Pecyn Cynadledda - Canolfan Dylan Thomas

Page 1

Pecyn Cynadledda 01792 463980 â—? www.abertawe.gov.uk/dtc Canolfan Dylan Thomas, Somerset Place, Abertawe, SA1 1RR


www.abertawe.gov.uk/dtc

Cynnwys Cefndir…………………………………………………….. ……... Tudalen 3 Cysylltu â ni…………………………………………..…….......... Tudalen 3 Yr ystafelloedd a’u maint...........…………................................ Tudalen 4 Llogi ystafell a chyfarpar……………………............................. Tudalen 5 Opsiynau’r bwffe – bwffe oer 1……………….......................... Tudalen 6 Opsiynau’r bwffe – bwffe oer 2……………….......................... Tudalen 7 Opsiynau’r bwffe – bwffe oer 3……………….......................... Tudalen 8 Opsiynau’r bwffe – bwffe oer 4……………….......................... Tudalen 9 Opsiynau’r bwffe – bwffe oer 1b……………............................ Tudalen 10 Opsiynau’r bwffe – bwffe twym bwydlen 1…........................... Tudalen 11 Opsiynau’r bwffe – bwffe twym bwydlen 2…........................... Tudalen 11 Opsiynau’r bwffe – bwffe twym bwydlen 3…........................... Tudalen 12 Opsiynau’r bwffe – bwffe twym bwydlen 4…........................... Tudalen 13 Lleoliad…………………………………………........................... Tudalen 14

2


www.abertawe.gov.uk/dtc

Cefndir......... A hithau gynt yn Neuadd y Ddinas, Abertawe, adnewyddwyd Canolfan Dylan Thomas yn sylweddol fel rhan o Flwyddyn Llenyddiaeth 1995. Agorwyd y ganolfan yn swyddogol ar 1 Mawrth 1995 gan gyn-arlywydd UDA, Jimmy Carter. Ers iddi agor, mae Canolfan Dylan Thomas wedi derbyn sawl ymwelydd, gan gynnwys Catherine Zeta Jones a Michael Douglas. Roedd twf cyflym y dref a chreu Bwrdeistref Sirol ym 1889 a Deddf Awdurdod Addysg 1902 wedi cynyddu cyfrifoldebau llywodraeth leol Abertawe’n sylweddol. Ym 1902, adnewyddwyd llawr cyntaf hen Neuadd y Ddinas yn sylweddol ac, yn fuan ar ôl hynny, prynwyd sawl tŷ mewn strydoedd cyferbyn fel swyddfeydd ychwanegol. Ym 1914, ychwanegwyd estyniad arall i’r ochr ogledd-ddwyreiniol, ar safle’r hen orsaf dân Fictoraidd. Erbyn 1929, roedd yn glir bod angen adeilad newydd ar Neuadd y Ddinas ac, ym mis Hydref 1934, cwblhawyd Neuadd y Ddinas bresennol. Roedd gan yr hen Neuadd y Ddinas sawl rôl newydd addysg a hyfforddi ieuenctid yn bennaf. Yn hwyr yn y 1930au, roedd yn Ganolfan Cyflogi Ieuenctid; yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd y fyddin wedi caffael yr adeilad. O 1949 tan 1969, roedd y Ganolfan Hyfforddi Ieuenctid un rhan o’r adeilad gyda rhan helaeth yr adeilad yn Ysgol Dechnegol Uwchradd Abertawe o 1949 tan 1960. O 1960-70 roedd yr adeilad yn gartref i’r Coleg Addysg Bellach ac o 1970 tan 1982, roedd yn estyniad i Ysgol Dinefwr. Heddiw, gyda chymorth siop lyfrau fasnachol arbenigol a bwyty a chyfleusterau gwledda arobryn, mae’r adeilad wedi bod yn gartref i amrywiaeth o ddigwyddiadau o 1995 tan heddiw. Mae’r digwyddiadau’n cynnwys perfformiadau a darllen llenyddiaeth, cyfweld ag awduron, trafodaethau, darlithoedd, dramâu bach, fideo, dangos ffilmiau, arddangosfeydd, seminarau, seremonïau gwobrwyo, lansio llyfrau a gweithdai. Yn ogystal â hyn, mae’r arddangosfa barhaol, Dylan Thomas: Man and Myth, wedi bod yn boblogaidd iawn ac mae’n parhau i ddenu pobl o bedwar ban byd. Gydag enw da sy’n lledu ym mhob maes, a Gŵyl flynyddol Dylan Thomas, Mae Canolfan Dylan Thomas yn cadw ei haddewid sef bod yn adeilad ar gyfer trigolion Abertawe a thu hwnt.

