Gw ˆ yl Dylan Thomas 2010 ‘A kind of home from home for Thomases’
CYNNIG TOCYNNAU’R WYL prynwch dri thocyn £6/£4.20/£2.40 ac fe gewch y pedwerydd AM DDIM
Wrth ysgrifennu am Abertawe yn ei gofiant radio, Return Journey, mae Dylan yn sôn am farforwyn yn disgrifio un o’i hoff dafarndai fel ‘math o gartref oddi cartref i’r teulu Thomas’ a’r frawddeg hon sydd wedi ysgogi gŵyl eleni. Ochr yn ochr â Dylan Thomas, bydd y Ganolfan yn gartref dros dro i grŵp o ysgrifenwyr a darlledwyr mawr eraill o Gymru sy’n rhannu ei gyfenw. Mewn adeg o newid ac ansicrwydd, rydym yn dychwelyd at ddoethineb cyfarwydd ein hysgrifenwyr mawr. Rydym yn dathlu’n arbennig un o gyfoedion a chyd-feirdd Dylan, sef R.S. Thomas, yn ogystal ag Edward, Gwyn, Wynford Vaughan, John Ormond, a’r cyfraniadau a wnaed gan Elsi a Caitlin, gwragedd R.S. a Dylan. Yn ogystal â hyn, bydd ein cymysgedd arferol o ysgrifenwyr a beirdd cyfoes, ynghyd â’r gwleidydd Peter Hain a fydd yn sôn am Nelson Mandela, â’r cyn-fardd llawryfog, Syr Andrew Motion, yn sôn am Edward Thomas. Byddwn yn croesawu Gwyneth Lewis o Gaerdydd unwaith eto, a chyda dramâu, gweithdai, cerddoriaeth ac arddangosfeydd newydd, rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau’r drydedd ŵyl ar ddeg hon. Hoffem ddiolch hefyd i Jeff Towns am ei gyfraniad parhaus i’r ŵyl hon ac i’r holl wyliau blaenorol. David Woolley, Cynllunydd yr Ŵyl Nos Fercher 27 Hydref, 7pm • Agoriad yr Ŵyl
Mandela: The Story of a Universal Hero Peter Hain Mae Nelson Mandela yn enwog am ei ymgyrch ddiflino yn erbyn anghydraddoldeb hiliol, ei feirniadaeth gymdeithasol ddi-flewyn ar dafod, ei werthoedd ryddid a’i ymgyrchu yn erbyn apartheid, a’r cyfan yn ei wneud yn arwr rhyngwladol. Fel cyfaill personol i Nelson Mandela, mae Peter Hain, yn y bywgraffiad ysbrydoledig hwn, wedi llwyddo i gyfleu dyngarwch, gostyngeiddrwydd ac angerdd dyn y mae parch y cyhoedd tuag ato mor fawr. Bydd Peter yn agor yr ŵyl yn swyddogol ac yna’n trafod y llyfr. Tocynnau: Pris llawn £6, Consesiynau £4.20, PTL £2.40 Nos Fercher 27 Hydref, 9pm
Cyfres Jazz Dylan Thomas Mae’r Jen Wilson Ensemble yn lansio’i CD newydd Twelve Poems: The Dylan Thomas Jazz Suite. Wedi’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae’r recordiad newydd yn dathlu 50fed blwyddyn Jen ym myd Jazz. Comisiynwyd y gyfres gan y Ganolfan, ac fe’i perfformiwyd gyntaf yn 2003. Bydd Jen ar y piano, Margot Morgan yn canu, Paula Gardiner ar y bas dwbl, Mark O’Connor ar y drymiau, Cris Haines ar y trwmped a’r flugelhorn a Chris Ryan ar y sacsoffonau a’r clarinét. Tocynnau: Pris llawn £6, Consesiynau £4.20, PTL £2.40
www.dylanthomas.com
Nos Iau 28 Hydref, 7.30pm
Sir Andrew Motion ar Edward Thomas Bydd y cyn-fardd llawryfog a’r cofiannydd o fri, Syr Andrew Motion yn siarad am ei gariad at waith Edward Thomas, a gollodd ei fywyd ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. “Edward Thomas oedd yr unig fardd a siaradodd â mi’n uniongyrchol, ac o blith yr holl feirdd eraill, ef sydd agosaf ataf. Rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at y cyfle i dreulio noson yn rhannu ei waith ag eraill.” Bydd Syr Andrew yn darllen gwaith gan Thomas, ac o’i gasgliad diweddaraf, The Cinder Path. Tocynnau: Pris llawn £10.00, Consesiynau £7.00 Nos Wener 29 Hydref, 7.30pm
