Ein Cymuned Tyfu

Page 1

Abertawe

Ein Cymuned Tyfu


d d y s h t Be y pecyn yn hwn? Mae Cyngor Abertawe wedi ymroi i gefnogi trigolion i dyfu bwyd, bwyta’n iach a dod at ei gilydd fel cymuned. Cynhyrchwyd y pecyn hwn er mwyn helpu cymunedau yn Abertawe i ddod o hyd i ragor o ffyrdd o dyfu’u ffrwythau a’u llysiau ei hunain mewn llefydd newydd ac mae’n rhan o gyfres o fesurau sydd wedi cael eu hanelu at gefnogi Abertawe er mwyn iddi ddod yn Ddinas Fwyd Gynaliadwy.

Yn y pecyn hwn fe gewch chi:

Nodiadau canllaw ar gyfer:

> Sut i ddefnyddio’r pecyn > Siart tyfu cymunedol > Dulliau tyfu cymunedol – gorolwg > Dod o hyd i dir > Tyfu’n lleol > Pwy all helpu?

> Rhandiroedd > Canolfannau cymunedol > Coedwigoedd cymunedol > Tir diffaith a thir heb ei ddatblygu > Tir ffermio ac amaethyddol > Coridorau gwyrdd > Gerddi unigol Tir Preswyl a thir cyhoeddus > dymunol > Tir ysgol Cartrefi dan warchod a chartrefi > gofal > Gweithleoedd eraill ar gyfer > Mannau tyfu bwyd

Cynhyrchwyd y pecyn hwn gan Dîm Bwyd a Thyfu Cymunedol y Cyngor, ac mae’n seiliedig ar y pecyn adnoddau ‘Our Growing Community’ a gynhyrchwyd gan greenspace Scotland. www.greenspacescotland.org


Sut di dio’r y n f e dd ecyn hwn p Helpu grwpiau lleol i ddychmygu, cynllunio a chreu eu cymuned tyfu bwyd eu hunain.

Datblygwyd y pecyn hwn er mwyn helpu cymunedau yn Abertawe i chwilio am ragor o ffyrdd i dyfu eu bwyd, mewn lleoliadau newydd.

Defnyddiwch y bocs tw ˆ ls Ein Cymuned yn Tyfu i annog eich cymuned i ‘dyfu ymhobman’… ar hyd ymyl cae chwarae’r ysgol, yn y border blodau y tu fas i’r swyddfa, ar y darn yna o dir diffaith.

Defnyddiwch y pecyn i’ch helpu:

Ble gwnewch chi dyfu?

>

i gael ysbrydoliaeth a syniadau am dyfu cymunedol gyda’ch grw ˆ p chi neu bobl yn eich ardal

>

i fapio a gwneud arolwg o’ch lleoedd lleol a lleoedd allai gael eu defnyddio ar gyfer tyfu bwyd

>

i archwilio’r ystod o opsiynau tyfu cymunedol

>

i feddwl am yr hyn sy’n ymarferol wrth drafod mathau gwahanol o dyfu, a dod o hyd i’r rhai fydd yn gweithio orau yn eich cymuned chi

>

i gynllunio gweithredu lleol er mwyn datblygu eich prosiectau a’ch gweithgareddau tyfu cymunedol

Pam gwneud hyn? Mae mwy a mwy o bobl yn Abertawe eisiau tyfu eu ffrwythau a’u llysiau eu hunain ond efallai eu bod yn ansicr sut i wneud a pha dir allai fod ar gael ac yn addas. Mae llawer o ofodau a lleoliadau ble gellid tyfu bwyd yn ein cymunedau – mae angen i ni feddwl yn fwy creadigol ynghylch ble mae’r rhain a sut y gallent gael eu defnyddio i dyfu bwyd. Bydd y wybodaeth a’r deunyddiau yn y pecyn hwn yn eich helpu i wneud hyn. Mae nodiadau canllaw Ein Cymuned yn Tyfu yn rhoi rhagor o wybodaeth am y mathau gwahanol o lefydd y gallech chi dyfu ffrwythau a llysiau ynddyn nhw. Maen nhw’n dangos y ‘pethau i’w hystyried’ ac yn disgrifio sut i ‘wneud iddo ddigwydd’. Bydd y nodiadau’n eich helpu i ddarganfod y cymorth a’r gefnogaeth orau i chi i ddechrau eich cymuned tyfu bwyd eich hun, gan gynnwys esiamplau go iawn ac awgrymiadau am ble i gael help.


Dyma rai syniadau ar gyfer cynllun gweithredu y gallech chi neu bobl yn eich grwˆ p eu defnyddio i annog pobl o’ch cymuned leol i ddatblygu eich ‘cymuned tyfu bwyd’ eich hunain. Gwneud arolwg gofod tyfu

>

greu neu wneud map lleol i gynllunio gofodau tyfu posib

>

gynnal arolwg gofod tyfu ‘ar droed’ – archwiliwch yr ardal i ddarganfod safleoedd posib – tynnwch luniau a chofnodwch wybodaeth am ansawdd y safle a pwy sydd biau’r tir.

>

ddarganfod beth sy’n tyfu ac yn byw yn y gofod yn barod – efallai fod yno blanhigion neu anifeiliaid a gâi eu heffeithio o’i newid neu ei ddileu er mwyn creu gofod tyfu.

>

Tynnwch grw ˆp o bobl sydd wedi dangos diddordeb at ei gilydd i holi ‘ble allem ni dyfu?’ Gallwch:

>

defnyddiwch yr adborth o’r digwyddiad a’r gweithdai i adnabod yr opsiynau tyfu cymunedol yr hoffech chi eu harchwilio’n fanylach

Synnwyr cyffredin a’ch syniadau

feddwl am fynediad i ddw ˆ r, faint o gysgod coed neu adeiladau sydd dros y safle, a mynediad gydol y flwyddyn e.e. tir ysgol.

cysylltwch â’r ‘arbenigwyr’ – defnyddiwch y wybodaeth yn y siart llif Darganfod Tir a’r tudalennau Pwy All Helpu? yn y pecyn hwn – gofynnwch iddyn nhw eich helpu i ddatblygu eich syniadau

>

fapio a chrynhoi eich canfyddiadau ar ffurf set o ‘frasluniau tyfu cymunedol – yna defnyddiwch y bocs tw ˆ ls i weld pa ddulliau tyfu cymunedol allai weithio yn y gofodau gwahanol.

defnyddiwch eu gwybodaeth dechnegol a’u profiad i’ch helpu i ddatrys y ffordd orau i symud eich syniadau yn eu blaenau

Darparu eich cymuned tyfu bwyd

Siaradwch â’r gymuned ehangach am eich syniadau

>

>

>

Dychmygu eich cymuned tyfu bwyd >

cymryd rhan

cynhaliwch ddigwyddiad dychmygu cymunedol gyda grwpiau lleol gwahanol – cyflwynwch y brasluniau tyfu cymunedol posib ar gyfer yr ardal a gwrandewch am syniadau newydd amdanyn nhw. edrychwch i weld a oes ‘tyfwyr’ profiadol yn eich ardal sy’n fodlon rhannu arbenigedd a gwybodaeth, a fyddai eisiau

>

sefydlwch grw ˆ p tyfu cymunedol i arolygu’r gwaith o ddarparu eich syniadau

>

cynhyrchwch gynllun gweithredu sy’n cynnwys pethau i’w gwneud yn y tymor byr a’r tymor hirach

>

cynhwyswch yr ‘arbenigwyr’ – efallai y gall rhai gynnig cyngor a’ch helpu i ddarparu eich syniadau, gallai eraill eich helpu gyda chyllid ac adnoddau

Mwynhewch fwyta eich ffrwythau a llysiau a dyfwyd yn lleol...!


Canllaw defnyddiol i egluro pa ddulliau tyfu cymunedol fydd yn gweithio orau mewn gofodau gwahanol...

Helaethrwydd a fforio Rhandiroedd Cadw gwenyn Gerddi cymunedol Gerddi marchnad cymunedol Perllannoedd cymunedol Tyddynnod cymunedol Amaeth cymunedol a gynhelir (CSA) Tyfu mewn potiau Tyfu DIY Borderi a thirweddau bwytadwy Gerddi coedwig Iachusol a therapiwtig Rhannu tir Borderi neithdar Gwelyau wedi’u codi Gerddi ar ben to Tyfu dros-dro Tyfu fertigol

Siarftu T y ed o l Cymun

Safleoedd rhandir Balconiau a therasau Canolfannau cymunedol Coedwigoedd cymunedol Tir diffaith a thir heb ei ddatblygu Tir ffermio ac amaethyddol Coridorau gwyrdd Gerddi unigol Tir Preswyl a thir cyhoeddus dymunol Tir ysgol Cartrefi dan warchod a chartrefi gofal Gweithleoedd

Deg tip gorau i annog peillwyr a bywyd gwyllt i’ch gardd... 1 Cynlluniwch eich gardd fel bod gennych rywbeth yn ei flodau drwy’r flwyddyn i ddenu gwenyn a ieir bach yr haf. 2 Tyfwch blanhigion addurniadol sy’n darparu aeron a hadau er mwyn denu adar a mamaliaid bychain. 3 Dewiswch blanhigion sy’n perarogli gyda’r hwyr er eich lles chi a thrychfilod sy’n hedfan yn y nos. 4 Peidiwch aˆ thorri pennau planhigion unflwydd a lluosflwydd dros y gaeaf er mwyn darparu bwyd a chysgod ar gyfer trychfilod, adar a mamaliaid. 5 Os oes gennych le, pentyrrwch ganghennau a lifiwyd oddi wrth goed a llwyni i greu pentwr boncyffion i gysgodi trychfilod, amffibiaid a mamaliaid bychain. 6 Gosodwch offer bwydo adar, bocsys nythu i adar, nythod gwenyn a bocsys ystlumod. Cofiwch gynnal cyflenwadau dwˆ r a bwyd gydol y flwyddyn. 7 Ystyriwch gyfnewid ffensys am berthi. Gallan nhw gynnig safleoedd nythu yn ogystal aˆ ffynonellau ychwanegol o fwyd, ac maen nhw’n gallu rhwystro’r gwynt yn fwy effeithiol na wal solet. 8 Ar y llaw arall, gallech dyfu eiddew ar hyd waliau neu ffensys cryfion. Nid yn unig y mae eiddew yn edrych yn bert gydol y 9 10

flwyddyn, ond mae’n darparu neithdar, paill ac aeron pan nad oes fawr ddim arall o gwmpas, ac mae’n ffefryn gan adar ar gyfer nythu. Cynhwyswch nodwedd dwˆ r yn eich gardd. Gall rhywbeth mor ddi-nod aˆ phowlen golchi llestri ddarparu dwˆ r ar gyfer adar a chartref ar gyfer trychfilod y pyllau, sydd yn ei tro’n denu adar ac ystlumod. Aligylchwch hen ddeunydd planhigion mewn tomen gompost neu bentwr deilbridd. Palwch ef i bridd eich gardd i wella’r pridd neu’i daenu ar hyd wyneb y pridd.


