Ionawr/January — Ebrill/April 2017
glynnviviangallery.org
Clawr: Helen Sear Llun o Moments of Capture, 2016 O Y Lleuad a GwĂŞn Llun trwy garedigrwydd yr artist
Cover: Helen Sear Still from Moments of Capture, 2016 From The Moon and a Smile Image courtesy of the artist
Cynnwys/Contents
06-07 08-09 10 11 12-15 16-17 18-23 24-25 26 27
Ionawr/January - Ebrill/April 2017
Arddangosfeydd/Exhibitions Casgliadau/Collections Gweithgareddau/Activities Oedolion/Adults Teuluoedd/Families Pobl Ifanc/Young People Sgyrsiau/Talks Artist Preswyl/Artist in Residence Digwyddiad/Event Mynediad/Access
glynnviviangallery.org
3
Croeso Welcome
Rydym wrth ein boddau bod drysau Glynn Vivian ar agor unwaith eto a gobeithiwn y byddwch yn mwynhau’r tymor newydd o’n blaenau sy’n parhau â Glenys Cour: Lliw Dweud, wedi’i churadu gan Mel Gooding. Mae’r arddangosfa hon wedi cael ei dderbyn yn wresog gan ymwelwyr â’r oriel. Byddwn yn parhau â’n sylw ar Abertawe mewn cyddestun lleol/byd-eang ac rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno Y Lleuad a Gwên, ymateb gan ferched cyfoes blaenllaw sy’n artistiaid ffotograffiaeth i rôl arloesol ein dinas yn ffotograffiaeth gynnar yr 19eg ganrif. Derbynnydd Gwobr Wakelin eleni yw’r artist cerameg, Philip Eglin, ac mae ei waith wedi’i ddewis i fod yn rhan o gasgliad yr oriel gan Andrew Renton, Ceidwad Celf yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Mae Phil wedi ennill enw da rhyngwladol wrth weithio gyda chlai ac mae’n llyncu dylanwadau hanesyddol sy’n deillio o ddulliau paentio’r 16eg ganrif, crochenwaith canoloesol Lloegr ac addurniadau ffigurol cefn gwastad Swydd Stafford. Mae ein rhaglenni dysgu yn parhau, gyda gweithdai, sgyrsiau’r oriel, digwyddiadau a gweithgareddau sy’n berthnasol i’n rhaglen er mwyn apelio at bobl o bob oedran a chefndir yn ein cymunedau. Gobeithiwn eich bod yn mwynhau ein caffi newydd, Coast. Gobeithiwn hefyd y parheir ein partneriaeth boblogaidd ag siop crefft Oriel Mission wrth adlewyrchu ein gwerthoedd allweddol i gefnogi celf ac artistiaid er mwyn i ni gysylltu â’n cymunedau trwy gyfrwng y celfyddydau. Gyda’n cyfarchion cynnes a’n dymuniadau da ar gyfer 2017 i’n holl gyfranogwyr a chefnogwyr.
4
orielglynnvivian.org
01792 516900
Jenni Spencer-Davies Curadur/Curator
We are all delighted that the Glynn Vivian doors are open again, and hope you will enjoy the new season ahead, continuing with Glenys Cour: The Colour of Saying, curated by Mel Gooding, which has been warmly received by visitors to the gallery. We will be keeping up our focus on Swansea in a local-global context, and are looking forward next to presenting, The Moon and a Smile, a response by eminent contemporary women photographic artists to our city’s pioneering role in early 19th century photography. The recipient of this year’s Wakelin Award is ceramic artist, Philip Eglin whose work has been selected to join the Gallery’s collection by Andrew Renton, Keeper of Art at Amgueddfa Cymru-National Museum Wales. Phil has earned an international reputation working with clay, and responds to historical influences drawn from 16th century painting, English medieval pottery and the flatbacked figurative ornaments of Staffordshire. Our Learning programmes will also be continuing with workshops, gallery talks, events and activities relating to our programme to appeal to people of all ages and backgrounds in our communities. We hope that you will enjoy our new café, Coast, and that our partnership with Mission Gallery craft shop will continue to be popular in reflecting our key values to support art and artists so that we can connect our communities through the arts. With our warmest thanks and good wishes for 2017 to all our participants and supporters.
