Gwneud Cais am Dai Cyngor
I dderbyn yr wybodaeth hon mewn fformat wahanol, ffoniwch Opsiynau Tai ar 01792 533100
2
Dinas a Sir Abertawe
Gwneud Cais am Dai Cyngor
Gwneud Cais am Dai Cyngor Mae prinder tai a galw mawr am lety – mae hyn yn golygu y bydd tai cyngor a’r gymdeithas tai yn cael eu dyrannu i’r bobl mae arnynt eu hangen fwyaf. Bydd yr arweiniad hwn yn rhoi’r wybodaeth sylfaenol mae ei hangen arnoch i wneud cais am dai ac atebion i rai cwestiynau cyffredin.
1. Beth yw Tai Cyngor? Mae’r cyngor yn berchen ar, ac yn rheoli, tua 13,000 o dai ar draws Abertawe i gyd, gan gynnwys tai, fflatiau, fflatiau deulawr a byngalos. Mae gennym gyfadeiladau lloches hefyd, sydd ar gyfer pobl dros 60 oed yn benodol. Mae rhestr lawn o ardaloedd lle mae gennym dai ar gefn ein ffurflenni cais tai.
2. Am faint y bydd yn rhaid i mi aros? Bydd yr amser aros am dŷ cyngor yn dibynnu ar nifer o bethau. Dyfernir pwyntiau tai i bob cais, gan ddibynnu ar lefel eich angen. Er enghraifft, byddwn yn edrych yn fanwl i weld a oes gennych gartref eisoes, neu a yw ei faint yn addas i chi, neu a oes angen i chi fyw mewn ardal benodol. Yna, caiff ceisiadau eu gosod ar y gofrestr anghenion tai ar gyfer yr holl ardaloedd y dewiswch. Bydd yr amser bydd yn ei gymryd i’r cyngor gynnig llety i chi’n dibynnu ar nifer y tai sydd ar gael gennym yn yr ardal yr ydych am symud iddi, nifer y bobl ar y rhestr aros, a nifer y pwyntiau tai a ddyfernir i chi. I roi gwell cyfle i chi gael tŷ, dylech ddewis cymaint o ardaloedd â phosib. Byddwch fel arfer yn derbyn 3 chynnig llety, a gellir diddymu’ch cais os ydych yn gwrthod y cynigion hyn.
Dinas a Sir Abertawe
3
Gwneud Cais am Dai Cyngor
3. Pwy sy’n gallu gwneud cais am dai cyngor? Gall unrhyw un dros 16 oed wneud cais am dai cyngor. Fodd bynnag, efallai na fydd modd i ni dderbyn rhai pobl ar y gofrestr anghenion tai. Bydd ymgynghorydd Opsiynau Tai yn rhoi gwybod i chi am y grwpiau o bobl na fyddant yn gallu ymuno â'r gofrestr anghenion tai.
4. Sut ydw i’n gwneud cais i fod ar y rhestr aros? Cwblhewch ‘gais ar gyfer tai’ a’i ddychwelyd i Opsiynau Tai neu unrhyw Swyddfa Tai Ranbarthol. Os oes angen cymorth arnoch i gwblhau’r ffurflen, neu os oes angen y ffurflen hon arnoch mewn iaith neu fformat arall e.e. print bras neu braille, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau cyn neu ar ôl gwneud eich cais, yna gall ymgynghorydd Opsiynau Tai helpu.
5. Rwy’n denant cyngor a hoffwn wneud cais am drosglwyddiad Os ydych yn denant cyngor a hoffech gael eich trosglwyddo, dylech gysylltu â’ch Swyddog Tai Rhanbarthol lleol i drafod eich opsiynau.
6. Mae gen i gyflwr meddygol sy’n effeithio ar fy amgylchiadau tai cyfredol Os oes gennych gyflwr meddygol sy’n cael ei waethygu gan eich amgylchiadau tai cyfredol, dylech ei drafod gydag Opsiynau Tai. Byddwn yn anfon ffurflen asesiad meddygol atoch os yw’n briodol.
