Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg rhaglen ysgolion cynradd 2017 2018

Page 1

..Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg.. Rhaglen Ysgolion Cynradd..

Gwasanaeth ar y cyd i Gyngor Dinas a Sir Abertawe a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot


Ysgolion Cynradd

Archifau mewn ysgolion Mae archifau'n adnodd addysgol gwych sy'n cynnig profiad ymarferol i fyfyrwyr ac athrawon gyda ffynonellau gwreiddiol unigryw. Gallant ennyn dychymyg y disgyblion oherwydd eu bod yn cynnwys gwybodaeth y gall plant uniaethu â hi. Rhowch y profiad o ddefnyddio ffynonellau uniongyrchol i ddisgyblion, gadewch iddynt chwilio am wybodaeth sydd ar gael mewn fformatiau diddorol ac anarferol, a gadewch iddynt gynnal eu hymchwil eu hunain a gwerthuso'r adnoddau.

Gwybodaeth gyffredinol..

Rydym yn cynnig nifer o wasanaethau i ysgolion yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Ymweld â ni AM DDIM yn yr Ystafell Chwilio Gwahoddir disgyblion ac athrawon i ymweld â'r Gwasanaeth Archifau yn Abertawe. Gall grwpiau o unrhyw oedran weithio ar gofnodion gwreiddiol dethol. Oherwydd lle cyfyngedig, ni allwn gael mwy na 35.

Ymweliad â’ch ysgol cysylltwch â ni am daliadau (£50)

Fel arall, gallwn gynnig yr un sesiynau yn eich ysgol, gan ddefnyddio dogfennau ffacsimili. Dyddiau ac amserau sesiynau Mae sesiynau’n para am 2 awr ac yn rhedeg o 10yb-12yh a 1yh-3yh. Mae sesiynau ar gael ar ddydd Llun yn unig.

Pecyn adnoddau Gellir addasu Pecynnau Adnoddau Astudio Ardal ar gyfer eich ysgol chi. Bydd pob sesiwn yn cynnwys yr holl ddogfennau canlynol neu rai ohonynt: mapiau, cyfrifiadau, cyfeirlyfrau masnach, cofnodion plwyfi, cofnodion ysgol a ffotograffau. Cost Pecynnau Adnoddau Astudio Ardal yw £30.00 a dylid eu harchebu un tymor ymlaen llaw.

www.abertawe.gov.uk/addysgarchifau


Cyfnod Sylfaen

Cronfa luniau..

Amlinelliad o'r Prosiect Mae'r Gwasanaeth Archifau wedi llunio cronfa ddelweddau o hen ffotograffau lleol. Gall athrawon weld y rhain a'u lawrlwytho i'w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth. Mae'r adnodd ar gyfer y Cyfnod Sylfaen ac wedi'i seilio ar y pynciau canlynol: • Tai a chartrefi • Trafnidiaeth a Theithiau • Swyddi a Gweithleoedd • Gwyliau a Dathliadau Mae pob adnodd ar gyfer y thema hefyd yn cynnwys nodiadau athrawon, amserlenni a syniadau am weithgareddau yn ogystal â disgrifiad o'r ddelwedd.

Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd Amrediad - Amser a Phobl • • •

Rhoi digwyddiadau mewn dilyniant Dechrau nodi gwahaniaethau rhwng ffyrdd o fyw ar adegau gwahanol Defnyddio amrywiaeth o ffynonellau hanesyddol, gan ganolbwyntio ar ffotograffau

Amrediad - Pobl a Lleoedd • •

Dysgu lle mae eu hardal leol Dechrau adnabod gwahaniaethau rhwng eu hardal eu hunain ac ardaloedd mewn rhannau eraill o Gymru Ymchwilio i sut mae lleoedd yn newid

01792 636589

Lleoliad y gronfa luniau Bydd yr holl ysgolion babanod a chynradd yn Abertawe a Chastellnedd Port Talbot wedi cael CD adnoddau Cyfnod Sylfaen ym mis Mawrth 2013.