Ionawr/January - Ebrill/April 2017
glynnviviangallery.org
5
Arddangosfa/Exhibition
Y Lleuad a GwĂŞn The Moon and a Smile 04.03.17 - 23.04.17
Lleoliad/Location
Ystafell/Room 3 Rhagarddangosfa/Preview
03.03.17, 19:00 - 21:00
Artistiaid/Artists
Greta Alfaro, Anna Fox, Astrid Kruse Jensen, Neeta Madahar & Melanie Rose, Sharon Morris, Sophy Rickett, Helen Sear, Patricia Ziad
Mae Y Lleuad a Gwên yn ymateb i gyfnod yn y 1840au a’r 1850au pan roedd Abertawe yng nghanol arbrofion cynnar ffotograffiaeth ar draws y byd. Yn arbennig, roedd cylch y teulu Dillwyn yn gynhyrchiol iawn wrth ddatblygu ffotograffiaeth, yn enwedig Mary Dillwyn, John Dillwyn Llewellyn a’i ferch Thereza. Wedi’u comisiynu gan Glynn Vivian, mae naw artistiaid rhyngwladol wedi creu gwaith newydd ar gyfer yr arddangosfa. Yn ogystal, bydd arddangosfa o ffotograffiaeth y 19eg ganrif.
The Moon and a Smile responds to a period in the 1840s and 1850s, when Swansea was at the centre of early experiments in photography worldwide. In particular, the Dillwyn family circle was prolific in the development of photography, especially Mary Dillwyn, John Dillwyn Llewellyn and his daughter Thereza. Commissioned by Glynn Vivian, the nine international artists have created new work for the exhibition. Alongside there will be a display of 19th century photography.
Sgwrs 17.03.17, 12:30 - 13:30 Ystafell 1
Talk 17.03.17, 12:30 - 13:30 Room 1
Ymunwch â’r ysgrifennydd Kate Best i edrych ar rai ffotograffau o’r 19eg ganrif a phrosiectau cyfoes yn Y Lleuad a Gwên.
Join writer Kate Best to look at some of the 19th century photographs and contemporary projects in The Moon and a Smile.
Symposiwm Ffotograffiaeth 04.03.17, 10:00 - 17:00 Ystafell 1
Photography Symposium 04.03.17, 10:00 - 17:00 Room 1
Gweler tudalen 22 am fanylion llawn.
See page 22 for full details.
Clwb Golff Bae Langland 2016, Anna Fox wedi’i chynorthwyo gan Andrew Bruce ac Ashleigh Fisk Langland Bay Golf Club 2016, Anna Fox assisted by Andrew Bruce and Ashleigh Fisk Ionawr/January - Ebrill/April 2017
glynnviviangallery.org
7
Casgliadau/Collections
Philip Eglin Gwobr Wakelin 2017 The Wakelin Award 18.02.17 - 09.04.17
Lleoliad/Location
Ystafell/Room 9 Rhagarddangosfa/Preview
17.02.17, 16:30 - 18:30 Rhoddir Gwobr Wakelin bob blwyddyn i artist o Gymru y prynir ei waith ar gyfer ein casgliad parhaol. Y dewiswr eleni yw Andrew Renton, Ceidwad Celf, Amgueddfa Genedlaethol Cymru sydd wedi dewis gwaith Philip Eglin. Bu Phil yn gweithio am flynyddoedd yn Swydd Stafford, ac mae bellach yn byw gyda’i deulu yng Nghwm Tawe ger ei stiwdio yn Abercraf. Mae Phil wedi ennill enw da rhyngwladol am ei waith, lle mae ei gyfeiriadau at gelf o’r gorffennol i’w gweld mewn cyd-destun cyfoes. Gweinyddir a chefnogir y wobr gan Gyfeillion y Glynn Vivian, ac fe’i hariennir gan roddion.
The Wakelin Award is given annually to a Welsh artist whose work is purchased for our permanent collection. This year’s selector is Andrew Renton, Keeper of Art, Amgueddfa Cymru-National Museum Wales, who has chosen the work of Philip Eglin. Phil worked for many years in Staffordshire, and now lives with his family in the Swansea valley near Abercrave, where his studio is based. Phil has earned an international reputation for his work, in which his reference to art from the past has been brought firmly into a contemporary context. The Award is administered and supported by the Friends of the Glynn Vivian and funded by donations.
Sgwrs Artist 07.04.17, 12:30 - 13:30 Ystafell 1
Artist Talk 07.04.17, 12:30 - 13:30 Room 1
Ymunwch ag Andrew Renton a fydd yn sgwrsio â Philip Eglin.
Join Andrew Renton in conversation with Philip Eglin.