4
Dinas a Sir Abertawe
Gwneud Cais am Dai Cyngor
Bydd angen i chi ofyn i’ch meddyg teulu neu weithiwr proffesiynol meddygol arall gwblhau a llofnodi’r ffurflen cyn i chi ei llofnodi, a’i dychwelyd i Opsiynau Tai. Byddwch yn ymwybodol y gall eich meddyg teulu godi tâl am y gwasanaeth hwn. Os oes angen llety cadair olwyn neu addasiadau arbennig arnoch, bydd eich cais yn cael ei gyfeirio at brosiect ADAPT. Prosiect partneriaeth gyda chymdeithasau tai lleol a weithredir gan y cyngor yw prosiect ADAPT. Mae’n sicrhau bod pob tŷ sydd ar gael sy’n hwylus i gadair olwyn neu wedi’i addasu’n arbennig yn cael ei ddyrannu i bobl anabl y mae arnynt angen y tai hynny fwyaf.
7. Pa wybodaeth ddylwn ei darparu? Dylech gyflwyno’r wybodaeth ganlynol gyda’ch cais: ●
Tystiolaeth o incwm e.e. slip cyflog, cyfriflen banc, llythyr dyfarniad budd-dâl
●
Tystiolaeth o aelodau’r cartref e.e. budd-dâl plentyn, prawf mynediad
●
Prawf adnabod / eich cyfeiriad e.e. 2 ohebiaeth gyda’ch enw a’ch cyfeiriad arnynt
●
Ffurflen feddygol wedi’i chwblhau os yw’n briodol
●
Llythyrau cefnogi os yn briodol
Byddwch yn ofalus wrth gwblhau’r ffurflen gais. Os ydych yn gwneud camgymeriad neu’n hepgor rhannau, bydd hyn yn arafu’r broses asesu, am y bydd angen i ni gysylltu â chi eto i ofyn i chi gyflwyno’r wybodaeth angenrheidiol. Os yn bosib, cyflwynwch lungopïau’n unig.
Dinas a Sir Abertawe
5
Gwneud Cais am Dai Cyngor
8. Pa faint a math o gartref fydd gen i hawl i’w gael? Byddwch yn cael eich cofrestru ar gyfer cartref o faint sy’n diwallu eich anghenion. Mae’r canlynol yn rhoi syniad i chi o faint y cartref y bydd hawl gennych ei gael: ●
Mae gan rieni gyda phlant dros 16 oed hawl i gael fflatiau yn unig
●
Mae gan bobl sengl neu gyplau heb blant, neu os nad yw eu plant yn byw gyda nhw hawl i gael fflatiau yn unig
●
Mae gan gyplau neu bobl sengl gyda phlant dan 16 oed hawl i gael tŷ neu fflat
●
Gall plant o’r un rhyw rannu ystafell wely nes bod un yn 16 oed
●
Gall plant o rywiau gwahanol rannu ystafell wely nes bod un yn 7 oed
●
Bydd gan gyplau neu bobl sengl dros 60 oed hawl i gael llety pobl hŷn gan gynnwys cyfadeiladau lloches a byngalos
Bydd ymgynghorydd Opsiynau Tai yn gallu dweud wrthych yn union pa faint o gartref y bydd gennych hawl ei gael.
9. Beth os ydw i mewn dyled i denantiaeth flaenorol neu gyfredol? Os ydych mewn dyled i denantiaeth y cyngor neu Gymdeithas Tai flaenorol neu gyfredol, byddwn yn penderfynu a ydych yn gymwys i gael eich cofrestru ar ein rhestr aros.
6
Dinas a Sir Abertawe
Gwneud Cais am Dai Cyngor
Rhaid i chi gytuno i dalu’r ddyled, a gwneud y trefniadau angenrheidiol cyn y gallwn ystyried cynnig cartref i chi. Dylech gysylltu â’ch landlord blaenorol neu gyfredol i drefnu hyn. Os ydych mewn dyled o swm mawr o rent, efallai na fyddwch yn cael eich ystyried i dderbyn llety.
