Rhaglen Dylan Thomas

Page 1

28854-11 Dylan Thomas Prog WELSH_Layout 1 03/01/2012 14:16 Page 1

CANOLFAN DYLAN THOMAS

RHAGLEN

IONAWR – EBRILL 2012


28854-11 Dylan Thomas Prog WELSH_Layout 1 03/01/2012 14:16 Page 2

CROESO Yn ôl y sôn, roedd tad Dylan Thomas yn adrodd Shakespeare i'w fab ifanc cyn iddo allu siarad. Amcangyfrifir nawr mai Dylan erbyn hyn sy'n cael ei ddyfynnu amlaf, heblaw am Shakespeare, felly mae'n addas ein bod, ym mis Ebrill, yn lansio dathliad blynyddol newydd y Bardd o Avon gyda pherfformiad o Happy Birthday, Mr Shakespeare gan Fluellen Mewn man arall, rydym yn falch o lansio casgliad cyntaf Sarah Coles, o Abertawe, un o raddedigion MA mewn Ysgrifennu Creadigol tra llwyddiannus Prifysgol Abertawe, a llyfr newydd Jon Gower’s o straeon byrion amrywiol. Jo Furber, Swyddog Llenyddiaeth Pl C PIH

2

Pris Llawn Consesiynau Pasbort i Hamdden

SWYDDFA DOCYNNAU:  01792 463980 Gallwch gadw lle ar-lein: ewch i www.ticketsource.co.uk/dylanthomas IONAWR – EBRILL 2012


28854-11 Dylan Thomas Prog WELSH_Layout 1 03/01/2012 14:17 Page 3

DERYN REES-JONES

Nos Fercher, 18 Ionawr, 7.30pm

THE SCIENCE OF SLEEP AND DREAMING Yr Athro Mark Blagrove, Prifysgol Abertawe. TOCYNNAU: Am ddim Nos Iau, 26 Ionawr, 7.30pm BEIRDD YN Y SIOP LYFRAU: DERYN REES-JONES Deryn Rees-Jones yw awdur Consorting with Angels, llyfr sy'n olrhain datblygiad barddoniaeth menywod yn yr ugeinfed ganrif, a hi yw golygydd y flodeugerdd gysylltiedig, Modern Women Poets. Bydd ei phedwerydd casgliad o gerddi, Burying the Wren, yn cael ei gyhoeddi gan Seren cyn bo hir. Meic agored hefyd. TOCYNNAU: Pl £4 C £2.80 PIH £1.60 www.dylanthomas.com

Nos Sadwrn, 4 Chwefror, 7.30pm

DELYTH JENKINS YN LANSIO LLAIS Mae Delyth Jenkins, telynores flaenllaw'r delyn Geltaidd, yn lansio ei halbwm unigol newydd, Llais. Yn dilyn perfformiad unigol, bydd actorion o Theatr Fluellen yn ymuno â Delyth i ddathlu eu perthynas hirsefydlog. Mae Llais yn cynnwys cerddoriaeth wreiddiol a gyfansoddodd Delyth ar gyfer cynyrchiadau Fluellen, gan gynnwys Under Milk Wood, Doctor and the Devils and Cymbeline, yn ogystal â'i dehongliadau o alawon Cymreig traddodiadol. TOCYNNAU: Mynediad a gwin am ddim 3


28854-11 Dylan Thomas Prog WELSH_Layout 1 03/01/2012 14:17 Page 4

HAROLD PINTER

SARAH COLES

TOM STOPPARD

Nos Fercher, 15 Chwefror, 7.30pm

ROSENCRANTZ & GUILDENSTERN ARE DEAD GAN TOM STOPPARD Mae Stoppard yn trawsnewid Hamlet ac yn arsylwi'n fanwl ar ddau o gymeriadau ymylol Shakespeare. POB TOCYN: £4 Dydd Sadwrn, 18 Chwefror, 1pm FFOCWS AR Y THEATR: MAE CWMNI THEATR fluellen YN CYFLWYNO

A SLIGHT ACHE GAN HAROLD PINTER Mae Edward, sy'n grac, a Flora, sy'n rhwystredig, wedi priodi ers amser maith. Ond un diwrnod mae dieithryn trawiadol a digyffro'n ymddangos ac yn bygwth chwalu eu priodas ddigariad, bourgeois. Comedi trasig cynnar gan Pinter, sy'n nodweddiadol o'i waith. Mae holl gyflwyniadau Ffocws ar y Theatr yn gyflwyniadau sgriptmewn-llaw a bydd sgwrs am y dramodydd cyn y perfformiad. POB TOCYN: £5 4