Gwyneth Lewis a Damian Furniss Rhaglen ddwbl o farddoniaeth gan y bardd amryddawn o Gaerdydd, Gwyneth Lewis, a llais newydd hynod ddawnus o Gaerwysg sef Damian Furniss. Gwyneth Lewis oedd Bardd Cenedlaethol Cymru 2005-06, y cyntaf i dderbyn Gwyneth swydd y bardd llawryfog. Mae wedi cyhoeddi saith llyfr o farddoniaeth yn Lewis Gymraeg a Saesneg, a’r mwyaf diweddar oedd A Hospital Odyssey (Bloodaxe, 2010). Mae hefyd wedi cyhoeddi dau lyfr ffuglen, Sunbathing in the Rain: A Cheerful Book on Depression and Two in a Boat. Yn ddiweddar, derbyniodd Gwobr Cholmondeley gan Gymdeithas yr Awduron, mae’n Gymrawd Radcliffe ym Mhrifysgol Harvard Damian ac yn gymrawd yng Nghanolfan Dyniaethau Stanford, California. Furniss
Mae Damian Furniss yn byw ac yn gweithio yng Nghaerwysg lle mae’n ysgrifennu ac yn cyd-gyflwyno sioe radio am y celfyddydau Chocolate Che (Shearsman) yw ei gasgliad llawn cyntaf ar ôl ugain mlynedd o ysgrifennu, a dewiswyd cerdd o’r llyfr ar gyfer Blodeugerdd Gwobr Forward eleni. Enillodd ei lyfr The Duchess of Kaligat, gystadleuaeth llyfrynnau Tears in the Fence. Tocynnau: Pris llawn £6, Consesiynau £4.20, PTL £2.40 Dydd Sadwrn 30 Hydref, 3pm
Ffilm – The Man Who Went Into the West Portread ffilm o R.S. Thomas, y cyntaf o sawl digwyddiad yn ein gŵyl sy’n nodi 10 mlynedd ers marwolaeth bardd enwog arall Cymru. Gyda diolch i gynyrchiadau Fulmar West am ganiatâd i ddangos y ffilm hon. Tocynnau: AM DDIM Nos Sadwrn 30 Hydref, 7.30pm
Staggering Players yn cyflwyno ‘A Home From Home’ Detholiad o farddoniaeth a rhyddiaith gan Dylan, R.S., Edward, Gwyn a John Ormond Thomas gan griw o feirdd Canolfan Dylan Thomas, yn cynnwys Nigel Jenkins, Margot Morgan, Jo Furber a Malcolm Parr. Tocynnau: Pris llawn, Consesiynau £4.20, PTL £2.40 Malcolm Parr
Nigel Jenkins
www.dylanthomas.com
Margot Morgan
Jo Furber
Nos Sul 31 Hydref, 3pm
Cyfeillion y Glynn Vivian yn cyflwyno
Glenys Cour, yn sgwrsio gyda Jeff Towns Digwyddiad blynyddol Cyfeillion yr Ŵyl a fydd eleni’n cael ei gynnal yn y ganolfan. Ers y 1940au, mae Glenys Cour wedi cyfrannu mewn modd anfesuradwy at fywyd diwylliannol Cymru. Mae wedi sefydlu’i hun fel paentiwr, dyluniwr ac athrawes hynod ddawnus y mae parch mawr tuag at ei gwaith. Mewn sesiwn sy’n debygol o fod yn hynod ddiddorol, bydd Glenys ‘yn sgwrsio â’ Jeff Towns am ei gyrfa, ynghyd â hel atgofion am ei chyfoedion artistig. Tocynnau: Pris llawn £6, Consesiynau £4.20, PTL £2.40 Nos Sul 31 Hydref, 7pm
Ffilm: Kane’s Classics: Gwyn Thomas Bydd dyn mawr byd teledu Cymru, Vincent Kane, yn edrych yn ôl ar yrfa Gwyn Thomas, y nofelydd, y dramodydd a’r storïwr o Gymru yn y ffilm hon o 1998. Fe’i dangosir drwy garedigrwydd BBC Cymru Wales (30 munud). Tocynnau: AM DDIM Nos Sul 31 Hydref, 8pm