Philip Eglin, Pedair Jwg Fach/ Four Small Jugs, 2015 Trwy garedigrwydd yr artist/Courtesy the artist Ffotograffiaeth/Photography: Oliver Eglin Ionawr/January - Ebrill/April 2017
glynnviviangallery.org
9
Gweithgareddau/Activities
Rhaid i blant dan 10 oed fod yng nghwmni oedolyn. Croeso i chi ddod â chinio pecyn i weithdai diwrnod llawn. Mae pob gweithgaredd am ddim. I gadw lle: 01792 516900 orielglynnvivian.org
10
orielglynnvivian.org
Children under 10 must be accompanied by an adult. You are welcome to bring a packed lunch when attending all day workshops. All activities are free. To book: 01792 516900 glynnviviangallery.org
01792 516900
Oedolion/Adults
Dosbarthiadau Celf Dydd Sadwrn i Oedolion Saturday Adult Art Classes
Llun/Photo: Eva Bartussek, 2016
Dyddiad/Date
Tocynnau/Tickets
Sad/Sat - 21.01.17, 11.02.17, 11.03.17, 25.03.17 11:00 - 16:00
Rhaid cadw lle Booking essential
Lleoliad/Location
Oed/Age
Ystafell/Room 2
16+
21.01.17 - Gwneud Papur. Cyfle i chi ddarganfod y dull ymarferol o greu papur, a chael hwyl yn creu ac yn addurno’ch papurau unigryw eich hunain.
21.01.17 - Paper making. Discover for yourself the hands-on method of creating paper, have fun embellishing and creating your own unique papers.
11.02.17 - Marmori
11.02.17 - Marbling
11.03.17 - Rhwymo llyfrau
11.03.17 - Book binding
25.03.17 - O ddelwedd i air. Archwiliwch eitemau yn y casgliad drwy iaith er mwyn creu cerddi a darnau rhyddiaith byr.
25.03.17 - From image to word. Explore items in the collection through language to create poems and works of short prose.
Cadwch le ar wahân ar gyfer pob gweithdy unigol.
Please book separately for each individual workshop.
Ionawr/January - Ebrill/April 2017
glynnviviangallery.org
11
Teuluoedd/Families
Gweithdai Gwyliau Mis Chwefror February Holiday Workshops Dyddiad/Date
Tocynnau/Tickets
19.02.17 - 25.02.17
Rhaid cadw lle Booking essential
Lleoliad/Location
Oed/Age
Ystafelloedd/Rooms 1 - 2
4 - 14
18.02.17, 11:00 - 14:00 Dewch i archwilio’r hyn sydd gan y Glynn Vivian i’w gynnig i deuluoedd a phlant. Cofrestrwch ar gyfer Pasbort i Gelf yr Oriel, profwch ein sesiynau Troli Celf neu rhowch gynnig ar Lwybr Richard Glynn Vivian.
18.02.17, 11:00 - 14:00 Come and explore what the Glynn Vivian has to offer families and children. Sign up to the Gallery Passport to Art, visit our Art Trolley sessions or try the Richard Glynn Vivian Trail.
22.02.17, 10:00 - 13.00 Cyfle i dynnu siapiau, delweddau a phatrymau wedi’u hysbrydoli gan y gwyntyllau o gasgliad Richard Glynn Vivian a’u defnyddio i greu eich gwyntyll bapur ddiddorol neu’ch celf bapur eich hun.
22.02.17, 10:00 - 13.00 Draw shapes, images and patterns inspired by the fans from the Richard Glynn Vivian collection and translate these into your very own paper ‘Fascinating Fan’ or paper art.
23.02.17, 11:00 - 16:00 (7-14 oed) Gallwch archwilio a thynnu lluniau o unrhyw anifeiliaid y gallwch eu gweld yn yr oriel gelf. Defnyddiwch eich dychymyg i greu ‘Creaduriaid Rhyfeddol’ a dylunio mwgwd, het neu eitem arall ar ffurf anifail.
23.02.17, 11:00 - 16:00 (Age 7-14) Explore and draw any animals you can spot in the art around the gallery. Use your imagination to make ‘Fantastic Creatures’ and design an animal mask, hat or other item.
25.02.17, 15:00 Clwb Ffilmiau i Deuluoedd Kubo and the Two Strings
25.02.17, 15:00 Family Film Club Kubo and the Two Strings
12
orielglynnvivian.org
01792 516900
Teuluoedd/Families
Gweithdai Gwyliau Mis Ebrill April Holiday Workshops Dyddiad/Date
Tocynnau/Tickets
08.04.17 - 22.04.17
Rhaid cadw lle Booking essential
Lleoliad/Location
Oed/Age
Ystafelloedd/Rooms 1 - 2
4 - 14
08.04.17, 11:00 - 14:00 Dewch i archwilio’r hyn sydd gan y Glynn Vivian i’w gynnig i deuluoedd a phlant. Cofrestrwch ar gyfer Pasbort i Gelf yr Oriel, profwch ein sesiynau Troli Celf neu rhowch gynnig ar Lwybr Richard Glynn Vivian.
08.04.17, 11:00 - 14:00 Come and explore what the Glynn Vivian has to offer families and children. Sign up to the Gallery Passport to Art, visit our Art Trolley sessions or try the Richard Glynn Vivian Trail.
