Cylchlythyr Ceidwaid Parc Iau

Page 1

23289-09 JPRangers News W:Layout 9 04/12/2009 10:01 Page 1

Cyngor ar fwydo adar yr ardd Ddydd Sadwrn 14 Tachwedd, daeth 12 Ceidwad Parc Iau i'n digwyddiad a gwneud porthwyr adar gwych i helpu'r adar sy'n ymweld â'u gerddi yn ystod y gaeaf. Does dim llawer o fwyd naturiol i'r adar ei fwyta'r adeg hon o'r flwyddyn, felly beth am ddefnyddio rhai o'r awgrymiadau isod i'w denu a'u helpu drwy'r gaeaf eleni.

Helo CPI! Croeso i gylchlythyr CPI ar ei newydd wedd. Gobeithio eich bod i gyd wedi cael hydref wrth eich bodd a'ch bod wedi mwynhau'r lliwiau hyfryd a oedd i'w gweld ym mharciau Abertawe. Welsoch chi ddail y coed yn newid lliw ac yn disgyn? Mae'n adeg gyffrous o'r flwyddyn, mae'r tymheredd yn dechrau gostwng ac mae pawb yn paratoi ar gyfer y Nadolig. Hwyrach y cawn ychydig o eira'r gaeaf hwn. Mae gennym ychydig o eitemau newydd yn y cylchlythyr hwn gan gynnwys ‘Cornel Jeff’ a syniadau iechyd a ffitrwydd Draig, masgot Campau’r Ddraig.

Cynnwys Croeso CPI .................................................1 Newyddion Byd Natur ................................1 Syniadau Chwaraeon Draig ......................2 Digwyddiadau ...........................................2 Cornel Jeff..................................................3 Hwyl a gemau .......................................3&4

Pa fwyd sydd orau? Mae hadau blodau'r haul yn ddewis poblogaidd iawn ac maent yn denu sawl gwahanol fath o adar. Gallwch hefyd brynu cymysgeddau arbennig o hadau i ddenu gwahanol adar. Gwasgarwch eich cymysgedd ar fwrdd adar, rhowch beth ohono mewn porthwr sy'n hongian, neu gallwch ychwanegu bloneg ato a'i roi yn y porthwr sy'n cael ei ddisgrifio isod.

Sut i fwydo? Mae adar naill ai yn bwyta o'r ddaear sy'n golygu eu bod yn 'pigo' eu bwyd o'r ddaear neu oddi ar fwrdd adar. Mae enghreifftiau yn cynnwys y robin goch a'r golomen. Mae adar eraill er enghraifft, y titw a'r llinos, yn bwyta o borthwyr sy'n hongian. Felly, er mwyn denu amrywiaeth eang o adar, dylech ddarparu porthwyr sy'n hongian ac arwynebeddau gwastad. Gyda phob porthwr, cofiwch ei gadw'n llawn achos bydd yr adar yn dod i ddibynnu arno yn y tywydd oer. Cofiwch sicrhau nad yw anifeiliaid fel cathod yn gallu cael gafael yn eich porthwr!

Sut i wneud porthwr bloneg syml

: Yn gyntaf, bydd angen boncyff arnoch. : Gofynnwch i oedolyn ddrilio tyllau mawr yn y pren. : Llenwch y boncyff â chymysgedd o hadau adar a bloneg. : Driliwch dwll bach arall drwy ben y darn o bren a rhowch gortyn drwyddo. : Clymwch y porthwr i goeden sydd wedi'i gwarchod yn dda, neu mewn man arall lle gallwch ei weld!


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.