Safon Ansawdd Tai Cymru - Diweddariad ar Raglen Gyfalaf 2019/2020 Mae Cyngor Abertawe wedi bod yn bwrw ymlaen â’r gwaith i wella cartrefi a stadau fel eu bod yn bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) erbyn 2020, fodd bynnag, oedwyd nifer o gynlluniau oherwydd y bu’n rhaid ymateb ar frys i COVID-19. Mae’r cyngor yn gweithio’n galed i sicrhau bod gwaith gwella’n cael ei aildrefnu a’i gwblhau, wrth i staff a chontractwyr lynu wrth ganllawiau cadw pellter cymdeithasol.
Cyllid i fodloni SATC
Gwaith a wneir eleni
Mae’r cyngor yn derbyn cyfraniad sylweddol o oddeutu £9 miliwn y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru i helpu i wneud atgyweiriadau pwysig i gartrefi cyngor.
Mae nifer o gynlluniau ceginau ac ystafelloedd ymolchi yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd yn ardaloedd Sgeti, West Cross, Gŵyr a chanol y dref.
Mae’r wybodaeth ganlynol yn manylu ar y gwaith a gwblhawyd yn ystod 2019/20 a’r gwaith sy’n mynd rhagddo eleni.
Gwaith SATC a gwblhawyd yn 2019/2020 Elfennau Allweddol Toeon
386
Ceginau
2,276
Ystafelloedd ymolchi
2,103
Systemau gwres canolog
271
Systemau trydanol
557
Synwyryddion mwg arfaethedig sydd wedi'u pweru gan y prif gyflenwad
897
Gerddi
4
Gwirioneddol hyd yma
Tŷ Agored: Rhifyn 2 2020
Yn ogystal, mae cynlluniau gwynt a diddosi (h.y. lle mae waliau yn cael eu hatgyweirio/hinswleiddio a thoeon yn cael eu hadnewyddu) yn mynd rhagddynt yn Waunarlwydd, West Cross, Blaen-y-maes, Fforesthall, Talycopa, Cyfadeilad Lloches Llwyncethin, Gŵyr (gan gynnwys Llanrhidian a fflatiau Malthall. Mae systemau mynediad llais presennol i flociau o fflatiau yn cael eu newid ym Mlaen-y-maes, Winshwen, Pen-lan a Sgeti. Mae gwaith ar y cynllun cyfleusterau allanol yn parhau. Mae’r gwelliannau hyn yn canolbwyntio ar ran allanol eich eiddo i fynd i’r afael â materion hygyrchedd a diogelwch. Bydd y gwaith a wneir yn amrywio o eiddo i eiddo, gan ddibynnu ar yr hyn y mae angen ei wneud, a bydd yn canolbwyntio’n bennaf ar: • Waliau, ffensys a pherthi terfyn • Palmentydd, rampiau a grisiau • Canllawiau ac amddiffyniadau rhwng lefelau
1,134
• Darparu ardaloedd sychu