Helpwch i atal twyll yn Abertawe

Page 1

40907-17 Safer Swansea Booklet W_Layout 1 07/09/2017 13:23 Page 1


40907-17 Safer Swansea Booklet W_Layout 1 07/09/2017 13:23 Page 2

HELPWCH I ATAL TWYLL YN ABERTAWE

2


40907-17 Safer Swansea Booklet W_Layout 1 07/09/2017 13:23 Page 3

CYFLWYNIAD Cynllun i gymryd eich arian drwy dwyll yw gweithred dwyllodrus. Mae ffyrdd newydd o dwyllo pobl yn cael eu creu drwy’r amser. Mae datblygiadau mewn technoleg fodern yn golygu bod gweithredoedd twyllodrus yn dod yn fwy soffistigedig wrth i ddioddefwyr gael eu targedu drwy’r rhyngrwyd, ffonau symudol a chyfryngau cymdeithasol. Ceir llawer o fathau o weithredoedd twyllodrus. Dyma rai enghreifftiau: • Gweithredoedd twyllodrus y loteri neu gystadleuaeth - Byddwch yn clywed eich bod wedi ennill swm mawr o arian drwy loteri neu mewn cystadleuaeth nad oeddech yn rhan ohoni. I hawlio’r arian, rhaid i ddioddefwyr anfon ffi er mwyn ei ryddhau. • Gweithredoedd twyllodrus cariad/rhamant - Targedir pobl sy’n defnyddio gwefannau canfod cariad gan dwyllwyr sy’n creu proffiliau ffug ac yn meithrin perthynas amhriodol â’r dioddefwr trwy ddatblygu perthynas ar-lein. Mae dioddefwyr yn aml yn cael eu perswadio i roi arian i helpu eu ‘partner’ ar-lein. • Gweithredoedd twyllodrus catalogau - Anogir dioddefwyr i brynu cynnyrch sy’n addo ‘gwyrthiau gwella’ am brisiau rhad. Ond nid yw’r nwyddau hyn yn werthfawr iawn, ac nid ydynt yn rhoi’r canlyniadau maent yn eu haddo. Efallai na fydd y cynnyrch yn eich cyrraedd hyd yn oed! • Twyll buddsoddiad - Mae hyn yn ymwneud â galwyr diwahoddiad yn ffonio cwsmeriaid i gynnig cynnyrch megis gwin, diamwntau a thir fel cyfle buddsoddi. Yn aml, nid yw’r cynnyrch yn bodoli ac, hyd yn oed os yw, ni fydd yr arian sy’n cael ei addo’n eich cyrraedd. • Twyll adfer - Cysylltir â dioddefwyr sydd eisoes wedi colli arian o ganlyniad i dwyll buddsoddiad gan ddweud wrthynt y gallant gael eu buddsoddiad yn ôl ar yr amod eu bod yn talu ffîoedd neu’n prynu pethau eraill. • Gweithredoedd twyllodrus banciau a chymdeithasau adeiladu Byddwch yn ymwybodol o e-byst sy’n esgus eu bod yn dod o’ch banc. Peidiwch ag agor atodiadau. AC MAE NIFER Y GWEITHREDOEDD TWYLLODRUS YN CYNYDDU.