13.04.17, 11:00 - 16:00 Gweithdy wedi’i ysbrydoli gan ffotograffiaeth gyda’r artist Sheree Murphy.
13.04.17, 11:00 - 16:00 Photography inspired workshop with artist Sheree Murphy.
18.04.17, 11:00 - 13:00 & 14:00 - 16:00 Diwrnod Cadwraeth Gwyddoniaeth Ymunwch â’n tîm o arbenigwyr cadwraeth, ewch i weld eu stiwdios technegol a dysgwch sut maent yn gofalu am 10,000 o ddarnau o waith celf o gasgliad yr Oriel.
18.04.17, 11:00 - 13:00 & 14:00 - 16:00 Science Conservation Day Join our team of conservation experts, visit their technical studios and learn how they look after over 10,000 artworks from the Gallery’s collection.
22.04.17, 15:00 Clwb Ffilmiau i Deuluoedd Ffoniwch yr Oriel i gael mwy o wybodaeth ar 01792 516900.
22.04.17, 15:00 Family Film Club Please contact the Gallery for more information on 01792 516900.
Ionawr/January - Ebrill/April 2017
glynnviviangallery.org
13
Teuluoedd/Families
Gweithdai Dydd Sadwrn i’r Teulu Saturday Family Workshops
Dyddiad/Date
Tocynnau/Tickets
Sad/Sat - 04.02.17, 04.03.17, 01.04.17 10:00 - 13:00
Rhaid cadw lle Booking essential
Lleoliad/Location
Oed/Age
Ystafell/Room 2
4 - 13
Drwy arbrofi â deunyddiau, technegau a syniadau, rydym yn ceisio ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o artistiaid. Archwiliwch arddangosfeydd newydd yr oriel a chael eich ysbrydoli gan fywyd a chasgliad Richard Glynn Vivian er mwyn creu eich llyfr braslunio personol eich hun. Gallwch hefyd greu albwm teithio mawr gan ddefnyddio’r darluniau a wnaed yn eich llyfrau braslunio fel ysbrydoliaeth.
Through experimentation with materials, techniques and ideas, we aim to inspire the next generation of artists. Explore the Gallery’s new exhibitions and draw inspiration from Richard Glynn Vivian’s life and collection to create your own personalised sketchbook and make a collective jumbo travel album, using the drawings made in your sketchbooks for inspiration.
14
orielglynnvivian.org
01792 516900
Teuluoedd/Families
Blynyddoedd Cynnar Early Years
Dyddiad/Date
Tocynnau/Tickets
Maw/Tue - 17.01.17, 31.01.17, 14.02.17, 07.03.17, 21.03.17, 04.04.17, 25.04.17 10:30 - 11:30
Rhaid cadw lle Booking essential
Lleoliad/Location
Oed/Age
Ystafell/Room 1
0-4
Dewch i archwilio symudiad, sain, iaith, gweadau, siapiau a lliwiau gyda’ch plentyn bach mewn sesiwn chwarae dan arweiniad mewn lle creadigol a hamddenol. Bydd thema wahanol bob wythnos, ac mae’r sesiynau Blynyddoedd Cynna wedi’u llunio’n benodol ar gyfer rhieni a gofalwyr â phlant cyn oed ysgol o 6 mis hyd at 4 blwydd oed.
Explore movement, sound, language, textures, shapes and colours with your little one. A guided play session in a relaxed creative space. Covering a different theme each week, the early years sessions are specifically designed for parents and carers with pre-school children from 6 months to 4 years.
Ionawr/January - Ebrill/April 2017
glynnviviangallery.org
15
Pobl Ifanc/Young People
Criw Celf yr Ifanc Young Art Force
Dyddiad/Date
Tocynnau/Tickets
Iau/ Thur - 12.01.17, 02.02.17, 09.03.17 11:30 - 14:30
Rhaid cadw lle Booking essential
Lleoliad/Location
Oed/Age
Ystafell/Room 2
14 - 24
Mae Criw Celf yr Ifanc yn ddosbarth celf agored i unrhyw un rhwng 14 a 24 oed i archwilio arddangosfeydd a chasgliadau’r oriel ac ymateb iddynt. Gan ddefnyddio deunyddiau a thechnegau gwahanol, rydym yn darparu cyfleoedd i gyfranogwyr ddatblygu eu sgiliau a’u hyder a chwrdd â phobl newydd. Mae’r dosbarthiadau hyn, sy’n cynnig achrediad Gwobr Gelf, yn ddelfrydol i unrhyw un nad yw mewn addysg brif ffrwd neu sy’n chwilio am her newydd.
