Cyfeiriannu ar Fryn y Mwmbwls AMCAN. Yr amcan wrth gyfeiriannu yw mynd o gwmpas cwrs sy'n cynnwys cyfres o bwyntiau rheoli, drwy ddefnyddio map i benderfynu ar lwybr rhyngddynt, ac yna dilyn y map ar hyd y llwybr a dod o hyd i'r pwyntiau rheoli. Y MAP. Map cyfeiriannu safonol yw hwn; mae'r symbolau a'r lliwiau'n cael eu hesbonio yn yr allwedd. Y raddfa yw 1:5,000, sy'n golygu bod 1cm ar y map yn cynrychioli 50m ar y ddaear, fel a ddangosir gan linell y raddfa. PELLTEROEDD Gellir cyfrif y pellter o un pwynt i'r llall drwy ddefnyddio llinell y raddfa ar y map. Wrth fesur ar y ddaear, mae metr yn gymesur yn fras â brasgam dyn. CYFEIRIADAU. I ba gyfeiriad bynnag y byddwch yn mynd neu'n ei wynebu, cadwch y map yn yr un cyfeiriad â'r ddaear, h.y. wedi'i gyfeiriadu. Wrth fynd yn eich blaen, bydd y nodweddion ar un ochr o'r map ar yr un ochr ar y ddaear. Y CWMPAWD. Os oes gennych gwmpawd, gallwch ei ddefnyddio i gyfeiriadu'r map. Mae'r nodwydd yn pwyntio i'r gogledd magnetig. Defnyddiwch hwn i gadw saethau'r gogledd ar y map yn pwyntio i'r gogledd hefyd. Bydd cwmpawd hefyd yn ddefnyddiol i ddod o hyd i gyfeiriadau cywir ar draws ardaloedd heb lwybrau, ac i benderfynu i ba gyfeiriad i fynd ar gyffyrdd llwybrau, etc. Sut i ddefnyddio cwmpawd onglydd ar gyfer cyfeiriadau: 1. Gosodwch ymyl y cwmpawd onglydd ar hyd y cyfeiriad rydych chi'n bwriadu ei ddilyn ar y map. 2. Trowch y capsiwl fel bod y llinellau cyfochrog ynddo yn unol â llinellau'r gogledd ar y map. 3. Codwch y cwmpawd o'r map a'i ddal o'ch blaen, gan bwyntio ymlaen. TROWCH EICH HUN gyda'r cwmpawd nes bod y nodwydd yn unol â'r llinellau yn y capsiwl. 4. Ewch yn eich blaen i'r cyfeiriad y mae blaen y cwmpawd yn cyfeirio ato. RHEOLYDDION A MARCWYR. Dangosir lleoliadau'r rheolyddion ar y map gan gylchoedd wedi'u rhifo mewn coch, a cheir disgrifiad o bob un isod. Nodir y rheolyddion ar y ddaear gan bostyn ac ar ei ben mae plac â symbol cyfeiriannu coch a gwyn. Mae rhif yno, sy'n cyd-fynd â'r un rheolydd ar y map, a llythyren rydych chi'n ei gofnodi yn y sgwâr perthnasol ar y cerdyn rheoli wrth ochr eich map i gadarnhau eich ymweliad. DISGRIFIADAU O'R RHEOLYDDION: Cychwyn 1. 2. 3. 4.
Diwedd llwybr Gwrthrych (Hysbysfwrdd) Cyffordd llwybr Ail-fynedfa Pant
5. 6. 7. 8. 9.
Pwll Cyffordd llwybr Cyffordd llwybr Cyffordd llwybr Diwedd llwybr
10. 11. 12. 13. 14.
Dryslwyn, pen GDdn Gwrthrych (Hysbysfwrdd) Cyffordd llwybr Diwedd ffens Pant
15. 16. 17. 18. 19.
Cornel ffens Tro yn y llwybr Dryslwyn, ochr Ddn Cyffordd llwybr Pant G
CYRSIAU A AWGRYMIR. Cychwyn a gorffen o'r trac lle mae'n gadael y briffordd uwch law maes parcio cyhoeddus Bae Bracelet, y caiff ei ddangos gan driongl coch ar ben cylch dwbl ar y map: Gwyn
1.2km byr a hawdd ar gyfer dechreuwyr ifanc:
Dechrau - 1 - 2 - 7 - 9 - 13 - 12 - 18 - 6 - 11 - 8 - Diwedd
Melyn
1.3km hawdd i ddechreuwyr hŷn a'r rhai sy'n datblygu o'r Gwyn:
Dechrau - 2 - 7 - 4 - 5 - 6 - 12 - 13 - 8 - Diwedd
Oren
1.7km yn fwy anodd ac yn dilyn ymlaen o'r Melyn:
Dechrau - 2 - 3 - 11 - 5 - 19 - 15 - 16 - 14 - 10 - 17 - Diwedd
NEU rhowch gynnig ar ymweld â chynifer o reolyddion â phosib mewn amser penodol, er enghraifft 30 neu 45 munud (digwyddiad ‘Sgorio’). CYFLEOEDD CYFEIRIANNU ERAILL. Os hoffech wneud mwy o gyfeiriannu, cysylltwch â'r clwb lleol, CLWB CYFEIRIANNU BAE ABERTAWE, drwy ymweld â gwefan y clwb yn www.sboc.org.uk DIOLCHIADAU. Sefydlwyd y cwrs cyfeiriannu parhaol hwn gyda help grantiau drwy Ddinas a Sir Abertawe gan 'Ddringo'n Uwch' (Cyngor Chwaraeon Cymru), Cydcoed (Comisiwn Coedwigaeth), Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Amcan Un yr Undeb Ewropeaidd. Lluniwyd y map a chynlluniwyd y cyrsiau gan Glwb Cyfeiriannu Bae Abertawe.