Mae cymaint i’w weld ac i’w wneud adeg y Nadolig yng Nghanol Dinas Abertawe. Gallwch gyfuno ymweliad â Gwledd y Gaeaf ar y Glannau hudol gyda llond hosan o siopa a hwyl yr wy ˆl i’r teulu cyfan! DEWIS SIOPWYR Mae gan Ganol Dinas Abertawe yr amrywiaeth gorau yn yr ardal o siopau o safon i’r siopwr Nadolig craff. Mae sawl enw adnabyddus newydd megis Zara, Slaters ac Animal yn y ddinas ar gyfer tymor yr ŵyl eleni ac yn ymuno â dros 260 o siopau sefydledig sy’n cynnig dewis eang o enwau’r stryd fawr a siopau annibynnol ac arbenigol.
2
nadolig abertawe 09
Dewch i archwilio prysurdeb Stryd Rhydychen, prif rodfa siopa’r ddinas, lle cewch hyd i’r prif siopau yn ogystal â rhywbeth ychydig yn wahanol pan ddaw Marchnad Nadolig Stryd Rhydychen a’r Farchnad Ffrengig i’r ddinas.
Gyda mynediad hwylus i’r maes parcio aml-lawr gerllaw, mae Canolfan Siopa’r Cwadrant yn cynnig siopa dan do cyfleus ac yn gwahodd y teulu cyfan i fwynhau awyrgylch yr ŵyl. Dewch i grwydro Stryd Plymouth, Stryd Nelson , y Stryd Fawr, a’r Arcedau, gan gynnwys Arcêd newydd y Castell (ger Stryd y Castell) sy’n cyfuno i roi naws Nadoligaidd unigryw i Ganol Dinas Abertawe. Mae siopau deli cyfandirol, siopau dillad a siopau anrhegion a chrefftau ymhlith yr amrywiaeth gwych sydd ar gael.
gynnig amrywiaeth enfawr o gig ffres, pysgod, ffrwythau a llysiau ffres, bwyd traddodiadol Cymreig, rhoddion, blodau, dillad, losin a llawer mwy - yr hyn sy’n gwneud Nadolig perffaith! Mae masnachwyr ein marchnad yn ymfalchïo yn eu gwasanaeth personol a’u harbenigedd. Am fanylion pellach, ewch i www.swanseaindoormarket.co.uk
Marchnad Abertawe, y farchnad dan do fwyaf yng Nghymru, yw’r farchnad wreiddiol yng nghalon y ddinas lle gallwch fwynhau safon, gwerth a dewis. Mae’n gartref i dros 100 o stondinau, i gyd o dan yr un to, a daw masnachwyr ynghyd i
nadolig abertawe 09
3
ORIAU AGOR Bydd siopa bob awr o’r dydd, saith niwrnod yr wythnos ar gael yng Nghanol Dinas Abertawe o ddydd Sul, 15 Tachwedd, a chaiff Goleuadau’r Nadolig eu cynnau hefyd. Dyma’r prif amserau agor: Dydd Sul:
11.00 - 17.00
Dydd Llun, dydd Mawrth, Dydd Iau a dydd Sadwrn: 9.00 - 17.00 Dydd Mercher, dydd Gwener ac wythnos y Nadolig (o ddydd Llun 21 Rhagfyr): 9.00 - 21.00 * Sylwer bod y rhestr uchod yn dangos y prif oriau agor ac nid ydynt yn cynnwys amrywiadau unigol.