Dullifauu T y ed o l n u m y C Gorolwg o’r gwahanol ddulliau cymunedol a gynhwysir yn y nodiadau canllaw. Mae helaethrwydd, fforio a dwgyd yn golygu casglu cynnyrch dros ben (ffrwyth yn bennaf) a’i ddefnyddio’n ddoeth. Mae llawer o goed ffrwythau’n tyfu’n wyllt neu yng ngerddi pobl – yn aml aiff llawer o’r cynnyrch hwn i’r bin neu caiff ei adael heb ei gynaeafu. Roedd dwgyd yn arfer meddwl dwyn afalau, ond erbyn heddiw mae’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio’r broses o ddarganfod ffrwythau a phethau bwytadwy eraill yn tyfu mewn mannau cyhoeddus, megis ar ochrau ffyrdd.

Rhandiroedd , mae’n debyg, yw’r ffurf fwyaf cyfarwydd a thraddodiadol o dyfu cymunedol. Darnau o dir a rannwyd yn blotiau ble bydd unigolion neu grwpiau’n garddio yw rhandiroedd. Rhentir plotiau oddi wrth ddarparwyr rhandiroedd gwahanol. Maint plot arferol yw rhwng 200–250 metr sgwâr. Bydd sawl safle’n cynnig plotiau llai o faint, plotiau cychwynnol neu welyau wedi’u codi ar gyfer pobl sy’n newydd i’r profiad o arddio rhandir, neu ar gyfer y rheiny sydd eisiau torri’n ôl. Yn aml, bydd gan safleoedd modern berllannau bychain, plotiau ar gyfer grwpiau cymunedol ac ardaloedd cymdeithasol. Mae cadw gwenyn yn golygu cynnal cymunedau o wenyn mêl,

fel arfer mewn cychod gwenyn. Bydd gwenyn yn helpu i wella faint a gynhyrchir wrth dyfu’n gymunedol, yn gwella ansawdd y cynnyrch ac yn cynhyrchu mêl. Bydd pob ffrwyth a chnwd o had a dyfir mewn gofod tyfu’n elwa o beillio gan wenyn. Tir a reolir yn lleol mewn ymateb i anghenion y cymunedau lleol yw gerddi cymunedol. Mae ganddyn nhw ffocws a phwrpas cymdeithasol cryf, gan ddarparu gofod gwyrdd prin mewn ardaloedd trefol yn aml. Bydd y rhan fwyaf o’r garddio’n digwydd ar y cyd gyda grwpiau ac unigolion yn cyfrannu i dyfu’r safle cyfan. Bydd llawer o erddi cymunedol yn cynnwys elfennau sylweddol o dyfu ffrwythau a llysiau ymysg eu gweithgareddau. Mae gerddi marchnad cymunedol yn ardaloedd mawr o dir tyfu, sy’n cynnwys twneli tyfu plastig a strwythurau eraill ar y tir yn aml. Mae ganddynt ffocws masnachol o ran cynhyrchu bwyd ac maent o dan reolaeth neu berchnogaeth cymunedol neu gymdeithasol. Mae’r rhan fwyaf yn gweithredu ar sail menter gymdeithasol; y bwriad yw darparu bwyd ar bris rhesymol i’r gymuned ehangach e.e. drwy ddosbarthu bocsys organig i’r ardal leol. Casgliadau o goed a llwyni ffrwythau ac weithiau gnau yw perllannau cymunedol. Mae perllan gymunedol yn agored i bobl leol gan ddarparu mynediad i’r

cynnyrch a dyfir. Yn ogystal â mwynhau’r berllan, gall pobl leol rannu’r cynhaeaf neu’r elw o’i werthu ac maen nhw fel arfer yn rhan o’r cyfrifoldeb dros unrhyw waith sydd angen ei wneud. Mae ‘perllan ymarferol’ yn golygu plannu coed a llwyni ffrwythau mewn gerddi unigol gyda chydsyniad perchnogion y gerddi er mwyn rhannu’r ffrwyth a’i gynhaeaf. Fel hynny gellir dal i greu perllan gymunedol ble mae argaeledd tir yn broblem. Mae tyddynnod cymunedol yn ddarnau o dir sy’n fwy na gardd a llai na fferm, a ddefnyddir ar gyfer amaeth cynhyrchiol neu goedwigaeth. Gallant fod o dan ofal teuluoedd, unigolion neu gymunedau, ble bydd pobl yn cyfuno’u hadnoddau i ddal tir ar y cyd. Diffinnir amaeth a gynhelir gan y gymuned fel partneriaeth rhwng ffermwyr a defnyddwyr ble rhennir cyfrifoldebau a buddiannau ffermio rhyngddynt. Gallant fod o dan arweiniad ffermwr, ble bydd y gymuned yn prynu ‘cyfranddaliadau’ a’r elw ar y rhain yw’r cynnyrch; neu dan ofal y gymuned, ble bydd y gymuned yn cychwyn ac yn rhedeg y cynllun eu hunain. Bydd rhai cymunedau’n tyfu drostynt eu hunain, bydd eraill yn cyflogi tyfwr.

Tyfu mewn potiau – os nad oes digon o le ar gyfer plot llysiau yna mae tyfu llysiau mewn potiau’n ffordd dda o dyfu drosoch eich


hunain. Mae basged grog, potyn patio, hen deiars, casgenni a sachau adeiladwyr i gyd yn botiau a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer tyfu bwyd. Gellir defnyddio ac addasu pob math o bot; mae’r dewisiadau’n ddi-ben-draw! Mae tirweddau bwytadwy (gan gynnwys borderi a llwyni) yn golygu tyfu bwyd mewn llefydd nad ydyn nhw’n cael eu cysylltu’n draddodiadol â thyfu cymunedol. Mewn sawl achos mae’n golygu defnyddio gofodau dinesig ac ‘achlysurol’ mewn trefi a dinasoedd. Er enghraifft, tyfu llysiau a pherlysiau mewn a rhwng, neu yn lle, tirlunio ffurfiol gwelyau blodau a phlannu dinesig. Efallai y byddai angen meddwl o’r newydd am rôl a defnydd y parthau cyhoeddus ynghyd â thirlunio a rheoli ardaloedd cyhoeddus. Mae garddio coedwig yn golygu tyfu mewn trefniant aml-haenog o blanhigion lluosflwydd a hunanhadu i ddarparu bwyd a chynnyrch arall. Cânt eu cynllunio i fod yn dirweddau cynaliadwy, bwytadwy sy’n dilyn trefn systemau coedwigoedd ifanc. Gellid disgrifio gardd goedwig fel perllan hamddenol, anffurfiol ble ceir lle i dyfu ffrwythau meddal a llysiau. Gofodau a gynlluniwyd yn benodol i gwrdd ag anghenion corfforol, seicolegol a chymdeithasol y bobl sy’n defnyddio’r ardd ynghyd â’u gofalwyr, eu teuluoedd a’u ffrindiau yw gerddi gwella a therapiwtig. Gellir eu gweld mewn nifer o

sefyllfaoedd gofal iechyd. Cânt eu cynllunio i gynnwys defnydd ymarferol megis potiau wedi’u codi ar gyfer therapi garddio, ynghyd â defnydd llai ymyrrol. Mae rhannu tir yn broses ble bydd pobl sy’n berchen ar erddi neu dir arall na allan nhw ddod i ben â’i drin yn cael eu paru â phobl sy’n awyddus i dyfu bwyd ond nad oes ganddyn nhw ofod i wneud. Bydd perchnogion y gerddi neu’r gofodau yn derbyn cyfran o’r cynnyrch yn aml, yn gyfnewid am roi’u gofod. Fel arfer mae’n gweithredu trwy gyfrwng gwefan ble gall tirfeddianwyr rannu manylion gofodau yr hoffen nhw eu cynnig a ble gall darpar dyfwyr gofrestru’u diddordeb mewn gweithio’r tir. Mae borderi neithdar yn ardaloedd o dir wrth ochr neu ger gofodau tyfu cymunedol a reolir ar gyfer blodau gwylltion. Y bwriad yw denu trychfilod sy’n peillio megis gwenyn ac ieir bach yr haf er mwyn cefnogi peillio cnydau ffrwythau a hadau. Mae gwelyau wedi’u codi yn glytiau o bridd neu gompost sy’n uwch na’r tir o gwmpas. Mae gwelyau wedi’u codi’n ei gwneud hi’n haws i bobl ag anableddau corfforol eu defnyddio. Gellir cynllunio gwelyau i weddu i’r gofod ac maen nhw’n ateb da ar gyfer tyfu llysiau mewn ardaloedd sy’n cynnwys tirlunio caled neu ble nad oes llawer o le.

Gerddi a grëwyd ar do adeiladau yw gerddi to. Gallant ddarparu gofodau tyfu bwyd, cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt a gerddi cymunedol. Cyfeirir weithiau at yr arfer o dyfu bwyd ar ben toeon fel ffermio pen to ac mae’n digwydd fel arfer mewn potiau, ar do gwyrdd neu drwy gyfrwng systemau hydroponeg, aeroponeg neu awyrddynaponeg.

Tyfu dros dro yw’r arfer o dyfu bwyd ar dir sydd ar gael am gyfnod penodedig yn unig. Mae hyn fel arfer yn golygu tir ble chwythodd rhyw ddatblygiad ei blwc neu safleoedd diffaith mewn bylchau, ble mae pobl yn dal i chwilio am ddefnydd tymor hir i’r tir. Yn y tymor hirach bydd y tir hwn yn cael ei ddatblygu a chodir adeiladau arno, ond yn gynyddol mae’r mathau hyn o ofodau’n cael eu defnyddio ‘yn y cyfamser’ ar gyfer defnydd y gymuned, gan gynnwys tyfu bwyd gyda’r amod y bydd y gymuned yn symud i rywle arall pan fydd datblygu’n digwydd.

Tyfu fertigol – gall garddwyr trefol a chanddynt ofodau allanol bach wneud y defnydd gorau o’u waliau er mwyn plannu popeth o arddangosfeydd lliwgar o flodau i lysiau a dyfwyd gartref. Mae’r ffasiwn yn cynyddu o ran poblogrwydd mewn gerddi dinesig yn ogystal â nifer o brosiectau garddio cymunedol, am ei fod yn eco-gyfeillgar ac yn ddull sy’n arbed lle.


d o f n a C ir T

Eisiau dechrau prosiect tyfu cymunedol?

>

(e.e. prosiect cymunedol, cymdeithas trigolion)

>

Nac oes

>

Os wyt ti’n gwybod pwy sydd biau’r tir (e.e. preifat, cymdeithas dai, prifysgol, busnes), gall Tîm Bwyd a Thyfu Cymunedol y Cyngor neu CLAS Cymru dy gefnogi i ofyn iddyn nhw am ganiatâd. Os nad wyt ti’n gwybod, gallwn ni helpu darganfod pwy sydd biau’r tir, ond efallai y bydd angen gwneud hyn trwy gyfrwng y Gofrestrfa Dir, sy’n golygu talu ffi.

Parc

Rheolir cynlluniau plannu mewn parciau cyhoeddus gan arddwyr y cynogr ond weithau, bydd yn digwydd gyda chymorth grwˆp ‘Cyfeillion’. Gall grwˆp helpu gyda phlannu os yw’r Cyngor yn rhoi caniatâd ac nad yw’r gofod yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau eraill. Holwch y Swyddog Parciau Cymunedol ynghylch noddi potiau.

