Adnewyddu ac Addasu
Helpu i gefnogi byw’n annibynnol – cyflwyno addasiadau i’r cartref
Mae’r gallu i ddefnyddio’r holl gyfleusterau allweddol yn ein cartref yn rhywbeth y byddwn yn aml yn ei gymryd yn ganiataol, ond mae methu gwneud hyn yn gallu gwneud bywyd yn anodd iawn. Mae addasiadau yn y cartref yn hanfodol er mwyn i bobl allu parhau i fyw’n annibynnol a chadw’n ddiogel yn eu cartref eu hunain, rhywbeth a all weddnewid eu hansawdd bywyd. Efallai mai dim ond rhywbeth mor syml a hawdd ei ddarparu â chanllaw sydd ei angen ar rai pobl, ond gall fod ar eraill angen rhywbeth mwy o faint a mwy cymhleth megis estyniad i’w cartref neu lifft sy’n codi drwy’r llawr. Weithiau, mae’r addasiadau symlaf, fel canllawiau, yn golygu bod rhywun yn cael gadael yr ysbyty a byw adref. Hefyd gall canllawiau a rampiau helpu i leihau’r perygl bod rhywun yn baglu neu’n cwympo, ac efallai o ganlyniad i hynny’n gorfod mynd i’r ysbyty yn y lle cyntaf. Mae Cyngor Abertawe wedi datblygu gwasanaeth i ddarparu addasiadau mawr eu hangen i bobl, mor gyflym â phosib drwy’r Grant Cyfleusterau i’r Anabl (GCA). Unwaith yr asesir angen a nodir yr addasiadau y mae eu hangen, bydd Cyngor Abertawe’n cynorthwyo drwy ddarparu’r addasiadau’n gyflym ac yn effeithlon.
Pa fath o addasiadau sydd ar gael? P’un a ydych yn berchen ar eich cartref neu’n ei rentu, bydd y trefniadau sylfaenol yr un peth. Ceir tair lefel o addasiadau: Grant Addasiadau Bach (GAB), Addasiad Cyflym (AC), GCA Mawr. Er y gall anghenion unigolyn gynnwys mwy nag un math, nod y gwasanaeth yw darparu’r ateb cyflymaf, mwyaf effeithiol i gyflwyno’r addasiadau.
Grant Addasiadau Bach (GAB) Fel arfer, bydd y categori hwn yn cynnwys eitemau syml megis: • canllawiau cydio a chanllawiau ar y grisiau • rampiau bach • tapiau sy’n hawdd eu defnyddio • blychau i gadw allweddi yn ddiogel Nodweddion Fel arfer addasiadau syml iawn yw’r rhain, a fydd yn cael eu gosod yn gyflym unwaith bydd yr angen wedi’i nodi. Ni fydd angen prawf modd ar eu cyfer. Ni fydd angen i Therapydd Galwedigaethol gynnal asesiad.
Addasiadau Cyflym (AC) Mae’r categori hwn yn ymwneud ag addasiadau neu newidiadau canolig i’r cartref (ond nid y rheini lle mae angen caniatâd cynllunio neu newidiadau strwythurol), ac mae’n cynnwys eitemau megis: • cawod y gellir cerdded i mewn iddi • cadeiriau grisiau • rampiau mawr Nodweddion Gallent fod yn destun prawf modd (gall eithriadau fod yn berthnasol). Mae’n bosibl y byddant hefyd yn destun asesiad gan Therapydd Galwedigaethol neu Asesydd Dibynadwy.
Addasiadau Mawr (GCA) Mae’r categori hwn yn cynnwys yr addasiadau sylweddol y mae eu hangen yn y cartref, gan gynnwys newidiadau i strwythur yr adeilad. Gallai fod angen caniatâd cynllunio ar gyfer addasiadau yn y categori hwn, gan eu bod yn cynnwys pethau megis: • adeiladu estyniad i ddarparu ystafell wely a/neu ystafell ymolchi i lawr y grisiau • lifft sy’n codi drwy’r llawr • newidiadau mewnol sylweddol i strwythur yr adeilad, er enghraifft er mwyn ail-leoli ystafell ymolchi neu gegin Nodweddion Bydd yr addasiadau hyn yn cael eu cyflawni’n brydlon ym mhob achos, ond mewn rhai achosion bydd yr amserlen yn adlewyrchu’r camau y mae’n rhaid eu cymryd, e.e. cael caniatâd cynllunio. Bydd yr addasiadau hyn yn destun prawf modd (gall eithriadau fod yn berthnasol). Byddant hefyd yn destun asesiad gan Therapydd Galwedigaethol.
Gyda phwy y dylwn gysylltu os bydd angen addasiad arnaf? Os ydych yn ei chael yn anodd defnyddio unrhyw gyfleusterau sylfaenol yn eich cartref, neu os nad ydych yn teimlo’n ddiogel wrth symud o gwmpas yn eich cartref, mae’n bosibl y byddech yn elwa o gael addasiad. Gallwch chi gysylltu â’r Is-adran Adnewyddu ac Addasu neu ofyn i aelod o’r teulu neu ffrind gysylltu â ni. Os ydych yn byw yn eiddo’r cyngor, dylech gysylltu â’ch Swyddfa Dai Ranbarthol leol neu gysylltu â’r Is-adran Adnewyddu ac Addasu. Os ydych yn berchen ar eiddo neu’n rhentu’n breifat, dylech gysylltu â’r Is-adran Adnewyddu ac Addasu. Cyswllt: Adnewyddu ac Addasu 01792 635330 adnewyddutrefol@abertawe.gov.uk www.abertawe.gov.uk/addasiadaucartref Gallwch hefyd ffonio Gofal a Thrwsio Bae’r Gorllewin am help a chyngor ar 01792 798599.