynnviviangallery.org
01792 516900
Artist Preswyl /Artist in Residence
Dyddiad/Date
Tocynnau/Tickets
Gwe/Fri – 09.12.16 12:30 – 13:30
Rhaid cadw lle Booking essential
Lleoliad/Location
Ystafell/Room 1 Mae Artist Preswyl Oriel Gelf Glynn Vivian y tymor hwn, Richard Monahan, yn trafod ei waith a’i ddulliau o weithio wrth i’w gyfnod preswyl ddod i ben.
This season’s Artist in Residence, Richard Monahan, discusses his practice and working methods developed during his residency.
Richard Monahan, Di-deitl/Untitled Hydref/October – Rhagfyr/December 2016
glynnviviangallery.org
31
Craft/Crefft Mission @Glynn Vivian Mae’r Glynn Vivian ac Oriel Mission yn gweithio mewn partneriaeth i guradu nifer o ddarnau gwaith dethol yn arbennig ar gyfer siop grefftau newydd y Glynn Vivian, yn dilyn prosiect ailddatblygu’r Oriel. Craft/Crefft | Mission@Glynn Vivian yw’r wefan lle gallwch brynu anrheg, arbennig honno, gan gefnogi artistiaid a chrefftwyr o Gymru a’r DU.
Mission Gallery and Glynn Vivian are working in partnership to curate a number of specially selected works for our new craft shop, following the Gallery’s redevelopment. Craft/Crefft | Mission@Glynn Vivian is where you can buy that special gift, supporting artists and makers from Wales and the UK.
glynnviviangallery.org
01792 516900
32
Ymunwch â ni yn ein caffi newydd Join us in our new Café Oriau agor
Opening times
Mawrth – Sul, 10:00 – 16:30 Ar gau ar ddydd Llun (heblaw am wyliau banc)
Tuesday – Sunday, 10:00 – 16:30 Closed Monday (except bank holidays)
Mae’n bleser mawr gennym groesawu Coast Café i’r Glynn Vivian. Estynnwch eich ymweliad â’r oriel i fwynhau coffi neu ddewis o frechdanau a theisennau yn ein derbynfa a chaffi disglair newydd. Mae’r holl gynnyrch yn dod o ffynonellau lleol lle bo modd gydag amrywiaeth o ddewisiadau llysieuol, heb glwten a heb gynnyrch llaeth.
We are very pleased to welcome Coast Café at Glynn Vivian. Extend your Gallery visit and enjoy a coffee or a selection of sandwiches and cakes in our bright new reception and café space. All produce is locally sourced where possible with a range of vegetarian, gluten free and dairy free options.
Hydref/October – Rhagfyr/December 2016
glynnviviangallery.org
33
A4118
P
Swansea Central
Strand
A4217
B4489
Orchard S t.
Al ex an dr a
d.
Dehli St
Plantasia
Gr ov
eR
e River Taw
P
d ut R wC Ne
Glynn Vivian
Ro ad
290 B4
7 06 A4
A483
Mynediad Mae Glynn Vivian yn gwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn ac mae lifft ar gael i’r holl orielau a lleoedd. Mae toiledau i’r anabl a chyfleusterau Changing Places, a pharcio dynodedig i ddeiliaid bathodyn glas o flaen yr adeilad y tu allan i’n mynedfa newydd ar lefel y stryd.
Access Glynn Vivian is fully accessible to wheelchair users and has lift access to all galleries and spaces. We have disabled toilets and a ‘Changing Places’ facility, and designated parking for blue badge holders can be found at the front of the building outside our new street level entrance.
I gael rhagor o wybodaeth am gyfleusterau, adnoddau a rhaglenni dysgu i’r holl ymwelwyr, cysylltwch â ni yn glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk, ffoniwch 01792 516900 neu gofynnwch i aelod o staff cyfeillgar y Glynn Vivian yn ystod eich ymweliad.
For further information on facilities, resources and learning programmes for all visitors, contact us at glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk, telephone 01792 516900 or ask a member of our friendly Glynn Vivian staff during your visit.
Oriel Glynn Vivian Heol Alexandra Abertawe SA1 5DZ
34
Glynn Vivian Art Gallery Alexandra Road Swansea SA1 5DZ
glynnviviangallery.org
twitter.com @GlynnVivian facebook.com GlynnVivian instagram @glynnvivian
01792 516900
Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn rhan o Ddinas a Sir Abertawe ac wedi’i chefnogi gan grant o Gyngor Celfyddydau Cymru Bu’r datblygiad uchelgeisiol hwn yn bosib oherwydd buddsoddiad a chefnogaeth Dinas a Sir Abertawe, Llywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri a CADW
Glynn Vivian Art Gallery is part of the City and County of Swansea and is supported by a grant from the Arts Council of Wales. This ambitious development has been made possible thanks to the investment and support of City & County of Swansea, Welsh Government, Arts Council of Wales, Heritage Lottery Fund and CADW
Diolch hefyd i Pilkington, Howe a Chyfeillion Glynn Vivian
With thanks also to Pilkington, Howe and the Friends of the Glynn Vivian
Arddangosfeydd wedi’u cefnogi gan Exhibitions supported by
Hydref/October – Rhagfyr/December 2016
glynnviviangallery.org
35
Oriel Gelf Glynn Vivian Heol Alexandra Abertawe SA1 5DZ
Glynn Vivian Art Gallery Alexandra Road Swansea SA1 5DZ
01792 516900 orielglynnvivian.org
01792 516900 glynnviviangallery.org