Cysylltu â ni Canolfan Dylan Thomas Somerset Place, Abertawe SA1 1RR Ffôn: 01792 463980 Ffacs: 01792 463993 e-bost: dylanthomas.centre@swansea.gov.uk

3


www.abertawe.gov.uk/dtc

Yr ystafelloedd a’u maint Ystafell

Cynllun

Lle

Cabare

120

Arddull Theatr

180

Seddi Gosod

111 (+ 3 Cadair Olwyn)

Gosod Byrddau

120

Bwffe

180

Ystafell Gyfarfod

14

Arddull Theatr

24

Ystafell Gyfarfod

20

Arddull Theatr

30

Ystafell Gyfarfod

10

Ystafell Gynadledda 1

Theatr y Stiwdio

Bwyty

Ystafell Gyfarfod 1

Ystafell Carter

Llyfrgell

Arddull Theatr 18

4


www.abertawe.gov.uk/dtc

Llogi ystafelloedd a chyfarpar Cost Llogi Ystafell Ardal i’w llogi

Hyd

Pris

Ystafell Gynadledda 1

8 awr

£326

Theatr y Stiwdio

£326 Gyda’r hwyr

yn ogystal â chostau staff £100 neu £25 yr awr

Dydd Llun-dydd Gwener,

yn ogystal â chostau

9am tan 5pm

staff

Ystafell Carter

4 awr

£132

Ystafell Gyfarfod 1

4 awr

£90

Llyfrgell

4 awr

£50

Eitem

Manylion

Pris

Te a Choffi

Y person, am bob un

£1.20

Te, Coffi a Bisgedi

Y person, am bob un

£1.60

Lluniaeth

Llogi Cyfarpar Cyfarpar

Pris†‡

Uwch-daflunydd a sgrîn

£26.50

Siart troi ac ysgrifbinnau

£13

Monitor teledu a fideo

£50

Taflunydd sleidiau

£50

Taflunydd PowerPoint

£100

System cyfarch y cyhoedd (meicroffon a seinyddion)

£95

Llinell ffôn BT

£47.50

Llinell ISDN

£125

† Mis Ebrill 2009 tan fis Mawrth 2010 ‡ Ychwanegir TAW at gostau llogi’r holl gyfarpar

5


www.abertawe.gov.uk/dtc

Opsiynau’r Bwffe Bwffe Oer 1 Dewis o frechdanau Gweinir gyda llenwadau cig, pysgod a llysieuol ar fara gwyn neu frown *** Coesau cyw iâr wedi’u marinadu *** Rholiau selsig / rholiau caws *** Tatws trionglog sbeislyd Gweinir gyda hufen sur *** Quiche twym Dewis o gig neu lysieuol *** Salad gardd gyda dresin Caesar *** Crudities a dip *** Ffrwythau ffres *** £11 y person

6


www.abertawe.gov.uk/dtc

Opsiynau’r Bwffe Bwffe Oer 2 Dewis o frechdanau Gweinir gyda llenwadau cig, pysgod a llysieuol ar fara gwyn neu frown *** Parsel crwst mango a brie *** Parseli llysieuol Thai ffyn Asia ar sgiwer bambŵ â llenwad o lysiau mewn saws cyri melyn poeth siarp *** Tatws trionglog sbeislyd Gweinir gyda hufen sur *** Quiche twym Dewis o gig a llysieuol *** Coesau cyw iâr wedi’u marinadu *** Salad gardd Gyda dresin Caesar *** Ffrwythau ffres *** £13 y person

7


www.abertawe.gov.uk/dtc

Opsiynau’r Bwffe Bwydlen Bwffe Oer 3 Lleiafswm o 30 person yn y dydd / 75 person gyda’r hwyr Ham gamwn wedi’i rostio mewn mêl Gyda mwstard grawn garw *** Cig eidion wedi’i rostio Gyda saws rhuddygl poeth *** Coesau cyw iâr wedi’u marinadu *** Salad gardd Gyda dresin Caesar *** Coleslaw llysiau *** Tatws twym â menyn *** Rhôl fara a menyn *** Torte tryffl siocled *** £15 y person

8


www.abertawe.gov.uk/dtc

Opsiynau’r Bwffe Bwydlen Bwffe Oer 4 Isafswm o 50 person yn ystod y dydd / 75 person gyda’r hwyr Dewis o eog a bwyd môr Escalope o eog gyda chocos, cregyn gleision, corgimychiaid mawr a chorgimychiaid yn eu cregyn *** Ham gamwn wedi’i rostio mewn mêl Gyda mwstard grawn garw *** Cig eidion wedi’i rostio Gyda saws rhuddygl poeth *** Coesau cyw iâr wedi’u marinadu *** Darn o quiche twym Dewis o gig a llysieuol *** Salad gardd Gyda dresin Caesar *** Coleslaw llysiau *** Tatws twym â menyn *** Rhôl fara a menyn *** Teisen gaws fanila wedi’i phobi Gyda saws ffrwythau £19 y person