4
nadolig abertawe 09
BWYTA MÂS AROS MÂS Trefnu parti Nadolig y swyddfa? Chwilio am rywle gwahanol i fynd iddo? Mae Canol Dinas Abertawe yn gyrchfan hamdden prysur sy’n cynnig nifer o fwytai traddodiadol a chyfandirol sy’n croesawu teuluoedd, caffis ar y palmant, tafarndai, clybiau a chyrchfannau adloniant. Os ydych yn chwilio am fwyd Nadoligaidd traddodiadol, rhywbeth mwy egsotig neu bryd ysgafn yn unig, yna mae gan Abertawe enw da am safon ei fwytai, gydag amrywiaeth cyffrous o seigiau lleol a rhyngwladol ar gael mewn dewis eang o fwytai a bistros. Mae croeso i archebion grŵp y Nadolig! Bydd y rhai sy’n mynd i bartïon dros yr ŵyl yn gweld bod Abertawe yn un o’r dinasoedd mwyaf diogel ar gyfer noson mâs. Ac wrth i’r haul fachlud, daw bywyd nos cyffrous y tafarndai traddodiadol, bariau modern , lleoliadau cerddoriaeth fyw, clybiau sy’n enwog yn genedlaethol a chasinos yn fyw. Mae Stryd y Gwynt a Ffordd y Brenin yn ganolbwynt i fywyd nos bywiog Abertawe, gan gynnig amrywiaeth eang o leoliadau gwych ar gyfer pob oedran, chwaeth a chyllideb.
PINCIO A MALDODI Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar eich gorau ar gyfer tymor partïon yr ŵyl gyda’n salonau trin gwallt a harddwch arobryn sy’n cynnig triniaethau a dulliau ymlacio o’ch corun i’ch sawdl i faldodi’r corff. Mae’n hawdd iawn i edrych ar eich gorau erbyn hyn ar gyfer y noson mâs pwysig dros y Nadolig. Mae gan selogion ffasiwn ddigonedd o ddewis. O ffasiwn y stryd fawr i ddillad unigryw gan ddylunwyr enwog, mae gan Ganol Dinas Abertawe rhywbeth at ddant pawb. nadolig abertawe 09
5
DIGWYDDIADAU AC ATYNIADAU Gorymdaith y Nadolig a Chynnau Goleuadau’r Nadolig 15 Tachwedd O 12 ganol dydd, bydd llond sach Nadoligaidd o ddigwyddiadau a gweithgareddau gwych ar gael ar draws Canol y Ddinas i nodi dechrau swyddogol tymor yr ŵyl. Yn nes ymlaen, ymunwch â ni o 5pm i wylio’r orymdaith o fflotiau addurnedig drwy Ganol y Ddinas a gweld ein goleuadau disglair wrth i Siôn Corn eu cynnau. Marchnad y Nadolig Stryd Rhydychen 27 Tachwedd - 13 Rhagfyr Marchnad y Nadolig yn dychwelyd
6
nadolig abertawe 09
i’r ddinas! O winoedd ffrwythau a gwirodydd, gemwaith, anrhegion pren personol, ffotograffau o olygfeydd syfrdanol ac addurniadau gardd deniadol, rydych yn siŵr o ddod o hyd i’r anrheg Nadolig berffaith. Adloniant y Nadolig Bob dydd o 27 Tachwedd Bydd digonedd o hwyl yr ŵyl gyda’n rhaglen gyffrous o gerddoriaeth ddyddiol ac adloniant i blant ledled Canol y Ddinas. Ras Loncian Siôn Corn 29 Tachwedd – Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Drwy gerdded, loncian neu redeg wedi gwisgo fel Siôn Corn, bydd Sefydliad Prydeinig y Galon unwaith eto’n cynnal Ras Loncian wych Siôn Corn. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.bhf.org.uk/santajog
Marchnad Ffrengig yr Ŵyl 10 - 13 Rhagfyr Dewch i flasu’r awyrgylch Ffrengig bendigedig ac ewch ati i wneud argraff ar eich anwyliaid drwy brynu cynnyrch cyfandirol unigryw a thraddodiadol.