3

HELPWCH I ATAL TWYLL YN ABERTAWE


40907-17 Safer Swansea Booklet W_Layout 1 07/09/2017 13:23 Page 4

GWEITHREDOEDD TWYLLODRUS AR GARREG Y DRWS Mae masnachwyr twyllodrus, gwerthwyr o ddrws i ddrws, neu dwyll ar garreg y drws yn ymwneud â thwyllwyr yn ceisio’ch twyllo ar ôl curo ar eich drws. Mae gwerthu dilys ar garreg y drws yn ymwneud â rhywun yn gwerthu nwyddau neu wasanaethau yn eich cartref neu ar garreg eich drws. Mae llawer o fusnesau’n defnyddio’r dechneg hon - ond mae twyllwyr hefyd yn ei defnyddio. Gall prynu ar garreg eich drws fod yn gyfleus. Fodd bynnag, gall gwerthwr sy’n defnyddio tactegau craff roi pwysau arnoch i brynu rhywbeth nad ydych chi ei eisiau, neu rywbeth sy’n werth gwael am arian. Mae llawer o fathau o dwyll ar garreg eich drws, gan gynnwys: • Rhoi pwysau i brynu • Contractau annheg • Gwelliannau neu waith cynnal a chadw i’r cartref am bris hynod o uchel neu wasanaeth o ansawdd isel • Arolygon defnyddwyr ffug • Casgliadau ffug i elusen. Mae twyll o’r fath yn cynnwys hybu nwyddau neu wasanaethau nad ydynt yn eich cyrraedd, neu sydd o ansawdd gwael. Hefyd gallai twyllwyr fynnu arian am wneud waith na chytunoch iddo. Ceir deddfau penodol am werthu o ddrws i ddrws. Mae’n ofynnol i lawer roi cyfnod ailfeddwl i chi (lle gallwch newid eich meddwl neu ofyn i gael eich arian yn ôl). Ni fydd gwerthwyr ffug yn cynnig y rhain, ac os ydynt, gallwch fod yn siŵr na fyddant yn cadw at y ‘gwarant’ hwn. Bydd twyllwyr yn darparu cerdyn adnabod neu fanylion cyswllt ffug, gan ei wneud yn amhosib i chi eu hadnabod neu gysylltu â nhw. Os ydych wedi eu talu ymlaen llaw, ni fyddwch yn cael eich arian yn ôl. Hyd yn oed os yw eich banc neu bolisi yswiriant yn talu am unrhyw golled, bydd rhaid i chi ddygymod â sgôr credyd wedi’i ddifrodi, gohebiaeth barhaus dros gyfnod hir i atgyweirio’r difrod, a’r gofid emosiynol a phryder sy’n cael eu hachosi gan ddwyn hunaniaeth.

HELPWCH I ATAL TWYLL YN ABERTAWE

4


40907-17 Safer Swansea Booklet W_Layout 1 07/09/2017 13:23 Page 5

I lawer, mae e-byst sbam, post rwtsh neu alwadau digroeso’n niwsans. Ond mae mwy a mwy o dystiolaeth bod miloedd o gwsmeriaid yn cael eu twyllo gan gynigion anghyfreithlon ac yn colli cannoedd o bunnoedd a miloedd mewn rhai achosion. Peidiwch â chael eich twyllo pan fyddwch yn clywed eich bod wedi ennill y loteri, eich bod yn enillydd pendant, fod terfyn amser ar eich enillion a’ch gwobrau, ac na allwch ddweud wrth eich teulu a’ch ffrindiau.

RHYBUDD YN ERBYN GWEITHREDOEDD TWYLLODRUS MATHAU O WEITHREDOEDD TWYLLODRUS Ceir llawer o fathau o weithredoedd twyllodrus a gallant ddod trwy’r post, trwy e-bost a thros y ffôn neu efallai y byddwch yn cael eich twyllo gan bobl rydych yn cwrdd â nhw. I’ch helpu chi fod yn effro i dwyll, ceir gwybodaeth yn y llyfryn hwn am rai o’r gweithredoedd twyllodrus mwyaf cyffredin. Cofiwch fodd bynnag, mai dim ond rhai o’r gweithredoedd twyllodrus y gallwch ddod ar eu traws yw’r rhain.

RWY’N MEDDWL FY MOD WEDI PROFI GWEITHRED DWYLLODRUS Os ydych chi, eich ffrind, neu aelod o’ch teulu yn meddwl eich bod wedi cael eich twyllo, dylech roi gwybod i Action Fraud cyn gynted â phosib.

DIOGELWCH EICH HUN AC ERAILL RHAG GWEITHRED DWYLLODRUS Mae post twyllodrus wedi’i ddylunio i edrych yn swyddogol ac yn ddilys. I helpu i ddiogelu eich hun ac eraill rhag gweithredwyr twyllodrus, mae arwyddion adnabod gweithred dwyllodrus y gallwch gadw llygaid amdanynt. Byddwch yn effro i weithredoedd twyllodrus. Os ydych chi wedi cael cyswllt heb wahoddiad, ystyriwch bob amser y posibilrwydd o weithred dwyllodrus. Cofiwch, os yw rhywbeth yn ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei fod.