9


www.abertawe.gov.uk/dtc

Opsiynau’r Bwffe Bwydlen Bwffe Oer 1B Isafswm o 100 person Gyda’r hwyr yn unig Dewis o frechdanau Gweinir gyda llenwadau cig, pysgod a llysieuol ar fara gwyn neu frown *** Coesau cyw iâr wedi’u marinadu *** Rholiau selsig / rholiau caws *** Tatws trionglog Gweinir gyda saws sur *** Darn o quiche twym Dewis o gig neu lysieuol *** Parsel crwst mango a brie *** Parseli llysieuol Thai ffon Asia ar sgiwer bambŵ â llenwad o lysiau mewn saws cyri melyn poeth siarp £13.50 y person

10


www.abertawe.gov.uk/dtc

Opsiynau’r Bwffe Bwydlen Bwffe Twym 1 Lleiafswm o 10 person Yn ystod y dydd yn unig Pastai stecen a madarch Cig eidion, winwns a madarch mewn grefi â chrwst pwff *** Ragout llysiau a ffa Cymysgedd o lysiau a ffa mewn saws tomato a basil *** Tatws wedi’u ffrio *** Pys o’r ardd *** Teisen gaws fanila wedi’i phobi Gyda saws ffrwythau *** £11 y person

Bwydlen Bwffe Twym 2 Lleiafswm o 10 person Pastai cyw iâr Cyw iâr, madarch a winwns mewn saws gwyn gyda chrwst pwff *** Chilli llysiau a ffa *** Tatws wedi’u ffrio *** Reis wedi’i ferwi *** Pys o’r ardd *** Teisen gaws fanila wedi’i phobi Gyda saws ffrwythau £12 y person

11


www.abertawe.gov.uk/dtc

Opsiynau’r Bwffe Bwydlen Bwffe Twym 3 Isafswm o 30 person Yn ystod y dydd yn unig Pastai datws stwnsh Cig eidion wedi’i falu a llysiau mewn grefi gyda thatws stwnsh *** Cyri Thai llysiau *** Ffiled o bysgodyn mewn briwsion bara Gyda saws tartare a lemwn *** Tatws newydd â menyn *** Reis wedi’i ferwi *** Pennau brocoli *** Teisen gyffug siocled Gyda hufen y gellir ei arllwys £14.50 y person

12


www.abertawe.gov.uk/dtc

Opsiynau’r Bwffe Bwydlen Bwffe Twym 4 Isafswm o 75 person am ddigwyddiad gyda’r hwyr Cig eidion brwysiedig mewn saws pupur *** Ragout pysgod Cymysgedd o bysgod a physgod cregyn gyda saws gwin gwyn, gwewyrllys a hufen *** Cyw iâr brwysiedig Cyw iâr, winwns, pupurau, garlleg, tomatos a gwin coch *** Chilli llysiau a ffa *** Tatws wedi’u berwi *** Reis wedi’i ferwi *** Pennau brocoli *** Rhôl fara a menyn *** Teisen gaws lemwn a resins bach gyda saws ffrwythau £17.95 y person

13


www.abertawe.gov.uk/dtc

Lleoliad

I gyrraedd Canolfan Dylan Thomas o’r dwyrain Gadewch yr M4 ar gyffordd 42. Ewch ar yr A483 (Abertawe); dilynwch y ffordd hon am tua 4 milltir nes i chi fynd dros Bont Afon Tawe. Trowch i’r chwith wrth y goleuadau traffig AR ÔL Sainsbury’s ar y chwith. Mae Canolfan Dylan Thomas ugain llath ar hyd y ffordd hon ar eich chwith, gyda maes parcio talu ac arddangos ar ddiwedd y ffordd hon.

I gyrraedd Canolfan Dylan Thomas o’r gorllewin Gadewch yr M4 ar gyffordd 47. Ewch ar yr A483 Abertawe a pharhewch ar y ffordd hon nes i chi gyrraedd Abertawe. Byddwch yn mynd heibio Gorsaf Drenau Stryd Fawr Abertawe a Chastell Abertawe ar eich chwith. Ewch yn syth ymlaen ar ôl castell Abertawe lle byddwch yn cyrraedd Stryd y Gwynt. Ewch yn syth ymlaen wrth y goleuadau ar waelod Stryd y Gwynt i Somerset Place. Mae Canolfan Dylan Thomas tua 20 llath ar eich chwith gyda maes parcio talu ac arddangos ar y diwedd.

14


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.