Nos Iau, 23 Chwefror,7.30pm BEIRDD YN Y SIOP LYFRAU: SARAH COLES Digwyddiad arbennig i ddathlu rhyddhau casgliad cyntaf Sarah Coles Here and the Water (Gomer). Mae barddoniaeth, ffuglen ac adolygiadau Sarah, sy'n gweithio yn Abertawe, hefyd wedi ymddangos yng nghylchgrawn Planet a blodeugerdd ddiweddar Gomer, Another Country, Haiku Poetry from Wales. TOCYNNAU: Mynediad a gwin am ddim Nos Fercher, 29 Chwefror, 7.30pm

‘LIFE IN THE UNIVERSE: AN INTRODUCTION TO ASTROBIOLOGY’ Yr Athro Mike Edmunds, Prifysgol Caerdydd, trefnir gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol. TOCYNNAU: Mynediad Am Ddim IONAWR – EBRILL 2012


28854-11 Dylan Thomas Prog WELSH_Layout 1 03/01/2012 14:17 Page 5

JOE ORTON

KIT LAMBERT

Nos Iau, 1 Mawrth, 7pm

STUFF HAPPENS ON WORLD BOOK DAY Dathlwch Ddydd Gwˆ yl Ddewi a Diwrnod y Llyfr gydag awduron dethol o The Crunch a Chanolfan Dylan Thomas, a fydd yn darllen detholiadau o waith awduron Cymreig sydd wedi'u hysbrydoli. Ymunwch â ni am noswaith hamddenol o lenyddiaeth, sgwrsio a pheint neu ddau. TOCYNNAU: AM DDIM

www.dylanthomas.com

Dydd Sadwrn, 3 Mawrth, 1pm FFOCWS AR Y THEATR: MAE CWMNI THEATR fluellen YN CYFLWYNO

FUNERAL GAMES GAN JOE ORTON Pan fydd yr arweinydd cwlt a'r twyllwr, Pringle, yn cael llythyr dienw'n dweud wrtho bod ei wraig yn cael perthynas ag offeiriad Catholig dadurddedig, mae'n hurio Caulfield, y llabwst ifanc, i ymchwilio i hyn. Y duaf o gomedïau du gan feistr y gelfyddyd. Mae holl gyflwyniadau Ffocws ar y Theatr yn gyflwyniadau sgript-mewn-llaw a bydd sgwrs am y dramodydd cyn y perfformiad. POB TOCYN: £5

Nos Fercher, 14 Mawrth 7.30pm

THE CUSTOM HOUSE GAN KIT LAMBERT Mewn tollty segur, ar gyrion un o wladwriaethau mawr Ewrop, mae dau ddyn yn breuddwydio am groesi'r ffin a dechrau bywyd newydd. Comedi ffraeth am ein hagweddau at Ewrop gan ddramodydd newydd gwych, ac enillydd cyntaf Script Slam Sherman Cymru. POB TOCYN: £4

5


28854-11 Dylan Thomas Prog WELSH_Layout 1 03/01/2012 14:17 Page 6

Nos Wener, 21 Mawrth, 7.30pm

‘GASTRONOMY AND SCIENCE’ Yr Athro Peter Barham, Prifysgol Bryste. TOCYNNAU: Mynediad Am Ddim

Nos Iau, 29 Mawrth, 7.30pm BEIRDD YN Y SIOP LYFRAU:

CLARE POLLARD Mae Clare Pollard wedi cyhoeddi pedwar casgliad o farddoniaeth, ac mae'r diweddaraf, Changeling (Bloodaxe, 2011), yn un o Argymhellion y Poetry Book Society. Cafodd ei drama The Weather ei pherfformio gyntaf yn y Royal Court Theatre ac roedd ei rhaglen ddogfen ar y radio, ‘My Male Muse’, ymysg goreuon y flwyddyn ar Radio 4. Yn ddiweddar roedd yn gyd-olygydd y flodeugerdd gan Bloodaxe, sef Voice Recognition: 21 poets for the 21st Century ac mae'n aelod o fwrdd cylchgrawn barddoniaeth Magma. TOCYNNAU: Pl £4 C £2.80 PIH £1.60 Nos Fercher, 11 Ebrill 7.30pm

LOVE IN PLASTIC GAN IAN ROWLANDS Ar ôl marwolaeth ei rieni, mae Harold yn gorchuddio y tu mewn i'w dyˆ â phlastig ac yn dychwelyd i'r groth am naw mis. Wrth i'w aileni agosáu, datblyga obsesiwn â delwedd o actores. Wedi'i amddiffyn gan siwt ofod yn unig, mae'n teithio i ddrygioni cymdeithas i ddod o hyd iddi. POB TOCYN: £4 6