Cyswllt Mae CD Adnoddau Cyfnod Sylfaen ailddodiad yn costio £30.00. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Katie ar 01792 636589


Cyfnod Allweddol 2

Fictoriaid Cyfoethog a Thlawd.. Hyd y sesiwn 2 awr

Amlinelliad o'r pwnc Cymharu Fictoriaid cyfoethog a thlawd, gan ganolbwyntio ar slym yn Abertawe neu Gastell-nedd a Pharc Margam (cartref y teulu Talbot). Bydd disgyblion yn defnyddio'r ffynonellau canlynol i wneud cymariaethau rhwng bywydau Fictoriaid cyfoethog a thlawd: mapiau, cynlluniau, cyfrifiadau, ffotograffau o bobl a chartrefi a phapurau newydd.

Lleoliad Ystafell Chwilio Archifau AM DDIM neu yn yr ysgol £50 y ddosbarth y sesiwn

Cyswllt Am fwy o wybodaeth neu i drefnu sesiwn, ffoniwch Katie ar 01792 636589

Amrediad Mae'r pwnc hwn yn canolbwyntio ar nodweddion bywyd dyddiol yn ystod y cyfnod Fictoraidd. Y cwestiynau allweddol yw: • Sut roedd bywyd i bobl gyfoethog a thlawd yn ystod y cyfnod Fictoraidd? Caiff dysgwyr y cyfle i drafod tai a chartrefi, dillad, amodau byw a swyddi. • Sut mae bywydau dyddiol pobl yn y cyfnod Fictoraidd wedi'u cynrychioli a'u dehongli a pham? Caiff dysgwyr y cyfle i edrych ar amrywiaeth o gofnodion a thrafod sut mae'r cyfoethog a'r tlawd wedi'u cynrychioli.

www.abertawe.gov.uk/addysgarchifau


Cyfnod Allweddol 2

Y Tuduriaid gartref ac yn y gwaith.. Amlinelliad o'r pwnc

Hyd y sesiwn 2 awr

Lleoliad Ystafell Chwilio Archifau AM DDIM neu yn yr ysgol £50 y ddosbarth y sesiwn

Cyswllt Am fwy o wybodaeth neu i drefnu sesiwn, ffoniwch Katie ar 01792 636589

Bydd grwpiau'n cael y cyfle i astudio dogfennau Tuduraidd gwreiddiol, gan gynnwys ewyllysiau ac indenturau prentisiaethau i roi cipolwg ar fywydau pobl oedd yn byw ac yn gweithio yn ystod yr oes Duduraidd. Bydd disgyblion yn cael cyfle i ddarganfod pa eiddo oedd gan bobl, yn ogystal ag ystyried y da a'r drwg am fod yn brentis yn ystod teyrnasiad Harri'r Wythfed (Arglwydd Sugar, gwylia di!) Bydd y sesiwn yn dod i ben gyda disgyblion yn creu eu hindenturau prentisiaeth a'u seliau eu hunain.

Amrediad Mae'r pwnc hwn yn canolbwyntio ar nodweddion bywyd dyddiol yn ystod y cyfnod Tuduraidd. Y cwestiynau allweddol yw: • Sut roedd bywyd i bobl oedd yn byw yn ystod yr Oes Duduraidd? Caiff dysgwyr y cyfle i drafod tai a chartrefi a swyddi. • Sut mae bywydau dyddiol pobl yn y cyfnod Tuduraidd wedi'u cynrychioli a'u dehongli a pham? Caiff dysgwyr y cyfle i edrych ar amrywiaeth o gofnodion a thrafod sut mae pobl yn ystod yr Oes Duduraidd wedi'u cynrychioli. • Beth ydych chi'n ei wybod am fywyd yn y cyfnod Tuduraidd; sut rydych yn gwybod hyn a sut gallwch gael gwybod mwy?

01792 636589


Cyfnod Allweddol 2

Y Blitz Tair Noson.. Hyd y sesiwn

Amlinelliad o'r pwnc

2 awr

Gwahoddir disgyblion i gamu'n ôl mewn amser ac ymweld â'n Hystafell Gweithrediadau Rhyfel ffug. Gan ddefnyddio cynllun Luftwaffe o Abertawe, lluniau awyrol, cofnodion faciwîs, dyddiaduron yr ARP a'r Gwarchodlu Cartref; bydd disgyblion yn helpu i greu cynllun dianc strategol a sefydlu amddiffynfeydd ar hyd Bae Abertawe.