10. Beth os nad oes gen i gysylltiad â Dinas a Sir Abertawe? Fel arfer, bydd angen i chi fod â chysylltiad â’r ardal er mwyn derbyn pwyntiau anghenion tai. Gall cysylltiad gynnwys: ●
Preswylio am y 6 mis diwethaf neu 3 o’r 5 mlynedd ddiwethaf
●
Cyflogaeth yn Ninas a Sir Abertawe
●
Perthnasau agos yn byw yn yr ardal ers 5 mlynedd neu fwy
Os nad oes gennych gysylltiad lleol, bydd hawl gennych gael eich cofrestru i fod ar ein rhestr aros o hyd, ond efallai y byddwch yn colli pwyntiau anghenion tai y mae gennych hawl eu cael.
11. Beth os ydw i’n berchen ar gartref neu’n meddu ar incwm neu arbedion? Os oes modd i chi gael morgais ar gartref addas yn Abertawe, gallwn leihau eich pwyntiau anghenion tai. Mae’n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod i ni am unrhyw incwm, arbedion neu asedau sydd gennych. Os ydych yn derbyn cartref gennym, a heb ddweud wrthym am arian sydd gennych, byddwch yn colli eich cartref. Os ydych yn berchen ar gartref, does dim hawl gennych i gynhyrchu incwm o’ch cartref e.e. incwm rhent tra’ch bod chi’n denant cyngor.
Dinas a Sir Abertawe
7
Gwneud Cais am Dai Cyngor
12. Beth sy’n digwydd ar ôl i mi gyflwyno fy nghais? Os yw’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnom gennym, bydd eich cais fel arfer yn cael ei brosesu o fewn 6 wythnos. Efallai y byddwn yn gofyn i chi anfon gwybodaeth ategol neu dystiolaeth arall. Efallai y bydd angen i ni ymweld â’ch cartref i gadarnhau eich amgylchiadau. Bydd pwyntiau anghenion tai yn cael eu dyfarnu i chi gan ddibynnu ar eich amgylchiadau tai. Mae polisi ailgartrefu’r cyngor yn nodi’r math o amgylchiadau lle gallwn ddyfarnu pwyntiau e.e. gorlenwi, amgylchiadau meddygol etc. Byddwch yn cael eich cofrestru am lety yn yr ardaloedd o’ch dewis chi. Byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi os ydych yn gymwys i ymddangos ar ein cofrestr anghenion tai, eich pwyntiau anghenion tai a’r math o gartref yr ydych wedi cael eich rhestru ar ei gyfer, gan gynnwys yr ardaloedd yr ydych wedi’u dewis. Bydd y Swyddfa Tai Ranbarthol briodol yn cysylltu â chi os oes modd iddynt gynnig llety parhaol i chi.
13. Oes modd i mi gael tenantiaeth â dodrefn? Oes. Gall cynllun tenantiaethau wedi’u dodrefnu’r cyngor gynnig cartref wedi’i ddodfrefnu i chi. Mae’r pecyn dodrefn yn cynnwys yr holl hanfodion, gan gynnwys popty, gwelyau, cypyrddau, byrddau a chadeiriau a chyfarpar cegin. Gallwn hefyd ddarparu pecyn babanod gan gynnwys cadeiriau uchel, gatiau diogelwch a chrud. Bydd tâl am y pecynnau dodrefn a babanod yn cael ei ychwanegu at eich rhent wythnosol. Os ydych yn derbyn cymhorthdal incwm neu fudd-daliadau eraill ac yn cael derbyn Budd-dâl Tai, efallai y byddwch yn gymwys i gael rhywfaint o’r dodrefn, neu’r cwbl, yn ddi-dâl.
8
Dinas a Sir Abertawe
Gwneud Cais am Dai Cyngor
14. Does gen i ddim cartref neu rwyf mewn perygl o golli fy nghartref – sut bydd fy nghais yn cael ei brosesu? Dylech weld ymgynghorydd Opsiynau Tai ar unwaith. Os bydd y cyngor yn penderfynu eich bod yn ddigartref a bod gennym ddyletswydd cyfreithiol i ddarparu llety addas i chi, byddwch yn cael eich cofrestru ar y gofrestr anghenion tai. Bydd angen i chi ddewis cynifer o ardaloedd â phosib. Gall y rhain gynnwys ardaloedd na fyddech wedi’u dewis fel arfer. Byddwch yn derbyn un cynnig ‘addas’ o lety yn unig. Os byddwch yn gwrthod y cynnig hwn, bydd ein dyletswydd yn dod i ben, a gallai eich pwyntiau anghenion tai gael eu lleihau.