Young Art Force is an open art class for anyone aged 14 to 24 to explore and respond to the Gallery’s exhibitions and collections. Using different materials and techniques, we provide opportunities for participants to develop their skills and confidence and to meet new people. Offering Arts Award accreditation, the classes are aimed at anyone not in mainstream education or those looking for a new challenge.
16
orielglynnvivian.org
01792 516900
Pobl Ifanc/Young People
Grw ˆ p y Tegell Du Black Kettle Collective
Llun/Photo: Phil Rees, 2016
Dyddiad/Date
Tocynnau/Tickets
Mer/Wed - 18.01.17, 01.02.17, 15.02.17, 01.03.17, 15.03.17, 29.03.17 15:30 - 17:00
Nid oes angen cadw lle No booking required
Lleoliad/Location
Oed/Age
Ystafell/Room 1
14 - 24
Grw ˆ p pobl ifanc yr oriel yw’r Black Kettle Collective ac mae’n addas i unrhyw un rhwng 14 i 24 oed. Mae’r grw ˆ p yn cynnig cyfleoedd i ymateb i arddangosfeydd, casgliadau a rhaglen ddigwyddiadau’r oriel, ac mae’n gweithio mewn partneriaeth ar brosiectau cenedlaethol a lleol cyffrous. Gan weithio gyda’r tîm dysgu ac artistiaid gwadd, mae’r grw ˆ p yn trefnu digwyddiadau unigryw i bobl ifanc, gan ddysgu sgiliau newydd a chwrdd â ffrindiau newydd ar yr un pryd. E-bostiwch Daniel.McCabe@swansea.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Black Kettle Collective is the Gallery’s Young People’s group for anyone aged 14 to 24. The group offers opportunities to respond to the Gallery’s exhibitions, collections and events programme, and works in partnership on exciting national and local projects. Working with the Learning team and guest artists, the group organises exciting and unique events for young people, learning new skills and making new friends along the way. Email Daniel.McCabe@swansea.gov.uk for more information.
Ionawr/January - Ebrill/April 2017
glynnviviangallery.org
17
Sgyrsiau/Talks
Ysbrydoli ac ysgogi - mewn aur a glas Inspire and enthuse - in gold and blue Sally Moss Curadur a Darlithydd Curator & Lecturer
Llun/Photo: © Sally Moss
Dyddiad/Date
Tocynnau/Tickets
Gwe/Fri - 13.01.17 12:30 - 13:30
Rhaid cadw lle Booking essential
Lleoliad/Location
Ystafell/Room 1 Bydd y curadur a’r darlithydd, Sally Moss, yn dathlu bywyd a gwaith Glenys Cour a’i dylanwad ar fywydau ei chyd-artistiaid a’r myfyrwyr y bu’n eu dysgu ac yn cydweithio â hwy yn ystod ei gyrfa lwyddiannus yn Abertawe.
18
orielglynnvivian.org
Curator & lecturer, Sally Moss, celebrates the life and work of Glenys Cour and her influence on the lives of fellow artists and the students she taught and collaborated with during her successful career in Swansea.
01792 516900
Sgyrsiau/Talks
Crefft Cadwraeth The Art of Conservation
Llun/Photo: Phil Rees, 2016
Dyddiad/Date
Tocynnau/Tickets
Mer/Wed - 18.01.17, 15.02.17, 26.04.17 11:00 - 12:00
Rhaid cadw lle Booking essential
Lleoliad/Location
Ystafell/Room 1 Dewch i gwrdd â thîm cadwraeth y Glynn Vivian ac ewch y tu ôl i lenni’r oriel newydd. Gallwch ymweld â’n stiwdios newydd ar y daith dywys hon a dysgu sut caiff y casgliad ei drin a’i gadw a sut y gofelir amdano ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Meet the Glynn Vivian conservation team and go behind the scenes of the new Gallery. Visit our new studios in this guided tour and learn how the collection is handled, cared for and conserved for future generations.
Ionawr/January - Ebrill/April 2017
glynnviviangallery.org
19
Sgyrsiau/Talks
Archwilio’r Casgliad Exploring the Collection
Llun/Photo: Phil Rees, 2016
Dyddiad/Date
Tocynnau/Tickets
Gwe/Fri - 27.01.17, 03.03.17, 28.04.17 14:00 - 15:00 & 15:30 - 16:30
Rhaid cadw lle Booking essential
Lleoliad/Location
Llyfrgell/Library O gaffael i arddangos, archwiliwch y gwaith sydd wrth wraidd archifo a storio gwybodaeth am ein casgliad ynghyd â lluniau ohono. Mae cymynrodd wreiddiol Richard Glynn Vivian wedi cynyddu bob blwyddyn yn ein hanes 100 mlynedd i gynnwys fideo, paentio, darlunio, cerflunio a sain. Ymunwch â ni ar gyfer y sgwrs gyflwyniadol hon, ac ewch i weld ein gwasanaeth llyfrgell ac archifau newydd.
