Cyfeiriannu yng Nghoedwig Gymunedol Cilfái NOD. Yr amcan wrth gyfeiriannu yw mynd o gwmpas cwrs sy'n cynnwys cyfres o bwyntiau rheoli, drwy ddefnyddio map i benderfynu ar lwybr rhyngddynt, ac yna dil yn y map ar hyd y llwybr a dod o hyd i'r pwyntiau rheoli. Y MAP. Map cyfeiriannu safonol yw hwn; mae'r symbolau a'r lliwiau'n cael eu hesbonio yn yr allwedd. Y raddfa yw 1:5,000, sy'n golygu bod 1cm ar y map yn cynrychioli 50m ar y ddaear, fel y dangosir gan linell y raddfa. PELLTEROEDD Gellir cyfrifo'r pellter o un pwynt i'r llall drwy ddefnyddio llinell y raddfa ar y map. Wrth fesur ar y ddaear, mae metr yn gymesur yn fras â brasgam dyn. CYFEIRIADAU:. I ba gyfeiriad bynnag y byddwch yn mynd neu'n ei wynebu, cadwch y map yn yr un cyfeiriad â'r ddaear, h.y. wedi'i gyfeiriadu. Wrth fynd yn eich blaen, bydd y nodweddion ar un ochr o'r map ar yr un ochr ar y ddaear. Y CWMPAWD. Os oes gennych gwmpawd, gallwch ei ddefnyddio i gyfeiriadu'r map. Mae'r nodwydd yn pwyntio i'r gogledd magnetig. Defnyddiwch hwn i gadw saethau'r gogledd ar y map yn pwyntio i'r gogledd hefyd. Bydd cwmpawd hefyd yn ddefnyddiol i ddod o hyd i gyfeiriadau cywir ar draws ardaloedd heb lwybrau, ac i benderfynu i ba gyfeiriad i fynd ar gyffyrdd llwybrau, etc. Sut i ddefnyddio cwmpawd onglydd ar gyfer cyfeiriadau: 1. Gosodwch ymyl y cwmpawd onglydd ar hyd y cyfeiriad rydych chi'n bwriadu ei ddilyn ar y map. 2. Trowch y capsiwl fel bod y llinellau cyfochrog ynddo yn unol â llinellau'r gogledd ar y map. 3. Codwch y cwmpawd o'r map a'i ddal o'ch blaen, gan bwyntio ymlaen. TROWCH EICH HUN gyda'r cwmpawd nes bod y nodwydd yn unol â'r llinellau yn y capsiwl. 4. Ewch yn eich blaen i'r cyfeiriad y mae blaen y cwmpawd yn cyfeirio ato. RHEOLYDDION A MARCWYR. Dangosir lleoliadau'r rheolyddion ar y map gan gylchoedd wedi'u rhifo'n goch, a cheir disgrifiad o bob un isod. Nodir y rheolyddion ar y ddaear gan bostyn ac ar ei ben mae plac â symbol cyfeiriannu coch a gwyn. Mae rhif yno, sy'n cyd-fynd â'r un rheolydd ar y map, a llythyren y dylech eu cofnodi yn y sgwâr perthnasol ar y cerdyn rheoli wrth ochr eich map i gadarnhau eich ymweliad. DISGRIFIADAU O'R RHEOLYDDION: Dechrau 1. 2. 3. 4.
Cyffordd heol/llwybr Troed wal bridd Cyffordd llwybr/ffos Tro yn y llwybr Cyffordd llwybr
5. 6. 7. 8. 9.
Wal, pen gogleddol Clogfaen, ochr ogleddorllewinol Cyffordd llwybr Cyffordd llwybr Cyffordd llwybr
10. 11. 12. 13.
Tarddle nant Cyffordd llwybr, ochr ddeorllewinol Cyffordd gyli Adfail, cornel ogleddol
15. 16. 17. 18. 19.
Cyffordd llwybr Gogledd y Knoll, ochr ogleddorllewinol Adeilad, cornel dde-orllewinol Cyffordd gyli/wal bridd Llannerch, ymyl dde-orllewinol
CYRSIAU A AWGRYMIR. Dechrau a gorffen o gyffordd y llwybr â Heol Jersey ar ochr ddwyreiniol y map, a ddynodir ar y map gan driongl coch ar ben cylch dwbl: Gwyn
1 km byr a hawdd ar gyfer dechreuwyr ifanc:
Dechrau - 11 - 3 - 7 - 4 - 9 - 8 - Gorffen
Melyn
2.1km hawdd i ddechreuwyr hŷn a'r rhai sy'n datblygu o'r Gwyn: Dechrau - 8 - 7 - 2 - 6 - 12 - 15 - 16 - 13 - Gorffen
Oren
2.5km yn fwy anodd ac yn dilyn ymlaen o'r Melyn:
Dechrau - 13 - 16 - 18 - 19 - 17 - 15 - 10 - 5 - 1 - 6 - 7 - Gorffen
NEU rhowch gynnig ar ymweld â chynifer o reolyddion â phosib mewn amser penodol, er enghraifft 30 neu 45 munud (digwyddiad ‘Sgorio’). CYFLEOEDD CYFEIRIANNU ERAILL. Os hoffech wneud mwy o gyfeiriannu, cysylltwch â'r clwb lleol, CLWB CYFEIRIANNU BAE ABERTAWE, drwy ymweld â gwefan y clwb yn www.sboc.org.uk CYDNABYDDIAETH. Sefydlwyd y cwrs cyfeiriannu parhaol hwn gyda help grantiau a ddarparwyd drwy Ddinas a Sir Abertawe gan 'Dringo'n Uwch' (Cyngor Chwaraeon Cymru), Cydcoed (Comisiwn Coedwigaeth), Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Amcan Un yr Undeb Ewropeaidd. Lluniwyd y map a chynlluniwyd y cyrsiau gan Glwb Cyfeiriannu Bae Abertawe.