Cwmni Theatr Fluellen yn cyflwyno The Keep gan Gwyn Thomas Bydd Cwmni Theatr Fluellen yn cyflwyno perfformiad sgript-mewn-llaw golygedig o ddrama Gwyn Thomas o 1962. Wedi’i pherfformio am y tro cyntaf i ganmoliaeth fawr yn Theatr y Royal Court, ac wedi’i gosod yn y cwm Cymreig lle’i ganwyd, mae The Keep yn edrych ar deulu sy’n rhyfela â’i hunan mewn ffordd ddigrif ac egr. Tocynnau: Pris llawn £6, Consesiynau £4.20, PTL £2.40 Nos Lun 1 Tachwedd, 7.30pm
R.S. Thomas – The Way of It Cerddi wedi’u dethol gan Othniel Smith gyda Michael Kelligan yn eu darllen. Mae’r awdur, yr ysgrifennwr a’r cynhyrchydd Michael Kelligan yn cyflwyno amrywiaeth o gerddi gorau’r bardd mawr, wedi’u dewis gan Othniel Smith. Tocynnau: Pris llawn £6, Consesiynau £4.20, PTL £2.40
Michael Kelligan
Nos Fawrth 2 Tachwedd, 7.30pm
Wynford Vaughan Thomas a John Ormond Thomas wedi’u cyflwyno gan y cynhyrchydd a’r cyfarwyddwr teledu, Wyn Thomas Roedd Wynford a John yn ffigurau mawr yn y cyfryngau yng Nghymru ac yn genedlaethol o’r 1940au i’r 1970au. Dechreuodd gyrfa ddarlledu Wynford ym 1937. Ef oedd un o sefydlwyr HTV ac roedd ei gyfres ar hanes Cymru, The Dragon Has Two Tongues, yn garreg filltir ym myd darlledu yng Nghymru. Mae ein ffilm heno yn gasgliad o’i waith Wynford - A Miscellany a wnaed gan ITV. Ganwyd John Ormond Thomas yn Nyfnant. Dechreuodd ei fywyd gwaith fel gohebydd yn Llundain pan ymunodd â Picture Post ym 1945, lle comisiynodd fachgen caled ei fyd o Abertawe o’r enw Dylan Thomas. Dychwelodd i Abertawe ac ym 1957 dechreuodd yrfa nodedig gyda BBC Wales, gan wneud cyfres o ffilmiau mawr eu bri am artistiaid ac ysgrifenwyr o Gymru gan gynnwys Dylan ac R. S. Thomas. Ffilm heno fydd In Requiem and Celebration: A Profile of John Ormond Thomas (1995). Dangosir drwy garedigrwydd BBC Cymru Wales. Tocynnau: AM DDIM
www.dylanthomas.com
Nos Fercher 3 Tachwedd, 7.30pm
Buggerall gan Jon Tregenna Comisiynwyd Buggerall gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn 2003 i goffáu 50 mlynedd ers marwolaeth Dylan Thomas. Fe’i hatgyfodwyd pan ddaeth at sylw’r bardd, y cyhoeddwr a’r darlithydd, Peter Thabit Jones, a’i disgrifiodd fel a ganlyn - 'Drama wych, llawn ysbrydoliaeth. Rwyf wedi darllen sawl diweddariad o Dan y Wenallt a hwn sy’n dod agosaf at gyfleu hynodrwydd a cherddgarwch dwys y gwreiddiol.’ Mae’r awdur, Jon Tregenna, wedi casglu cast dawnus ynghyd gan gynnwys Greg Arthur, Sarah Arthur, Catherine Tregenna a Gareth Morris i’w pherfformio fel yr oedd Dylan Thomas wedi perfformio Dan y Wenallt yn wreiddiol yn Efrog Newydd - fel darlleniad mewn ymarfer. Tocynnau: Pris llawn £6, Consesiynau £4.20, PTL £2.40 Nos Iau 4 Tachwedd, 7.30pm
Peter Read yn cyflwyno Time Passes Drama newydd gan Peter Read sydd wedi chwarae rhan Dylan ymhell dros 100 o Peter weithiau. Y tro yma mae’n chwarae ysbryd Dylan. Y presennol ydyw, ac mae Read ysbryd Dylan yn edrych yn ôl ar fywyd trasig ac eto digri. Beth byddai wedi’i wneud