Gellir cysylltu â Thîm Bwyd a Thyfu Cymunedol y Cyngor ar 01792 635730 neu drwy ebostio foodandgrowing@swansea.gov.uk Gellir cysylltu â’r Gwasanaeth Tir Cymunedol Ymgynghorol ar 02921 960966 neu wales@communitylandadvice.org.uk

>

Tir preifat/ tir diffaith

>

Gall Tîm Bwyd a Thyfu Cymunedol y Cyngor gysylltu ag Adran Dai’r Cyngor neu’r Gymdeithas Dai i ofyn am ganiatâd i blannu ar dir o gwmpas ystadau tai.

Cysyllta â Thîm Bwyd a Thyfu Cymunedol y Cyngor am gymorth a syniadau.

Ble mae’r tir?

>

>

Ystaˆ d Dai

Bydd yn rhaid i unrhyw brosiectau tyfu ddangos fod ganddyn nhw ddiddordeb oddi wrth grw ˆp o bobl, gall Tîm Bwyd a Thyfu Cymunedol y Cyngor dy helpu i ofyn i eraill a hoffen nhw ymuno â thi i ffurfio grw ˆp.

Oes gen ti ddarn o dir mewn golwg?

>

> Oes

>

Wyt ti’n rhan o grwˆ p

>

> >

Unigolyn wyt ti?

Tir arall

Gall Tîm Bwyd a Thyfu Cymunedol y Cyngor gysylltu â’r Adran berthnasol yn y Cyngor i ofyn caniatâd i blannu ar ymylon ffyrdd.


Yn 2013, lansiodd Cyngor Abertawe gynllun grantiau bach i annog cymunedau i dyfu’u bwyd eu hunain drwy ariannu ystod o brosiectau tyfu a seiliwyd yn y gymuned.

Gyda’r bwriad o wella mynediad i ffrwythau a llysiau ffres ledled y ddinas, yn enwedig ymhlith pobl ar incwm is, gwnaeth y gronfa 37 taliad yn ei blwyddyn gynta, ac mae’n agored i geisiadau eto yn 2014.

Pwy all wneud cais? Gall grwpiau cymunedol, sefydliadau ac ysgolion, sy’n cymryd rhan eisoes, neu sydd eisiau datblygu gofodau tyfu yn eu cymunedau wneud cais am grant rhwng £250 a £5000.

Beth all gael ei ariannu? Gellir defnyddio grantiau i ariannu llawer o’r costau gwahanol y bydd prosiectau tyfu’n eu hwynebu gan gynnwys:

> > > > > >

Offer Planhigion a hadau hyfforddiant Siediau a thai gwydr cymunedol Gwelliannau i safle Datblygu clybiau tyfu ar ôl ysgol.

Er mai prif amcan Tyfu’n Lleol yw annog a galluogi cyfleoedd tyfu bwyd cynaliadwy, mae’r gronfa hefyd yn cydnabod y cyswllt rhwng hyn a phrosesu, coginio a bwyta’r cynnyrch a dyfir. Bydd y gronfa hefyd yn ystyried elfennau o gais sy’n annog y cysylltiadau hyn e.e. offer coginio. Am ragor o wybodaeth am y gronfa a sut i wneud cais, ewch i www.swansea.gov.uk/growlocal


R

d d e o r i d n a h

Pa ddulliau tyfu cymunedol fydd yn gweithio fan hyn?

Darn o dir wedi’i rannu’n blotiau ble gall unigolion neu grwpiau o bobl arddio yw rhandir.

Ond gellir goresgyn y problemau hyn drwy gynllunio’n dda, cael agwedd gadarnhaol, a dal ati.

> > > >

Gellir rhentu safleoedd rhandir oddi wrth y Cyngor neu dirfeddianwyr preifat neu gall deiliaid y plotiau fod yn berchen arnyn nhw eu hunain. Mae dau fath o sefydliad sy’n ymwneud â rhentu a rheoli rhandiroedd Abertawe: y Cyngor a Sefydliadau neu Gymdeithasau Rhandiroedd.

Bydd angen i grwpiau cymunedol sy’n ystyried rheoli safleoedd rhandiroedd fodloni rhai anghenion gan gynnwys cael grw ˆ p rheoli cyfansoddiadol i’r rhandir, a chwrdd ag anghenion yswiriant ac iechyd a diogelwch.

Gwneud i rywbeth ddigwydd

Tîm Bwyd a Thyfu Cymunedol

Gerddi cymunedol Perllannau cymunedol Cadw gwenyn Borderi neithdar

Am ragor o wybodaeth ar y dulliau hyn, edrychwch ar y gorolwg o wahanol ddulliau tyfu cymunedol.

Mae mynd i safle rhandir sy’n cynnal gardd gymunedol neu blot yn ffordd dda o ddechrau garddio mewn rhandir. Os hoffech gael eich plot eich hun, gallwch gysylltu â’r Cyngor ar 01792 633813 neu ymweld â www.swansea.gov.uk/allotments i ddysgu am safleoedd yn eich ardal chi – mae gan bob safle restr aros. Bydd rhai safleoedd yn cynnig plotiau hanner-maint neu blotiau cychwynnol i bobl sy’n dechrau garddio rhandir neu’r rheiny sydd eisiau plot yn llai.

Pethau i’w hystyried Gall rhestrau aros ar gyfer plotiau mewn rhandiroedd fod yn hir iawn, ac fe all gymryd blynyddoedd i’ch enw ddod i frig y rhestr! Fe all fod heriau wrth sefydlu safleoedd rhandiroedd newydd e.e. pynciau cyfreithiol, dod o hyd i dir addas neu ganfyddiadau negatif.

Pwy all helpu? Ffederasiwn Ffermydd Dinesig a Gerddi Cymunedol CLAS Cymru Y Gymdeithas Rhandiroedd Genedlaethol (NSALG) yw’r sefydliad cenedlaethol mwyaf blaenllaw, sy’n cynnal buddiannau a hawliau’r gymuned rhandiroedd ledled y DU. Rydym yn cynnig cefnogaeth, arweiniad a chymorth i’n haelodau a’r rheini sy’n diddori mewn garddio rhandir. Ebost: natsoc@nsalg.org.uk Ffôn: 01536 266576 www.nsalg.org.uk


u a n n a dol f l o n Ca ymune C Pa ddulliau tyfu cymunedol fydd yn gweithio fan hyn?

Allwn ni ddefnyddio’r gofodau o gwmpas ein Canolfannau Cymunedol yn well?

> > > > >

Mae cyfoeth o weithgaredd mewn Canolfannau Cymunedol ar draws Abertawe sy’n cynnwys pob rhan o’r gymuned, ond dyw’r creadigrwydd hwn ddim yn lledu y tu allan i ddrysau’r canolfannau fel arfer, gan adael y gofod o gwmpas yn ddigon di-fflach.

Potiau Gwelyau wedi’u codi Perllan gymunedol Gardd gymunedol Borderi neithdar

Am ragor o wybodaeth ar y dulliau gwahanol hyn, edrychwch ar y gorolwg o wahanol ddulliau tyfu cymunedol

A fyddai’n bosib gosod potiau neu welyau wedi’u codi y tu fas i’ch canolfan gymunedol chi? Allai gwelyau blodau gael eu troi’n blotiau tyfu llysiau? Efallai y byddai’n bosib troi rhan o’r borfa o gwmpas Canolfan Gymunedol yn Ardd Gymunedol neu’n Berllan Gymunedol.

Gwneud i rywbeth ddigwydd Mae’n bosib y byddai gan y grwpiau lleol sy’n defnyddio’r ganolfan ddiddordeb mewn mabwysiadu gwely wedi’i godi neu bot mawr fel rhan o’u gweithgareddau arferol. Mae rhai Canolfannau Cymunedol yn cynnal gweithdai sgiliau coginio, clybiau cinio neu mas-o’r-ysgol a chaffis cymunedol ble gellid defnyddio’r cynnyrch wrth iddo fod ar gael. Gellid defnyddio gofod tyfu’n Ganolfan Gymunedol ar gyfer sesiynau hyfforddi mewn ‘garddio trefol’ hefyd, a gellid defnyddio’r sgiliau a ddysgid yno ar draws y

gymuned gyfan. Gellid cynnig plot llai o faint yng ngardd y ganolfan gymunedol i bobl ar restri aros y rhandiroedd – byddai modd rhannu’u sgiliau tyfu bwyd nhw gydag eraill a byddai’n ysbrydoliaeth hefyd.

Pethau i’w hystyried Cyn creu gwelyau wedi’u codi a gofod gardd gymunedol gwnewch yn siw ˆ r fod y grwpiau sy’n defnyddio’r Ganolfan Gymunedol a’r gymuned ehangach eisiau ymwneud â thyfu bwyd, a bod Pwyllgor y Ganolfan Gymunedol (sy’n gyfrifol am reoli’r ganolfan) yn hapus i’r gofod gael ei ddefnyddio. Fyddai llawer o bobl / grwpiau ddim wedi ystyried tyfu’u bwyd eu hunain, gan feddwl nad oedd sgiliau digonol ganddyn nhw – dechreuwch ar raddfa fach gan gynnig hyfforddiant a chefnogaeth. Fe all creu gofod tyfu cymunedol fod yn ffordd wych o dynnu’r gwahanol grwpiau sy’n defnyddio’r Ganolfan Gymunedol ac aelodau’r gymuned ehangach at ei gilydd. Mae’n bwysig sicrhau fod materion yn ymwneud â pherchnogaeth, cynnal a chadw a phris tyfu’r bwyd wedi’u setlo mewn cytundeb ar y cyd rhwng defnyddwyr y gofod tyfu. Mae gan Ganolfannau Cymunedol bwyllgorau rheoli gwirfoddol sy’n gyfrifol am redeg y ganolfan. Rhaid i’r Pwyllgor Rheoli gefnogi’r syniad o dyfu bwyd er mwyn iddo ddigwydd.


Pwy all helpu?

Esiamplau go iawn

Tîm Bwyd Cymunedol a Thyfu

Bwriad SPARK Blaen-y-maes yw helpu pobl leol gyflawni’u llawn botensial drwy redeg amrywiaeth o gynlluniau sy’n cynnwys addysg i oedolion, gofal plant a phrosiectau i bobl ifanc. Datblygwyd gofod tyfu yn safle Rhodfa Broughton drwy adeiladu gwelyau wedi’u codi a photiau mawr. Mae SPARK hefyd yn darparu sesiynau hyfforddi coginio a thyfu eich bwyd eich hun i alluogi preswylwyr i ddatblygu sgiliau a hyder i gynhyrchu a pharatoi bwyd rhad, iach. Mae Canolfan Blant Integredig Abertawe - yn cefnogi teuluoedd yn ardal Penderi drwy ddarparu cefnogaeth ym meysydd addysg, gofal plant a chyflogaeth. Mae’r Ganolfan Blant wedi plannu perllan a chodi sawl gwely wedi’i godi a photiau mawr i alluogi’r plant a’r oedolion sy’n defnyddio’r ganolfan i ddatblygu’u sgiliau a’u hyder i dyfu’u cynnyrch eu hunain a choginio prydau bwyd iachus a rhad.

