Cyfeiriannu ym Mharc Coedbach AMCAN. Yr amcan wrth gyfeiriannu yw mynd o gwmpas cwrs sy'n cynnwys cyfres o reolfannau, trwy ddefnyddio map i benderfynu ar lwybr rhyngddynt, ac yna dilyn y map ar hyd y llwybr a dod o hyd i'r rheolfannau. Y MAP. Map cyfeiriannu safonol yw hwn; mae'r symbolau a'r lliwiau'n cael eu hesbonio yn yr allwedd. Y raddfa yw 1:2,500, sy'n golygu bod 1cm ar y map yn cynrychioli 25m ar y ddaear, fel y dangosir gan linell y raddfa. RHEOLFANNAU A MARCWYR. Dangosir lleoliadau'r rheolfannau ar y map gan gylchoedd wedi'u rhifo'n goch, a cheir disgrifiad o bob un isod. Nodir y rheolfannau ar y ddaear gan bostyn ac ar ei ben mae plac â symbol cyfeiriannu coch a gwyn. Mae rhif yno, sy'n cyfateb i'r un rheolfan ar y map, a llythyren rydych chi'n ei gofnodi yn y blwch priodol ar y cerdyn rheolfan i gadarnhau eich ymweliad. PELLTEROEDD. Gellir cyfrifo'r pellter o un pwynt i'r llall trwy ddefnyddio llinell y raddfa ar y map. Wrth fesur ar y ddaear, mae metr yn gymesur yn fras â brasgam dyn. CYFEIRIADAU. I ba gyfeiriad bynnag y byddwch yn mynd neu'n ei wynebu, cadwch y map yn yr un cyfeiriad â'r ddaear, h.y. wedi'i gyfeiriadu. Wrth fynd yn eich blaen, bydd y nodweddion ar un ochr o'r map ar yr un ochr ar y ddaear. Y CWMPAWD. Os oes gennych gwmpawd, gallwch ei ddefnyddio i gyfeiriadu'r map. Mae'r nodwydd yn pwyntio i'r gogledd magnetig. Defnyddiwch hwn i gadw saethau'r gogledd ar y map yn pwyntio i'r gogledd hefyd. Bydd cwmpawd hefyd yn ddefnyddiol i ddod o hyd i gyfeiriadau cywir ar draws ardaloedd heb lwybrau, ac i benderfynu i ba gyfeiriad i fynd ar gyffyrdd llwybrau, etc. Sut i ddefnyddio cwmpawd onglydd ar gyfer cyfeiriadau: 1. Gosodwch ymyl y cwmpawd onglydd ar hyd y cyfeiriad rydych chi'n bwriadu ei ddilyn ar y map. 2. Trowch y capsiwl fel bod y llinellau cyfochrog ynddo yn unol â llinellau'r gogledd ar y map. 3. Codwch y cwmpawd o'r map a'i ddal o'ch blaen, gan bwyntio ymlaen. TROWCH EICH HUN gyda'r cwmpawd nes bod y nodwydd yn unol â'r llinellau yn y capsiwl. 4. Ewch yn eich blaen i'r cyfeiriad y mae blaen y cwmpawd yn cyfeirio ato. DISGRIFIADAU O'R RHEOLFANNAU: Dechrau 1. 2. 3. 4.
Cyffordd llwybr Cyffordd llwybr Diwedd llwybr Diwedd llwybr Perth, pen gorllewinol
5. 6. 7. 8. 9.
Troad mewn clawdd pridd Cornel ffens Troad mewn clawdd pridd Cyffordd llwybr Cyffordd llwybr/ffos
10. 11. 12. 13. 14.
Cyffordd llwybr Cyffordd llwybr Cyffordd llwybr/ffos Cornel ffens Diwedd ffens
CYFLEOEDD CYFEIRIANNU ERAILL. Os hoffech wneud mwy o gyfeiriannu, gallwch ymweld â chyrsiau parhaol eraill, a gellir lawrlwytho mapiau o wefan y cyngor www.abertawe.gov.uk/orienteering Mae'r clwb lleol, CLWB CYFEIRIANNU BAE ABERTAWE, yn trefnu digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn, ac mae rhestr o'r digwyddiadau ar gael ar wefan y clwb yn www.sboc.org.uk CYDNABYDDIAETH. Sefydlwyd y cwrs cyfeiriannu parhaol hwn gyda chymorth grantiau a sianelwyd trwy Ddinas a Sir Abertawe gan Gyngor Chwaraeon Cymru. Lluniwyd y map a chynlluniwyd y cyrsiau gan Glwb Cyfeiriannu Bae Abertawe.
1.
2.
3.
4.
5.
6.
7.
8.
9.
10.
11.
12.
13.
14.