20
orielglynnvivian.org
From acquisition to exhibition, explore the work involved in archiving and storing information and images of our collection. Richard Glynn Vivian’s original bequest has grown every year in our 100 year history to include video, painting, drawing, sculpture and sound. Join us for this introductory talk, and visit our new Library and Archive service.
01792 516900
Sgyrsiau/Talks
Caffi Cymunedol Community Café Yr Athro Louise Miskell Professor Louise Miskell Mwyndoddi a Gwerthu: y Teulu Vivian a’r fasnach gopr yn Abertawe'r 19eg ganrif Smelting and Selling: the Vivians and the Copper trade in 19th century Swansea
James Harris Senior (1810-1887) Gwaith Copr yr Hafod, Afon Tawe, tua 1850 Hafod Copper Works, River Tawe, c. 1850
Dyddiad/Date
Tocynnau/Tickets
Gwe/Fri - 17.02.17 12:30 - 13:30
Rhaid cadw lle Booking essential
Lleoliad/Location
Ystafell/Room 1 Mae’n bosib mai Vivian and Sons oedd cwmni mwyaf adnabyddus Abertawe yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd yn cyfleu i’r dim sut daeth y dref yn enwog am fod yn ganolfan gopr fyd-eang. Mae’r sgwrs hon yn ystyried yr hyn a oedd y tu ôl i ddelwedd lwyddiannus y cwmni, a’r anawsterau a wynebwyd gan y teulu Vivian wrth iddynt weithio i sefydlu eu busnes mwyndoddi copr yn yr Hafod. Gan ddefnyddio tystiolaeth o ohebiaeth eang y teulu Vivan a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, archwilir eu hymdrechion i greu copr o ansawdd uchel ac adeiladu sylfaen gwsmeriaid sylweddol ar gyfer eu cynnyrch ynghyd â’u perthynas a phrif gwmnïau copr eraill Abertawe.
Vivian and Sons is perhaps Swansea’s best known nineteenth-century copper firm. They epitomised the town’s rise to fame as a centre of the global copper trade. This talk looks behind their successful image at some of the challenges and difficulties faced by the Vivians as they worked to establish their copper smelting business at Hafod. Drawing on evidence from the extensive Vivian correspondence held at the National Library of Wales, their efforts to produce high quality copper and to build up a substantial customer base for their products will be explored alongside their relationships with Swansea’s other leading copper firms.
Ionawr/January - Ebrill/April 2017
glynnviviangallery.org
21
Sgyrsiau/Talks
Symposiwm Ffotograffiaeth Prifysgol Falmouth Falmouth University Photography Symposium Atyniad yr Archif The Lure of the Archive Dyddiad/Date
Tocynnau/Tickets
Sad/Sat - 04.03.17 10:00 - 17:00
£15, £10 Consesiwn / Concessions Rhaid cadw lle Booking essential
Lleoliad/Location
Ystafell/Room 1 I gyd-fynd â lansiad yr arddangosfa Y Lleuad a Gwên, bydd Prifysgol Falmouth yn cynnal symposiwm ffotograffiaeth yn Oriel Gelf Glynn Vivian. Trwy gyflwyniadau a thrafodaethau, bydd y symposiwm yn archwilio heriau a strategaethau artistiaid, curaduron ac awduron wrth drin casgliadau ac archifau hanesyddol ac ymwneud â nhw. Bydd y siaradwyr yn cynnwys artistiaid sy’n arddangos eu gwaith a Helen Westgeest, Athro Cynorthwyol Celf Fodern a Chyfoes a Theori Ffotograffiaeth, Prifysgol Leiden; yr awdur, curadur ac artist, David Campany o Brifysgol Westminster; Bronwen Colquhoun, Uwch-guradur Ffotograffiaeth, Amgueddfa Genedlaethol Cymru; Mark Etheridge, Curadur, Diwydiant a Thrafnidiaeth, Amgueddfa Cymru; Paul Cabuts, Cyfarwyddwr, Sefydliad Ffotograffiaeth, Prifysgol Falmouth. 22
orielglynnvivian.org
To coincide with the launch of the exhibition The Moon and a Smile, Falmouth University hosts a oneday photography symposium at the Glynn Vivian Art Gallery. Through presentations and discussions, the symposium will explore the challenges and strategies of artists, curators and writers in approaching and engaging with historic collections and archives. Speakers include exhibiting artists and Helen Westgeest, Assistant Professor of Modern and Contemporary Art History and Photography Theory, Leiden University; writer, curator and artist, David Campany, Westminster University; Bronwen Colquhoun, Senior Curator of Photography, National Museum Wales; Mark Etheridge, Curator, Industry and Transport, National Museum Wales; Paul Cabuts, Director, Institute of Photography, Falmouth University. 01792 516900