Mae Tyˆ T.O.P.I.C. (Canolfan Wybodaeth Pobl Hyˆn) yn darparu mynediad hawdd i wybodaeth, cyngor a chefnogaeth i bobl hyˆn a’u gofalwyr. Rheolir y prosiect gan bwyllgor gwirfoddol o ddefnyddwyr y gwasanaeth gyda chefnogaeth staff Cyngor Abertawe. Cedwir yr ardd gan grwpiau Alzheimers a Daffodil a defnyddir yr holl gynnyrch a dyfir yn y clwb cinio a’r boreau coffi; gwerthir unrhyw gynnyrch dros ben am bris rhad i’r bobl sy’n mynychu. Canolfan a reolir gan wirfoddolwyr yw Canolfan Galw i Mewn Blaen-ymaes - sy’n darparu cyfleoedd addysg a chefnogaeth am ddim i breswylwyr. Mae cyllid Tyfu’n Lleol wedi helpu’r prosiect ddatblygu’u gofod tyfu ymhellach drwy gynyddu’r nifer o welyau wedi’u codi a thrwsio twnnel tyfu plastig.


g i w d Coeunedol gym Pa ddulliau tyfu cymunedol fydd yn gweithio fan hyn? > > > >

Rhandiroedd

> > >

Gerddi coedwig

Gerddi cymunedol Perllannau cymunedol Amaeth a gefnogir gan y gymuned Borderi neithdar Gwelyau wedi’u codi

Am ragor o wybodaeth ar y dulliau gwahanol hyn, edrychwch ar y gorolwg o wahanol ddulliau tyfu cymunedol

Coedwig gymunedol yw coedwig a reolir yn rhannol neu’n llwyr gan y gymuned leol, drwy gyfrwng grw ˆp coedwig cymunedol. Gall y grw ˆp fod yn berchen ar y goedwig, neu’n ei rhentu, neu’n ei rheoli mewn partneriaeth â sefydliad arall e.e. Ymddiriedolaeth Datblygu’r Mwmbwls.

Gwneud i rywbeth ddigwydd Gall ystod eang o ddulliau tyfu cymunedol weithio mewn Coedwigoedd Cymunedol.

Pethau i’w hystyried Efallai y bydd angen gwaith clirio pridd a pharatoi sylweddol ar ardaloedd oedd yn arfer bod yn goedwig. Gall gwreiddiau coed a chwyn ymledol fod yn her i ddechrau.

Pwy all helpu? Tîm Bwyd a Thyfu Cymunedol Ffederasiwn Ffermydd Dinesig a Gerddi Cymunedol CLAS Cymru Mae Llais y Goedwig yn bodoli i hybu a chynrychioli grwpiau Coedwigoedd Cymunedol yng Nghymru. I ddysgu rhagor ewch i www.llaisygoedwig.org.uk

Esiamplau go iawn Cuddiwyd Coedwig Dyffryn Penllergare wrth ochr yr M4 ger Cyffordd 47 ac mae’n cael ei adfer, ei adfywio a’i wella er mwyn i gymunedau ledled Abertawe ei harchwilio a’i mwynhau. I ddysgu rhagor ewch i Penllergare.wordpress.com Ardal goediog yng nghymuned Ystumllwynarth yw Coed y Castell. Mae’n gartref i Berllan Gymunedol ble ceir amrywiaeth o goed a llwyni ffrwythau y gall pobl leol eu defnyddio a’u mwynhau. Cynhelir y Berllan gan Wirfoddolwyr Ymddiriedolaeth Ddatblygu’r Mwmbwls, ac mae’n ofod dymunol a hwyl i’r gymuned gyfan. Sefydliad cymunedol yn Llandeilo Ferwallt yw Coeden Fach. Maen nhw’n darparu hyfforddiant a phrofiad ymarferol mewn sgiliau tyfu coed a phlanhigion lluosflwydd ar gyfer coedwigoedd a chynhyrchu bwyd. Maen nhw’n gweithio gyda sawl busnes lleol, grwpiau cymunedol, cynghorau cymuned, ysgolion a Chyngor Abertawe.


h t i a f if b ei d r i T hir he u a t datblyg d Pa ddulliau tyfu cymunedol fydd yn gweithio fan hyn? > > > > >

Tyfu dros dro Cadw gwenyn Borderi neithdar Plannu mewn potiau Gwelyau wedi’u codi

Am ragor o wybodaeth ar y dulliau gwahanol hyn, edrychwch ar y gorolwg o wahanol ddulliau tyfu cymunedol

Mae tir diffaith ac ardaloedd ble chwythodd datblygiad ei blwc yn nodwedd o’n dinas a’n sir – ac mae hyn yn debygol o fod fel hyn i’r dyfodol hyd y gellir ei weld. Drwy dyfu gofodau tyfu dros dro ar dir diffaith a thir heb ei ddatblygu gallwn wneud i’r tir hwnnw fod yn fyw ac yn ddefnyddiol gan ddarparu ffocws ar gyfer gweithredu cymunedol.

Gwneud i rywbeth ddigwydd Mae rhai o’r safleoedd hyn mewn ardaloedd ble mae llawer iawn o bobl yn byw felly mae yno botensial i gynnwys nifer fawr o bobl. Mae safleoedd diffaith yn weladwy iawn yn aml, gan ddenu ymddygiad gwrthgymdeithasol. Bydd pobl sy’n byw’n lleol yn falch o weld rhywbeth cadarnhaol yn digwydd yno. Gan ddibynnu ar ansawdd y safle efallai y byddai’n bosib dechrau drwy wahodd pobl leol i ddod i ddigwyddiad clirio’r safle neu ddigwyddiad cymdeithasol i ganfod a oes gan bobl awydd i dyfu bwyd.

Pethau i’w hystyried Oherwydd ei bod hi’n debygol y bydd awydd i ddatblygu’r tir yn y tymor hir, rhaid i’r modd y mae tyfu bwd yn cael ei drefnu adlewyrchu hyn a bod yn barod i symud neu gael ‘strategaeth ddiwedd’. Byddwch yn greadigol wrth ddefnyddio potiau a gwelyau wedi’u codi sy’n ‘symudol’ ar gyfer llysiau.

Bydd rhai prosiectau dros dro’n cadw gwenyn ar eu safleoedd. Weithiau gall fod yn anodd darganfod pwy sydd biau safle gwag. Y lle gorau i ddechrau chwilio yw drwy gysylltu â Thîm Bwyd a Thyfu Cymunedol y Cyngor. Pan fyddwch wedi darganfod gofod a gweld pwy yw’r tirfeddiannwr, mae’n bwysig gosod y trefniadau cyfreithiol cywir yn eu lle fel bod y tirfeddiannwr yn fodlon â defnydd dros-dro y tir. Efallai y bydd angen i chi ddelio â phroblemau difwyniant os oedd eich safle’n arfer bod yn un diwydiannol. Argymhellir eich bod yn cysylltu â gwasanaeth Iechyd Amgylcheddol eich Cyngor am gyngor os ydych yn bwriadu tyfu’n uniongyrchol yn y ddaear. Mae Adran Iechyd Cyhoeddus Toronto wedi datblygu canllaw ar gyfer pobl sydd eisiau dechrau gardd drefol ac eisiau mwy o wybodaeth am beryglon eu pridd. Bydd yn eich helpu i adnabod lefel ‘risg’ safle ac yn awgrymu beth i’w wneud i brofi’r pridd a lleihau gwneud y pridd yn agored i bethau all lygru pridd trefol. Visit: www.toronto.ca/health/lead/soil_ gardening.htm Yn y tymor hir, neu pan adeiledir ar y safle yn y pen draw, bydd yr amser a dreuliwyd ar ddatblygu sgiliau a diddordeb y gymuned yn helpu i gryfhau’r achos dros ‘symud’ gweithgareddau tyfu i safle neu ofod arall.


Pwy all helpu?

Esiamplau go iawn

Tîm Bwyd a Thyfu Cymunedol

Gardd Gymunedol Vetch Veg Yn seiliedig ar Gae’r Vetch, cartref hanesyddol Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, dechreuodd gardd gymunedol Vetch Veg fel prosiect dros dro a gychwynnwyd gan yr artist Owen Griffiths fel rhan o’r Olympiad Diwylliannol 2012. Bu’n gymaint o lwyddiant nes peri i drigolion lleol benderfynu sefydlu grw ˆ p â chyfansoddiad ffurfiol, gan drefnu prydles o saith mlynedd oddi wrth Gyngor Abertawe.

Ffederasiwn Ffermydd Dinesig a Gerddi Cymunedol CLAS Cymru

Ddwy flynedd yn ddiweddarach mae yno dros 100 o welyau wedi’u codi, perllan gymunedol, twneli tyfu plastig, cegin, ffwrn bridd a chychod gwenyn. Mae’r deiliaid plotiau’n trefnu digwyddiadau a gweithgaredd, yn rhannu sgiliau tyfu a choginio ac yn helpu i ysbrydoli eraill mewn safle sydd bellach yn ‘ganolfan gymunedol awyr agored’.


m r e f f Tir amaeth ac

Pa ddulliau tyfu cymunedol fydd yn gweithio fan hyn? > >

Rhandiroedd

> > > >

Perllannau cymunedol

Amaeth a gefnogir gan y gymuned Gerddi marchnad cymunedol Tyddynnod cymunedol Borderi neithdar

Am ragor o wybodaeth ar y dulliau gwahanol hyn, edrychwch ar y gorolwg o wahanol ddulliau tyfu cymunedol

Mae’n bosib fod defnyddio tir fferm ac amaeth ar gyfer cynhyrchu bwyd lleol yn swnio’n amlwg, ond yn y rhan fwyaf o achosion, dyw’r bwyd a gynhyrchir ar ffermydd ddim yn cael ei werthu’n lleol. Disgrifir y dull Amaeth a Gefnogir gan y Gymuned (CSA) fel ‘unrhyw fenter cynhyrchu bwyd, tanwydd neu ffibr ble bydd y gymuned yn rhannu cyfrifoldebau a gwobrau cynhyrchu mewn ysbryd cydfuddiannol o ymddiriedaeth a didwylledd, boed hynny drwy berchnogaeth, buddsoddiad, rhannu costau cynhyrchu neu ddarparu llafur.’ Gellir trefnu CSA mewn sawl modd gwahanol. Weithiau, ffermwr fydd yn gwneud y gwaith tyfu ac mae pobl leol yn rhan o gynllun. Dro arall, bydd grw ˆ p cymunedol yn rhentu tir oddi wrth y ffermwr gan wneud y ffermio / tyfu drostyn nhw’u hunain.

Gwneud i rywbeth ddigwydd Mae llawer o fanteision o gael mynediad i dir fferm ac amaeth. Oherwydd bod y gofod tyfu’n debygol o fod yn fwy na’r rhan fwyaf o ofodau tyfu trefol, mae yno gyfle i gynnig ystod o ddulliau tyfu i bobl leol. Mae’r safleoedd yn debygol o fod yn gallu cynnal plotiau rhandir unigol a gerddi / perllannau cymunedol, gan wasanaethu sawl angen gwahanol yn y gymuned.

Mae yno hefyd bosibilrwydd o osod gwelyau mwy o faint a thwneli tyfu plastig i gynhyrchu bwyd ar raddfa gardd farchnad gymunedol – i’w rhedeg fel menter gymdeithasol sy’n darparu cynnyrch lleol ar bris rhesymol i’r gymuned ehangach. Efallai y byddai maint y safle a’i leoliad yn addas ar gyfer codi da byw megis ieir a moch. Fe allai hefyd fod yn bwynt cychwynnol ar gyfer cynnwys ffermwyr lleol mewn rhaglenni ar gyfer plant ysgol. Byddai hyn yn dysgu plant o ble y daw bwyd. I’r ffermwr, fe allai fod yn gam cyntaf tuag at ymwneud yn ehangach â’r gymuned leol.