Lleoliad Ystafell Chwilio Archifau AM DDIM neu yn yr ysgol £50 y ddosbarth y sesiwn

Cyswllt Am fwy o wybodaeth neu i drefnu sesiwn, ffoniwch Katie ar 01792 636589

Nesaf, byddwn yn cael ein cludo i noson olaf y Blitz Tair Noson; bydd disgyblion yn defnyddio cofnodion y Gwasanaeth Tân Cynorthwyol a rhestr o gyrchoedd awyr i blotio'r prif fannau yr effeithiodd y blitz arnynt, yn ogystal â phenderfynu lle i anfon y criwiau, y Gwarchodlu Cartref a'r anafedigion. Yn olaf, gan ddefnyddio ffotograffau o Abertawe wedi'r blitz i ddangos dinistriad y dref, rhestr o'r clwyfedigion a phreswylwyr marw, bydd disgyblion yn penderfynu sut mae adnabod yr anafedigion a'r meirw a lle i'w claddu.

Amrediad Bydd y pwnc hwn yn canolbwyntio ar nodweddion bywyd dyddiol yn ystod y Blitz Tair Noson. Y cwestiynau allweddol yw: • Beth ydych yn ei wybod am fywyd yn ystod y Blitz Tair Noson; sut rydych yn gwybod hyn a sut gallwch gael gwybod mwy? • Sut roedd bywyd i ddynion, menywod a phlant yn ystod y Blitz Tair Noson? • A fu newidiadau sylweddol ym mywydau pobl yn y cyfnod hwn, pam? • Sut mae bywydau dyddiol pobl yn ystod y Blitz Tair Noson wedi'u cynrychioli a'u dehongli a pham?

www.abertawe.gov.uk/addysgarchifau


Cyfnod Allweddol 2

Pecyn Adnoddau Astudio Ardal..

Pecynnau Adnoddau Astudio Ardal Gellir addasu Pecynnau Adnoddau Astudio Ardal ar gyfer eich ysgol chi. Bydd pob pecyn yn cynnwys copïau o'r holl ddogfennau canlynol neu rai ohonynt: mapiau, cyfrifiadau, cyfeirlyfrau masnach, cofnodion plwyfi, papurau newydd, hanesion llafar, cofnodion ysgol a ffotograffau. Cost Pecynnau Adnoddau Astudio Ardal yw £30.00 a dylid eu harchebu tymor ymlaen llaw.

Fformat a Chynnwys Byddwch yn cael y Pecyn Adnoddau Astudio Ardal fel CD. Gall yr adnoddau gael eu hargraffu a'u defnyddio yn y dosbarth neu fel arddangosfeydd ystafell ddosbarth. Mae hawlfraint yr holl adnoddau wedi'i chlirio at ddefnydd addysgol. Mae pob adnodd hefyd yn cynnwys nodiadau athrawon a syniadau am weithgareddau.

Cyswllt Am fwy o wybodaeth neu i archebu CD, ffoniwch Katie ar 01792 636589

01792 636589


Cyfnod Allweddol 2

Adnoddau Digidol .

Pecyn Adnoddau'r Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ffrynt Cartref Mae'r adnodd hwn yn canolbwyntio ar fywydau'r rhai a arhosodd adref yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae'r pynciau yr ymdrinnir â hwy'n cynnwys: recriwtio; gwrthwynebwyr cydwybodol; nyrsys; y rhai gafodd eu hanafu yn y rhyfel; menywod yn y rhyfel; a banciau tanc. Bydd yr holl adnoddau a ddefnyddir yn gysylltiedig â'r ardal leol. Cost Pecynnau Adnoddau'r Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ffrynt Cartref yw £10.00.

Fformat a Chynnwys Byddwch yn derbyn pecynnau adnoddau a CD. Gall yr adnoddau gael eu hargraffu a'u defnyddio yn y dosbarth neu fel arddangosfeydd ystafell ddosbarth. Mae hawlfraint yr holl adnoddau wedi'i chlirio at ddefnydd addysgol. Mae pob adnodd yn cynnwys nodiadau athrawon a gweithgareddau argymelledig.