5

HELPWCH I ATAL TWYLL YN ABERTAWE


40907-17 Safer Swansea Booklet W_Layout 1 07/09/2017 13:23 Page 6

Byddwch yn siŵr â phwy rydych yn ymdrin ag ef. Os nad ydych yn siŵr bod y person neu’r cwmni’n ddilys, ymchwiliwch iddo. Chwiliwch y rhyngrwyd am bobl sydd wedi cael profiad gyda nhw. Peidiwch ag agor dolenni, e-byst, negeseuon testun, ffenestri dros dro amheus. Os ydych yn ansicr, cwblhewch chwiliad ar y rhyngrwyd am wybodaeth. Peidiwch â defnyddio’r manylion cyswllt yn y neges. Gochelwch rhag unrhyw gais am fanylion personol neu arian. Peidiwch byth ag anfon arian, manylion cerdyn credyd, manylion cyfrif ar-lein, neu fanylion personol i unrhyw un nad ydych yn ei adnabod neu’n ymddiried ynddo. Peidiwch â chytuno i drosglwyddo arian neu nwyddau ar ran rhywun arall; gwyngalchu arian yw hyn ac mae’n anghyfreithlon.

HELPWCH I ATAL TWYLL YN ABERTAWE

6


40907-17 Safer Swansea Booklet W_Layout 1 07/09/2017 13:23 Page 7

GWEITHREDOWDD TWYLLODRUS DROS Y FFÔN GWEITHREDOEDD TWYLLODRUS COLLI GALWAD FFÔN Mae’ch ffôn yn dangos eich bod wedi colli galwad. Nid ydych yn adnabod y rhif felly rydych yn ei alw yn ôl. Y rhan fwyaf o’r amser, bydd yr alwad yn hollol ddilys, ond efallai byddwch yn cael eich dargyfeirio at wasanaeth cyfradd premiwm a all gostio hyd at £15 yr alwad.

GWEITHREDOEDD TWYLLODRUS NEGESEUON WEDI’U RECORDIO Gofynnir i chi ffonio rhif yn ôl, ond gall yr alwad fod yn neges wedi’i recordio sy’n dweud eich bod wedi ennill gwobr, gan roi rhif arall i chi ei ‘hawlio’. Ond efallai y bydd y rhif yn arwain at wasanaeth cyfradd premiwm. Hefyd, efallai mai dim byd mwy na thanysgrifiad i synau galwad fydd eich gwobr - sydd hefyd yn gallu bod yn dwyllodrus.

GWEITHREDOEDD TWYLLODRUS NEGESEUON TESTUN Byddwch yn derbyn neges oddi wrth rif anhysbys, ond bydd yn ymddangos i fod oddi wrth ffrind. Er enghraifft: ‘Helo, John sy ‘ma. Rwy’n ôl! Pryd wyt ti eisiau cwrdd?’ Felly, byddwch yn ffonio yn ôl, gan feddwl eich bod yn helpu gan ddweud eu bod wedi defnyddio’r rhif anghywir, ond byddwch yn talu swm mawr ar gyfer galwad cyfradd premiwm. Neu byddwch yn anfon neges destun yn ôl a chael sgwrs hir. Byddwch yn darganfod eich bod wedi talu cyfradd uchel i anfon y negeseuon (a weithiau ar gyfer y negeseuon a dderbynioch hefyd). Hefyd, byddwch yn ofalus wrth agor eich drws i fyrgler posib neu rywun sydd eisiau cael mynediad i’ch eiddo er mwyn galluogi i bobl eraill dorri i mewn. Ar ôl cael mynediad, mae gwerthwyr twyllodrus yn gallu gwneud nodyn o’ch eitemau gwerthfawr ac unrhyw fesurau diogelwch sydd ar waith.

7

HELPWCH I ATAL TWYLL YN ABERTAWE


40907-17 Safer Swansea Booklet W_Layout 1 07/09/2017 13:23 Page 8

GWEITHREDOEDD TWYLLODRUS AR Y RHYNGRWYD GWEITHREDOEDD TWYLLODRUS AR GYFRIFIADUR NEU’R RHYNGRWYD Bydd twyllwyr sy’n dweud eu bod yn gweithio i gwmni megis Microsoft neu Apple yn cysylltu â chi i ddweud bod problem gyda’ch cyfrifiadur. Wedyn gofynnir i chi lawrlwytho meddalwedd i’w datrys. Gall hyn roi firws i’ch cyfrifiadur sy’n difetha’ch holl ddata, gallent hefyd gael mynediad i’ch ffeiliau sy’n galluogi iddynt weld gwybodaeth bersonol. Hefyd gallai twyllwyr ofyn am ffïoedd i ddilysu meddalwedd sydd ar eich cyfrifiadur.