IONAWR – EBRILL 2012


28854-11 Dylan Thomas Prog WELSH_Layout 1 03/01/2012 14:17 Page 7

Nos Iau, 12 Ebrill, 7pm

LANSIO LLYFR: TOO COLD FOR SNOW GAN JON GOWER Mae asasin yn cymryd llwyth o boer gwiber er mwyn mynd i'r afael â llabystiau mawr; mae llywodraethwr llong â charcharorion yn cyflwyno coginio aruchel i'w garcharorion; mae ffermwr yn dihuno ar ôl eirlithriad yng ngogledd Cymru ac mae pawb wedi marw heblaw amdano ef. Mae'r straeon yn y casgliad gorffwyll newydd hwn yn amrywio, bron yn anhrefnus, o ogledd Rwsia i ddyfnder anobaith. Cânt eu hysgogi gan ddychymyg iasol ac afiaith anghyffredin am iaith gan yr ysgrifennwr a'r darlledwr Jon Gower, a fydd yn sgwrsio â golygydd Raconteur Gary Raymond. TOCYNNAU: Mynediad Am Ddim www.dylanthomas.com

Dydd Sadwrn, 21 Ebrill, 1pm FFOCWS AR Y THEATR: MAE CWMNI THEATR fluellen YN CYFLWYNO

HAPPY BIRTHDAY, MR SHAKESPEARE Ar 23 Ebrill, dethlir 448 mlynedd ers genedigaeth dramodydd gorau'r byd, William Shakespeare. I ddathlu'r digwyddiad, bydd Fluellen yn cyflwyno fersiwn gryno o'u rifíw poblogaidd, Happy Birthday, Mr Shakespeare, sy'n cyfuno bywgraffiad â detholiadau o'i ddramâu mewn ffordd ysgafngalon. POB TOCYN: £5 Nos Fercher, 25 Ebrill, 7.30pm

‘THE FERMI PARADOX’ David Skibinski, Prifysgol Cymru, trefnir gan Barc Geneteg Cymru. TOCYNNAU: Mynediad Am Ddim 7


28854-11 Dylan Thomas Prog WELSH_Layout 1 03/01/2012 14:17 Page 8

Nos Iau, 26 Ebrill, 7.30pm BEIRDD YN Y SIOP LYFRAU: LYNNE REES

Cafodd Lynne Rees ei geni a'i magu ym Mhort Talbot. Caiff ei chasgliad o farddoniaeth, Learning How to Fall, ei chyhoeddi gan Parthian, mae'n gyd-olygydd Another Country, Haiku Poetry from Wales (Gomer 2011) ac ar hyn o bryd mae'n ymchwilio ac yn ysgrifennu Real Port Talbot, a gyhoeddir gan Seren maes o law. Mae'n blogio fel the hungry writer yn www.lynnerees.com ar fywyd, bwyd ac ysgrifennu er bod y bwyd (a'r gwin) yn aml yn cael mwy o sylw na'r ysgrifennu. TOCYNNAU: Pl £4 C £2.80 PIH £1.60 Credyd Lluniau: Joe Orton, hawlfraint y ddelwedd Lewis Morley Archive/Oriel Bortreadau Genedlaethol; Sarah Coles gan Bernard Mitchell; Jon Gower, hawlfraint Emyr Jenkins

YB

W AY

NDEB D YR U / STRY

ET TRE

R RYD / ST

HYD

EN YCH

WIND

W

Grand Theatre Theatr y Grand

St David’s Davids St Shopping

ES

TW AY

/F

STELL D Y CA / STRY

Castle Square Sgwâr y Castell

T STREE

S ORD OXF

   

NIN RE

UNION

E TH

CANOLFAN DYLAN THOMAS

Parc Tawe

REET LE ST CAST

DD OR FF

VU E

Canolfan Siopa Dewi Sant

FO RD D Y RL GO N WI LE

AD RO TH OU RM E ST OY

TH AR YN LW ML U ST LY EO /H

STREE

T / S TR YD Y G W

YNT

SOMERSET PLACE, ABERTAWE SA1 1RR 01792 463980 www.dylanthomas.com dylanthomas.lit@swansea.gov.uk

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod manylion yn y rhaglen hon yn gywir, ond mae Dinas a Sir Abertawe yn cadw’r hawl i newid rhan o’r rhaglen hon heb rybudd.

AD

T RE E L ST MANSE STRYD

Y/ WA GS KIN

EL LE

HE

DS

EC AB

ORCHAR

L DE

D FAWR

YD STR

RO RIA VICTO HEOL

Amgueddfa National Genedlaethol Waterfront y Glannau Museum

CANOLFAN DYLAN THOMAS

CEFNOGIR GAN:

8

IONAWR – EBRILL 2012


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.