Pethau i’w hystyried Efallai na fyddai ymwneud yn ehangach â’r gymuned leol yn flaenllaw iawn ym meddwl y ffermwr lleol! Ar y llaw arall, mae mwy a mwy o ffermwyr yn chwilio am ddulliau o arallgyfeirio a manteisio ar gynnyrch lleol o nodwedd a threftadaeth. Gallai partneriaeth gyda grw ˆp cymunedol lleol neu grwpiau brwd o bobl leol sy’n meddu ar ystod o sgiliau fod yn gatalydd i beri i rywbeth newydd ddigwydd. Mae’n bosib hefyd na fyddai’r ffermwr eisiau ymwneud â thyfu cymunedol ond y byddai’n fodlon rhentu darn o dir i’r gymuned leol. Yn yr achos hwnnw, mae’n bwysig cael prydles sydd wedi’i hystyried yn ofalus. Gall y Gwasanaeth Tir


Cymunedol Ymgynghorol eich helpu yn hyn o beth. Ar lefel ymarferol iawn, rhaid ystyried mynediad i safle tyfu ar dir amaeth. Mae’n debygol y byddai’n llai hygyrch i bobl heb gar a gallai parcio fod yn broblem. Mae tyddynna’n ddull a reolir ac a effeithir gan ddeddfwriaeth genedlaethol a dylid archwilio hyn yn llawn os ydych chi’n ystyried yr opsiwn hwn.

Pwy all helpu? Ffederasiwn Ffermydd Dinesig a Gerddi Cymunedol CLAS Cymru Mae’r Soil Association yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth am Amaeth a Gefnogir yn y Gymuned. www.soilassociation.org

Esiamplau go iawn Fferm Gymunedol Abertawe Dyma fferm drefol sy’n gweithio, gan gynnwys da byw ac sy’n cynnig cyfleoedd i wirfoddolwyr ac ymweliadau addysgol. Bwriad y fferm yw ailgysylltu pobl o bob oedran, cefndir a gallu gyda’u bwyd a’u hamgylchedd. Mae yno nifer o anifeiliaid fferm, rhandir cymunedol, perllan draddodiadol, gwelyau wedi’u codi, caffi’r fferm, ac ystod o raglenni hyfforddi ac ymweliadau addysgol ar gael ar gyfer unigolion, grwpiau ac ysgolion. Casgliad o chwe theulu o gymuned fach wledig Llangynydd yw’r Plotters. Eu bwriad yw tyfu bwyd iachus, cynaliadwy ar gyfer eu teuluoedd. Mae pob teulu wedi llwyddo i gael bocs o wyau a llysiau a dyfwyd gartref bob wythnos. Maen nhw’n cynnwys eu 13 o blant yn llawn, yn rhannu’u gwybodaeth â’r ysgol gynradd leol.

Prosiect amaeth a gefnogir gan y gymuned yn Ilston yw Cae Tan Dyma flwyddyn gyntaf y prosiect, a bwriad y datblygiad yw tyfu bwyd organig i bobl leol drwy gyfrwng trefniant cyfranddalwyr. Bydd cyfranddalwyr yn prynu siâr yng ngardd y fferm, gan dderbyn cyfran deg o beth bynnag a dyfir. Mae Cae Tan yn darparu hyfforddiant a chyfleoedd gwirfoddoli i gefnogi ystod o bobl, yn gyfranddalwyr a’r rhai nad ydyn nhw’n gyfranddalwyr, er mwyn dysgu iddyn nhw sut i dyfu’u bwyd eu hunain yn organig.


u a r o d i r o C wyrdd G

Pa ddulliau tyfu cymunedol fydd yn gweithio fan hyn? > > > >

Perllannau ‘anffurfiol’ Plannu hadau DIY Fforio Borderi neithdar

Am ragor o wybodaeth ar y dulliau gwahanol hyn, edrychwch ar y gorolwg o wahanol ddulliau tyfu cymunedol

Yr hyn a olygir wrth goridorau gwyrdd yw llwybrau cerdded, llwybrau beicio, llwybrau glannau camlesi, hen reilffyrdd ac ati. Fe allan nhw gysylltu dwy ran o’r ddinas, darparu cyswllt â’r wlad o gwmpas neu uno ardaloedd gwyrdd. Gall coridorau gwyrdd fod yn llwybrau unigol neu’n rhan o rwydwaith o ffyrdd a reolir.

Gwneud i rywbeth ddigwydd Mae angen ystyried dull llai ffurfiol o dyfu bwyd fan hyn. Er enghraifft, gallai plannu llwyni ffrwythau meddal annog fforio am fwyd. Gallai defnyddwyr y llwybr gael eu hannog i blannu hadau a mynd ag unrhyw gynnyrch y maen nhw ei eisiau. Bydd angen rhaglen o hybu a chreu ymwybyddiaeth er mwyn gadael i bobl wybod ei bod hi’n iawn iddyn nhw wneud hyn: “Plannwch eich hadau, a gwyliwch nhw’n tyfu wrth i chi fynd heibio bob dydd” Gallai cynnyrch a dyfir gynnwys planhigion cynhenid, sy’n llesol ar gyfer bywyd gwyllt hefyd. Gallai prosiect fel hwn ddarparu mecanwaith ar gyfer dwyn cymunedau at ei gilydd ar hyd llwybr.

Pethau i’w hystyried Gallai cael y cymunedau a defnyddwyr y llwybrau i fod yn rhan o’r cynllun a’i weithredu o’r dechrau fod yn her am y byddai’n golygu newid meddwl sylweddol ynghylch pwrpas y gofodau a’r llwybrau hyn. Efallai y byddai angen i chi gynnwys a chreu cefnogaeth a diddordeb oddi wrth sawl cymuned, nid dim ond eich cymuned chi. Pwy sy’n gyfrifol am y gofodau hyn? Gall fod y llwybrau’n berchen i sawl perchennog am eu bod nhw’n croesi sawl daliad tir ac yn croesi ffiniau. Efallai mai perchnogion preifat sydd ganddyn nhw ond fod yno hawliau mynediad cyhoeddus. Fe all hyn effeithio ar yr hyn y cewch chi ei wneud yno. Fe ddylech hefyd ystyried rheolaeth bresennol y llwybrau, megis torri gwair neu draeniad, wrth gynllunio ardaloedd tyfu. Meddyliwch am fioamrywiaeth yn y coridor gwyrdd cyn cyflwyno planhigion newydd er mwyn osgoi niweidio cynefinoedd a rhywogaethau presennol.


Pwy all helpu?

Esiamplau go iawn

Tîm Cadwraeth Natur Mae Tîm Cadwraeth Natur y Cyngor wedi ymroi i ofalu am gyfoeth naturiol Abertawe, ac mae’n chwarae rhan mwyfwy pwysig wrth warchod ystod enfawr Abertawe o gynefinoedd, planhigion a chreaduriaid.

Plannwyd perllan linellol Colliers Way gan Sustrans ar Colliers Way – Llwybr 24 o’r Rhwydwaith Seiclo Cenedlaethol rhwng Radstock a Frome. Cynnwys y berllan yw coed afal Seisnig wedi’u plannu bob hyn a hyn i dynnu sylw at berllannau Gwlad yr Haf sy’n diflannu ac adlewyrchu’r coed ffrwythau a hadwyd eu hunain (o ganlyniad i bobl yn taflu colynnau afalau) ar hyd y llwybr. www.sustrans.org.uk/what-wedo/art-and-the-travellinglandscape/Art-Trails/colliers-way

Ffôn: 01792 636000 Ebost: nature.conservation@swansea.gov.uk Tîm Mynediad Cefn Gwlad Mae Tîm Mynediad Cefn Gwlad y Cyngor yn cadw map sy’n cofnodi pob tramwy cyhoeddus cofrestredig yn ardal Abertawe. Ffôn: 01792 635230/635736 Ebost: countrysideaccess@swansea.gov.uk

Mae Incredible Edible Todmorden wedi datblygu gwelyau tyfu bwyd ar hyd llwybr glan y gamlas. www.incredible-edibletodmorden.co.uk


i d d r Ge igol un

Pa ddulliau tyfu cymunedol fydd yn gweithio fan hyn? > > > > >

Tyfu i chi eich hun Rhannu tir Helaethrwydd a ‘dwgyd cyfrifol’ Perllannau ymarferol Borderi neithdar

Am ragor o wybodaeth ar y dulliau gwahanol hyn, edrychwch ar y gorolwg o wahanol ddulliau tyfu cymunedol

Mae llawer o bobl yn tyfu’u ffrwythau a’u llysiau eu hunain yn ei gerddi ac weithiau bydd ganddyn nhw ormod o gynnyrch. Byddai rhai pobl wrth eu bodd yn tyfu’u ffrwythau a’u llysiau ei hunain, ond does ganddyn nhw unman i wneud hynny, tra bo gan eraill ddigon o le yn ei gardd ond allan nhw mo’i gynnal. Mae rhestri aros rhandiroedd yn hir ac nid yw’n hawdd dod ar draws gofodau tyfu cymunedol chwaith. Drwy feddwl am erddi unigol fel darpar ofodau tyfu (nid o reidrwydd o dan ofal garddwr unigol) fe allem ymestyn y gofod sydd ar gael i dyfu bwyd.

Gwneud i rywbeth ddigwydd Ni fyddai pawb sy’n berchen ar ardd yn meddwl o reidrwydd amdano fel lle i dyfu bwyd. Bydd angen ychydig o gymorth ar rai pobl, a chefnogaeth garddwr cymunedol, i ddechrau arni. Mewn rhai ardaloedd mae’r ganolfan gymunedol leol neu’r prosiect tyfu cymunedol yn darparu cefnogaeth fel hynny. Bydd rhannu gerddi unigol, a’r cynnyrch a geir ynddyn nhw, yn digwydd yn anffurfiol mewn sawl cymuned. Gallai prosiect rhannu gerddi cymunedol lleol ddod â phobl ynghyd a hoffai dyfu’u bwyd eu hunain, ond heb ofod i wneud, gyda phobl eraill sy’n barod i rannu rhan o’u gardd neu allai helpu rywsut.

Mae gan brosiect fel hwn y potensial i ddwyn cenedlaethau gwahanol ynghyd a sicrhau fod pobl hyˆn, sy’n methu â chynnal eu gerddi mwyach, yn cael ychydig o help llaw. Fe allai hefyd leihau unigrwydd rhai trigolion hyˆn pe bai eraill yn galw heibio am sgwrs a phaned wrth arddio. Mae cysyniadau ‘helaethrwydd’ a ‘dwgyd cyfrifol’ hefyd yn cyd-fynd â’r syniad o ddefnyddio gerddi unigol ar gyfer tyfu cymunedol. Bydd ‘dygwyr cyfrifol’ a grwpiau helaethrwydd yn canfod lleoliad coed ffrwythau a pherllannau ble mae gormod o ffrwythau wedi tyfu, ac yn ei bigo a’i ddefnyddio. Mewn rhai achosion, sefydlir rhwydweithiau er mwyn i ryw gymaint o’r cynnyrch, er enghraifft jam, ddod yn ôl at dyfwr y ffrwythau. Mewn achosion eraill, rhennir y ffrwyth helaeth rhwng achosion da ac elusennau. Os nad oes gofod amlwg neu hygyrch yn eich cymuned er mwyn sefydlu perllan gymunedol, efallai mai sefydlu ‘perllan ymarferol’ fyddai’r ffordd ymlaen. Mae hyn yn golygu plannu coed a llwyni ffrwythau mewn gerddi unigol, gyda chydsyniad y gymuned a pherchnogion y gerddi i rannu’r ffrwythau a’r gwaith cynaeafu. Fel hyn, gellir creu perllan gymunedol heb ofod penodedig.