Sleeping Beauty 16 Rhagfyr - 17 Ionawr 2010 Theatr y Grand, Abertawe Mae pantomeim syfrdanol y tymor hwn yn addo bod yn llawn sglein a chyfaredd ac yn fwy ‘crand’ nag erioed gyda chast yn llawn enwogion, gan gynnwys ffefryn ‘Emmerdale’ ac ‘I’m A Celebrity Get Me Out of Here’, yr actores Malandra Burrows, ac Andrew Agnew, sy’n adnabyddus i filoedd o blant fel PC Plum o ‘Balamory’, Bydd ein seren leol, Kevin Johns, hefyd yn darparu digon o hwyl a chastiau tylwyth teg. Ymhlith yr atyniadau eraill ar gyfer cyfnod yr ŵyl mae Cappuccino Girls gan Mal Pope, Y Torrwr Cnau, Ballet Ruse Abertawe a Chyngerdd Nadolig i’r Teulu. Ewch i www.swanseagrand.co.uk am fwy o fanylion.
Am restr lawn a hyrwyddiadau arbennig ewch i www.nadoligabertawe.com
nadolig abertawe 09
7
2009, mae Cylch Iâ Cochyn - yr unig lyn sglefrio i blant yng Nghymru, ac rydym wedi ychwanegu ardal wylio.
15 Tachwedd – 3 Ionawr 2010 Awyr serennog , mins peis, sglefrio iâ a hwyl yr ŵyl! - fe wyddoch fod y Nadolig ar fin cyrraedd pan fydd Gwledd y Gaeaf ar y Glannau yn agor ei drysau am flwyddyn arall. Ymunwch yn y dathlu o 15 Tachwedd pan gaiff tiroedd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau eu trawsnewid yn atyniad Nadoligaidd hudol. Gyda sglefrio iâ go iawn, Olwyn Enfawr Admiral, ffair hwyl i’r teulu, bwyd yr ŵyl, Groto Siôn Corn ac adloniant byw, mae Gwledd y Gaeaf ar y Glannau unwaith eto’n addo cyffroi’r torfeydd. Mae llyn sglefrio Admiral yn ôl, ac mae cwmni ganddo! Yn newydd ar gyfer
8
nadolig abertawe 09
Mae llwyth o hwyl i’w gael yng Ngwledd y Gaeaf ar y Glannau – dringwch ar Olwyn Enfawr Admiral a gweld y ddinas o uchder o 44 metr - mae’n olygfa banoramig na ddylid ei cholli! Mae’r ffefrynnau’n dychwelyd gyda’r carwsél traddodiadol, a’r reid storm eira, ac yn ogystal, rydym yn ychwanegu reid newydd - i’w gyhoeddi’n fuan. I ddweud diolch am ymweld, mae Gwledd y Gaeaf ar y Glannau yn rhoi cyfle i chi ennill Nintendo Dsi gwych ar gyfer y Nadolig. Codwch gerdyn post pelen Nadolig yn yr Orymdaith Nadolig ar 15 Tachwedd neu yn unrhyw un o swyddfeydd y Cyngor yn Abertawe i gymryd rhan. Y dyddiad cau yw 11 Rhagfyr. Amodau a thelerau yn berthnasol. www.gwleddygaeafaryglannau.com Ewch i www.gwleddygaeafaryglannau.com i gadw lle ar-lein ar gyfer sglefrio iâ ac am yr wybodaeth ddiweddaraf am y digwyddiad Enillydd cystadleuaeth ffotograffiaeth 2008
ATYNIADAU ERAILL Dewch i ddarganfod atyniadau gorau eraill Canol y Ddinas, megis Oriel Glynn Vivian, oriel gelf hynaf y ddinas, lle ceir llu o weithgareddau, digwyddiadau ac mae Canolfan Dylan Thomas gyda’i chaffi siop lyfrau bendigedig - lle perffaith i ddod o hyd i’r anrheg Nadolig berffaith.
Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn cynnal rhaglen wych o weithgareddau’n ymwneud a’r ŵyl gan gynnwys Noson Nadoligaidd yn yr Amgueddfa ac Addurniadau Nadolig, sef her pentwr sborion y Nadolig. Peidiwch ag anghofio.