yn wahanol? Rydym yn ei ddilyn wrth iddo ddigio’r clic llenyddol a straffaglu drwy berthnasoedd tan yr act olaf mewn ysbyty yn Efrog Newydd. Mae pum actor yn y ddrama a chaiff ei pherfformio fel darlleniad mewn ymarfer. Tocynnau: Pris llawn £6, Consesiynau £4.20, PTL £2.40 Nos Wener 5 Tachwedd , 7.30pm
Undiminished: Poetry gan Alexis Lykiard a Mike Jenkins Mewn cyfnod anodd rydym yn cyflwyno dau lais barddol, digyfaddawd. Mae’r nofelydd, y bardd a’r cyfieithydd Alexis Alexis Mike Lykiard Lykiard, a’r bardd a’r ysgrifennwr storïau o Ferthyr, Mike Jenkins Jenkins, ill dau yn amlwg, yn hygyrch ac yn ffyrnig wleidyddol, bob amser wedi parhau’n gadarn yn eu hymrwymiad i’r adain chwith, wrth hyrwyddo’r gwannaf, yn eu beirniadaeth o sefydliadau a’u cred ym mhŵer y gair ysgrifenedig. Byddwch yn barod am dân gwyllt! Tocynnau: Pris llawn £6, Consesiynau £4.20, PTL £2.40 Dydd Sadwrn 6 Tachwedd, 9.30pm – 6.00pm, Nos: 7.30pm
Cynhadledd coffáu 10 mlynedd R.S.Thomas Cynhadledd undydd wedi’i threfnu gan CREW (Canolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru), Prifysgol Abertawe gyda Chanolfan R.S.Thomas, Prifysgol Bangor a Chanolfan Dylan Thomas, Abertawe. Bydd y diwrnod yn cynnwys sgyrsiau a phapurau gan Tony Brown, Damian Walford Davies, M.Wynn Thomas, Rhian Bubear, ffilm John Ormond ar R.S.Thomas ac yn yr hwyr bydd Gwydion, mab R.S., yn sgwrsio â Tony Brown o Ganolfan Astudiaethau ac Archifau R. S. Thomas Prifysgol Bangor. Am fanylion llawn, cysylltwch â Daniel Williams: daniel.g.williams@swansea.ac.uk neu Ganolfan Dylan Thomas. Yn agored i bawb, a’r tocynnau ar gyfer y sgwrs yn yr hwyr ar gael ar wahân. 6.00pm: M Wynn Thomas. Lansio cyfrol ar Anghydffurfiaeth ac Ysgrifennu Saesneg yng Nghymru. Noddir gan Wasg Prifysgol Cymru. 7.30pm: Tony Brown yn sgwrsio â Gwydion Thomas. Tocynnau Dydd: £20, sy’n cynnwys te a choffi Tocynnau Nos: Pris llawn £6, Consesiynau £4.20, PTL £2.40
www.dylanthomas.com
Nos Sul 7 Tachwedd, 7.30pm
Dylan, R.S., Elsi a Caitlin Mae gwragedd dynion enwog yn aml yn cael eu hesgeuluso, ac eto maent mor aml yn cyfrannu at waith ysgrifenwyr. Ar y noson hon, byddwn yn gwylio The Rare Bird (1998) “proffil o R. S. Thomas, bardd, offeiriad - a gwyliwr adar. Ac yntau bellach yn bump a phedwar ugain oed mae’n dal i grwydro cefn gwlad yn chwilio am ymfudwyr anghyffredin […] Mae’r rhaglen hon yn rhoi cipolwg o R.S Thomas yn ei amser hamdden. Er gwaethaf ei honiadau bod ei farddoniaeth ‘wedi colli’i wlith’ mae’n dal at i i ‘sgrifennu, gan obeithio ysgrifennu’r ‘gerdd fawr’.” Yn dilyn hyn bydd O Flaen dy Lygaid: Pwy oedd Mrs R S Thomas (2010): Proffil o Mildred Elsi Eldridge, un o sêr y Coleg Celf Brenhinol, a drodd ei chefn ar y cylchoedd artistig i gefnogi ei gŵr, R. S. Thomas, a’i mab, Gwydion. Mewn cyfweliad prin, mae Gwydion Thomas yn rhoi cipolwg i ni o un o bartneriaethau mwyaf creadigol unigryw yr 20fed ganrif. Rhaglen Gymraeg yw hon, ond mae cryn dipyn o Saesneg ynddi. Yn olaf, cyfle i weld cyfweliad hwyr, trawiadol o ddadlennol Vincent Kane â Caitlin, gwraig flinedig a oedd eto’n dal yn eofn. Kane on Friday: Left Over Wife: Caitlin Thomas (1983). Dangosir y ffilmiau drwy garedigrwydd BBC Cymru Wales. Tocynnau: AM DDIM Nos Lun 8 Tachwedd, 7.30pm