GWEITHREDOEDD TWYLLODRUS ELUSEN Gofynnir i chi roi arian i grŵp o bobl neu achos elusennol. Gallent hyd yn oed ddefnyddio enw elusen adnabyddus a chadw’r arian i’w hunain. Os gofynnir i chi roi arian trwy wefan, gall fod yn ffug a gallant gofnodi’ch manylion cyfrif banc a’u defnyddio i wario’ch arian. Os gofynnir i chi roi arian dros y ffôn, gall hyn arwain at wasanaeth cyfradd premiwm. Mae elusennau dilys yn gofrestredig gyda’r Comisiwn Elusennau ac yn dangos eu manylion cofrestru ar fagiau, tuniau ac amlenni casglu. Gallwch eu ffonio ar eu llinell gymorth 0845 300 0218 neu drwy fynd i www.charity-commission.gov.uk lle mae ganddynt gofrestr elusennau ar-lein.

HELPWCH I ATAL TWYLL YN ABERTAWE

8


40907-17 Safer Swansea Booklet W_Layout 1 07/09/2017 13:23 Page 9

GWEITHREDOEDD TWYLLODRUS TRWY’R POST GWEITHREDOEDD TWYLLODRUS Y LOTERI NEU GYSTADLEUAETHAU Byddwch yn clywed eich bod wedi ennill gwobr mewn cystadleuaeth nad oeddech yn rhan ohoni. Yn aml mae loterïau’n cael eu cynnal dramor a gallech fod yn cysylltu â rhywun sy’n esgus ei fod o loteri ddilys. Er mwyn hawlio’r wobr, bydd rhaid i chi dalu ffi weinyddol ac anfon dogfennau personol megis copi o’ch pasbort. Ar ôl talu’r ffi, byddwch yn derbyn naill ai dim byd, neu rywbeth sy’n werth llai na’r ffi a daloch. Gyda’ch manylion personol, gallai’r twyllwyr ddwyn eich hunaniaeth.

GWEITHRED DWYLLODRUS ETIFEDDIAETH Bydd cyfreithiwr neu berson cyfreithiol arall yn cysylltu â chi ac yn dweud bod rhywun gyda’ch cyfenw wedi marw, gan adael swm mawr o arian i chi. Ni allant ddod o hyd i unrhyw berthnasoedd felly bydd yr arian yn mynd i’r llywodraeth os nad yw rhywun yn ei gasglu. Byddant yn ceisio’ch perswadio i hawlio’r arian a’i rannu gyda’r twyllwr. Byddant yn gofyn i chi dalu ffïoedd cyfreithiol i hawlio etifeddiaeth nad yw’n bodoli. Hefyd gallent ofyn am eich manylion cyfrif banc a gallent ddwyn arian o’ch cyfrif.

GWEITHRED DWYLLODRUS ETIFEDDIAETH Mae pensiynau wedi newid ac mae twyllwyr bellach yn cynnig trawsnewid budd-daliadau pensiwn yn arian parod cyn eich pen-blwydd yn 55 oed. Efallai y gofynnir i chi dalu ffi weinyddol i wneud hyn. Gallent roi gwybodaeth anghywir i chi am werth adenillion ar fuddsoddiad y maent yn ei wneud ar eich rhan. Efallai mai chi fydd yn gyfrifol am dalu ffïoedd a threthi.

9

HELPWCH I ATAL TWYLL YN ABERTAWE


40907-17 Safer Swansea Booklet W_Layout 1 07/09/2017 13:23 Page 10

GWEITHREDOEDD TWYLLODRUS E-BOST E-BYST A LLYTHYRAU ‘419’ Pan fydd dieithr yn cysylltu â chi ac yn gofyn i chi dalu ffi weinyddol i helpu i symud swm mawr o arian o un wlad i wlad arall, gan addo y byddwch yn derbyn rhan o’r arian yn ddiweddarach. Mae’r e-byst hyn yn gallu cynnwys gwledydd megis Irac, De Affrica neu rywle yng ngorllewin Affrica megis y Traeth Ifori, Togo neu Nigeria, lle daeth yr enw ‘419’ (erthygl o gôd troseddol y wlad).

DIOGELWCH EICH HUN • Peidiwch ag ymateb i unrhyw e-byst fel hyn. Dylech eu dileu ar unwaith. • Gofynnwch i’ch hun "pam fi?". Nid yw’r person hwn yn eich adnabod ac nid oes rheswm ganddo i ymddiried ynddoch gyda swm mawr o arian. • Peidiwch â theithio i unrhyw le os bydd cynnig, hyd yn oed os nad yw’r lle yn bell i ffwrdd. Ni fyddwch yn derbyn unrhyw arian a byddwch yn peryglu’ch hun.