15. Oes modd i mi gael fy ‘enwebu’ i gymdeithas dai? Mae angen i gymdeithasau tai ddyrannu canran o’u llety i bobl ar gofrestr anghenion tai y cyngor. Byddwch yn cael eich ystyried ar gyfer ‘enwebiad’ i gymdeithas dai oni bai eich bod yn gofyn i beidio cael eich ystyried ar y ffurflen gais tai. Pan rydym yn derbyn cais am enwebiadau gan gymdeithas dai, rydym yn enwebu pobl sydd ar frig y gofrestr anghenion tai. Am mai dim ond rhai o’r tai sydd ar gael mae’r cyngor yn eu derbyn gan gymdeithasau tai, dylech gyflwyno cais i gymdeithasau tai yn uniongyrchol bob amser. Bydd hyn yn cynyddu eich gobaith o gael cynnig cartref. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt y cymdeithasau tai ar y daflen wybodaeth – Eich Opsiynau Tai.
Dinas a Sir Abertawe
9
Gwneud Cais am Dai Cyngor
16. Allaf i gael gwybod beth yw fy safle ar y gofrestr anghenion tai? Wedi i’ch cais tai gael ei asesu byddwch yn cael eich rhoi ar ein rhestr aros gyda phwyntiau angen tai am y math o lety sydd ei angen arnoch ac ar gyfer yr ardaloedd a ddewisoch. Bydd ymgynghorydd Opsiynau Tai yn gallu dweud yn fras wrthych beth yw eich safle ar y restr aros a nodi os ydych yn y deg neu’r ugain uchaf, neu’r tu allan i’r deg neu’r ugain uchaf. Rydym ond yn cynnig syniad bras o safle ar y gofrestr oherwydd gall safleoedd newid bob dydd wrth i geisiadau newydd gael eu hasesu a / neu wrth i bobl dderbyn tai neu gael eu diddymu. Gallwch ffonio neu alw heibio i siarad ag ymgynghorydd Opsiynau Tai i drafod eich cais ac amserau aros bras am gynnig llety. Yn gyffredinol, mae prinder tai a galw mawr am lety. Mae rhai ardaloedd yn fwy poblogaidd, gan arwain at fwy o alw ac amserau aros hwy. Mae gan rai ardaloedd nifer isel o dai cyngor, sydd hefyd yn arwain at amserau aros hwy. Mae angen i chi ystyried hyn oll wrth gyflwyno cais a dewis eich ardaloedd. Ym mhob achos, bydd tai cyngor a’r gymdeithas tai yn mynd i’r bobl mae arnynt eu hangen fwyaf, ac ni allwn gynnig llety cyngor neu gymdeithas tai i nifer o bobl sy’n cyflwyno ceisiadau i ni bob blwyddyn. Bydd eich ymgynghorydd mor realistig â phosib gyda chi ac yn darparu opsiynau tai eraill i chi, gan gynnwys sut y gallwn eich helpu i aros lle rydych chi a rhentu gan landlord preifat. Mae gwybodaeth bellach ar gael ar ein taflen wybodaeth, Eich Opsiynau Tai.
10
Dinas a Sir Abertawe
Gwneud Cais am Dai Cyngor
Am fwy o wybodaeth Gallwch ffonio i drafod eich amgylchiadau neu i wneud apwyntiad. Gallwch hefyd ffonio Opsiynau Tai i weld un o’n hymgynghorwyr. 01792 533100 Opsiynau Tai, 17 Stryd Fawr, Abertawe, SA1 1LF. housingoptions@swansea.gov.uk
Rydym ar agor ●
10.00 - 4.30 dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau
●
10.00 - 4.00 dydd Gwener
Dolen glyw a gwasanaeth cyfieithu ar gael.
Dinas a Sir Abertawe
11
Designed and Printed by DesignPrint
Tel: 01792 586555
Ref: 19940-08