Canolfan yr Amgylchedd, Amgueddfa Abertawe, Plantasia, a Neuadd Brangwyn, y mae gan bob un ohonynt ddigon i’w gynnig dros y Nadolig. Bydd Sblash Nadolig ym mharc dŵr ysblennydd yr LC i bawb ei fwynhau hefyd! nadolig abertawe 09
9
CAEL EICH GWALA A’CH GWEDDILL O SIOPA RAFFL AM DDIM gwerth £1,000 Fyddech dd h chi’n hi’ h hoffi ffi ennill ill gwerth h £1,000 o siopa i i’w wario yng Nghanol y Ddinas? Mae tymor yr ŵyl yn gyfnod drud, felly mae Rhanbarth Gwella Busnes Abertawe yn cynnig cyfle unigryw i chi ddod i wario £1,000 ar sbri siopa o’ch dewis! I gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, nid oes yn rhaid prynu. Rhowch eich manylion isod, torrwch y slip a’i gyflwyno yn un o’r siopau canlynol yng Nghanol Dinas Abertawe, neu cwblhewch y ffurflen ar-lein yn www.swanseabid.co.uk • Cafe Ole, Stryd Rhydychen Isaf • Cranes, Dewi Sant • Debenhams, y Cwadrant
• Little Nation, Stryd Plymouth • Burgess World Travel, Ffordd y Brenin • Brian Brown, Ffordd y Brenin
Enw Cyfeiriad
Rhif ffôn E-bost Hoffwn dderbyn gwybodaeth ynghylch Canol y Ddinas a Digwyddiadau yn Abertawe Am fwy o wybodaeth cysylltwch â swyddfa BID ar 01792 648284. Cynhelir y raffl ddydd Mawrth, 1 Rhagfyr 2009. Mae telerau ac amodau’n berthnasol.
10
nadolig abertawe 09
CYRRAEDD YMA Gwasanaethau Bysus a Choetsis Wrth i’r orsaf fysus gael ei gweddnewid yn gyfangwbwl, busnes fel arfer fydd hi ar gyfer Canol Dinas Abertawe. Bydd yr holl wasanaethau bysys a choetsis yn rhedeg o safleoedd bysus dros dro, a bydd gwasanaethau gwennol hefyd yn gweithredu cylchdaith. I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr orsaf fysus newydd, amserlenni bysus a ble i ddal eich bws, ewch i www.canolyddinasabertawe.com
Parcio a Theithio Dros y Nadolig, mae’n gyflym ac yn hwylus i ddefnyddio Parcio a Theithio yng Nglandŵr, Fforestfach a Ffordd Fabian. Mae’n costio £2.20 yn unig i barcio drwy’r dydd ac i hyd at 4 o bobl deithio ar y bws, a bydd cyfleusterau ar agor bob dydd Sul o 15 Tachwedd (tan 20 Rhagfyr). Parcio Bydd siopwyr yn falch o glywed bod dros 8,580 o leoedd parcio ceir a 25
maes parcio naill ai yng Nghanol y Ddinas neu gerllaw. Gallwch barcio ym meysydd parcio’r cyngor AM DDIM bob dydd Sul ac ar gyfer siopa fin nos, a gellir parcio am 2 awr AM DDIM ym Maes Parcio Aml-lawr Dewi Sant. Shopmobility Mae Canolfan Shopmobility Abertawe yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant, yn hurio sgwteri trydan a/neu gadeiriau olwyn pweredig. Ffoniwch 01792 461785 am fwy o wybodaeth.
MWY O WYBODAETH Am y diweddaraf am y Nadolig yn Abertawe, ewch i www.nadoligabertawe.com Neu, galwch heibio’r Ganolfan Croeso ar Stryd Plymouth neu ffoniwch 01792 468321 / 01792 476370.
nadolig abertawe 09
11