SYLWCH AR YR ARWYDDION • Byddwch yn derbyn e-bost neu lythyr wedi’i ysgrifennu’n wael sy’n dod oddi wrth rhywun yn honni ei fod yn perthyn i chi neu mewn swydd ag awdurdod, gan ddweud wrthych i weithredu’n gyflym ac i gadw’r peth yn gyfrinachol. • Gofynnir i chi dalu ffïoedd i helpu i ryddhau swm mwy o arian, er na fyddai llywodraethau na chwmnïau byth yn gofyn i chi helpu gyda throsglwyddo arian fel hyn. • Bydd pobl yn cysylltu â chi yn ddiweddarach gyda chynnig newydd, neu bobl sy’n esgus eu bod yn archwilwyr neu’n awdurdodau. Yr un bobl yw’r rhain yn defnyddio cyfeiriad e-bost arall.

HELPWCH I ATAL TWYLL YN ABERTAWE

10


40907-17 Safer Swansea Booklet W_Layout 1 07/09/2017 13:23 Page 11

MANYLION CYSWLLT DEFNYDDIOL Os ydych wedi colli arian i’r gweithredoedd twyllodrus hyn neu rai eraill, gallwch adrodd amdanynt i Action Fraud, canolfan adrodd genedlaethol y DU ar gyfer twyll a seibrdroseddu. Gallwch adrodd amdano ar-lein yn www.actionfraud.police.uk/report neu ffoniwch 0300 1230 2040. Mae Action Fraud yn rhestru A-Y ar dwyll gyda 150 o fathau eraill o dwyll a gweithredoedd twyllodrus. Cofiwch fod pethau nad ydynt wedi’u rhestru yma yn gallu bod yn weithredoedd twyllodrus hefyd. Os yw cynnig yn ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei fod ac ni ddylech ymateb i’r rhain.

HELPWCH I ATAL TWYLL YN ABERTAWE

11


40907-17 Safer Swansea Booklet W_Layout 1 07/09/2017 13:23 Page 12

BLE I GAEL CYNGOR AR WEITHREDOEDD TWYLLODRUS Safonau.Masnach@abertawe.gov.uk Mae nifer o sefydliadau yn darparu cyngor ar weithredoedd twyllodrus. Action Fraud yw canolfan adrodd genedlaethol y DU ar gyfer twyll neu seibrdroseddu. Yn ogystal â rhoi gwybod am dwyll gallwch hefyd dderbyn cyngor a’r newyddion diweddaraf am weithredoedd twyllodrus diweddar. Mae gan Cyngor Ar Bopeth gyngor ar fathau cyffredin o weithredoedd twyllodrus, adnabod gweithredoedd twyllodrus a rhoi gwybod amdanynt, diogelu rhag gweithredoedd twyllodrus, a phobl ddiamddiffyn a gweithredoedd twyllodrus. Mae gan Which? arweiniad ar-lein ar y gweithredoedd twyllodrus diweddaraf, sut i adnabod gweithredoedd twyllodrus, beth i’w wneud os ydych wedi dioddef gweithred dwyllodrus a sut i roi gwybod am weithred dwyllodrus. Mae Age Cymru yn darparu cyngor i bobl hŷn gan gynnwys sut i adnabod ac osgoi gweithredoedd twyllodrus. Mae Think Jessica yn cynnal digwyddiadau i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o ddioddefwyr gweithredoedd twyllodrus diamddiffyn. Maent hefyd yn ymgyrchu i gael mwy o gefnogaeth ar gyfer dioddefwyr gweithredoedd twyllodrus. Cofrestrwch gyda’r Gwasanaeth Dewis Galwadau Ffôn i atal galwadau ffôn gwerthu a marchnata dieisiau. Cofrestrwch gyda’r Gwasanaeth Dewis Post i atal post hysbysebu di-eisiau. Os ydych chi’n meddwl eich bod chi neu aelod o’ch teulu’n derbyn post twyllodrus, gallwch roi gwybod i’r Post Brenhinol sy’n gweithio gyda’r awdurdodau perthnasol sydd â’r gallu i ymchwilio iddynt a chymryd camau gweithredu yn eu herbyn.

FRIENDS AGAINST SCAMS Mae Friends Against Scams yn ceisio diogelu ac atal pobl rhag dioddef gweithredoedd twyllodrus drwy geisio grymuso cymunedau i... ‘Sefyll yn erbyn gweithredoedd twyllodrus.’ Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Friends Against Scams yn www.friendsagainstscams.org.uk


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.