Anwedd a llwydni yn eich cartref Beth yw anwedd? Mae lleithder yn yr aer drwy’r amser, hyd yn oed os nad ydych yn gallu ei weld. Fe’i cynhyrchir o fywyd arferol o ddydd i ddydd. Ceir lleithder pan fo aer llaith, cynnes yn cyrraedd arwynebau oer, sy’n peri i’r aer gyddwyso a ffurfio diferion o ddŵr. Gall dŵr sy’n cronni ar arwynebau arwain at dyfiant darnau o lwydni du. Mae deffro i anwedd ar ffenestri yn olygfa
gyfarwydd i lawer o bobl, yn enwedig yn y gaeaf ac nid yw fel arfer yn broblem os yw’n clirio. Fodd bynnag, os bydd anwedd yn digwydd dros gyfnod hir ac nid yw’n clirio, bydd symptomau eraill yn ymddangos megis darnau llaith ar waliau, papur wal sy’n pilio ac yn y pen draw tyfiant o lwydni du. Yn ychwanegol, mae gan y rhan fwyaf o gartrefi ffenestri gwydr dwbl gyda seliau atal drafftiau ar ddrysau a ffenestri a all hefyd atal aer llaith rhag dianc.
Ydych chi’n gwybod faint o leithder y mae gweithgareddau bob dydd yn ei gynhyrchu Cyfanswm y lleithder a gynhyrchir yn eich cartref mewn un diwrnod 28 Peint Sychu dillad
9 peint
Coginio a berwi tegell
6 pheint
Un anifail canolig ei faint
4 peint
Dau berson sy’n actif am ddiwrnod
3 pheint
Cael bath neu gawod
2 beint
Golchi dillad
1 peint
Sut ydych chi’n gwybod os oes gennych anwedd?
• Papur wal sy’n pilio
Os oes anwedd yn eich cartref byddwch yn dechrau gweld arwyddion ohono’n gyflym iawn megis:
• Arogl llwyd-ddrewllyd ar ddillad mewn cypyrddau dillad
• Ffenestri ffrydiog (h.y. diferion o ddŵr arnynt)
Os gadewir anwedd i ddatblygu’n llwydni gall arwain at eiddo diolwg, drewllyd. Gall hefyd sbarduno problemau iechyd megis asthma a chwynion eraill neu eu gwneud yn waeth.
• Waliau gwlyb • Mannau llaith ar waliau
22 Tŷ Agored: Rhifyn 2 2020
• Arwydd o lwydni