Iechyd ac Afiechydon yn Llansawel Gan ddefnyddio Llansawel fel astudiaeth achos, mae'r adnodd hwn yn canolbwyntio ar iechyd ac afiechydon yn ystod y cyfnod Fictoraidd. Gan ganolbwyntio ar golera a'i effeithiau; gan ddefnyddio amrywiaeth o ddogfennau gan gynnwys mapiau, y cyfrifiad, ystadegau'r boblogaeth, cofnodion claddu a ffotograffau. Cost Pecynnau Adnoddau Llansawel £10.00.

Cyswllt Am fwy o wybodaeth neu i archebu CD, ffoniwch Katie ar 01792 636589

www.abertawe.gov.uk/addysgarchifau


Cyfnod Allweddol 2

Adnoddau Digidol .

Pecyn Adnoddau William Boatwright Dewch i olrhain bywyd crwt stryd Fictoraidd yn Abertawe o'i enedigaeth ym 1879 i fynychu ysgol driwantio ac ysgol benyd a chyfnod byr yn y carchar, cyn ymuno â'r fyddin a mynd i ymladd yn Rhyfel y Boer yn Ne Affrica. Cost Pecynnau Adnoddau William Boatwright yw £10.00.

Pecyn Adnoddau Treialon Mwg Copr Adeiladodd John Vivian Waith Copr yr Hafod ym 1810. Ym 1833, hawliodd grŵp o ffermwyr lleol iawndal gan y cwmni mwyndoddi copr pwerus oherwydd yr effaith honedig ar eu heiddo o fygdarth y gwaith. Denodd yr achos, a gafodd ei adnabod fel y Treial Mwg Copr Mawr, sylw sylweddol ym mhapur newydd lleol y Cambrian. Cost y Pecynnau Adnoddau Treial Mwg Copr yw £10.00.

Fformat a Chynnwys Byddwch yn derbyn pecynnau adnoddau a CD. Gall yr adnoddau gael eu hargraffu a'u defnyddio yn y dosbarth neu fel arddangosfeydd ystafell ddosbarth. Mae hawlfraint yr holl adnoddau wedi'i chlirio at ddefnydd addysgol. Mae pob adnodd yn cynnwys nodiadau athrawon a gweithgareddau argymelledig.

Cyswllt Am fwy o wybodaeth neu i archebu CD, ffoniwch Katie ar 01792 636589

01792 636589


Cyfnod Allweddol 3

..Rhyfel Byd Cyntaf..

Amlinelliad o’r pwnc Bydd y sesiwn hon yn helpu myfyrwyr i goffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Bydd myfyrwyr yn archwilio'r rôl bwysig a oedd gan fenywod yn y rhyfel fel gweithwyr arfau rhyfel, nyrsys a Merched y Tir. Byddwn hefyd yn talu sylw at stori emosiynol gwrthwynebwyr cydwybodol. Gwrthododd y dynion hyn ymladd yn y rhyfel oherwydd eu credoau crefyddol a gwleidyddol. A oedd gwrthwynebwyr cydwybodol yn llwfrgwn neu'n arwyr? Roedd gan Abertawe ei fataliwn 'pals' lleol ei hun. Dysgwch am yr aberth ofnadwy yng Nghoed Mametz ym 1916. Beth oedd manteision ac anfanteision y bataliwn 'pals' lleol? Cyn y rhyfel, priododd miloedd o ddynion Almaenaidd fenywod lleol gan ymgartrefu yn ne Cymru. Dewch o hyd i'r hyn a ddigwyddodd i'r teuluoedd hyn pan ddatganodd Prydain ryfel ar yr Almaen ym 1914.