Sgyrsiau/Talks
Caffi Cymunedol Community Café David M. Turner, Athro Hanes, Prifysgol Abertawe David M. Turner, Professor of History, Swansea University Anabledd a Dallineb ym Mhrydain yng Nghyfnod Glynn Vivian Disability and Blindness in Glynn Vivian’s Britain
George Smith yn null W. Ridgeway, Golau a Thywyllwch (1871), Llyfrgell Wellcome, Llundain George Smith after W. Ridgway, Light and Darkness (1871). Wellcome Library, London
Dyddiad/Date
Tocynnau/Tickets
Gwe/Fri - 10.03.17 12:30 - 13:30
Rhaid cadw lle Booking essential
Lleoliad/Location
Ystafell/Room 1 Roedd y Fictoriaid yn ystyried mai’r golwg oedd y synnwyr pennaf ac yn meddwl bod ei golli’n peri cryn anabledd. O ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd sefydliadau elusennol yn darparu addysg a hyfforddiant i blant dall. Roedd dyngarwyr cefnog megis Richard Glynn Vivian yn cefnogi elusennau i’r deillion, ond, o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd pobl ddall yn gynyddol feirniadol o elusen a’r agwedd o dosturi a oedd yn sail iddi. Mae’r sgwrs hon yn archwilio’r dadleuon hyn a’u perthnasedd i weithrediaeth anabledd heddiw. Dirywiodd golwg Glynn Vivian yn nes ymlaen yn ei fywyd, ac mae’r sgwrs hefyd yn archwilio profiadau pobl â nam ar y golwg.
The Victorians viewed sight as the ‘sovereign’ of the senses and considered its loss highly disabling. From the late eighteenth century onwards charitable institutions provided education and training for blind children. Wealthy philanthropists such as Richard Glynn Vivian supported blind people’s charities, but from the middle of the nineteenth century blind people became increasingly critical of charity and the attitudes of pity that underpinned it. This talk explores these arguments and their relevance to disability activism today. Glynn Vivian’s own sight declined in later life, and the talk also examines the experiences of people with visual impairments.
Ionawr/January - Ebrill/April 2017
glynnviviangallery.org
23
Artist Preswyl/Artist in Residence
Sharon Morris
Dyddiad/Date
Chwefror - Mawrth / February - March Sharon Morris yw artist preswyl y tymor hwn. Artist a bardd yw Sharon Morris, a anwyd yn Sir Benfro ac a astudiodd yn Ysgol Celfyddydau Cain Slade, Prifysgol Dinas Llundain, lle mae hi’n dysgu ar hyn o bryd. Fe’i cyhoeddir mewn nifer o gyfnodolion barddoniaeth gan gynnwys Poetry Wales, 2016 ac mae ei chasgliadau barddoniaeth False Spring, 2007 a Gospel Oak, 2014 wedi’u cyhoeddi gan Wasg Enitharmon. Mae ei gwaith chelf, ei gosodiadau, ei cherddi ffilm a’i pherfformiadau byw wedi cael eu dangos yn ddiweddar yng Nghanolfan Celfyddydau Camden, yn Rowing, Llundain ac yn Oriel Mission, Abertawe yn 2013. Ar hyn o bryd mae Sharon eisoes yn gweithio ar y berthynas rhwng geiriau a delweddau fel ffurf gyfieithu ac ar farddoniaeth ‘macaronic’, drwy gyfosod gwahanol ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg.
24
orielglynnvivian.org
This season’s Artist in Residence is Sharon Morris. Born in Pembrokeshire, Sharon Morris is an artist and poet, who studied at the Slade School of Fine Art, UCL, London, where she currently teaches. She is widely published in poetry journals including Poetry Wales, 2016, and her poetry collections, False Spring, 2007, and Gospel Oak, 2014, are published by Enitharmon Press. Her artworks, installations, film-poems and live performances have been shown recently at Camden Arts Centre and Rowing, London, and the Mission Gallery, Swansea in 2013. Sharon is currently working on the relation between words and images as a form of translation and ‘macaronic’ poetry, juxtaposing different languages, including Welsh.