Pethau i’w hystyried

Pwy all helpu?

Efallai y byddai’r syniad o rannu eu gardd breifat â dieithriaid yn wrthun i lawer o bobl i ddechrau. Ystyriwch na fydd pawb eisiau cymryd rhan. Dechreuwch ar raddfa fach a hysbysebwch y straeon cadarnhaol yn lleol.

Tîm Bwyd a Thyfu Cymunedol

Gwnewch yn siw ˆ r fod cytundebau wedi’u sefydlu sy’n diogelu’r tyfwyr a pherchnogion y gerddi. Mae gan rai cymunedau lawer o landlordiaid sy’n byw bant a nifer o erddi heb eu tendio. Waeth pa mor apelgar yw’r syniad o ddefnyddio’r gerddi hyn ar gyfer tyfu, mae’n hollbwysig cael caniatâd wrth y landlord cyn mynd ati. Mewn cymunedau ble mae tai yn newid perchnogaeth yn fynych, fe all fod yn fwy anodd sefydlu mentrau tyfu cymunedol sy’n canolbwyntio ar ddefnyddio gerddi unigol.

Ffederasiwn Ffermydd Dinesig a Gerddi Cymunedol Mae Landshare yn dwyn ynghyd bob a chanddynt dir i’w rannu â’r rheiny sy’n chwilio am dir i dyfu bwyd. Datblygwyd ‘bocs tw ˆ ls rhannu tir’ gan Landshare gyda gwybodaeth, canllawiau a chysylltiadau defnyddiol ar gyfer dechrau cynlluniau lleol. www.landshare.net


l as y w s e r u d P d r i e T cyho ol thir dymun Pa ddulliau tyfu cymunedol fydd yn gweithio fan hyn? > > > >

Gerddi cymunedol Perllannau cymunedol Borderi bwytadwy Borderi neithdar

Am ragor o wybodaeth ar y dulliau gwahanol hyn, edrychwch ar y gorolwg o wahanol ddulliau tyfu cymunedol

Mae’r gofodau gwyrdd a chyhoeddus a geir o gwmpas ystadau tai a datblygiadau tai (yn hen a newydd, o’r sector breifat a chyhoeddus) yn aml yn sylweddol o ran maint ac yn agos at gartrefi pobl. Maen nhw’n cynnwys ardaloedd a dirluniwyd, sy’n darparu tir sy’n ddymunol i edrych arno ac yn ofod ar gyfer gweithgareddau anffurfiol neu gymdeithasol, fel cicio pêl. Mewn sawl ardal, bydd y gofodau hyn yn ddarnau eang o borfa wedi’i dorri heb fawr ddim defnydd na rheolaeth y tu hwnt i ddarparu cefndir gwyrdd i dai.

Gwneud i rywbeth ddigwydd Mae’r gymuned ar garreg y drws – maen nhw’n ddarpar ffynhonnell gwirfoddolwyr a sgiliau. Byddai eu cynnwys yn golygu y byddai unrhyw ofod tyfu a fyddai’n cael ei greu yn fwy tebygol o gael gofal. Ystyriwch greu ‘gofod cymdeithasol’ sy’n fwy apelgar i bobol. Fe allai hynny arwain at gynnwys rhagor o bobl i fod yn rhan o’r cynllun. Efallai y byddai pobl yn ‘anwybyddu’ gofodau tyfu ac mae’n bosib y byddai’n fwy diogel rhag cael ei fandaleiddio. Mewn ardaloedd ble bydd cymdeithasau tai’n gweithredu fe all fod cyfleoedd i elwa ar eu hagenda ‘Rôl Ehangach’ i gael cymorth (o ran datblygu a chyllid) er mwyn sefydlu safleoedd tyfu cymunedol.

Mewn datblygiadau tai newydd efallai y byddai cyfleoedd i ddylanwadu ar ddarparu gofodau tyfu drwy’r system gynllunio leol a’r Strategaeth Gofod Agored. Mae Tîm Polisi Cynllunio’r Cyngor wedi cynhyrchu Nodyn Cychwynnol ar Dir Bwytadwy, gan gynghori ‘Datblygwyr’ uchelgais y Cyngor i gynnwys gofodau tyfu fel rhan o unrhyw ddatblygiad tai newydd yn Abertawe. Gallai codi ymwybyddiaeth ac ymwneud â swyddogion y Cyngor ac aelodau etholedig am yr angen am ragor o ofodau tyfu hefyd helpu i ddylanwadu ar ddatblygiadau’r dyfodol er mwyn sicrhau eu bod yn ymgorffori gofodau tyfu neu’n cyfrannu at eu darparu’n lleol. Efallai y byddai perchnogaeth gymunedol yn opsiwn ar gyfer grwpiau neu sefydliadau cymunedol sy’n ‘barod’. Mae hyn fel arfer yn golygu rhentu gofod neu drosglwyddo perchnogaeth ar sail parhaol neu dros-dro. Mae’n golygu fod y grw ˆ p yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb rheoli yn rhannol neu’n llwyr. Fe allai hefyd ddatgloi ffynonellau ariannu newydd.

Pethau i’w hystyried Mae cefnogaeth ac ymwneud y gymuned leol a’i thrigolion yn allweddol. Efallai y bydd yno bobl a chanddyn nhw sgiliau garddio i’w rhannu. Mae cael cefnogaeth a diddordeb lleol yn hanfodol er mwyn sicrhau y bydd y gofodau tyfu’n cael eu


defnyddio ac yn cael gofal, gan olygu nad yw’r rôl hon yn mynd yn faich i’r ychydig ffyddlon.

Pwy all helpu?

Mewn ardaloedd preswyl preifat fe allai fod yn fwy anodd cael cydsyniad a chytuno ynghylch newid neu ailddefnyddio gofodau ar gyfer tyfu cymunedol. Pwy sydd biau’r gofod neu’n ei gynnal nawr? A oes ffactor neu asiantaeth eiddo y mae angen ei gynnwys neu drafod gydag ef? Efallai y byddai’n fwy heriol ymwneud â datblygwr neu ffactor preifat.

Esiamplau go iawn

Gallai perchnogaeth gymunedol fod yn ymrwymiad rhy fawr ar gyfer rhai grwpiau neu sefydliadau lleol. Efallai nad ydyn nhw’n ddigon mawr neu’n meddu ar ddigon o aelodau i allu gwneud hyn. Bydd yn bwysig ystyried cynnal a chadw i’r dyfodol. Pwy fydd yn darparu hyn? A fydd y sefydliad neu’r adran sy’n cynnal a chadw’r gofod gwyrdd ar hyn o bryd yn mabwysiadu’r rôl? A fydd hynny’n golygu costau ychwanegol? Pwy fydd yn talu amdano?

Tîm Bwyd a Thyfu Cymunedol

Grw ˆp o drigolion Townhill yw Gomer Growers, sy’n tyfu bwyd yn yr ardaloedd cymunedol ble maen nhw’n byw. Ffurfiodd y grw ˆ p ar ôl wynebu anawsterau wrth geisio cael mynediad i fwyd fforddiadwy, ac mae’r prosiect, a ariannwyd i ddechrau gan Tyfu’n Lleol, yn darparu cyfle i dyfu’u bwyd eu hunain ar garreg y drws.


ol g s y Tir

Pa ddulliau tyfu cymunedol fydd yn gweithio fan hyn?

Gallai tir ysgolion cynradd ac uwchradd fod ar gael i’r gymuned ehangach ar gyfer tyfu.

> > > > >

Amgylchynir sawl ysgol gan ardaloedd gwyrdd eang a gofodau cymunedol sydd eisoes yn cael eu defnyddio’n helaeth fel lleoliadau ar gyfer ymlacio, cymdeithasu a gweithgareddau corfforol.

Rhandiroedd Gerddi cymunedol Perllannau cymunedol Gwelyau wedi’u codi Borderi neithdar

Am ragor o wybodaeth ar y dulliau gwahanol hyn, edrychwch ar y gorolwg o wahanol ddulliau tyfu cymunedol.

Mae llawer o ysgolion wedi plannu gwelyau o flaen yr adeiladau, y gellid eu defnyddio fel gofodau tyfu.

Gwneud i rywbeth ddigwydd Gallai prosiect tyfu ar dir ysgol fod yn ffordd ardderchog o gynnwys plant, rhieni a’u rhieni nhw yn yr ysgol, yn ystod oriau dysgu a thu hwnt iddynt. Gallai’r prosiect gynnwys pobl nad oes ganddyn nhw gyswllt traddodiadol â’r ysgol leol, gan ddatgelu gwybodaeth a sgiliau cudd. Bydd gofodau tyfu cymunedol yn helpu plant i ddatblygu sgiliau tyfu bwyd ac yn cynyddu’u hymwybyddiaeth o fwyta’n iach. Mae gofodau tyfu mewn ysgolion yn cyd-fynd â’r cwricwlwm ac maen nhw’n ofodau dysgu awyr agored ardderchog ar gyfer gwyddoniaeth, celf a mathemateg, yn ogystal â chynnal datblygiad sgiliau tyfu bwyd. Byddai gofod tyfu gerllaw yn ddelfrydol ar gyfer ysgolion sydd eisiau ennill Baner Werdd neu ddod yn Ysgol Eco.

Pethau i’w hystyried Bydd angen i ysgolion a grwpiau sydd â diddordeb mewn datblygu tyfu cymunedol ar dir ysgol wneud asesiad risg a gwirio polisi Iechyd a Diogelwch yr ysgol, ynghyd â pholisïau eraill sy’n ymwneud â diogelwch plant. Bydd angen darganfod a oes angen i bobl o’r gymuned leol gael eu gwirio gan yr heddlu er mwyn caniatâu iddyn nhw ddefnyddio gofodau ar dir ysgol. Bydd mynediad yn bwnc y bydd angen i chi ei ystyried. Fe allai diogelwch y safle a fandaliaeth fod yn broblem os yw’r safleoedd ar agor 24 awr y dydd heb ddim cyfyngu ar fynediad. Fe allai’r gwrthwyneb hefyd fod yn her – os nad oes mynediad i dir yr ysgol y tu allan i oriau ysgol nag yn y gwyliau. Byddai hyn yn faes trafod a datrys wrth ddechrau ar eich prosiect tyfu. Y peth delfrydol fyddai gofod sy’n hygyrch o’r ysgol ac o’r gymuned. Mae hyn yn golygu y byddai’n bosib cael clybiau haf a sesiynau galw-imewn ar gyfer plant oedran ysgol yn ystod y gwyliau er mwyn cynnal a chadw’r gwelyau a’r plotiau. Mae’n bwysig ystyried yn ofalus beth i’w blannu os yw plant ysgol yn mynd i elwa’n llawn o ofod tyfu yn ystod tymor yr ysgol. Er enghraifft, pryd y gellir cynaeafu cnydau ac a fydd y plant o gwmpas bryd hynny? Bydd angen i ysgolion gael caniatâd gan landlord wrth newid gofod ar


dir ysgol i dyfu bwyd, ac ar gyfer codi siediau a thwneli tyfu plastig, efallai y bydd angen caniatâd cynllunio. Gall Tîm Rheoli Adnoddau’r Cyngor gynghori yn hyn o beth.