The Wizard, The Goat and The Man Who Won the War – Drama un dyn am David Lloyd George wedi’i pherfformio gan Richard Elfyn Roedd David Lloyd George yn gawr carismatig byd gwleidyddol yr 20fed ganrif, ac eto erys Cymru a Lloegr yn rhanedig ynghylch ei fywyd personol a’i waith gwleidyddol neilltuol. Yn y perfformiad llawn cyntaf o’r ddrama hon, mae’r D.J. ysgrifennwr/cyfarwyddwr D.J. Britton and renowned actor Britton Richard Richard Elfyn a’r actor enwog, Richard Elfyn, yn creu Elfyn ffuglen theatrig i archwilio cyfoeth o gymhlethdodau Lloyd George. Maent yn canfod hiwmor, cerddoriaeth, barddoniaeth a dirgelwch ym meddwl y dyn mawr. Sut gallai bachgen y capel Cymraeg ei iaith a fagwyd mewn gweithdy gwneuthurwr esgidiau yng Ngwynedd ddod yn Brif-weinidog durol a arweiniodd Prydain drwy’r Rhyfel Byd Cyntaf? Sut gallai dyn a hyrwyddai Gristnogaeth anghydffurfiol ddatblygu’n ferchetwr a oedd yn byw bywyd dwbl gyda’i feistres hir dymor? Pam roedd y gŵr hwn, amddiffynnydd y tlawd, wedi mentro cymaint i gynyddu ei gyfoeth personol? Tocynnau: Pris llawn £6.00 Consesiynau £4.20 PTL Abertawe £2.40 Nos Fawrth 9 Tachwedd, 7.30pm • Diweddglo’r Ŵyl
Stuff Happens and The Fugitives Rhaglen ddwbl wych i gloi’r ŵyl gyda darllenwyr o’r noson perfformio barddoniaeth ar y cyd arferol y mae Canolfan Dylan Thomas yn ei chynnal gyda noson farddoniaeth The Crunch yn Mozart’s, Abertawe. Y perfformwyr fydd Marcel Fanara, Emily Vanderploeg, Rhys Owain Williams ac Adam Sillman. Yn dilyn hyn bydd y grŵp poblogaidd a syfrdanodd y dorf yng Nghanolfan Dylan Thomas yn 2005, sef The Fugitives, grŵp o Ganada sy’n cyfuno cerddoriaeth a barddoniaeth, yn dychwelyd unwaith eto. Tocynnau: AM DDIM
www.dylanthomas.com
Arddangosfeydd... ’A kind of home from home for Thomases' Mae arddangosfa eleni’n adlewyrchu prif thema’r Ŵyl – dathliad o ysgrifenwyr a darlledwyr teilwng sy’n rhannu cyfenw Dylan. Mae’n cynnwys paentiadau a phrintiau cain a ysbrydolwyd gan R.S. Thomas ac Edward Thomas gan artistiaid sydd wedi cefnogi ein gwyliau ers blynyddoedd lawer megis Philippa Jacobs, Gordon Stuart, a John Uzzel Edwards sydd wedi cynhyrchu gwaith newydd wedi’i ysbrydoli’n uniongyrchol gan yr ysgrifenwyr hyn. Ceir ffotograffau gan ffotograffydd hirsefydlog yr ŵyl, Bernard Mitchell, brasluniau gan Wynford Vaughan Thomas, a bag llaw clytwaith a wnaed gan Helen Thomas (gweddw Edward) a roddwyd i Gwen Watkins. Gyda’r lluniau hyn ceir gweithiau gan yr ysgrifenwyr dan sylw ac amdanynt – tri llyfr cyntaf prin iawn R.S. Thomas gyda llawysgrifau a theipysgrifau, gwaith ysgrifennu Edward Thomas, nofelau a dramâu Gwyn Thomas, argraffiadau, llythyrau a darluniau gwreiddiol gan Wynford, Caitlin, John Ormond ac Elsi (Mildred Eldridge). Daw rhai arddangosion o Gasgliad y Ganolfan, mae rhai ar fenthyg gan yr artistiaid [rwy’n diolch iddynt] a daw’r gweddill o Gasgliad Jeff Towns/Siop Lyfrau Dylan’s.