Sgiliau Gwybodaeth a dealltwriaeth hanesyddol Rhoddir y cyfle i ddisgyblion: • gydnabod nodweddion ac amrywiaeth profi'r Rhyfel Byd Cyntaf Dehongliadau o hanes Rhoddir y cyfle i ddisgyblion: • ystyried gwahanol farn a phortreadau o'r Rhyfel Byd Cyntaf a deall pam Ymholiad Hanesyddol Rhoddir y cyfle i ddisgyblion: • ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau hanesyddol yn annibynnol

Amrywiaeth Rhoddir y cyfle i ddisgyblion: • ymchwilio i faterion hanesyddol ar raddfeydd amrywiol • Gofyn ac ateb beth yw arwyddocâd y cyfnod hwn mewn hanes ar ein byd ni heddiw?

Hyd y sesiwn 1 awr

Lleoliad Ystafell Chwilio Archifau AM DDIM neu yn yr ysgol £50 y ddosbarth y sesiwn

Cyswllt Am fwy o wybodaeth neu i drefnu sesiwn, ffoniwch Rob ar 01792 636589

www.abertawe.gov.uk/addysgarchifau


Cyfnod Allweddol 3

Ffoaduriaid Iddewig, 1933-1939..

Amlinelliad o'r pwnc Lluniwyd y sesiwn hon i helpu myfyrwyr i ddysgu mwy am hanes ffoaduriaid Iddewig a oedd yn dianc rhag erlyniad yn Almaen Natsiaidd rhwng 1933 a 1939. Gan ddefnyddio dogfennau gwreiddiol, bydd myfyrwyr yn archwilio stori emosiynol Kindertransport - ymgyrch a achubodd 10,000 o blant Iddewig rhag y Natsïaid rhwng mis Tachwedd 1938 a mis Medi 1939. Rhoddwyd sylw arbennig i'r straeon am fywydau dau o oroeswyr Kindertransport y daethpwyd â hwy i Abertawe - Ellen Davies a Henry Foner. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael y cyfle i ddysgu sut roedd pobl de Cymru wedi elwa ar ddiwydianwyr a meddygon a oedd yn ffoaduriaid Iddewig yn y cyfnod ar ôl y rhyfel.

Sgiliau

Gall y sesiwn hon helpu athrawon i baratoi am Ddiwrnod Coffáu'r Holocost ar 27 Ionawr.

Rhoddir y cyfle i ddisgyblion: • ddysgu am beryglon rhagfarn ac anoddefgarwch drwy brofiad plant Iddewig yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth Hanesyddol

Dehongliadau o hanes Rhoddir y cyfle i ddisgyblion: • ddysgu am yr Ail Ryfel Byd o safbwynt ffoaduriaid yn ne Cymru

Ymholiad Hanesyddol Rhoddir y cyfle i ddisgyblion: ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau hanesyddol yn annibynnol

Hyd y sesiwn

Amrywiaeth

1 awr

Rhoddir y cyfle i ddisgyblion: • ymchwilio i faterion hanesyddol ar raddfeydd amrywiol • Gofyn ac ateb beth yw arwyddocâd y cyfnod hwn mewn hanes ar ein byd ni heddiw?

Lleoliad Ystafell Chwilio Archifau AM DDIM neu yn yr ysgol £50 y ddosbarth y sesiwn

Cyswllt Am fwy o wybodaeth neu i drefnu sesiwn, ffoniwch Rob ar 01792 636589

01792 636589


Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg.. Ein lleoliad.. Sut mae cysylltu â ni..

Ein lleoliad. Mae Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe.

Cyfleusterau Mae parcio i goetsis yn gyfyngedig. Mae'r rhan fwyaf o grwpiau'n cael eu gollwng ar waelod y llethr sy'n arwain i'r brif fynedfa. Mae toiledau cyhoeddus (gan gynnwys toiled i bobl sy’n defnyddio cadair olwyn) oddi ar y prif gyntedd. Mae caffi glan y môr yng nghyntedd y Ganolfan Ddinesig, lle gallwch brynu byrbrydau a diodydd. Fel arall, gall grwpiau gael cinio ar y traeth os yw'r tywydd yn braf.

Cyswllt 01792 636589 westglam.archives@swansea.gov.uk http://www.abertawe.gov.uk/archifaugorllewinmorgannwg Archifau Gorllewin Morgannwg, Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN

Gwasanaeth ar y cyd i Gyngor Dinas a Sir Abertawe a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.