Pwy all helpu? Tîm Bwyd a Thyfu Cymunedol Ymgyrch ryngwladol yw Ysgolion Eco a gynlluniwyd i annog gweithgaredd ysgol-gyfan er lles yr amgylchedd. Un o’r deg pwnc y gall ysgolion ddewis ohonynt wrth weithredu’u gwaith Ysgolion Eco yw “Bwyd a’r Amgylchedd”. Cadwch Gymru’n Daclus sy’n gyfrifol am y Rhaglen Ysgolion Eco. Nhw hefyd sy’n gyfrifol am y Cynllun Baner Werdd ac mae ganddyn nhw gynllun grantiau bach ble gall ysgolion a grwpiau cymunedol wneud cais. www.keepwalestidy.org

Esiamplau go iawn Mae sawl ysgol leol wedi elwa’n ddiweddar o gyllid Tyfu’n Lleol, gan eu galluogi i wella neu ddatblygu prosiectau tyfu, sy’n aml yn cynnwys rhieni a’r gymuned ehangach. Pwynt cychwynnol da yw mynd at eich ysgol leol i ofyn sut y gallech chi ddod yn rhan o gynllun.

Mae gan Ysgol Gynradd Brynhyfryd dwnnel tyfu plastig mawr yn yr ysgol sy’n eu galluogi i dyfu drwy gydol y flwyddyn, gan ddarparu cynhwysion ar gyfer sesiynau coginio yn yr ysgol a galluogi’r ysgol i werthu cynnyrch dros ben i’r gymuned ehangach. Ysgol Gynradd Blaen-y-maes Drwy gyfrwng arian a ddiogelwyd oherwydd cyllid grant, plannodd yr ysgol goed a gosod gwelyau wedi’u codi a photiau ar dir yr ysgol i greu ardal dyfi addysgol ychwanegol. Gosodwyd twnnel tyfu plastig yn ddiweddar i helpu’r ysgol i ymestyn y tymor tyfu. Cynigir sesiynau coginio’n ychwanegol. Anogir rhieni a gofalwyr i gymryd rhan gan swyddog cynhwysedd teulu’r ysgol.

Mae Ysgol Gynradd Eglwys Gadeiriol St Joseph yn unigryw gan nad oes ganddi ddim tir o gwmpas yr ysgol. I oresgyn y broblem, lleolir maes chwarae’r plant a’r gofod tyfu ar ben to’r ysgol. Mae’r ysgol wedi cysylltu â’r gymuned ehangach i ddatblygu’r prosiect ac mae ganddi gysylltiadau cryf â chymdeithas rhandiroedd leol.


i f e r t Carrchodoli gwachartref a gofal Pa ddulliau tyfu cymunedol fydd yn gweithio fan hyn? > > > > >

Gerddi cymunedol Perllannau cymunedol Gardd wellhad a therapiwtig Gwelyau wedi’u codi Borderi neithdar

Am ragor o wybodaeth ar y dulliau gwahanol hyn, edrychwch ar y gorolwg o wahanol ddulliau tyfu cymunedol

Yn aml, mae gan gartrefi gwarchodol a chartrefi gofal erddi a gofodau gwyrdd y gall y preswylwyr eu defnyddio a’u mwynhau. Mewn rhai lleoliadau, bydd yr adnoddau hyn eisoes yn darparu adnodd awyr agored deniadol a gwerthfawr ar gyfer preswylwyr, staff ac ymwelwyr. Mewn lleoedd eraill, mae ansawdd ac ymarferoldeb yr ardaloedd hyn yn fwy cyfyng. Mae pob agwedd ar erddi a garddio’n cynnig ystod o fuddiannau o ran therapi ac iechyd; darparu hafan oddi wrth amgylchedd y cartref neu ofalu, mynediad i awyr iach, ymarfer corff a gofod cymdeithasol. Byddai preswylwyr, staff ac ymwelwyr i gyd yn ddarpar fanteiswyr ac yn ffynhonnell cefnogaeth ar gyfer gofalu am y gofodau tyfu a’u defnyddio.

Gwneud i rywbeth ddigwydd Mae’r cyfleoedd y byddai tyfu cymunedol yn eu cynnig i ychwanegu ansawdd bywyd i breswylwyr yn enfawr. Mae cyflwyno tyfu bwyd fel gweithgaredd mewn gerddi sy’n bodoli eisoes yn golygu y bydd gan bobl gyfle i ryngweithio gyda’u gerddi a bod yn fwy gweithgar. Byddai cymryd rhan mewn gweithgareddau tyfi’n cefnogi ymwneud a chymdeithasu rhwng preswylwyr a phobl o’u cymuned ehangach, gan gynnig dull o leihau unigrwydd.

Mewn adnoddau ble bydd ansawdd y gofod awyr agored yn sâl, gallai datblygu prosiect tyfu cymunedol fod yn un ffordd o drawsnewid y gofod a’i ddefnyddio ar gyfer preswylwyr a’r gymuned ehangach. Cynhwyswch y preswylwyr ar ddechrau’r prosiect i greu synnwyr perchnogaeth o’r ardd neu’r gofod tyfu. Efallai y bydd rhai preswylwyr sy’n ymddiddori’n fawr mewn garddio ac eraill sy’n meddu ar sgiliau garddio a thyfu ‘cudd’, y bydden nhw’n hoffi ei defnyddio o’r newydd. Gallai preswylwyr sy’n meddu ar sgiliau a diddordeb eisoes gynorthwyo i fachu sylw a chynnwys preswylwyr eraill, a rhannu’i sgiliau gyda nhw. Cymysgwch grwpiau oedran a diddordeb gwahanol. Gwnewch yn siw ˆ r fod gwirfoddolwyr lleol a grwpiau o’r gymuned yn ymddiddori ac yn cymryd rhan mewn datblygu, gofalu am y gofod a’i ddefnyddio. Gallai cynnwys grwpiau eraill helpu gyda chynnal a chadw’r gofod. Pwysleisiwch a hybwch fanteision iechyd a lles i bobl allweddol gan gynnwys rheolwyr yr adnodd, staff a’r rheiny sy’n gofalu am y tir.

Pethau i’w hystyried Bydd angen cefnogaeth oddi wrth y bobl sy’n gwneud y penderfyniadau strategol, staff a rheolwyr yr adnodd. Efallai y bydd gweithredydd y gwasanaeth gofal neu reolwr y cartref gwarchod yn pryderu am


unrhyw gostau ychwanegol a allai ddeillio o greu a rheoli gofodau tyfu. Fe allai argaeledd staff i gefnogi a bod yn rhan o ddatblygu neu ofalu am ofod tyfu, neu i gefnogi preswylwyr i fod yn rhan o’r prosiect, fod yn broblem. Eu prif rôl fyddai darparu canllaw gofal ac felly fe allai argaeledd staff y tu hwnt i hynny gael ei gyfyngu. Efallai y byddai pryder am dorri ar draws gofal i breswylwyr. Efallai y byddai staff yn gofidio am eu gallu i gefnogi prosiect neu ofod tyfu. Os nad ydyn nhw’n garddio neu’n gwybod sut i dyfu bwyd, efallai y bydden nhw’n brin o hyder i ymuno mewn prosiect neu ei gefnogi, hyd yn oed os oes ganddyn nhw ddiddordeb ac amser i’w gyfrannu. Mae’n bosib mai dim ond i breswylwyr, eu hymwelwyr a staff y byddai’r adnodd gwarchod neu gartref gofal ar agor. Fe allai hynny effeithio ar allu’r prosiect i gynnwys y gymuned ehangach. Efallai hefyd y byddai angen gwiriad gan yr heddlu.

Pwy all helpu? Tîm Bwyd a Thyfu Cymunedol

Esiamplau go iawn Tyˆ Dewi Sant Cyfadeilad gwarchodol sy’n eiddo i’r cyngor yn Fforest-fach yw Tyˆ Dewi Sant, gyda 77 uned breswyl. Mae’r grw ˆ p garddio penodol wedi trawsnewid yr ardd gymunedol

gydag ystod eang o ffrwythau a llysiau, ble rhennir y cynnyrch rhwng y preswylwyr. Bydd yr ardd yn gartref cyn bo hir i berllan gymunedol a ariannwyd gan gronfa Tyfu’n lleol, ble bydd preswylwyr yn plannu ystod o goed ffrwythau.

Walsingham Mae Walsingham yn cefnogi pobl ag anableddau dysgu ac anghenion gofal cymdeithasol eraill. Llety byw gwarchodol yn Nyfati yw’r Willows, sy’n rhoi cartref i bobl ag anghenion cefnogi amrywiol.

Mountbatten Court Cyfadeilad gwarchodol sy’n eiddo i’r cyngor ym Mlaen-y-maes yw Mountbatten Court, gyda 19 uned breswyl. Mae tenantiaid yn datblygu ardal o welyau wedi’u codi’n uchel er mwyn tyfu bwyd yn yr ardd gymunedol. Am fod y rhan fwyaf o’r tenantiaid yn byw ar eu pennau’u hunain, gall fod yn ddrud a gwastraffus i brynu dewis o lysiau a salad, felly mae’r prosiect yn golygu y gall tenantiaid fwyta’n well yn rhatach, yn ogystal â lleihau gwastraff bwyd.

Mae gweithwyr a defnyddwyr wedi troi ardal yr ardd yn ofod defnyddiol, addysgiadol ble gall defnyddwyr dyfu’u llysiau eu hunain, Mae’r ardd wedi galluogi defnyddwyr i gael mwy o annibyniaeth drwy’u galluogi i dyfu bwyd ffres, iach, ar gyfer eu cartref.


e l h t i Gwe

Pa ddulliau tyfu cymunedol fydd yn gweithio fan hyn?

Mae plotiau tyfu mewn gweithleoedd wedi cael eu sefydlu mewn sawl lleoliad yn y DU.

> > > >

Mae’r gofodau hyn yn cynnig cyfleoedd tyfu ar gyfer ‘cymuned’ y gweithlu ond fel arfer nid ydynt ar gael ar gyfer y gymuned ehangach.

Tyfu mewn potiau Gwelyau wedi’u codi Rhandiroedd staff Perllannau staff

Am ragor o wybodaeth ar y dulliau gwahanol hyn, edrychwch ar y gorolwg o wahanol ddulliau tyfu cymunedol

Gwneud i rywbeth ddigwydd Gellid ‘gwerthu’ y syniad o brosiectau tyfu yn y gweithle i gyflogwyr ar sail manteision i’w staff: cyfle i gael seibiant o amgylchedd gwaith prysur, lleihau pwysau gwaith a chynyddu lles meddyliol, manteision iechyd corfforol a chydweithio fel tîm. Byddai rhywbeth mor syml â chael lle cinio ac egwyl yn yr ardd hefyd yn helpu i ddarparu’r manteision hyn. Does dim rhaid i weithleoedd gael gofodau awyr agored mawr. Gellid defnyddio gofodau mewn swyddfeydd, megis silffoedd ffenestri, ffenestri mawr neu ardaloedd gwydr mewn derbynfeydd, ble mae digon o oleuni naturiol.