01792 516900
Sharon Morris, Mae’r Lleuad yn Tywynnu ar fy Mam, The Moon is Shining on My Mother, 2016
Sgwrs Artist Preswyl
Artist in Residence Talk
24.03.17, 12:30 - 13:30 Ystafell 1
24.03.17, 12:30 - 13:30 Room 1
Bydd Sharon Morris yn trafod ei harfer a’i chyfnod preswyl yn y Glynn Vivian
Sharon Morris discusses her practice and Glynn Vivian residency
Mamieithoedd ac Ieithoedd Eraill: Perfformiad 29.04.17, 12:30 - 13.30 Ystafell yr Ardd
Mother and Other Tongues: a Performance 29.04.17, 12:30 - 13.30 Garden Room
Bydd y perfformiad hwn yn cynnwys gweithiau celf gair a delwedd newydd, cerddi a rhyddiaith fer gan gyfranogwyr gweithdai bardd preswyl y Glynn Vivian. Mae’r gweithiau hyn, mewn sawl iaith, wedi’u hysbrydoli gan gasgliadau Oriel Glynn Vivian, Abertawe a’i lleoliad.
This performance will include new word and image artworks, poems and short prose by participants in Glynn Vivian poet in residence workshops. Written in many tongues, these works are inspired by the Glynn Vivian collections, Swansea and its location.
Ionawr/January - Ebrill/April 2017
glynnviviangallery.org
25
Digwyddiad/Event
Lansio Llyfr Book Launch Elizabeth Vera Bassett Don Treharne Vera Bassett, Clebran/Gossip, c.1985 © Ystâd yr Artist/The Artist’s estate
Dyddiad/Date
Tocynnau/Tickets
08.04.17, 14:30 - 15:30
Rhaid cadw lle Booking essential
Lleoliad/Location
Ystafell/Room 1
Yn ystod ei hoes, creodd Vera Bassett (1912 - 1997) lwyfan rhyngwladol ar gyfer ei gwaith ac arddangoswyd ei gwaith mewn mannau daearyddol hynod amrywiol - yn Abertawe yn Oriel Glynn Vivian; y Mwmbwls a Massachusetts; Efrog Newydd a Newcastle-upon-Tyne; Pontarddulais a Pharis. Roedd beirniaid cyfoes ym Mhrydain a Ffrainc yn hael eu clod o’i gwaith. Y llyfr hwn fydd y cyntaf i’w ysgrifennu amdani a chaiff ei ddarlunio’n llawn gyda lluniau o’i chynnyrch artistig amrywiol.
During her lifetime Vera Bassett (1912 - 1997) achieved an international platform for her work and had exhibitions in places of astounding geographically diversity - in Swansea in the Glynn Vivian; Mumbles and Massachusetts; New York and Newcastle-upon-Tyne; Pontarddulais and Paris. Contemporary critics both in Britain and France were lavish in their praise of her work. This book will be first to be written about her and will be fully illustrated with images of her varied artistic output.
Digwyddiad Cyfeillion y Glynn Vivian
A Friends of the Glynn Vivian event
26
orielglynnvivian.org
01792 516900
Mynediad Mae Glynn Vivian yn gwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ac mae lifft ar gael i’r holl orielau a lleoedd. Mae toiledau i’r anabl a chyfleusterau Changing Places ar gael, ac mae lle parcio dynodedig i ddeiliaid bathodyn glas o flaen yr adeilad y tu allan i’n mynedfa newydd ar lefel y stryd.
Access Glynn Vivian is fully accessible to wheelchair users and has lift access to all galleries and spaces. We have disabled toilets and a ‘Changing Places’ facility, and designated parking for blue badge holders can be found at the front of the building outside our new street level entrance.
I gael rhagor o wybodaeth am gyfleusterau, adnoddau a rhaglenni dysgu i’r holl ymwelwyr, cysylltwch â ni yn glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk, trwy ffonio 01792 516900 neu drwy ofyn i aelod o staff cyfeillgar y Glynn Vivian yn ystod eich ymweliad.
For further information on facilities, resources and learning programmes for all visitors, contact us at glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk, telephone 01792 516900 or ask a member of our friendly Glynn Vivian staff during your visit.
Oriel Gelf Glynn Vivian Heol Alexandra Abertawe SA1 5DZ
Glynn Vivian Art Gallery Alexandra Road Swansea SA1 5DZ
twitter.com @GlynnVivian facebook.com GlynnVivian instagram @glynnvivian
Arddangosfeydd wedi’u cefnogi gan Exhibitions supported by
Ionawr/January - Ebrill/April 2017
glynnviviangallery.org
27
Oriel Gelf Glynn Vivian Heol Alexandra Abertawe SA1 5DZ
Glynn Vivian Art Gallery Alexandra Road Swansea SA1 5DZ
01792 516900 orielglynnvivian.org
01792 516900 glynnviviangallery.org
Ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sul, 10am - 5pm Ar gau ddydd Llun heblaw am Wyliau’r Banc
Open Tuesday - Sunday, 10am - 5pm Closed Mondays except Bank Holidays
Mynediad am ddim
Admission free