Lluniau gan Dodie Masterman a Dylan Thomas. Cyfarfod cyntaf yr artist a’r ddarlunwraig Dodie Masterman â Dylan Thomas oedd yn Abertawe. Am y tro cyntaf rydym yn arddangos y lluniau hyn gan Dylan a chan Dodie, ac un y cyfrannodd y ddau ato. Mae’r lluniau ar fenthyg trwy garedigrwydd Fairless Masterman, ac mae recordiad o gofion Dodie am Dylan yn cyd-fynd â nhw. Canolfan Dylan Thomas
Prosiectau Locws Hydref 2010: Celf ar draws y Ddinas. Rebecca Spooner: The birds,
the grass, the trees, the lake Mae Rebecca Spooner wedi archwilio Parc Cwmdonkin a’r ysbrydoliaeth a roddodd i Dylan Thomas. Mae’r artist wedi ymateb i fywyd gwyllt cyfoethog y parc gan greu gosodiad seiliedig ar ffilm sy’n archwilio’r effaith gall ein parciau trefol ei chael arnom wrth roi cyfle i ni gysylltu â byd natur ac yn ei dro, gysylltu â ni ein hunain. Wedi’i osod ymhlith celfyddyd weledol ddethol o gasgliad Canolfan Dylan Thomas.
Canolfan Dylan Thomas, cefnogir gan
hybu llên literature promotion
www.dylanthomas.com
CYNGOR LLYFRAU CYMRU WELSH BOOKS COUNCIL
Digwyddiadau eraill… Gweithdy: Dydd Sadwrn, 30 Hydref 2.15 – 4.15
Gweithdy barddoniaeth gyda Susan Richardson. Ewch ati i’w henwi …bydd newid yn yr hinsawdd yn cyffwrdd â phob agwedd ar ein bywydau ond nid oes llawer o bobl yn ysgrifennu amdano. Bydd yr eco-fardd, Susan Richardson, yn arwain gweithdy cyffrous i’ch ysgogi i greu barddoniaeth ar y testun parod hwn! Rhan o raglen Celfyddydau a Newid yn yr Hinsawdd Awel Aman Tawe. Cefnogir gan Academi, Amgylchedd Cymru, Arian i Bawb a’r Adran Ynni a Newid yn yr Hinsawdd. 8 person ar y mwyaf, £5 y person Contact: ehinshelwood@awelamantawe.co.uk Nos Iau 28 tan nos Sadwrn 30 Hydref 7.30pm yn Theatr Dylan Thomas
Swansea Little Theatre yn cyflwyno Under Milk Wood Cyfarwyddir gan Francis Purchase Tocynnau: £8.50/£7 (gostyngiad o 10% am gadw 10 lle neu fwy) Swyddfa Docynnau 01792 473238 neu drwy archebu ar-lein www.dylanthomastheatre.org.uk neu www.swansealittletheatre.org.uk
Sut i ddod o hyd i ni... Canolfan Dylan Thomas Somerset Place, Abertawe SA1 1RR 01792 463980 www.dylanthomas.com www.dylan-thomas-books.com dylanthomas.lit@swansea.gov.uk Cynhelir pob digwyddiad yng Nghanolfan Dylan Thomas oni nodir yn wahanol Teithio a Llety Ar gyfer llety, ffoniwch Ganolfan Croeso Abertawe ar 01792 361302, neu ewch i www.dewchifaeabertawe.com
Er y gwneir pob ymdrech i sicrhau cywirdeb manylion y rhaglen hon, mae Dinas a Sir Abertawe’n cadw’r hawl i newid unrhyw ran o’r rhaglen heb rybudd. Os hoffech gael y llyfryn hwn mewn fformat arall, cysylltwch â ni ar y rhif ffôn uchod. Ffotograffiaeth: Andrew Motion gan Stuart Leech; Jen Wilson gan Jo Furber; Peter Read, Nigel Jenkins, Malcolm Parr, Margot Morgan a Jo Furber gan Bernard Mitchell.
www.dylanthomas.com
25447-10 Designprint 01792 586555
Mae First Cymru’n gweithredu rhwydwaith o wasanaethau bysus lleol yn Ne a Gorllewin Cymru. I gael manylion, ffoniwch 0870 6082608. Am wybodaeth am wasanaethau trenau, ffoniwch National Rail Enquiries ar 08457 484950.