Byddai creu partneriaeth gyda grw ˆp cymunedol lleol neu drigolion lleol sydd eisiau gofod i dyfu drostynt eu hunain yn gallu helpu gyda chynnal a chadw.

Pethau i’w hystyried Gwnewch yn siw ˆ r fod y gofod tyfu’n cael ei gynnal yn dda a bod rhywun yn gofalu amdano. A oes digon o staff yn ymddiddori mewn gofalu am y gofod ac am ei dacluso? Efallai y byddai rhai cyflogwyr yn gofidio y byddai’n mynd yn flêr ac yn hyll i edrych arno. Bydd angen i’r gofod tyfu fod yn hygyrch ac nid yn rhy fawr o ran maint fel bod y gwaith o’i drin a gofalu amdano’n gallu cael ei rannu’n dasgau bychain fyddai’n gallu cael eu cyflawni yn ystod awr ginio ac ar ôl gwaith. Mae hyn hyd yn oed yn fwy pwysig os nad yw’r gofod ar gael i staff ar ôl oriau gwaith neu ar y penwythnos. Meddyliwch am wyliau staff a throsiant staff. Beth sy’n digwydd i’r gofod tyfu os oes llawer o’r bobl sy’n gofalu amdano ar wyliau, neu os yw trosiant staff yn digwydd yn gyson?

Pwy all helpu? Tîm Bwyd a Thyfu Cymunedol Ffederasiwn Ffermydd Dinesig a Gerddi Cymunedol CLAS Cymru


u r a d a i l Lleol ar gyfe eraiyl fu bwyd t Balconiau a therasau > > > >

Tyfu mewn potiau Tyfu drosoch eich hun Tyfu fertigol Borderi neithdar

Mae tyfu ar falconïau a therasau yn gyffredinol yn ymwneud mwy â chreu cymuned o dyfwyr bwyd sy’n defnyddio’r gofodau preifat (fel arfer) hyn. Drwy dyfu mewn potiau gellir tyfu gwahanol gnydau i siwtio i anghenion yr unigolyn yn ogystal â’r amodau ymarferol.

Ymylon ffyrdd a llwybrau o dan ffyrdd > > >

Tyfu mewn potiau Plannu hadau DIY Tirweddau bwytadwy

Dyma ofodau cyffredin nad ydyn nhw’n cael eu hystyried fel arfer yn lleoliadau addas i dyfu bwyd. Mae yna heriau ynghlwm wrth dyfu bwyd wrth ochr ffyrdd, Gall ymylon ffyrdd ddioddef pridd gwenwynig oherwydd gor-halennu yn y gaeaf, ond mae’n bosib defnyddio cnydau nad ydyn nhw’n amsugno’r llygredd. Byddai defnyddio potiau ychydig o bellter yn ôl oddi wrth y ffordd yn ddull arall o ddelio â’r broblem. Mae diogelwch llwybrau o dan ffyrdd, o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol ac unigrwydd, yn ogystal â diogelwch ar ffyrdd oherwydd trafnidiaeth, yn ffactorau allweddol i’w hystyried.

Gellid defnyddio plannu hadau DIY i gyflwyno’r cysyniad o ddefnyddio ymylon ffyrdd ar gyfer tyfu.

Toeon > > >

Cadw gwenyn a borderi neithdar Tyfu mewn potiau

Toeon gwyrdd bwytadwy Pan fydd gofod ar lawr yn anodd cael gafael ynddo, bydd gerddi ar ben toeon yn bosibilrwydd cynyddol ar gyfer tyfu bwyd. Maen nhw’n uchel felly dyw llygredd gan geir ddim yn gymaint o broblem, ac os cedwir gwenyn yno, maen nhw’n llai tebygol o effeithio’n uniongyrchol ar bobl. Rhai archwilio unrhyw do gyntaf i weld ei fod yn addas ar gyfer tyfu bwyd. Efallai y bydd angen gwaith i sicrhau fod y to’n gallu cynnal pwysau ychwanegol y pridd, unrhyw adeiladwaith, a phobl. Rhaid archwilio a glynu wrth ofynion iechyd a diogelwch er mwyn e.e. sicrhau fod llwybrau mynediad ac adnoddau a strwythurau’r safle megis ffensys ar hyd ymylon toeon yn cwrdd â’r gyfraith. Mae hi’n bosib defnyddio potiau ar lecynnau gwastad i dyfu llysiau a pherlysiau. Dewis arall yw adeiladu ‘to gwyrdd bwytadwy’ ble bydd y to ei hun yn troi’n ardd. Os yw to gwastad yn gallu cynnal y pwysau, gallai hwnnw fod yn llecyn delfrydol ar gyfer gardd gymunedol. Mae toeon gwyrdd, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio ar gyfer tyfu llysiau, yn well ar gyfer bywyd gwyllt trefol na dulliau gosod toeon traddodiadol. Gellid plannu planhigion sy’n blodeuo ac yn denu gwenyn a thrychfilod. http://livingroofs.org


Mynwentydd

Esiamplau go iawn

> > >

Mae Eglwys San Teilo, Caereithin yn gwasanaethu cymunedau Blaeny-maes, Portmead, Penlan a Ravenhill. Mae’r grwpiau cymunedol sy’n rhan o’r eglwys eisiau defnyddio’r tir er mwyn creu gwelyau wedi’u codi a fydd yn eu galluogi i dyfu cynnyrch y gellir ei ddefnyddio mewn nifer o brosiectau coginio. Bydd y prosiect o fudd i bobl leol drwy eu galluogi i ychwanegu at eu cyllideb fwyd drwy dyfu’u cynnyrch eu hunain, eu hannog i ddysgu sgiliau newydd o ran garddio a choginio, ac o ganlyniad wella’u deiet a’u hiechyd.

Borderi bwytadwy Coed ffrwythau a pherllannau Gwelyau wedi’u codi

Mae’n bosib y byddai lle mewn mynwentydd y gellid eu defnyddio ar gyfer tyfu ffrwythau, llysiau a pherlysiau. Efallai na fyddai’n addas tyfu’n uniongyrchol i bridd mynwent, os yw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer claddu, neu wedi’i ddefnyddio yn y gorffennol. Gallai gwelyau wedi’u codi gynnig dewis arall. Fe allai cornel o fynwent fod yn lle delfrydol ar gyfer perllan. Pe gosodid seddi a llwybrau hefyd, gallai ddatblygu’n ofod sy’n cynnig llonydd a lle i feddwl i ymwelwyr.

Pwy all helpu? Tîm Bwyd a Thyfu Cymunedol Ffederasiwn Ffermydd Dinesig a Gerddi Cymunedol CLAS Cymru

Datblygodd Eglwys y Bedyddwyr Mount Zion ym Mon-y-maen ofod tyfu y tu ôl i’r eglwys a gardd fwytadwy yn y blaen ble gall pobl sy’n pasio heibio bigo ystod o berlysiau sydd ar gael. Maen nhw’n cymryd agwedd hollgynhwysol tuag at fwyd, gan alluogi a chynyddu sgiliau pobl leol i ddysgu sut i dyfu drostyn nhw’u hunain. Mae Mount Zion hefyd yn darparu cyfleoedd i bobl goginio’r cynnyrch a dyfwyd.


l l a Pwylpu? he Tiˆ m Bwyd a Thyfu Cymunedol Mae Tîm Bwyd a Thyfu Cymunedol Cyngor Abertawe’n gyfrifol am:

> >

Gefnogi datblygu a chreu gofodau tyfu newydd

>

Rheoli darpariaeth Cyngor Abertawe o

Gweinyddu cynllun grantiau bychain ‘Tyfu’n Lleol’ Cyngor Abertawe randiroedd

Tîm Bwyd a Thyfu Cymunedol – Cyngor Dinas a Sir Abertawe, Ystafell 3.3.4, Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth SA1 3SN. Ebost: foodandgrowing@swansea.gov.uk Ffôn: 01792 635730 Gwefan: www.swansea.gov.uk/foodandgrowing

Tiˆ m Polisi Cynllunio’r Cyngor Mae Tîm Polisi Cynllunio’r Cyngor wedi cynhyrchu Nodyn Cyflwyniadol i Dyfu Trefol: Tir Bwytadwy yn Abertawe. Mae’r ddogfen hon yn darparu cyngor polisi ar gyfer datblygwyr ac eraill sy’n dymuno datblygu gofodau tyfu yn Abertawe. Gwefan: www.swansea.gov.uk/index.cfm?articleid=10213

Ffederasiwn Ffermydd Dinesig a Gerddi Cymunedol (FCFCG) yn darparu Tyfu Pobl drwy dîm o weithwyr datblygu rhanbarthol sy’n cefnogi ac yn cynghori prosiectau tyfu cymunedol newydd a sefydledig, gan alluogi rhannu a throsglwyddo gwybodaeth arfer dda, doethineb a sgiliau. Ebost: wales@farmgarden.org.uk Ffôn: 02920 225942 Gwefan: https://www.farmgarden.org.uk/farmsgardens/your-region/wales

Gwasanaeth Ymgynghorol Tir Cymunedol Mae’r Gwasanaeth Ymgynghorol Tir Cymunedol yng Nghymru (CLAS Cymru) yn wasanaeth a reolir gan Ffederasiwn Ffermydd Dinesig a Gerddi Cymunedol, gan helpu grwpiau cymunedol, tirfeddianwyr gyda’r bwriad o ddarparu rhagor o dir ar gyfer gofodau tyfu cymunedol. Mae’r cymorth a gynigir yn cynnwys:

> > >

Cymorth wrth adnabod ffynonellau tir posib

>

Dod o hyd i lwybr drwy’r system gynllunio

Trafod ei ddefnydd ar sail dros dro neu dymor hir Cyngor a chefnogaeth ar faterion cyfreithiol, cytundebau tir, prynu tir ac ati

Mae gan y Gwasanaeth Ymgynghorol Tir Cymunedol nifer o ddogfennau defnyddiol ar ei wefan ar bynciau sy’n amrywio o ddod o hyd i dir i gael caniatâd cynllunio. Ebost: wales@communitylandadvice.org.uk Ffôn: 02921 960966 Gwefan: http://wl.communitylandadvice.org.uk

Rhwydwaith Tyfu Cymunedol Abertawe Mae gan Abertawe Rwydwaith Tyfu Cymunedol sy’n hybu ac yn cefnogi tyfu cymunedol yn Abertawe. Amcan y rhwydwaith, sy’n cynnwys prosiectau tyfu sefydledig a newydd, yw:

>

Galluogi prosiectau tyfu cymunedol i

> > >

Rhannu sgiliau rhwng unigolion a phrosiectau

>

Darparu cyfleoedd i brosiectau ddod ynghyd

gydweithio Hybu tyfu cymunedol yn Abertawe Cefnogi prosiectau tyfu cymunedol wrth iddynt gychwyn mewn digwyddiadau a chyfarfodydd

Am ragor o wybodaeth am Rwydwaith Tyfu Cymunedol Abertawe, ewch i Gwefan: www.swansea.gov.uk/foodandgrowing


Nodiadau


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.